4 minute read

O Ddifri am Chwaraeon

Mae gan fyfyrwyr hefyd fynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel ym myd pêl-droed, pêl-rwyd, hoci a rygbi. Cyflwynir sesiynau hyfforddi fel rhan o raglen y Coleg ac maent yn ymwneud â datblygu technegau, sgiliau a thactegau ar lefel unigolyn, uned a thîm. Lle na ddarperir disgyblaeth chwaraeon benodol, mae cysylltiadau â chlybiau a sefydliadau lleol yn darparu'r arbenigedd hyfforddi.

Mae gan y Coleg record o lwyddiant chwaraeon wrth ennill pencampwriaethau cenedlaethol mewn amrywiaeth o chwaraeon a gall hefyd frolio 50+ o gapiau rhyngwladol ar draws ystod o chwaraeon: jiwdo, tenis bwrdd, hoci, rygbi, pêl-rwyd, pêl-droed, hwylio, beicio mynydd a badminton.

Os ydych o ddifri am chwaraeon, fel rhan o'r Academi Chwaraeon byddwch yn elwa o'r canlynol: b rhaglen hyfforddi strwythuredig sy'n cael ei goruchwylio gan hyfforddwyr profiadol; perfformiad personol sy'n cael ei fonitro'n rheolaidd gan ein tîm b cynllunnir sesiynau hyfforddi a darlithoedd i osgoi gwrthdaro diangen b y cyfle i gystadlu yn nhimau chwaraeon llwyddiannus Grŵp Colegau NPTC b bod yn rhan o gynlluniau hyfforddi cenedlaethol ar gyfer eich dewis chwaraeon.

Os ydych yn cystadlu'n rheolaidd mewn camp ar gyfer timau clwb, sir neu genedlaethol ac â diddordeb mewn ymuno â'n Hacademïau Chwaraeon, cysylltwch â: www.nptcgroup.ac.uk RYGBI b Enillwyr Cwpan Ysgolion Cymru (8 gwaith) b Enillwyr Cwpan Colegau Cymru (19 gwaith) b Enillwyr Cwpan Colegau Prydain b Enillwyr Rosslyn Park 7s b Enillwyr Coleg Super 15s

Myfyrwyr Rhyngwladol b Ashley Beck b Justin Tipuric b Adam Beard b James Hook b James King b Eli Walker b Dafydd Howells b Adam Jones b Darren Morris b Spencer John b Leigh Davies b Arwel Thomas b Craig Mitchell

b b b b b b Dan Lydiate Lloyd Peers Dan Baker Duncan Jones Paul James Gwyn Jones

PÊL-RWYD b Pencampwyr Cynghrair Colegau Cymru b Rownd Derfynol yn y Cwpan British Knock-out

Myfyrwyr Rhyngwladol b Helen Jones (Case) b Chelsea Lewis

b b Amanda Cooper Nicola James

PÊL-DROED b Pencampwyr Cynghrair Cymru 2010-2011 a 2012-2013 b Pencampwyr Cymru 5 bob ochr 2013-2014 b Ail yn y Bencampwriaeth Gymreig 5 bob ochr 2011-2012 a 2012-2013

Myfyrwyr Rhyngwladol b Daniel James b Ben Davies b Connor Roberts b Joe Rodon

GEMAU PARALYMPAIDD b Rob Davies (Tenis Bwrdd)

b b Joe Allen Jazz Richards

Dan Lydiate Y Gweilch, Cymru, Llewod Prydain ac Iwerddon

Roedd y cyn-fyfyriwr Chwaraeon Dan Lydiate yn fyfyriwr BTEC Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Lefel 3 yng Ngholeg Powys. Yn fab i ffermwr lleol o Abaty Cwm Hir, Llandrindod, aeth ymlaen i astudio Gradd Sylfaen mewn Cryfder a Chyflyru yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.

Yn flaenasgellwr talentog, symudodd ymlaen i yrfa rygbi broffesiynol gan ymuno â Dreigiau Casnewydd lle, yn ei flwyddyn gyntaf, cafodd ei gapio gyda Chymru dan 20 oed.

Enwyd Dan yng ngharfan Genedlaethol Cymru ar gyfer cyfres ryngwladol Tachwedd 2009, gan ymddangos am y tro cyntaf fel eilydd yn yr ail hanner yn erbyn yr Ariannin ar 21 Tachwedd 2009.

Dechreuodd ei gêm brawf gyntaf fel blaenasgellwr ar 28 Tachwedd 2009 ac ar ôl hynny cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2010.

Yna ymunodd â XV cyntaf Cymru yng ngemau rhyngwladol yr hydref y flwyddyn honno, gan ddechrau yn erbyn Awstralia, Seland Newydd a Fiji, y gêm lle enillodd wobr Chwaraewr y Gêm yn gwisgo'r crys Rhif 7 am y tro cyntaf yn ogystal â chael ei enwi yn y tîm i wynebu De Affrica.

Chwaraeodd bob gêm yn ymgyrch Pencampwriaeth Chwe Gwlad Cymru 2011 yn ogystal â phob un o'r pedair gêm gynhesu. Ym mis Awst 2011, cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd. Roedd hefyd yn ddiweddarach yn aelod o garfan Cwpan y Byd 2015 yn Lloegr.

Chwaraeodd yn nwy gêm agoriadol Cymru yn erbyn De Affrica a Samoa, ynghyd â chwarae rhan allweddol ym muddugoliaeth Cymru dros Iwerddon yn y rownd gogynderfynol.

Gorffennodd o drwch blewyn o flaen ei gyd-aelod o dîm Cymru a’r Dreigiau, Toby Faletau, i gipio teitl taclwr gorau’r twrnamaint. Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012, derbyniodd wobr Chwaraewr y Twrnamaint ar ôl chwarae ym mhob gêm ar wahân i'r un agoriadol yn erbyn Iwerddon a derbyn gwobrau Chwaraewr y Gêm. Yn yr union flwyddyn hon y cafodd ei enwebu hefyd ar gyfer gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru.

Ym mis Ebrill 2013, fe'i enwyd yn y garfan ar gyfer taith Llewod Prydain ac Iwerddon 2013 i Awstralia. Gadawodd Dreigiau Casnewydd Gwent ar ddiwedd tymor 2012/13 i ymuno â’r clwb Racing Métro 92 cyn dod yn aelod o'r Gweilch yn 2014, y mae eu maes hyfforddi, mewn gwirionedd, yw Academi Chwaraeon Llandarcy y Coleg.

Roedd wedi bod o dan adain y cyn Ddarlithydd Chwaraeon Chay Billen ers yn 14 oed pan weithiodd gydag ef fel chwaraewr Powys dan 14 oed. Mae'n dal i ddefnyddio'r cyfleusterau hyfforddi rhagorol yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn rheolaidd pryd bynnag y mae ei amserlen hyfforddi yn caniatáu.

Wrth siarad am ei amser yn y Coleg dywedodd Dan Lydiate:

“Heb raglen cryfder a chyflyru’r coleg ni fyddwn wedi gallu cyflawni’r lefelau hyn, dyna wnaeth y gwahaniaeth, ac mae cystal ag unrhyw system yn y byd rygbi proffesiynol.’’

This article is from: