

CYNNWYS
A ydw i'n cael fy ystyried yn fyfyriwr Cymru? 04
Cyllid gan Gyllid Myfyrwyr Cymru 05
Cyllid i Fyfyrwyr Llawn amser 06
Cyllid i Fyfyrwyr Rhan-amser 08
Ad-dalu Benthyciadau 10
Cymorth Ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr
Cymru 12
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau 14
Proses Ymgeisio am Gyllid Myfyrwyr 18
Rheoli Eich Arian
Camau Nesaf
Cysylltiadau Defnyddiol
DIFFINIADAU
BENTHYCIAD
GALL UNRHYW BETH Y CYFEIRIR ATO FEL
BENTHYCIAD FOD YN AD-DALADWY AR RYW ADEG.
GRANT
NID OES ANGEN EI AD-DALU.
PRAWF MODD
BYDD Y CYMORTH SYDD AR GAEL YN
DIBYNNU AR FEINI PRAWF ARIANNOL.
CREDYDAU CWRS
UNEDAU SY'N CYNRYCHIOLI FAINT O WAITH
ACADEMAIDD A GWBLHEIR MEWN CWRS PENODOL, MAE CWRS ISRADDEDIG LLAWN AMSER
FEL ARFER YN 120 CREDYD Y FLWYDDYN.

A YDW I'N CAEL FY YSTYRIED YN FYFYRIWR CYMRU?
Nid myfyrwyr o Gymru yn unig yw myfyrwyr Cymru. Rydych chi'n cael eich ystyried yn fyfyriwr Cymru os ydych chi'n bodloni un o'r canlynol:
• Rydych yn wladolyn y DU neu ddinesydd Iwerddon ac wedi bod yn byw yn y DU a’r Ynysoedd am 3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf eich cwrs.
• Mae gennych statws preswylydd sefydlog ac rydych wedi bod yn byw yn y DU a'r Ynysoedd am
3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf eich cwrs.
• Mae gennych statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog o dan Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ac rydych wedi bod yn byw yn y DU a'r Ynysoedd am
3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf eich cwrs.
Hefyd bydd angen i chi fyw yng Nghymru ar neu cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs.
Gallwch hefyd fod â math o statws preswylio eithriedig cymwys, megis statws ffoadur, person heb wladwriaeth neu ddiogelwch dyngarol.
CYLLID GAN GYLLID MYFYRWYR CYMRU
Mae cyllid ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru i'ch helpu gyda'ch costau byw (cynhaliaeth) a darparu benthyciad ymlaen llaw i dalu'ch ffioedd dysgu.
Y ffordd hawsaf i wneud cais am gyllid myfyrwyr yw drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
FFIOEDD DYSGU
Mae benthyciad ffioedd dysgu yn talu ffioedd eich cwrs israddedig trwy gydol eich astudiaethau. Bydd y cyllid hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch prifysgol ar ôl i chi gofrestru.

I WELD MEINI PRAWF CYMHWYSEDD
LLAWN CYLLID MYFYRWYR
CYMRU, EWCH I: WWW.CYLLIDMYFYRWYR
CYMRU.CO.UK

Dim ond pan fyddwch wedi gorffen eich astudiaethau ac yn ennill mwy na £27,295 y flwyddyn y byddwch yn dechrau ad-dalu’r benthyciad hwn (yn amodol ar delerau ac amodau).
CYMORTH CYNHALIAETH
Gall y rhan fwyaf o fyfyrwyr gael cymysgedd o fenthyciad a grant i helpu gyda’u costau byw. Gallech hefyd dderbyn cymorth ychwanegol ar ben hyn, os oes gennych chi blant, oedolyn dibynnol neu anabledd.
Mae cymorth cynhaliaeth yn ychwanegol at eich Benthyciad Ffioedd Dysgu. Ei fwriad yw helpu gyda chostau llety, teithio, bwydydd, a deunyddiau academaidd. Eich penderfyniad chi yw'r ffordd rydych chi'n dyrannu'r arian hwn.
Mae cymorth cynhaliaeth yn dibynnu ar brawf modd, felly bydd y swm a gewch yn seiliedig ar incwm eich aelwyd a ble rydych yn byw neu astudio, er enghraifft:
• gartref gyda'ch rhieni.
• oddi wrth gartref eich rhieni ac yn astudio tu allan i Lundain.
• astudio dramor.
Mae’n cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc mewn tri rhandaliad trwy gydol y flwyddyn, fel arfer tuag at ddechrau pob tymor.


DIM OND PAN FYDDWCH YN ENNILL £27,295 Y FLWYDDYN Y BYDDWCH YN DECHRAU AD-DALU’R BENTHYCIAD*
CYLLID I FYFYRWYR
LLAWN AMSER
BENTHYCIAD FFIOEDD DYSGU
Y ffi israddedig ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau PDC yw £9,000 y flwyddyn ar gyfer ymgeiswyr 2024.
Nid yw faint o fenthyciad ffioedd dysgu a gewch yn dibynnu ar incwm eich aelwyd. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn talu eich Benthyciad Ffioedd Dysgu yn uniongyrchol i Brifysgol De Cymru.
Byddwch yn derbyn llythyr hysbysiad o hawl gan Gyllid Myfyrwyr Cymru a fydd yn cadarnhau faint o gymorth y mae gennych hawl iddo yn ystod y flwyddyn academaidd.
Bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid Myfyrwyr Cymru os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod eich cwrs er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth y mae gennych hawl iddo.
Mae'r ad-daliadau yn cychwyn pan fyddwch yn ennill £27,295 y flwyddyn.* Os nad ydych wedi addalu'r cyfanswm sy'n ddyledus gennych o fewn 30 mlynedd, caiff y balans sy'n weddill ei ddileu.
Cesglir ad-daliadau drwy'r system dreth a chânt eu cyfrifo'n fisol.
CYMORTH CYNHALIAETH
Bydd gennych hawl i gymorth cynhaliaeth fel cyfuniad o grant a benthyciad. Mae hyn yn ychwanegol at eich Benthyciad Ffioedd Dysgu.
Bydd angen ad-dalu’r elfen Benthyciad Cynhaliaeth (pan fyddwch yn ennill mwy na’r trothwy ad-dalu), ond nid oes angen ad-dalu’r Grant Cynhaliaeth.
Sut mae hyn yn gweithio?
Cyfanswm y cymorth cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyrwyr Cymru yw:
• £10,315 y flwyddyn i'r rhai sy'n byw gartref gyda'u rhieni.*
• £12,150 y flwyddyn i'r rhai sy'n byw oddi wrth gartref eu rhieni a thu allan i Lundain.*
Os yw incwm eich aelwyd yn isel, byddwch yn derbyn benthyciad llai a grant mwy, sy’n golygu y bydd gennych lai o fenthyciad i’w dalu’n ôl.
Mae'r gwrthwyneb yn wir i'r rhai ble mae incwm aelwydydd yn uwch; po uchaf yw'r incwm, po fwyaf o fenthyciad a gewch chi a llai o grant.
Bydd pwysoliad y benthyciad a’r grant yn cael ei gyfrifo a byddwch yn cael yr un cyfanswm cyffredinol o gyllid cynhaliaeth â phawb arall.
Bydd pob myfyriwr llawn amser cymwys yn cael grant o £1,000 o leiaf beth bynnag fo incwm aelwydydd.*
Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn talu eich Benthyciad Cynhaliaeth a Grant Cynhaliaeth i mewn i'ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, fel arfer ar ddechrau pob tymor.

*Gall y ffigurau newid, cyfeiriwch at wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael y costau diweddaraf: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
CYLLID I FYFYRWYR RHAN-AMSER
BENTHYCIAD FFIOEDD DYSGU
Fel myfyriwr rhan-amser, gallwch wneud cais am hyd at £2,625. Nid yw faint o Fenthyciad Ffioedd Dysgu a gewch yn dibynnu ar incwm eich aelwyd.
Rhaid i chi fod yn astudio ar ddwysedd cwrs o 25% o leiaf i gael Benthyciad Ffioedd Dysgu.
Gallwch gyfrifo dwysedd eich cwrs trwy gymharu eich credydau modiwl â nifer y credydau modiwl y bydd myfyriwr llawn amser yn eu hastudio. Efallai y gofynnir i chi faint o gredydau y byddwch yn eu hastudio pan fyddwch yn gwneud cais am y benthyciad. Er enghraifft, os ydych yn astudio 60 credyd, mae hyn yn 50% o gwrs llawn amser. Dyma beth mae'r rhan fwyaf o'n hisraddedigion rhanamser yn ei wneud.
Codir ffioedd rhan-amser ar sail pro-rata yn unol â nifer y credydau a astudir ym mhob blwyddyn academaidd. Mewn blynyddoedd lle mae mwy o gredydau'n cael eu hastudio, efallai na fydd y Benthyciad Ffioedd Dysgu yn cynnwys yr holl ffioedd a godir. Gall myfyrwyr sefydlu cynllun talu gyda'r Brifysgol i dalu'r balans sy'n ddyledus.
Codir ffioedd rhan-amser safonol ar £740 am bob 20 credyd. Er enghraifft, byddai’n rhaid i fyfyriwr sy’n astudio dwysedd 50% (60 credyd) dalu £2,220 y flwyddyn.*
Gallwch gysylltu â’n Tîm Ymholiadau os nad ydych yn siŵr am nifer y credydau: enquiries@southwales.ac.uk
Byddwch yn derbyn llythyr hysbysiad o hawl gan Gyllid Myfyrwyr Cymru a fydd yn cadarnhau faint o gymorth y mae gennych hawl iddo yn ystod y flwyddyn academaidd. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn talu'ch Benthyciad Ffioedd Dysgu yn uniongyrchol i'ch prifysgol neu goleg.
Mae'r ad-daliadau yn cychwyn pan fyddwch yn ennill £27,295 y flwyddyn.* Os nad ydych wedi addalu'r cyfanswm sy'n ddyledus gennych o fewn 30 mlynedd, caiff y balans sy'n weddill ei ddileu.
CYMORTH CYNHALIAETH
Bydd gennych hawl i gymorth cynhaliaeth fel cyfuniad o grant a benthyciad. Mae hyn yn ychwanegol at eich Benthyciad Ffioedd dysgu.
Bydd angen ad-dalu’r elfen Benthyciad Cynhaliaeth (pan fyddwch yn ennill mwy na’r trothwy ad-dalu), ond nid oes angen ad-dalu’r Grant Cynhaliaeth.
Sut mae hyn yn gweithio?
Mae cymorth cynhaliaeth yn seiliedig ar brawf modd, mae faint a gewch yn dibynnu ar incwm eich aelwyd a dwysedd eich cwrs (25%, 50%, 75%). Mae gan wahanol ddwysedd cyrsiau symiau cyffredinol gwahanol o gymorth cynhaliaeth. Rhaid i chi fod yn astudio ar ddwysedd cwrs o 25% o leiaf i gael grant a benthyciad rhan-amser at gostau byw.
Os yw incwm eich aelwyd yn isel, byddwch yn derbyn benthyciad llai a grant mwy, sy’n golygu y bydd gennych lai o fenthyciad i’w dalu’n ôl.
Mae'r gwrthwyneb yn wir i'r rhai ble mae incwm aelwydydd yn uwch; po uchaf yw'r incwm, po fwyaf o fenthyciad a gewch chi a llai o grant.
Bydd pwysoliad y benthyciad a’r grant yn cael ei gyfrifo a byddwch yn cael yr un cyfanswm cyffredinol o gyllid cynhaliaeth â phawb arall.
Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn talu eich Benthyciad Cynhaliaeth a Grant Cynhaliaeth i mewn i'ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, fel arfer ar ddechrau pob tymor.
AD-DALU BENTHYCIADAU
• Bydd angen i chi ad-dalu eich Benthyciad Ffioedd Dysgu a'ch Benthyciad Cynhaliaeth.
• Nid oes angen i chi dalu cyllid arall i fyfyrwyr yn ôl, er enghraifft, grantiau, ysgoloriaethau neu fwrsariaethau.
• Peidiwch ag anghofio bod yn rhaid i chi ad-dalu'ch benthyciad myfyriwr o hyd os byddwch yn gadael eich cwrs yn gynnar.
SUT I AD-DALU
Dim ond pan fydd eich incwm dros y trothwy o £27,295 y flwyddyn y byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad myfyriwr.*
Bydd eich ad-daliadau’n cael eu tynnu o’ch cyflog ar yr un pryd â threth ac Yswiriant Gwladol os ydych yn gyflogai.
Bydd eich slipiau cyflog yn dangos faint sydd wedi'i ddidynnu. Dylech wirio bod eich cyflogwr wedi eich rhoi ar y cynllun ad-dalu cywir.
Cofiwch gadw eich manylion cyswllt yn gyfredol fel y gallwch gael negeseuon am eich benthyciad.
I gael rhagor o wybodaeth am ad-dalu benthyciadau ewch i: www.gov.uk/ad-dalu-eich-benthyciad-myfyriwr

*Gall y ffigurau newid. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
CYMORTH YCHWANEGOL GAN GYLLID MYFYRWYR CYMRU

LWFANS I FYFYRWYR ANABL (DSA)
Mae Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn gymorth ychwanegol ar ben eich cyllid myfyriwr arall a gellir ei ddefnyddio i dalu am gostau cysylltiedig ag astudio fel offer, cymorth anfeddygol, teithio, llungopïo ac argraffu.
Gallwch wneud cais am DSA i dalu rhai o'r costau ychwanegol sydd gennych oherwydd problem iechyd meddwl, salwch hirdymor neu unrhyw anabledd arall. Mae faint o gymorth y gallwch ei gael ac ar beth y gallwch ei wario yn dibynnu ar eich anghenion unigol, nid incwm eich aelwyd. Nid oes angen i chi ad-dalu Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.
LWFANS DYSGU I RIENI
Gall y cymorth hwn fynd tuag at rai o’r costau ychwanegol a allai fod gennych os ydych yn fyfyriwr israddedig sydd â phlant. Bydd p'un a ydych yn gymwys a faint a gewch, yn dibynnu ar incwm eich aelwyd. Nid oes rhaid i chi ei dalu'n ôl.
Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser, bydd eich Lwfans Dysgu i Rieni yn cael ei gyfrifo ar sail eich dwysedd astudio.
GRANT GOFAL PLANT
Gall y cymorth hwn fynd tuag at eich costau gofal plant os ydych yn fyfyriwr israddedig sydd â phlant. Bydd p'un a ydych yn gymwys a faint a gewch, yn dibynnu ar incwm eich aelwyd. Nid oes rhaid i chi dalu'r Grant Gofal Plant yn ôl
Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser, byddwch yn cael eich asesu ar gyfer swm llai o Grant Gofal Plant ar sail eich dwysedd astudio.
GRANT OEDOLION DIBYNNOL
Gall y cymorth hwn fynd tuag at y costau ychwanegol a allai fod gennych, os ydych yn fyfyriwr israddedig ag oedolyn sy’n dibynnu arnoch yn ariannol.
Bydd p'un a ydych yn gymwys a faint a gewch, yn dibynnu ar incwm eich aelwyd, incwm eich dibynyddion ac a oes gennych bartner ai peidio. Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser, bydd eich Grant Oedolion Dibynnol yn cael ei gyfrifo ar sail eich dwysedd astudio. Nid oes rhaid i chi dalu'r grant hwn yn ôl.
GRANT CYMORTH ARBENNIG
Mae Grant Cymorth Arbennig ar gyfer myfyrwyr sy'n hawlio budd-daliadau penodol sy'n gysylltiedig ag incwm a'i fwriad yw helpu gyda chostau megis llyfrau, offer cwrs a theithio. Gallwch wneud cais arlein fel rhan o'ch prif gais am gyllid i fyfyrwyr.
Ar gyfer myfyrwyr llawn amser, gallech dderbyn cyfradd uwch o Fenthyciad Cynhaliaeth a ddyfernir gyda'r Grant Cynhaliaeth. Bydd p'un a ydych yn gymwys a faint a gewch, yn dibynnu ar incwm eich aelwyd a ble rydych yn byw ac yn astudio.
Ar gyfer myfyrwyr rhan-amser, p'un a ydych yn gymwys a faint o Grant Cymorth Arbennig a Benthyciad Cynhaliaeth a gewch yn dibynnu ar incwm eich aelwyd a dwysedd eich cwrs.
Os oes gennych hawl i fudd-daliadau, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn diystyru cyfran o'r elfen Grant Cymorth Arbennig. Nid oes rhaid i chi dalu'r grant hwn yn ôl.
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU YN PDC
Mae Prifysgol De Cymru eisiau cefnogi pob myfyriwr i gyrraedd ei botensial, beth bynnag fo'i amgylchiadau personol. Dyma pam mae gennym ni amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i ymgeiswyr cymwys.

BWRSARIAETH TEITHIO PDC
Mae Bwrsariaeth Teithio PDC yn talu am gostau rhesymol sy’n gysylltiedig ag ymweld â Phrifysgol De Cymru i fynychu Diwrnod Agored israddedig, cyfweliad neu Ddiwrnod Profiad Ymgeiswyr.
Mae taliadau'n cynnwys pris tocyn trên, coets, awyren neu gwch ar y gyfradd fwyaf darbodus sydd ar gael. Rydym hefyd yn gallu cefnogi gyda chostau teithio mewn car. Dim ond i ddarpar fyfyrwyr sydd wedi gwneud cais am gwrs israddedig trwy UCAS y gwneir taliadau.

YSGOLORIAETHAU CYMRAEG
Mae llawer o gyfleoedd i chi ddefnyddio’ch Cymraeg yn y Brifysgol – yn gymdeithasol neu fel rhan o’ch cwrs. Gallwch fanteisio ar y cyfleoedd hyn i ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau dwyieithog a fydd
yn gwella potensial eich gyrfa. Rydym yn cynnig cyfleoedd academaidd mewn amrywiaeth o bynciau.
Mae'r Brifysgol yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy'n astudio rhan o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r Brifysgol hefyd yn rhan o gynllun ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Edrychwch ar wefan y Coleg Cymraeg am fwy o wybodaeth: www.colegcymraeg.ac.uk.
BWRSARIAETH GWENT
Rydym yn cynnig ein Bwrsariaeth Gwent i fyfyrwyr sy’n byw mewn cod post NP ar adeg gwneud cais am gwrs yn PDC ac sydd wedi cael cynnig a derbyn lle yn y Brifysgol fel rhan o feini prawf Polisi Derbyniadau Cyd-destunol y Brifysgol: www.southwales.ac.uk/ cymraeg/gwneud-cais
ADDYSGU AC ADDYSG
Mae amrywiaeth o ffynonellau cyllid a chymorth ar gael i chi fel athro dan hyfforddiant. Bydd yr hyn y byddwch yn gymwys i’w dderbyn yn amrywio yn ôl y math o gwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA) yr ydych arno, lle’r ydych yn byw fel arfer, y pwnc yr ydych yn hyfforddi i’w addysgu a ble’r ydych yn hyfforddi, yn ogystal â’ch amgylchiadau personol.
BWRSARIAETH ASESU DIAGNOSTIG
Rydym yn cynnig bwrsariaeth heb brawf modd i fyfyrwyr y nodwyd bod angen y prawf arnynt ar gyfer Dyslecsia ac anawsterau dysgu penodol eraill.

CYNLLUN NODDFA FFOADURIAID
Mae Cynllun Noddfa Ffoaduriaid PDC yn gynllun sy’n darparu cymorth i nifer cyfyngedig o ffoaduriaid cymwys trwy wersi Saesneg am ddim cyn dechrau cwrs israddedig yn y Brifysgol.
YSGOLORIAETH NODDFA
Bydd yr Ysgoloriaeth Noddfa yn cefnogi dau ymgeisydd israddedig llwyddiannus trwy hepgor eu ffioedd dysgu am gyfnod eu hastudiaethau israddedig, ac ysgoloriaeth i gynorthwyo gyda chostau cysylltiedig â'r cwrs. I fod yn gymwys ar gyfer hyn byddai angen i chi:
• Fod yn Berson sy'n Ceisio Lloches.
• Bod â Chaniatâd cyfyngedig i Aros (o ganlyniad i gais am loches).
• Bod yn bartner/dibynnydd sydd wedi'i gynnwys ar gais person o unrhyw un o'r grwpiau uchod.
CYMORTH A BWRSARIAETH I YMADAWYR GOFAL
Mae PDC yn aelod o bartneriaeth Gweithgareddau i Bobl sy’n Gadael Gofal a Chymorth i Fyfyrwyr yng Nghymru (CLASS Cymru), sy’n rhannu arferion gorau mewn perthynas â’r rhai sy’n gadael gofal ar draws sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Gallwn gynnig cymorth ychwanegol i chi fel:
• Bwrsariaeth Ymadawyr Gofal i fyfyrwyr sy'n cael eu hystyried yn fyfyrwyr ‘cartref’ – (£1,000* y flwyddyn ar hyn o bryd ar gyfer myfyrwyr llawn amser, £500* ar gyfer myfyrwyr rhan-amser).
• Cyswllt a enwir.
• Mynediad at lety trwy gydol y flwyddyn ar gyfer myfyrwyr llawn amser (rhaid i'r myfyriwr dalu a bodloni’r telerau ac amodau).
• Pecyn Graddio i gefnogi costau cysylltiedig megis llogi gŵn/ffotograffau.
BWRSARIAETH CYDRADDOLDEB ETHNIG
Mae PDC yn cynnig 15 bwrsariaeth i fyfyrwyr israddedig sy’n dechrau eu hastudiaethau yn y flwyddyn academaidd 2024-25 a 2025-26, ac sydd wedi hunannodi fel un o’r grwpiau ethnig ar restr a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU: www.ethnicity-factsfigures.service.gov.uk/style-guide/ethnic-groups

SGANIWCH
Mae hwn yn gymorth dewisol gan y Brifysgol i fyfyrwyr y mae angen cymorth ariannol ychwanegol arnynt. Mae unrhyw gymorth a roddir fel arfer ar ffurf grant a gallwch wneud cais ar ôl i chi gofrestru. Efallai y bydd y gronfa hefyd yn gallu helpu os bydd oedi gyda'ch cyllid.
YSGOLORIAETHAU CHWARAEON

Rydym yn cydnabod ac yn gwobrwyo llwyddiant chwaraeon gan ddarparu cymorth i unigolion ragori yn eu hastudiaethau a’u huchelgeisiau chwaraeon. Mae ein hysgoloriaethau chwaraeon wedi'u cynllunio i roi cyfle i athletwyr elît gyflawni eu potensial chwaraeon.
PROSES YMGEISIO AM
GYLLID
MYFYRWYR
I'ch helpu gyda'r broses ymgeisio, dyma rai camau byr i chi eu dilyn. Y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud cais am gyllid myfyrwyr yw ar-lein: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
£GWIRIWCH A YDYCH YN GYMWYS
Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i weld a ydych yn gymwys i gael cyllid i fyfyrwyr.
GWIRIWCH A ALLWCH CHI GAEL CYMORTH YCHWANEGOL
Efallai y gallwch gael cyllid ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio a oes prawf modd ar unrhyw fenthyciadau, grantiau, ysgoloriaethau neu fwrsariaethau.
Mae PDC hefyd yn cynnig nifer o wahanol
fwrsariaethau ac ysgoloriaethau y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer. Ewch i dudalennau 15-17 neu ewch i’r dudalen ffioedd a chyllid ar ein gwefan am ragor o fanylion: www.decymru.ac.uk/arian
PETHAU I'W COFIO
• Bydd angen i chi ailymgeisio am gyllid i fyfyrwyr bob blwyddyn o'ch cwrs.
• Cofiwch ddiweddaru eich manylion os yw eich amgylchiadau yn newid. Mae hefyd yn dda gwirio’ch manylion ddwywaith i sicrhau y gallwch gael eich talu’n gywir ac yn brydlon.
• Pan ddaw eich astudiaethau i ben, bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC) yn creu cyfrif ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr ar eich cyfer.


PARATOWCH
Gwiriwch pryd y gallwch wneud cais, pa ddogfennau adnabod sydd eu hangen ac a oes angen i chi ddarparu tystiolaeth o incwm eich aelwyd.
Unwaith y bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch, mae'n bryd gwneud eich cais.
GWNEWCH GAIS
Mae’n bryd creu cyfrif Cyllid Myfyrwyr Cymru, neu fewngofnodi i gyfrif sy’n bodoli eisoes os ydych yn fyfyriwr sy’n dychwelyd. Gall gymryd hyd at chwe wythnos i brosesu eich cais ac efallai y gofynnir i chi hefyd ddarparu tystiolaeth ychwanegol os oes angen.
DERBYN EICH CYLLID GAN GYLLID MYFYRWYR
CYMRU
• Ar ôl i chi gwblhau eich cais, dylech dderbyn llythyr 'hysbysiad o hawl' gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.
• Telir eich Benthyciad Ffioedd Dysgu yn uniongyrchol i'ch prifysgol neu goleg mewn 3 rhandaliad, ar ôl iddynt gadarnhau eich presenoldeb.
• Bydd eich Benthyciad Cynhaliaeth a Grant Cynhaliaeth yn cael eu talu'n uniongyrchol i chi 3 gwaith y flwyddyn ar ôl i'ch prifysgol neu goleg gadarnhau eich cofrestriad.
RHEOLI EICH ARIAN
GWNEWCH GAIS AM GYFRIF BANC MYFYRWYR
Bydd cyfrif banc myfyriwr da yn cynnig gorddrafft di-log i chi.
Bydd llawer o fanciau yn cynnig cymhellion i chi agor eich cyfrif myfyriwr gyda nhw. Gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio am y cynnig gorau, yn hytrach nag aros gyda'r banc yr ydych yn ei ddefnyddio eisoes heb ystyried opsiynau eraill.
DEWCH Â RHYWFAINT O GYNILION
I'r rhan fwyaf ohonoch, bydd eich benthyciad myfyriwr yn cyrraedd yn ystod wythnosau cyntaf y tymor. Gan nad yw eich taliad nesaf tan fis Ionawr, mae angen i chi wneud i’ch arian barhau! Ceisiwch gyfrifo faint sydd gennych i'w wario dros y tymor a cheisiwch gadw ato. Os gallwch chi, dewch â rhai cynilion i'ch cefnogi chi yn ystod eich wythnosau cyntaf, gan fod pobl yn tueddu i wario mwy o arian yn y dechrau.
COSTAU CWRS
Peidiwch ag anghofio darganfod a oes costau ychwanegol yn gysylltiedig â'ch cwrs, fel gwerslyfrau, meddalwedd neu gyfarpar chwaraeon. Efallai y bydd y rhain yn cael eu cynnwys, ond mae'n bwysig gwirio. Peidiwch â rhuthro allan a phrynu'r rhain yn ddiangen, ystyriwch brynu ail-law ac adnoddau llyfrgell.
CARDIAU GOSTYNGIAD MYFYRWYR
Prynwch neu cofrestrwch ar gyfer cardiau gostyngiad i fyfyrwyr – fel y cerdyn TOTUM (www.totum.com) a’r Cerdyn Rheilffordd 16-25 (www.railcard.co.uk). Gwiriwch delerau ac amodau llawn y cerdyn rheilffordd i wneud yn siŵr y byddwch yn elwa’n llawn e.e. efallai na fyddwch yn gallu defnyddio'r disgownt ar deithio cyn 10am. Os nad oes arwydd gan siop neu far, peidiwch ag ofni gofyn am ostyngiadau i fyfyrwyr.
EDRYCHWCH AM Y BARGEINION GORAU
Edrychwch i weld a allwch chi arbed arian ar eich contract ffôn symudol a chymharu bargeinion band eang, cofiwch gadw llygad ar gostau canslo. Bydd safle cymharu prisiau yn adnodd defnyddiol i gynorthwyo gyda hyn.

GWYBOD EICH INCWM A'CH TREULIAU
Efallai ei fod yn ymddangos yn ddiflas, ond byddwch yn diolch i chi'ch hun yn y tymor hir! Nodwch eich holl incwm (benthyciad i fyfyrwyr, ysgoloriaethau, bwrsariaethau neu grantiau, cyflog, cymorth o deulu ac ati). Nesaf, ysgrifennwch eich holl dreuliau (rhent, biliau, tanysgrifiadau, aelodaeth, petrol ac ati).
CRËWCH GYLLIDEB
Unwaith y byddwch wedi cyfrifo faint sydd gennych i fyw arno bob mis, gallwch greu cyllideb fanwl. Penderfynwch faint fyddwch chi'n ei wario ar bethau fel bwyd, angenrheidiau, teithio (a phethau hwyliog hefyd). Os oes angen cyngor cyllidebu arnoch, cysylltwch â'n Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr. Gallant hefyd eich cynorthwyo i greu ac adolygu cynllun cyllideb. Mae apiau cyllidebu fel Wally neu Money Dashboard Neon yn ddefnyddiol ac yn eich helpu i reoli eich arian.
BYDDWCH YN GRAFF WRTH SIOPA
Gwnewch restr ymlaen llaw o'r eitemau rydych am eu prynu er mwyn ceisio lleihau prynu byrbwyll. Rhowch gynnig ar frandiau'r archfarchnadoedd eu hunain; maent yn aml cystal â chynhyrchion brand. Coginiwch mewn swmp, yna rhewi dognau am yr wythnosau canlynol. Gwnewch eich siopa bwyd ychydig yn hwyrach yn y dydd, pan fydd yr archfarchnadoedd yn lleihau costau ar eitemau bwyd. Mae’r ap ‘Too Good To Go’ yn ffordd arall o brynu bwyd o archfarchnadoedd / bwytai am ffracsiwn o'r pris gwreiddiol.
BYDDWCH YN FWRIADOL
Cyn i chi wario'ch arian, gofynnwch i chi'ch hun a ydych chi wir ei angen. Nid ydym yn dweud i wneud hyn drwy'r amser (ble mae'r hwyl yn hynny?!), ond mae’n werth bod yn fwriadol ynglŷn â’r hyn rydych chi’n gwario arian arno, fel nad ydych chi’n ei wastraffu yn y pen draw.
OS OES ANGEN CYNGOR CYLLIDEBU ARNOCH, CYSYLLTWCH Â'N TÎM CYNGOR ARIANNOL I FYFYRWYR: MONEY@SOUTHWALES.AC.UK


SGANIWCH
YMA I GLYWED AWGRYMIADAU
ARBED ARIAN GAN EIN MYFYRWYR PRESENNOL.
DIWRNODAU PROFIAD YMGEISWYR
Efallai eich bod eisoes wedi mynychu un o’n Diwrnodau Agored, ond bydd Diwrnod Profiad Ymgeiswyr yn eich helpu i wneud PDC yn ddewis cadarn i chi. Wrth fynychu Diwrnod Profiad Ymgeiswyr, byddwch yn dysgu am y profiad o astudio yn y brifysgol ar eich cwrs dewisol ac yn siarad â’r bobl a fydd yn eich addysgu’r flwyddyn nesaf. Byddwch hefyd yn cael cipolwg ar fywyd ar y campws o ddydd i ddydd, yn cael cyfle i sgwrsio â'n myfyrwyr presennol, a byddwch yn gallu cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau hwyliog.
Byddwn yn anfon eich gwahoddiad at y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch gais. Os nad ydych wedi derbyn gwahoddiad, cysylltwch â ni drwy e-bostio admissions@southwales.ac.uk

CAMAU NESAF CWRDD Â'N TÎM CYNGOR ARIANNOL I FYFYRWYR
Gall y Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn PDC eich cynorthwyo gydag ochr ariannol eich astudiaethau.
Cael gwybodaeth a chyngor ar:
• Eich cymhwyster ar gyfer cymorth cyllid myfyrwyr.
• Benthyciadau myfyrwyr, grantiau, lwfansau ychwanegol, bwrsariaethau'r GIG a dyfarniadau dewisol.
• Ceisiadau i Gronfa Cymorth i Fyfyrwyr y Brifysgol a chynlluniau cysylltiedig.
• Cyllidebu, ffynonellau cymorth ariannol ychwanegol a chyngor sylfaenol ar fudd-daliadau.
• Goblygiadau ariannol newid neu adael cwrs neu ailsefyll blynyddoedd astudio.
• Taliadau a gweinyddiaeth y rhan fwyaf o ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Gallwch gysylltu â'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yma: money@southwales.ac.uk



Sganiwch yma i gwrdd â Thîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr PDC.
Sganiwch yma am awgrymiadau ariannol i fyfyrwyr newydd.
Sganiwch yma i ddarganfod sut mae ein Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr wedi helpu myfyrwyr presennol.

DOLENNI A CHYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL
Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr PDC: money@southwales.ac.uk
Ffioedd a Chyllid: www.decymru.ac.uk/arian
Ymholiadau am Daliadau Ffioedd Dysgu: revenue@southwales.ac.uk
Diwrnodau Agored: www.decymru.ac.uk/diwrnodau-agored
Cyllid Myfyrwyr Cymru: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Mae dechrau yn y brifysgol yn aml yn golygu rheoli eich arian yn annibynnol am y tro cyntaf, a all gymryd peth amser i ddod i arfer ag ef. Ond mae llawer o gefnogaeth ar gael a all eich helpu i ddod yn arbenigydd mewn rheoli arian.
TÎM CYNGOR ARIANNOL I FYFYRWYR
Am ragor o wybodaeth, cyngor ac arweiniad: money@southwales.ac.uk www.decymru.ac.uk/arian

@de_cymru
Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei argraffu (Ebrill 2024), ond gall newid. gael y wybodaeth ddiweddaraf, ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan: www.decymru.ac.uk
Fel rhan o’i hymrwymiad at yr iaith Gymraeg, mae’r Brifysgol yn darparu gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. wybod mwy, ewch i: www.decymru.ac.uk neu e-bostiwch: cymraeg@decymru.ac.uk
Cynhyrchwyd gan adran Myfyrwyr y Dyfodol Prifysgol De Cymru Dyluniwyd gan: Argraffu a Dylunio PDC
Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif Cofrestru 1140312.