
5 minute read
Prentisiaethau
MAE'N TALU I DDYSGU
Os nad yw astudio'n amser llawn yn mynd â'ch bryd, yna efallai mai dysgu seiliedig ar waith yw'r union beth i chi. Mae rhaglenni at ddant pawb! Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhoi'r cyfle i chi ennill profiad mewn swydd go iawn, yn ogystal â chyflawni cymwysterau swydd-benodol ac ennill arian ar yr un pryd. Mae'r cyfleoedd yn amrywio yn dibynnu ar y rhaglen.
Dyma'r llwybrau: b Cyfrifeg b Mecaneg Amaethyddol b Gweinyddiaeth Busnes b Adeiladwaith b Gwasanaethau Cwsmeriaid b Lletygarwch ac Arlwyo b Manwerthu b Atgyweirio Cyrff Cerbydau
b b b
b b b b Amaethyddiaeth Gofal Gofal Plant a Gwaith Chwarae Peirianneg Cerbydau Modur Arwain Tîm Rheolaeth.
Hyfforddeiaethau Mae hyfforddeiaeth yn rhaglen hyfforddi i fyfyrwyr 16 i 18 oed sy'n canolbwyntio ar ddarparu: b Sgiliau cyflogadwyedd b Cyfle i roi cynnig ar wahanol swyddi b Mynediad i brofiad gwaith o ansawdd uchel.
Beth yw manteision ymgymryd â hyfforddeiaeth? b Lwfans hyfforddi wythnosol b Teithio â chymhorthdal b Meithrin profiad hanfodol gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol b Cyfle i wella sgiliau Saesneg a Mathemateg b Adeiladu hyder b Gwella eich rhagolygon hirdymor a'ch potensial i ennill cyflog.
Ar ddiwedd yr hyfforddeiaeth bydd modd i chi: b Symud ymlaen i hyfforddeiaeth neu brentisiaeth lefel 1 b Camu ymlaen i gwrs academaidd b Cyflawni gwaith gwirfoddol b Dilyn dewis gyrfa amgen.
Pam dod yn Brentis?
b b
b b Ennill cyflog wrth ddysgu - cael eich talu Ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad ac wynebu heriau newydd Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol Cyfleoedd rhagorol o ran dilyniant.
Pa fathau o brentisiaethau sydd ar gael? b Mae tri math o brentisiaethau y gallwch wneud cais amdanynt, yn dibynnu ar sgiliau a chymwysterau cyfredol: b Prentisiaeth Sylfaen - Lefel 2 b Prentisiaeth - Lefel 3 b Prentisiaeth Uwch - Lefel 4+.
Prentisiaethau Byddwch yn mynychu lleoliad gyda chyflogwr ac o bosibl yn mynd i'r Coleg am un diwrnod yr wythnos. Byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle a chewch eich helpu i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich portffolio.
Mae prentisiaeth yn rhaglen seiliedig ar waith lle y gallwch ennill cyflog wrth ddysgu. Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod yn 16 oed neu’n hŷn a heb fod mewn addysg amser llawn, gallwch wneud cais am brentisiaeth.
Prentisiaethau Gradd Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Grŵp Colegau NPTC wedi cael cyllid yn ddiweddar o dan y Rhaglen Beilot Prentisiaethau Gradd newydd ar gyfer Cymru. Gan adlewyrchu anghenion sgiliau Cymru, gofynnwyd i brifysgolion a sefydliadau dyfarnu graddau eraill ddylunio cyfres newydd o raglenni digidol i alluogi sefydliadau yng Nghymru i wella sgiliau eu gweithwyr presennol neu recriwtio talent newydd mewn meysydd megis peirianneg meddalwedd, seiberddiogelwch a gwyddor data ar gyfer y fframwaith prentisiaethau gradd digidol newydd.
A oes gennych ddiddordeb? Cysylltwch â'r tîm: Coleg Y Drenewydd: 01686 614253 neu anfonwch e-bost: pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk
Academi Prentisiaethau Newydd i Lunio Dyfodol Gofal Iechyd ym Mhowys

Rhoddodd Bwrdd Addysgu Iechyd Powys (BAIP) a Grŵp Colegau NPTC groeso cynnes i'w brentisiaid Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd cyntaf wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfaoedd newydd o fewn y GIG.
Maent yn rhan o grŵp o weithwyr ifanc sydd newydd ymuno â'r Bwrdd Iechyd yn ystod ei cyfnod llwyddianus cychwynnol o recriwtio prentisiaid.
Nod academi prentisiaeth y bwrdd iechyd, mewn partneriaeth â thîm Dysgu Seiliedig ar Waith Hyfforddiant Pathways y Colegau, yw recriwtio staff a rhoi iddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad ar gyfer dechrau eu taith i fod yn nyrs.
Mae'r ddau brentis yn gweithio ar draws Ysbyty Aberhonddu tra'n astudio ar gyfer cymhwyster lefel 2 a gydnabyddir yn genedlaethol mewn Gofal Iechyd Clinigol trwy’r rhaglen brentisiaeth Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd.
Roedd gan y prentisiaid Kristy Abbott a Shannon Brewer hyn i’w ddweud: “Rydym newydd gwblhau rhaglen gynefino ddwys am bythefnos ac wedi dysgu cynifer o sgiliau newydd y gallwn eu rhoi ar waith yn awr yn ystod ein hwythnos gyntaf ar y wardiau. Rydym mor falch o gael y cyfle hwn a byddem yn argymell i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes iechyd i ddilyn y trywydd hwn.”
Meddai Katelyn Falvey, Pennaeth Addysg Glinigol i BAIP: “Rwyf mor gyffrous am ddatblygu prentisiaethau Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yn y Bwrdd Iechyd. Rydym yn gallu cynnig i bobl Powys gyfleoedd gyrfaol a all fynd â nhw ar daith datblygu gyrfa o'r prentis hyd at y nyrs gofrestredig. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein staff a dyma'r cam cyntaf ar yr ysgol yrfaol i 'Dyfu ein rhai ein hunain' ym Mhowys.”
Bydd y prentisiaethau newydd yn helpu i wneud y gorau o weithlu a gynorthwyir a gall wella'r gofal i gleifion drwy ddangos ymrwymiad i lwybr gyrfa; darparu cyfleoedd a chydnabyddiaeth i'r holl staff (clinigol ac anghlinigol), gan gynnwys datblygu sgiliau trosglwyddadwy, gan arwain at fwy o hyblygrwydd i'r gweithlu. Cynhaliwyd cyfres o sioeau teithiol llwyddiannus ar draws pob ysbyty BAIP fis Hydref diwethaf, gan gyflwyno staff presennol i nifer o raglenni dysgu seiliedig ar waith achrededig. Mae staff yn gallu manteisio ar ystod o gyfleoedd dysgu ar draws nifer o sectorau.
Dywedodd un aelod o staff a oedd yn astudio ar gyfer cymhwyster Gweinyddu Busnes: “Rwyf wedi bod yn gyflogai i'r Bwrdd Iechyd ers 12 mlynedd ac maent wedi fy nghefnogi i ddatblygu fy ngyrfa. Rwy'n mwynhau dilyn cwrs Gweinyddu Busnes Lefel 3 drwy NPTC yn fawr. Mae'r aseswr wedi bod yn gymwynasgar ac yn anogol ac mae'n caniatáu i mi weithio ar gyflymder sy'n addas i mi. Mae'r cwrs bellach yn defnyddio porth lle mae pob uned yn cael ei chynnwys ac yn caniatáu i chi gyflwyno gwaith, mae hyn yn gwneud yr hyfforddiant yn fwy hygyrch ar adegau sy'n fwy cyfleus i mi.”
Ychwanegodd Alec Thomas, rheolwr Hyfforddiant Pathways: “Fel Coleg blaengar, rydym yn deall yr angen i recriwtio prentisiaid sydd â'r sgil a'r agwedd i symud ymlaen yn y gyrfaoedd o'u dewis sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol ag angen llawer o fusnesau, yn enwedig Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, i greu gweithlu medrus ar gyfer y tymor hir.''
Ychwanegodd Anne-Marie Mason, Arweinydd Prentisiaethau BAIP: “Rydym yn gweithio gyda nifer o adrannau ar draws y Bwrdd Iechyd, ysgolion a cholegau lleol i hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael a byddwn yn gweithio'n agos gyda 'Thîm Hyfforddiant Pathways' y Coleg i ddatblygu fframweithiau cymwysterau priodol i recriwtio prentisiaid yn ogystal â chynnig cyfleoedd i staff presennol ddatblygu eu sgiliau.”
