1 minute read

Byddwch Ysbrydoledig a Byddwch eich Dyfodol

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

Rydyn ni'n gwybod y gall dewis eich camau nesaf fod yn heriol ond byddwn ni gyda chi o'r dydd cyntaf, bob dydd a phob cam ar hyd y ffordd - felly rydyn ni eisiau i chi feddwl yn fawr!

Gall Grŵp Colegau NPTC addo profiad dysgu ardderchog i chi o fewn Coleg deinamig a chefnogol, gyda chyfleusterau ac adnoddau rhagorol o safon diwydiant. Ein nod yw eich ysbrydoli drwy arddangos y nifer fawr o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael a rhoi'r sgiliau, y galluoedd a'r canlyniadau sydd eu hangen arnoch er mwyn llwyddo yn y gyrfaoedd hynny, camu ymlaen i Addysg Uwch neu'r gweithle yn ogystal ag mewn bywyd.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn rhagori'n gyson mewn canlyniadau Safon Uwch a Galwedigaethol, gyda llawer o'n myfyrwyr yn mynd i Brifysgolion Brics Coch gan gynnwys Rhydgrawnt, neu'n camu'n uniongyrchol i'w gyrfa ddelfrydol. Mae hynny oherwydd, er yr awyrgylch aeddfed a chyfeillgar, bod ein corff o fyfyrwyr dawnus yn cael eu gwthio i gynnal lefelau uchel o gyflawniad academaidd yn gyson, ond rydym hefyd yn rhoi llawer o ffocws ar sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i gael cyflogaeth yn syth o'r Coleg neu i lwyddo mewn bywyd.

Y rheswm pam mae ein myfyrwyr yn parhau i lwyddo yw oherwydd cefnogaeth ac arweiniad ein staff darlithio arbenigol a'r gofal bugeiliol rhagorol y maent yn ei ddarparu. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod myfyrwyr sy'n hapus yn uchel eu cymhelliad, a'u bod yn cyflawni ac yn ffynnu. Fel Coleg rydym yn ymfalchïo yn y gwaith o adeiladu amgylchedd cefnogol a fydd yn gwella gwydnwch, annibyniaeth a hyder yn gadarnhaol, gyda staff addysgu a chefnogi yn barod i danio a meithrin eu huchelgeisiau. Felly waeth p'un a ydych yn dewis cwrs galwedigaethol sy'n canolbwyntio ar yrfa neu brentisiaeth, chi yw'ch dyfodol yng Ngrŵp Colegau NPTC.

N o s w e i thiau Ag o red

P Gweld y Coleg P Cwrdd â’r staff P Trafod eich anghenion

M Coleg Afan

16 Ionawr 2023

20 Mawrth 2023

21 Mehefin 2023

M Coleg Bannau Brycheiniog

16 Ionawr 2023

20 Mawrth 2023

21 Mehefin 2023

M Academi Chwaraeon Llandarcy

7 Chwefror 2023 (Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus)

M Canolfan Ragoriaeth Adeiladwaith

Maesteg

8 Chwefror 2023 (Adeiladwaith)

M Coleg Castell-nedd

17 Ionawr 2023

21 Mawrth 2023

22 Mehefin 2023

M Coleg Pontardawe

9 Chwefror 2023 (Cerbydau Modur)

M Canolfan Adeiladwaith

Abertawe

8 Chwefror 2023 (Adeiladwaith)

M Addysg Uwch

23 Mai 2023

This article is from: