Newyddlen Hydref 2023 - Oedolion, Iechyd a Llesiant

Page 1

OEDOLION, IECHYD A LLESIANT

NEWYDDLEN HYDREF 2023

Gair gan Aled.

Rhyw wythnos yn ôl, ‘roedd y dyddiadur yn dweud wrthai fod gen i ddiwrnod llawn Cyfres o bump o gyfarfodydd un ar ôl y llall yn y bore ar Teams a ’ r prynhawn yn cael ei dreulio nol ac ymlaen rhwng dau gyfarfod pellach ond hynny wyneb yn wyneb mewn dau leoliad 3 milltir ar wahân

Roedd y bore yn berthnasol ac yn wir yn ddefnyddiol iawn o ran cyflawni a chyfrannu at yr ymdrech i gynnal a gwella gwasanaethau Roedd gwerth i’r amser a fuddsoddwyd Ond mi wnes wirioneddol fwynhau’r prynhawn

Roedd y cyfarfod cyntaf yn rhan o ’ r gyfres o sesiynau gyda staff llinell flaen gyda Dylan y Cyfarwyddwr, Dilwyn Morgan ac Elin Walker Jones yr aelodau cabinet, Marian Pennaeth yr Adran Plant, staff hyfforddiant a

chefnogaeth corfforaethol. Amcan y sesiynau ydi diolch i bawb am eu gwaith caled ond hefyd i gael cyfarfod a chael sgyrsiau gyda staff a rhoi cyfle iddynt ein holi ac hefyd i rannu gwybodaeth am beth sy ’ n gweithio’n dda neu ddim cystal a gwneud awgrymiadau i ni ynglŷn a materion sydd angen ein sylw fel arweinwyr Roedd y sesiynau yn ddifyr ac yn fywiog gyda cyfraniadau perthnasol a gwerthfawr gan pawb oedd yn bresennol

Roedd yr ail gyfarfod yn ymdrin gyda un o ’ r prif heriau sy ’ n wynebu’r gwasanaethau gofal yng Ngwynedd a thu hwnt ar hyn o bryd, recriwtio a chadw staff Roedd y cyfarfod yma yn ymdrin yn benodol gyda’r her yn ein cartrefi preswyl, gyda rheolwyr cartrefi, staff adnoddau dynol, yr Uned Datblygu Gweithlu a staff yr Adran Oedolion yn cyfrannu Doedd ddim disgwyl canfod atebion i’r holl broblemau recriwtio yn y cyfarfod ond roedd yn ddefnydd da o amser i wella dealltwriaeth o ’ r her ac i siapio’r camau nesaf o ran yr ymdrech i gael gweithlu llawn ac effeithiol

Yn gyffredin i’r ddau gyfarfod oedd y gwerth oedd i’w gael o gynnal y sgyrsiau yn weddol anffurfiol ac yn bwysicach allan o ’ r swyddfa a wyneb yn wyneb Mi gefais i fwy allan o ’ r cyfarfodydd oherwydd ein bod yn yr un ystafell a bod cyfle i gael sgyrsiau grŵp agored a thrafod heriau presennol ac opsiynau ar gyfer y dyfodol Rhaid hefyd cofio gwerth y sgyrsiau anffurfiol dros baned Y cyfle i drafod gwaith ond hefyd y sgyrsiau personol 1:1 gyda cydweithwyr

Mae defnyddio technoleg a chyfarfod trwy Teams yn hwyluso llawer agwedd o ’ n gwaith ac yn wir yn gymorth i ni ddefnyddio amser ac adnoddau’n effeithiol. Ond wrth i ni symud tuag at drefniadau gwaith ‘hybrid’ mwy ffurfiol, rhaid peidio anghofio gwerth cyswllt wyneb yn wyneb. Mae’n fuddiol a llesol i ni gyd ac yn bendant yn werthfawr i reolwyr fod allan o ’ r prif swyddfeydd yn siarad gyda’r staff sy ’ n cyflawni’r gwaith pwysicaf sydd gennym, sef cefnogi trigolion mwyaf bregus y Sir. Mae hynny yn rhoi gwell siawns i ni ddeall ac ymateb i heriau a cryfhau darpariaeth gofal yng Ngwynedd.

Diolch i’r rhai ohonoch wnaeth eu trefnu ac i’r rhai wnaeth fynychu a chyfrannu at lwyddiant y cyfarfodydd.

Gwynebau Newydd

Mae sawl unigolyn wedi ymuno a ' r adran Oedolion ers y newyddlen ddiwethaf ym Mehefin. Rhwng prentisiaethau iechyd a gofal, gwaith gweinyddol cefnogi busnes a swyddi cydlynydd gofal, mae ' n amlwg bod y cyd-weithwyr newydd yma wedi dechrau set o rolau difyr ac amrywiol Pa well ffordd o ddechrau'r newyddlen yma nac i gyflwyno a chroesawu'r wynebau newydd yma i weddill yr Adran?

Ychydig am fi fy hun:

Helo, fy enw i ydi Iwan Roberts Dwi’n 25 oed ac wedi bod yn gweithio i’r Cyngor ers tua dau fis erbyn hyn Mae’r amser wedi mynd yn sydyn a dwi’n falch o gael y cyfle o weithio i wasanaethu fy nghymuned frodorol, yn enwedig gan fy mod wedi byw yn Lloegr am lawer o ’ r blynyddoedd diwethaf wrth i fi fynd i’r brifysgol Wnes i orffen gradd meistr mewn Hanes a Gwleidyddiaeth efo Prifysgol Efrog mis Rhagfyr dwythaf, profiad heriol ond yn ddifyr hefyd. Mae hyn yn sicr yn esiampl o rhai o fy niddordebau, rwy ’ n hoff o ddarllen a dysgu am bethau fel hanes, gwleidyddiaeth a chymdeithaseg, yn ogystal â cherdded, beicio ac ysgrifennu.

Fy swydd:

Rydw i yn gweithio fel Cymhorthydd Gweinyddol Busnes o fewn y tîm Cefnogi Gweithlu yn yr adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Ers i fi ddechrau, rydw i wedi cael profiad o gyfrannu at sawl agwedd gwahanol o waith y tîm, yn cynnwys mewnbynnu data, cyfrannu at y newyddlen, trefnu cyfarfodydd a gwneud gwaith gweinyddol arall fel sydd angen, yn ogystal â gwneud gwaith ymchwil er mwyn darganfod ffyrdd o wneud yr adran yn fwy effeithiol ac effeithlon. Rwyf hefyd yn falch o gael y cyfle i weithio tŷ allan y Tîm Cefnogi gweithlu ac yn cael llawer o foddhad drwy helpu'r Tîm Awtistiaeth newydd yn ogystal â’r Tîm Anableddau Dysgu efo llawer o ’ r tasgau uchod

Beth hoffwn gyflawni yn fy swydd:

Dwi’n edrych ymlaen at barhau i wasanaethu cymuned Gwynedd, ac yn enwedig o falch o ’ r gwaith mae ’ r Tîm Cefnogi Gweithlu yn ei wneud wrth iddo helpu pobl sydd yn gwneud gwaith hollbwysig fel gweithwyr cymdeithasol Rwyf hefyd yn sicr yn edrych ymlaen at barhau i weithio efo’r Tîm Awtistiaeth gan ei fod yn newydd ac felly mae llawer o waith difyr i’w wneud o ran sefydlu'r tîm a lledaenu ymwybyddiaeth o ’ r gwaith pwysig mae nhw’n gwneud.

Cadi Parry

Ychydig am fi fy hun:

Helo! Fy enw i yw Cadi Parry ac rwyf wedi dechrau prentisiaeth gyda'r Cyngor ers tua dau fis erbyn hyn. Cyn dod i weithio i’r Cyngor, mi o ’ n i yn y chweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Nantlle, lle astudiais Celf, Gwasanaethau Cymdeithasol, Seicoleg a Bagloriaeth. Ar ôl dwy flynedd o astudio, teimlaf fy mod yn dysgu’n well drwy brofiadau ac yn cael mwy o fodlonrwydd drwy gael cyfrifoldebau a thasgau i’w cyflawni, sydd yn egluro pam fy mod wedi dewis prentisiaeth yn lle'r brifysgol. Mae gen i ddiddordeb mewn gwasanaethau

cymdeithasol a ’ r ffordd mae ymennydd pobl yn gweithio, cefais ddysgu llawer am hyn drwy astudio seicoleg. Rwyf wrth fy modd yn ceisio darganfod ffyrdd o helpu pobl mewn amryw o sefyllfaoedd, boed yn gymorth yn y gymdeithas, neu gymorth i un o fy nghydweithwyr

Beth yw dy swydd a’i phwrpas:

Teitl fy swydd yw Prentis Cefnogi Busnes Gofal Cymdeithasol Dwi’n gweithio o fewn y Tîm Cefnogi Gweithlu yn yr adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Mae fy swydd yn eang iawn ac yn golygu fy mod yn cael blas o lawer o wahanol dasgau drwy’r brentisiaeth. Rwyf wedi cael y profiad o fynd allan i gysgodi swyddi gweithwyr cefnogol, ac wedi cael bod yn rhan o amryw o gyfarfodydd allanol. Nid yn unig hynny, ond rydw i wedi cael llawer o gyfrifoldebau yn cynnwys trefnu cyfarfodydd, gweithio ar stondin y Cyngor yn yr Eisteddfod, gwaith hyrwyddo digwyddiadau ac archebu adnoddau Rwyf hefyd ynghlwm â’r gwaith dydd i ddydd DOLS, trefniadau ariannol a chyllidol ac rwyf wedi bod yn ymgymryd â digwyddiadau ymgysylltu gyda staff gofal ble rwyf wedi cynorthwyo gyda phob agwedd o ’ r trefnu.

Beth wyt ti’n edrych ymlaen i gyflawni neu wneud yn dy swydd:

Rwyf yn edrych ymlaen at ddysgu sgiliau newydd a wnaiff godi fy hyder yn y swyddfa o ran gwaith a therminoleg broffesiynol. Credaf fy mod yn cael llawer iawn o brofiadau hyd yn hyn felly mae ’ n gyffroes gweld pa gyfleoedd sydd o ’ m blaen. Wrth symud ymlaen, gobeithiwn weithio gyda’r Tîm Iechyd Meddwl, a deall be maent yn gwneud yn ei swyddi dydd i ddydd Mae gen i ddiddordeb yng ngwaith y Tîm Iechyd Meddwl a chredaf fod hyn yn plethu’n dda gyda’r dysgu a gefais fel rhan o ’ m Lefel A mewn Seicoleg. Er hynny, rwy ’ n sicr bod y Tîm Cefnogi Gweithlu yn fy ngwthio i gyrraedd targedau a dysgu sgiliau newydd pob dydd.

Barrie Wyn Owen

Barrie Wyn Owen ydy fy enw a rwyf wedi gweithio i Gyngor Gwynedd ers ugain mlynedd pan ddechreuais mewn swydd hollol newydd ar y pryd, Cynllunydd/Goruchwylydd gyda gwasanaeth gofal cartref yng Nghaernarfon Rwyf yn mwynhau darllen, yn enwedig hunan-gofiannau, cerdded a crwydro, gwylio dramȃu awyr-agored, a chasglu cylchgronau a llyfrau ‘Ladybird’ mewn ieithoedd ar-wahân i Saesneg (mae’r gyfres wedi ei chyfieithu i bron hanner cant o ieithoedd, gan gynnwys teitlau Cymraeg, Gaeleg Iwerddon a ’ r Alban, Arabig, Africaaneg, Esperanto, yn ogystal ag ieithoedd mwy cyfarwydd). Rwyf wrth fy modd gwrando ar gerddoriaeth byd ac yn gwrando ar fiwsig eclectig rhaglen Georgia Ruth ar Radio Cymru

Dechreuais fy ngyrfa gyda’r Cyngor yn 2003 yn gyfrifol am ddarparu amryw o wasanaethau gwahanol i alluogi unigolion fyw yn eu cymunedau lleol; ac yng Nghaernarfon roeddwn yn gyfrifol am dros pedwar-deg pump o ofalwyr cartref, sawl un wedi gweithio ers dyddiau’r “home help” cynt, ddarparu dros mȋl o oriau pob wythnos Roedd gennyf brofiad rheoli yn y maes arlwyo yn ogystal ȃ blynyddoedd o brofiad maes gofal Cyn cychwyn gweithio i’r Cyngor, roeddwn yn aelod o dîm yn helpu unigolion awtistaidd ddysgu sgiliau byw yn annibynnol mewn tŷ hanner-ffordd ar ôl iddynt adael canolfannau gofal hir-dymor.

Rwyf wedi gweithio mewn sawl ardal yn Arfon dros y blynyddoedd; rwyf bellach ar secondiad o ’ m swydd cymhorthydd gweinyddol ers dechrau Chwefror fel cyd-lynydd yn ardal Eifionydd (Porthmadog a Cricieth yn bennaf, pan na fydda’i yn ‘benthyg’ gweithwyr o ardaloedd eraill )

Zara Williams

Zara Williams ydw i, dwin 38 oed ac yn byw yn Bala amser sbar fi dwi wrth fy modd yn gwario amser efo teu ffrindiau

Dwin gweithio fel cydlynydd gofal cymunedol ers Mawrth yn helpu trefnu gofal yn yr ardal Bermo a Harl efo tim hollol anhygoel yn Dolgellau.

Dwi wrth fy modd yn fy swydd newydd ac yn mwynhau agwedd ac yn ddiolchgar iawn i pawb or tim am cefnogaeth a mynedd weithiau!!! Dwi’n dysgu rhywb newydd pob dydd, ac mae ’ r hyder yn tyfu genai. Mae dydd yn hollol gwahanol i’r llall a mae hwnna yn gyffro mi, a dwi’n edrych ymlaen i weithio pob dydd.

Nes i ddechrau gweithio i’r cyngor 8 mlynedd yn ol a gweithio tu ol i’r bar yn y pubs lleol a teimlo fel o ’ni an newid mawr. Dechreuais fel gofalwr yn y gymuned, a ’ r regret oedd mod i ddim wedi mynd amdano yn gynt. Dw gwirioni efo’r sector gofal ac yn falch iawn o wneud fy r yn y gymuned ac i ddatblygu fy ngyrfa yn bellach ddiweddar.

Margaret Ranson

Margaret Ranson ydi fy enw, ond Mogz mae pawb yn fy ngalw.

Rwyf yn 36 mlwydd oed.

Mae gennaf bedwar o blant anhygoel sydd yn fy nghadw yn brysur iawn tu allan i oriau gwaith.

Yn Corwen rwyf yn byw ond hogan o ’ r Bala ydw i’n wreiddiol

Fy hobïau i yw, rhedeg, syrffio a dringo dan-do.

Mi gychwynnais yn fy rôl newydd- goruchwyliwr cymunedol yn ardal Tywyn yn ôl yn mis Mawrth. Rwyf wedi ymuno â tîm o weithwyr anhygoel.

Cyn cychwyn fy swydd newydd mi roeddwn yn gweithio fel gofalwr cymunedol yn y Bala am 8 mlynedd.

Ffion Wynne Edwards

Hoffwn gyflwyno’n hun. Ffion Edwards ydw i, ac rwyf wedi fy mhenodi fel y Swyddog Gofalwyr Ifanc cyntaf o fewn y Cyngor. Pwrpas fy rôl ydi i addasu adnoddau sydd ar gael i ofalwyr ifanc yn ein hardal, ac i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr

Mae bellach dros 76 o ofalwyr ifanc yn agored i gymorth yma yng Ngwynedd, ac rydym yn gyd weithio a Gweithredu dros Blant i gefnogi'r sawl sydd yn agored i ni Er hyn rydym i ddeall yn ôl y cyfrifiad fod cymaint â 1,000 o ofalwyr ifanc cudd yn bodoli, yn byw bywydau caled heb ddim cymorth.

Gydag hyn mewn golwg mae yna waith i wneud i ddod a ’ r sawl sydd ddim yn ymwybodol eu bod yn ofalwyr ifanc i’r bae. Rwyf wedi paratoi taith ysgol i ddechrau yn y flwyddyn addysgol newydd i godi’r ymwybyddiaeth.

Mae bellach ap arbennig ar gael i ofalwyr ifanc gyda disgowntiau yn cael ei gynnig ar ddangos yr ap neu gerdyn adnabod mewn cwmnïau lleol, yn cynnwys McDonalds a byw’n iach.

Rwyf yn rhoi cyflwyniadau i dimoedd eisoes ar sut i adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc ond dwi’n poeni ella fy mod yn methu rhai. Felly, os hoffech fwy o wybodaeth neu eisiau trafod ymhellach, cysylltwch

Dwi wedi ategu rhywfaint o wybodaeth i’r e-bost hwn i chi, yn cynnwys inffograff, wefan ein gwaith ni a dyma linc i wefan youtube, efo’r fideo cafwyd ei greu i’r gwobreuon ‘social care accolades’. Y Gwobrau 2023 - Prosiect Cefnogi Gofalwyr - YouTube.

Www.aidi.cymru

Mae croeso mawr i chi gysylltu os am sgwrs bellach ynglŷn â fy gwaith.

Lyndsey Marie Owen

Rwyf yn wreiddiol o Llanrug ond wedi ymgartrefu ym Mhenisarwaun gyda fy ngŵr Ian a merch Madi, sy ’ n 4 oed

Pwrpas fy swydd fel Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol yw cynnal trigolion adref yn annibynnol mor hir a phosib. Nid ydym yma i or-wasanaethu ond yn hytrach er mwyn hybu annibyniaeth a darparu cymorth yn ôl yr angen

Rwyf wedi gweithio yn y maes Oedolion am 19 o flynyddoedd fel swyddog gweinyddol ac wedi datblygu nifer o sgiliau sydd wedi fy ngalluogi i drosglwyddo i’r swydd yma Ar ôl dangos diddordeb i ddatblygu fy ngyrfa

roeddwn yn lwcus iawn i gael y cyfle i gysgodi nifer o weithwyr o fewn y maes sy ’ n darparu gwasanaeth i drigolion y Sir. Yn ogystal cefais gyfle gwych i fynd i Birmingham yn 2022 gyda nifer o ’ r tim therapyddion galwedigaethol i’r sioe flynyddol “OT show” Rhoddodd y profiadau hyn i gyd hwb a ’ r hyder i mi ymgeisio fel swydd ymarferydd gwaith cymdeithasol Teimlaf yn ffodus iawn i gael cynnig secondiad i’r tim am 6 mis sydd bellach wedi ei ymestyn am 6 mis arall, hyd at fis Mawrth 2024. Yn ystod fy nghyfnod fel ymarferydd gwaith cymdeithasol rwyf wedi manteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddiant er mwyn datlygu a byddaf yn cychwyn astudio cwrs gyda’r Brifysgol Agored mis nesaf ( K102: Introduction to Health and Social Care)

Rwyf wir yn mwynhau fy rôl a chael cyfarfod a nifer o drigolion y Sir Mae’r gallu i gynorthwyo unigolion i barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartref yn rhoi yr hwb i mi fod eisiau parhau i ddatblygu yn fy rôl. Rwyf wrth fy modd gyda’r teimlad fy mod wedi gwneud gwahaniaeth i unigolion ac yn gwerthfawrogi pob cyfle rwyf yn ei gael i ddatblygu yn y rôl

Llio Leadbitter

Ychydig am fi fy hun:

Llio Leadbitter ‘dwi, byw yn Nghaernarfon. Newydd brynu tŷ sydd angen lot o waith a sylw felly rhwng hyn a ’ r ferch, Cadi, sydd yn ddwy, a Meg y ci mae gennai ddigon i gadw fi’n brysur!

Fy swydd a’i bwrpas:

Rheolwr Darparu a Datblygol Anabledd Dysgu (neu y ffordd haws i ddisgrifio, yr Olwen Newydd!)

Rwyf yn gyfrifol am Adran Darparu Anabledd Dysgu Arfon sydd yn cynnwys Frondeg, Tai a Chefnogaeth, Gwasanaethau Cefnogol, Cynllun Cymunedol, Gweithdy Glynllifon a Hwb Arfon yn y Ganolfan Hamdden. Mae’r adran Darparu yn un eang – pob arweinydd yn delio hefo agwedd gwahanol o ’ r maes, sydd yn gwneud fy swydd i yn un difyr iawn a pob dydd ym mhob gwasanaeth yn wahanol.

Fy nghefndir proffesiynol:

Mae gennyf radd mewn Seicoleg, a wedi cwblhau NVQ Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mi wnes gychwyn yn y maes Anabledd dysgu fel gwirfoddolwr yn Antur Waunfawr cyn cael cynnig swydd cefnogi llawn amser,

ac wedyn ymlaen i wneud rôl yn y swyddfa yn delio gyda’r gwasanaethau preswyl a dydd cyn symud ymlaen i wneud cwynion hefo Adra (union gymaint o hwyl a mae ’ n swnio!) ac wedyn ymuno a ’ r Cyngor yn 2018 mewn swydd trawsffurfio, yn trio gwella’r cydweithio rhwng Gwasanaethau

Cymdeithasol Oedolion a ’ r Bwrdd Iechyd O hyn ges swydd Swyddog Sicrwydd Ansawdd a chael profiadau o bob math gyda tîm gwych.

Beth ydw i’n edrych ymlaen i gyflawni neu wneud yn fy swydd:

Hapus iawn i fod nol yn y maes Anabledd Dysgu, a gweithio yn yr adran Darparu sydd yn gofyn i mi dynnu ar fy mhrofiadau i gyd dros feysydd gwahanol dros y blynyddoedd.

Mae gennyf gymaint o syniadau a prosiectau i’r dyfodol, ond yn gyntaf y prosiect mwyaf i fi fydd i gael babi rhif 2, sydd fod i gyrraedd diwedd mis Hydref!

Ymgyrch Recriwtio Maes

Gofal

gan Gwenno Angharad Williams

Allwch chi helpu? Fel rhan o ’ r ymgyrch recriwtio barhaus i’r sector Gofal ‘da ni wastad yn chwilio am syniadau gwahanol o lefydd i hyrwyddo swyddi a gwasanaethau a hefyd wastad yn chwilio am ddigwyddiadau i fynychu Oes gennych chi syniadau o lefydd gwahanol fyddai’n dda i ni dargedu? Rhannu pamffledi ac ati? Rydym hefyd yn trio tynnu rhestr o ddigwyddiadau lleol – sioeau, gwyliau, ffeiri ar draws y sir lle allwn ni gael presenoldeb i arddangos gwasanaethau a swyddi gwahanol yn y sector Ddaru ni gael stondin yn yr Eisteddfod eleni gyda gwasanaethau gwahanol yn gwneud gweithgareddau gwahanol bob diwrnod – roedd yn grêt i ennyn diddordeb ac i ddechrau sgwrs Beth sydd yn mynd ymlaen yn eich ardal chi ar ran digwyddiadau? Be ydi’r dyddiadau mae ’ r digwyddiadau yma ‘mlaen fel arfer? A gwell byth, oes gennych gyswllt i drefnu stondin? Cysylltwch efo Gwenno i rannu eich syniadau – GwennoAngharadWilliams@gwynedd.llyw.cymru

Yr Eisteddfod yn dod i Wynedd!

Ers y newyddlen ddiwethaf rydym ni yng Ngwynedd wedi bod yn lwcus iawn i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol O Awst y 5ed i'r 12fed, daeth tua 150,000 o ymwelwyr draw i Foduan ym mhenrhyn Llyn i ymweld â’r ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop. Draw ym mhabell Cyngor Gwynedd roedd hysbysebiad gwych o Wynedd a ' r diwylliant bywiog a chymunedau balch sy ' n diffinio ein sir, ond yn bwysicach i ni chafwyd hysbysebiad gwych o Wynedd Ofalgar. Bu llu o weithgareddau yn ystod yr wythnos, ond yn bennaf ar y dydd Gwener olaf, er mwyn hyrwyddo gwaith gwych yr adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol

Agorwyd ein gweithgareddau ni gyda sesiwn yn ffocysu ar Ofalwyr Ifanc a chyflwyno’r syniad o gatalyddion cymdeithasol Daeth Tîm Dementia Actif at ei gilydd hefyd i arddangos y llu o weithgareddau sydd ganddynt i gynnig - o aerobics cadair i gasglu atgofion chwaraeon. Erbyn diwedd yr wythnos, roedd mwy o gyfle i’r gwasanaeth cymdeithasol godi ymwybyddiaeth o ’ n gwaith ymysg y gymuned. Cynhaliwyd hefyd digwyddiad llwyddiannus iawn lle'r oedd cyfle perffaith i annog

pobl i feddwl am warchod eu hiechyd meddwl. Roedd hyd yn oed Criw Cyw wedi ymuno! Hefyd, rhaid peidio anghofio am lansiad y tîm awtistiaeth newydd - cewch glywed mwy am hynny nes ymlaen Clywid hefyd am gyfleoedd gwaith yn y gwasanaeth - tasg hollbwysig o ystyried y sialensiau staffio sy ’ n wynebu'r sector gofal ar y funud Erbyn diwedd dydd Gwener, roedd Côr Lleisiau Llawen Makaton wedi perfformio rhai o ’ u hoff ganeuon hefyd. Codwyd y to ganddynt er mwyn dod a diwrnod bythgofiadwy i Wynedd Ofalgar i ben

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn fawr i bob un a wnaeth gynorthwyo yn y gwaith o ddod a ’ r digwyddiadau yma at ei gilydd. Roedd yn dasg anferth a diflino ond diolch i chi aeth popeth fel watch!

Aerobics Cadair uchod a dathlu diwylliant ein ardal isod Iechyd Meddwl Côr Lleisiau Llawen yn cloi’r diwrnod i Wynedd Ofalgar.

Cyflwyno'r Tîm Awtistiaeth

Hefyd ar dydd Gwener yn yr Ei t ddf d dd C f l h i l l i d ff fi l

Awtistiaeth. Profodd i fod yn d Elin Walker Jones, roedd cyfle gwahanol. Roedd cynrychiolw adlewyrchu y cyd-weithrediad gwasanaeth gorau i bobl awtis

Mae’n sicr yn amser cyffrous o fewn y maes awtistiaeth ar y funud Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ymwybyddiaeth o gwmpas awtistiaeth wedi bod yn codi yn raddol yn y gymuned a mae mwy a mwy o bobl yn ymwybodol o ’ r angen i wasanaethu y gymuned yma a helpu nhw ymuno a ’ r gymdeithas ehangach. Mae ymwybyddiaeth wedi codi ar lefel gwleidyddol hefyd, fel y gwelwn efo’r

buddsoddiad diweddar mae Lly Cyngor Gwynedd hefyd wedi d ymroddiadau o ran sefydlu a e Cyngor wedi sefydlu Tîm Aw y p g g gy p awtistaidd.

Yn ran o adrannau Oedolion, Iechyd a Llesiant a Phlant a Chefnogi Teuluoedd, ac o dan reolaeth yr Arweinydd Ymarfer Awtistiaeth, Lucy Hemmings, mae ’ r tîm hefyd yn cynnwys 4 gweithiwr allweddol a un gweithiwr cymdeithasol, yn ogystal a staff gweinyddol. Rydw i yn bersonol hefyd yn falch iawn o gael y cyfle i weithio tu allan o fy nhîm arferol efo nhw, ac yn cael boddhad mawr o allu rhannu fy mhersbectif fel rhywun awtistaidd yn y gobaith y bydd y mewnbwn yma yn gwneud gwaith y tîm yn mor ymwybodol a sensitif a sy ’ n bosib.

Yn sicr, gall pob aelod o staff y Cyngor fod yn falch ein bod wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth arbenigol ar gyfer awtistiaeth Mae’n profi bod y Cyngor o ddifri o ran weithio tuag at Gwynedd Ofalgar sy ’ n rhoi siawns teg i bob aelod o ’ r cymdeithas. Bydd rhai ohonoch yn gweld y tîm yn y dyfodol agos wrth iddynt gynnal y hyfforddiant Bws Awtistiaeth yn y misoedd nesaf, profiad trawiadol sydd yn sicr o adael chi efo gwerthfawrogiad o rai o ’ r anawsterau mae pobl awtistaidd yn profi. Bydd hi’n ddiddorol iawn gweld y tîm yn datblygu wrth i amser fynd yn ei flaen, ac yn braf iawn gweld canlyniadau gwaith y tîm ar les a hapusrwydd pobl awtistaidd Gwynedd.

Brechiadau Cofid Staff Gofal

Gallwn i gyd fod yn falch fod y gwaethaf o ’ r pandemig cofid tŷ ôl i ni erbyn hyn. Er hynny, mae ’ n enwedig o bwysig i’r adran Oedolion i barhau ymddygiad o wyliadwriaeth tuag at y clefyd yma Bydd gofyn felly i staff gofal y Cyngor cael brechiad er mwyn diogelu ein hunain a ’ r cyhoedd wrth i’r gaeaf agosáu. Bydd staff Gofal Cymdeithasol yn derbyn llythyrau yn ystod yr wythnos yn cychwyn ar yr 18fed o Fedi a gallwn ddisgwyl gallu derbyn y frechiad yn ystod mis Hydref.

Tudalennau Oedolion, Iechyd a Llesiant

Fel yr wyf yn siŵr yr ydych yn ymwybodol erbyn hyn, mae Sian Pritchard, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu’r adran, wedi bod yn gweithio ar ddiweddaru ein tudalennau ar y wefan gorfforaethol. Erbyn hyn mae ’ r tudalennau ar ei newydd wedd yn fyw. Cewch weld hwy yma. Carwn i chi daro golwg dros y tudalennau hyn ac adrodd yn ôl i Sian gydag unrhyw adborth, boed hynny’n bositif neu negyddol ac adrodd ar unrhyw ffactorau sydd angen ei addasu.

Diweddaru Hwb yr Adran

Mae'r Tîm Cefnogi Gweithlu erbyn hyn wedi dechrau ar y tasg o ddiweddaru y Hwb Oedolion, Iechyd a Llesiant ar Fewnrwyd y Cyngor Yr amcan ydi i wneud gwybodaeth holl-bwysig yn fwy amlwg i staff yr adran, i sicrhau fod na man cyfleus, canolog i gynnig atebion i gwestiynau cyffredin. Rydym yn gobeithio bydd hyn, felly, yn cael yr effaith o wella perfformiad yr adran a sicrhau fod ein gweithlu mor ymwybodol a sy ' n bosib.

Bydd o leiaf pedwar tudalen gwahanol yn ffocysu ar wybodaeth amrywiol sy ' n hollbwysig i unrhyw aelod o staff yr Adran Oedolion, yn cynnwys diogelu unigolion bregus, iechyd

diogelwch staff, salwch a gwyliau a perfformiad a blaenoriaethu arian. Rydym yn bwriadu llunio tudalen canolog a fydd yn actio fel mynedfa i'r gwybodaeth, yn cynnwys cyflwyniad sydyn o ' r rhan newydd yma o ' r hwb yn ogystal a darparu dolenni i'r tudalennau yn ffocysu ar agweddau penodol

Bydd y gwybodaeth wedi eu lunio mewn ffordd hwylus a hygyrch ac yn targedu yr atebion yr ydych angen gwybod fel staff yr Adran Rydym yn gobeithio ymgorffori gwybodaeth defnyddiol a oedd yn flaenorol mewn llefydd llai amlwg o fewn fewnrwyd y Cyngor, fel yr Adran Bolisi, a felly yn gwasgaru y cymorth yma yn well a sicrhau fod ein staff yn cael budd ohono.

Grŵp Ymgysylltu Cyngor Gwynedd

Hoffem eich hysbysu o ’ r grŵp newydd ‘ grŵp ymgysylltu Cyngor Gwynedd’. Grŵp sydd yn canolbwyntio ar holl gyfathrebiadau ac ymgynghoriadau cyhoeddus a ddaw gan y Cyngor ydyw, gyda’r gobaith o leihau dyblygu a hyrwyddo cydweithio ar bob math o ymgynghoriadau cyhoeddus

Mae’r ymateb i ymgynghoriadau cyhoeddus wedi disgyn yn sylweddol dros y misoedd diwethaf, ac un rheswm am hyn yw ’ r nifer sylweddol o weithiau yr ydym ni fel Cyngor wedi mynd allan i ofyn i’r cyhoedd am gymorth. Gobeithiwn drwy greu ' r grŵp hwn y byddwn yn meddwl yn fwy strategol am ymgysylltu a chynllunio’n well o flaen llaw.

Bydd Sian Iolen Pritchard, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar ein cyfer yn yr adran.

Bydd Sian yn mynychu’r cyfarfodydd ac yn adrodd yn ôl ar unrhyw ddiweddariadau ond bydd Sian hefyd yn adrodd yn ôl i’r grŵp am unrhyw gynlluniau sydd gennym ni o ran ymgynghoriadau Cynghorwn ni chi felly i gysylltu â Sian os oes gennych unrhyw fwriad o wneud gwaith o ’ r fath, ac fe fydd yn fwy na pharod i’ch cynorthwyo.

Hyfforddiant Therapyddion Galwedi

Cafodd sawl aelod o dim Therapi Galwedigaethol yr

Adran y cyfle o fynychu cwrs dau ddiwrnod Symud a Thrin Gofal a ddarparwyd gan A1 Risk Solutions yn ddiweddar.

Roedd y hyfforddiant yn wych a wedi galluogi’r tîm i ddarparu asesiadau ac ymyriadau symud a thrin o

safon uwch, yn y gobaith o leihau straen ar staff gofal, yn ogystal a sicrhau gofal, urddas ac annibyniaeth mewn symud a thrin

Llwybrau Llesiant yn Camu Ymlaen

Ar y cyd â Byw'n Iach, trefnodd Llwybrau Llesiant 'Ddiwrnod Llesiant' yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn ym Mhorthmadog ar 10fed Gorffennaf, digwyddiad a ddenodd dros 90 o ddefnyddwyr gwasanaeth.

Roedd yr holl weithgareddau a drefnwyd ar y diwrnod yn rhad ac am ddim a ' r prif nod oedd cael unigolion i ddefnyddio eu cyfleusterau hamdden lleol yn fwy rheolaidd Fel y gwelir o ' r lluniau a ' r fideo atodedig, bu'r diwrnod yn llwyddiant ysgubol a daeth â digon o wen i ddigon o wynebau!

Mentro ar y Dŵr

Mae Llwybrau Llesiant wedi mynd i'r dyfroedd yn ddiweddar ac wedi trefnu i fynd â chriw i brofi pum dull gwahanol o deithio ar y dŵr. O'r Gogledd i'r De, y pump oedd;

Ymuno â sesiynau SEAS Sailability ym Mhlas Conwy yn Llanfairpwll.

Mynd ar fordaith ar Queen of the Sea o Gaernarfon

Profi'r Cwch Olwyn ym Marina Pwllheli.

Caiacio ym Min y Don yn Arthog fel rhan o ddiwrnod gweithgareddau awyr agored.

Mynd ar daith ar Gamlas

Maldwyn o ' r Trallwng trwy garedigrwydd Ymddiriedolaeth Heulwen

Roedd y pum sesiwn hyn yn cynnig profiadau unigryw, cofiadwy i bawb a gymerodd ran!

Pryder Cyfweliadau

Mae sawl wedi mynegi pryder bod y niferoedd sydd yn ymgeisio am swyddi, yn cael cynnig cyfweliad a ’ r niferoedd sydd yn troi fyny am gyfweliad ddim yn adio fyny. Gall rywun ffactori nifer o resymau am hyn gan gynnwys - newid mewn amgylchiadau, materion personol, bywyd dydd i ddydd yn ogystal â phroblemau technegol Rydym wedi cysylltu gyda gwasanaeth Cefnogol er mwyn mynegi’r pryder ac i feddwl am ffyrdd i drio lleihau’r niferoedd sydd ddim yn troi fyny wedi cael cynnig cyfweliad.

Fel rheol bydd ymgeisydd yn derbyn neges cadarnhad cyfweliad dros e-bost ac yn achlysurol gall yr e-bost yma syrthio i flychau spam neu jync unigolion Er bod rhybudd yn mynd allan fod peryg i ebost syrthio i’r blychau yma a bod angen monitro'r elfen yma o gyfrifon e-byst, hawdd ydi anghofio gwirio blychau bob tro.

Erbyn hyn mae Cefnogol wedi bod yn gweithio ar ddatblygu’r modiwl recriwtio a phenodi ar yr Hunan Wasanaeth ac mae ’ r datblygiadau diweddaraf yn golygu bod y system bellach yn gallu anfon neges destun cadarnhau cyfweliad i ymgeiswyr. Er mwyn derbyn neges cadarnhad ar ffurf neges destun mae rhaid sicrhau fod rhifau ffôn symudol wedi’u cynnwys yn y blwch priodol ar y ffurflen gais. Mae’r datblygiad yma wedi bod yn weithredol i Wasanaeth Cefnogol ers oddeutu tair wythnos bellach ac yn ystod y cyfnod yma yn unig maent wedi gweld cynnydd y niferoedd sydd yn ymateb i’r e-byst cadarnhad cyfweliad.

Gobeithiwn bydd y drefn yma yn parhau i fod yn ddatblygiad llwyddiannus iawn.

Ymdrin a gwybodaeth sensitif

Ym mis Gorffennaf anfonwyd neges i chi oll yn datgan na ddylid anfon unrhyw e-byst sy ’ n cynnwys gwybodaeth y Cyngor at gyfeiriadau e-byst personol (e.e. PersonX@gmail.com).

Aethpwyd ymlaen i nodi: Yn amlwg mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gleientiaid sydd yn derbyn gwasanaethau gan yr Adran. Gofynnwn i bawb sicrhau eich bod yn gyrru unrhyw wybodaeth y Cyngor i gyfeiriadau e-bost swyddogol, e.e. PersonX@Cwmnigofal.com. Weithiau, gall cyfeiriadau e-bost personol edrych fel rhai swyddogol, e e PersonXCwmniGofal@gmail com Os nad ydych yn sicr neu yn anghyffyrddus o gwbl am fanylion cyswllt, cynghorwn ni chi i gysylltu gyda’ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf, cyn anfon unrhyw wybodaeth.

Hoffem ymddiheuro am y dryswch a godwyd o ’ r wybodaeth hon. Rydym yn deall fod nifer fawr ohonoch yn e-bostio defnyddwyr gwasanaeth a ’ u teuluoedd drwy e-byst personol o ’ r fath, ac mae hynny’n iawn ac yn gywir. Ond, nid yw ’ n iawn i anfon gwybodaeth bersonol, sensitif, cynlluniau gofal ac ati i e-byst personol staff, , boed hynny’n staff y Cyngor neu staff cwmnïau allanol sy ’ n darparu gwasanaethau ar ein rhan. Os ydych yn e-bostio swyddog mewn capasiti gwaith, rhaid e-bostio eu cyfrif proffesiynol, a chyfri proffesiynol yn unig.

Gobeithiwn fod yn egluro’r sefyllfa yn well, a chofiwch fod hyfforddiant mandadol, diogelu data ar gael i bawb.

Canllawiau Atwrneiaeth Arhosol

Mae gan pob oedolyn hyn yn Gwynedd y hawl i fyw efo urddas, yn ddiogel ac yn hyderus, a mae dyletswydd arno ni fel Cyngor i weithio tuag at yr amcan yma. Mae’n holl bwysig i sicrhau felly fod rhywun dibynadwy wrth law i wneud penderfyniadau am iechyd a chyllid os nad yw ’ r unigolyn hŷn yn gallu gwneud hyn eu hunain I godi ymwybyddiaeth am y mater yma, mae ’ r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ynghyd â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi datblygu canllawiau i Atwrneiaeth Arhosol.

Gallwch weld sut i gael gafael ar y canllawiau isod. Mae’n gasgliad hwylus o wybodaeth sydd yn esbonio sut fedrith Atwrneiaeth Arhosol fod o fudd i oedolion hŷn, yn cynnwys rhoi tawelwch meddwl iddynt a ’ u teuluoedd trwy leihau yr angen i boeni am ddewisiadau cyllid, iechyd a lles Yn ogystal, mae ’ n darparu atebion at gwestiynau gyffredinol ynglŷn a ’ r pwnc ac yn sicr yn cyfrannu at greu Gwynedd Ofalgar i bawb yn ein cymuned.

Cliciwch yma am ddolen i’r canllawiau

Dementia Actif

Yn wir i'w enw, mae tîm Dementia Actif wedi bod yn hynod o brysur yn ddiweddar. Yma gawn gipolwg o beth sydd ganddynt ar y gweill:

Dosbarthiadau Newydd

Rydym yn hynod o gyffroes i fod yn dechrau dosbarthiadau newydd yn Wynedd

Bydd y dosbarthiadau yn cynnwys ymarferion ysgafn i wella stamina, cryfder a chydbwysedd, boccia, ac y cyfle i gymdeithasu dros baned.

Bala - Bydd y dosbarth yn y Bala yn cychwyn yn Byw’n Iach Penllyn ar ddydd Mercher y 6ed o Fedi, 1:30-3:00yh.

Cawsom sesiwn ‘dewch i drio’ llwyddiannus iawn ar ddydd Mercher y 16eg o Awst. (wedi atodi ambell lun rhag ofn bo chi eisiau eu defnyddio)

Penygroes- bydd y dosbarth yn cychwyn yn Neuadd Goffa Penygroes ar y 11/09/23. Bydd y dosbarth ymlaen pob dydd Llun am 11:00-12:30yh.

Croeso cynnes i oedolion hŷn o bob gallu

Bws Rhith daith Dementia

Mae'r Bws Rhith daith Dementia yn dod i Wynedd! Peidiwch â cholli cyfle gwych i gymryd rhan yn yr hyfforddiant dementia arloesol yma - sydd am ddim!

Gallwch ddewis pa sesiwn 3 awr yr hoffech ymuno ac ym mha lleoliad.

Nifer cyfyngedig sydd ar gael

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y dyddiadau, y lleoliadau ac i archebu lle. Gallwch hefyd ddefnyddiwch y cod QR ar y poster atodedig.

Os hoffech fwy o wybodaeth, croeso i chi gysylltu â Emma Quaeck, Cydlynydd Dementia, ar emmajaynequaeck@gwynedd llyw cymru

Costau Teithio

Faint ohonoch sy ' n defnyddio eich cerbyd eich hun er mwyn gwneud taith fusnes ar ran y Cyngor? Ydach chi'n gwneud y defnydd gorau o ' r opsiynau gwahanol sydd ar gael? Er bod carfannau o ' r gweithlu angen defnyddio eu ceir i deithio'n rheolaidd fel rhan o'i swyddi, mae yna sawl opsiwn y gall nifer ohonom ystyried cyn teithio yn ein ceir ein hunain. Drwy ystyried yr opsiynau isod byddwn yn helpu i amddiffyn yr amgylchedd ac yn arbed arian ac amser.

Cyfarfodydd ar-lein

Os oes yna un peth cadarnhaol mae ' r blynyddoedd diwethaf wedi ei ddangos i ni, does dim rhaid teithio i fynychu cyfarfod Mae opsiynau llawer mwy rheolaidd y dyddiau yma i allu mynychu cyfarfodydd ar eich cyfrifiadur - mae ' n arbed amser i chi, i osgoi gorfod teithio yn y car ac yn golygu fod dim rhaid gwneud teithiau hir ar gyfer cyfarfodydd gweddol fyr.

Mae hefyd yn well i'r amgylchedd o ran lleihau ôl-troed carbon ac yn arwain at leihau costau i'r Cyngor - a hynny mewn cyfnod lle mae yna bwysau amlwg ar gyllidebau'r sector gyhoeddus

Rhannu car

Mae yna adegau lle mae ' n rhaid teithio ar gyfer cyfarfodydd neu hyfforddiant. Ond cyn neidio i'r car, ystyriwch os oes modd rhannu'r daith efo cydweithiwr sydd hefyd yn mynychu'r un cyfarfod.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae'n bosib hefyd fod modd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynychu rhai cyfarfodydd Mae hynny'n debygol o fod yn llawer gwell i'r amgylchedd ac yn debyg o olygu llai o gostau i'r trethdalwr.

Llogi cerbyd

Yn yr hinsawdd ariannol hynod heriol sy ' n wynebu'r sector gyhoeddus gyfan, mae ' n bwysig fod pob un ohonom yn ystyried yn ofalus os oes yna ffyrdd mwy cost-effeithiol o fod yn cyflawni ein gwaith. Wyddoch chi fod modd defnyddio cerbyd wedi ei logi os ydych chi'n teithio yn weddol bell, mae hynny yn rhatach i'r trethdalwr Cysylltwch gyda Desg Archebion Cefnogol am ragor o wybodaeth

Beicio i'r gwaith

Beth am arbed ar gostau teithio, helpu i amddiffyn yr amgylchedd a chadw'n heini'r un ffordd drwy ymuno gyda'r Cynllun Beicio i'r Gwaith? Drwy'r cynllun gallwch logi beic gan gynnwys beic trydan ac offer diogelwch o 'ch dewis Mae bron i 1,000 o aelodau staff wedi manteisio ar y cynllun Beicio i'r Gwaith ers iddo gael ei gyflwyno nôl yn 2012. Am fwy o fanylion cliciwch yma.

Mi fyddwn yn rhannu rhagor o negeseuon hefo chi yn y dyfodol i'ch diweddaru am y gwaith sydd yn digwydd yn y maes teithio cynaliadwy felly cadwch lygaid allan amdanynt

Trefniadau Gwyliau a Salwch Newydd

Gwyliau

Ni fyddwn bellach yn parhau gyda'r drefn o greu cardiau gwyliau i swyddogion Pan yn gorffen eich blwyddyn wyliau gyfredol, bydd angen i chi ddefnyddio Hunanwasanaeth Staff i’r dyfodol. Os nad ydych yn medru gweld eich cerdyn gwyliau yn y system, gofynnwch i’ch reolwr llinell gysylltu gyda

DesgAdnoddauDynol@gwynedd llyw cymru a fe wnawn nhw ei roi mewn lle ar gyfer y tim.

Os yw ’ r nifer o oriau rydych chi’n weithio yn ansefydlog ac yn newid yn gyson, cysylltwch gyda

SophieAnnHughes@gwynedd llyw cymru i drafod y trefniadau gorau ar eich cyfer.

Salwch

Rydym wedi sylwi dros y misoedd diwethaf bod na wallau yn ein trefniadau adrodd ar salwch a bod rhywfaint o aneglurder ac anghysondeb ar y drefn gywir i’w dilyn. Gall hyn arwain at wallau yng nghyflogau a gwallau yn ein data salwch. Hyd yma, y drefn oedd i lenwi taenlen adrodd ar salwch unwaith y mis a’i anfon i’r Tîm Cyllid Oedolion a Plant ac i anfon ffurflenni salwch a nodiadau doctor yn syth i Desg Archebion Cefnogol. Rydan ni wedi trafod efo’r Gwasanaeth Cefnogol ac wedi deall nad oes angen i’r tîm cyllid fod yn rhan o gasglu gwybodaeth salwch o gwbl a bod hyn yn ychwanegu at y dryswch

Mae trefn newydd bellach mewn lle - mae angen llenwi ffurflen salwch os ydych yn sâl, yn ogystal a chadw copïau o unrhyw nodiadau doctor perthnasol Bydd angen gwneud hyn bob tro mae rhywun yn sâl, hyd yn oed os ddim ond am ddiwrnod Mae gofyn hefyd i reolwyr lenwi taenlen yn fisol ac anfon hwnnw gyda’r dogfennau salwch i DesgArchebionCefnogol@gwynedd.llyw.cymru ar ôl diwedd bob mis, gan nodi os nad oes unrhyw salwch wedi bod hefyd.

Ni fydd y trefniadau uchod yn berthnasol i weithwyr gofal sydd yn defnyddio system ‘timesheets’

Cyfarfodydd mewn siambrau

neges gan y Gwasanaeth Democratiaeth

Dros yr haf, mae gwaith wedi cael ei wneud er mwyn gwella’r sain yn Siambrau Dafydd Orwig a Hywel Dda drwy osod seinyddion ychwanegol Bydd hyn yn gwella ansawdd y swn yn y siambrau I wella’r ansawdd ymhellach, gofynnem yn garedig i unrhyw un sy ’ n mynychu pwyllgor neu cyfarfod hybrid o bell i ddefnyddio clustffonau yn cynnwys meicroffon, gan bydd hyn hefyd yn gwella ansawdd y sain i’r rhai sydd yn y siambr yn sylweddol. Mae gwneud hyn yn ymarfer da ar gyfer pob cyfarfod rhitiol beth bynnag, felly rydym yn argymell eich bod yn dod i’r arfer o wneud hyn yn gyffredinol mewn cyfarfodydd o hyn allan Os ydych angen archebu clustffonau efo meicroffon, cysylltwch a DesgGymorth@gwynedd.llyw.cymru os gwelwch yn dda.

Diolch am eich cydweithrediad.

Cysylltu Bywydau Gwynedd a Môn

MaeCynllunCysylltuBywydauGwyneddaMônynedrychiddatblyguagynrecriwtio’neinardaloeddarhyno bryd Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig sydd â diddordeb mewn cefnogi unigolion yng nghartref y galluogwr,ermwynsicrhaucyfleoddi’runigolyngymrydrhanactifynygymuned,igynnaladatblygueusgiliau ahybuannibyniaeth.

Caiff y galluogwyr eu hasesu gan swyddogion Cysylltu Bywydau a'i gymeradwyo gan banel proffesiynol Fel rhano’rgwasanaethaddarperir,caiffyunigolyneucynnwysymmhobrhanofywydteuluolachymunedoly galluogwr Rhoddir y gefnogaeth sydd eu hangen i'r unigolyn er mwyn eu galluogi gymryd rhan mewn gweithgareddauhamddenolatheuluolynogystalabodynrhanactifo’rgymuned.

Mae’rgefnogaethaddarperirwedieideilwroargyferanghenionagofynionyrunigolyntrwyadnabodbeth ywhoffachasbethau’runigolynacadnabodsgiliaupersonolahybudatblygiadpellach Maehynyncaelei wneud trwy drafodaethau rhwng yr unigolyn, swyddog Cysylltu Bywydau, galluogwr ac unrhyw berson perthnasolaralle.e.teulu,gweithiwrproffesiynol.

FyenwiywMeinirJones,rwyfynSwyddogCynllunCysylltuBywydauGwyneddaMôn

Mae Sharon a Murray Bull o Deiniolen yn rhan o ’ r Cynllun ag yn barod i rannu eu profiad fel Galluogwyr i

RachelWilliams BuiRachelsymudifywigartrefSharonaMurrayyn2019 MaeRachelwedieichroesawui fodynrhano’rteuluynycartrefaFfermFerlodMynyddCymraeg.Mae2cibacho’renwArchieaDaphnea Guineafowl.Arysafle,maeynoddauFwthynHunanArlwyoargyfereugosodallaniboblddiartharwyliau.

Mae Rachel yn ddynes ifanc yn ei ugeiniau cynnar Mae hi’n mwynhau bod yn rhan o ’ r teulu ag yn derbyn cefnogaethiddysgusgiliaubyw’nannibynnol MaeRachelynmwynhaucyfleonigymdeithasuefoffrindiauag yncadwcysylltiadaugyda’itheulu.YnogystalagweithiomewnsiopynydrefmaeRachelynhelpuaryfferm yn gofalu am y merlod a chwblhau tasgau yn ag o amgylch y tŷ. Bydd yn helpu Sharon i lanhau a paratoi’r bythynnodhefydynachlysurol ArydyddiaupanfyddRachelyngweithio’nysiop,byddyndalybwsynoagyn ôladref DywedoddRachelwrthanadoeddhi’nteithio’nannibynnolcyniddisymudatSharonaMurray,a’u bodwedieichefnogiifaguhyder

MigefaiswahoddiadganSharonaRachelidreulioprynhawngydanhw’nddiweddar.Roeddyngyfleinigael paned a sgwrs am sut oedd Rachel yn teimlo am fyw gyda Sharon a Murray fel rhan o Gynllun Cysylltu BywydauGwyneddaMôn AgferannoddSharonaMurrayfodynbrofiadsyddynwobrwyoliddyntwrthbrofi canlyniadaupositifmaeRachelyneucyflawni MaeSharonaMurray’nadroddfodcaelycyfleigynnigcartref achefnogaethiRachelwedibodagynbrofiadbraf,wrthweldsutmaehiwedidatblyguachyflawnigymaint.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a ’ r tîm ar y manylion isod:

Medi Griffiths (Rheolwr Cofrestredig Cysylltu Bywydau / Shared Lives Registered Manager) – Pwllheli

Peter Price (Swyddog Cysylltu Bywydau / Shared Lives Officer) –Dolgellau

Meinir Jones (Swyddog Cysylltu Bywydau a Galwch Draw / Shared Lives Officer) - Pwllheli

Cynllun Cysylltu Bywydau (Shared Lives Scheme)

Swyddfeydd y Cyngor

Ffordd y Cob, Cae Penarlag, Pwllheli, Dolgellau, Gwynedd, LL53 5AA LL40 2YB 01758 704145/144 01341 424511

Sesiynau Diolch Staff

Cymunedol

Rydym wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn mynd o gwmpas wahanol ardaloedd yn gwneud ‘roadshows,’ sesiynau diolch gyda’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol, Huw Dylan Owen. Golygir hyn ein bod yn ymweld a lleoliadau gwahanol o fewn Gwynedd yn cynnal sesiynau i unigolion sydd yn gweithio yn y gymuned er mwyn diolch iddynt am yr holl waith mae ’ n gwneud o ddydd i ddydd Dyddiad y sesiwn cyntaf oedd 04/09/23 yn Bermo. Rydym bellach wedi bod ym Mangor ar y 05/09/23 hefyd. Byddwn yn parhau i gynnal y sesiynau yma ym Mhwllheli (12/09/23), Botwnnog (13/09/23), Porthmadog (18/09/23), Dyffryn Nantlle (20/09/23), Bala (25/09/23), Tywyn (27/09/23), Blaenau (03/10/23) ac i orffen byddwn yng Nghaernarfon ar y 4/10/23. Mae hyn yn gyfle i’r gweithwyr ofyn unrhyw gwestiwn neu bryder sydd ganddynt wyneb i wyneb

Rydym eisiau dangos pa mor ddiolchgar ydyn ni am yr holl waith sydd yn cael i’w wneud pob dydd, er mwyn sicrhau ansawdd bywyd gorau i’r bobl yng Ngwynedd. Nid yn unig hynny, ond rydym yn diolch drost yr holl deuluoedd sydd yn cael parhau gyda’i bywydau arferol gan deimlo’n ddiogel bod eu perthnasau yn eich dwylo chi. Rydym ni i gyd o fewn yr Adran yn ogystal a ’ r gymuned yn ehangach yn enwedig o ddiolchgar am waith staff cymunedol o ystyried sialensiau hynod o galed y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys y pandemic Cofid. Gobeithiwn amlygu y diolchgarwch yma trwy bod yn bresennol a ’ch cyfarch chi wyneb i wyneb, yn dangos nad oes bwlch rhwng gweithwyr cymunedol rhyng flaen a phenaethiaid y gwasanaeth o fewn y Cyngor. Gobeithiwn hefyd y byddwch yn cael budd o ’ r sesiynau a gadael gan wybod bod eich llais wedi’i glywed, a ’ n bod yn gweithio tuag at wneud unrhyw beth o ’ m gallu i’ch helpu.

Data Iaith y Gweithlu

Mae’n Adroddiad Chwarterol Dynodiadau Iaith diweddaraf yn dangos bod y nifer o staff sydd wedi cwblhau’r hunanasesiad iaith mandadol wedi cynyddu o 61% i 65% ers mis Mehefindiolch i’r rhai ohonoch sydd wedi gweithredu yn dilyn derbyn atgoffwr i wneud hyn

Fodd bynnag, mae ’ r niferoedd o staff rheng flaen sydd wedi cwblhau’r hunanasesiad yn parhau’n isel a rydym yn cydnabod bod nifer o rwystrau’n bodoli gan gynnwys diffyg mynediad llawn at gyfleusterau TG Byddwn felly yn canolbwyntio ar gydweithio efo rheolwyr y gwasanaethau i geisio cefnogi staff i gwblhau’r hunanasesiad, ac i ddarganfod ffordd o sicrhau bod hyn yn hwylus ac yn rhwydd i’r staff yma

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am y gwaith yma i wella’r data sydd ar gael i ni am weithlu’r gwasanaethau cymdeithasol, cysylltwch â SophieAnnHughes@gwynedd llyw cymru

Plîs cysylltwch efo Bet Huws drwy elizabethmaryhuws@gwynedd.llyw.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau o ran datblygu sgiliau iaith eich hunain neu sgiliau eich staff.

Teleofal Digidol

Fel yr ydym wedi nodi mewn rhifyn blaenorol o ’ r newyddlen mae ’ r ddwy flynedd nesaf yn mynd i fod yn gyfnod o newid yn y maes teleofal, yn bennaf oherwydd effaith y Trawsnewid Digidol Dros y misoedd diwethaf mae ’ r gwasanaeth wedi bod yn brysur yn cynllunio ac yn paratoi am y newidiadau sydd ar y gweill.

Beth yw teleofal?

Gwasanaeth monitro sy ’ n galluogi unigolion i alw am help ddydd neu nos drwy gyffwrdd botwm neu drwy gyfres o synwyryddion awtomatig yn y cartref yw teleofal

Mae’n ffordd ataliol o gynnig gofal o bell i drigolion, ac yn gallu bod yn ffordd dda o leihau risgiau o fewn y cartref a chefnogi pobl i fyw bywyd mor annibynnol â phosib.

Beth yw ’ r ‘Trawsnewid Digidol’, a pa effaith fydd hyn yn ei gael?

Erbyn diwedd 2025 bydd darparwyr cyfathrebu megis BT, Virgin, Sky ayyb yn diffodd pob llinell ffôn analog ar draws y wlad a bydd yr holl linellau ffôn yn cael eu hamnewid â thechnoleg ddigidol

‘internet protocol’ – am fwy o wybodaeth am hyn dilynwch y linc yma – Trawsnewid Digidol 2025.

Mae’r gwaith yma wedi cychwyn yng Ngwynedd, ac mae cartrefi sawl un ohonom wedi trosglwyddo i ddigidol yn barod wrth adnewyddu ein pecynnau ffôn neu band eang

Yn hanesyddol mae offer teleofal wedi defnyddio llinell ffôn traddodiadol i greu galwadau i ganolfan fonitro fel Galw Gofal mewn argyfwng. O ganlyniad, bydd y gwasanaeth yn uwchraddio offer teleofal pob unigolyn dros y ddwy flynedd nesaf, ac yn gosod offer teleofal fodern a digidol sydd yn defnyddio cerdyn ‘sim’ yn hytrach na llinellau ffôn i gyfathrebu

Pa offer fydd y gwasanaeth yn ei osod?

Yn dilyn proses dendr ac amryw o weithgareddau profi offer, mae ’ r gwasanaeth yn falch o gyhoeddi mai offer gan gwmni Chiptech fydden ni yn ei ddefnyddio dros blynyddoedd nesaf. Mae Chiptech yn gwmni arloesol sy ’ n awyddus iawn i weithio’n agos â ni i ddatblygu offer a systemau sy ’ n cwrdd anghenion trigolion Gwynedd Un agwedd allweddol o hyn fydd datblygu uned hollol ddwyieithog, gyda gwaith brandio hollol unigryw i Gyngor Gwynedd. Mae sawl nodwedd eraill o ’ r offer gall fod o fudd i ni wrth drio hyrwyddo annibyniaeth trigolion Gwynedd, yn cynnwys y gallu i raglennu negeseuon atgoffa ar yr offer a ’ r potensial i ddefnyddio’r offer i hwyluso galwadau ‘check up ’ .

Be fydd yn digwydd nesaf?

Byddwn yn cychwyn y broses o drosglwyddo unigolion i’r offer newydd ym mis Hydref. Bydd pob cyfeiriad newydd i’r gwasanaeth yn derbyn pecyn digidol yn eu cartref, a dros amser byddwn yn cysylltu gyda’n defnyddwyr i drefnu dyddiad i ymweld â nhw i uwchraddio’i offer. Ni fydd unrhyw gost ychwanegol am yr offer newydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newidiadau neu os hoffwch drafod unrhyw beth sy ’ n ymwneud a ’ r gwasanaeth, cysylltwch â ni ar teleofal@gwynedd llyw cymru neu 01286 679024

Cofnodi Diolchiadau a Chanmoliaethau

Hoffwn eich hatgoffa ein bod fel Adran yn cofnodi unrhyw ddiolchiadau a/neu ganmoliaethau am eich gwaith a dderbynnir gennych gan ddefnyddwyr gwasanaeth a ’ u teuluoedd. Mae’n bwysig cofnodi rhain er mwyn sicrhau fod gennym gofnod o ’ r gwaith ardderchog rydych i gyd yn ei wneud o ddydd i ddydd. Mae gwefan staff y Cyngor hefyd yn casglu enghreifftiau gennym, ac fe allwch ddarllen rhai blaenorol trwy ddilyn y linc yma: https://staffcyngorgwynedd.org/2023-24-oedolion-iechyd-allesiant/

Fe allwch anfon unrhyw ddiolchiadau ar unrhyw ffurf i mi yn y lle cyntaf i’r e-bost isod, os gwelwch yn dda, a byddaf yn eu cofnodi ar ein sustem ni yn Oedolion a ’ u pasio ymlaen i gael eu cynnwys ar y Wal.

Dymuniadau gorau i bawb.

Geraint Wyn Jones

Swyddog Gofal Cwsmer (Oedolion) / Customer Care Officer (Adults)

Oedolion, Iechyd a Llesiant / Adults, Health and Wellbeing

(01286) 679549 (est / ext: 32549) geraintwynjones@gwynedd.llyw.cymru

Llwyddiant Beicwyr Llyn

Mae grŵp Beicwyr Llyn wedi bod yn hynod o brysur eleni Ym mis Ebrill, casglwyd arian ar gyfer yr Elusen Gafael Llaw sydd yn cefnogi plant Gwynedd a Môn gyda Chanser. Roedd hi’n brysur iawn ar y diwrnod, yr 17fed o Ebrill, efo 153 o feiciau modur yn cymryd rhan yn y taith anghystadleuol a ddechreuodd a gorffennodd ym Mhwllheli ar ôl ryw 5 awr Roedd atmosffer braf a hamddenol gyda nifer uchel o gefnogwyr ar hyd y ffordd - gwelwyd pobl o bob oed yn codi llaw a holi y grŵp am eu beiciau ac eu gwaith gyda elusennau.

Roedd yn bosib i unigolion gyfrannu ar-lein, yn ogystal a ymuno a ’ r daith ei hun am £5 a oedd yn cynnwys raffl ar ddiwedd y dydd Yn ogystal, cynhaliwyd dudalen Facebook ocsiwn ar-lein, a oedd ar agor o ’ r 16ed o Ebrill tan y 30fed. Rhwng y rhain i gyd, llwyddodd y grŵp i gasglu dros £10,000, canlyniad gwych sydd yn ychwanegu i’r swm anhygoel o £61,460 mae ’ r grŵp wedi casglu at elusennau yn barod yn y deuddeg mlynedd diwethaf.

Cyflwynwyd yr arian a casglwyd i Gafael Llaw ar y 13fed o Fedi, a bydd yn siŵr o fynd yn bell o ran cefnogi plant efo canser a ’ u teuluoedd yn ein ardal ni. Gallwn fel Cyngor fod yn falch iawn fod Menna Price, Therapydd Galwedigaethol sy ’ n gweithio o fewn yr adran Oedolion wedi arwain y daith a brofodd yn mor llwyddiannus. Roedd mynychwyr y daith yn sicr mewn dwylo da - mae Menna wedi bod yn reidio ers 13 mlynedd erbyn hyn a wedi bod yn rhan o grŵp Beicwyr Llyn ers 12 mlynedd

Mae Beicwyr Llyn yn edrych ymlaen i barhau i gyd-weithio gyda’r cymuned er mwyn codi hyd yn oed mwy o arian at achosion da.

Hybiau Gwynedd

Mae’r hybiau yn helpu pobl gael mynediad rhwyddach i gymorth a gwybodaeth a chynnal gwydnwch cymunedau a ’ r ysbryd cymunedol drwy ddod a gwasanaethau, gweithgareddau, grwpiau lleol,ac asiantaethau ynghyd i lywio eu hymateb lleol i anghenion eu hardal. Yn mis Mehefin daeth Hybiau Gwynedd at eu gilydd i gyd rannu straeon am yr help sydd wedi’i roi i drigolion Gwynedd

Mae cydnabyddiaeth gynyddol y gall straeon pobl fod yn bwerus wrth werthuso a dysgu a defnyddiwyd dull syml ac ymarferol Straeon Swynol i gasglu a dysgu am brofiad pobl.

gan Bethan Williams

Dyma gasgliad o straeon o ’ r sesiwn honno.

Dod Allan o’i Chragen: Roedd y ferch yn dod atom ir Hwb ddwy waith yr wythnos ar ddydd iau a dydd

Mawrth. Roedd hi’n dod ir sesiwn cinio.

Mi wnes i ddysgu ei bod yn ddigartref ac fod ganddi anabledd dysgu Pan

ddechreuodd ddod yma, prin yr oedd yn

siarad efo neb arall, roedd hi’n cadw ei

hun i’w hun Wrth ddod i’w nabod a

cynnig cyfleon iddi helpu yma efo

paratoi pamffledi a glanhau y storfa

fwyd mae wedi dod yn llawer fwy

cymdeithasol Heddiw mai yn wirfoddolwyr yn yr Hwb, yn cyfrannu syniadau at ein amserlen gweithgareddau ac mai yn llawer mwy hyderus.

Pam fod hon yn stori swynol? ‘Wedi newid o fod yn berson oedd angen help ir un sy ’ n rhoi help.’

Drws agored:

Y gwr yma wedi dod ir Hwb am help efo biliau a dyledion Ar ei ymweliad cyntaf cafodd help i wneud galwadau ffon a llenwi ffurflenni, ac yn ddiweddar mae wedi bod yma am y pumed tro. Mae’n holi a sgwrsio efo staff ac yn treulio amser efo pobl eraill sy ’ n dod i’r hwb i gael rhannu ei hanes, a sut mae ’ n teimlo erbyn hyn.

Pam fod hon yn stori swynol? ‘Mae’n teimlo bod y drws bob amser yn agored a bod croeso mawr yn ôl pob tro.’

Cacenni Campus:

Mae’r gwr yma yn fewnfudwr ac wedi bod yn byw mewn llety cwbl anaddas am flynyddoedd Mae’n dioddef o broblemau iechyd sylweddol Dechreuodd dderbyn cymorth drwy y cyfnod clo ac yna dod ir Hwb i gael prydau bwyd. Mae rŵan yn gwirfoddoli yn y gegin, yn gwneud a paratoi prydau bwyd. Mae ganddo dalent anhygoel am goginio ac mae ’ n arbenigwr am wneud cacennau. Mae’n gaffaeliad ir hwb

Pam fod hon yn stori swynol? ‘Rhoi mwy yn ôl na be gafodd yn help ’

Gwneud y Pethau Bychain:

Roedd y fam yma wedi bod yn mynychu’r Pantri Cymunedol yn rheolaidd ond roedd wedi dioddef efo trafferthion iechyd ac wedi methu dod Cysylltodd dros y ffon i holi os oedd modd iddi gael bag wedi ei ddanfon iddi. Mi es i a bag or pantri draw ati rhyw dair gwaith. Dim ond dau funud i lawr y lon mae ei thŷ, ond mae ’ r help bach yma wedi bod yn anferth iddi. Mae wir wedi gwerthfawrogi cael yr help iddi hi ai theulu ar adeg anodd yn eu bywydau.

Pam fod hon yn stori swynol? ’Neges o ddiolch wedi gwneud i mi sylwi faint mor bwysig ydi fy help er mor fychan.’

Codi Calon

Dymuniadau gorau i Mair a ddathlodd ei phenblwydd yn 100 oed ar Awst 21!

Yma gwelwn Mair yn dathlu efo rhai o breswylwyr eraill Plas Ogwen ac yn arddangos ei cherdyn penblwydd gan y brenin a ’ r frenhines.

Mae’r tywydd stormus diweddar yn dipyn o newid o ’ r tymheredd hafaidd iawn a barhaodd fewn i hanner gyntaf mis Medi Yma gwelwn sawl un o breswylwyr Plas Hafan yn gwneud y gorau o ’ r haul!

Diolch

Diolch am ddarllen y rhifyn diweddaraf o Newyddlen Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Os oes gennych chi newyddion y dymunwch rannu gyda ni, cofiwch gysylltu.

Yn yr un modd, carwn glywed gennych am unrhyw adborth, gwyn neu awgrymiad am y Newyddlen

Mae’r Newyddlen wedi ei chreu gennych chi ar eich cyfer chi, felly croesawn unrhyw sylwad.

Manylion Cyswllt

Rhif Ffôn:

01286 679 223

E-bost:

sianip@gwynedd.llyw.cymru neu IwanHuwRoberts@gwynedd.llyw.cymru

Ffion yn diddanu y plentyn yn yr eisteddfod!

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.