4 minute read

Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig

Adeiladu'r Dyfodol

YN NEWYDD AR GYFER Medi 2021, bydd cyfres newydd o gymwysterau yn cael eu cyflwyno ledled Cymru sydd wedi'u datblygu gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well.

Nod y newid yw symleiddio'r dirwedd gymhleth o fwy na 400 o gymwysterau mewn adeiladwaith a gwasanaethau adeiladu yng Nghymru a sicrhau eich bod wedi’ch paratoi'n well ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector. Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth o'r diwydiant cyfan ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen at waith o addysg.

NEWYDD AR GYFER 2021 Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig Mae Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig yn gymhwyster newydd sbon lle rydych yn astudio dau brofiad crefft o'r canlynol:  Gweithio gyda brics, blociau a cherrig  Galwedigaethau pren  Paentio ac Addurno  Plastro a systemau mewnol  Teilsio waliau a lloriau

Mae gan y diwydiant Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae ar y diwydiant angen nifer fawr o weithwyr wedi'u hyfforddi o'r newydd bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes a chyda chyflogau yn cynyddu ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r diwydiant gwerth chweil hwn.

Cynhelir yr hyfforddiant mewn gweithdai eang â'r cyfarpar priodol lle mae gan y myfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.

Beth fyddaf yn ei wneud? Cynhelir yr hyfforddiant gan staff cymwys â phrofiad o'r diwydiant sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau'r myfyriwr. Mae llawer o'n staff yn gyn-fyfyrwyr y coleg ac yn deall sut i wneud dysgu'n ddiddorol ac yn ddifyr ac yn gallu cael y gorau allan o'r myfyrwyr.

Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y gwaith a thechnegau crefft uwch yn eich dewis lwybr. Byddwch hefyd yn dehongli lluniadau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Anogir myfyrwyr hefyd i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.

Asesu I gyflawni'r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau:  Un prawf amlddewis sydd wedi'i osod yn allanol, a'i farcio yn allanol  Un prosiect yn cwmpasu dau faes crefft, sydd wedi'i osod yn allanol, a'i farcio yn fewnol  Un drafodaeth dan arweiniad sydd wedi'i gosod yn allanol, a'i marcio yn fewnol  Un prawf iechyd a diogelwch sydd wedi'i osod yn allanol, a'i farcio yn fewnol.

Llwyddiant Myfyrwyr Hoffai Grŵp Colegau NPTC longyfarch Rhys Carey, sydd wedi ennill Gwobr Adeiladu Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.

Ar hyn o bryd, mae'r myfyriwr Coleg Bannau Brycheiniog wedi'i gyflogi gyda SGG Project Management Ltd, a chafodd ei wobrwyo am ei waith caled a'i lwyddiannau ers dilyn gyrfa yn y diwydiant. Cyflwynwyd y wobr i Rhys gan Keith Shankland, Cynorthwyydd Llys yn y Cwmni Anrhydeddus Lifrai

Cymru ac roedd Cyfarwyddwr SGG Project Management Ltd Steve Groenow, y darlithydd gwaith coed Graham Strangward a chynrychiolydd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladwaith (CITB) Clare Ward hefyd yn bresennol yn y seremoni.

Mae gan Rhys ddiddordeb mewn gwaith adnewyddu gwaith coed, ac mae'n mwynhau creadigrwydd ac ochr arbenigol y gwaith. Mae'n gobeithio adeiladu ar ei sgiliau ac efallai rhedeg ei fenter ei hun dramor un diwrnod.

Dilyniant Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth sylfaenol eang ar draws y diwydiant adeiladu neu'r amgylchedd adeiledig ynghyd â gwybodaeth a sgiliau rhagarweiniol mewn dau lwybr o’ch dewis. Mae'r cymhwyster yn darparu'r wybodaeth i symud ymlaen i astudiaeth bellach:  Dilyniant mewn Adeiladwaith Lefel 2 (Amser llawn) - City & Guilds  Adeiladwaith Lefel 3 Dwy flynedd (Prentisiaeth Ran-amser) - City & Guilds  Adeiladwaith Lefel 3 Tair blynedd (Prentisiaeth Ran-amser) - City & Guilds

Cyrsiau

Mae'r cymhwyster yn darparu digon o wybodaeth i ddysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth yn y sector yn eu dewis grefft.

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster? Mae'n addas ar gyfer:  Dysgwyr 16+ oed sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y sector adeiladwaith a'r amgylchedd adeiledig neu'n bwriadu gwneud hynny. Gweithwyr safleoedd sydd am ehangu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau yn y sector yn fwy cyffredinol.  Bydd angen i ddysgwyr fod wedi cyflawni, neu fod yn gweithio tuag at eu Sgiliau Hanfodol Lefel 2 Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth). Nid oes unrhyw ofynion mynediad ychwanegol eraill ar gyfer y cymhwyster hwn.

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Tystysgrif mewn Adeiladwaith (Aml-Grefft / Cyn-sylfaen) 1 Nid oes angen cymwysterau ffurfiol Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig 2 TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, gradd D neu uwch. DEWISWCH O DDAU BROFIAD CREFFT ISOD:

Gwaith Saer a Gwaith Brics

Paentio a Gwaith Brics Paentio a Gwaith Saer Hyd

Blwyddyn

Blwyddyn

Lleoliad Bannau/ Y Drenewydd

Bannau/ Y Drenewydd

Bannau/ Y Drenewydd Y Drenewydd

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

This article is from: