Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 21/22 - Coleg Y Drenewydd, Coleg Bannau Brycheiniog

Page 8

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

7

Y Drenewydd: Fferm unigryw sy'n eiddo i'r Coleg.

Y Drenewydd: Cyfleusterau peirianneg o safon y diwydiant.

Y Drenewydd: Theatr a Mannau Cynadledda o'r Radd Flaenaf

Bannau Brycheiniog: Cyfarpar Chwaraeon.

Y CWTCH

Y CWTCH – Hyb y Coleg o Fewn y Gymuned Mae ychwanegiad diweddaraf Coleg Bannau Brycheiniog, Hyb Y Coleg o fewn y Gymuned – 'Y CWTCH' – wedi agor ei ddrysau yn swyddogol. Bydd y ganolfan groeso gynt yn creu gweledigaeth ar gyfer addysg bellach yn Aberhonddu a bydd yn rhan o'r gymuned gyda mynediad agored i bawb. Dadorchuddiwyd plac gan yr Aelod o'r Senedd dros Frycheiniog a Maesyfed a'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i nodi'r achlysur. Dywedodd Ms Williams: "Mae'r adeilad hwn wedi cael diben newydd a bydd yn ehangu gweithgarwch y coleg drwy fod mor hygyrch a chanolog.

Bydd yn ganolbwynt ac yn dod â phobl ynghyd. Rwy'n gweld yr adeilad hwn a'r hyn sy'n digwydd yn ysbrydoledig.” Mae'r CWTCH wedi cael ei adnewyddu ac mae'n cynnwys ardaloedd gweithio hyblyg, cyfleusterau cynadledda fideo, sgriniau cyffwrdd rhyngweithiol a mynediad i ryngrwyd hynod gyflym 1GB, ynghyd â chyfleusterau cyfrifiadura o'r radd flaenaf at ddefnydd myfyrwyr a'r cyhoedd. Yn ogystal â darparu cyrsiau ar gyfer myfyrwyr y Coleg, bydd croeso i'r gymuned ddefnyddio'r cyfleusterau TG yn ogystal ag ymuno â rhai o'r cyrsiau rhan-amser newydd a fydd yn cael eu cynnig o'r adeilad y mae'n ei lesio gan yr awdurdod lleol. Hefyd ar gael fydd cyngor ar chwilio am swyddi, sefydlu eich busnes eich hun, technegau cyfweld ac ysgrifennu CV.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 21/22 - Coleg Y Drenewydd, Coleg Bannau Brycheiniog by NPTC Group of Colleges - Issuu