Skip to main content

Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 21/22 - Coleg Y Drenewydd, Coleg Bannau Brycheiniog

Page 1

CYRSIAU AMSER LLAWN 2021/22

Eich Coleg Eich Dewis Chwilio NPTC Group


Cynnwys Coleg Bannau Brycheiniog

Y CWTCH

Coleg Y Drenewydd

Fferm Fronlas

Popeth yn dda gan Estyn...................................3 Pam dewis Grŵp Colegau NPTC?.....................4 Cyfleusterau Arobryn..........................................6 Addysgu Arobryn.................................................7 Coleg Arobryn......................................................8 Eich Cais............................................................ 10 Career Coach.................................................... 11 Prentisiaethau.................................................. 12 Partneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd........................................................ 14 Amaethyddiaeth a Ffermio............................. 15 Celf, Dylunio a'r Cyfryngau Creadigol............ 17 Peirianneg Cerbydau Modur........................... 19 Therapïau Cymhwysol yn cynnwys Therapi Harddwch............................................ 21 Busnes a Rheolaeth........................................ 23 Cyfrifiadura, Dylunio'r We a Gemau.............. 25 Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig....... 28 Peirianneg......................................................... 30 Astudiaethau Sylfaen...................................... 32 Garddio a Garddwriaeth.................................. 34 Trin Gwallt......................................................... 35 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.... 37

Penlan, Aberhonddu, LD3 9SR Ffôn: 01686 614400

Y CWTCH

(Yr hen Ganolfan Groeso) Maes Parcio'r Farchnad Gwartheg Heol Gouesnou, LD3 7BA Ffôn: 01686 614300

Coleg Y Drenewydd

Ffordd Llanidloes, Y Drenewydd, SY16 4HU Ffôn: 01686 614200

Fferm Fronlas

Lôn Mochdre, Y Drenewydd, SY16 4JA Ffôn: 01686 614200

Campws Llandrindod

Ffordd y Ffynnon, Llandrindod, LD1 5ES Ffôn: 01686 614300

Celfyddydau Perfformio................................... 39 Plymio a Gosodwaith Trydanol....................... 40

Argraffwyd y cyhoeddiad hwn gan ddefnyddio inciau sy'n seiliedig ar olew mwynol llysiau ecogyfeillgar ar bapur wedi'i ardystio gan FSC o ffynonellau cynaliadwy.

Coginio Proffesiynol, Celfyddydau Coginio, Lletygarwch a Bwyty........................................ 42 Gwasanaethau Cyhoeddus............................. 44 Chwaraeon........................................................ 46 Bywyd yn y Coleg............................................ 49 Undeb y Myfyrwyr............................................. 49 O Ddifri am Chwaraeon................................... 50 Centerprise........................................................ 52 Cymraeg yn y Coleg......................................... 52 Ennill Gradd ar Garreg eich Drws.................. 53

1

Coleg Bannau Brycheiniog

Mae’r prosbectws hwn yn rhoi manylion am bob rhaglen academaidd a galwedigaethol amser llawn yn ein Campysau'r Gogledd. Am fanylion am unrhyw gyrsiau eraill sydd ar gael yng Ngrŵp Colegau NPTC, ewch i’n gwefan:

www.nptcgroup.ac.uk Roedd yr wybodaeth a geir yn y ddogfen hon yn gywir ar adeg ei chynhyrchu. Mae Grŵp Colegau NPTC yn cadw'r hawl i newid neu ganslo cyrsiau yng ngoleuni amgylchiadau penodol. Rydym yn gwarantu y bydd pob myfyriwr yn cael cyfle cyfartal a mynediad i raglenni sy'n briodol i'w hanghenion.


Croeso i'n Coleg Arobryn

Rydym yn gwybod mai dewis yr hyn yr ydych am ei astudio ar ôl gadael yr ysgol yw un o’r penderfyniadau pwysicaf y byddwch byth yn ei wneud, ac mae’r dewis rhwng aros ymlaen yn y chweched dosbarth, mynd i’r gweithle neu fynd i’r coleg yn anodd. Yng Ngrŵp Colegau NPTC gallwn addo profiad dysgu ardderchog i chi o fewn coleg deinamig a chefnogol, gyda chyfleusterau ac adnoddau rhagorol o safon diwydiant. Rydym yn dda iawn yn yr hyn a wnawn, ac mae hynny’n swyddogol yn ôl Estyn. Amlygodd ein hadroddiad diweddaraf ymgysylltiad rhagorol y coleg â chyflogwyr sy’n llunio ein darpariaeth i ddiwallu anghenion lleol. Mae ein dysgwyr yn datblygu ymddygiadau sy’n cefnogi eu dyheadau gyrfa ac rydym yn eu paratoi ar gyfer dilyniant i ddysgu ar lefel uwch ac ar gyfer cyflogaeth. Mae ein myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi, ac yn bwysicaf oll mae Estyn yn credu bod ein hathrawon yn gymwys ac yn brofiadol, gyda phrofiad diwydiannol, masnachol a busnes defnyddiol. Ansawdd yr addysgu a’r ymroddiad hwn i ddarparu cyfleusterau rhagorol sydd wedi cael eu cydnabod yn barhaus dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn 2019, cawsom ein henwi fel y Darparwr Hyfforddiant Gorau yng Nghymru gan y Gwobrau Ymadawyr Ysgol. Daeth y Coleg hefyd yn yr ail safle yn y DU gyfan ar gyfer ansawdd yr addysgu, yn bedwerydd am y profiad dysgu, yn bumed wrth ddarparu cymorth personol ac yn 10fed ar gyfer asesiadau ac adborth. Yn 2020, fe wnaeth y Coleg yn arbennig o dda yn y gwobrau unwaith eto, gan gael ei enwi fel y Darparwr Hyfforddiant Gorau yng Nghymru, un o’r deg Darparwr Hyfforddiant Gorau yn y DU a chyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori; y Darparwr Prentisiaethau Gorau yn y DU; y Coleg Addysg Bellach Gorau ar gyfer Hyfforddiant Prentisiaethau yn y DU a’r Profiad Dysgu Gorau. Mae'r Gwobrau Ymadawyr Ysgol yn dathlu'r cyflogwyr a'r darparwyr hyfforddiant gorau i ymadawyr ysgol ar raglenni prentisiaeth. Dyma'r rhestr fwyaf o gyflogwyr sy'n cynnig y prentisiaethau gorau a'r cyfleoedd gorau i ymadawyr ysgol yn y DU, ac, yn allweddol, mae'n helpu pobl ifanc a'r rhai sy'n dylanwadu arnynt i wneud penderfyniadau allweddol am eu gyrfa. Rydym eisiau eich paratoi ar gyfer eich camau nesaf i gyflogaeth neu i'r Brifysgol. Byddwn yn eich annog i gael dyheadau uchel ac yn eich cefnogi i fod yn unigolion amryddawn. Felly p'un a ydych yn dewis cwrs galwedigaethol sy'n canolbwyntio ar yrfa neu brentisiaeth, sicrhewch mai Grŵp Colegau NPTC yw

Eich Coleg, Eich Dewis

Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC

Nosweithiau Agored b

Gweld y Coleg

b

Cwrdd â'r staff

b

Trafod eich anghenion

b Coleg Bannau Brycheiniog

13 Hydref 2020 24 Tachwedd 2020 13 Ionawr 2021 22 Mawrth 2021 23 Mehefin 2021

b Coleg Y Drenewydd

13 Hydref 2020 25 Tachwedd 2020 14 Ionawr 2021 13 Mehefin 2021 (Dydd Sul Fferm Agored) 23 Mawrth 2021 24 Mehefin 2021

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mark Dacey

2


Popeth Yn Dda gan Estyn Mae Grŵp Colegau NPTC yn cyflawni ei waith yn dda iawn, ac mae hyn yn swyddogol yn ôl Estyn, Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Dyma’r arolygiad cyntaf ers yr uno, ac yn ôl Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth, ‘roedd cyflawni’r radd yn deyrnged wirioneddol i waith caled, ymroddiad a thalent staff a myfyrwyr.’ Nododd yr adroddiad fod ‘tîm arweinyddiaeth y coleg yn sefydledig a chydlynol’ a bod ‘cyfeiriad clir ac uchelgeisiol i waith y coleg.’ Dywedodd yr adroddiad fod arweinwyr yn gweithio’n fedrus i nodi a manteisio ar gyfleoedd i integreiddio gwaith y coleg â gweithgareddau cymunedol a chefnogi cyfleusterau lleol.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Beth ddywedodd yr arolygwyr…

3 3

Ymgysylltiad rhagorol â chyflogwyr ar draws ei hardal ddaearyddol sy’n helpu i ffurfio darpariaeth y coleg i ddiwallu’r angen lleol.

Mae dysgwyr yn datblygu ymddygiadau sy’n cefnogi eu dyheadau gyrfa ac yn teimlo bod y coleg yn eu paratoi’n dda ar gyfer dilyniant i ddysgu ar lefel uwch ac ar gyfer cyflogaeth.

Mae fforymau cyflogwyr y coleg a dargedwyd yn dod â rhanddeiliaid perthnasol at ei gilydd i fynd i’r afael ag anghenion datblygu economaidd a chymdeithasol.

Mae athrawon yn meddu ar gymwysterau a phrofiad da, gyda phrofiad defnyddiol ym maes diwydiant, masnach a busnes y maent yn ei gymhwyso’n dda i’w rolau.

Mae mwy na 7,250 o fyfyrwyr yn teimlo’n ddiogel yn y coleg ac yn gwybod ble i droi am ystod eang o gymorth.

Mae ganddynt ddisgwyliadau uchel o’u dysgwyr ac maent yn eu herio i ddatblygu gwybodaeth, cynhyrchu gwaith ymarferol a chwblhau tasgau theori i safon uchel.

Gwrandewir ar anghenion a phryderon.

Mae myfyrwyr yn teimlo bod eu rhaglen ddysgu yn eu helpu i wella eu medrau bywyd, eu rhagolygon cyflogaeth.

Mae dysgwyr yn cynhyrchu gwaith o safon gref yn eu gwersi a’u sesiynau ymarferol. Maent yn meithrin eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ac yn datblygu eu medrau academaidd, galwedigaethol ac ymarferol yn dda.

Mae dysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi gwerth chweil i wella eu hiechyd a’u lles cyffredinol. Mae myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol sy’n ‘cyfrannu’n werthfawr at weithgareddau â ffocws cymunedol’, fel codi arian ar gyfer elusennau iechyd meddwl a helpu ysgolion lleol gyda phrosiectau amrywiol.

Ar raglenni galwedigaethol, mae dysgwyr yn datblygu ac yn cymhwyso cymwyseddau ymarferol a galwedigaethol defnyddiol ac yn datblygu medrau galwedigaethol ar lefel uwch ac yn gwella eu hyder personol trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau.


UDENTS

ST

A

TE

UDENTS

ST

A

LO M

A ESTYNE

THOL

DLAE NE

TE

CA

CE

AT

L

O LAETH

NED

CE

DIP

DIG

Rhagoriaeth

Driphlyg

IP FYRWYR D LO

71

MA

ESTYNE

DI

G

Astudiodd Courtney Ashworth y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) sy'n cyfateb i 3 A* ar Safon Uwch. Mae Courtney wrth ei bodd gyda'i chanlyniadau ac mae'n mynd i astudio Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr. Astudiodd Conor Drain hefyd y Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yng Ngholeg Bannau Brycheiniog ac roedd yn falch o ennill Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*). Astudiodd Prys Eckley (Coleg Bannau Brycheiniog) Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yng Ngholeg Bannau Brycheiniog a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*). Mae Prys yn mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Addysg Chwaraeon ac Iechyd.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Astudiodd Elis Tudor y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) a B ym Magloriaeth Cymru. Mae Elis wedi derbyn ysgoloriaeth o ganlyniad i'w graddau ac mae'n mynd i Brifysgol Aberystwyth i wneud Addysg Gynradd gan arwain at SAC.

71 32

MY

Cyflawnodd Layla Jones (Coleg Y Drenewydd) Ragoriaeth arbennig yn y Diploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio. Yn ystod ei hamser ar y cwrs roedd Layla yn fyfyriwr ymroddedig a llawn ffocws a aeth o nerth i nerth. Roedd ganddi angerdd dros theatr gerddorol ac roedd yn berfformiwr bygythiad triphlyg cryf. Roedd Layla ar fin ymgymryd â'r brif rôl yn ein cynhyrchiad theatr gerddorol fawr cyn y cyfnod o gyfyngiadau symud, ac er bod gorfod canslo'r cynhyrchiad yn siom fawr, parhaodd Layla i weithio'n galed a dangos yr un lefel o ymrwymiad tuag at y dysgu ar-lein ag a wnaeth yn y coleg. Roedd gwaith Layla bob amser o safon uchel, a rhoddodd yr un sylw i'w gwaith ysgrifenedig ag y gwnaeth i'w gwaith ymarferol. Y tu allan i'r Coleg roedd Layla hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o grwpiau lleol. Bu'n gweithio gyda'r grŵp theatr plant yn Yr Hafren, Rising Stars, ac yn creu coreograffi ar eu cyfer. Mae'n helpu gyda grwpiau eraill fel hyfforddwr llais ac mae hefyd yn perfformio'n lleol. Mae Layla yn gobeithio ennill lle mewn ysgol ddrama er mwyn dilyn gyrfa mewn theatr gerddorol.

R

Y

"Rwy'n hynod falch o'r canlyniadau rydyn ni wedi'u cyflawni, yn enwedig yn yr hyn sydd wedi bod yn un gyfnod heriol mewn mwy nag un ffordd. Mae staff wedi addasu eu harferion addysgu er mwyn ymgysylltu â myfyrwyr mewn ffordd gwbl newydd. Mae'r canlyniadau hyn yn dyst i ymroddiad staff a myfyrwyr mewn amgylchiadau digynsail. ”

NGE CERTIFI

L D

RW

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC:

M

Rhagoriaeth lyg T I Onog Driph OM SerAen NA IPL

MYFY

CH

Hefyd, cyflawnodd nifer eithriadol o uchel o ddysgwyr, sef 427, y Dystysgrif Her Sgiliau L ASL G A MA DI LGEISafon Uwch IHC a BTEC Uwch gyda chyfradd lwyddo Oarbennig E S T Y NoE 99.3%. Fe wnaeth myfyrwyr NL GI AE UC EURW T ICF addasu i ddysgu ar-lein, gan ganolbwyntio ar eu hastudiaethau i ennill canlyniadau sy'n wirioneddol ryfeddol. Mae llawer o ddosbarth 2020 wedi sicrhau lleoedd yn y prifysgolion gorau neu wedi cael y cymwysterau i ennill eu swyddi delfrydol.

LGEI

N

IP FYRWYR D

99.3 99%%

LO

NAL DIP

TL I rA UipUleW C H Distinctions ASL

D

MY

71

S

Driphlyg

TIO

L

OL

TE

LAETH

NYCS EGDR ISFKHI LE VSAT

h LR DY agoriaetrhagoriaeth Rhraddau At hynny, enillodd 71 o fyfyrwyr driphlyg yn y cymwysterau dd Diploma CyfraR e at o dd s wy as P Luchaf posibl sef Cenedlaethol Estynedig, gyda 32 o fyfyrwyr yn cyflawni'r proffil graddau rhagoriaeth serennog driphlyg (D* D* D*) sy'n cyfateb i dair A* ar Safon Uwch.

yfradd

99.3 99%% EXTENDE

Llongyfarchodd Grŵp Colegau NPTC yr holl fyfyrwyr a dderbynioddLeu G heddiw O M canlyniadau DI E A N E Y S T ar ôl blwyddyn na allai unrhyw un fod wedi'i rhagweld. Yn wyneb pandemig byd-eang, cyflawnodd y Coleg gyfradd lwyddo gyffredinol anhygoel o 100 y cant ac enillodd y nifer uchaf o ganlyniadau A* yn hanes y Coleg.

32

C Rateo s wydd PasL

NA

CH

71

NED

NGE CERTIFI

CE

UDENTS

ST

A

LE

CA

D

AL

DE

N

AL DIPL

IP M YH C FYRWYR D

D

ION

OM

S

EXTENDE

AT

EGDR ATNYCS ISFKHI LEL R DYVS

EXTEN

99.3 99 %% Pam dewis Rhagoriaeth 71 Driphlyg Grŵp Colegau NPTC?

Triple Distinction Stars

O LAETH

Pass Rate

NED

ED SK ILL

CE

ANC

AT

A

DV

S

Triple Distinctions

4


Teleri Ottaway

Owen Brunt

Astudiodd Teleri Ottaway y Diploma Lefel 3 BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) a B ym Magloriaeth Cymru. Dywedodd Teleri:

"Rwy'n falch iawn o'm canlyniadau, a hoffwn ddiolch i staff Coleg y Drenewydd am eu holl help a'u harweiniad. Mae'r cwrs wedi dysgu cymaint i mi, ac rwy'n teimlo ei fod wedi agor drysau i mi ac wedi caniatáu i mi sylweddoli i ble rwyf am fynd yn y dyfodol. Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn fawr i unrhyw un sy'n ystyried ei ddilyn gan ei fod yn creu cynifer o gyfleoedd ac rwyf i'n bersonol wedi dysgu cymaint ohono. Fy mhennod nesaf yw dechrau gradd mewn Addysgu Ysgol Gynradd ym Mhrifysgol Caer."

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cwblhaodd Ethan Smith y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Busnes gyda CBC. Cyflawnodd Ethan Ragoriaeth Ddwbl, Teilyngdod a gradd A ym Magloriaeth Cymru. Mae Ethan wedi ffynnu wrth astudio gartref ac wedi penderfynu cwblhau BA Anrhydedd mewn Rheoli Busnes (Cyfrifeg) yn y Brifysgol Agored, tra'n cwblhau AAT Lefel 2&3. Drwy gydol y pandemig mae Ethan wedi bod yn gweithio tuag at gael tystysgrif gan y CFA (Awdurdod Ariannol Siartredig) drwy gwrs ar-lein y mae'n dweud sydd wedi datblygu ei ddealltwriaeth o'r sector ariannol ymhellach, yn ogystal â pharhau i weithio'n rhan-amser mewn cwmni cyfrifeg i gael profiad.

5

Derbyniodd Steph Andrews Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) mewn Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 BTEC. Mae'n mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio gradd yn y Gyfraith a Throseddeg.

Billy Morgan Derbyniodd Sion Jones Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) yn y BTEC Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'n gobeithio dechrau Gradd Prentisiaeth yr Heddlu ym mis Ionawr neu'n ystyried ymuno â Phrifysgol Caerdydd i astudio Troseddeg fis Medi nesaf. Astudiodd Ellie Bray hefyd y Diploma Lefel 3 BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) a B ym Magloriaeth Cymru. Dywedodd Ellie, "Rwy'n falch iawn o'm graddau! Dwi

nawr yn mynd i brifysgol Swydd Stafford, ond ar gampws yr Amwythig, i astudio Nyrsio Plant! Ni fyddwn wedi gallu ei wneud heb y tiwtoriaid anhygoel!!" Astudiodd Owen Brunt hefyd y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*). Dywedodd Owen, "Gweithiais yn galed iawn am y graddau

a enillais ac rwy'n falch o gael lle yn Met Caerdydd i wneud Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon."

Astudiodd Will Bengall Wasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 BTEC. Cyflawnodd radd Rhagoriaeth, Rhagoriaeth Teilyngdod a bydd yn symud ymlaen i Brifysgol Glyndŵr i astudio Plismona Proffesiynol yn gysylltiedig â Heddlu Gogledd Cymru. Astudiodd Billy Morgan hefyd Wasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 BTEC a chyflawnodd radd Llwyddiant Triphlyg. Ymunodd Billy â Byddin Prydain ym mis Mehefin 2020.

DYSGWYR COLEG IFANC Y FLWYDDYN DAN 26 CYMRU LANTRA

Llongyfarchiadau i Elin Orrells, Coleg Y Drenewydd, a gafodd ei henwi'n Ddysgwr Coleg Ifanc Y Flwyddyn Dan 26 Cymru Lantra mewn seremoni ddisglair yng Ngwesty'r Metropole. Yn ogystal â hyn, derbyniodd Elin fwrsariaeth alwedigaethol adrannol yr Ysgol Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth. Mynychodd Elin y seremoni wobrwyo fawreddog gydag aelodau o'i theulu a'i staff dysgu o adran amaeth y coleg. Dywedodd Elin: "Rwy'n falch iawn o

fod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon ac mae'n ddiolch i'r holl gymorth rydw i wedi ei dderbyn gan y tiwtoriaid wrth astudio ar gyfer fy Niploma L3 Estynedig mewn Amaethyddiaeth. Mae'r darlithwyr yn y Coleg wedi fy ysbrydoli i achub ar bob cyfle sydd ar gael ac wedi fy annog i gymryd rhan mewn cryn nifer o gystadlaethau cenedlaethol.”


Cyfleusterau Arobryn

Y Drenewydd: Cyfleusterau arlwyo o'r radd flaenaf

Y Drenewydd a Bannau Brycheiniog: Labordai gwyddoniaeth o ansawdd uchel

Y Drenewydd: Stiwdios celfyddydau perfformio eithriadol a rhagor

Y Drenewydd: Bwyty hyfforddi o safon uchel – Themâu

Bannau Brycheiniog a’r Drenewydd: Academi Trin Gwallt Lee Stafford gyffrous

Y Drenewydd a Bannau Brycheiniog: Adran adeiladwaith arobryn

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Y Drenewydd: Estyniad cerbydau modur newydd sbon

Y Drenewydd: Offer peirianneg o'r radd flaenaf

6


Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

7

Y Drenewydd: Fferm unigryw sy'n eiddo i'r Coleg.

Y Drenewydd: Cyfleusterau peirianneg o safon y diwydiant.

Y Drenewydd: Theatr a Mannau Cynadledda o'r Radd Flaenaf

Bannau Brycheiniog: Cyfarpar Chwaraeon.

Y CWTCH

Y CWTCH – Hyb y Coleg o Fewn y Gymuned Mae ychwanegiad diweddaraf Coleg Bannau Brycheiniog, Hyb Y Coleg o fewn y Gymuned – 'Y CWTCH' – wedi agor ei ddrysau yn swyddogol. Bydd y ganolfan groeso gynt yn creu gweledigaeth ar gyfer addysg bellach yn Aberhonddu a bydd yn rhan o'r gymuned gyda mynediad agored i bawb. Dadorchuddiwyd plac gan yr Aelod o'r Senedd dros Frycheiniog a Maesyfed a'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i nodi'r achlysur. Dywedodd Ms Williams: "Mae'r adeilad hwn wedi cael diben newydd a bydd yn ehangu gweithgarwch y coleg drwy fod mor hygyrch a chanolog.

Bydd yn ganolbwynt ac yn dod â phobl ynghyd. Rwy'n gweld yr adeilad hwn a'r hyn sy'n digwydd yn ysbrydoledig.” Mae'r CWTCH wedi cael ei adnewyddu ac mae'n cynnwys ardaloedd gweithio hyblyg, cyfleusterau cynadledda fideo, sgriniau cyffwrdd rhyngweithiol a mynediad i ryngrwyd hynod gyflym 1GB, ynghyd â chyfleusterau cyfrifiadura o'r radd flaenaf at ddefnydd myfyrwyr a'r cyhoedd. Yn ogystal â darparu cyrsiau ar gyfer myfyrwyr y Coleg, bydd croeso i'r gymuned ddefnyddio'r cyfleusterau TG yn ogystal ag ymuno â rhai o'r cyrsiau rhan-amser newydd a fydd yn cael eu cynnig o'r adeilad y mae'n ei lesio gan yr awdurdod lleol. Hefyd ar gael fydd cyngor ar chwilio am swyddi, sefydlu eich busnes eich hun, technegau cyfweld ac ysgrifennu CV.


Addysgu Arobryn Yma yng Ngrŵp Colegau NPTC, cewch eich dysgu gan arbenigwyr sydd â chyfoeth o wybodaeth sy'n benodol i'r diwydiant ynghyd â chysylltiadau cadarn â'r cyflogwyr gorau, gan roi'r ansawdd addysgu a dysgu uchaf i chi. Mewn gwirionedd, mae ein haddysgu mor dda fel ein bod wedi cael ein henwi fel y Coleg gorau yng Nghymru ar gyfer addysgu ac yn ail yn y DU gyfan*. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn rhoi'r cymorth unigol sydd ei hangen ar bob myfyriwr i lwyddo, boed hynny'n symud ymlaen i'r prifysgolion gorau, prentisiaethau neu i'ch gyrfa ddelfrydol gyda'r cyflogwyr gorau. Ar ba lefel bynnag y byddwch yn ymuno â ni, byddwn gyda chi bob cam o'r ffordd i gefnogi eich taith addysgol, ac yn addo, pryd bynnag y byddwch yn penderfynu ein gadael, byddwch yn gadael gyda'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen i ffynnu.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

O fewn pob maes pwnc ceir rhaglen asesu a chymorth rheolaidd. Byddwch yn ymwneud â chynllunio eich dysgu unigol a gosod targedau ar gyfer gwella sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd gyda'ch tiwtoriaid. Rydym yn darparu cymorth tiwtorial yn ogystal â gwersi wedi'u hamserlennu i gynorthwyo'r gwaith o baratoi ar gyfer arholiadau, ceisiadau UCAS a chymorth bugeiliol. Mae gan ein llyfrgell adnoddau da ac mae'n darparu mynediad i'r gwasanaethau a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich astudiaethau. Yn ogystal â chasgliadau helaeth o lyfrau, papurau newydd, cylchgronau a DVDs, mae ein canolfannau hefyd yn cynnig mynediad i wybodaeth ar-lein, cyngor ar ddulliau ymchwil a gallant helpu gyda chyfeirnodi.

8


Coleg Arobryn yn cyrraedd y Deg Darparwr Hyfforddiant Gorau yn y DU Mae’n swyddogol, pleidleisiwyd dros Grŵp Colegau NPTC unwaith eto fel y Darparwr Hyfforddiant Gorau yng Nghymru ac yn y deg uchaf yn y DU gyfan yn y Gwobrau Ymadawyr Ysgol 2020 yn ddiweddar. Roedd y gwobrau ychydig yn wahanol eleni o ganlyniad i’r pandemig cyfredol - cawsant eu cynnal yn rhithwir a’u cyflwyno gan y canwr, cyflwynydd teledu, adroddwr a model Rylan Clark-Neal a’u cynnal gan Paul Harris a Jack Denton, cyd-sylfaenwyr All About School Leavers. Mae’r Gwobrau Ymadawyr Ysgol yn unigryw, yn yr ystyr bod mwyafrif yr enillwyr wedi’u henwebu oherwydd adborth a roddwyd yn uniongyrchol gan brentisiaid sydd wedi’u hymrestru ar eu rhaglenni, yn hytrach na dibynnu ar banel beirniaid annibynnol.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae’r gwobrau’n dathlu’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant gorau i ymadawyr ysgol ar raglenni prentisiaeth. Dyma’r rhestr fwyaf o gyflogwyr sy’n cynnig y prentisiaethau gorau a’r cyfleoedd gorau i ymadawyr ysgol yn y DU, ac, yn allweddol, mae’n helpu pobl ifanc a’r rhai sy’n dylanwadu arnynt i wneud penderfyniadau allweddol am eu gyrfa.

9

Cafodd Grŵp Colegau NPTC hefyd ei roi yn yr ail safle o ran Coleg Addysg Bellach Gorau ar gyfer Hyfforddiant Prentisiaethau yn y DU a’r degfed yn y DU am y Profiad Dysgu Gorau. Roedd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC wrth ei fodd i glywed y newyddion bod y Coleg wedi cyrraedd y brig yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol. “Mae cael eich enwi fel y prif ddarparwr hyfforddiant yng Nghymru ac yn un o’r goreuon yn y DU am yr ail flwyddyn yn olynol yn drawiadol iawn, ond pan fydd yn rhywbeth y mae ein myfyrwyr wedi pleidleisio drosto’n annibynnol, mae hynny’n ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig. Ni chawsom unrhyw fewnbwn ac nid ydym wedi treulio amser yn gwneud cais am hyn, felly mae hyn yn newyddion da iawn i ni ac yn dyst i waith caled ac ymroddiad y staff yng Ngrwp Colegau NPTC.” Mae’r 150 Cyflogwr Gorau a’r 100 Darparwr Hyfforddiant Gorau yn seiliedig yn gyfan gwbl ar farn prentisiaid a hyfforddeion sy’n ymadawyr ysgol o 100 o sefydliadau yn y DU. Cwblhaodd prentisiaid arolygon yn dadansoddi popeth am eu cyflogwyr a’u rhaglenni hyfforddiant, o ddatblygu sgiliau a dilyniant gyrfa i hyfforddiant a diwylliant y cwmni.


Eich Cais

Gwneud Cais am gwrs 1

Gwneud cais ar-lein yn: www.nptcgroup.ac.uk

Eich Taith Eich Coleg Croeso i'r system ymgeisio arlein yma yng Ngrŵp Colegau NPTC. O drefnu dyddiadau ar gyfer cyfweliadau i ymchwilio i'r cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi a chwblhau'r ffurflen gais mae gennych y gallu i reoli pob cam o'ch taith. Gallwch hefyd fewngofnodi i'ch cyfrif unrhyw bryd i weld lle'r ydych yn y broses. Cwrs Iawn, Dewis Iawn! Gyda chynifer o ddewisiadau ar gael, deallwn y gall ddod at benderfyniad fod yn anodd. Rydym yma i'ch cefnogi drwy'r broses p'un a yw'n gyrsiau galwedigaethol neu brentisiaeth! Felly sut ydych yn dewis? Gallwch ddarllen ein prosbectws cyrsiau amser llawn i ymchwilio i’ch opsiynau, pori ein gwefan ar gyfer syniadau, dod i ddiwrnod agored, neu fanteisio ar ein ap gyrfa anhygoel o'r enw 'Career Coach'.

Os mai hwn yw'r tro cyntaf i chi wneud cais i’r Coleg, bydd angen i chi greu cyfrif Prospect felly gwnewch yn siŵr fod cyfeiriad e-bost gennych yn barod. Defnyddir eich enw defnyddiwr i ffurfio rhan gyntaf eich cyfeiriad bost (cyn y @). Rhaid i’r cyfrinair gynnwys o leiaf naw nod a chynnwys o leiaf un briflythyren, un llythyren fechan ac un rhif. Unwaith eich bod wedi llenwi’r ffurflen ac wedi clicio cofrestru, bydd ffenestr naid yn ymddangos gyda’ch enw defnyddiwr arni - ond byddwch hefyd yn derbyn cadarnhad trwy e-bost. Unwaith y byddwch wedi clicio ar gofrestru gallwch barhau â’ch cais. Mae gofyn i chi lenwi bob cam un ar ôl y llall. Os ar unrhyw adeg mae angen unrhyw help arnoch mae staff y Coleg bob amser wrth law i helpu dros y ffôn, trwy e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol! Ffôn: 01639 648000 E-bost: admissions@nptcgroup.ac.uk Gallwch stopio ar unrhyw bryd a bydd y cais yn cael ei gadw. I fewngofnodi unwaith eto ewch i hafan y Coleg. Lleolir y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen.

2

Trefnu eich cyfweliad

Rhaid i chi ddewis eich dyddiad i ddod i mewn i’r Coleg ar gyfer cyfweliad o’r opsiynau sydd ar gael. Mae cyfweliad yn gyfle i chi a’ch rhieni/gwarcheidwaid ddod i siarad â ni, dysgu am y Coleg a chael rhagor o wybodaeth am y pynciau neu’r cyrsiau yr ydych wedi dewis eu hastudio.

3

Cynnig amodol

Wedi i chi drafod ein gofynion mynediad yn eich cyfweliad, a dewis y cwrs yr ydych am ei astudio byddwn yn rhoi eich cynnig amodol ar Prospect, y gallwch ei dderbyn ar unwaith.

4

Dod o hyd i’ch cais

Os oes angen i chi ail-fewngofnodi i’ch cyfrif rywbryd - fe welwch y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen hafan. Bydd modd i chi weld pa gam yn y broses ymgeisio yr ydych wedi ei gyrraedd wrth edrych ar eich hafan!

Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Bydd Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru ar Safon Uwch yn galluogi myfyrwyr Lefel 3 i gyfnerthu a datblygu eu sgiliau hanfodol, eu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol a hyrwyddo a meithrin sgiliau ymchwil ar lefel uchel. Gan adeiladu ar gyflawniadau ar lefel 2, bydd y cymhwyster yn helpu i ddatblygu sgiliau, priodoleddau ac ymddygiadau mwy cymhleth. Bydd yn darparu profiadau a fydd yn eich arfogi ar gyfer y brifysgol, hyfforddiant pellach neu gyflogaeth.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

CADW MEWN CYSYLLTIAD Drosodd atoch chi nawr i gael y graddau sydd eu hangen arnoch – os byddwch ar unrhyw gam yn newid eich meddwl am y cwrs yr ydych wedi dewis ei astudio, neu os nad ydych yn cael y graddau angenrheidiol, peidiwch â chynhyrfu! Cofiwch ein bod yn wastad yma i'ch helpu. Peidiwch ag anghofio bod modd i chi newid eich dewis gwrs ar unrhyw gam yn y broses, hyd at ymrestru. Pob lwc yn eich arholiadau TGAU, welwn ni chi ym mis Medi!

Ewch i'r bar chwilio a theipio un o'r pynciau yr ydych am wneud cais amdano e.e. Gwaith brics, Dawns, Chwaraeon neu Drin Gwallt. Cliciwch ar y botwm 'Dod o Hyd i Gwrs a Gwneud Cais' gwyn ar yr ochr dde i ddechrau eich cais.

"Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru) yn anarferol fel cymhwyster y mae ei gynnwys yn cael ei arwain i raddau helaeth gan y myfyrwyr eu hunain. Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr yr hunangymhelliant, chwilfrydedd a'r meddwl annibynnol y mae'r dull hwn o ddysgu yn datblygu. Y nodweddion hyn, ynghyd â thair Safon Uwch ardderchog, yw'r hyn yr ydym yn chwilio amdano mewn prifysgolion cystadleuol fel Rhydychen." 10 Dr Matthew Williams, Cymrawd Mynediad a Datblygu Gyrfa yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.


Career Coach - cyngor gyrfaol wedi’i deilwra gan ddefnyddio gwybodaeth leol am y farchnad swyddi Pan fydd gan fyfyrwyr weledigaeth glir o’r dyfodol, maen nhw’n fwy tebygol o ragori yn eu hastudiaethau a mynd ymlaen i greu gyrfaoedd llwyddiannus. Mae Career Coach yn offeryn ar-lein am ddim sydd ar gael gan Grŵp Colegau NPTC a all helpu i lunio’r weledigaeth honno. Gan ddefnyddio data cynhwysfawr am y farchnad swyddi, gall Career Coach eich helpu i ddod o hyd i’ch swydd berffaith a’r cyrsiau a fydd yn eich helpu i gyrraedd yno!

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae asesiad ar-lein manwl Career Coach yn awgrymu gyrfaoedd sy’n seiliedig ar eich diddordebau a’ch sgiliau. Gyda gwybodaeth fanwl am y farchnad lafur, enillion disgwyliedig a nifer y swyddi yn yr ardal, mae Career Coach yn tynnu sylw at y cyrsiau gorau i’ch helpu i symud ymlaen i’r yrfa o’ch dewis.

11

Mae Career Coach hefyd yn cysylltu â menter Barod am Yrfa y Coleg sydd wedi’i chynllunio’n benodol er mwyn eich paratoi ar gyfer y byd gwaith. Mae Barod am Yrfa yn cynnig gweithdai ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau ac ymarfer, lleoliadau profiad gwaith a chymorth gyda phob agwedd ar y broses ymgeisio.

Sganiwch yma i ddechrau defnyddio Career Coach neu ewch i’n gwefan www.nptcgroup.ac.uk


MAE'N TALU I DDYSGU

Os nad yw astudio'n amser llawn yn mynd â'ch bryd, yna efallai mai dysgu seiliedig ar waith yw'r union beth i chi. Mae rhaglenni at ddant pawb! Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhoi'r cyfle i chi ennill profiad mewn swydd go iawn, yn ogystal â chyflawni cymwysterau swydd-benodol ac ennill arian ar yr un pryd. Mae'r cyfleoedd yn amrywio yn dibynnu ar y rhaglen. Dyma'r llwybrau: b Cyfrifeg b Amaethyddiaeth b Mecaneg Amaethyddol b Gofal b Gweinyddiaeth Busnes b Gofal Plant a b Adeiladwaith Gwaith Chwarae b Gwasanaethau Cwsmeriaid b Peirianneg b Lletygarwch ac Arlwyo b Cerbydau Modur b Manwerthu b Arwain Tîm b Atgyweirio Cyrff Cerbydau b Rheolaeth.

Hyfforddeiaethau

Mae hyfforddeiaeth yn rhaglen hyfforddi i fyfyrwyr 16 i 18 oed sy'n canolbwyntio ar ddarparu: b Sgiliau cyflogadwyedd b Cyfle i roi cynnig ar wahanol swyddi b Mynediad i brofiad gwaith o ansawdd uchel.

Ar ddiwedd yr hyfforddeiaeth bydd modd i chi: b Symud ymlaen i hyfforddeiaeth neu brentisiaeth lefel 1 b Camu ymlaen i gwrs academaidd b Cyflawni gwaith gwirfoddol b Dilyn dewis gyrfa amgen.

b Ennill cyflog wrth ddysgu - cael eich talu b Ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad ac wynebu

heriau newydd b Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol b Cyfleoedd rhagorol o ran dilyniant. Pa fathau o brentisiaethau sydd ar gael? b Mae tri math o brentisiaethau y gallwch wneud cais amdanynt, yn dibynnu ar sgiliau a chymwysterau cyfredol: b Prentisiaeth Sylfaen - Lefel 2 b Prentisiaeth - Lefel 3 b Prentisiaeth Uwch - Lefel 4+.

Prentisiaethau

Byddwch yn mynychu lleoliad gyda chyflogwr ac o bosibl yn mynd i'r Coleg am un diwrnod yr wythnos. Byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle a chewch eich helpu i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich portffolio. Mae prentisiaeth yn rhaglen seiliedig ar waith lle y gallwch ennill cyflog wrth ddysgu. Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod yn 16 oed neu’n hŷn a heb fod mewn addysg amser llawn, gallwch wneud cais am brentisiaeth.

Prentisiaethau Gradd

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Grŵp Colegau NPTC wedi cael cyllid yn ddiweddar o dan y Rhaglen Beilot Prentisiaethau Gradd newydd ar gyfer Cymru. Gan adlewyrchu anghenion sgiliau Cymru, gofynnwyd i brifysgolion a sefydliadau dyfarnu graddau eraill ddylunio cyfres newydd o raglenni digidol i alluogi sefydliadau yng Nghymru i wella sgiliau eu gweithwyr presennol neu recriwtio talent newydd mewn meysydd megis peirianneg meddalwedd, seiberddiogelwch a gwyddor data ar gyfer y fframwaith prentisiaethau gradd digidol newydd.

A oes gennych ddiddordeb? Cysylltwch â'r tîm: Coleg Y Drenewydd: 01686 614253 neu anfonwch e-bost:

pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Beth yw manteision ymgymryd â hyfforddeiaeth? b Lwfans hyfforddi wythnosol b Teithio â chymhorthdal b Meithrin profiad hanfodol gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol b Cyfle i wella sgiliau Saesneg a Mathemateg b Adeiladu hyder b Gwella eich rhagolygon hirdymor a'ch potensial i ennill cyflog.

Pam dod yn Brentis?

12


Academi Prentisiaethau Newydd i Lunio Dyfodol Gofal Iechyd ym Mhowys Rhoddodd Bwrdd Addysgu Iechyd Powys (BAIP) a Grŵp Colegau NPTC groeso cynnes i'w brentisiaid Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd cyntaf wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfaoedd newydd o fewn y GIG. Maent yn rhan o grŵp o weithwyr ifanc sydd newydd ymuno â'r Bwrdd Iechyd yn ystod ei cyfnod llwyddianus cychwynnol o recriwtio prentisiaid. Nod academi prentisiaeth y bwrdd iechyd, mewn partneriaeth â thîm Dysgu Seiliedig ar Waith Hyfforddiant Pathways y Colegau, yw recriwtio staff a rhoi iddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad ar gyfer dechrau eu taith i fod yn nyrs.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae'r ddau brentis yn gweithio ar draws Ysbyty Aberhonddu tra'n astudio ar gyfer cymhwyster lefel 2 a gydnabyddir yn genedlaethol mewn Gofal Iechyd Clinigol trwy’r rhaglen brentisiaeth Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd.

13

Roedd gan y prentisiaid Kristy Abbott a Shannon Brewer hyn i’w ddweud: “Rydym newydd gwblhau rhaglen gynefino ddwys am bythefnos ac wedi dysgu cynifer o sgiliau newydd y gallwn eu rhoi ar waith yn awr yn ystod ein hwythnos gyntaf ar y wardiau. Rydym mor falch o gael y cyfle hwn a byddem yn argymell i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes iechyd i ddilyn y trywydd hwn.” Meddai Katelyn Falvey, Pennaeth Addysg Glinigol i BAIP: “Rwyf mor gyffrous am ddatblygu prentisiaethau Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yn y Bwrdd Iechyd. Rydym yn gallu cynnig i bobl Powys gyfleoedd gyrfaol a all fynd â nhw ar daith datblygu gyrfa o'r prentis hyd at y nyrs gofrestredig. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein staff a dyma'r cam cyntaf ar yr ysgol yrfaol i 'Dyfu ein rhai ein hunain' ym Mhowys.” Bydd y prentisiaethau newydd yn helpu i wneud y gorau o weithlu a gynorthwyir a gall wella'r gofal i gleifion drwy ddangos ymrwymiad i lwybr gyrfa; darparu cyfleoedd a chydnabyddiaeth i'r holl staff (clinigol ac anghlinigol), gan gynnwys datblygu sgiliau trosglwyddadwy, gan arwain at fwy o hyblygrwydd i'r gweithlu. Cynhaliwyd cyfres o sioeau teithiol llwyddiannus ar draws pob ysbyty BAIP fis Hydref diwethaf, gan gyflwyno

staff presennol i nifer o raglenni dysgu seiliedig ar waith achrededig. Mae staff yn gallu manteisio ar ystod o gyfleoedd dysgu ar draws nifer o sectorau. Dywedodd un aelod o staff a oedd yn astudio ar gyfer cymhwyster Gweinyddu Busnes: “Rwyf wedi bod yn gyflogai i'r Bwrdd Iechyd ers 12 mlynedd ac maent wedi fy nghefnogi i ddatblygu fy ngyrfa. Rwy'n mwynhau dilyn cwrs Gweinyddu Busnes Lefel 3 drwy NPTC yn fawr. Mae'r aseswr wedi bod yn gymwynasgar ac yn anogol ac mae'n caniatáu i mi weithio ar gyflymder sy'n addas i mi. Mae'r cwrs bellach yn defnyddio porth lle mae pob uned yn cael ei chynnwys ac yn caniatáu i chi gyflwyno gwaith, mae hyn yn gwneud yr hyfforddiant yn fwy hygyrch ar adegau sy'n fwy cyfleus i mi.” Ychwanegodd Alec Thomas, rheolwr Hyfforddiant Pathways: “Fel Coleg blaengar, rydym yn deall yr angen i recriwtio prentisiaid sydd â'r sgil a'r agwedd i symud ymlaen yn y gyrfaoedd o'u dewis sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol ag angen llawer o fusnesau, yn enwedig Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, i greu gweithlu medrus ar gyfer y tymor hir.'' Ychwanegodd Anne-Marie Mason, Arweinydd Prentisiaethau BAIP: “Rydym yn gweithio gyda nifer o adrannau ar draws y Bwrdd Iechyd, ysgolion a cholegau lleol i hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael a byddwn yn gweithio'n agos gyda 'Thîm Hyfforddiant Pathways' y Coleg i ddatblygu fframweithiau cymwysterau priodol i recriwtio prentisiaid yn ogystal â chynnig cyfleoedd i staff presennol ddatblygu eu sgiliau.”


Croeso i Bartneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd

Partneriaeth Academi’r 6ed Dosbarth Y Drenewydd Newtown 6th Form Academy Partnership

Croeso i'r gorau o ddau fyd! Mae Partneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd yn bartneriaeth gyffrous, arloesol rhwng Coleg Y Drenewydd ac Ysgol Uwchradd y Drenewydd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn gallu cynnig y profiadau dysgu ac addysgu gorau posibl i fyfyrwyr ar draws amrywiaeth eang o gyrsiau; gan gynnig y rhyddid iddynt ddilyn y llwybr o'u dewis ac ymgymryd â'u harddull dysgu personol. Bydd ein partneriaeth yn cynnig cwricwlwm cyffrous, eang ac amrywiol y gellir ei deilwra i anghenion pob myfyriwr. Yn ogystal, bydd cyfle i gysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn y Coleg a'r staff ymroddedig a phrofiadol yn yr Ysgol a'r Coleg.

b b b b b b b b b

TGCh (BTEC) Cyfraith [E-sgol] Mathemateg Cerddoriaeth Ffotograffiaeth Ffiseg Seicoleg Addysg Gorfforol Cymdeithaseg [E-sgol]

I ymgeisio

Gwneir ceisiadau ar-lein yn: www.powyslearningpathways.wales

Rydym yn cynnig darpariaeth lawn ac amrywiol o bynciau UG, Safon Uwch a BTEC yn Academi'r 6ed Dosbarth ar draws Coleg y Drenewydd ac Ysgol Uwchradd y Drenewydd, ac rydym yn argymell y dylai pob disgybl astudio ystod o dri phwnc o leiaf, yn ogystal â Chymhwyster Bagloriaeth Cymru (WBQ). Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl astudio pum pwnc, ar yr amod bod Pennaeth Academi'r 6ed Dosbarth wedi cytuno ar hyn.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae pynciau yn cynnwys: b Celf a Dylunio b Bioleg b Busnes a'r Gyfraith b Cemeg b Drama a Theatr b Saesneg Iaith b Daearyddiaeth b Cyfathrebu Graffeg b Iechyd a Gofal Cymdeithasol b Hanes

Bydd ymuno â Phartneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd yn cynnig y cymysgedd perffaith o annibyniaeth a chefnogaeth wrth symud i'r Brifysgol, ymlaen i brentisiaeth neu ddechrau ym myd gwaith.

Am ragor o fanylion: Rhian Morgan: Rheolwr Partneriaeth Cyswllt Ysgol 14-19 Ffôn: 01639 648091 Ysgol Uwchradd y Drenewydd: 01686 626304 14


Amaethyddiaeth a Ffermio Mae amaethyddiaeth yn fwy na ffermio yn unig; mae'n un o fusnesau mwyaf y byd. Mae dros 200 o feysydd gyrfa amrywiol ar gael mewn amaethyddiaeth ac ar hyn o bryd, mae galw uchel iawn ar draws y diwydiant am bobl ifanc hyfforddedig, addysgedig a llawn cymhelliant. Mae tua 450,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol yn y DU y mae bron i 300,000 ohonynt mewn rolau rheoli neu bartneriaeth mewn menter ffermio. Yn ogystal â chynnig dewis gyrfa diddorol a boddhaus, mae astudio amaethyddiaeth hefyd yn agor y drysau i lawer o ddiwydiannau eraill, o ganlyniad i'r addysg, sgiliau, hyfforddiant a phrofiad eang y byddwch yn eu cael.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae Fferm Fronlas yng Ngholeg y Drenewydd yn gweithredu fferm defaid a chig eidion ucheldir 140 hectar sy'n caniatáu i fyfyrwyr gael profiad ymarferol cyfoes sy'n adlewyrchu diwydiant amaethyddiaeth y Canolbarth a'r mentrau bach a chanolig lle mae mwyafrif y myfyrwyr amaethyddol a pheirianneg amaethyddol yn dod o hyd i gyflogaeth.

15

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae ein cyrsiau yn rhai ymarferol dros ben, ac yn gyfle hefyd i chi ennill profiad gwaith gwerthfawr o fewn fferm. Yn y Coleg byddwch yn astudio meysydd fel cynhyrchu da byw, cynhyrchu cnydau, cynnal a chadw ystadau a gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau tractorau a pheiriannau. Mae gan ein darlithwyr wybodaeth helaeth am y diwydiant ac yn cadw ar y blaen o ran y datblygiadau diweddaraf mewn systemau cynhyrchu a thechnolegau TG, gan gynnwys technoleg dronau a GPS. Mae llawer o'n myfyrwyr yn symud ymlaen i Addysg Uwch, naill ai yn y Coleg ar y cwrs HND mewn Amaethyddiaeth neu mewn sefydliadau eraill i astudio gradd yn ymwneud ag amaethyddiaeth.

Rhagolygon gyrfa

Ar ôl cwblhau cwrs amaethyddiaeth, gall myfyrwyr ddewis o blith ystod eang o gyfleoedd ymarferol o fewn y sector amaethyddiaeth yn y DU yn cynnwys rheolwr fferm, rheolwr da byw, maethegydd, agronomegydd, cynghorydd ffermio, arolygydd fferm ac arwerthwr.

Mae'r fferm yn gartref i amrywiaeth o ystafelloedd dosbarth pwrpasol yn ogystal â gweithdai, llety i wartheg a defaid a chyfleusterau trin o'r radd flaenaf. Rydym yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer sgiliau ystâd a chyfleoedd cadwraeth ac arallgyfeirio hefyd. Mae gan y fferm tua 150 o wartheg cig eidion, yn cynnwys buches sugno a menter pesgi bustach, a 750 o ddefaid bridio yn magu tua 1200 o ŵyn. Mae Bwyty Themâu, Coleg Y Drenewydd yn derbyn cig eidion a chig oen gan y fferm. Mae'r fferm hefyd yn cyflenwi Morrisons a Sainsbury's gyda chig oen yn ystod y flwyddyn.

Chwilio NPTC Group

13

Mehefin

Dydd Sul Fferm Agored 2021


DYSGWYR COLEG IFANC Y FLWYDDYN DAN 26 CYMRU LANTRA Llongyfarchiadau i Elin Orrells, Coleg Y Drenewydd, a gafodd ei henwi'n Ddysgwr Coleg Ifanc Y Flwyddyn Dan 26 Cymru Lantra mewn seremoni ddisglair yng Ngwesty'r Metropole. Yn ogystal â hyn, derbyniodd Elin fwrsariaeth alwedigaethol adrannol yr Ysgol Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth. Mynychodd Elin y seremoni wobrwyo fawreddog gydag aelodau o'i theulu a'i staff dysgu o adran amaeth y coleg. Dywedodd Elin: "Rwy'n falch iawn o fod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon ac mae'n ddiolch i'r holl gymorth rydw i wedi ei dderbyn gan y tiwtoriaid wrth astudio ar gyfer fy Niploma L3 Estynedig mewn Amaethyddiaeth.

“Mae'r darlithwyr yn y Coleg wedi fy ysbrydoli i achub ar bob cyfle sydd ar gael ac wedi fy annog i gymryd rhan mewn cryn nifer o gystadlaethau cenedlaethol.” Dywedodd Martin Watkin, Rheolwr Ystadau ar y Tir y Coleg: “Mae Elin yn fyfyriwr rhagorol sy'n benderfynol o greu gyrfa yn y diwydiant amaeth. Mae wedi profi ei bod yn fyfyrwraig frwdfrydig a gweithgar sy'n cymryd rhan lawn yn holl weithgareddau'r fferm yn y Coleg ac yn cynhyrchu aseiniadau o safon uchel”.

Cyrsiau Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

2

Cymhwyster Lefel 1 neu TGAU Amaethyddiaeth neu brofiad perthnasol

2 Flynedd

Y Drenewydd

C&G Diploma mewn Amaethyddiaeth

2

Cymhwyster Lefel 1 neu TGAU Amaethyddiaeth neu brofiad perthnasol

2 Flynedd

Y Drenewydd

C&G Diploma Estynedig mewn Amaethyddiaeth

3

5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg

2 Flynedd

Y Drenewydd

C&G Diploma Estynedig mewn Rheolaeth Cefn Gwlad

3

5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg

2 Flynedd

Y Drenewydd

Traed ar y ddaear....gyda gyrfa mewn ffermio ac amaeth Enillion blynyddol cyfartalog

Cyflog Gweithiwr Fferm £27k *Seilir hyn ar ddata cenedlaethol

Rheolwr Fferm £34K

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

C&G Peirianneg Amaethyddiaeth

16


Celf, Dylunio a'r Cyfryngau Creadigol Byddwn yn eich helpu, eich cefnogi a'ch arwain ar eich ffordd i fod yn rhan o'r sector deinamig hwn sy'n symud yn gyflym iawn. Mae nifer y swyddi yn niwydiannau creadigol y DU nawr yn fwy na dwy filiwn am y tro cyntaf o dan y system bresennol o gyfrif ar ôl ehangu'n gyflymach na gweddill yr economi. Pan ychwanegir swyddi creadigol sydd y tu allan i'r diwydiannau creadigol hefyd - i gyfrif cyfanswm swyddi yr hyn a elwir yn economi greadigol y DU - mae'r cyfanswm wedi cyrraedd 3.12 miliwn sy'n golygu bod 1 o bob 11 swydd yn rhan o'r diwydiant hwn.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae ein darlithwyr yn artistiaid gweithredol felly byddwch yn dysgu gan y rhai sy'n dal i chwarae rhan hanfodol yn sector y diwydiannau creadigol. Yng Ngrŵp Colegau NPTC, byddwn yn rhoi cyfle i chi archwilio eich talent greadigol bersonol yng nghyd-destun maes diwylliannol ehangach ac i'w llywio, ei newid, a gwneud gwahaniaeth.

17

Rydym yn ganolfan ddysgu greadigol lle mae myfyrwyr yn gwneud cynnydd ac yn bwysicach oll, yn dod yn gyflogadwy iawn – rydym yn anelu at eich helpu i fod yn barod am yrfa!

Beth fyddaf yn ei wneud?

Dysgir gwersi mewn amgylchedd creadigol, gan ddefnyddio'r cyfarpar diweddaraf at safon y diwydiant o fewn cyfleusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol. Darperir nifer o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth ac Amlgyfrwng i arddangos gwaith o fewn y Coleg ac mewn digwyddiadau cyhoeddus allanol. Mae myfyrwyr y cyfryngau yn gweithio ar brosiectau 'byw', gan gysylltu â chleientiaid a sgrinio eu darn olaf o waith. Mae hyd yn oed dosbarthiadau bywlunio bob wythnos!

Rhagolygon gyrfa

b Penseiri b Celfyddydau treftadaeth b Crefftwyr b Dylunydd b Cyfarwyddwr b Cynhyrchydd ffilmiau b Artistiaid cain b Dylunwyr graffeg b Ffotograffydd b Gwneuthurwr printiadau b Dylunwyr cynnyrch b Dylunio propiau a setiau b Dylunio gofodol, mewnol a thirlun b Tatŵydd b Addysgu ac addysg b Fideograffydd b Dylunydd y we.

Byddwch yn greadigol ... gyda gyrfa mewn celf, dylunio a'r cyfryngau Chwilio NPTC Group


Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn

Mae myfyrwyr celf Coleg y Drenewydd wedi dadorchuddio cerflun pry cop newydd i'w arddangos yn y dref, fel rhan o brosiect ymddiriedolaeth bywyd gwyllt.

Bu'r myfyrwyr yn gweithio'n agos gyda Spike i greu'r pry cop, gan gymryd rhan mewn gweithdy gwaith gof ymarferol yn stiwdio Spike wrth iddynt ehangu eu gwybodaeth am grefftau a thechnegau i ddod â natur yn fyw.

Mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, helpodd myfyrwyr i ddylunio'r cerflun wyth coes gyda Brandon Cadwallader, yn dilyn eu cyflwyniad buddugol ar gyfer prosiect 'Oasis Celf' yr Ymddiriedolaeth.

Nod y prosiect, a ariannwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r fenter "Arwain" a gefnogwyd gan yr UE yw dod â phobl a bywyd gwyllt ynghyd drwy'r celfyddydau ac mae wedi cyflwyno gweithgareddau creadigol seiliedig ar gelf a phrosiectau allgymorth gyda nifer o sefydliadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yna, bu'r arlunydd a'r gof lleol Spike Blackhurst yn bwrw ymlaen â'r cynllun a ddewiswyd er mwyn cwblhau a gosod y pry cop, a fydd bellach wedi'i leoli yn Oriel Davies yng Ngerddi Neuadd y Dref yn Y Drenewydd.

Daeth partneriaid a busnesau a oedd yn rhan o'r prosiect at ei gilydd gyda'r myfyrwyr a'r Ymddiriedolaeth ar gyfer digwyddiad lansio ar ddiwedd mis Ebrill, wrth i'r dyluniad trawiadol ddod yn fyw!

Cyrsiau Lefel

Diploma UAL mewn Celf a Dylunio

2

Diploma UAL mewn Celf a Dylunio

Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

2 TGAU A*-C neu gymhwyster Lefel 1 priodol.

Blwyddyn

Y Drenewydd

3

Cymhwyster Lefel 2 perthnasol neu 5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys TGAU Saesneg.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Diploma UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg a Chyfryngau Creadigol

2

2 TGAU A*-C neu gymhwyster Lefel 1 priodol.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Diploma UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg a Chyfryngau Creadigol

3

5 TGAU A*-C yn cynnwys Saesneg. 2 Flynedd Cymhwyster Lefel 2 perthnasol.

Y Drenewydd

Cyfarwyddwr Creadigol

Llawrydd £500 i £700+ y dydd

Cyflogedig £100k i £160k+

Uwch Ddylunydd Graffeg

Llawrydd £200 i £400 y dydd

Cyflogedig £35 i £55k

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

18


Peirianneg Cerbydau Modur Mae gyrfa fel mecanydd neu mewn atgyweirio cerbydau yn golygu gwarantu dyfodol o waith cyson. Gall dirywiad yn yr economi effeithio ar bobl yn prynu ceir newydd, ond bydd angen gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio ar gerbydau bob amser. Os ydych yn mwynhau cwrdd â gwahanol bobl bob dydd, gwneud gwaith ymarferol, gweithio gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, neu fod gennych lygad creadigol neu gariad at waith adfer – yna mae gyrfa yn gweithio gyda cherbydau yn aros amdanoch chi.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae gan yr adrannau cerbydau modur yn Y Drenewydd a Bannau Brycheiniog hefyd weithdai â'r holl gyfarpar angenrheidiol gyda lifftiau cerbydau pedwar postyn, dau bostyn a ffurf siswrn, offer profi diagnostig gan Bosch, Crypton, Pico, Autel a chyfleusterau glanhau chwistrellwyr uwchsain ASNU. Hefyd, mae gan Gampws y Drenewydd fae profi ATL ar ffurf MOT ac ardal offer diagnosteg pwrpasol cwbl weithredol.

19

Beth fyddaf yn ei wneud?

Nod ein cyrsiau yw archwilio adeiladwaith cerbyd ac atgyweirio difrod i'r cerbyd ei hun a'i gorff yn gywir yn barod i'w orffennu. Byddwch yn cwblhau cyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol a gyflawnir yn ein cyfleusterau rhagorol.

Rhagolygon gyrfa

Fel arfer ceir cyflogaeth i beirianwyr gyda garejys, cwmnïau trafnidiaeth, cwmnïau cludo nwyddau ffyrdd neu sefydliadau mawr gyda fflyd o gerbydau. Ar lefel technegydd byddwch yn cyflawni gwaith diagnostig medrus, gan gynnwys gwaith ar systemau electronig a systemau a reolir gan gyfrifiadur. Mae'r gwaith yn heriol ac yn rhesymegol, ac yn cynnwys llawer o waith datrys problemau. Mewn cwmnïau mwy o faint, mae fel arfer yn bosibl ennill dyrchafiad i swyddi goruchwylio a rheoli.

Enillion blynyddol cyfartalog

Mecanydd £13k - £30k (Emsi - economicmodeling.com) Peiriannydd Modurol £60k+ mewn rolau uwch (Prospects.ac.uk) Technegwyr Paent Cerbydau £18k - £40k (Emsi - economicmodeling.com)

Byddwch yn fecanyddol... gyda gyrfa mewn

peirianneg, ceir neu atgyweirio cyrff cerbydau Chwilio NPTC Group


Peirianneg Cerbydau Modur

Cafodd myfyrwyr Cerbydau Modur Lefel 3 yng Ngholeg Y Drenewydd gyfle prin i ddysgu mwy am dechnolegau a weithredir gan fatri trydan yn y dyfodol, pan gawsant gyfle i weld trawsnewidiad Fiat 500 clasurol i drydan diolch i Electric Classic Cars yng Nghanolbarth Cymru. Mae gan y Fiat 500 holl gymeriad clasur gyda thro modern. Mae'r modur wedi'i osod yn y cefn (gan roi mwy o le i fagiau yn y tu blaen), ac mae'n cynnwys tri phecyn batri gyda phwynt gwefru cuddiedig o dan y bathodyn Fiat. Cymerodd y myfyrwyr ddiddordeb brwd yn y gosodiad, gyda manteision cyflymder a phŵer trydan yn cael eu gwireddu'n gyflym. Fel un o selogion cerbydau clasurol, roedd gan Tom Watkins, technegydd yn y Coleg ddiddordeb arbennig. Dywedodd Dan Pritchard, darlithydd Cerbydau Modur fod hyfforddiant mewn hybrid a thrydan yn “faes y mae'r Coleg yn edrych arno ar hyn o bryd. Mae'r dechnoleg gerbydau newydd hon yn mynd i chwarae rhan bwysig yn nyfodol y diwydiant ac mae'n wych gweld enghreifftiau o glasuron fel y Fiat yn cael eu trosi, a gwybod bod hwn ac eraill ar gael i'w gweld ar garreg ein drws." Mae Electric Classic Cars wedi'i leoli yng Nghanolbarth Cymru ac wedi trawsnewid nifer o geir clasurol gan gynnwys Porsche 911, Range Rover o 1972 a BMW E9. Mae'r busnes sy'n eiddo i Richard Morgan wedi tyfu'n gyflym a dywedodd Richard pa mor bwysig oedd hi bod myfyrwyr bellach yn dysgu am gerbydau trydan i gefnogi cerbydau cyfredol a rhai sydd wedi'u trawsnewid. “Bydd mwy o alw yn y blynyddoedd i ddod am y wybodaeth hon ac mae'n syndod faint o gamdybiaethau sydd eisoes yn bodoli am geir sy'n cael eu pweru gan fatri.”

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Peirianneg Cerbydau Modur

1

Mae TGAU gradd D/E neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Peirianneg Cerbydau Modur

2

Mae 4 TGAU gradd C neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Peirianneg Cerbydau Modur

3

Mae 5 TGAU gradd C neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd

Blwyddyn

Bannau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau

20


Therapïau Cymhwysol yn cynnwys Therapi Harddwch Mae'r diwydiant harddwch a therapïau cymhwysol heddiw yn sector hynod ddiddorol, sy'n ehangu ac yn newid yn barhaus. Os ydych yn arloesol ac yn uchelgeisiol, nid oes unrhyw gyfyngiad ar eich potensial, boed mewn cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, coluro, perchennog salon, therapydd harddwch neu sefydlu eich cwmni harddwch eich hun!

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Nid oes gan unrhyw ddiwydiant arall alw byd-eang mor gyson am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae'r diwydiant harddwch/therapïau cymhwysol yn cynnig cyfleoedd disglair gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn fel artist coluro neu steilydd. Yr annibyniaeth i ddechrau eich salon neu'ch sba eich hun neu hyd yn oed ddod yn hyfforddwr yn y coleg ac ysbrydoli eraill i ymuno â'r busnes.

21

Beth fyddaf yn ei wneud?

Fel rhan o Academi Lee Stafford ar gyfer Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol, byddwch yn cael eich addysgu mewn salonau blaenllaw y diwydiant gan weithwyr proffesiynol medrus iawn sydd â chyfoeth o wybodaeth am y diwydiant harddwch. Bydd cyrsiau'n ymdrin â choluro, therapïau tylino a chymwysiadau esthetig technegol megis siapio aeliau, lliwio amrannau ac aeliau, cwyro, trin dwylo, trin traed yn ogystal ag anatomeg a ffisioleg, y croen a thwf gwallt.

Rhagolygon gyrfa

Dermatolegydd, technegydd amrannau, technegydd ewinedd, perchennog sba, therapydd harddwch llawrydd, ysgrifennwr harddwch, flogiwr harddwch.

Cyrsiau Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

VTCT NVQ Diploma mewn Therapi Harddwch

2

5 TGAU gradd C neu uwch

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

VTCT VRQ mewn Triniaethau Therapi Harddwch

3

Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu gymhwyster cyfatebol

Blwyddyn

Bannau

VTCT mewn Therapïau Cymhwysol

3

Cymwysterau lefel 2 mewn therapi harddwch neu therapïau Cyflenwol

Blwyddyn

Y Drenewydd

Chwilio NPTC Group


Aur ar gyfer Myfyriwr Harddwch Profodd Myfyriwr Therapi Harddwch o Goleg Y Drenewydd yn bendant mai aur oedd ei lliw drwy gymryd y safle uchaf yn y categori Therapi Harddwch yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru'n ddiweddar. Mae Lucy Lewis, 18, o bentref Sant Harmon ger Rhaeadr Gwy, yn fyfyriwr amser llawn ar y cwrs Lefel 2 mewn Therapi Harddwch yng Ngholeg Y Drenewydd. Enillodd Lucy yr Aur yn y gystadleuaeth drwy gyflawni lliwio blew amrannau, gwneud wyneb llawn o golur dydd, a chymhwyso sglein coch hufennog i bob un o'r 10 o ewin`, y cyfan mewn 1 awr a 40 munud.

A hithau'n ymdopi â chwrs amser llawn a swydd ran amser, mae Lucy yn bwriadu aros yn y coleg i gwblhau'r cymhwyster Harddwch Lefel 3. Esboniodd hi: “Ar ôl i mi orffen y cymhwyster Lefel 3, rwy'n bwriadu mynd i'r Brifysgol i astudio Busnes a Marchnata a fydd yn fy helpu i ddechrau a rhedeg fy musnes fy hun.’’ “Mae pawb ar fy nghwrs yn gyfeillgar a chynhwysol iawn, sy'n fy ngwneud i'n gyffrous i ddod i'r Coleg bob dydd. Mae tiwtoriaid y cwrs yn trin y dysgwyr fel rhai cydradd, sy'n ei gwneud hi'n hawdd i mi ddysgu ac mae cyfleoedd diddiwedd i ddysgwyr ragori yn eu dewis gwrs. Mae fy nhiwtor presennol wedi fy annog yn barhaus drwy gydol Lefel 2, a heb ei hanogaeth a'i chred ynof, ni fyddwn wedi cyflawni cymaint ag y gwnes i.’’

Enillion blynyddol cyfartalog

Therapydd Harddwch £21k mewn salon Artist Coluro £40 yr awr (Llawrydd)

Perchennog Salon hyd at £100k Uwch Steilydd £30k - emsi

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Byddwch yn llawn steil... gyda gyrfa mewn harddwch a therapi cymhwysol

22


Busnes a Rheolaeth Mae busnes a phynciau cysylltiedig megis cyllid, cyfrifeg, rheolaeth ac economeg ymhlith y meysydd astudio mwyaf poblogaidd mewn prifysgolion ledled y byd. Y rheswm am hyn yw bod galw mawr am raddedigion busnes ledled y byd, bod busnes yn cyffwrdd â phob agwedd ar gymdeithas ddynol fodern bron iawn, a bod gyrfaoedd â gradd busnes yn amrywiol ac yn aml yn denu cyflog uchel. Mae'r Ysgol Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth yn adlewyrchu'r sector llwyddiannus a deinamig hwn, gyda staff yn dod â chydbwysedd o ragoriaeth academaidd ac arbenigedd y diwydiant i sicrhau profiadau dysgu ysgogol a chadarnhaol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Rhagolygon gyrfa b Cyfrifeg

b Gweinyddu Busnes b Rheoli digwyddiadau b Cyfrifeg fforensig b Rheoli gwestai b Adnoddau dynol b Marchnata b Twristiaeth wledig b Brocer.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae'r Coleg yn ymrwymedig i wella sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol. Mae'r myfyrwyr ar yr holl gyrsiau yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau sylfaenol sy'n hanfodol i sicrhau llwyddiant gyrfaol.

23

Mae'r adran yn cynnig gweithdai wedi'u cynnal gan bobl fusnes brofiadol, ac mae cysylltiadau o'r radd flaenaf gyda busnesau lleol yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael dealltwriaeth fanwl o sut y caiff cwmnïau eu rheoli a'u rhedeg.

Cewch eich cymell ... gyda gyrfa mewn busnes, cyfrifeg a rheolaeth Chwilio NPTC Group


Llwyddiant Myfyrwyr

Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr Busnes Lefel 3 yng Ngholeg Y Drenewydd, sydd wedi ennill Cystadleuaeth Syniadau Busnes Llwybrau Positif Powys. Roedd y grŵp o fyfyrwyr Busnes ymhlith 50 o ymgeiswyr a gyflwynodd syniad busnes newydd i ateb y cwestiwn, 'Pa fusnes fyddech chi'n ei sefydlu ym Mhowys a pham?' Roedd y gystadleuaeth yn gofyn i ymgeiswyr ystyried cynnig busnes oedd yn cynnwys rhoi manylion y cwsmeriaid targed, y mathau o waith hyrwyddo i'w gwneud, staffio a'r materion y gallai fod angen eu goresgyn. O'r cystadleuwyr, cyrhaeddodd tri grŵp y rhestr fer a chael eu gwahodd i gyflwyno i banel o feirniaid ym mhencadlys Cyngor Sir Powys yn Llandrindod. Yna gwnaeth cyfanswm o naw beirniad, a oedd yn cynnwys Cynghorwyr Sir a rheolwyr busnes lleol herio'r grwpiau gyda chwestiynau ar eu cysyniadau busnes.

"Rwyf wedi cael nifer o gyfleoedd tra'n astudio yng Ngholeg Y Drenewydd, nid yw'n bosibl nodi un yn unig. Yn ystod semester cyntaf fy mlwyddyn agoriadol yn y Coleg, fe'm derbyniwyd i fynd i farchnad yn Ffrainc fel rhan o gydweithrediad rhwng y Coleg a Chymdeithas Gefeillio'r Drenewydd lle gwerthais nwyddau Cymreig i ddefnyddwyr Ffrengig. Yn ystod ail semester y flwyddyn gyntaf, ynghyd â thri myfyriwr arall, enillais Gystadleuaeth Busnes Llwybrau Positif Powys lle bu dros 50 yn cystadlu, ac roedd y profiad penodol hwn o gymorth i mi wrth wella sgiliau niferus megis fy ngwaith tîm, cynllunio a chyflwyno, y mae pob un ohonynt yn ofynnol ar gyfer cyflogaeth." “Rwy'n gobeithio mynd i'r brifysgol ym Manceinion i astudio 'Busnes a Chyllid'. Yn y dyfodol rwyf am weithio yn y diwydiant ariannol, yn bennaf fel cyfrifydd, felly rwy'n edrych ar theori AAT sydd hefyd yn cael ei addysgu yng Ngholeg Y Drenewydd.” Ethan Smith

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Busnes gyda Chyfraith Gymhwysol

3

6 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg Iaith

2 Flynedd

Bannau

BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Busnes

3

6 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg Iaith

2 Flynedd

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Cyfrifydd £62k Rheolwr Marchnata £50k

Gweithredwr Teithiau £24k Cynllunydd Digwyddiadau £29k

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau

*https://www.accountancyage.com/2018/04/18/salary-survey-2018-uk-accountants-earning-right-now/

24


Cyfrifiadura, Dylunio'r We a Gemau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Gyda chyflogaeth yn y diwydiant TG a thelegyfathrebu yn tyfu ar bum gwaith y cyfartaledd cenedlaethol dros y degawd nesaf, mae TG a thechnoleg ddigidol yn prysur ddod yn un o'r gyrfaoedd sy'n denu'r tâl uchaf yn y DU. Yn 2018, tyfodd y diwydiannau 32% yn gyflymach na gweddill economi'r DU, gan greu cyfleoedd swyddi sy'n talu'n dda gyda 1.58 miliwn o swyddi ledled y DU. Y prif sectorau i weithio ynddynt yw datblygu meddalwedd ac apiau, rheoli data, seiberddiogelwch, dadansoddi data, caledwedd, dyfeisiau a chaledwedd ffynhonnell agored. Mae ein holl gyrsiau amser llawn wedi'u hanelu at fyfyrwyr sydd am ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn cyfrifiadura a TG. Byddwn yn eich helpu i gyrraedd eich nodau personol, gyrfa a chyflogaeth, p'un a ydych yn gadael yr ysgol, mewn gwaith, neu'n dymuno gwella eich sgiliau cyfrifiadura.

25

Mae cyn-fyfyrwyr bellach yn gweithio fel: datblygwyr meddalwedd, datblygwyr CRM deinamig, dadansoddwyr data, technegwyr cymorth a gweithrediadau TG, datblygwyr y we ac e-fasnach, datblygwyr gwefannau, dadansoddwyr warws data, a dadansoddwyr systemau uwch. Mae gan ein darlithwyr ymroddedig brofiad o'r sector TG ynghyd â gwybodaeth benodol am y pwnc. Mae'r gwersi'n datblygu mewn ffyrdd creadigol gydag astudiaethau achos ac enghreifftiau o fywyd go iawn. Gall y myfyrwyr ymgymryd â phrofiad gwaith mewn diwydiant. Mae'r adran yn defnyddio caledwedd a meddalwedd gyfoes, megis Adobe Creative Suite, Visual Studio NET, Java NetBeans, Brackets, BFXR, Audacity a Game Maker. Darperir pob un o’r cyrsiau mewn labordai TG pwrpasol gydag ystafell arbenigol ar gyfer adeiladu PC a datblygu rhwydweithiau. Ar hyn o bryd, mae cyflawniad ar ein rhaglenni yn 99%, ac mae 100% o fyfyrwyr BSc yn cael gwaith mewn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura o fewn tri mis i raddio.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn archwilio sut mae TGCh yn cael ei defnyddio mewn diwydiant drwy ddatblygu gwybodaeth, sgiliau technegol ac ymarferol sy'n benodol i'r sector, ynghyd â sut i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn amgylchedd cysylltiedig â gwaith.

Rhagolygon gyrfa

Mae'r mwyafrif o'r myfyrwyr ar gyrsiau Cyfrifiadura a TG yn mynd ymlaen i Addysg Uwch ac o fewn Grŵp Colegau NPTC, gallwn gynnig graddau i'n myfyrwyr ar garreg eu drws. Mae gennym lwybr dilyniant delfrydol lle, ar ôl cwblhau'r Diploma Estynedig Lefel 3 neu raglen safon Uwch mewn disgyblaeth gysylltiedig yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i'r HND mewn Cyfrifiadura (2 flynedd) ac yna'r BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura Cymhwysol (blwyddyn 3). I symud ymlaen i Addysg Uwch neu i gael cyflogaeth mewn amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau TGCh mae llawer o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau cyfrifiadurol. Ymhlith y sefydliadau sy'n cyflogi cyn-fyfyrwyr mae Fujitsu, CBSCNPT, The Good IT Company, DVLA, 15 Below, Crimson Consultants, ALTech UK a Virgin Media. Sylwer os gwelwch yn dda os ydych yn ysytyried addysgu fel gyrfa, mae prifysgolion yn gofyn am TGAU gradd B neu uwch mewn Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth ac yn achos rhai cyrsiau Cyfrifiadureg, mae rhai prifysgolion yn gofyn am o leiaf gradd B mewn Mathemateg TGAU. Rhagolygon gyrfa posib: Cyfarwyddwr TG, rhaglennydd a datblygwr, datblygwr cronfeydd data, rheolwr TG, rheolwr prosiectau, cymorth technegol, ymgynghorydd TG, datblygwr y rhyngrwyd a'r we, dylunydd gemau, datblygwr gemau, desg gymorth, peiriannydd meddalwedd, strategaeth a chynllunio, dylunio a datblygu systemau, pensaer cyfrifiaduron, profwr, dadansoddwr, rheoli rhwydweithiau, gweithrediadau TG, gwerthu a marchnata.

Chwilio NPTC Group


Cyrsiau Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Diploma mewn TG

Lefel Gofynion Mynediad

1

Tystysgrif Estynedig mewn Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol

2

Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn TG

3

Diploma Mynediad i AU Cyfrifiadura a TGCh

3

2 TGAU gradd E neu F. 3 TGAU gradd A*-C, yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg, neu gymhwyster Lefel 1 mewn TG ar lefel Teilyngdod neu Ragoriaeth. 5 TGAU gradd A-C yn cynnwys Mathemateg a Saesneg ac i'r rhai sy'n dod trwodd gyda chymhwyster Lefel 2 mewn Cyfrifiadura a/neu TG rydym yn gofyn am Deilyngdod fel isafswm. Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi bod allan o addysg amser llawn am o leiaf tair blynedd. Disgwylir i fyfyrwyr ddangos diddordeb brwd mewn Cyfrifiadura a TGCh a chwblhau cyfweliad llwyddiannus.

Hyd

Lleoliad

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

2 Flynedd

Bannau/Y Drenewydd

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Byddwch yn greadigol ... gyda gyrfa ym maes cyfrifiadura, dylunio ar y we ac apiau

26


Llwyddiant Myfyrwyr

Cymerodd saith o fyfyrwyr Cyfrifiadura a TG hynod o dalentog ran yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar, gan ennill bron hanner y prif safleoedd yn y categorïau Seiberddiogelwch, Sgiliau Codio a Dylunio'r We. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sy'n cael ei chyflwyno gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth mewn Sgiliau yng Nghymru ar ran y Rhwydwaith Llysgenhadon Sgiliau, wedi'i chynllunio i godi proffil sgiliau yng Nghymru. Gan ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi, mae'r gystadleuaeth yn hwb i sgiliau gweithlu'r dyfodol. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi'i halinio i WorldSkills, gyda nifer o gystadleuwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills y DU.

 Arian, Seiberddiogelwch: Joshua Roberts  Arian, Seiberddiogelwch: Mitchell Wilkes  Efydd, Seiberddiogelwch: Alex Griffiths  Efydd, Seiberddiogelwch: Dylan Rogers  Arian, Sgiliau Codio: Dewi James  Arian, Dylunio'r We: Luke Wooley  Efydd, Dylunio'r We: Jamie Mellin

"Rwy'n hynod o falch o'r holl fyfyrwyr a fu'n cystadlu. Mae'n gyflawniad arbennig sy'n dangos y dalent sydd yma yng Ngrŵp Colegau NPTC ac mae hefyd yn tystio i'r arbenigedd a'r gefnogaeth a ddarperir gan ein staff addysgu." Eira Williams Pennaeth Ysgol

Enillion blynyddol cyfartalog

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Rhaglennydd Cyfrifiaduron 30k

27

Technegydd TG £30k

Dadansoddwr Busnes £49k

Peiriannydd Meddalwedd £32k Dadansoddwr Seiberddiogelwch £31k

Pensaer Systemau £50k

Technegydd Cymorth Cyfrifiaduron/Rhwydwaith £19k

Gweithredydd Cyfrifiaduron £23k

Gweinyddwr Systemau, Cyfrifiaduron / Rhwydwaith £26k Arbenigwr Cymorth Technegol £24k Dadansoddwr Seiberddiogelwch £31k

Peiriannydd Diogelwch Rhwydwaith £36k

(https://www.payscale.com & https://www.findCyrsiau.co.uk/inspiration/average-salaries-uk/average-uk-salary-2019-15395 )


Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig Adeiladu'r Dyfodol YN NEWYDD AR GYFER Medi 2021, bydd cyfres newydd o gymwysterau yn cael eu cyflwyno ledled Cymru sydd wedi'u datblygu gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well. Nod y newid yw symleiddio'r dirwedd gymhleth o fwy na 400 o gymwysterau mewn adeiladwaith a gwasanaethau adeiladu yng Nghymru a sicrhau eich bod wedi’ch paratoi'n well ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector. Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth o'r diwydiant cyfan ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen at waith o addysg.

Mae Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig yn gymhwyster newydd sbon lle rydych yn astudio dau brofiad crefft o'r canlynol:  Gweithio gyda brics, blociau a cherrig  Galwedigaethau pren  Paentio ac Addurno  Plastro a systemau mewnol  Teilsio waliau a lloriau

Mae gan y diwydiant Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae ar y diwydiant angen nifer fawr o weithwyr wedi'u hyfforddi o'r newydd bob blwyddyn er

Cynhelir yr hyfforddiant mewn gweithdai eang â'r cyfarpar priodol lle mae gan y myfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Cynhelir yr hyfforddiant gan staff cymwys â phrofiad o'r diwydiant sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau'r myfyriwr. Mae llawer o'n staff yn gyn-fyfyrwyr y coleg ac yn deall sut i wneud dysgu'n ddiddorol ac yn ddifyr ac yn gallu cael y gorau allan o'r myfyrwyr. Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y gwaith a thechnegau crefft uwch yn eich dewis lwybr. Byddwch hefyd yn dehongli lluniadau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Anogir myfyrwyr hefyd i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.

Asesu

I gyflawni'r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau:  Un prawf amlddewis sydd wedi'i osod yn allanol, a'i farcio yn allanol  Un prosiect yn cwmpasu dau faes crefft, sydd wedi'i osod yn allanol, a'i farcio yn fewnol  Un drafodaeth dan arweiniad sydd wedi'i gosod yn allanol, a'i marcio yn fewnol  Un prawf iechyd a diogelwch sydd wedi'i osod yn allanol, a'i farcio yn fewnol.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

NEWYDD AR GYFER 2021 Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig

mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes a chyda chyflogau yn cynyddu ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r diwydiant gwerth chweil hwn.

28


Llwyddiant Myfyrwyr

Cymru ac roedd Cyfarwyddwr SGG Project Management Ltd Steve Groenow, y darlithydd gwaith coed Graham Strangward a chynrychiolydd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladwaith (CITB) Clare Ward hefyd yn bresennol yn y seremoni.

Hoffai Grŵp Colegau NPTC longyfarch Rhys Carey, sydd wedi ennill Gwobr Adeiladu Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru. Ar hyn o bryd, mae'r myfyriwr Coleg Bannau Brycheiniog wedi'i gyflogi gyda SGG Project Management Ltd, a chafodd ei wobrwyo am ei waith caled a'i lwyddiannau ers dilyn gyrfa yn y diwydiant.

Mae gan Rhys ddiddordeb mewn gwaith adnewyddu gwaith coed, ac mae'n mwynhau creadigrwydd ac ochr arbenigol y gwaith.

Cyflwynwyd y wobr i Rhys gan Keith Shankland, Cynorthwyydd Llys yn y Cwmni Anrhydeddus Lifrai

Mae'n gobeithio adeiladu ar ei sgiliau ac efallai rhedeg ei fenter ei hun dramor un diwrnod.

Dilyniant

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth sylfaenol eang ar draws y diwydiant adeiladu neu'r amgylchedd adeiledig ynghyd â gwybodaeth a sgiliau rhagarweiniol mewn dau lwybr o’ch dewis. Mae'r cymhwyster yn darparu'r wybodaeth i symud ymlaen i astudiaeth bellach:  Dilyniant mewn Adeiladwaith Lefel 2 (Amser llawn) - City & Guilds  Adeiladwaith Lefel 3 Dwy flynedd (Prentisiaeth Ran-amser) - City & Guilds  Adeiladwaith Lefel 3 Tair blynedd (Prentisiaeth Ran-amser) - City & Guilds

Mae'r cymhwyster yn darparu digon o wybodaeth i ddysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth yn y sector yn eu dewis grefft.

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster? Mae'n addas ar gyfer:  Dysgwyr 16+ oed sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y sector adeiladwaith a'r amgylchedd adeiledig neu'n bwriadu gwneud hynny. Gweithwyr safleoedd sydd am ehangu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau yn y sector yn fwy cyffredinol.  Bydd angen i ddysgwyr fod wedi cyflawni, neu fod yn gweithio tuag at eu Sgiliau Hanfodol Lefel 2 Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth). Nid oes unrhyw ofynion mynediad ychwanegol eraill ar gyfer y cymhwyster hwn.

Cyrsiau Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

29

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Tystysgrif mewn Adeiladwaith (Aml-Grefft / Cyn-sylfaen)

1

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

2

TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, gradd D neu uwch.

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

DEWISWCH O DDAU BROFIAD CREFFT ISOD: Gwaith Saer a Gwaith Brics

Bannau/ Y Drenewydd

Paentio a Gwaith Brics

Y Drenewydd

Paentio a Gwaith Saer

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Briciwr £52k Saer ac Asiedydd £50k Plastrwr £48k Teilswr Waliau a Lloriau £48k

Rheolwr Safle £45k Rheolwr Prosiect £60k Peiriannydd Sifil £70k


Peirianneg Bydd gyrfa mewn peirianneg yn cynnig cyflog ardderchog, llawer o amrywiaeth yn eich gwaith a lefelau uchel o foddhad yn y swydd. Pa bynnag ddisgyblaeth a ddewiswch, gall adeiladu sylfaen gref o wybodaeth gyda chwrs peirianneg yng Ngrŵp Colegau NPTC eich roi ar ben ffordd ar eich taith i lwyddiant.

a reolir gan gyfrifiadur mewn melino a thurnio, Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a thechnoleg argraffu 3D. Mae ein gweithdy hydroleg a niwmateg/electro-niwmateg yn gartref i lawer o rigiau prawf hanfodol sy'n hanfodol ar gyfer profi ac asesu gallu a pherfformiad cydrannau at ddefnydd diwydiannol.

Byddwch yn ennill sgiliau eraill ehangach ar gyfer cyflogadwyedd, sef Saesneg, Mathemateg a TG, sgiliau dysgu personol a sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu. Mae'r rhain yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr a byddant yn eich gwneud yn weithiwr proffesiynol mwy cyflawn a chyflogadwy. Mae ein perthynas agos gyda'r diwydiant yn sicrhau ein bod yn cyd-fynd â'r datblygiadau technolegol diweddaraf, gan roi'r hyfforddiant gorau posibl i chi.

SAERNÏO A WELDIO Mae ar y diwydiant weldio a saernïo angen pobl fedrus iawn, a cheir llawer o gyfleoedd cyflogaeth mewn meysydd fel ynni, olew a nwy, cynnal a chadw peirianneg a gweithgynhyrchu diwydiannol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Chwilio NPTC Group

Rhagolygon gyrfa

b Cysylltiadau cryf gyda dros 100 o gyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol b Cyfleoedd dilyniant gwych i'r brifysgol a rhaglenni prentisiaeth ardderchog b Cyfleusterau peirianneg gwych o'r radd flaenaf b Cyrsiau yn cyfateb i safonau'r diwydiant i fodloni'r sgiliau sydd eu hangen b Sector diwydiant sy'n tyfu, y mae galw mawr amdano.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

PEIRIANNEG FECANYDDOL/CYNNAL A CHADW Mae Peirianneg Fecanyddol/Cynnal a Chadw yn cynnwys nifer o wahanol lwybrau gan gynnwys dadansoddi, dylunio, gweithgynhyrchu a chynnal a chadw systemau mecanyddol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o gysyniadau allweddol. Mae Peirianwyr Mecanyddol/ Cynnal a Chadw yn defnyddio'r egwyddorion hyn ac eraill wrth ddylunio a dadansoddi cydrannau arbenigol mewn amrywiaeth o sectorau. Mae ein gweithdai a'n hystafelloedd dosbarth at y diben i safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar a chyfrifiaduron o'r radd flaenaf. Mae'r gweithdai yn cynnwys turnau â llaw, peiriannau melino a meinciau peirianneg, tra bod gweithdai ac ystafelloedd dosbarth arbenigol ar wahân yn cynnwys Peiriannau Rhifiadol Haas (CNC) soffistigedig

Bydd ein darlithwyr medrus iawn yn eich cefnogi a'ch tywys drwy sgiliau sylfaenol y diwydiant hwn a byddwch yn dysgu sut mae weldio yn integreiddio i mewn i system beirianneg. Mae ein gweithdai saernïo a weldio a adeiladwyd yn bwrpasol at safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar o ansawdd uchel, sy'n cwmpasu pob agwedd ar gymwysiadau weldio yn cynnwys Nwy Anadweithiol Metel (MIG), Nwy Anadweithiol Twngsten (TIG), Arc Metel â Llaw (MMA) a Pheiriannau Plasma a reolir gan gyfrifiadur (CNC) Profi Dinistriol/Annistrywiol (DT/NDT).

30


Curtis Rees

Sam Cottrell

Llwyddiant Myfyrwyr

Sam Cotrell – Y Myfyriwr Peirianneg Fecanyddol Sam Cottrell yw’r ‘Gorau yng Nghymru’ yn erbyn 40+ o Fyfyrwyr/Cystadleuwyr o’r 12 Coleg AB yng Nghymru a darparwyr dysgu eraill fel rhan o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru. Mae Sam wedi sicrhau lle yn Sgwad Cymru a bydd bellach yn cystadlu yn erbyn enillwyr medalau eraill y Deyrnas Unedig yn uniongyrchol ar gyfer y safle #1 i gynrychioli’r DU yn erbyn gweddill y byd. Curtis Rees Prentis Weldio - Afon Engineering Roedd Curtis Rees, prentis weldio o Goleg Castell-nedd ymhlith y bobl ifanc â’r sgiliau gorau yn y wlad a gafodd eu cydnabod yn Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills y llynedd (2019). Curtis, sydd o Resolfen, yw’r myfyriwr cyntaf o Grŵp Colegau NPTC i ennill medal aur bwysig wrth iddo ddod i’r brig

yn ei ddisgyblaeth yn yr NEC yn Birmingham. Roedd y gystadleuaeth fawreddog yn cynnwys mwy na 500 o brentisiaid a myfyrwyr yn cystadlu mewn dros 70 o ddisgyblaethau i gael eu coroni’n oreuon y DU mewn llwybr galwedigaethol. Cyflawnodd Curtis sgôr gyffredinol o 92.25% allan o 100 i hawlio ei fedal aur, y gyntaf i Grŵp Colegau NPTC mewn unrhyw gystadleuaeth genedlaethol. Roedd Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith Hyfforddiant Pathways, Alec Thomas wrth ei fodd â llwyddiant Curtis a dywedodd: “Mae brwdfrydedd Curtis dros weldio ac am WorldSkills UK yn heintus ac mae eisoes yn annog prentisiaid newydd i gymryd rhan. Mae hyn yn wych i’r diwydiant a busnesau lleol, a bydd yn helpu i gefnogi datblygiad cyfleoedd newydd i bobl ifanc yn yr ardal.” Mae gan Curtis gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol. Mae ennill y fedal aur wedi agor drysau iddo, ond mae ganddo ddyheadau i redeg ei fusnes ei hun ym maes weldio strwythurol, lle mae wedi gweld bwlch yn y farchnad.

Cyrsiau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Peirianneg (Mecanyddol/Weldio)

2

BTEC Uwch mewn Peirianneg

3

4 TGAU gradd A*-D yn cynnwys Mathemateg a Saesneg. 5 TGAU gradd A*-C gan gynnwys Saesneg, Mathemateg, Diploma 90 Credyd mewn Gwyddoniaeth a 2 o'r canlynol: Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Peirianneg â MM yn gyffredinol, teilyngdod mewn Mathemateg Peirianneg a TGAU Mathemateg gradd C/4 neu uwch.

Lleoliad

Blwyddyn

Y Drenewydd

2 Flynedd

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Peiriannydd Iau/Graddedig £30k Uwch Beiriannydd/Rheolwr £47k Cyfarwyddwr neu uwch £72k Weldiwr £16k - £31k

Cemegolion a Fferyllol/ Meddygol £50k

Sectorau Peirianneg y DU

Bwyd a Diod/Nwyddau Defnyddwyr £48k

Modurol £48k

Amddiffyn a Diogelwch/Morol £47k Ynni/Adnewyddadwy/Niwclear £52k

Olew a Nwy £53k 31

Hyd


Astudiaethau Sylfaen Mae ein rhaglenni sylfaen yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau allweddol o ran byw'n annibynnol, iechyd a llesiant, y gymuned a chyflogadwyedd drwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r cyrsiau a gynigir yn amser llawn neu'n rhanamser ac mae gan y staff sy'n eu darparu ystod eang o arbenigedd galwedigaethol yn ogystal â phrofiad helaeth o weithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae pob cwrs yn cynnwys amserlen strwythuredig, cymorth astudio, ystafelloedd ymlacio/ tawel, gweithgareddau cyfoethogi a chyflwyniad i fywyd yn y Coleg ac Addysg Bellach. Mae'r myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol, ac o'r safbwynt hwn daw mwy o hyder a sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol sydd eu hangen ar gyfer dysgu a bywyd.

Mae ein myfyrwyr yn creu siopau sydyn a mentrau symudol ac yn sicrhau bod myfyrwyr yn meithrin cysylltiadau â sefydliadau cyflogaeth â chymorth. Mae myfyrwyr yn cynnal asesiad cychwynnol o anghenion addysgol a sgiliau bywyd yn ystod y broses bontio a sefydlu. Mae tiwtoriaid wedyn yn gweithio gyda myfyrwyr i nodi eu nodau tymor hir a thymor byr - ac wedyn cytunir ar dargedau a llwybrau addas ar gyfer dilyniant a fydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Mae ein cyrsiau'n cynnig cyflwyniad i'r Coleg i ddysgwyr a chyfleoedd i flasu gwahanol feysydd galwedigaethol megis adeiladwaith, garddwriaeth ac arlwyo a bydd dysgwyr wedyn yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am lwybrau dilyniant yn y dyfodol. Aeth dros 95% o fyfyrwyr ymlaen i gyrsiau astudiaethau sylfaen ar lefelau uwch, cyrsiau prif ffrwd yn y Coleg, cyflogaeth â chymorth neu wasanaethau gwirfoddol.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch; dim ond awydd i gymryd rhan yn y gweithgareddau dysgu a gynigiwn. Mae'n bosibl rhoi cynnig ar lawer o wahanol bynciau yn dibynnu ar eich diddordebau unigol. Mae hyn yn eich helpu i ddarganfod beth rydych chi'n ei fwynhau, beth ydych chi'n dda yn ei wneud a'ch helpu gyda'ch dewisiadau yn y dyfodol. Gallwch weithio ar eich lefel a'ch cyflymder eich hun, ond mae cymorth ychwanegol ar gael fel rhan o'r cwrs a, thrwy gymorth dysgu a thiwtorialau, rydym yn gallu darparu ar gyfer ystod eang o anghenion. Mae'r staff yn athrawon cymwysedig, profiadol sydd â sgiliau arbenigol i gyflwyno'r cyrsiau a gynigir mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar. Rydym yn cynnal digwyddiadau cyflogadwyedd a

dilyniant gyda chyflogwyr ac asiantaethau cymorth. Mae'r ysgol yn cynnal nifer o weithgareddau menter a gwirfoddoli ac yn annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol gan gynnwys cystadleuaeth sgiliau Cymru, twrnameintiau chwaraeon ILS ac, yn ddiweddar, Shed of the Year, Channel 4.

32


Cyrsiau Cyrsiau Amser Llawn

Gofynion Mynediad

Lleoliad

Sgiliau Bywyd

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol

Bannau/Y Drenewydd

Sgiliau Gwaith

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol

Bannau/Y Drenewydd

Samplo Galwedigaethol

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ond rhaid dangos awydd i gymryd rhan ym mhob gweithgaredd dysgu yn y cyfweliad.

Bannau/Y Drenewydd

Paratoi Galwedigaethol a Phorth i Addysg Bellach

Nid oes angen gwybodaeth flaenorol ar gyfer y cyrsiau hyn. Bydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn drwy gyfrwng proses ymgeisio a chyfweld y Coleg. Mae angen i ddysgwyr allu dangos eu bod yn gallu gweithio ar lefel Mynediad 3 o leiaf cyn y cwrs hwn. Rhaid bod gan ddysgwyr etheg gwaith cadarnhaol a diddordeb mewn datblygu sgiliau. Mae'r cwrs yn cynnwys crefftau ymarferol, y celfyddydau perfformio, arlwyo, TG a chwaraeon.

Bannau/Y Drenewydd

Porth Lefel 1 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Graddau TGAU E/F neu gwblhau cymwysterau Mynediad 3 yn llwyddiannus.

Y Drenewydd

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

a Pharatoi Galwedigaethol

33

Byddwch yn ysbrydoledig ... gyda gyrfa mewn astudiaethau sylfaen


Garddio a Garddwriaeth Mae garddwriaeth yn ddiwydiant amrywiol a deinamig sy'n cynnwys cynhyrchu ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion addurnol yn fasnachol yn ogystal â dylunio, sefydlu a chynnal a chadw parciau, gerddi, meysydd hamdden a chwaraeon, mannau agored a thirweddau a reolir.

Mae garddwriaeth yn fusnes byd-eang sy'n amrywio o ran maint o gwmnïau amlwladol mawr i sefydliadau a chwmnïau entrepreneuraidd llai. Mae awdurdodau lleol, gerddi botanegol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn gyflogwyr mawr. Yn y wlad hon a thramor, mae galw mawr bob amser am arddwyr wedi'u hyfforddi ym Mhrydain.

Enillion blynyddol cyfartalog

Cyrsiau

Mae gwersi'n cyfuno gwaith dosbarth â gwaith ymarferol, gan bwysleisio'r amrywiaeth eang o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant garddwriaeth/garddio. Bydd disgwyl i chi hefyd fynychu lleoliadau profiad gwaith, gan ennill profiad gwaith gwerthfawr. Mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau menter trwy nifer o weithgareddau gwerthiant drwy gydol y flwyddyn!

Rhagolygon gyrfa b Gwaith planhigfa

b Canolfannau garddio manwerthu

b Dylunio gerddi

b Lluosogi planhigion

b Gofal tir

b Cynhyrchu planhigion

b Tirlunio

b Cynnyrch organig

b Gwyddoniaeth

b Addysg

b Meddyg coed

b Hunangyflogaeth.

Diwydiant garddio a garddwriaethol £30k - £60k 2,384 o swyddi yng Nghymru erbyn 2024 (Gyrfa Cymru)

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol

1

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol

2

Cymhwyster Lefel 1 mewn garddwriaeth

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Rydym yn cynnig amrywiaeth gyffrous o gyrsiau garddwriaeth a garddio sy'n rhoi i chi'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen i lwyddo mewn gyrfa yn y sector hwn. Gyda'n cyfleusterau gwych sy'n cynnwys tai gwydr modern a gwelyau stoc awyr agored wedi'u llenwi ag amrywiaeth ddiddorol o blanhigion, rydych yn siŵr o fwynhau'r profiad awyr agored go iawn. Mae'r ardaloedd a blannwyd yn cynnwys gardd berlysiau y Canoldir, hafan bywyd gwyllt ac elfennau o erddi a ail-grewyd ar ffurf ein gerddi llwyddiannus a enillodd Fedal Aur mewn sioeau amrywiol o amgylch y wlad.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed Chwilio NPTC Group

34


Trin Gwallt Croeso i Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford, y cyntaf a o'i math a'r unig un yng Nghymru. Yn fwy nag ardystiad gan rywun enwog, mae'r rhaglen hyfforddi wedi ei datblygu gan Lee ei hunan ochr yn ochr ag arbenigwyr, i hyfforddi nid yn unig y myfyrwyr, ond hefyd ein staff gwallt a gwaith barbwr profiadol ein hunain. Byddwch yn dysgu 'ryseitiau' sydd wedi'u cynllunio'n arbennig ac sy'n unigryw i Academïau Lee Stafford, gan adlewyrchu rhai o'r arddulliau mwyaf arloesol a welir mewn salonau ledled y DU. Mae'r rhain yn hyfforddiant mewn sgiliau arbenigol na allwch eu cael yn unrhyw le arall.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Byddwch yn derbyn hyfforddiant mewn hyd at 22 o sgiliau a thechnegau sylfaenol y byddwch yn eu dysgu i'r hyn y mae Lee yn ei alw'n 'safon Michelin'. Unwaith y byddwch wedi meistroli'r technegau hyn, cewch eich annog i ddefnyddio eich creadigrwydd yn rhydd.

35

Gellir profi'r sgiliau hyn mewn cystadlaethau cenedlaethol gyda myfyrwyr Academi Lee Stafford eraill mewn colegau AB ledled y DU yn ystod y flwyddyn academaidd. Rydyn ni'n anelu at sicrhau bod ein myfyrwyr trin gwallt a gwaith barbwr gyda'r rhai mwyaf cyflogadwy yn y wlad, felly os ydych chi o ddifri am wallt, Grŵp Colegau NPTC yw'r lle i chi!

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu torri, steilio a gosod sylfaenol, lliwio, siampŵo a chyflyru, ymgynghori â chleientiaid (yn cynnwys adnabod clefydau ac anhwylderau'r gwallt a chroen y pen), iechyd a diogelwch sylfaenol mewn salonau, sgiliau hanfodol a manwerthu. Wedi cyrraedd lefel 3, byddwch yn cyflawni sgiliau torri uwch, sgiliau steilio, gwallt priodasol, lliwio, iechyd a diogelwch uwch mewn salonau, ymgynghori â chleientiaid, manwerthu, TG a sgiliau cyfathrebu. Fel rhan o'r rhaglen hon, mae'n rhaid i ddysgwyr fynychu lleoliad gwaith mewn sefydliad allanol am o leiaf un diwrnod yr wythnos neu bythefnos gyfan ynghyd â sesiwn fasnachol gyfnos/gyda'r hwyr yn y Coleg.

Rhagolygon gyrfa

Nid oes gan unrhyw ddiwydiant arall alw byd-eang mor gyson am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae'r diwydiant gwallt yn cynnig cyfleoedd gwych gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn a gweithio y tu ôl i'r llenni mewn ffilm, theatr a theledu. Mae hefyd yn cynnig yr annibyniaeth i ddechrau eich salon eich hun. b Gwaith barbwr b Technegwyr lliw b Perchennog salon b Uwch steilydd b Triniwr gwallt priodas b Gweithio ar fordeithiau.

Chwilio NPTC Group


"Yr hyn y gall myfyrwyr ei ddisgwyl gan Academi Lee Stafford yw ryseitiau o ansawdd da sy'n hawdd ac yn arbennig o effeithiol, y gallwch eu defnyddio i fynd allan i'r byd mawr a chael swydd wych."

Lee Stafford

Cyrsiau Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

1

2 TGAU gradd D neu uwch

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

VTCT Diploma mewn Trin Gwallt Menywod

2

Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt, a 2 TGAU gradd D neu uwch

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

VTCT VRQ Diploma mewn Trin Gwallt

3

18 oed neu drosodd ac wedi cyflawni'r Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt.

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Atebion creadigol Trin Gwallt Carlam

1/2

2 TGAU neu gyfweliad llwyddiannus ar gyfer myfyrwyr aeddfed.

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Perchennog Salon hyd at £100k Uwch Steilydd £30k - emsi Triniwr Gwallt Priodasau £34 - £50 y person (heb gynnwys treialon) Barbwr Gall barbwr proffesiynol ennill cymaint â £1,000 yr wythnos

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyflwyniad i Wasanaethau Gwallt a Harddwch

https://www.londonschoolofbarbering.com/much-can-barber-make/

36


Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Mae gan yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant gyrsiau sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion y gymuned yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant poblogaidd hwn. Byddwch yn derbyn hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith ac mae rhai cyrsiau yn eich asesu yn eich gweithle. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ennill profiad o'r diwydiant sy'n hanfodol ar gyfer mynd ymlaen i addysg uwch, yn ogystal â'r cymwysterau cydnabyddedig sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn y diwydiant hwn.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae angen sgiliau cyfathrebu cryf a natur ofalgar ar weithwyr ym maes gofal iechyd. Gellir cyflogi gweithwyr meithrin mewn meithrinfeydd dydd a chanolfannau plant neu gallant ddod yn warchodwyr plant.

37

Mae staff yn yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn arbenigwyr yn y diwydiant yn ogystal â darlithwyr. Mae ein darlithwyr cefnogol a gofalgar yn ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr yn llwyddo.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r holl fyfyrwyr yn cwblhau lleoliad gwaith perthnasol gyda ffocws ar sgiliau cyflogadwyedd a gwella rhifedd a llythrennedd. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i gwblhau cwrs cyfathrebu iaith Gymraeg a gwella eu sgiliau rhyngbersonol trwy weithgareddau grŵp a digwyddiadau codi arian. Mae'r holl fyfyrwyr yn ymgymryd â gwaith elusennol a chodi arian drwy gydol y flwyddyn ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol.

Rhagolygon gyrfa

Gall ein cyrsiau arwain at yrfa fel athro, cynorthwyydd addysgu, ymarferydd gofal plant, therapydd iaith a lleferydd, nyrs, parafeddyg, a gwaith cymdeithasol. Mae llawer yn camu ymlaen i'r nifer fawr o raglenni gradd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn y Coleg cyn dechrau gweithio.

O fewn y cyrsiau ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, bydd unedau dwyieithog ar gael i fyfyrwyr.

Enillion blynyddol cyfartalog

Nyrsio Plant, Oedolion, Iechyd Meddwl £25k - £48k Gwaith Cymdeithasol £23k - £47k

Chwilio NPTC Group

Therapydd Iaith a Lleferydd £24k - £49k Therapi Galwedigaethol £21k - £41k


Llwyddiant Myfyrwyr

Mae'r myfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ffion Jones wedi ennill y Categori Galwedigaethol yn y Gwobrau Addysg Prydain (BEA) clodfawr. Hi oedd y fyfyrwraig gyntaf o Grŵp Colegau NPTC i ennill yn y gwobrau. Mae'r BEA yn nodi ac yn dathlu unigolion sydd wedi rhagori o fewn system addysg Prydain. Wrth wneud hynny, mae'r gwobrau hyn yn cydnabod mai ymdrech a phenderfyniad personol sy'n arwain at lwyddiant.

Enillodd Ffion y wobr o ganlyniad i'w chanlyniadau academaidd gwych a'i llwyddiant allgyrsiol. Cyfunodd astudio gyda dwy swydd ran-amser yn ogystal â bod yn Hyrwyddwr Cyfeillion Dementia, codi arian i'r Gymdeithas Alzheimer, a bod yn Arweinydd Cadetiaid yr Heddlu gyda Heddlu Dyfed Powys. Yn ystod ei hamser fel cadet yng Nghanolfan Sant Ioan, Y Drenewydd, mae hi wedi ymgymryd â lleoliadau gwaith yng Nghartref Nyrsio Bethshan ac Ysbyty'r Drenewydd. Yn ogystal â hyn, mae hi rywsut wedi dod o hyd i'r amser i gwblhau gwobrau efydd ac arian Dug Caeredin ac ennill Rhagoriaeth Serennog Driphlyg gyda phresenoldeb o 100% yn ei BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cyrsiau Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

2

2 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg/Mathemateg a Gwyddoniaeth

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau

3

5 TGAU gradd C mewn Mathemateg, Saesneg Iaith neu Wyddoniaeth

2 Flynedd

Bannau/Y Drenewydd

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Egwyddorion a Chyd-destunau

2

2 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth

Blwyddyn

Y Drenewydd

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori

3

5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith.

2 Flynedd

Bannau/Y Drenewydd

3

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi bod allan o addysg amser llawn am o leiaf 3 mlynedd, Bydd angen i fyfyrwyr gyflawni cyfweliad llwyddiannus.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Mynediad i AU - Gofal Iechyd

Byddwch yn feithringar... gyda gyrfa ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau

38


Celfyddydau Perfformio Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yn cynnig cyrsiau amser llawn mewn Celf a Dylunio, Cynhyrchu'r Cyfryngau a'r Celfyddydau Perfformio wedi'u lleoli yng Ngholeg Y Drenewydd. Addysgir y gwersi mewn amgylchedd creadigol gan ddefnyddio cyfarpar safonol y diwydiant sydd ar flaen y gad o fewn cyfleusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol yn cynnwys Theatr Hafren. Darperir cymorth helaeth un i un gyda cheisiadau ar gyfer conservatoires a'r prifysgolion dawns a chelfyddydau perfformio gorau ac rydym yn sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn barod ar gyfer clyweliadau. Mae ein myfyrwyr yn gwneud cynnydd ac yn bwysicaf oll, maent yn gyflogadwy iawn – rydym yn anelu at helpu nhw i fod yn barod am yrfa!

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae ein cyrsiau yn darparu cyfleoedd cyffrous a heriol drwy hyfforddiant arbenigol mewn cerddoriaeth, cyfansoddi, dawns, drama, canu a theatr gerddorol. Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau perfformio fel rhan o gwmnïau theatr, dawns a cherddoriaeth y Coleg gan ddefnyddio ein stiwdios proffesiynol a Theatr Hafren sydd â'r holl gyfarpar angenrheidiol.

Rhagolygon gyrfa b Actor b Gweinyddwr y celfyddydau b Coreograffydd b Dawnsiwr b Perfformiwr theatr gerddorol b Hyfforddwr Pilates/Ioga b Sgriptiwr b Athro b Cyfarwyddwr theatr.

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

UAL Celfyddydau Perfformio

2

2 TGAU A*-C neu gymhwyster Lefel 1 priodol.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Diploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio

3

5 TGAU gradd A*-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol. Mae profiad blaenorol o berfformio yn ddymunol.

2 Flynedd

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Cyfarwyddwr Celf £23k - £59k Dylunydd Cynnyrch £19k - £46k Actor, Cyflwynydd, Diddanwr £24k - £66k

Er yn ôl cylchgrawn Forbes enillodd George Clooney $239 miliwn yn 2018 - Emsi 39

Chwilio NPTC Group


Plymio a Gosodwaith Trydanol Adeiladu'r Dyfodol

NEWYDD YM Medi 2021, bydd cyfres newydd o gymwysterau yn cael eu cyflwyno ledled Cymru sydd wedi'u datblygu gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well. Nod y newid yw symleiddio'r dirwedd gymhleth o fwy na 400 o gymwysterau mewn adeiladwaith a gwasanaethau adeiladu yng Nghymru a sicrhau eich bod wedi ymbaratoi'n well ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector. Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth o'r diwydiant cyfan ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen i waith o addysg.

Mae gan y diwydiant Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae ar y diwydiant angen nifer fawr o weithwyr wedi'u hyfforddi o'r newydd bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes a chyda chyflogau yn cynyddu ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r diwydiant gwerth chweil hwn.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Cynhelir yr hyfforddiant gan staff cymwys â phrofiad o'r diwydiant sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau'r myfyriwr. Er y byddwch yn astudio crefft drydanol a chrefft blymio yn y lle cyntaf, byddwch yn dewis un llwybr nes ymlaen. Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y gwaith a thechnegau crefft uwch mewn plymio a gosodwaith trydanol. Byddwch hefyd yn dehongli lluniadau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Anogir myfyrwyr hefyd i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.

Asesu

I gyflawni'r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau: b Un prawf amlddewis sydd wedi’i osod yn allanol, a’i farcio yn allanol b Un prosiect yn cwmpasu dau faes crefft, sydd wedi’i osod yn allanol, a’i farcio yn fewnol b Un drafodaeth dan arweiniad sydd wedi’i gosod yn allanol, a’i marcio yn fewnol b Un prawf iechyd a diogelwch sydd wedi’i osod yn allanol, a’i farcio yn fewnol.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae'r Cymhwyster Sylfaen ar gyfer Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu yn gymhwyster newydd sbon lle rydych chi'n astudio dau brofiad crefft: b Plymio a Gwresogi Domestig b Systemau ac offer electro-dechnegol (Gosodwaith Trydanol)

Cynhelir yr hyfforddiant mewn gweithdai eang â'r cyfarpar priodol lle mae gan y myfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.

40


Dilyniant

Gallwch symud ymlaen i raglen amser llawn ail flwyddyn yn y ddau faes crefft neu sicrhau prentisiaeth fel plymwr neu drydanwr a hyrwyddo'ch astudiaethau gyda ni ar hyd un llwybr penodol.

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Mae'n addas ar gyfer: Dysgwyr 16+ oed sy'n gweithio yn y sectorau gwasanaethau peirianneg adeiladu ac adeiladwaith neu'n bwriadu gweithio ynddynt.

Gweithwyr safleoedd sydd am ehangu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau yn y sector yn fwy cyffredinol. Bydd angen i ddysgwyr fod wedi cyflawni, neu fod yn gweithio tuag at eu Sgiliau Hanfodol Lefel 2 Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth). Nid oes unrhyw ofynion mynediad ychwanegol eraill ar gyfer y cymhwyster hwn.

Cyrsiau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

41

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Cymhwyster Sylfaen mewn Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu

2

TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, gradd D neu uwch.

1-2 flynedd

Y Drenewydd

Lefel 1 Diploma mewn Astudiaethau Plymio (Plymio a Gwresogi)

2

TGAU mewn Saesneg / Cymraeg, Mathemateg / Rhifedd A*-C.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Diploma mewn Gosodwaith Trydanol

2

TGAU mewn Saesneg / Cymraeg, Mathemateg / Rhifedd a Gwyddoniaeth A*-D.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Peirianneg Gwasanaethau Trydanol (Gosodwaith a Chynnal a Chadw Trydanol)

3

5 TGAU ar radd C neu uwch

Blwyddyn

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog (Emsi - economicmodeling.com)

Plymiwr £19k - £37k Trydanwr £16k - £38k Gosodwr Panel Solar £25k - £30k

Byddwch yn ymarferol ... gyda gyrfa mewn plymio, ynni trydanol a solar


Coginio Proffesiynol, Celfyddydau Coginio, Lletygarwch a Bwyty A oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ar longau mordeithio, cychod hwylio moethus, gwestai rhyngwladol neu mewn bwytai seren Michelin? Neu efallai y byddwch am sefydlu eich busnes lletygarwch eich hun. Dim ond rhai o'r cyfleoedd a gynigir i chi yn y diwydiant lletygarwch yw'r rhain. Y diwydiant lletygarwch a'r celfyddydau coginio yw un o'r diwydiannau mwyaf yn y DU, gyda chyfoeth o gyfleoedd swyddi ar gael gartref a thramor. Mae llwybrau gyrfaol yn cynnwys cogyddion, gweini bwyd a diod, rheoli gwestai, rheoli digwyddiadau, rheoli bwytai, pobyddion a chogyddion patisserie, arlwyo contract, datblygu cynnyrch a gweithgynhyrchu bwyd.

Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol o weithio yn y ceginau proffesiynol yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith bywyd go iawn mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol. Byddwch yn dysgu oddi wrth staff sefydledig a phrofiadol sy'n gymwysedig ym mhob agwedd ar y diwydiant lletygarwch ac arlwyo.

Rhagolygon gyrfa

Os ydych yn chwilio am yrfa 'ymarferol' gyda chyfleoedd cyflogaeth rhagorol, yna mae lletygarwch yn sicr yn yrfa i chi. Mae gennym gysylltiadau cryf â chyflogwyr lleol a rhyngwladol, ac mae llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr ymgymryd â chyflogaeth ran-amser ochr yn ochr â'u hastudiaethau. Mae gan y Coleg enw da am gynhyrchu myfyrwyr hynod brofiadol a chymwysedig sy'n cael cydnabyddiaeth dro ar ôl tro mewn cystadlaethau coginio ledled y DU. Mae llawer o fyfyrwyr wedi mynd i swyddi ledled y byd yn ogystal â rhai yn cael uwch swyddi mewn sefydliadau lleol.

Enillion blynyddol cyfartalog (Prospects.ac.uk)

Cogydd Commis £12k - £16k Cogydd Sous hyd at £30k Prif Gogydd £25k - £55k Pobydd £14k - £23k (£37k yn Llundain)

Rheolwr Digwyddiadau £33k - £40k+ Rheolwr Bwyty Bwyd Cain £22k - £40k

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae'r Coleg yn cynnal bwyty hyfforddi prysur sy'n cynnig y lefel uchaf o wasanaeth i'r cyhoedd: Themâu. Mae'n darparu theatr fwrdd, gwasanaeth arian a rhost y dydd, wedi'i gerfio wrth y bwrdd ar ein troli arian. Mae pob un o'n safleoedd yn darparu amrywiaeth o gynnyrch lleol gan gynnwys cig eidion ac oen a fagwyd ar fferm y Coleg a llysiau a pherlysiau a dyfir gan yr adran garddwriaeth.

Beth fyddaf yn ei wneud?

42


Llwyddiant Myfyrwyr

Sicrhaodd y myfyriwr o Goleg Y Drenewydd, Alice Yeoman, le yn y rowndiau terfynol cenedlaethol mawreddog yng nghystadlaethau WorldSkills UK a gynhaliwyd yn Birmingham. Llwyddodd y gystadleuaeth i wella llwybr gyrfa Alice, i ddechrau treuliodd hi bedwar mis yn gweithio yng ngheginau prysur Gwesty'r Savoy 5 seren yn y Strand, Llundain, cyn iddi gael ei chyfle anhygoel. Bachodd Alice swydd fel Cogydd Commis yn y bwyty 2 seren Michelin urddasol Le Manoir aux Quat' Saisons yn Swydd Rhydychen, yn gweithio i'r cogydd enwog Raymond Blanc.

Mae Alice hefyd wedi cystadlu'n ddiweddar fel rhan o dîm Coginio Iau Cymru yn yr Olympiad Coginio yn yr Almaen lle enillodd hi fedal arian. Mae Alice yn disgrifio ei thair blynedd yng Ngholeg Y Drenewydd fel 'amhrisiadwy i'w llwyddiant'. Rhoddodd Alice lawer o'i hamser y tu allan i waith coleg a'i swydd yng Ngwesty'r Wynnstay ym Machynlleth i gynllunio ac ymarfer ar gyfer y digwyddiad. Disgrifiodd Alice y digwyddiad gan ddweud: “Mae wedi bod yn brofiad mor anhygoel. Yn anffodus ni wnes i ennill medal y tro hwn ond dwi wedi magu mwy o hyder ynof fi fy hun ac yn fy sgiliau nag erioed o'r blaen ac ar hyd y ffordd dw i wedi gwneud rhai atgofion ffantastig.”

Cyrsiau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

43

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Cyflwyniad i Letygarwch Agored

1

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G VRQ Diploma mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd

1

Yn amodol ar gyfweliad

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G NVQ Tystysgrif mewn Sgiliau Lletygarwch

1

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol

Blwyddyn

Y Drenewydd

FDQ Diploma mewn Sgiliau Pobi y Diwydiant Bwyd

1

Yn amodol ar gyfweliad

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G VRQ Diploma mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd

2

Cymhwyster arlwyo Lefel 1 neu TGAU priodol

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G VRQ Diploma mewn Coginio Proffesiynol

2

Cymhwyster Lefel 1 mewn pwnc perthnasol neu brofiad perthnasol

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G VRQ Diploma Lefel 2 mewn Pobi Proffesiynol (Patisserie a Melysion)

2

Cymhwyster Lefel 1 mewn pwnc perthnasol neu brofiad perthnasol

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G NVQ Diploma mewn Sgiliau Lletygarwch

2

Cymhwyster Lefel 1 mewn pwnc perthnasol neu brofiad perthnasol

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G NVQ Coginio Proffesiynol Uwch

3

Cymhwyster Lefel 2 neu brofiad perthnasol

Blwyddyn

Y Drenewydd


Gwasanaethau Cyhoeddus Mae'r Sector Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yn cynnwys llawer o broffesiynau sy'n amddiffyn ac yn gwasanaethu'r boblogaeth ledled y byd. O achub dringwyr fel rhan o'r tîm Achub Mynydd, cael eu defnyddio yn y fyddin fel meddyg neu fynd i safle damwain fel parafeddyg, heddwas neu ddyn tân, mae'r gweithwyr proffesiynol hyfforddedig hyn yn barod ar gyfer gwasanaeth gweithredol mewn unrhyw argyfwng. Mae llawer o'r darlithwyr Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod ar ddyletswydd weithredol, gan ddefnyddio eu gwybodaeth arbenigol, eu teithiau a'u gweithgareddau i'ch ymgysylltu a sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o'r nifer fawr o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael. Mae'r adran yn cynnal ymweliadau addysgol ar draws y wlad i dynnu sylw at yr amrywiaeth o yrfaoedd posibl sydd ar gael yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai, gan roi i fyfyrwyr ein hethos o 'fwy nag addysg yn unig'.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Coleg Y Drenewydd

Ar gampws y Drenewydd gall y myfyrwyr astudio o'r cwrs cyfun L1 hyd at gwrs L3 UPS sy'n cynnwys y Lefel Uwch ym Magloriaeth Cymru. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn cael eu hysgogi gan amrywiaeth o ddulliau addysgu ac yn yr un modd â Bannau Brycheiniog gallant ddefnyddio'r cefn gwlad o'u hamgylch ar gyfer eu halldeithiau niferus ac ymweliadau a phrofiadau â'r gwasanaethau brys lleol. Mae staff yn meithrin eu datblygiad ac mae llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch neu yrfaoedd addas yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai.

Cyfleoedd Gyrfa

b Byddin b Gwylwyr y Glannau b Gwasanaethau brys b Gwasanaeth tân b Llynges b Swyddog yr Heddlu b Yr Awyrlu Brenhinol

Coleg Bannau Brycheiniog

Mae Coleg Bannau Brycheiniog wedi'i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, amgylchedd anhygoel i fyfyrwyr ymwneud ag ystod eang o weithgareddau gwasanaethau cyhoeddus ochr yn ochr â'u cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus. Cynhelir ymweliadau addysgol a theithiau er mwyn defnyddio harddwch naturiol yr ardal, o sesiynau arwain i adeiladu tîm a thasgau addysg awyr agored. Trefnir ymweliadau â gwasanaethau brys lleol er mwyn cryfhau gwybodaeth y dysgwyr a datblygu'r sgiliau y

Enillion blynyddol cyfartalog

Swyddog y Fyddin £20k Diffoddwr Tân £21k - £36k Parafeddyg £36k Swyddog Heddlu £25k

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Astudiwch yn amser llawn ar y gwahanol gampysau, gan gwblhau eich prif gwrs gan gynnwys llawer o asesiadau rhyngweithiol ac ymarferol, ynghyd ag ymgysylltu â'r llu o weithgareddau sydd ar gael ar draws y campysau.

mae mawr eu hangen er mwyn paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Gellir addysgu rhai modiwlau o'r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau eu hasesiadau yn ddwyieithog lle y bo'n bosibl.

(Cyflog cychwynnol)

Chwilio NPTC Group

44


Ymuno â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Yn ddiweddar croesawodd Coleg y Drenewydd Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn. Ymunodd y Comisiynydd Troseddu â chydweithwyr o'r Uned Plismona Ffyrdd gan ddarparu sesiwn holi ac ateb gyda myfyrwyr Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Yna, aeth i ymweld â myfyrwyr o'r adran Porth i Adran Addysg bellach a gwelodd y gwaith yr oeddent wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar ar y cyd â Chwnstabl Jennings, heddwas lleol. Gwnaethon nhw greu arddangosiad trawiadol iawn i ymgyrchu yn erbyn troseddau casineb. Bu'r grŵp hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr yn adran cyfryngau'r Coleg i greu ffilm fer i godi ymwybyddiaeth o

faterion yn ymwneud â throseddau casineb. Siaradodd y Comisiynydd yn gadarnhaol iawn am eu gwaith da, gan atgyfnerthu'r negeseuon a gwerth yr ymgyrch. Yna, aeth y Comisiynydd i ymweld â Theatr Hafren sydd wedi'i lleoli yng Ngholeg y Drenewydd. Gwelodd drosto'i hun y defnydd a wneir o'r cyfleusterau a oedd yn cael eu defnyddio ar y pryd gan Wasanaeth Gwaed Cymru, ffaith a oedd yn tynnu sylw at y rôl amlbwrpas y mae'r theatr yn ei chyflawni. Aeth Sara Clutton, Rheolwr y Theatr hefyd â'r Comisiynydd ar daith o amgylch y lleoliad gan ddangos ardal y llwyfan iddo a thaith nid i'r rhai gwan eu calon i ben y brigdŵr.

Cyrsiau Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

BTEC Lefel 1 Tystysgrif Gyfun mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai

45

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

1

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol.

BTEC Lefel 2 Tystysgrif Gyfun mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

2

Amrediad priodol o gymwysterau Bannau/Y TGAU A*-E. Cymhwyster Lefel 1 mewn Blwyddyn Drenewydd Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus.

BTEC Cenedlaethol mewn Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai a CBC

3

Cymwysterau TGAU yn unol â gofynion y pwnc a/neu Gymhwyster Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus.

2 Flynedd

Y Drenewydd

Gellir dysgu rhai modiwlau trwy gyfrwng Cymraeg a bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau asesiadau yn ddwyieithog pan fo hynny'n bosibl.

Byddwch yn ddewr ... gyda gyrfa yn yr heddlu, y gwasanaeth tân a'r lluoedd arfog


Chwaraeon

Mae'r diwydiant chwaraeon, hyfforddi a ffitrwydd yn faes prysur, deinamig a ffyniannus gyda galw sy'n cynyddu o hyd am staff cymwysedig, brwdfrydig a phroffesiynol. Mae gan y Coleg enw da sefydledig am lwyddiant mewn chwaraeon, gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn ennill anrhydedd rhyngwladol mewn amrywiaeth eang o gampau yn cynnwys Duncan Jones, Adam Beard, Daniel James a Chelsea Lewis. Rydym yn falch o'n canlyniadau rhagorol, a hynny ar y cae chwaraeon ac oddi arno a'r addysgu o ansawdd uchel sy'n sylfaen i’n llwyddiant. Ynghyd â gofal bugeiliol rhagorol, mae'r adran chwaraeon y Coleg yn ymgorffori’n harwyddair 'mwy nag addysg yn unig'. Mae gan lawer o'r staff chwaraeon brofiad yn chwarae a hyfforddi chwaraeon ar y lefel uchaf sy'n amhrisiadwy wrth ddatblygu galluoedd chwaraeon myfyrwyr.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Coleg Bannau Brycheiniog

Mae'r Academi Chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn defnyddio cyfleusterau Canolfan Hamdden Aberhonddu sy'n cynnwys trac athletau, cae astro turf, neuadd chwaraeon, cyrtiau tennis a phêl-rwyd a phwll nofio. Ar y safle, mae gan yr Academi Chwaraeon ei chae hyfforddi ei hun a chanolfan cryfder a chyflyru o'r radd flaenaf, sydd wedi bod o fudd i ddatblygiad llawer o athletwyr dros y blynyddoedd, er enghraifft Dan Lydiate. Mae cefn gwlad o amgylch Bannau Brycheiniog hefyd yn cynnig llawer o weithgareddau anturus awyr agored fel cerdded mynyddoedd, canŵio a beicio mynydd; gall

Coleg Y Drenewydd

Mae Academi Pêl-droed Coleg y Drenewydd yn hyfforddi ac yn chwarae gemau cartref ar y cae 3G newydd ym Mharc Latham. Rydym hefyd yn defnyddio'r cyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn sy'n cynnwys y neuadd chwaraeon, y cae astroturf, stiwdio ffitrwydd ac ystafell ffitrwydd. b Byddwch yn elwa o staff sy'n ymroddedig i'r proffesiwn chwaraeon. Mae Gareth Watkins yn hyfforddwr pêl-droed gweithredol yn y gymuned ac Andrew Davies yn athletwr presennol tîm Prydain Fawr yn cynrychioli Cymru. b Mae ein partneriaethau â chlybiau busnes a chwaraeon lleol yn darparu cyfleoedd sy'n cyfateb eich cwrs â gyrfaoedd yn y dyfodol yn lleol neu ymhellach i ffwrdd.

Cyfleoedd Gyrfa

Gallai'r ystod eang o gyrsiau yr ydym yn eu cynnig arwain at lawer o yrfaoedd, gan gynnwys hyfforddwr chwaraeon, athro addysg gorfforol, swyddog chwaraeon anabledd, therapydd chwaraeon, dadansoddwr chwaraeon, maethegwr chwaraeon, hyfforddwr campfa neu swyddog datblygu chwaraeon. Mae dilyniant academaidd yn cynnwys addysg uwch yn y Coleg neu mewn sefydliad arall. Gall rhai athletwyr elît ennill ysgoloriaethau i astudio dramor e.e. golff yn America.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Gallwch ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau personol a galwedigaethol a fydd yn sicrhau eich bod yn gallu camu ymlaen tuag at lwybrau mewn cyflogaeth neu gwrs prifysgol addas.

pob myfyriwr gymryd rhan ar y cyd mewn gweithgareddau amrywiol naill ai fel rhan o'u cwrs, drwy'r rhaglen gyfoethogi neu'r cymhwyster Dug Caeredin sydd newydd ei sefydlu. Mae darlithwyr yn hyfforddwyr cymunedol sy'n cynnig hoci a gymnasteg, gyda Rhian Davies yn chwarae hoci dros Feistri Cymru. Gellir addysgu rhai modiwlau o'r BTEC Diploma Cenedlaethol Estynedig Lefel 3 mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon a CBC trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd modd i fyfyrwyr gwblhau eu haseiniadau yn ddwyieithog lle y bo'n bosibl.

46


Cyrsiau Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Tystysgrif Gyfun BTEC mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

1

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol.

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

BTEC Cyfun Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

2

Y detholiad priodol o TGAU Graddau A*-E. Cymhwyster Lefel 1 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus.

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon gyda CBC

3

4 TGAU (neu gyfwerth) ar radd C neu'n uwch i gynnwys Saesneg neu Fathemateg.

2 Flynedd

Bannau/Y Drenewydd

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Enillion blynyddol cyfartalog

47

Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru £17k - £45k Athro Addysg Gorfforol Ysgol Uwchradd £25k+ Swyddog Datblygu Chwaraeon £18-£23k Hyfforddi Chwaraeon £15-25k

Gwyddor Chwaraeon £20k - £30k

Os ydych yn gweithio mewn gwyddor chwaraeon proffil uchel, gall eich cyflog fod yn fwy na £60,000 a gall gyrraedd hyd at £100,000*

Swyddog 5x30 £20k Ffisiotherapydd £24-43k Dadansoddwr Chwaraeon £24-43k


Llwyddiant Myfyrwyr Cyflawnodd Courtney Ashworth Sêr Rhagoriaeth Driphlyg (D* D* D*) ac mae'n mynd i astudio Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndwr. Cyflawnodd Owen Brunt Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*). Dywedodd Owen, 'Gweithiais yn galed iawn am y graddau a enillais ac rwy'n falch o gael lle yn Met Caerdydd i wneud Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon'. Cyflawnodd Elis Tudor Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*). Mae Elis wedi derbyn ysgoloriaeth o ganlyniad i'w graddau ac mae'n mynd i Brifysgol Aberystwyth i wneud Addysg Gynradd gan arwain at SAC.

Iwan Evans yn gadael tîm Cymru i ymuno â thîm beicio yr Iseldiroedd.

Iwan Evans a Caine Ballentine Price yn cwblhau CBC yn Ysgol Y Bannau.

mwyafrif o unedau ond hefyd yn ennill dwy fedal arian ym Mhencampwriaethau Karate Cymru yn ddiweddar. Un mewn kumite ieuenctid unigol a'r llall yn kumite tîm y dynion. Bu hefyd yn cystadlu dros Gymru eleni yn Serbia. Mae Jack yn llysgennad chwaraeon rhagorol i'r Coleg, ar ôl derbyn ysgoloriaeth yn ei flwyddyn gyntaf am ei ragoriaeth ac mae wedi mynd ymlaen i arwain gweithgareddau yn y diwydiant chwaraeon a gwasanaeth cyhoeddus. Model rôl go iawn o fewn y gymuned! Da iawn i dîm traws gwlad Grŵp Colegau NPTC, Finley

Hines, Sam Lennox, Tom Callard, James Fishlock ac Evan Price-Davies am ennill digwyddiad Tîm Rhyng-ysgolion Cymru yn Aberhonddu.

Yn Her y Barcud Coch ym Mhontarfynyach, gorffennodd Evan Price-Davies yn y pedwerydd safle ar ôl bod 10 eiliad ar y blaen a dal i lwyddo i fachu Aur dan 20 ym Mhencampwriaethau Cymru. Da iawn.

Byddwch yn egnïol ... gyda gyrfa mewn chwaraeon, hyfforddi a ffitrwydd. Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Prys Eckley a Conor Drain yn derbyn grantiau.

Jack Jones yn gorffen gyda Rhagoriaethau yn y

48


Bywyd yn y Coleg:

Creu eich Profiad eich Hun Cymorth i Fyfyrwyr

Mae pob myfyriwr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn bwysig i ni ac rydym yn mynd yr ail filltir i sicrhau bod yr amser yr ydych yn ei dreulio yn y Coleg yn cefnogi eich anghenion unigol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth sy'n cynnwys: b Derbyniadau b Gyrfaoedd b Cydraddoldeb ac amrywiaeth b Cyllid myfyrwyr b Cwnsela proffesiynol a llesiant b Diogelu b Cymorth arbenigol i blant sy'n derbyn gofal b Cymorth astudio i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac/neu anableddau Os ydych yn teimlo y gallech elwa o gael cymorth ychwanegol pan fyddwch yn dod i'r coleg dywedwch wrthym am hyn ar eich ffurflen gais.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'n tîm Cymorth Myfyrwyr ar: Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614400 Coleg Y Drenewydd: 01686 614299

49

Undeb Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC Mae Undeb y Myfyrwyr yn cael ei rhedeg gan y myfyrwyr, ar gyfer y myfyrwyr. Eu rôl yw sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed ar lefel uwch reolwyr, gwrando ar fyfyrwyr o bob rhan o'r Colegau, cynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd drwy'r flwyddyn, eich helpu i gwrdd â phobl newydd, a chreu cymuned o fyfyrwyr cynhwysol a chyfeillgar. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â student-union@nptcgroup.ac.uk

Ffioedd Coleg, Costau a Chyllid Costau addysgu

Nid yw'r Coleg yn codi ffioedd addysgu am gyrsiau amser llawn ond mae'n ofynnol i bob myfyriwr dalu ffi weinyddol na ellir ei had-dalu wrth ymrestru.

Costau ychwanegol

Efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd disgwyl i'r myfyrwyr hynny dalu'r costau hyn.

Cymorth ariannol

Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i wneud bywyd myfyrwyr ychydig yn haws ar eich poced. Mae'r rhain yn cynnwys: b Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) b Grant Dysgu Llywodraeth Cymru b Cronfa Ariannol Wrth Gefn Am ragor o wybodaeth, ffoniwch: Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd: 01686 614599

TOTUM, cerdyn disgownt

myfyrwyr #1 y DU. Mae'r holl fyfyrwyr dros 16 sy'n astudio mwy na 10 awr yr wythnos yn gallu prynu cerdyn TOTUM. Lawrlwythwch yr ap TOTUM heddiw yn rhad ac am ddim ac yna gallwch ddatgloi gwerth blwyddyn lawn o ostyngiadau am £12. Mae TOTUM yn rhoi bargeinion i chi drwy gydol y flwyddyn fel 10% oddi ar ASOS, 12% oddi ar cardiau rheilffordd 16-25, llwythi o ddisgowntiau Apple, gostyngiadau bwyd a diod, a 2 am 1 ar eich dwy wers yrru gyntaf gyda RED Driving School. Lawrlwythwch yr ap heddiw a gweld beth sydd ar gael! www.totum.com


O Ddifri am Chwaraeon

Mae gan fyfyrwyr hefyd fynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel ym myd pêl-droed, pêl-rwyd, hoci a rygbi. Cyflwynir sesiynau hyfforddi fel rhan o raglen y Coleg ac maent yn ymwneud â datblygu technegau, sgiliau a thactegau ar lefel unigolyn, uned a thîm. Lle na ddarperir disgyblaeth chwaraeon benodol, mae cysylltiadau â chlybiau a sefydliadau lleol yn darparu'r arbenigedd hyfforddi. Mae gan y Coleg record o lwyddiant chwaraeon wrth ennill pencampwriaethau cenedlaethol mewn amrywiaeth o chwaraeon a gall hefyd frolio 50+ o gapiau rhyngwladol ar draws ystod o chwaraeon: jiwdo, tenis bwrdd, hoci, rygbi, pêl-rwyd, pêl-droed, hwylio, beicio mynydd a badminton. Os ydych o ddifri am chwaraeon, fel rhan o'r Academi Chwaraeon byddwch yn elwa o'r canlynol: b rhaglen hyfforddi strwythuredig sy'n cael ei goruchwylio gan hyfforddwyr profiadol; perfformiad personol sy'n cael ei fonitro'n rheolaidd gan ein tîm b cynllunnir sesiynau hyfforddi a darlithoedd i osgoi gwrthdaro diangen b y cyfle i gystadlu yn nhimau chwaraeon llwyddiannus Grŵp Colegau NPTC b bod yn rhan o gynlluniau hyfforddi cenedlaethol ar gyfer eich dewis chwaraeon. Os ydych yn cystadlu'n rheolaidd mewn camp ar gyfer timau clwb, sir neu genedlaethol ac â diddordeb mewn ymuno â'n Hacademïau Chwaraeon, cysylltwch â: www.nptcgroup.ac.uk

Llwyddiant Chwaraeon RYGBI b b b b b

Enillwyr Cwpan Ysgolion Cymru (8 gwaith) Enillwyr Cwpan Colegau Cymru (19 gwaith) Enillwyr Cwpan Colegau Prydain Enillwyr Rosslyn Park 7s Enillwyr Coleg Super 15s

Myfyrwyr Rhyngwladol b b b b b b b

Ashley Beck Adam Beard James King Dafydd Howells Darren Morris Leigh Davies Craig Mitchell

b b b b b b

Justin Tipuric James Hook Eli Walker Adam Jones Spencer John Arwel Thomas

b b b b b b

Dan Lydiate Lloyd Peers Dan Baker Duncan Jones Paul James Gwyn Jones

PÊL-RWYD

b Pencampwyr Cynghrair Colegau Cymru b Rownd Derfynol yn y Cwpan British Knock-out

Myfyrwyr Rhyngwladol b Helen Jones (Case) b Chelsea Lewis

b Amanda Cooper b Nicola James

PÊL-DROED

b Pencampwyr Cynghrair Cymru 2010-2011 a 2012-2013 b Pencampwyr Cymru 5 bob ochr 2013-2014 b Ail yn y Bencampwriaeth Gymreig 5 bob ochr 2011-2012

a 2012-2013

Myfyrwyr Rhyngwladol b Daniel James b Connor Roberts

b Ben Davies b Joe Rodon

b Joe Allen b Jazz Richards

GEMAU PARALYMPAIDD b Rob Davies (Tenis Bwrdd)

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

50


Dan Lydiate

Y Gweilch, Cymru, Llewod Prydain ac Iwerddon Roedd y cyn-fyfyriwr Chwaraeon Dan Lydiate yn fyfyriwr BTEC Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Lefel 3 yng Ngholeg Powys. Yn fab i ffermwr lleol o Abaty Cwm Hir, Llandrindod, aeth ymlaen i astudio Gradd Sylfaen mewn Cryfder a Chyflyru yng Ngholeg Bannau Brycheiniog. Yn flaenasgellwr talentog, symudodd ymlaen i yrfa rygbi broffesiynol gan ymuno â Dreigiau Casnewydd lle, yn ei flwyddyn gyntaf, cafodd ei gapio gyda Chymru dan 20 oed. Enwyd Dan yng ngharfan Genedlaethol Cymru ar gyfer cyfres ryngwladol Tachwedd 2009, gan ymddangos am y tro cyntaf fel eilydd yn yr ail hanner yn erbyn yr Ariannin ar 21 Tachwedd 2009.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Dechreuodd ei gêm brawf gyntaf fel blaenasgellwr ar 28 Tachwedd 2009 ac ar ôl hynny cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2010. Yna ymunodd â XV cyntaf Cymru yng ngemau rhyngwladol yr hydref y flwyddyn honno, gan ddechrau yn erbyn Awstralia, Seland Newydd a Fiji, y gêm lle enillodd wobr Chwaraewr y Gêm yn gwisgo'r crys Rhif 7 am y tro cyntaf yn ogystal â chael ei enwi yn y tîm i wynebu De Affrica. Chwaraeodd bob gêm yn ymgyrch Pencampwriaeth Chwe Gwlad Cymru 2011 yn ogystal â phob un o'r pedair gêm gynhesu. Ym mis Awst 2011, cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd. Roedd hefyd yn ddiweddarach yn aelod o garfan Cwpan y Byd 2015 yn Lloegr. Chwaraeodd yn nwy gêm agoriadol Cymru yn erbyn De Affrica a Samoa, ynghyd â chwarae rhan allweddol ym muddugoliaeth Cymru dros Iwerddon yn y rownd gogynderfynol. Gorffennodd o drwch blewyn o flaen ei gyd-aelod o dîm Cymru a’r Dreigiau, Toby Faletau, i gipio teitl taclwr gorau’r twrnamaint. 51

Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012, derbyniodd wobr Chwaraewr y Twrnamaint ar ôl chwarae ym mhob gêm ar wahân i'r un agoriadol yn erbyn Iwerddon a derbyn gwobrau Chwaraewr y Gêm. Yn yr union flwyddyn hon y cafodd ei enwebu hefyd ar gyfer gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru. Ym mis Ebrill 2013, fe'i enwyd yn y garfan ar gyfer taith Llewod Prydain ac Iwerddon 2013 i Awstralia. Gadawodd Dreigiau Casnewydd Gwent ar ddiwedd tymor 2012/13 i ymuno â’r clwb Racing Métro 92 cyn dod yn aelod o'r Gweilch yn 2014, y mae eu maes hyfforddi, mewn gwirionedd, yw Academi Chwaraeon Llandarcy y Coleg. Roedd wedi bod o dan adain y cyn Ddarlithydd Chwaraeon Chay Billen ers yn 14 oed pan weithiodd gydag ef fel chwaraewr Powys dan 14 oed. Mae'n dal i ddefnyddio'r cyfleusterau hyfforddi rhagorol yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn rheolaidd pryd bynnag y mae ei amserlen hyfforddi yn caniatáu. Wrth siarad am ei amser yn y Coleg dywedodd Dan Lydiate:

“Heb raglen cryfder a chyflyru’r coleg ni fyddwn wedi gallu cyflawni’r lefelau hyn, dyna wnaeth y gwahaniaeth, ac mae cystal ag unrhyw system yn y byd rygbi proffesiynol.’’


ru #Ca raeg Cym

ve #Lo h s Wel

Cymraeg yn y Coleg Rydym am roi cyfle i bob darpar entrepreneur wireddu ei freuddwydion busnes. Mae'r tîm Menter a Chyflogadwyedd yn darparu cymorth proffesiynol i fyfyrwyr sy'n sefydlu eu busnes eu hunain, gan gynnwys cymorth gyda: b Cymorth ac arweiniad busnes b Mynediad i weithdai hyfforddi arbenigol.

Mae'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhan bwysig o ethos Grŵp Colegau NPTC. Mae'r Coleg yn ymwybodol o sut y gall bod yn ddwyieithog fod o fudd i fyfyrwyr mewn addysg, y gweithle ac mewn bywyd bob dydd. Mae'r ddarpariaeth yn ehangu ar draws llawer o'n meysydd pwnc, gan roi'r cyfle a'r dewis i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog yn yr ystafell ddosbarth neu ar eich lleoliad gwaith.

Rydym yma i'ch cefnogi os ydych yn dymuno cael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg, astudio yn Gymraeg, cwblhau eich aseiniadau yn Gymraeg, sefyll eich arholiadau yn Gymraeg neu dderbyn deunyddiau ac adnoddau eich cwrs yn Gymraeg yn ystod eich astudiaethau yn ein Coleg... chi piau'r dewis. Byddwn hefyd yn eich annog fel myfyriwr di-Gymraeg neu ddysgwr Cymraeg i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg, gan roi gwell cyfleoedd cyflogaeth i chi yn y dyfodol. Os nad ydych yn dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ond eisiau cynnal eich sgiliau iaith Gymraeg, peidiwch â phoeni; rydym yn trefnu llawer o weithgareddau hwyliog drwy gydol y flwyddyn a fydd yn rhoi'r cyfle i chi ddefnyddio eich Cymraeg beth bynnag yw eich lefel iaith... Peidiwch â bod yn swil – Siaradwch Gymraeg!

BAROD AM YRFA

Mae Barod am Yrfa yn cyflwyno Sesiynau Cyflogadwyedd i fyfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Bydd myfyrwyr y Coleg hefyd yn cael cymorth gyda: b Lleoliadau profiad gwaith b Ysgrifennu CV b Ffurflenni cais b Cyfweliadau b Dod o hyd i swydd ran-amser i gyd-fynd â'ch astudiaethau.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: cymraeg@nptcgroup.ac.uk

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae CENTERPRISE yn falch o gynnig menter newydd i helpu eich myfyrwyr i baratoi ar gyfer byd gwaith.

Mae'r symbol hwn ar dudalennau cwrs yn nodi y gellir cynnal rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg - cysylltwch â 01639 648409 am wybodaeth

Am ragor o fanylion cysylltwch â ni ar:

01686 614533

52


Ymunwch â ni i astudio graddau a chyrsiau prifysgol ar garreg eich drws yng Ngrŵp Colegau NPTC  Lleol  Hyblyg

Rydym yn:

 Fforddiadwy  Cefnogol

Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o fod wedi datblygu nifer o raglenni gradd eang eu natur mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau addysg uwch o fri.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae pob un o'n cyrsiau addysg uwch wedi eu cynllunio gyda'ch cyflogaeth a'ch gyrfaoedd yn y dyfodol mewn golwg ac awn ati i roi'r profiad a'r wybodaeth orau i'n myfyrwyr i'w paratoi ar gyfer byd gwaith.

53

Rydym yn falch iawn o ansawdd ein cyrsiau a'r staff sy'n eu haddysgu. Mae gennym rai o'r arbenigwyr blaenllaw yn eu maes, sydd wedi dewis gweithio yng Ngrŵp Colegau NPTC er lles ein myfyrwyr - felly manteisiwch ar y cyfle hwn! Mae gennym gyrsiau sy'n cwmpasu llawer o bynciau, cyrsiau amser llawn a rhai rhanamser.

Rydym yn cynnig cyrsiau, ar bob lefel, ar draws amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:

 Amaethyddiaeth  Celf a Dylunio  Busnes a Rheolaeth  Cyfrifiadura  Adeiladwaith  Peirianneg  Iechyd, Gofal Cymdeithasol

a Gofal Plant  Lletygarwch  Cerddoriaeth  Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus  Addysgu  Teithio a Thwristiaeth

Am wybodaeth fanylach am ein cyrsiau, ewch i'n gwefan.

www.nptcgroup.ac.uk


Nosweithiau Agored b Coleg Bannau Brycheiniog

13 Hydref 2020 24 Tachwedd 2020 13 Ionawr 2021 22 Mawrth 2021 23 Mehefin 2021

Ffôn: 01686 614400

b Coleg Y Drenewydd

13 Hydref 2020 25 Tachwedd 2020 14 Ionawr 2021 13 Mehefin 2021 (Dydd Sul Fferm Agored) 23 Mawrth 2021 24 Mehefin 2021

Ffôn: 01686 614200

Chwilio NPTC Group

Eich Coleg Eich Dewis


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 21/22 - Coleg Y Drenewydd, Coleg Bannau Brycheiniog by NPTC Group of Colleges - Issuu