Cyrsiau Prifysgol yn y Coleg 2025-2026

Page 1


DIGWYDDIADAU AGORED

Y COLEG

MERTHYR TUDFUL

Mae'r Coleg yn cynnal pum

Diwrnod Agored bob blwyddyn, gan gynnwys Digwyddiad Agored AU penodol. Hefyd, gall myfyrwyr gael mynediad at Ddiwrnod

Agored Rhithwir 24/7 i gael gwybod mwy am gyrsiau, gwylio fideos, mynd ar deithiau rhithwir a gwrando ar dystebau dysgwyr. Ewch i: www.merthyr.ac.uk/cy/

COLEG PENYBONT

Archwiliwch gyrsiau, cymorth a chyfleusterau yn un o ddigwyddiadau darganfod y coleg, sy'n cynnwys ystod o deithiau campws sydd ar gael trwy gydol y flwyddyn. I ddysgu mwy am ddyddiadau ein digwyddiad darganfod neu i archebu taith ar y campws, ewch i www.bridgend.ac.uk/ digwyddiadau-agored

COLEG CAERDYDD A'R FRO

Mae CAVC yn cynnal Digwyddiadau Agored rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Ewch i www.cavc.ac.uk/cy/ openevenings i gael manylion llawn a dyddiadau. Gallwch hefyd fynd i Ddiwrnod Agored Rhithwir yn y coleg unrhyw ddiwrnod neu amser. Cewch atebion i’ch cwestiynau a dysgwch am y cyrsiau a'r cymorth sydd ar gael. Ewch i: www.cavc.ac.uk/cy

COLEG Y CYMOEDD

Mae ein Digwyddiadau Agored yn ffordd wych o ddysgu mwy am ein cyrsiau a'r yrfa yr hoffech chi ei dilyn. Mae ein staff arbenigol ar gael yn y digwyddiad. Mae cyngor ac arweiniad ar gael drwy gydol y flwyddyn – cysylltwch â ni i ddarganfod mwy am ein meysydd pwnc. Ewch i: www.cymoedd.ac.uk/agored

COLEG GWENT

Mae'r Coleg yn cynnal cymysgedd o ddigwyddiadau rhithwir ac ar y campws. Gallwch fynd ar daith o amgylch ei gampysau, cael gwybod am feysydd pwnc a dysgu am gymorth, cyllid a bywyd myfyrwyr yn y coleg. Gallwch hefyd glywed profiadau myfyrwyr eraill. Ewch i: www.coleggwent.ac.uk/cy

COLEG GWYR

ABERTAWE

Mae'r Coleg yn cynnal nosweithiau agored a digwyddiadau dilyniant drwy gydol y flwyddyn. Gallwch ymweld â'n cyfleusterau, mynd ar daith o amgylch ein campysau a Chanolfan Brifysgol a siarad â staff i helpu i ddod o hyd i'r cwrs sy’n iawn i chi. Gallwch weld mwy o wybodaeth am ein Cyrsiau Addysg Uwch drwy wneud ymholiad drwy www.gcs.ac.uk/cy/au-enquiryform neu dewch i mewn i'r Coleg i siarad ag aelod o'n Tîm AU. Ewch i www.gcs.ac.uk/cy

GRWP COLEGAU NPTC

Mae Campws Prifysgol Grŵp

NPTC yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau agored drwy gydol y flwyddyn. Mae'n gyfle gwych i archwilio'r campws, siarad â'n darlithwyr arbenigol sy'n barod i ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar gyrsiau a'ch gyrfa. Peidiwch â phoeni os na allwch fynychu digwyddiad agored, cysylltwch â ni a byddwn yn trefnu apwyntiad i chi yn wyneb yn wyneb neu ar-lein. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi.

E-bostiwch

HEServices@nptcgroup.ac.uk

Ewch i www.nptcgroup.ac.uk/cy

CYRSIAU PRIFYSGOL YN Y COLEG

Os hoffech chi yrfa gyffrous yn gwneud rhywbeth rydych chi'n dwli arno, astudiwch gwrs PDC o gysur eich coleg lleol. Gallwch newid eich yfory.

AR EICH CARREG DRWS

Mae PDC yn gweithio gyda cholegau ledled De Cymru, fel y gallwch astudio cwrs prifysgol yn y coleg. Gallech arbed amser ac arian, parhau i weithio, cydbwyso bywyd teulu ac aros yn agosach at gartref.

CYRSIAU HYBLYG

Mae'n hawdd astudio o amgylch eich bywyd. Mae llawer o gyrsiau llawn amser neu ran-amser ar gael; mae rhai yn cael eu darparu yn ystod y dydd ac eraill gyda’r nos. Dewch o hyd i gwrs o dudalen 32 ymlaen.

HYGYRCH

Os nad oes gennych y gofynion

mynediad i astudio gradd prifysgol, gallwch astudio HNC, HND neu Radd Sylfaen yn gyntaf. Mae ein colegau partner hefyd yn cynnig cyrsiau

Mynediad i Addysg Uwch. Darllenwch fwy ar dudalen 24.

CYMORTH ARIANNOL

Gall cost astudio fod yn llai nag rydych yn ei feddwl. Mae myfyrwyr o Gymru sy’n astudio cwrs addysg uwch yn elwa ar gymorth ariannol, ac efallai byddwch yn gymwys am gymorth gyda ffioedd dysgu neu gostau byw. Darllenwch fwy ar dudalen 20.

GYRFAOEDD CYFFROUS

Gall cymhwyster prifysgol arwain at well cyfleoedd gwaith. Mae llawer o gyrsiau yn cynnwys lleoliad gwaith ac fel myfyriwr PDC, gallwch fanteisio ar wasanaethau Gyrfaoedd PDC.

Darllenwch fwy ar dudalen 14.

TEULU PDC

P'un a ydych chi'n dychwelyd i ddysgu, neu'n parhau o'r ysgol neu'r coleg, byddwch yn cael eich croesawu i deulu PDC.

Darllenwch fwy ar dudalen 18.

COLEGAU PARTNER

Y COLEG MERTHYR TUDFUL

Gall myfyrwyr astudio cyrsiau fel

Tystysgrifau AU, HND a graddau sylfaen i raddau anrhydedd a chymwysterau proffesiynol. Mae'r pynciau yn cynnwys y

Diwydiannau Creadigol, Busnes,

Cyfrifiadura, E-Chwaraeon, Seicoleg ac Iechyd a Lles

Cymunedol. Mae'r Coleg yn cynnig cyfleusterau, addysg, cymorth a chysylltiadau rhagorol

â chyflogwyr. Mae myfyrwyr hefyd yn elwa ar ddosbarthiadau llai.

Darllenwch y rhestr o gyrsiau ar dudalennau 35 a 36.

01685 726 000 www.merthyr.ac.uk/cy/

COLEG CAERDYDD A'R FRO

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn

cynnig cymwysterau mewn partneriaeth â phrifysgolion mewn llawer o bynciau, o HND i TAR. Mae'r Coleg yn cynnig cymorth eithriadol, dull personol o addysgu, a chyfleusterau sy'n efelychu amgylcheddau yn y byd go iawn. Mae'r cyrsiau'n diwallu anghenion cyflogwyr ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer eu gyrfa.

Darllenwch y rhestr o gyrsiau ar dudalennau 50 a 51.

02920 250 250 www.cavc.ac.uk/cy

COLEG PENYBONT

Mae Coleg Penybont yn cynnig ystod wych o raglenni addysg uwch sydd wedi'u cynllunio i'ch galluogi i ragori. Archwiliwch lwybrau o HNC a graddau sylfaen, hyd at raddau anrhydedd a chymwysterau proffesiynol, gyda llwybrau llawn amser a rhanamser ar gael.

Mae'r coleg yn cynnig ystod eang o raglenni a addysgir o fewn cyfleusterau o safon diwydiant, gyda chysylltiadau gwych â’r diwydiant.

Darllenwch y rhestr o gyrsiau ar dudalennau 46-49.

01656 302 302 www.bridgend.ac.uk

COLEG GWENT

Mae Coleg Gwent yn ymdrechu i sicrhau bod astudiaethau prifysgol ar gael i bawb drwy gynnig amrywiaeth eang o opsiynau addysg uwch i ddysgwyr, gan gynnwys graddau sylfaen, HND, TAR, a chyrsiau BSc a BA atodol gan ddarparu i fwy na 600 o fyfyrwyr PDC yn llawn amser ac yn rhan-amser. Mae myfyrwyr yn elwa ar gyfleusterau rhagorol, staff addysgu profiadol a chysylltiadau sefydledig â chyflogwyr. Darperir cyrsiau ar draws pum campws yn Sir Fynwy, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a Chaerffili. Nid oes angen i fyfyrwyr wneud cais drwy UCAS ac anogir ceisiadau uniongyrchol.

Darllenwch y rhestr o gyrsiau ar dudalennau 37-41.

01495 333 777 www.coleggwent.ac.uk/cy

COLEGAU PARTNER

COLEG Y CYMOEDD

Wedi'i leoli ar bedwar campws, mae'r coleg yn cynnig addysgu

rhagorol, cysylltiadau â diwydiant ac opsiynau astudio llawn amser a rhan-amser. Gall myfyrwyr astudio HND, graddau sylfaen, graddau anrhydedd neu

hyfforddiant athrawon. Mae'r pynciau yn cynnwys Busnes, Celfyddydau Cynhyrchu

Creadigol, Llunio Gwisgoedd, Ffotograffiaeth, Addysg, Dysgu a Datblygu, TGCh a Pheirianneg.

Darllenwch y rhestr o gyrsiau ar dudalennau 42-45.

01443 662 800 www.cymoedd.ac.uk

COLEG GWYR ABERTAWE

Mae'r Coleg yn darparu cyrsiau addysg uwch o safon. Mae ei

Ganolfan Prifysgol bwrpasol i fyfyrwyr ar gyrsiau lefel uwch yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, llyfrgell ac ystafell gyffredin. Mae'r cyrsiau'n cynnwys Busnes, Addysg ac E-Chwaraeon. Darllenwch y rhestr o gyrsiau ar dudalen 32.

01792 284 000 www.gcs.ac.uk/cy

GRWP COLEGAU NPTC

Mae'r Coleg yn ymfalchïo mewn

cynnig Mwy nag Addysg yn unig.

Caiff myfyrwyr eu haddysgu mewn grwpiau bach ac maent yn

cael profiad dysgu personol. Mae gan y coleg Campysau Prifysgol yng Nghastell-nedd, Afan, Llandarcy, Aberhonddu a'r

Drenewydd. Mae'n cynnig cyrsiau mewn Busnes, Astudiaethau

Plentyndod, Camddefnyddio

Sylweddau, Addysgu, Cynhyrchu’r

Cyfryngau a Chelfyddydau

Perfformio.

Darllenwch y rhestr o gyrsiau ar dudalennau 33-34.

03308 188 100 www.nptcgroup.ac.uk/cy/

PRIFYSGOL DE CYMRU

Gyda chymaint o gyrsiau i ddewis o’u plith, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae cwrs yn PDC yn fwy na gradd. Rydym yn creu graddedigion sy'n barod ar gyfer yfory. Gallwch ddewis astudio naill ai drwy ein colegau partner neu'n uniongyrchol gyda'r

Brifysgol, gan sicrhau bod modd astudio'n rhwydd.

Darllenwch fwy am PDC ar dudalen 6.

03455 767 778 www.decymru.ac.uk

PRIFYSGOL YFORY

Mae gan PDC gampysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Os byddwch yn ategu at eich cymhwyster i radd anrhydedd gyda ni, gallech astudio yn un o'n campysau a bod yn gymwys ar gyfer ein Bwrsariaeth

Dilyniant gwerth £1,000.

AR EICH CARREG DRWS

PDC Pontypridd yw ein campws mwyaf ac mae'n cynnwys dau safle: Trefforest a Glyn-taf. Wedi'u hamgylchynu gan fannau gwyrdd agored, mae ein myfyrwyr yn dwli ar yr awyrgylch cymunedol. Mae popeth sydd ei angen arnoch ar gael ar y campws - eich dosbarthiadau, y llyfrgell, Undeb y Myfyrwyr, caffis a bariau. www.decymru.ac.uk/ pontypridd

| Prifysgol De Cymru

PDC CAERDYDD

Mae PDC Caerdydd yng nghanol y ddinas - y lleoliad perffaith ar gyfer ein myfyrwyr diwydiannau creadigol. Byddwch hefyd yn dod o hyd i fannau astudio creadigol, y llyfrgell ac Undeb y Myfyrwyr – i gyd mewn un adeilad trawiadol. www.decymru.ac.uk/caerdydd

Mae PDC Casnewydd yng nghanol y ddinas. Mae'n un o adeiladau mwyaf eiconig y Brifysgol ac ni allai fod mewn lleoliad gwell i allu manteisio ar fywyd y ddinas. Mae neuaddau preswyl ychydig funudau i ffwrdd ar droed, ac mae Friars Walk gyferbyn â'r campws - yn llawn siopau, bariau a bwytai. www.decymru.ac.uk/ casnewydd

CYNGOR GAN PDC

Mae'r Tîm Recriwtio Myfyrwyr yn PDC ar gael i'ch helpu. Os oes gennych gwestiynau am astudio, naill ai yn y coleg neu'r Brifysgol, mae croeso i chi gysylltu â ni.

ysgolionacholegau@ decymru.ac.uk

YFORY LLWYDDIANNUS

Mae cwrs prifysgol yn fuddsoddiad yn eich dyfodol. Gall wella eich rhagolygon gyrfa, ac ar gyfer rhai swyddi, mae gradd yn hanfodol. Mewn cydweithrediad â'n colegau partner, gallwn eich helpu i lwyddo a chyflawni eich potensial llawn.

CYMORTH GYRFAOEDD

Gall ein Tîm Gyrfaoedd PDC eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd a bod yn barod i fanteisio arnynt. Bydd y tîm yn eich helpu i ystyried eich opsiynau gyrfa a sut i ddatblygu'r sgiliau a'r profiad

sydd eu hangen arnoch. Mae'r tîm yn cynnig cymorth ymarferol gyda dod o hyd i leoliadau gwaith, cwblhau ceisiadau am swyddi ac ymarfer technegau cyfweld. Mae ein hadnoddau arlein yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i gynllunio ar gyfer yfory.

Ewch i www.decymru.ac.uk/gyrfaoedd

LLEOLIADAU GWAITH

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio ar y cyd â chyflogwyr. Credwn fod profiad gwaith yn amhrisiadwy, a dyna pam mae ein graddau sylfaen yn cynnwys cyfleoedd lleoliad gwaith fel rhan ohonynt.

Mae hyn yn caniatáu i chi roi theori ar waith ac mae'n edrych yn wych ar eich CV.

DYFARNIAD CAMU 'MLAEN

Y wobr hon yw eich cyfle i gael eich cydnabod am ddatblygu'r sgiliau neu'r priodoleddau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi wrth chwilio am raddedigion i’w recriwtio. Bydd cymryd rhan yn ystod eich astudiaethau yn helpu i roi mantais gystadleuol i chi a sefyll allan.

CYMORTH GWEITHIO’N LLAWRYDD A DECHRAU BUSNES

Os ydych chi eisiau dechrau eich busnes eich hun, gweithio’n llawrydd neu unig fasnachwr, neu hyd yn oed fod yn weithiwr mwy creadigol a mentrus, gall y Tîm Menter helpu.

Gallwch feithrin yr hyder i ddechrau eich busnes eich hun drwy gymorth a mentora un i un, neu wneud cais am hyd at £1,000 o gyllid am ddim i ddechrau neu ddatblygu eich syniadau. Mae digwyddiadau, dosbarthiadau meistr a gweithdai trwy gydol y flwyddyn yn ogystal ag academi hyfforddi i Weithwyr Llawrydd a Sylfaenwyr.

RHWYDWAITH75

Mae Rhwydwaith75 yn gynllun gradd pum mlynedd a noddir sy'n galluogi myfyrwyr i weithio, ennill arian a dysgu! Mae llu o fuddion ariannol a chyfradd cyflogaeth 100% hefyd. Yn ystod y tymor, bydd myfyrwyr yn mynychu eu lleoliad dri diwrnod yr wythnos ac yn dod i’r Brifysgol i astudio ddau ddiwrnod yr wythnos. Yn ystod cyfnodau gwyliau, bydd myfyrwyr

yn mynychu eu lleoliad pum diwrnod yr wythnos.

Mae myfyrwyr yn derbyn bwrsariaeth ddi-dreth o £6,500

sy'n cynyddu £1,000 bob

blwyddyn academaidd. Ar y cyd â Phrifysgol De Cymru, mae'r holl

fyfyrwyr yn elwa ar rai o'r graddau

gorau sydd ar gael, cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf, ac addysgu rhagorol.

Ewch i www.decymru.ac.uk/ rhwydwaith75

GRADDIO

Ar ôl i chi gwblhau eich gradd

sylfaen, HNC, HND, Tystysgrif AU neu radd anrhydedd yn

llwyddiannus, gallwch fynychu seremoni raddio. Gwahoddir

myfyrwyr sy'n astudio yng

Ngholeg Caerdydd a'r Fro, Coleg y Cymoedd, Coleg Gwent neu’r

Coleg Merthyr Tudful, i seremoni raddio ym Mhrifysgol De Cymru.

Bydd y rhai sy'n astudio yng

Ngholeg Penybont a Grŵp

Colegau NPTC yn cael eu gwahodd i seremoni a gynhelir gan eu coleg.

Ewch i www.decymru.ac.uk/graddio

CEFNOGAETH GAN PDC A'CH COLEG

• Cymorth i ysgrifennu CV

• Cymorth i wneud cais am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliad

• Cyngor ar ddewisiadau gyrfa neu astudiaeth bellach

• Awgrymiadau ar gyfer profiad gwaith

• Cefnogaeth i chwilio am swyddi

• Cymorth i weithio ac astudio dramor

• Hyfforddiant gyrfa a magu hyder

• Cymorth i ddod yn hunangyflogedig neu ddechrau busnes

• Mynediad at adnoddau ac offer cyflogadwyedd ar-lein

• Mynediad at amrywiaeth o weminarau sy'n canolbwyntio ar recriwtio

16 | Prifysgol De Cymru

TEULU PDC

Fel myfyriwr sy'n astudio

cwrs Prifysgol De Cymru yn

eich coleg lleol, byddwch yn cael y gorau o'r ddau fyd.

Gallwch ddefnyddio'r

cymorth a'r cyfleusterau sydd ar gael yn y coleg, yn ogystal â PDC.

CYMORTH DYSGU

Mae ein colegau partner yn

cynnig gwasanaethau a chymorth amrywiol, a byddwch hefyd yn

gallu defnyddio’r adnoddau yn PDC. Fel myfyriwr PDC, gallwch

ddefnyddio ein llyfrgelloedd a bydd gennych gyfrif TG y Brifysgol a chyfeiriad e-bost myfyriwr. Mae gennym lyfrgell ar bob campws gydag oriau agor hir a chyfleusterau hunanwasanaeth.

Mae gennym filoedd o gyfrifiaduron ar draws ein campysau yn ogystal â'r technolegau a'r adnoddau dysgu diweddaraf.

CYMORTH YN Y COLEG

Bydd gennych fynediad at y gwasanaethau cymorth amrywiol sydd ar gael yn y coleg lle byddwch yn astudio. I gael gwybod pa gymorth sydd ar gael, cysylltwch â'ch coleg neu neilltuwch eich lle ar ddigwyddiad agored i edrych o gwmpas. Efallai y bydd eich coleg hyd yn oed yn eich cyfeirio at yr Ardal Gynghori yn PDC.

Ewch i www.decymru.ac.uk/cyngor

CYMORTH YN PDC

Os ydych chi’n ategu’ch cymhwyster at radd Anrhydedd lawn ym Mhrifysgol De Cymru, gallwch ddefnyddio’r holl gymorth a chyfleusterau. Mae gennym Ardaloedd Cynghori, Gwasanaethau Iechyd, Anabledd, Lles, Sgiliau Astudio a Gyrfaoedd, yn ogystal â Thîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr a’r Gaplaniaeth.

Rydym hefyd yn cynnig llety i fyfyrwyr a chyfleusterau gofal plant ar gampws Trefforest (Pontypridd).

CYFLEOEDD CYMRAEG

Gallwch barhau i ddefnyddio eich

sgiliau Cymraeg wrth astudio cwrs PDC. Mae rhai cyrsiau'n cynnig cyfleoedd dwyieithog, a gallwch gyflwyno eich gwaith yn Gymraeg, hyd yn oed os nad yw eich cwrs yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallech hefyd ddewis lleoliad profiad gwaith cyfrwng Cymraeg. I ddysgu mwy, cysylltwch â'r Hyrwyddwr Dwyieithog yn eich coleg.

CYFLEUSTERAU TRAWIADOL

Mae llawer o'n colegau partner wedi elwa ar fuddsoddiad enfawr dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ganddynt gyfleusterau a mannau addysgu gwych.

CHWARAEON PDC

Er y byddwch yn astudio yn eich coleg lleol, gallwch chwarae i dimau chwaraeon y Brifysgol yng nghynghrair Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Mae 60 o dimau i ddewis o’u plith, gan gynnwys pêl-droed, rygbi, pêl-rwyd a hoci. I fod yn gymwys, rhaid i chi fod yn 18 oed neu hŷn ac astudio o leiaf 60 credyd y flwyddyn.

Mae chwarae yng Nghynghrair

BUCS yn golygu y gallwch hyfforddi ym Mharc Chwaraeon

PDC. Mae'r cyfleusterau mor dda fel bod timau proffesiynol yn eu defnyddio'n rheolaidd, gan gynnwys tîm pêl-droed Cymru a Llewod Prydain wrth iddynt deithio.

UNDEB Y MYFYRWYR

Gallwch ddod yn aelod o Undeb y Myfyrwyr yn y coleg lle rydych yn astudio, yn ogystal ag Undeb y Myfyrwyr yn y Brifysgol. Mae Undeb y Myfyrwyr yn PDC yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn. Mae digon o glybiau a chymdeithasau i ymuno â nhw, wedi'u lleoli ar draws ein holl gampysau. Gall ein cymdeithasau eich helpu i ddarganfod hobïau a diddordebau newydd a chwrdd â phobl o'r un anian.

Ewch i www.uswsu.com

BUDDSODDI YN EICH DYFODOL

Mae cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr, felly gall astudio gradd uwch fod yn fwy fforddiadwy nag yr ydych chi'n meddwl. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, gallech fod yn gymwys ar gyfer ystod o grantiau, benthyciadau a lwfansau i helpu gyda ffioedd dysgu a chostau byw.

FFIOEDD CYRSIAU

Bydd ffioedd yn amrywio yn dibynnu ar hyd a lefel eich cwrs. Edrychwch ar wefan y coleg am ffioedd cwrs, ac ewch i www.gov.uk/student-finance neu www.cyllidmyfyrwyrcymru.

co.uk, i gyfrifo faint o gymorth cyllid myfyrwyr y gallech fod â hawl iddo.

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.decymru.ac.uk/arian

CYMORTH ARIANNOL ARALL

Mae cymorth ariannol ar gael drwy

Gyllid Myfyrwyr Cymru, i fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru, neu Gyllid Myfyrwyr Lloegr, i fyfyrwyr o Loegr.

Mae gwybodaeth am gyllid myfyrwyr, ynghyd â sut i wneud cais a gwirio cymhwysedd, ar gael ar-lein. Ewch i: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk neu www.gov.uk neu chwiliwch am ‘student finance’.

COSTAU YCHWANEGOL

Yn ogystal â thalu am lyfrau ac offer hanfodol, efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer rhai cyrsiau. Gallai hyn gynnwys teithiau maes, deunyddiau celf neu amser stiwdio. Cysylltwch â'ch coleg dewisol i gael gwybod mwy am gostau ychwanegol.

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU YN PDC

BWRSARIAETH TEITHIO

Mae'r fwrsariaeth yn talu am gostau rhesymol sy'n gysylltiedig ag ymweld â Phrifysgol De Cymru i fynychu Diwrnod Agored

Israddedig, cyfweliad neu

Ddiwrnod Profiad Ymgeiswyr.

BWRSARIAETH PROFION DIAGNOSTIG

Gall myfyrwyr sydd wedi cofrestru yn PDC sy'n astudio o leiaf 60 credyd fod yn gymwys i gael asesiad dyslecsia mewnol am

ddim gyda chymorth y Fwrsariaeth

Profion Diagnostig.

I

LAWN

AC YSGOLORIAETHAU PDC, EWCH I

www.decymru.ac.uk/arian

BWRSARIAETH DILYNIANT

Mae PDC yn cynnig bwrsariaeth dilyniant gwerth £1,000.* Mae myfyrwyr coleg sy’n ategu eu cymhwyster neu radd sylfaen at radd Anrhydedd lawn drwy gwrs atodol ar gampws PDC yn gymwys.

YSGOLORIAETHAU CYMRAEG

Mae'r Brifysgol yn dyfarnu

Ysgoloriaethau Cymraeg i fyfyrwyr y DU sy'n dod i'r Brifysgol am y tro cyntaf yn 2025, sy'n ymrwymo i astudio o leiaf 40 credyd o gwrs gradd cymwys trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd ar gael.

YSGOLORIAETH GWENT

Mae PDC yn cynnig Ysgoloriaeth

Gwent gwerth £1,000* i fyfyrwyr cymwys sy'n byw mewn ardal sydd â chod post NP ar adeg gwneud cais am gwrs yn PDC.

YSGOLORIAETH CHWARAEON

Mae ein Hysgoloriaeth

Chwaraeon ar gael i fyfyrwyr sy'n perfformio i safon uchel yn eu camp dewisol, ac yn cynrychioli'r

Brifysgol yng nghynghrair

*I weld y telerau ac amodau, ewch i'n gwefan

www.decymru.ac.uk/arian

Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Fe'i cynlluniwyd i gefnogi athletwyr elitaidd posibl a phobl chwaraeon sy'n cystadlu o leiaf ar lefel genedlaethol neu ryngwladol iau yn eu camp.

HAWLIWCH YFORY

Gall lle ar gwrs gradd

prifysgol fod yn fwy cyraeddadwy nag yr ydych chi'n meddwl. Os nad oes gennych y gofynion mynediad i astudio gradd prifysgol ar unwaith, gallwch astudio HNC, HND neu Radd Sylfaen.

GOFYNION MYNEDIAD

• Nodir gofynion mynediad nodweddiadol isod

• Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf mynediad, gellid ystyried gwaith perthnasol a phrofiad bywyd ar sail unigol

• Mae cyfuniadau o gymwysterau yn dderbyniol

• Gellid hefyd ystyried cymwysterau Lefel 3 eraill, fel CACHE, OCR, City and Guilds, Cskills, NCFE a VTCT

• Os nad ydych yn siŵr a ydych yn bodloni’r gofynion, cysylltwch

â’ch coleg dewisol

GOFYNION MYNEDIAD NODWEDDIADOL AR

GYFER HNC, HND A GRADDAU SYLFAEN

• Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol o

Deilyngdod/Pas neu

Bas/Pas/Pas; neu

• DD yn Safon Uwch; neu

• D yn Safon Uwch ynghyd â D yn

Nhystysgrif Her Sgiliau

Bagloriaeth Cymru; neu

• Mynediad i AU (Diploma Pas gyda 45 credyd Lefel 3 sydd i gyd wedi'u pasio)

• Bydd angen tair gradd C neu uwch yn TGAU hefyd, gan

gynnwys mathemateg a Saesneg iaith neu gyfatebol

• Ar gyfer cwrs atodol, fel arfer bydd angen HND neu Radd

Sylfaen mewn pwnc cysylltiedig

GOFYNION MYNEDIAD I GOLEGAU

• Efallai bydd angen prawf llythrennedd, rhifedd neu wyddoniaeth

• Mae angen gwiriad DBS uwch ar gyfer rhai cyrsiau*

• Mae rhai proffesiynau yn gofyn am raddau TGAU penodol mewn pynciau penodol

• Mae meini prawf ychwanegol wedi’u rhestru ar dudalennau’r cwrs ar wefan y coleg

ATEGU AT RADD LAWN

• Mae gan bob cwrs HND a gradd sylfaen o leiaf un llwybr dilyniant, felly gallwch ddewis ategu’ch cymhwyster at radd lawn

• I gael gradd Anrhydedd, byddwch yn astudio 360 credyd, fel arfer dros gyfnod o dair blynedd llawn amser

• I ategu’ch cymhwyster HND neu radd sylfaen at radd anrhydedd, fel arfer byddwch yn astudio 120 credyd dros flwyddyn ychwanegol llawn amser neu gyfwerth rhan-amser. Mae rhai cyrsiau’n gofyn am ddwy flynedd astudio ychwanegol oherwydd gofynion statudol

• Fel arfer bydd angen i chi fynd i gampws PDC i ategu’ch gradd at astudiaethau Lefel 6, er bod rhai cyrsiau ar gael mewn colegau

DOD YN ATHRO

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym maes addysg, rydym yn cynnig cymwysterau addysgu yn ein colegau partner. Darllenwch ein rhestr o gyrsiau sy’n dechrau ar dudalen 32.

CYRSIAU ÔL-RADDEDIG

Does dim angen i'ch perthynas â’r Brifysgol yn dod i ben pan fyddwch yn graddio. Rydym yn cynnig cyrsiau ôl-raddedig a phroffesiynol i’ch helpu i ddatblygu hyd yn oed ymhellach yn eich gyrfa. Ewch i www.decymru.ac.uk/ ol-raddedig

SUT I WNEUD CAIS

Cysylltwch â'ch coleg lleol i wirio'r broses ymgeisio. Mae rhai colegau’n derbyn ceisiadau uniongyrchol, a wneir yn wyneb yn wyneb neu ar-lein. Fel arall bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS.

*Mae costau ychwanegol yn berthnasol

DARGANFOD EICH YFORY

Gallwch astudio

gradd anrhydedd

lawn ar gampws

PDC neu ddilyn cwrs

prifysgol mewn

coleg partner. Mae cyrsiau coleg yn

dechrau ar Lefel 4

gyda chyfleoedd i symud ymlaen i radd anrhydedd ac astudiaeth ôlraddedig yn PDC.

Mae'r llwybrau dilyniant posibl fel a ganlyn:

LEFEL 3

SAFON UWCH • BTEC • NVQ LEFEL 3

MYNEDIAD I ADDYSG UWCH

TYSTYSGRIF HER SGILIAU

PRENTISIAETH UWCH

DIPLOMA MEWN ASTUDIAETHAU SYLFAEN

LEFEL 4

TYSTYSGRIF ADDYSG UWCH

TYSTYSGRIF GENEDLAETHOL UWCH (HNC)

LEFEL 5

GRADD SYLFAEN

DIPLOMA CENEDLAETHOL UWCH (HND)

GRADD ATODOL (ANRHYDEDDAU) LEFEL 6

ASTUDIAETH ÔL-RADDEDIG LEFEL 7

RHESTR TERMAU

GRADD SYLFAEN

Cymhwyster yw hwn yn ei rinwedd ei hun a byddwch yn mynd i seremoni graddio ar ôl ei gwblhau. Mae’n rhoi’r sgiliau i chi sy’n berthnasol i ddiwydiant. Caiff astudiaethau eu cyfuno â dysgu sy'n seiliedig ar gyflogaeth felly byddwch yn dysgu yn y gweithle yn ogystal â’r ystafell ddosbarth. Ar ôl ei chwblhau’n llwyddiannus, cewch gyfle i symud ymlaen at gymhwyster gradd atodol.

TYSTYSGRIF

GENEDLAETHOL UWCH (HNC) A DIPLOMA

CENEDLAETHOL UWCH (HND)

Mae'r cymwysterau hyn sy'n gysylltiedig â gwaith yn rhoi'r sgiliau i chi wneud swydd benodol. Maent yn alwedigaethol, felly maent yn apelio at gyflogwyr, ac yn gallu cyfrif tuag at aelodaeth cyrff proffesiynol. Gallent eich arwain yn syth at yrfa, neu gallwch symud ymlaen at radd sylfaen neu radd anrhydedd.

| Prifysgol De Cymru

TYSTYSGRIF ADDYSG UWCH

Mae Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE) yn gymhwyster Lefel 4 a ddyfernir ar ôl blwyddyn o astudiaeth addysg uwch llawn amser.

DIPLOMA ADDYSG UWCH

Mae Diploma Addysg Uwch (DipHE) yn gymhwyster Lefel 5. Mae DipHE yn gymhwyster addysg uwch sy'n cyfateb i ddwy flynedd gyntaf cwrs gradd. Mae cyflogwyr a sefydliadau academaidd yn cydnabod cymwysterau DipHE fel tystiolaeth o lefel uchel o gyflawniad academaidd.

ADDYSG UWCH (AU)

Ar ôl i chi gwblhau addysg bellach mewn coleg neu’r chweched dosbarth, mae sefydliadau fel prifysgolion a cholegau yn cynnig rhaglenni addysg uwch.

GRADD ANRHYDEDD

Cwrs a gaiff ei astudio mewn prifysgol neu goleg addysg bellach. Bydd gradd anrhydedd

BA neu BSc llawn amser fel arfer yn para tair blynedd, a byddwch yn astudio 360 credyd.

UCAS

Y term cryno ar gyfer Gwasanaeth

Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau. Mae UCAS yn prosesu ceisiadau i brifysgolion a cholegau’r DU am gyrsiau israddedig llawn amser.

Nid yw rhai o’n colegau partner

yn defnyddio UCAS ac maent yn derbyn ceisiadau yn uniongyrchol yn lle hynny - cysylltwch â’r coleg yn uniongyrchol i gael manylion.

CYLLID MYFYRWYR

CYMRU

Y corff cyllido a fydd yn asesu’ch cymorth ariannol os ydych yn byw yng Nghymru.

FFIOEDD DYSGU

Mae’r ffioedd hyn yn talu am gost eich astudiaethau a gallent amrywio yn dibynnu ar beth a ble y byddwch yn astudio. Gall pob myfyriwr cymwys wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu ac ni fydd yn rhaid ei ad-dalu nes ei fod yn ennill mwy na swm penodol o arian.

BWRSARIAETH

Arian a ddarperir tuag at gostau astudio nad oes angen ei ad-dalu.

DILYNIANT/GRADD ATODOL

Mae hyn fel arfer yn flwyddyn ychwanegol o astudio llawn amser neu ddwy flynedd yn rhanamser ond gallai fod yn fwy yn dibynnu ar ofynion statudol. Byddech yn symud ymlaen neu'n ategu’ch gradd sylfaen neu gyfwerth, at radd anrhydedd lawn. Fel arfer, caiff cyrsiau dilyniant ac atodol eu hastudio yn yr un pwnc neu bwnc cysylltiedig â'r radd sylfaen.

COLEG GWYR ABERTAWE

MAE’N BOSIB Y BYDD

LLWYBRAU DILYNIANT AR GAEL MEWN COLEGAU LLEOL ERAILL.

HND Rheoli Busnes

BA Rheoli Busnes (Cyfrifeg a Chyllid) (Atodol)

BA Rheoli Busnes (Marchnata) (Atodol)

Gradd Sylfaen mewn Effeithiau

Gweledol a Graffeg Symudol

BA (Anrh) Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol

Gradd Sylfaen mewn E-Chwaraeon**

Tystysgrif Broffesiynol (ProfCe)

mewn Addysg a Hyfforddiant ÔlOrfodol (AHO)

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PgCE) mewn

Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (AHO)

Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (AHO)

Cysylltwch â'r coleg yn uniongyrchol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau.

| Prifysgol De Cymru

GRWP COLEGAU

NPTC

HND Rheoli Busnes

BA Rheoli Busnes (Atodol)

BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid

BA (Anrh) Busnes a Rheoli

BA (Anrh) Rheoli Gwestai a Lletygarwch

BA (Anrh) Rheoli Adnoddau Dynol

BSc (Anrh) Busnes a Rheoli

Rhyngwladol

BSc (Anrh) Logisteg, Caffael a Rheoli

Cadwyn Gyflenwi

BSc (Anrh) Marchnata

Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau

Plentyndod

BSc (Anrh) Astudiaethau

Plentyndod (Atodol)

CertHE Camddefnyddio Sylweddau

BSc (Anrh) Nyrsio (Oedolion)

BSc (Anrh) Nyrsio (Plant)

BSc (Anrh) Nyrsio (Anableddau

Dysgu)

BSc (Anrh) Nyrsio (Iechyd Meddwl)

GRWP COLEGAU

BA (Anrh) Cynhyrchu’r Cyfryngau**

BA (Anrh) Celfyddydau Perfformio**

Tystysgrif Broffesiynol (ProfCe) mewn Addysg a Hyfforddiant ÔlOrfodol (AHO)

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PgCE) mewn

Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (AHO)

Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (AHO)

Cysylltwch â'r coleg yn uniongyrchol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau.

**Yn amodol ar ddilysu a chymeradwyo.

Y COLEG MERTHYR TUDFUL

HND Celfyddydau Gweledol

Creadigol

BA (Anrh) Ymarfer Celf

Gradd Sylfaen mewn Ymarfer Celf

Gradd Sylfaen mewn Rheoli Busnes

BA (Anrh) Rheoli Busnes (Atodol)

BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid

BA (Anrh) Busnes a Rheoli

BA (Anrh) Rheoli Gwestai a

Lletygarwch

BA (Anrh) Rheoli Adnoddau Dynol

BSc (Anrh) Busnes a Rheoli

Rhyngwladol

BSc (Anrh) Logisteg, Caffael a Rheoli

Cadwyn Gyflenwi

BSc (Anrh) Marchnata

Gradd Sylfaen mewn Seicoleg

BSc (Anrh) Seicoleg

Tystysgrif Addysg Uwch mewn

Iechyd a Lles

Y COLEG MERTHYR TUDFUL

CWRS A LLWYBR DILYNIANT

HND Cyfrifiadureg

HND Celfyddydau Gweledol Creadigol

Tystysgrif Broffesiynol (ProfCe) mewn Addysg a Hyfforddiant ÔlOrfodol (AHO)

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PgCE) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (AHO)

Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (AHO)

Cysylltwch â'r coleg yn uniongyrchol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau.

COLEG GWENT

HNC Peirianneg Sifil

HND Peirianneg Sifil **

BSc (Anrh) Peirianneg Sifil

BEng (Anrh) Peirianneg Sifil

HNC Adeiladu a'r Amgylchedd

Adeiledig

HND Adeiladu a'r Amgylchedd

Adeiledig**

BSc (Anrh) Tirfesur Adeiladau

BSc (Anrh) Rheoli Prosiect Adeiladu

BSc (Anrh) Tirfesur Meintiau a Rheoli

Masnachol

HNC Peirianneg (Gweithgynhyrchu Uwch) **

HNC Peirianneg Drydanol ac

Electronig

HND Peirianneg Drydanol ac

Electronig

BSc (Anrh) Peirianneg Drydanol ac

HNC Peirianneg Fecanyddol

HND Peirianneg Fecanyddol

BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol

BSc (Anrh) Peirianneg Fecanyddol

Gradd Sylfaen Iechyd a Lles

Anifeiliaid

BSc (Anrh) Iechyd a Lles Anifeiliaid (Atodol)

Gradd Sylfaen mewn Nyrsio

Milfeddygol

BSc (Anrh) Gwyddor Nyrsio

Milfeddygol (Atodol)

Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau

Plentyndod

BSc (Anrh) Astudiaethau Plentyndod (Atodol)

Tystysgrif AU mewn Iechyd a Lles

Cymunedol

Gradd Sylfaen mewn Rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol

BSc (Anrh) Rheoli Iechyd, Lles a Gofal

COLEG GWENT

Gradd Sylfaen mewn Gemau - Celf a Dylunio

BA (Anrh) Celf Gemau

BA (Anrh) Dylunio Gemau

Cyfrifiadurol

Gradd Sylfaen mewn Darlunio

BA (Anrh) Darlunio ar gyfer Diwydiant

BA (Anrh) Darlunio

BA (Anrh) Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu Caneuon

BA (Anrh) Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol

BSc (Anrh) Diwydiannau Creadigol

(Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd) (Atodol)

Gradd Sylfaen mewn Cynhyrchu’r Cyfryngau

BA (Anrh) Cynhyrchu’r Cyfryngau

Cysylltwch â'r coleg yn uniongyrchol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau.

COLEG GWENT

HND Cyfrifiadureg

HND Seiberddiogelwch a Diogelwch Gwybodaeth

BSc (Anrh) Cyfrifiadureg

BSc (Anrh) Seiberddiogelwch

Cymhwysol

BSc (Anrh) Fforensig Cyfrifiadurol***

BSc (Anrh) Datblygu Gemau

Cyfrifiadurol

BSc (Anrh) Gwyddor Gyfrifiadurol

BSc (Anrh) Diogelwch Cyfrifiadurol***

Gradd Sylfaen mewn Troseddeg

BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder

Troseddol

Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod

BSc (Anrh) Datblygiad Plentyndod

MAE’N BOSIB Y BYDD

LLWYBRAU DILYNIANT AR GAEL

MEWN COLEGAU LLEOL ERAILL.

BSc (Anrh) Astudiaethau Plentyndod (Atodol) 4

***Dim ond ar gyfer 2025 y mae blwyddyn 3 y cwrs hwn ar gael, ac wedi hynny bydd BSc (Anrh) Fforensig Digidol yn disodli’r cwrs hwn.

COLEG GWENT

Tystysgrif Broffesiynol (ProfCe) mewn Addysg a Hyfforddiant ÔlOrfodol (AHO)

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PgCE) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (AHO)

Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (AHO)

COLEG Y CYMOEDD

CWRS A LLWYBR DILYNIANT

HNC Peirianneg Drydanol ac

Electronig

Gradd Sylfaen mewn Peirianneg

Drydanol ac Electronig (Atodol)

HND Peirianneg Drydanol ac

Electronig (Atodol)

BSc (Anrh) Peirianneg Drydanol ac

Electronig (Atodol)

Gradd Sylfaen mewn Rheoli Busnes

BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid

BA (Anrh) Busnes a Rheoli

BA (Anrh) Rheoli Gwestai a

Lletygarwch

BA (Anrh) Rheoli Adnoddau Dynol

BSc (Anrh) Busnes a Rheoli

Rhyngwladol

BSc (Anrh) Logisteg, Caffael a Rheoli

Cadwyn Gyflenwi

BSc (Anrh) Marchnata

Gradd Sylfaen mewn Addysg,

Dysgu a Datblygu

BA (Anrh) Addysg, Dysgu a

Datblygu (Atodol)

BA (Anrh) Addysg

COLEG Y CYMOEDD

CWRS A LLWYBR DILYNIANT

Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio

Gemau Cyfrifiadurol

BA (Anrh) Celf Gemau

BA (Anrh) Dylunio Gemau

Cyfrifiadurol

Gradd Sylfaen mewn Technoleg

Gwybodaeth a Chyfathrebu

Gradd Sylfaen mewn

Ffotograffiaeth

BA (Anrh) Ffotograffiaeth

BA (Anrh) Llunio Gwisgoedd

BA (Anrh) Teledu a Ffilm: Gwallt, Colur ac Effeithiau Arbennig

BA (Anrh) Teledu a Ffilm: Creu

Propiau

BSc (Anrh) Peirianneg Rheilffordd (Sifil)

COLEG Y CYMOEDD

BSc (Anrh) Peirianneg Rheilffordd

(Peirianneg Systemau ElectroFecanyddol ac Electroneg)

HND Peirianneg Fecanyddol

BSc (Anrh) Peirianneg Fecanyddol

BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol

Tystysgrif AU mewn Iechyd a Lles

Cymunedol

BSc (Anrh) Rheoli Iechyd, Lles a Gofal

Cymdeithasol

HNC Seiberddiogelwch

BSc (Anrh) Cyfrifiadureg

BSc (Anrh) Seiberddiogelwch

Cymhwysol

BSc (Anrh) Fforensig Cyfrifiadurol***

BSc (Anrh) Datblygu Gemau

Cyfrifiadurol

BSc (Anrh) Gwyddor Gyfrifiadurol

BSc (Anrh) Diogelwch Cyfrifiadurol***

***Dim ond ar gyfer 2025 y mae blwyddyn 3 y cwrs hwn ar gael, ac wedi hynny bydd BSc (Anrh) Fforensig Digidol yn disodli’r cwrs hwn.

COLEG Y CYMOEDD

Tystysgrif Broffesiynol (ProfCe) mewn Addysg a Hyfforddiant ÔlOrfodol (AHO)

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PgCE) mewn

Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (AHO)

Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant

COLEG PENYBONT

CWRS A LLWYBR DILYNIANT

HNC Amaethyddiaeth

HND Amaethyddiaeth

HNC Astudiaethau Anifeiliaid

HND Astudiaethau Anifeiliaid

Gradd Sylfaen mewn Cyfiawnder

Troseddol

BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder

Troseddol

HNC Peirianneg Drydanol ac

Electronig

HND Peirianneg Drydanol ac

Electronig

BSc (Anrh) Peirianneg Drydanol ac

Electronig (Atodol)

HNC Rheoli Cadwraeth

Amgylcheddol

HND Rheoli Cadwraeth

Amgylcheddol

HND Rheoli Cadwraeth

Amgylcheddol (Atodol)

HNC Astudiaethau Ceffylau

HND Astudiaethau Ceffylau

COLEG PENYBONT

HND Peirianneg Fecanyddol

BSc (Anrh) Peirianneg Fecanyddol

HND Gwasanaethau Cyhoeddus a Brys

BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus

BA (Anrh) Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu Caneuon

Gradd Sylfaen mewn Technoleg

Cerddoriaeth Boblogaidd

BA (Anrh) Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol

BSc (Anrh) Diwydiannau Creadigol (Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd)

COLEG PENYBONT

Gradd Sylfaen mewn Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Tystysgrif Addysg Uwch mewn

Iechyd a Lles Cymunedol

BSc (Anrh) Rheoli Iechyd, Lles a Gofal

Cymdeithasol

Gradd Sylfaen mewn Seicoleg

BSc (Anrh) Seicoleg

Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau

Plentyndod**

BSc (Anrh) Astudiaethau Plentyndod (Atodol)

Tystysgrif Broffesiynol (ProfCe)

mewn Addysg a Hyfforddiant ÔlOrfodol (AHO)

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PgCE) mewn

Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol

COLEG PENYBONT

A LLWYBR DILYNIANT

Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant

Ôl-Orfodol (AHO)

MAE’N BOSIB Y BYDD

LLWYBRAU DILYNIANT AR GAEL MEWN COLEGAU LLEOL ERAILL.

Cysylltwch â'r coleg yn uniongyrchol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau.

COLEG CAERDYDD A’R FRO

Gradd Sylfaen mewn Addysg, Dysgu a Datblygu

BA (Anrh) Addysg, Dysgu a Datblygu (Atodol)

BA (Anrh) Addysg

Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio

Gemau Cyfrifiadurol

BA (Anrh) Celf Gemau

BA (Anrh) Dylunio Gemau

Cyfrifiadurol

Gradd Sylfaen mewn Seicoleg

BSc (Anrh) Seicoleg

Tystysgrif AU mewn

Camddefnyddio Sylweddau

BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder

Troseddol

BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus

Tystysgrif Broffesiynol (ProfCe) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-

COLEG

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PgCE) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (AHO)

Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (AHO)

EIN HYMRWYMIAD

SIARTER

Datblygir y Siarter Myfyrwyr ar y cyd gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Mae’n egluro ymrwymiad y Brifysgol i weithio mewn partneriaeth â chi i ddarparu profiad o ansawdd uchel o fod yn fyfyriwr a’ch helpu i gyflawni llwyddiant personol ac academaidd. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.decymru.ac.uk/ gwerthoedd

Y GYMRAEG

Gallwch wella a defnyddio'r Gymraeg wrth astudio cwrs PDC. Gall myfyrwyr astudio rhai cyrsiau'n ddwyieithog. Os nad oes cyfleoedd dwyieithog, gall myfyrwyr barhau i gyflwyno eu gwaith yn Gymraeg. Gallwch hefyd ddewis lleoliad profiad gwaith cyfrwng Cymraeg. I ddysgu mwy, cysylltwch â'r hyrwyddwr dwyieithog yn eich coleg, neu ewch i www.decymru.ac.uk

HYGYRCHEDD

Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu gwefannau a chyhoeddiadau sy'n gwbl gynhwysol. Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod pob tudalen ar y wefan ac mewn cyhoeddiadau yn cydymffurfio â chanllawiau hygyrchedd. Oherwydd maint a chymhlethdod presenoldeb gwe'r Brifysgol, mae hon yn broses barhaus. Er mwyn gwneud ein cyhoeddiadau mor hygyrch â phosibl, rydym yn cynnig dwy ffordd o gael mynediad atynt, eu gweld a'u darllen. Gallwch naill ai eu darllen drwy'r platfform ISSUU neu eu gweld ar-lein a lawrlwytho PDF. Mae'r ffeil PDF wedi'i datblygu i fod yn hygyrch. Yna rydym yn defnyddio'r union ffeil hon ac yn ei lanlwytho i ISSUU i gadw cynifer o'r nodweddion hygyrchedd â phosibl trwy'r platfform. I ddarllen pa nodweddion hygyrchedd sydd wedi'u gweithredu o fewn y PDF, ewch i'n gwefan. Os oes gennych

unrhyw gwestiynau neu adborth ynghylch hygyrchedd y wefan hon neu ein cyhoeddiadau, neu os cewch chi unrhyw anawsterau, cysylltwch â ni.

I gael cymorth gyda hygyrchedd, ebostiwch accessibility@southwales.ac.uk

I gael cymorth gydag anableddau neu anghenion ychwanegol, anfonwch e-bost at disabilityadviser@southwales. ac.uk

CYN I CHI WNEUD CAIS

Mae'r Brifysgol yn adolygu ei phortffolio o gyrsiau yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn darparu'r ansawdd gorau posibl. Rydym hefyd yn diweddaru ac yn adolygu cynnwys cyrsiau yn ôl yr angen i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gyfredol. Rydym yn cynghori ymgeiswyr yn gryf i wirio gwefannau ein colegau partner a'n gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau, cynnwys cyrsiau, gofynion mynediad a chostau ychwanegol cyn cyflwyno eu cais.

GWYBODAETH DDEFNYDDIOL

YNGLYN Â’R CANLLAW

HWN

Mae'r canllaw hwn yn rhoi arweiniad cyffredinol ac nid yw'n rhan o unrhyw gontract. Mae'r wybodaeth a roddwyd wedi'i chynhyrchu ymhell cyn cyflwyno'r cyrsiau a amlinellir ar gyfer myfyrwyr sy’n disgwyl dechrau'r

Brifysgol ym mlwyddyn academaidd 2025-26. Er y credir ei fod yn gywir ar adeg cynhyrchu, dylid edrych ar ein gwefan, a /neu wefannau coleg partner i weld y sefyllfa ddiweddaraf. Mae’r

Brifysgol yn cadw’r hawl i ddiwygio neu derfynu cyrsiau, neu newid cyfleusterau, mewn ymateb i amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth neu pan fydd yn ystyried ei bod yn rhesymol ac angenrheidiol gwneud hynny. Bydd y Brifysgol yn ymdrechu i ymateb i newid drwy ymgynghori â'r rhai yr effeithir arnynt a/neu gymryd camau adferol i'w helpu.

SICRWYDD ANSAWDD

Mae logo diemwnt QAA a 'QAA' yn nodau masnach cofrestredig yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch ac yn dangos bod y Brifysgol wedi cael adolygiad annibynnol o safon y ddarpariaeth addysg uwch, ac wedi cyflawni canlyniad llwyddiannus.

DYLUNIAD

Cynhyrchwyd gan adran Myfyrwyr y Dyfodol. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi helpu gyda'r prosiect hwn.

Argraffu a Dyluniad:

Argraffu a Dylunio PDC

STATWS ELUSEN

Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif cofrestru 1140312.

GRWP PRIFYSGOL DE CYMRU

Mae Grŵp Prifysgol De Cymru yn cynnwys Prifysgol De Cymru, Y Coleg Merthyr Tudful, a Choleg

Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.