Llyfr Lloffion Gaeaf 2024 Celfyddydau Cymunedol Gwynedd

Page 1


Llyfr Lloffion

Gaeaf 2024

Croeso

Gydag arolygon yn awgrymu bod celf a chrefft yn rhoi mwy o fodlonrwydd bywyd nag y mae gwaith, mae'r celfyddydau ar flaen y gad o ran iechyd a llesiant ar hyn o bryd. Mae ymchwil yn dangos bod modd i weithgareddau creadigol fod yn arf pwysig i wella iechyd cyhoeddus, a bod pwysigrwydd cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn glir iawn.

Gyda'n pobl ifanc yn ceisio delio â thyfu i fyny mewn byd llethol o orlwytho gwybodaeth, llawer o'r henoed yn dioddef o unigrwydd, a phobl yn ein cymunedau yn profi teimladau o orbryder a straen, rydym yn parhau i ymdrechu er mwyn i bawb gael mynediad at y celfyddydau a gweithgareddau celfyddydol.

Rydym yn gweithio'n galed i gyrraedd cymaint o rannau o Wynedd â phosib i ddatblygu, dysgu a rhannu'r celfyddydau. O weithdai creadigol i bob oed, grantiau ar gyfer artistiaid a grwpiau cymunedol, prosiectau iechyd a llesiant, mynd â chelf i ysbytai, cydweithio â sefydliadau a grwpiau lleol i ddod â chelf i gymunedau yng Ngwynedd a rhannu gwybodaeth a chryfhau rhwydweithiau creadigol, mae cymaint yn digwydd a chymaint i fod yn gadarnhaol amdano.

Yn unol â gwaith cenedlaethol Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, mae Cyngor Gwynedd yn gweithio i ddod yn awdurdod lleol oed-gyfeillgar erbyn 2025, ac rydym yn anelu i sicrhau bod y celfyddydau yn rhan o'r fenter hon. Mae ein llyfr lloffion yn arddangos rhai o'r prosiectau a gweithgareddau sydd wedi digwydd yng Ngwynedd dros y misoedd diwethaf. Rydym yn gobeithio y gwnewch chi fwynhau darllen amdanynt, ac os hoffech ddysgu mwy, gallwch fynd ar wefan

Gwynedd Greadigol, a chyfrifon Facebook, Instagram ac X (Twitter) am y newyddion, cyfleoedd a gwybodaeth ddiweddaraf am y celfyddydau yng Ngwynedd. Os hoffech gael sgwrs neu gymorth gyda phrosiect creadigol, cysylltwch â ni, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.

Oriel Ysbyty Gwynedd

Clwb Camera Beaumaris

Porthaethwy

Fe gychwynnom ein hail flwyddyn o arddangosfeydd yn Oriel Ysbyty Gwynedd

fis Mehefin gyda sioe gan Glwb Camera

Biwmares a Phorthaethwy. Mae'r clwb yn grŵp cyfeillgar ac anffurfiol o ffotograffwyr gydag ystod eang o brofiad

sydd ag amrywiaeth o ddiddordebau ffotograffig. Mae eu rhaglen yn cynnwys sgyrsiau gan siaradwyr gwadd, cystadlaethau a nosweithiau i aelodau gael trafod a rhannu syniadau.

Os ydych yn artist neu'n grŵp cymunedol

gyda diddordeb mewn arddangos yn Oriel

Ysbyty Gwynedd, anfonwch e-bost at corrinazarach@gwynedd.llyw.cymru i fynegi eich diddordeb.

GISDA

Fis Medi, roeddem wrth ein boddau yn dangos arddangosfa o waith gan bobl ifanc yng

Ngwynedd a gefnogwyd gan GISDA, elusen sy'n grymuso pobl ifanc bregus rhwng 16-25 oed yng ngogledd Cymru i oresgyn digartrefedd ac adeiladu dyfodol gwell. Mae'r prosiect hwn, 'Celf mewn Natur' yn deillio o brosiect cydweithredol gyda MiFEDRAF GISDA a ariannwyd gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Roedd y prosiect Celf mewn Natur yn gwahodd pobl ifanc oedd yn wynebu heriau iechyd meddwl i fynegi eu hunain drwy gelf. Diolch yn fawr i Malan a Lynwen am redeg y prosiect, gan weithio gyda'r bobl ifanc a churadu'r arddangosfa.

Gronfa Sbarduno

i’r

Celfyddydau

Yr haf hwn, roedd Uned Celfyddydau Cymunedol

Gwynedd wrth eu boddau yn cynnig nifer o grantiau

Cyllid Sbarduno i ymarferwyr creadigol ar draws

Gwynedd i beilota ffyrdd newydd a chreadigol o weithio.

Mae'r grantiau hyn yn anelu i gefnogi ymarferwyr creadigol a sefydliadau celfyddydol, wedi'u lleoli

yng Ngwynedd, i drio prosiect neu ddigwyddiad newydd.

Mae'r prosiectau wedi bod yn amrywiol ac yn ddiddorol, gan gynnwys hunan-ymarfer ac ymgysylltu â'r gymuned, gyda chyfranogwyr o bob oed ac o wahanol rannau o'r gymuned. Mae safon y prosiectau wedi bod yn anhygoel o uchel ac mae'r gwaith sy'n cael ei gynhyrchu yn wych.

Mae’r artistiaid a gafodd fudd o'r cyllid hwn yn cynnwys Manon Gwynant, Mr Kobo (Nader Kohbodi), Rebecca Hardy Griffiths and Caroline Schofield.

Gellir gweld rhestr lawn o'r Artistiaid ar wefan

Gwynedd Greadigol yn yr adran Newyddion.

Cefnogwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU.

Prosiect yw FA'MA sy'n cael ei redeg

gan gwmni theatr Frân Wen sy'n

anelu at ddod â lleisiau pobl ifanc yn

fyw. Mae'n rhoi'r cyfle i bobl ifanc

mewn cymunedau gwledig yng

ngogledd orllewin Cymru gydweithio

ag artistiaid proffesiynol i greu eu persbectif eu hunain o ble maent yn byw.

Yn flaenorol, mae Fa'ma wedi

gweithio gyda phobl ifanc yn Nefyn a'r Bala, ac eleni, mae wedi cyrraedd

Bethesda am antur llawn o bethau

annisgwyl, gan brofi'r pentref drwy lygaid pobl ifanc.

Mae'r prosiect hwn yn gydweithrediad

rhwng Frân Wen, Celfyddydau

Cymunedol Gwynedd, Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd a Phartneriaeth Ogwen.

Criw Celf Bach

Cafodd cyfres newydd o sesiynau celf Criw

Celf Bach ddechrau da yr hydref hwn yn Neuadd Aberdyfi, Plas Glyn-y-weddw a Storiel.

Mae Criw Celf Bach wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus yng Ngwynedd ers 2007, ac mae'r dosbarthiadau misol hyn yn rhoi cyfle i blant rhwng 7-11 oed gymryd rhan mewn sesiynau celf o ansawdd uchel gydag artistiaid proffesiynol. Mae gan y plant y cyfle i ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a thechnegau ac maent eisoes yn creu llawer o weithiau celf cyffrous! Rydym yn gobeithio y bydd y dosbarthiadau hyn yn meithrin diddordeb a brwdfrydedd pobl ifanc mewn celf ar draws Gwynedd.

Rydym wrth ein boddau yn gweld y gweithiau celf hyfryd sy'n cael eu creu yn y sesiynau.

Rydym wedi cychwyn ar cyfres

newydd o Crefft er Lles yn CARN mis

Hydref. Mae Lora Morgan yn arwain 6 sesiwn ar gyfer oedolion i rhoi cynnig ar greu gwahanol grefftau, gan cynnwys ffeltio gwlyb, printio bagiau, creu rag rug ac addurniadau Nadolig.

Mae niferoedd sydd a ddiddordeb wedi cynyddu gyda rhestr aros eleni.

Rydym yn bwriadu rhedeg cyfres

arall o sesiynau yn y flwyddyn newydd mewn lleoliad gwahanol.

Cadwch lygaid ar ein gwefannau cymdeithasol am fwy o wybodaeth.

Crefft erLles

Celf Cyhoeddus newydd

yng Ngwynedd

Murluniau Dinas Bangor a Thref y Bala

Fel rhan o raglen Gosod Sylfaen ar gyfer Buddsoddiad, Balchder a Bwrlwm Canol Trefi Gwynedd sydd yn cael ei ariannu drwy gronfa Ffyniant Gyffredin y Llywodraeth y DU, bu i Gyngor

Gwynedd gyd weithio gyda Cyngor Dinas Bangor a Chyngor

Cymuned y Bala er mwyn adnabod cyfleoedd i osod celf cyhoeddus ym Mangor a’r Bala fyddai’n cyfrannu tuag at Adfywio Dinas Bangor a thref y Bala.

Yn dilyn sawl sesiwn ymgynghori daeth cyfle i gyd weithio gyda

Siop y Co-op y Bala, Stryd Fawr y Bala a Chanolfan Gwasanaeth

Dydd Anheddau, Annedd Ni sydd wedi ei yn Sackville Rd, Bangor i gomisiynu artistiaid i ddylunio a phaentio murluniau sydd yn dathlu hanes, diwylliant a threftadaeth unigryw Dinas Bangor a thref Y Bala.

Comisiynwyd yr Artist Jess Balla i ddylunio a phaentio murlun

Dinas Bangor a’r Artist Aliss Curtis i ddylunio a phaentio Murlun tref Y Bala. Fel rhan o’r broses dylunio bu cyfle i sawl grŵp cymunedol, ac ysgolion lleol gyfranogi mewn ystod o weithdai er mwyn datblygu’r dyluniad terfynol ar gyfer y murluniau, gyda phawb wedi mwynhau cael bod yn rhan o broses

Mae sgwrs a Chan wedi parhau i redeg yn gyson yn Bala, Porthmadog a

Botwnnog gyda sesiynau hefyd yn

cael ei chynnal yn Porthi’r Dre, Caernarfon a Fethesda.

Mae’r cydweithio efo Grwp

Cynefin wedi parhau yn

llwyddiannus o ran cynnal sesiynau yn eu prosiectau fflatiau gofal ychwanegol.

Os hoffech mwy o wybodaeth am

Sgwrs a Chan neu sesiynau arall

CGWM, ewch i www.cgwm.org.uk

Grantiau Celfyddydau

Cymunedol

Mae ein grantiau celfyddydau cymunedol chwarterol yn dal i fynd rhagddynt, gan gynnig hyd at £500 i grwpiau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd i gynnal gweithgareddau celfyddydol.

Mae'r prosiectau eleni rydym wedi eu cefnogi yn cynnwys Gŵyl Llanuwchllyn, murlun safle bws Cyngor Cymuned Llanllechid, a phrosiect celf Grŵp Lle Arall.

Cynigir grantiau bedair gwaith y flwyddyn a'r dyddiad cau nesaf yw Ionawr 10fed, 2025. Cysylltwch â ni os oes gennych syniad yr hoffech ei drafod, gallwch anfon e-bost atom ar celf@gwynedd.llyw.cymru.

Cronfa Bontio

Celfyddydau Gwynedd

Rydym yn falch iawn bod cronfa gyfyngedig newydd wedi'i rhyddhau i helpu i gefnogi prosiectau sy'n rhedeg hyd at fis Mawrth 2025. Bydd y gronfa pontio hon yn hynod o bwysig i lawer o sefydliadau a grwpiau celfyddydol a bydd yn eu helpu i barhau i gynnig gwasanaethau celfyddydol o ansawdd uchel gan gynnwys digwyddiadau, gweithdai a rhaglenni celfyddydol yng Ngwynedd.

Mae'r ddarpariaeth a'r mynediad i'r celfyddydau ar gyfer pob rhan o'r gymuned mor bwysig ar gyfer iechyd, lles a llawenydd pawb ac rydym yn ei werthfawrogi'n fawr.

Gweithdy Celf

Gwasanaeth Ieuenctid

Yr hydref hwn, cymerodd grŵp Ieuenctid

Gwynedd ran mewn gweithdy celfyddydau a llesiant yn fferm menter cymunedol

Moel y Ci. Mae'r artist Karen Williams wedi hwyluso llawer o'r sesiynau hyn ar gyfer y grŵp ieuenctid, drwy helpu pobl ifanc a all fod yn cael trafferth gyda

hyder a gorbryder i gymryd rhan mewn diwrnod sydd wedi'i gynllunio i ddysgu sgiliau newydd iddynt.

Mae'r grŵp yn mynd am dro mewn natur o amgylch Fferm Moel y Ci, gan arsylwi a dysgu am natur, a chymryd ysbrydoliaeth o wrthrychau naturiol ar gyfer y gweithdy celf. Mae'r gweithdy yn cynnwys sgiliau ymarferol gan weithio gyda metel i ffurfio siapiau wedi'u hysbrydoli gan wrthrychau naturiol ac mae'n cynnwys defnyddio amryw o declynnau, gan gynnwys taro a siapio gyda morthwylion sydd bob amser yn hwyl ac yn therapiwtig iawn!

Fforwm Hinsawdd a Natur

Mae Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn falch o gymryd rhan yn Fforwm Staff Hinsawdd a Natur Cyngor Gwynedd. Mae materion natur a newid hinsawdd yn agos at ein calonnau ac wedi bod yn thema gref yn nifer o'n prosiectau dros y blynyddoedd. Wrth i faterion hinsawdd barhau i dyfu'n fwy difrifol, rydym yn teimlo ei fod yn bwysig cymryd rhan mewn gweithrediadau a thrafodaethau cadarnhaol i weld sut allwn fod yn rhan o gynlluniau Cyngor Gwynedd yn y maes hwn, a gweld sut y gellid cynnwys y celfyddydau. Gellir dod o hyd i wybodaeth am gynllun natur a hinsawdd Cyngor Gwynedd ar wefan Cyngor Gwynedd dan Hafan > Trigolion > Hinsawdd a natur.

Dilyn ni

@Gwynedd Greadigol-Creative Gwynedd

@celfgwyneddarts

@celfgwyneddarts

Dysgwch amdanom ni

www gwyneddgreadigol com

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.