Llyfr Lloffion Gaeaf 2023

Page 1

Llyfr Lloffion Gaeaf 2023

Celfyddydau Cymunedol Gwynedd


Croeso i Llyfr Lloffion Celf Cymuedol Gwynedd Gaeaf 2023 Mae amser wedi hedfan ac mae bron yn ddiwedd blwyddyn arall, sut ddigwyddodd hynny! Rydym wedi bod mor brysur efo gymaint o weithgareddau creadigol ledled Gwynedd, a hoffwn rannu rhai o'r rhain gyda chi yn y Llyfr lloffion hwn. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau ei ddarllen, ac os oes gennych unrhyw sylwadau, adborth neu syniadau am brosiectau creadigol yn eich cymuned cysylltwch â ni, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych. E-bostiwch ni ar celf@gwynedd.llyw.cymru

Yn y rhifyn hwn............ Llwybrau Celf Bach - Llwybrau Celf Crefft er Lles - Porthi’r Dre Oriel Ysbyty Gwynedd - Sgwrs a Chan Prosiect ‘Mwy’ - Grantiau Celf Cymunedol


u a r b y w l L h c a B f l Ce Ym mis Medi dechreuodd cyfres newydd o Llwybrau Celf Bach yn Neuadd Aberdyfi, Plas Glyn y Weddw a Storiel. Mae’r artistiaid proffesiynol Jane Barraclough, Eleri Jones a Tess Urbanska yn arwain y sesiynau i blant 7 - 11 oed, sy'n archwilio amrediad o dechnegau a deunyddiau celf. Mae gwaith celf anhygoel wedi'i greu, rydym wedi syfrdanu'n fawr gyda sgiliau creadigol ein grwpiau ifanc!


u a r b y w l L f l Ce Wedi'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Llwybrau Celf yn ddilyniant o Llwybrau Celf Bach i annog ac ysbrydoli pobl ifanc 11 - 14 oed i archwilio eu creadigrwydd. Rydym yn ceisio bod mor gynhwysol ag sy'n bosib gyda’n hartistiaid a'n cyfranogwyr er mwyn rhoi cyfleoedd i bawb. Y gweithdai a gafodd eu cynnig oedd dylunio, argraffu, celf ddigidol, portreadaeth a gwaith lliw, gan orffen gyda sesiwn yng ngofod creu Ffiws M-Sparc ym Mangor. Cafodd y gwaith ei arddangos yn y Galeri ochr yn ochr â gwaith celf gan gyfranogwyr y gweithdai Llwybrau Celf Uwch.


r e t f f e Cr s e Ll Mae sesiynau Crefft er Lles wedi bod yn boblogaidd ers iddyn nhw gychwyn cyn cyfnod y Clo! Rydym wedi cychwyn cyfres arall o chwe sesiwn yng Nghaernarfon. Lora Morgan sydd yn tywys y grŵp trwy’r crefftau gwahanol yn cynnwys plu macramé, pot blodau Frida Khalo ac eitemau Nadoligaidd. Mae’r grŵp yn cael hwyl cyfarfod yn CARN, dysgu creu crefft newydd a sgwrsio dros baned a chacen. Bydd cyfres nesaf crefft er Lles yn digwydd yn Gongl Meinciau, Botwnnog mis Ionawr. Bydd yna 6 sesiwn pob yn ail wythnos ac mae croeso i unrhyw un 18+. I gofrestru e-bostiwch ffionstrong@gwynedd.llyw.cymru.


r ’ i h t r o P e r D Yn ystod gwyliau Haf 2023 trefnwyd gweithdai celf i blant yn Porthi’r Dre gan CARN. Dros 5 sesiwn wythnosol cafodd y plant cyfle i roi cynnig ar gelf wahanol. Gafodd bron i 50 o blant cyfle dros y 5 sesiwn yma. Yn dilyn y rhain trefnwyd sesiwn yn ystod hanner tymor yr Hydref gan CARN. Roedd 2 sesiwn yn ystod y dydd i alluogi mwy o blant i gymryd rhan. Cafodd pob plentyn pecyn celf yn dilyn y sesiynau yma fel bod cyfle iddyn nhw parhau gyda gwaith celf adra. Ariannwyd y sesiwn Hydref a’r pecynnau celf gan Cyfuno.


l e i r O y t y b Ys d d e n y Gw FAr gyfer ein hail arddangosfa eleni yn Oriel Ysbyty Gwynedd rydym yn falch iawn i arddangos gwaith gan yr artistiaid lleol Menai Rowlands a Ffion Pritchard. Mae Menai a Ffion yn rhan o'r rhwydwaith artistig a galeri CARN sy'n cael ei redeg gan grŵp o artistiaid yng Nghaernarfon. Yn aml maent yn creu gwaith sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, pryderon a chyflwr cymdeithas yn gyffredinol. Gallwch weld eu gwaith ar Instagram @meni.designs.dyluniadau a @ffionartist. Os ydych yn grŵp cymunedol neu artist a hoffech gynnig syniad ar gyfer arddangosfa Oriel Ysbyty Gwynedd cysylltwch â ni drwy e-bostio celf@gwynedd.llyw.cymru.


a s r w g S n a Ch Mae Sgwrs a Chan wedi bod yn rhaglen llwyddiannus ar y cyd gyda Canolfan gerdd William Mathias ers 2016. Mae’r rhaglen cyfredol wedi cychwyn ers Medi 2023 a bydd yn rhedeg hyd at Mawrth 2024. Y flwyddyn yma bydd tiwtoriaid CGWM yn teithio i Borthmadog, Bala a Thremadog fel rhan o cynllun cydweithio gyda Cymdeithas Tai Cynefin i ddarparu sesiynau yn eu prosiectau fflatiau gofal ychwanegol. Yn dilyn ymateb cadarnhaol i’r sesiynau agored i’r gymuned yng Nghanolfan Congl Meinciau Botwnnog, bydd sesiynau wythnosol yn parhau i ddigwydd yn y cyfnod Medi 2023 - Pasg 2024. Yn ogystal bydd sesiynau yn cychwyn mewn lleoliadau newydd. Gadwch lygaid allan am fanylion.


y w M

Mae ‘Mwy' yn brosiect creadigol, cyfranogol i ferched o bob oed yng Nghaernarfon i hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Mewn partneriaeth â Phorthi'r Dre, cynhelir 30 o weithdai rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024 am ddim gyda chynnig o bryd o fwyd poeth yn hwb cymunedol Porthi Dre. Mae'r ymarferwyr creadigol Sioned Medi Evans ac Iola Ynyr yn cydweithio gyda'r gymuned wyneb-yn-wyneb ac ar-lein, gyda Sioned yn dod a'i sgiliau celf gweledol, hanesyddol a digidol, ac Iola’n arbenigo mewn ysgrifennu creadigol, gweithio gyda chymunedau bregus a chreu arddangosfeydd a phrofiadau celfyddydol cyhoeddus. Mae 'Mwy' yn defnyddio ffyrdd creadigol i ystyried cyfnodau arwyddocaol ym mywydau merched, o'u harddegau, dechrau'r mislif, atalgenhedlu, geni, magu plant, dewis peidio bod yn fam, y menopôs a cholled.


f l e C u a i t n a Gr l o d e n u m y C Mae ein grantiau o £500 ar gyfer gweithgareddau celf yn y gymuned yn boblogaidd iawn. Hyd yn hyn eleni rydym wedi derbyn cyfanswm o 35 cais grant, gydag 17 o'r rheiny'n llwyddiannus. Mae'r grantiau hyn ar gael i grwpiau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd i gefnogi gweithgareddau celf ar raddfa fechan, fydd yn dod â budd uniongyrchol i gymunedau ledled Gwynedd. Mae'r grwpiau yr ydym wedi'u cefnogi yn ddiweddar yn cynnwys Côr Encor Bangor, Pwyllgor Cymuned Deiniolen, Gŵyl Llanuwchllyn a Chwmni Nod Glas Dinas Mawddwy. Am fwy o wybodaeth am y grantiau hyn e-bostiwch celf@gwynedd.llyw.cymru.


d o f n a g r a D y w m Diolch am ddarllen ein llyfr lloffion. Os hoffech wybod mwy am Gelfyddydau Cymunedol Gwynedd, ac i glywed am weithdai, swyddi a digwyddiadau celf ledled Gwynedd ewch i wefan Gwynedd Creadigol a chyfryngau cymdeithasol .

www.gwyneddgreadigol.com

Facebook - @gwyneddgreadigolcreativegwynedd X (Twitter) - @celfgwyneddarts Instagram -@celfgwyneddarts

Corrie a Ffion


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.