Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 21/22 - Coleg Y Drenewydd, Coleg Bannau Brycheiniog

Page 45

Gwasanaethau Cyhoeddus Mae'r Sector Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yn cynnwys llawer o broffesiynau sy'n amddiffyn ac yn gwasanaethu'r boblogaeth ledled y byd. O achub dringwyr fel rhan o'r tîm Achub Mynydd, cael eu defnyddio yn y fyddin fel meddyg neu fynd i safle damwain fel parafeddyg, heddwas neu ddyn tân, mae'r gweithwyr proffesiynol hyfforddedig hyn yn barod ar gyfer gwasanaeth gweithredol mewn unrhyw argyfwng. Mae llawer o'r darlithwyr Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod ar ddyletswydd weithredol, gan ddefnyddio eu gwybodaeth arbenigol, eu teithiau a'u gweithgareddau i'ch ymgysylltu a sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o'r nifer fawr o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael. Mae'r adran yn cynnal ymweliadau addysgol ar draws y wlad i dynnu sylw at yr amrywiaeth o yrfaoedd posibl sydd ar gael yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai, gan roi i fyfyrwyr ein hethos o 'fwy nag addysg yn unig'.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Coleg Y Drenewydd

Ar gampws y Drenewydd gall y myfyrwyr astudio o'r cwrs cyfun L1 hyd at gwrs L3 UPS sy'n cynnwys y Lefel Uwch ym Magloriaeth Cymru. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn cael eu hysgogi gan amrywiaeth o ddulliau addysgu ac yn yr un modd â Bannau Brycheiniog gallant ddefnyddio'r cefn gwlad o'u hamgylch ar gyfer eu halldeithiau niferus ac ymweliadau a phrofiadau â'r gwasanaethau brys lleol. Mae staff yn meithrin eu datblygiad ac mae llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch neu yrfaoedd addas yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai.

Cyfleoedd Gyrfa

b Byddin b Gwylwyr y Glannau b Gwasanaethau brys b Gwasanaeth tân b Llynges b Swyddog yr Heddlu b Yr Awyrlu Brenhinol

Coleg Bannau Brycheiniog

Mae Coleg Bannau Brycheiniog wedi'i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, amgylchedd anhygoel i fyfyrwyr ymwneud ag ystod eang o weithgareddau gwasanaethau cyhoeddus ochr yn ochr â'u cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus. Cynhelir ymweliadau addysgol a theithiau er mwyn defnyddio harddwch naturiol yr ardal, o sesiynau arwain i adeiladu tîm a thasgau addysg awyr agored. Trefnir ymweliadau â gwasanaethau brys lleol er mwyn cryfhau gwybodaeth y dysgwyr a datblygu'r sgiliau y

Enillion blynyddol cyfartalog

Swyddog y Fyddin £20k Diffoddwr Tân £21k - £36k Parafeddyg £36k Swyddog Heddlu £25k

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Astudiwch yn amser llawn ar y gwahanol gampysau, gan gwblhau eich prif gwrs gan gynnwys llawer o asesiadau rhyngweithiol ac ymarferol, ynghyd ag ymgysylltu â'r llu o weithgareddau sydd ar gael ar draws y campysau.

mae mawr eu hangen er mwyn paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Gellir addysgu rhai modiwlau o'r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau eu hasesiadau yn ddwyieithog lle y bo'n bosibl.

(Cyflog cychwynnol)

Chwilio NPTC Group

44


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.