
3 minute read
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant


Mae gan yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant gyrsiau sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion y gymuned yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant poblogaidd hwn. Byddwch yn derbyn hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith ac mae rhai cyrsiau yn eich asesu yn eich gweithle. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ennill profiad o'r diwydiant sy'n hanfodol ar gyfer mynd ymlaen i addysg uwch, yn ogystal â'r cymwysterau cydnabyddedig sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn y diwydiant hwn.
Mae angen sgiliau cyfathrebu cryf a natur ofalgar ar weithwyr ym maes gofal iechyd. Gellir cyflogi gweithwyr meithrin mewn meithrinfeydd dydd a chanolfannau plant neu gallant ddod yn warchodwyr plant.
Mae staff yn yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn arbenigwyr yn y diwydiant yn ogystal â darlithwyr. Mae ein darlithwyr cefnogol a gofalgar yn ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr yn llwyddo.
O fewn y cyrsiau ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, bydd unedau dwyieithog ar gael i fyfyrwyr. Beth fyddaf yn ei wneud? Mae'r holl fyfyrwyr yn cwblhau lleoliad gwaith perthnasol gyda ffocws ar sgiliau cyflogadwyedd a gwella rhifedd a llythrennedd. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i gwblhau cwrs cyfathrebu iaith Gymraeg a gwella eu sgiliau rhyngbersonol trwy weithgareddau grŵp a digwyddiadau codi arian. Mae'r holl fyfyrwyr yn ymgymryd â gwaith elusennol a chodi arian drwy gydol y flwyddyn ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol.
Rhagolygon gyrfa Gall ein cyrsiau arwain at yrfa fel athro, cynorthwyydd addysgu, ymarferydd gofal plant, therapydd iaith a lleferydd, nyrs, parafeddyg, a gwaith cymdeithasol. Mae llawer yn camu ymlaen i'r nifer fawr o raglenni gradd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn y Coleg cyn dechrau gweithio.
Enillion blynyddol cyfartalog Nyrsio Plant, Oedolion, Iechyd Meddwl £25k - £48k Gwaith Cymdeithasol £23k - £47k Therapydd Iaith a Lleferydd £24k - £49k Therapi Galwedigaethol £21k - £41k

Llwyddiant Myfyrwyr Mae'r myfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ffion Jones wedi ennill y Categori Galwedigaethol yn y Gwobrau Addysg Prydain (BEA) clodfawr.
Hi oedd y fyfyrwraig gyntaf o Grŵp Colegau NPTC i ennill yn y gwobrau.
Mae'r BEA yn nodi ac yn dathlu unigolion sydd wedi rhagori o fewn system addysg Prydain. Wrth wneud hynny, mae'r gwobrau hyn yn cydnabod mai ymdrech a phenderfyniad personol sy'n arwain at lwyddiant.

Enillodd Ffion y wobr o ganlyniad i'w chanlyniadau academaidd gwych a'i llwyddiant allgyrsiol. Cyfunodd astudio gyda dwy swydd ran-amser yn ogystal â bod yn Hyrwyddwr Cyfeillion Dementia, codi arian i'r Gymdeithas Alzheimer, a bod yn Arweinydd Cadetiaid yr Heddlu gyda Heddlu Dyfed Powys. Yn ystod ei hamser fel cadet yng Nghanolfan Sant Ioan, Y Drenewydd, mae hi wedi ymgymryd â lleoliadau gwaith yng Nghartref Nyrsio Bethshan ac Ysbyty'r Drenewydd. Yn ogystal â hyn, mae hi rywsut wedi dod o hyd i'r amser i gwblhau gwobrau efydd ac arian Dug Caeredin ac ennill Rhagoriaeth Serennog Driphlyg gyda phresenoldeb o 100% yn ei BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cyrsiau
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau 2 2 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg/Mathemateg a Gwyddoniaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau 3 5 TGAU gradd C mewn Mathemateg, Saesneg Iaith neu Wyddoniaeth Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Egwyddorion a Chyd-destunau 2 2 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori 3 5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith. Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd Mynediad i AU - Gofal Iechyd 3 wedi bod allan o addysg amser llawn am o leiaf 3 mlynedd, Bydd angen i fyfyrwyr gyflawni cyfweliad llwyddiannus. Byddwch yn feithringar...
Hyd
Blwyddyn
2 Flynedd
Blwyddyn
2 Flynedd
Blwyddyn
Lleoliad Bannau/Y Drenewydd Bannau/Y Drenewydd
Y Drenewydd
Bannau/Y Drenewydd
Y Drenewydd