
1 minute read
PAM Dewis Grŵp
Mae Grŵp Colegau NPTC yn llongyfarch ein holl fyfyrwyr a dderbyniodd eu canlyniadau eleni. Dosbarth 2022 oedd y cyntaf i sefyll arholiadau ers y pandemig ac er gwaethaf yr heriau a wynebwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, maent wedi dangos gwydnwch trawiadol i gyflawni cyfradd basio gyffredinol o bron i 99 y cant. Roedd graddau A* - B yn fwy na rhai 2019 pan fu i fyfyrwyr sefyll arholiadau ddiwethaf, gyda bron i 60 y cant o fyfyrwyr yn cyflawni'r graddau hynny. Cyflawnodd bron i draean o fyfyrwyr (32.2 y cant) raddau A*- A, a 83 y cant graddau A* - C. Mae newyddion da hefyd i'r myfyrwyr a ddilynodd y rhaglen Galluog a Thalentog (GATE), gydag 84 y cant yn cyflawni graddau A* - A a 100 y cant A* - B graddau.
Cyrhaeddodd myfyrwyr sy'n sefyll eu Tystysgrifau Diploma Cenedlaethol Estynedig y penawdau hefyd, gyda 63 o fyfyrwyr yn ennill graddau rhagoriaeth driphlyg, a 25 o fyfyrwyr yn cyflawni'r proffil graddau uchaf sy'n bosib o sêr rhagoriaeth driphlyg (D*D*D*) sy'n cyfateb i dri A* ar Safon Uwch.
At hynny, llwyddodd ddim llai na 292 o ddysgwyr i gyflawni'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch gyda chyfradd lwyddo eithriadol o 99.6 y cant gyda 65 y cant yn cyflawni gradd rhwng A* ac C.
Mae llawer o fyfyrwyr wedi bachu lleoedd yn y prifysgolion gorau, gan gynnwys Prifysgol Rhydychen, neu ennill y cymwysterau i lanio eu swyddi delfrydol. Mae'n bwysig nodi na fu eleni fel unrhyw flwyddyn arall. Mae'r staff wedi ymgymryd â maint enfawr o waith i groesawu myfyrwyr yn ôl i'r ystafell ddosbarth a'u paratoi ar gyfer arholiadau o dan amgylchiadau anodd iawn. Dywedodd Catherine Lewis, Prif Weithredwr Dros Dro a Phennaeth Dros Dro Grŵp Colegau
NPTC: "Mae'r canlyniadau hyn yn rhagorol. Mae rhagori ar y graddau A* - B yn 2019 (cyn-COVID) yn gyflawniad eithriadol. Rwy'n falch iawn o'n myfyrwyr a'n staff addysgu a chefnogi am y gwaith caled iawn sydd wedi bod yn sail i'r holl gannoedd o lwyddiannau sydd y tu ôl i'r ffigurau.”
Mae Hermione Chammings, myfyrwraig Lefel A ysgubol o Gwmgwrach, yn gyn-ddisgybl Llangatwg ac yn mynd i Brifysgol Rhydychen i astudio Hanes, ar ôl cyflawni'r graddau A* rhagorol mewn Astudiaethau Crefyddol, A* mewn Hanes, A* mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth ac A yn y Cymhwyster

Prosiect Estynedig.
“Mae'n braf iawn gwybod o'r diwedd sut wnes i ar ôl aros yn hir drwy'r haf, ac mae'n brafiach fyth gweld fy ngwaith caled yn talu ar ei ganfed. Ar ôl peidio sefyll arholiadau am gyhyd, heb wybod os oedd fy ngwaith adolygu'n llwyddiannus ai beidio, mae'n gymaint o ryddhad gwybod yr oedd ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd i Rydychen.