
3 minute read
Eich Cais
Eich Taith
Gwneud Cais am gwrs 1 Gwneud cais ar-lein yn: www.nptcgroup.ac.uk Ewch i'r bar chwilio a theipio un o'r pynciau yr ydych am wneud cais amdano e.e. Gwaith brics, Dawns, Chwaraeon neu Drin Gwallt. Cliciwch ar y botwm 'Dod o Hyd i Gwrs a Gwneud Cais' gwyn ar yr ochr dde i ddechrau eich cais.
Eich Coleg
Croeso i'r system ymgeisio arlein yma yng Ngrŵp Colegau NPTC. O drefnu dyddiadau ar gyfer cyfweliadau i ymchwilio i'r cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi a chwblhau'r ffurflen gais mae gennych y gallu i reoli pob cam o'ch taith. Gallwch hefyd fewngofnodi i'ch cyfrif unrhyw bryd i weld lle'r ydych yn y broses. Cwrs Iawn, Dewis Iawn! Gyda chynifer o ddewisiadau ar gael, deallwn y gall ddod at benderfyniad fod yn anodd. Rydym yma i'ch cefnogi drwy'r broses p'un a yw'n gyrsiau galwedigaethol neu brentisiaeth! Felly sut ydych yn dewis? Gallwch ddarllen ein prosbectws cyrsiau amser llawn i ymchwilio i’ch opsiynau, pori ein gwefan ar gyfer syniadau, dod i ddiwrnod agored, neu fanteisio ar ein ap gyrfa anhygoel o'r enw 'Career Coach'. CADW MEWN CYSYLLTIAD Drosodd atoch chi nawr i gael y graddau sydd eu hangen arnoch – os byddwch ar unrhyw gam yn newid eich meddwl am y cwrs yr ydych wedi dewis ei astudio, neu os nad ydych yn cael y graddau angenrheidiol, peidiwch â chynhyrfu! Cofiwch ein bod yn wastad yma i'ch helpu. Peidiwch ag anghofi o bod modd i chi newid eich dewis gwrs ar unrhyw gam yn y broses, hyd at ymrestru. Pob lwc yn eich arholiadau TGAU, welwn ni Os mai hwn yw'r tro cyntaf i chi wneud cais i’r Coleg, bydd angen i chi greu cyfrif Prospect felly gwnewch yn siŵr fod cyfeiriad e-bost gennych yn barod.
Defnyddir eich enw defnyddiwr i ffurfi o rhan gyntaf eich cyfeiriad bost (cyn y @).
Rhaid i’r cyfrinair gynnwys o leiaf naw nod a chynnwys o leiaf un brifl ythyren, un llythyren fechan ac un rhif. Unwaith eich bod wedi llenwi’r ffurfl en ac wedi clicio cofrestru, bydd ffenestr naid yn ymddangos gyda’ch enw defnyddiwr arni - ond byddwch hefyd yn derbyn cadarnhad trwy e-bost. Unwaith y byddwch wedi clicio ar gofrestru gallwch barhau â’ch cais. Mae gofyn i chi lenwi bob cam un ar ôl y llall. Os ar unrhyw adeg mae angen unrhyw help arnoch mae staff y Coleg bob amser wrth law i helpu dros y ffôn, trwy e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol! Ffôn: 01639 648000 E-bost: admissions@nptcgroup.ac.uk Gallwch stopio ar unrhyw bryd a bydd y cais yn cael ei gadw. I fewngofnodi unwaith eto ewch i hafan y Coleg. Lleolir y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen. 2 Trefnu eich cyfweliad Rhaid i chi ddewis eich dyddiad i ddod i mewn i’r Coleg ar gyfer chi ym mis Medi!
cyfweliad o’r opsiynau sydd ar gael. Mae cyfweliad yn gyfl e i chi a’ch rhieni/gwarcheidwaid ddod i siarad â ni, dysgu am y Coleg a chael rhagor o wybodaeth am y pynciau neu’r cyrsiau yr ydych wedi dewis eu hastudio. 3 Cynnig amodol Wedi i chi drafod ein gofynion mynediad yn eich cyfweliad, a dewis y cwrs yr ydych am ei astudio byddwn yn rhoi eich cynnig amodol ar Prospect, y gallwch ei dderbyn ar unwaith. 4 Dod o hyd i’ch cais Os oes angen i chi ail-fewngofnodi i’ch cyfrif rywbryd - fe welwch y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen hafan. Bydd modd i chi weld pa gam yn y broses ymgeisio yr ydych wedi ei gyrraedd wrth edrych ar eich hafan!
Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru
Bydd Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru ar Safon Uwch yn galluogi myfyrwyr Lefel 3 i gyfnerthu a datblygu eu sgiliau hanfodol, eu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol a hyrwyddo a meithrin sgiliau ymchwil ar lefel uchel. Gan adeiladu ar gyflawniadau ar lefel 2, bydd y cymhwyster yn helpu i ddatblygu sgiliau, priodoleddau ac ymddygiadau mwy cymhleth. Bydd yn darparu profiadau a fydd yn eich arfogi ar gyfer y brifysgol, hyfforddiant pellach neu gyflogaeth.
"Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru) yn anarferol fel cymhwyster y mae ei gynnwys yn cael ei arwain i raddau helaeth gan y myfyrwyr eu hunain. Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr yr hunangymhelliant, chwilfrydedd a'r meddwl annibynnol y mae'r dull hwn o ddysgu yn datblygu. Y nodweddion hyn, ynghyd â thair Safon Uwch ardderchog, yw'r hyn yr ydym yn chwilio amdano mewn prifysgolion cystadleuol fel Rhydychen." Dr Matthew Williams, Cymrawd Mynediad a Datblygu Gyrfa yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.