Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 21/22 - Coleg Y Drenewydd, Coleg Bannau Brycheiniog

Page 29

Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig Adeiladu'r Dyfodol YN NEWYDD AR GYFER Medi 2021, bydd cyfres newydd o gymwysterau yn cael eu cyflwyno ledled Cymru sydd wedi'u datblygu gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well. Nod y newid yw symleiddio'r dirwedd gymhleth o fwy na 400 o gymwysterau mewn adeiladwaith a gwasanaethau adeiladu yng Nghymru a sicrhau eich bod wedi’ch paratoi'n well ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector. Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth o'r diwydiant cyfan ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen at waith o addysg.

Mae Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig yn gymhwyster newydd sbon lle rydych yn astudio dau brofiad crefft o'r canlynol:  Gweithio gyda brics, blociau a cherrig  Galwedigaethau pren  Paentio ac Addurno  Plastro a systemau mewnol  Teilsio waliau a lloriau

Mae gan y diwydiant Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae ar y diwydiant angen nifer fawr o weithwyr wedi'u hyfforddi o'r newydd bob blwyddyn er

Cynhelir yr hyfforddiant mewn gweithdai eang â'r cyfarpar priodol lle mae gan y myfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Cynhelir yr hyfforddiant gan staff cymwys â phrofiad o'r diwydiant sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau'r myfyriwr. Mae llawer o'n staff yn gyn-fyfyrwyr y coleg ac yn deall sut i wneud dysgu'n ddiddorol ac yn ddifyr ac yn gallu cael y gorau allan o'r myfyrwyr. Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y gwaith a thechnegau crefft uwch yn eich dewis lwybr. Byddwch hefyd yn dehongli lluniadau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Anogir myfyrwyr hefyd i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.

Asesu

I gyflawni'r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau:  Un prawf amlddewis sydd wedi'i osod yn allanol, a'i farcio yn allanol  Un prosiect yn cwmpasu dau faes crefft, sydd wedi'i osod yn allanol, a'i farcio yn fewnol  Un drafodaeth dan arweiniad sydd wedi'i gosod yn allanol, a'i marcio yn fewnol  Un prawf iechyd a diogelwch sydd wedi'i osod yn allanol, a'i farcio yn fewnol.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

NEWYDD AR GYFER 2021 Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig

mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes a chyda chyflogau yn cynyddu ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r diwydiant gwerth chweil hwn.

28


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.