Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 21/22 - Coleg Y Drenewydd, Coleg Bannau Brycheiniog

Page 15

Croeso i Bartneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd

Partneriaeth Academi’r 6ed Dosbarth Y Drenewydd Newtown 6th Form Academy Partnership

Croeso i'r gorau o ddau fyd! Mae Partneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd yn bartneriaeth gyffrous, arloesol rhwng Coleg Y Drenewydd ac Ysgol Uwchradd y Drenewydd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn gallu cynnig y profiadau dysgu ac addysgu gorau posibl i fyfyrwyr ar draws amrywiaeth eang o gyrsiau; gan gynnig y rhyddid iddynt ddilyn y llwybr o'u dewis ac ymgymryd â'u harddull dysgu personol. Bydd ein partneriaeth yn cynnig cwricwlwm cyffrous, eang ac amrywiol y gellir ei deilwra i anghenion pob myfyriwr. Yn ogystal, bydd cyfle i gysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn y Coleg a'r staff ymroddedig a phrofiadol yn yr Ysgol a'r Coleg.

b b b b b b b b b

TGCh (BTEC) Cyfraith [E-sgol] Mathemateg Cerddoriaeth Ffotograffiaeth Ffiseg Seicoleg Addysg Gorfforol Cymdeithaseg [E-sgol]

I ymgeisio

Gwneir ceisiadau ar-lein yn: www.powyslearningpathways.wales

Rydym yn cynnig darpariaeth lawn ac amrywiol o bynciau UG, Safon Uwch a BTEC yn Academi'r 6ed Dosbarth ar draws Coleg y Drenewydd ac Ysgol Uwchradd y Drenewydd, ac rydym yn argymell y dylai pob disgybl astudio ystod o dri phwnc o leiaf, yn ogystal â Chymhwyster Bagloriaeth Cymru (WBQ). Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl astudio pum pwnc, ar yr amod bod Pennaeth Academi'r 6ed Dosbarth wedi cytuno ar hyn.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae pynciau yn cynnwys: b Celf a Dylunio b Bioleg b Busnes a'r Gyfraith b Cemeg b Drama a Theatr b Saesneg Iaith b Daearyddiaeth b Cyfathrebu Graffeg b Iechyd a Gofal Cymdeithasol b Hanes

Bydd ymuno â Phartneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd yn cynnig y cymysgedd perffaith o annibyniaeth a chefnogaeth wrth symud i'r Brifysgol, ymlaen i brentisiaeth neu ddechrau ym myd gwaith.

Am ragor o fanylion: Rhian Morgan: Rheolwr Partneriaeth Cyswllt Ysgol 14-19 Ffôn: 01639 648091 Ysgol Uwchradd y Drenewydd: 01686 626304 14


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 21/22 - Coleg Y Drenewydd, Coleg Bannau Brycheiniog by NPTC Group of Colleges - Issuu