Newyddlen Ionawr Cynllun Gweithio'n Hybrid

Page 1

NEWYDDLEN CYNLLUN GWEITHIO’N HYBRID

Ionawr 2024 Yn dilyn negeseuon a yrrwyd atoch cyn y Nadolig a’r sesiwn byw diweddar gyda’r Prif Weithredwr – dyma eich atgoffa eto y bydd y Cynllun Gweithio’n Hybrid yn cael ei gyflwyno yn swyddogol ar y 1af o Ebrill 2024. Os ydy’r trefniant yma yn eich effeithio chi, mi ddylech fod yn ymwybodol yn dilyn trafodaethau gyda’ch rheolwr llinell. Bydd y Cynllun yn galluogi swyddogion llawn-amser i weithio hyd at 3 diwrnod yr wythnos o adref ple mae eu swyddi yn caniatáu iddynt weithio yn hybrid. Golyga hynny y bydd gofyn i bob swyddog llawn-amser weithio lleiafswm o 2 ddiwrnod yr wythnos o’r ganolfan waith arferol. Ceir rhagor o wybodaeth am y Cynllun ar y mewnrwyd. Mae’n galonogol gweld bod niferoedd sy’n dod i mewn i'r gweithle wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf a tipyn mwy o fwrlwm yn ôl yn ein swyddfeydd bellach. Efallai eich bod chithau hefyd wedi sylwi bod nifer mwy o geir i weld yn y meysydd parcio bellach. Pwrpas y Cynllun yw sicrhau ein bod yn parhau i allu manteisio ar y buddion mae caniatáu gweithio o gartref wedi ei brofi i ni dros y blynyddoedd diwethaf o ran sicrhau cydbwysedd bywyd a gwaith, cynhyrchiant ayyb. Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod cyswllt wyneb i wyneb rheolaidd yn digwydd nid yn unig i gefnogi gweithwyr newydd i’n timau ond yn allweddol hefyd i sicrhau dyletswydd gofal a llesiant sydd gan y Cyngor atoch fel staff. Gobeithio y bydd y tueddiad diweddar yn parhau i godi momentwm dros y misoedd nesaf ac y bydd pawb wedi dod i arfer gyda’r trefniadau gwaith yma erbyn y 1af o Ebrill. Dros y misoedd nesaf byddwn yn rhyddhau cyfres o newyddlenni er mwyn eich diweddaru am y gwaith fydd yn digwydd i addasu ein swyddfeydd a’r holl waith arall sy’n digwydd sydd yn gysylltiedig a gweithredu’r Cynllun i'r dyfodol – felly gwyliwch allan am ragor o wybodaeth.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Newyddlen Ionawr Cynllun Gweithio'n Hybrid by Cyfathrebu Mewnol - Issuu