Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 21/22 - Coleg Y Drenewydd, Coleg Bannau Brycheiniog

Page 31

Peirianneg Bydd gyrfa mewn peirianneg yn cynnig cyflog ardderchog, llawer o amrywiaeth yn eich gwaith a lefelau uchel o foddhad yn y swydd. Pa bynnag ddisgyblaeth a ddewiswch, gall adeiladu sylfaen gref o wybodaeth gyda chwrs peirianneg yng Ngrŵp Colegau NPTC eich roi ar ben ffordd ar eich taith i lwyddiant.

a reolir gan gyfrifiadur mewn melino a thurnio, Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a thechnoleg argraffu 3D. Mae ein gweithdy hydroleg a niwmateg/electro-niwmateg yn gartref i lawer o rigiau prawf hanfodol sy'n hanfodol ar gyfer profi ac asesu gallu a pherfformiad cydrannau at ddefnydd diwydiannol.

Byddwch yn ennill sgiliau eraill ehangach ar gyfer cyflogadwyedd, sef Saesneg, Mathemateg a TG, sgiliau dysgu personol a sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu. Mae'r rhain yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr a byddant yn eich gwneud yn weithiwr proffesiynol mwy cyflawn a chyflogadwy. Mae ein perthynas agos gyda'r diwydiant yn sicrhau ein bod yn cyd-fynd â'r datblygiadau technolegol diweddaraf, gan roi'r hyfforddiant gorau posibl i chi.

SAERNÏO A WELDIO Mae ar y diwydiant weldio a saernïo angen pobl fedrus iawn, a cheir llawer o gyfleoedd cyflogaeth mewn meysydd fel ynni, olew a nwy, cynnal a chadw peirianneg a gweithgynhyrchu diwydiannol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Chwilio NPTC Group

Rhagolygon gyrfa

b Cysylltiadau cryf gyda dros 100 o gyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol b Cyfleoedd dilyniant gwych i'r brifysgol a rhaglenni prentisiaeth ardderchog b Cyfleusterau peirianneg gwych o'r radd flaenaf b Cyrsiau yn cyfateb i safonau'r diwydiant i fodloni'r sgiliau sydd eu hangen b Sector diwydiant sy'n tyfu, y mae galw mawr amdano.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

PEIRIANNEG FECANYDDOL/CYNNAL A CHADW Mae Peirianneg Fecanyddol/Cynnal a Chadw yn cynnwys nifer o wahanol lwybrau gan gynnwys dadansoddi, dylunio, gweithgynhyrchu a chynnal a chadw systemau mecanyddol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o gysyniadau allweddol. Mae Peirianwyr Mecanyddol/ Cynnal a Chadw yn defnyddio'r egwyddorion hyn ac eraill wrth ddylunio a dadansoddi cydrannau arbenigol mewn amrywiaeth o sectorau. Mae ein gweithdai a'n hystafelloedd dosbarth at y diben i safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar a chyfrifiaduron o'r radd flaenaf. Mae'r gweithdai yn cynnwys turnau â llaw, peiriannau melino a meinciau peirianneg, tra bod gweithdai ac ystafelloedd dosbarth arbenigol ar wahân yn cynnwys Peiriannau Rhifiadol Haas (CNC) soffistigedig

Bydd ein darlithwyr medrus iawn yn eich cefnogi a'ch tywys drwy sgiliau sylfaenol y diwydiant hwn a byddwch yn dysgu sut mae weldio yn integreiddio i mewn i system beirianneg. Mae ein gweithdai saernïo a weldio a adeiladwyd yn bwrpasol at safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar o ansawdd uchel, sy'n cwmpasu pob agwedd ar gymwysiadau weldio yn cynnwys Nwy Anadweithiol Metel (MIG), Nwy Anadweithiol Twngsten (TIG), Arc Metel â Llaw (MMA) a Pheiriannau Plasma a reolir gan gyfrifiadur (CNC) Profi Dinistriol/Annistrywiol (DT/NDT).

30


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.