Newyddlen Ebrill 2024 - Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

Page 1

OEDOLION, IECHYD A

LLESIANT NEWYDDLEN EBRILL 2024

Gair gan Aled

Mae misoedd y gaeaf ac yn enwedig y cyfnod ers troad y flwyddyn wedi bod mor brysur ac arfer gyda’r pwysau ar wasanaethau a staff unwaith eto wedi bod yn sylweddol Er yn anodd iawn ar brydiau, mae eich gwaith caled a ’ch dyfalbarhad unwaith eto wedi’n galluogi i gynnal gwasanaethau a chefnogi unigolion ar draws y Sir. Diolch i chi i gyd.

A nawr, gyda’r gwanwyn o ’ n blaenau, mae ’ n gyfnod o newid a ’ r newid hwnnw’n digwydd ar lefel genedlaethol a lleol. Ar y 1af o Ebrill, sefydlwyd Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chefnogaeth Cymru. Teitl sy ’ n dipyn bach o lond ceg ac wedi ei lleoli lawr yn Ne Cymru ond mae ei sefydlu yn gam pwysig iawn yn rhaglen Llywodraeth Cymru i gryfhau a gwella trefniadau gofal cymdeithasol yng Nghymru Dyddiau cynnar, ond rwy ’ n siŵr y byddwn yn dechrau gweld ei ddylanwad dros y misoedd nesaf

Byddwch yn barod am raglen waith a blaenoriaethau clir gan gynnwys codi momentwm yn y gwaith o ail-gydbwyso gofal cymdeithasol, yr agenda dileu elw a ' r pwyslais ar gomisiynu effeithiol. Bydd Prif Swyddog Gofal

Cymdeithasol Cymru yn ymweld â ni yma yng Ngwynedd ar y 15fed o Fai

Mae yna newidiadau ar y gweill yn lleol o fewn Gwynedd hefyd. Dros y misoedd diwethaf mae Dylan, yn ei rôl fel Cyfarwyddwr, wedi bod yn adolygu strwythur lefel uchel gwasanaethau cymdeithasol yng Ngwynedd. Bydd camau cyntaf y rhaglen o wireddu’r newidiadau yn cael eu cymryd yn yr wythnosau nesaf gan ddechrau gyda symud y Gwasanaeth Busnes allan o ’ r Adran Oedolion i fod yn atebol yn uniongyrchol i’r Cyfarwyddwr. Bydd elfennau gwaith hefyd yn trosglwyddo allan o ’ r Adran Plant gyda’r Gwasanaeth Busnes ar ei ffurf newydd yn cael ei sefydlu i gefnogi’r ddwy adran Unwaith y bydd y symudiad dechreuol hwn yn ei le bydd gwaith pellach yn digwydd i ystyried opsiynau ail-strwythuro pellach Gallaf eich sicrhau y bydd trefniadau yn cael eu gwneud i ymgysylltu gyda phob tîm ac aelodau staff effeithir gan unrhyw elfen o ’ r newidiadau.

Yn ychwanegol i’r newidiadau uchod, dros y 3 mis nesaf, rydym yn gobeithio y byddwn wedi llwyddo i weithredu ar argymhellion ein hadolygiad o swyddi proffesiynol gofal ar draws gwasanaethau Plant ac Oedolion Mae yna lond llaw o faterion sy ’ n gysylltiedig â hyn yn parhau i gael sylw ond rydym yn hyderus y gallwn gwblhau’r gwaith yma yn amserol

Wrth gwrs, y newid mawr sy ’ n effeithio’r cyfan ohonom ydi’r trefniadau newydd ar gyfer gweithio’n hybrid. Mae’r trefniadau yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith ymysg staff ac yn defnyddio trefniadau gweithio'n hyblyg i gael effaith gadarnhaol ar gymhelliant, llesiant, perfformiad a chynhyrchiant staff Mae’r Cynllun Gweithio'n Hybrid yn caniatáu i swyddogion llawn-amser weithio hyd at 3 diwrnod yr wythnos o adref ble mae eu swyddi yn caniatáu iddynt weithio’n hybrid, sy ’ n golygu gweithio lleiafswm o 2 ddiwrnod yr wythnos yn y swyddfa (pro rata i weithwyr rhan amser). Yn y maes gofal, rydym wedi hen arfer a ’ r angen i weithio’n hyblyg wrth geisio darparu cefnogaeth i drigolion y Sir ac fe fydd anghenion y trigolion hynny yn parhau i fod yn ystyriaeth flaenllaw wrth siapio ein trefniadau gwaith fel timau ac unigolion yn y dyfodol.

Ochr yn ochr â hyn a ’ r bwriad i ail-strwythuro gwasanaethau gofal, dros y misoedd nesaf fe fyddwn yn gwneud nifer o addasiadau i’n trefniadau o fewn ein swyddfeydd Yn y lle cyntaf, golyga hyn y bydd yna symudiadau i’w gwneud ar gyfer timau sydd yn gweithio yn y Pencadlys yng Nghaernarfon. Mae ein cynllun ar gyfer lleoliadau gwaith swyddfeydd y 3ydd llawr bron yn barod ac fe fyddwn yn rhannu’r cynllun swyddfeydd a ’ u trafod gyda’r holl staff fydd yn cael eu heffeithio yn fuan.

Rhowch eich barn!

Rydym yn awyddus iawn i glywed eich meddyliau ar y newyddlen yma, i gael gwell syniad o sut i wella ei gynnwys a chael mwy o ddarllenwyr i’r dyfodol.

Plîs cliciwch yma i gymryd rhan yn yr holiadur, amcangyfrif y gwnaiff gymryd oddeutu dau funud i’w gwblhau. Diolchwn am unrhyw adborth ac edrychwn ymlaen at rannu ’ r canlyniadau gyda chi yn y newyddlen nesaf!

Tiwtor Cymraeg?

Mae Bet Huws, Swyddog Dysgu a Datblygu Iaith Gymraeg, yn cynnal holiadur i weld pa alw sydd ar gyfer cael tiwtor Cymraeg mewnol yn y Cyngor

Byddai’r swyddog yn cael ei ariannu gan ‘Cymraeg Gwaith’. Mae hyn yn gysylltiedig â’n hamcan ni fel Cyngor i hybu’r iaith Gymraeg ac i gynyddu ein gallu i ddarparu gwasanaethau gofal yn y Gymraeg fel rhan o ’ n gwaith yn gweithredu’n unol â fframwaith Mwy na Geiriau

Cliciwch yma i gymryd rhan yn yr holiadur

Swyddi Ne dd

hyn, mae Mari wedi

Ar ôl ymddeoliad Helen Fôn

Owen llynedd yn dilyn gyrfa hir a llwyddiannus yn gwasanaethu pobl

Gwynedd, yn sicr roedd esgidiau mawr i’w llenwi yn y gwasanaeth Anableddau

Dysgu Yn y newyddlen ddiwethaf, wnaethom rannu ’ r newyddion fod Mari

Wynne Jones wedi cael ei henwi fel ein Pennaeth

Cynorthwyol Anableddau

i’w swydd newydd ac yn sicr wedi cael dechrau cryf. Hoffem ymestyn i Mari ein llongyfarchiadau fel adran unwaith eto, a dymunwn bob lwc a llwyddiant iddi’n ei rôl newydd.

Dysgu newydd Erbyn camu fewn

Gan fod symudiad swydd Mari yn digwydd ar sail secondiad, roedd angen ffeindio rhywun i lenwi ei swydd fel Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion tan ddiwedd y secondiad ar y 31ain o Fawrth 2025

Fel yr ydych yn siŵr o fod yn ymwybodol, mae ’ r rôl yma erbyn hyn wedi ei lenwi gan Siân Edith Williams Jones a oedd yn flaenorol yn Arweinydd Ardal yn Nhîm Adnoddau Cymunedol Bangor. Mae Ruth Evans wedi camu fewn i gymryd lle Siân yn y rôl yma. Llongyfarchiadau mawr i’r tair ohonyn nhw ac mi fyddem i gyd yn eich cymeradwyo a ’ch cefnogi wrth i chi ddechrau ar eich swyddi newydd mewn amser heriol ond ddifyr a chyffrous yn y maes gwasanaethau cymdeithasol

Hyfforddiant Cwynion

Mae’r Uned Datblygu Gweithlu wedi cwblhau eu gwaith ar yr hyfforddiant e-ddysgu Trefn Gwyno Gwasanaethau

Cymdeithasol Er nad yw ’ n hyfforddiant mandadol, hoffwn argymell eich bod yn cael golwg arno gan fod adrannau Oedolion a Phlant efo trefniadau cwyno ar wahân i’r Drefn

Gwyno Gorfforaethol, sy ’ n cael ei defnyddio i ymdrin â’r rhan fwyaf o ’ r pryderon eraill sy ’ n codi yn erbyn y Cyngor. Bydd yn sicr yn ddefnyddiol i bob aelod o staff ddiweddaru eu hymwybyddiaeth o drefniadau penodol ein hadrannau felly.

Cliciwch yma i’w gwblhau, ni fydd yn cymryd mwy na 20 munud

Mentoriaid Ymddygiad Cadarnhaol

Ar y 31ain o Ionawr, bu Eli Evans a Mathew Hopson yn cymryd rhan yng Nghymuned Ymarfer Gogledd Cymru yng Nghanolfan Fusnes Conwy, Llandudno. Rhoddwyd gyflwyniad am ei gwaith fel Mentoriaid Cefnogaeth Weithgar ac Ymddygiad Cadarnhaol i staff sy ’ n gofalu am unigolion ag anableddau dysgu. Cafodd y gweithwyr y cyfle i glywed sut mae Eli, Mathew ac eraill yn gweithio i wella ansawdd bywyd defnyddwyr gwasanaeth ac i newid diwylliant gwasanaethau er mwyn sicrhau bod nhw yn dilyn y fframwaith Ymddygiad Cadarnhaol (PBS)

Mae PBS yn ffordd o adnabod a chwrdd anghenion unigolion sydd yn eu canoli nhw ac yn pwysleisio triniaeth sensitif a pharchus. Mae hyn yn benodol bwysig o ystyried y ffaith fod PBS yn tueddu o gael ei ddefnyddio yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle mae unigolyn mewn risg o wneud niwed i’w hunain neu rywun arall, neu mewn sefyllfa b eryglus yn gyffredinol. Mae PBS yn ddatblygiad cadarnhaol o fewn y maes gan ei fod yn pwysleisio derbyn anghenion unigolion a gweithio efo nhw i’w cwrdd, yn groes i rai dulliau o ’ r gorffennol a oedd yn ffocysu mwy ar newid neu ‘gwella’ yr unigolyn mewn ffordd afrealistig ac anheg

Cliciwch yma i weld y Fframwaith Ymddygiad Cadarnhaol ac am fwy o wybodaeth am PBS yn gyffredinol.

LlwyddiantRhannuCartref

Mae’r pâr cyntaf i fanteisio ar gynllun Rhannu Cartref Gwynedd wedi rhannu eu profiadau gan sôn am y cyfle i gael cartref diogel a fforddiadwy ar un llaw, a chwmnïaeth a chefnogaeth o gwmpas y tŷ ar y llaw arall

Lansiwyd cynllun Rhannu Cartref Cyngor Gwynedd y llynedd a'i nod yw paru pobl sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol i fyw'n annibynnol gartref ag eraill sy ' n ei chael hi'n anodd dod o hyd i gartref addas a fforddiadwy. Mae pawb ar ei ennill gyda'r cynllun Rhannu Cartref.

Mae Audrey a James wedi bod yn cyd-fyw ers dau fis ac yn awyddus i rannu eu profiadau fel bod eraill yn dod yn ymwybodol o fanteision rhannu cartref drwy'r cynllun.

Mae Audrey yn wraig weddw yn ei 80au ac yn ei chael hi'n fwyfwy anodd ymdopi ar ei phen ei hun Mae gan James ei gwmni tirlunio ei hun ac roedd wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith i Audrey pan gafodd ei hun yn chwilio am rywle i fyw yn dilyn newid mewn amgylchiadau. Drwy lwc, mae ’ r cynllun Rhannu Cartref wedi bod yn ateb perffaith i’r ddau.

Dywedodd Audrey: "Mae yna fanteision amlwg i’r cynllun Rhannu Cartref ac rwy ' n credu ei fod yn wych. Mae fy mhlant – un ohonynt ddim yn byw yn lleol a ' r llall yn gweithio llawn amser – yn cytuno ei fod yn rhoi tawelwch meddwl fod rhywun yma efo mi, yn arbennig petai argyfwng yn codi Mae cael James yma yn rhoi tawelwch meddwl a chwmnïaeth i mi, yn enwedig yn ystod nosweithiau hir y gaeaf."

Mae'r ddau wedi adnabod ei gilydd ers pum mlynedd a wastad wedi cyd-dynnu ac roedd cymryd y cam i fod yn rhannu cartref yn gwneud synnwyr i’r ddau

Mae James yn helpu o gwmpas cyd-fynd â'i fywyd gwaith. y tŷ am 10 awr bob wythnos gyda threfniant hyblyg sy ’ n

Dywedodd James: "Mae'n anodd iawn dod o hyd i rywle parhaol i fyw heb orfod symud i ffwrdd oddi wrth fy nghymuned. Mae’r cynllun Rhannu Cartref yn gweithio mor dda i mi, alla i ddim coelio pa mor lwcus dw i wedi bod i ddod o hyd i le mor braf i fyw. Mi fyddai’n edrych ymlaen at goginio gyda'r nos a rhoi'r byd yn ei le efo Audrey.

Dywedodd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant: "Rwy'n croesawu Cynllun Rhannu Cartref Gwynedd yn fawr. Mae pobl yn wynebu cymaint o heriau yn ein cymunedau, yn enwedig yr henoed a phobl ifanc Mae'r cynllun hwn yn cynnig atebion ymarferol a hyblyg sydd o fudd i'r ddwy ochr, gan helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd a phobl yn teimlo’n ynysig yn ogystal â’r diffyg mewn tai fforddiadwy "

Nid yw rhanwyr cartref yn talu rhent, ond gofynnir iddynt dalu ffi weinyddol fach i Rhannu Cartref Gwynedd am gostau rhedeg y cynllun. Mae'r broses baru wedi'i chynllunio'n ofalus a gwneir gwiriadau cefndir manwl i'r ddau berson er mwyn sicrhau bod y cynllun yn ddiogel ac yn effeithiol Am fwy o fanylion am Rhannu Cartref Gwynedd – fel Lletywr neu Westai – cysylltwch â richardwynwilliams@gwynedd llyw cymru / 07388 859015 neu ewch i'r wefan www gwynedd llyw cymru/RhannuCartref

Gweithio’n Hybrid

Daeth y Cynllun Gweithio’n Hybrid i rym yn swyddogol ar Ebrill yr 8fed, 2024. Er bod paratoadau wedi bod ar y gweill ers dipyn ac mae llawer ohonom wedi gwneud addasiadau i’n trefniadau gwaith yn barod, mae ’ r cynllun dal yn cynrychioli newid sylweddol i nifer. Mae fersiwn diweddaraf y Newyddlen Cynllun Gweithio’n Hybrid corfforaethol i’w gael yma. Mae’n cynnwys esboniad pellach o ’ r cynllun a beth i wneud os ydych yn ansicr am unrhyw beth.

Beth mae hyn yn ei olygu i’n hadran ni?

Mae’n ffordd o weithio yn newid - o ganlyniad i’r penderfyniad i ganiatau staff i barhau i weithio o adref hyd at 3 diwrnod yr wythnos (pro rata os yn rhan amser), mae angen i’r cyngor ailedrych ar ei adnoddau, sy ’ n golygu y bydd llai o ofod ar gael i ni i’r dyfodol. Felly, mae ’ n rhaid gwneud defnydd mwy effeithiol o ’ n gofod a ’ n adnoddau a bod yn barod i newid i drefniadau rhannu desgiau os nad yw hynny wedi digwydd yn barod.

Mi fyddwn fel adran yn colli dros 300 medr sgwâr o ofod yn ein prif swyddfeydd yn y Pencadlys Mae gofod newydd wedi’i gyfrifo felly ar sail 1 desg i bob aelod o staff sy ’ n y swyddfa’n llawn amser a 3 desg rhwng 5 i bawb sy ’ n gweithio’n hybrid. Yn ychwanegol, mae pob adran yn derbyn gofod ychwanegol ar gyfer darparu gofod tawel a gofod cyfarfod. Mater i ni fel adran ydi sut ydan ni’n defnyddio’r gofod yma, a byddwn yn gwneud hynny drwy edrych ar niferoedd staff bob gwasanaeth i ddechrau, yn ogystal ag anghenion storio ac ati.

Egwyddorion Hanfodol i’r cynllun weithio

Er mwyn gwneud i’r gofod weithio i’r dyfodol, bydd angen i ni gyd gytuno ar set o egwyddorion cyffredinol:

Ni fydd unigolion â swyddfeydd eu hunain ond bydd gan bawb fynediad i ddesgiau poeth a darpariaeth gofod tawel/cyfarfodydd (a system bwcio)

Bydd polisi desg glir mewn lle

Bydd angen i unrhyw wasanaeth anelu at fynd yn ddi-bapur lle nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud hynny

Bydd angen i bawb fod â meddwl agored o safbwynt rhannu gofod â thimau eraill a gwneud y defnydd gorau ohono.

Mae cadw’r swyddfeydd yn lân a thaclus yn gyfrifoldeb i’r timau sy ’ n eu defnyddio. Bydd glanhawyr y swyddfa yn taro hwfer ar y stafelloedd unwaith bob 6 wythnos ond nid ydyn nhw’n gyfrifol am lanhau desgiau ac ati.

Fel y mae Aled wedi’i nodi yn ei ragarweiniad i’r newyddlen, mae ’ r cynlluniau ar gyfer gofod Oedolion ar yr 2il a ’ r 3ydd llawr ym Mhencadlys wedi bod yn cael eu trafod dros y cyfnod diwethaf Gobeithiwn fedru rhannu rhywbeth efo chi yn fuan iawn

Os oes gennych unrhyw bryderon am y trefniadau yma, cysylltwch yn y man cyntaf gyda’ch rheolwyr llinell i drafod Os bydd unrhyw ymholiadau yn parhau, cysylltwch â Cadi Morus Parry yn nhîm Cefnogi’r Gweithlu ar cadimorusparry@gwynedd.llyw.cymru.

Diolch yn fawr o flaen llaw am eich cydweithrediad.

Gwaredu Ffeiliau

Mae agwedd wyliadwrus o ran cofnodion a ffeiliau yn hollbwysig i waith yr Adran a ’ r Cyngor.

Yn dilyn cyfnod y pandemig lle’r oedd nifer y adref a thrafferthion o safbwynt dileu cofnodi oddi ar WCCIS, mae ’ n debygol iawn ein bo cadw gwybodaeth yn llawer hirach nag gyfreithiol. Mae’n angenrheidiol bellach ein sylw i hyn fel adran.

Yn ychwanegol, mae ’ r Cynllun Gweithio’n Hyb fod y cyngor yn ailedrych ar ei adeiladau a gofod fydd ar

gael i ni Mae yna bwysau arnom felly o safbwynt rhyddhau gofod hefyd, ac mae gwaredu ffeiliau papur sydd ddim angen eu cadw yn un rhan hanfodol o hynny.

Mewn un neu ddau o leoliadau, mae ein diffyg gallu i waredu ffeiliau papur hefyd yn creu rhwystrau i adrannau eraill o safbwynt prosiectau sydd ar y gweill neu o safbwynt cadw eu gwybodaeth hwy yn ddiogel.

Mae aelodau o ’ch timau wedi bod yn rhan o ddarn o waith i ddiweddaru ein cyfnodau cadw yn ddiweddar ac i’ch cynorthwyo gyda’r gwaith yma, mae ’ r cyfnodau cadw cyfredol i’w canfod yma (y tab Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion sy ’ n berthnasol i ni yn bennaf)

Hoffem dynnu sylw at un o ’ r prif newidiadau yn y ddogfen - y cyfarwyddyd ar y dechrau sy ’ n caniatáu i drin ffeiliau achosion gwaith cymdeithasol i gyd gyda’r un cyfnod cadw o 10 mlynedd yn dilyn dyddiad marwolaeth neu gau y ffeil

Mae hyn er mwyn rhesymoli gwaith a lleihau’r angen i chwynnu drwy’r ffeiliau i wirio a oes yna ddogfennau diogelu ac ati ynddynt Cofiwch fod angen cadw cofnod o ’ r dyddiad mae ffeiliau yn cael eu dinistrio ac mae angen arbed yr wybodaeth yna yn ddiogel ar iGwynedd –mae mwy o wybodaeth yma am y math o bethau i’w cofnodi.

Gofynnwn i chi flaenoriaethu’r gwaith hwn gan gychwyn gyda cham 1 – sef ffeiliau papur – a gofynnwn i chi gwblhau hyn erbyn y 3ydd o Fai os gwelwch yn dda. Am gyngor ar gyfnodau cadw, trefniadau gwaredu, neu i drafod unrhyw bryderon sydd gennych am y gwaith a ’ r amserlen cysylltwch gyda Sophie Tyne Hughes ar sophieannhughes@gwynedd llyw cymru cyn gynted ag y bo modd os gwelwch yn dda

Trefniadau Salwch

Bydd newidiadau i’n trefniadau adrodd ar salwch yn dod i rym ar 10 Mehefin 2024 O’r dyddiad yma ymlaen, mi fydd modiwl salwch newydd ar Hunanwasanaeth Staff yn disodli’r drefn o anfon adroddiadau misol i’r tîm cefnogol

Bydd y system yn cefnogi rheolwyr i wybod pryd i weithredu’n unol â’r polisi rheoli absenoldebau ac yn bwydo i ddata salwch yr adran.

Mae’n hollbwysig fod rheolwyr yn deall y system newydd ac i’r perwyl hwnnw mae sawl sesiwn hyfforddiant wedi eu trefnu. Os ydych chi’n gyfrifol am aelodau o staff, byddwn yn eich annog i fanteisio ar yr hyfforddiant hwn drwy ddilyn y linc: https://porthstaff.gwynedd.llyw.cymru/cy/Mods/Teitl/Manylion/11317

Gwyliau Blynyddol

Roedd cytundeb cyflog 2022/23 yn cynnwys penderfyniad i roi diwrnod ychwanegol o wyliau ar gyfer staff llywodraeth leol, o ’ r 1af o Ebrill 2023 ymlaen

Gan fod blwyddyn wyliau pawb yn wahanol ac wedi ei seilio ar ddyddiad dechrau mewn cyflogaeth â’r Cyngor, bydd staff sy ’ n dechrau eu blwyddyn wyliau rhwng Mai a Hydref yn cael hanner diwrnod ychwanegol o wyliau; a staff sy ’ n dechrau eu blwyddyn wyliau rhwng Tachwedd ac Ebrill yn cael diwrnod cyfan ychwanegol

Mae’r wybodaeth yma yn berthnasol ar gyfer blynyddoedd gwyliau a ddechreuodd rhwng y 1af o Fai 2022 a ’ r 31ain o Ebrill 2023 yn unig Felly ar ôl y 1af Ebrill, 2024, bydd pawb yn ychwanegu diwrnod llawn o wyliau arferol ar gyfer unrhyw flwyddyn wyliau

Sylwch os gwelwch yn dda mai hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn o wyliau arferol y dylid ei ychwanegu; mae mwy o wybodaeth ar sut i gyfrifo faint yn union sydd angen ei ychwanegu ar gyfer staff sydd ar gytundebau rhan amser ar gael ar y fewnrwyd (dilynwch y linc: Gwyliau ac Amser Rhydd (sharepoint.com) neu cysylltwch â’ch rheolwr / arweinydd tîm.

Mae’r diwrnod hwn yn ychwanegiad parhaol i bawb

Os oes gennych unrhyw gwestiwn pellach, cysylltwch â’ch swyddog / ymgynghorydd adnoddau dynol neu yrru neges at gwasanaethymgynghorolAD@gwynedd.llyw.cymru

Nodir:

Hunanwasanaeth Staff - I rai sydd yn defnyddio'r calendr Gwyliau yn Hunanwasanaeth Staff, bydd yn ofynnol i'r rheolwr llinell wneud yr addasiad i’r cyfanswm gwyliau cyfredol Gallwch wneud hyn drwy ddilyn y cyfarwyddiadau 'Sut i addasu Gwyliau' sydd yn Angen Cymorth? o fewn Hunanwasanaeth Staff.

O Ebrill 2024 ymlaen mi fydd y gwyliau ychwanegol yma yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn eich cyfanswm gwyliau newydd

Stori Wythnosol

Ydych chi’n derbyn ein ‘stori wythnosol’? Os nad ydych, a fyddech mor garedig â chysylltu â Sian Pritchard, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu drwy e-bost: sianip@gwynedd llyw cymru

Oriau Agor Siopau

Gwynedd

Yn ogystal â’r trefniadau swyddfeydd a gwyliau newydd, bydd diweddariad i oriau agor siopau Gwynedd yn dod i rym ym mis Ebrill. Hoffwn rannu neges gan Catrin Love, Pennaeth Cynorthwyol i’ch diweddaru o ’ r drefn newydd:

Fel rhan o ’ r pecyn toriadau, byddwch yn ymwybodol fod penderfyniad wedi ei wneud i addasu oriau agor Siopau Gwynedd o ’ r 1af o Ebrill ymlaen.

I’r perwyl yma, bydd Siopau Gwynedd Pwllheli, Dolgellau a Chaernarfon yn cau am 4yh o ’ r

1/4/24 ac yna ymhen y flwyddyn, yn cau am 3yh o ’ r 1/4/25 Nid yw hyn yn amharu ar y gwasanaeth llinellau ffôn Galw Gwynedd a fydd yn parhau i fod ar agor fel yr arfer dan 5yh

Fel canlyniad, bydd drysau ffrynt pob Siop Gwynedd, i gynnwys y derbynfeydd â’r stafelloedd cyfweld yn cau am 16:00 o ’ r 1/4/24. Gofynnwn i chi rannu ’ r neges hon gyda’ch timau, gan ofyn iddynt beidio â threfnu apwyntiadau ar ôl 15:30 o ’ r 1/4/24 ymlaen plîs oherwydd yr angen i gloi’r drws yn brydlon am 16:00 awr Bydd hefyd angen ystyried hyn o ran unrhyw ymwelwyr i’r adeilad ddiwedd y prynhawn, gan na fydd derbynfa i’w derbyn i mewn ar ôl 16:00

Byddwn yn trefnu sgyrsiau pellach tros yr wythnosau nesaf gyda phrif ddefnyddwyr y Siopau. Os oes elfennau penodol o waith eich Adran angen eu trafod, plîs dewch i gysylltiad.

Her a Hanner Manon

Mae Manon Elwyn, sy ’ n gweithio yn yr adran fel Rheolwr Cefnogi Iechyd a Llesiant, a’i phartner Ifan Owens, sydd hefyd yn gweithio i’r Cyngor yn yr adran Gyllid, wedi penderfynu ymgymryd â’r her o heicio hanner marathon drwy Eryri, gan gychwyn yn stad y Faenol a gorffen eu taith ger Llyn Ogwen.

Maent wedi penderfynu ymgymryd â’r her, a fydd yn digwydd ar 25 o Fai, er mwyn codi arian ar gyfer elusen Macmillan, sydd yn agos at eu calonnau yn dilyn colli tad Manon i ganser y llynedd

Os hoffech gyfrannu at eu taith, cliciwch ar y ddolen yma: Heic Hanner Marathon Manon ac Ifan

Prosiect Dewis

Yn ôl ym mis Chwefror, fe anfonwyd Huw Dylan Owen, ein cyfarwyddwr, e-bost i chi yn datgan y gwaith sydd ar droed gyda Dewis Cymru Mae’r

prosiect, sydd yn cael ei arwain gan Jess Mullan, yn gweithio ar hyrwyddo ac ehangu'r defnydd o Dewis, a hynny gan yr adran, y cyngor a ’ r gymuned ehangach Credwn y gall hyrwyddo Dewis ein cynorthwyo gan y gall defnyddwyr gwasanaeth, neu ddarpar ddefnyddwyr gwasanaeth, ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth mewn mannau gwahanol.

Mae’r gwaith o hyrwyddo Dewis yn tyfu momentwm yn gyflym erbyn hyn, wrth i Jessica ac eraill fynd ati i gynllunio sut i gael gymaint o adnoddau trydydd sector a chymunedol a phosib i ymuno â Dewis a sut i sicrhau eu bod yn aros yna.

Mae’r prosiect yma yn un hollbwysig i’n hamcanion ni fel Adran a Chyngor yn gyffredinol, gan ei fod yn cynrychioli yn berffaith yr agwedd wyliadwrus ac ataliol yr ydym wedi ymrwymo i er mwyn taclo problemau iechyd a llesiant yn ein sir

Trwy gefnogi Dewis i fod yn fan canolog ar gyfer unrhyw wybodaeth trydydd sector neu gymunedol yn ein sir, credwn y bydd y prosiect yma yn chwarae rhan bwysig yn y

frwydr yn erbyn unigrwydd, ynysu a ’ r llu o broblemau sydd yn dod o ganlyniad iddynt ac sydd wedyn yn mynnu mwy o ein harian ac amser prin.

I ymweld a Dewis, cliciwch yma. Os ydych yn rhan o unrhyw grŵp cymunedol neu trydydd sector, o grwpiau ar ôl ysgol i elusennau iechyd meddwl, plîs ystyriwch ychwanegu eich adnodd i Dewis Cymru. Am gymorth neu ganllawiau o sut i wneud hyn, plîs cysylltwch â

jessicaionamullan@gwynedd llyw cymru neu IwanHuwRoberts@gwynedd llyw cymru

Diwrnod Gwybodaeth

Awtistiaeth

Yn sicr, mae Tîm Ymarfer Awtistiaeth y Cyngor wedi bod yn hynod o brysur ers ei sefydliad

Maent wedi bod yn mynd o nerth i nerth yn eu hymdrechion i gyflawni amcanion y Cyngor i ddarparu gofal penodol ac o safon uchel i bobl awtistig a ’ u teuluoedd

Cynhaliwyd diwrnod gwybodaeth ar Fawrth y 4ydd ym Mhorthmadog, lle yr oedd cyfle i’r tîm Awtistiaeth gyflwyno eu hunain i’r cyhoedd, a bod ar agor i ateb unrhyw gwestiynau.

Roedd y diwrnod yn un llwyddiannus dros ben efo llawer o fwrlwm a diddordeb yng ngwaith y tîm, ac felly yn sicr wnaethom gyflawni’r nod o ledaenu ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn ein cymuned wrth adael pobl wybod pa wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw

Roedd cynrychiolaeth dda o ’ r gwasanaethau sydd ar gael i bobl Gwynedd i’w weld ym Mhorthmadog, efo grwpiau fel Derwen a ’ r Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr hefyd yn bresennol. Gwelwyd ymweliad gan y cynghorydd (a maer Bangor) Elin Walker Jones sydd yn arbenigo yn broffesiynol yn y maes, yn ogystal â’r Cynghorwyr Gwynfor Owen, Meryl Roberts a Dawn Lynne Jones Rhwng hyn i gyd, roedd yn sicr yn ddiwrnod calonogol a oedd yn rhoi arddangosiad o ’ r holl waith caled sydd yn mynd fewn i wasanaethu pobl awtistig ac eraill yn ein cymunedau, boed hynny tu fewn neu thu allan i’r Cyngor.

Er mwyn marcio Wythnos Adnabyddiaeth a Derbyniad Awtistiaeth (Ebrill 2-8), mae arweinydd y tîm, Lucy Hemmings, wedi bod ar waith yn ceisio cynyddu’r nifer o staff Cyngor sydd wedi cwblhau hyfforddiant awtistiaeth. Byddem yn ddiolchgar os byddai modd i chi gael golwg ar e-fodiwlau Awtistiaeth Cymru, sef ‘Deall Awtistiaeth’ sydd yn rhoi trosolwg o awtistiaeth ar gyfer pob aelod o staff, ac ‘Awtistiaeth a Deall Sut i Gyfathrebu’n Effeithiol’ sydd yn ddelfrydol ar gyfer staff sy ’ n gweithio’n uniongyrchol efo unigolion awtistig. Cliciwch yma i ld f di l A ti ti th C

Atwrneiaeth Arhosol

Hoffai arweinwyr yr adran eich atgoffa o ’ r Canllawiau ar Atwrneiaeth Arhosol (LPA, Lasting Power of Attorney) sydd ar gael gan swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae’n benodol bwysig i’r Timau Oedolion fod yn ymwybodol o ’ r wybodaeth yma er mwyn iddynt annog teuluoedd i wneud trefniadau os oes gan unigolyn gapasiti, gan fod lot mwy o rwystrau a chostau wrth wneud ceisiadau ar ôl i unigolyn golli capasiti.

Cliciwch yma i ddarllen y canllawiau, ac yma i ddarllen stori Shirley, profiad unigolyn sydd yn cyfleu pwysigrwydd atwrneiaeth arhosol

Dathlu’r Pasg

Gweler lluniau a rhannwyd ar gyfryngau cymdeithasol y cartrefi, sydd yn arddangos rhai o ’ n defnyddwyr gwasanaeth yn dathlu’r Pasg yn ddiweddar. Gan obeithio i chithau hefyd gael Pasg wrth eich bodd

Prosiect Canfas

Draw ar dudalen Facebook Frondeg, cewch weld rhai o ’ r defnyddwyr gwasanaeth wrthi’n brysur yn creu gwaith celf ar gyfer Stryd Llyn, Caernarfon

Mae’r gwaith hwn yn rhan o brosiect Canfas, prosiect newydd sydd yn cael ei reoli a’i arwain gan Galeri Caernarfon Cyf. Syniad y tu cefn i’r gwaith yw creu cyfle i’r gymuned gofnodi ei hunaniaeth drwy waith celf

Yn ôl gwefan Galeri; ‘Y dylunwyr Ann Catrin Evans a Lois Prys sydd wedi creu ' r gwaith gweledol ar gyfer Stryd Llyn. Mae eu dyluniad wedi cael ei ysbrydoli gan y cysylltiadau hanesyddol cryf â gwneuthurwyr hetiau, dillad, esgidiau, teilwra a gwneuthurwyr rhaffau a chortyn ar Stryd Llyn, yn ogystal â llif afon Cadnant trwy ganol y dref. Gwych yw cael dweud fod criw Frondeg wedi cynorthwyo gyda’r gwaith o ’ u creu!

Edrychwn ymlaen at ei gweld ar Stryd Llyn yn fuan

Diolch

Diolch am ddarllen y rhifyn diweddaraf o Newyddlen Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Os oes gennych chi newyddion y dymunwch rannu gyda ni, cofiwch gysylltu. Byddwn yn hapus i’w rhannu drwy’r Newyddlen neu ’ r ‘Stori Wythnosol’.

Yn yr un modd, carwn glywed gennych am unrhyw adborth, gwyn neu awgrymiad am y Newyddlen

Mae’r Newyddlen wedi ei chreu gennych chi ar eich cyfer chi, felly croesawn unrhyw sylwad.

Manylion Cyswllt

Rhif Ffôn:

01286 679 223

E-bost:

sianip@gwynedd.llyw.cymru

IwanHuwRoberts@gwynedd.llyw.cymru

neu
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.