Gair o Gyngor - Tachwedd 2024

Page 1


Tachwedd 2024 Rhifyn 12

FFION YN CANU GYDA’I HARWR Gair o Gyngor

Staff Cyngor Gwynedd

Gair gan y golygydd

Croeso i rifyn arall o Gair o Gyngor. Mae gennym rifyn llawn hanesion ar eich cyfer eto tro ‘ma’.

Ddiwedd Awst cawsom y newyddion hynod o drist fod Mandy Parry wedi ein gadael yn dilyn cyfnod o salwch. Roedd Mandy wedi gweithio i Gyngor Gwynedd ers bron i 40 o flynyddoedd ac roedd yn wyneb cyfarwydd i sawl un ohonom Yn aelod hoffus dros ben o’r Gwasanaeth Adnoddau Dynol, mae ei chydweithwyr yn talu teyrnged arbennig iawn i Mandy ar dudalennau 4 a 5.

Fel y gwelwch ar y clawr, mae Ffion sy’n gweithio fel Swyddog Gofalwyr Ifanc wedi cael gwireddu breuddwyd yn ddiweddar wrth iddi serennu ar lwyfan gyda Bwncath. Cawn ddod i wybod mwy am Ffion ac yr effaith mae cymryd rhan yn y rhaglen Canu Gyda Fy Arwr wedi cael arni ar dudalennau 8 a 9.

Ar dudalennau 6 a 7 cawn ddarllen am lwyddiant y Cynllun Prentisiaethau a Cynllun Yfory wrth i sawl aelod o’r cynllun dderbyn swyddi gyda’r Cyngor. Rydym hefyd yn croesawu prentisiaethau a hyfforddeion newydd i’r Cyngor.

Rydym yn falch o adrodd bod cynllun uwchraddio cerbydau fflyd y Cyngor o danwydd ffosil petrol a disel i drydan wedi symud ymlaen yn sylweddol dros y misoedd diwethaf. Trowch i dudalen 11 am fwy o wybodaeth

Efallai i chi sylwi fod aelodau staff gwastraff ac ailgylchu’r Cyngor wedi bod yn gwisgo pinc yn ddiweddar yn ystod eu cylchdeithiau Cewch ddarganfod y rheswm pam ar dudalen 14.

Mae sawl stori ddifyr arall wedi eu cynnwys, gobeithio y gwnewch fwynhau eu darllen

Rydym eisiau clywed am eich llwyddiannau chi ac eich cydweithwyr. Efallai fod prosiect wedi derbyn canmoliaeth neu eich bod wedi cyflwyno rhywbeth newydd yn y gweithle Bach neu fawr, rydym eisiau clywed amdanynt.

Cofiwch os hoffech chi gyfrannu at y rhifyn nesaf mae modd i chi gysylltu drwy e-bostio cyfathrebumewnol@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 679341.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y rhifyn yma o’r cylchgrawn.

Oeddech chi'n gwybod fod 66% o boblogaeth Prydain ar Facebook? Dydan ni yma yng Ngwynedd ddim gwahanol a dyna pam, yn dilyn sgyrsiau efo staff mae grŵp Facebook wedi cael ei greu ar gyfer HOLL staff Cyngor Gwynedd.

Dyma gyfle i bawb gael gwybodaeth am y Cyngor yn syth bin - ar eich ffôn, ar eich iPad neu ar eich cyfrifiadur. Os hoffech ymuno gyda'r grŵp chwiliwch am "Staff Cyngor Gwynedd" ar Facebook .

AROLWG LLAIS STAFF

YN FYW

Mae’r Cyngor eisiau clywed eich llais!

Dyma eich cyfle chi fel aelod o staff y Cyngor (ag eithrio Cefnffyrdd, GwE a Byw’n Iach) i ymateb i’r Arolwg Llais Staff.

Rydym eisiau clywed eich barn am sawl agwedd o’ch profiad fel aelod o staff Cyngor Gwynedd, gan gynnwys:

Eich llesiant

Eich swydd

Eich gwasanaeth

Eich cyflogwr

Drwy gymryd rhan yn yr arolwg pwysig hwn, byddwch yn helpu’r Cyngor fel cyflogwr i fod mewn gwell sefyllfa i ddeall:

beth yr ydych ei angen er mwyn sicrhau fod pobl Gwynedd yn ganolog i’ch gwaith;

pa gymorth neu gefnogaeth rydych ei angen er mwyn gallu gwneud eich gwaith; ydych angen mwy o wybodaeth am y buddiannau sydd ar gael, eich hawliau a’ch cyfrifoldebau.

Mae’r hyn rydych yn ei ddweud yn yr holiadur yn gyfrinachol a fydd dim ffordd i’r Cyngor wybod pwy sydd wedi dweud beth. Bydd y canlyniadau’n cael eu dadansoddi gan Gwasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth y Cyngor.

Yn y dyfodol, bydd Adrannau a Gwasanaethau’r Cyngor yn gweithredu ar y prif negeseuon fydd yn dod yn ôl o’r ymarferiad.

Bydd gwybodaeth am hyn ar gael drwy’r fewnrwyd, y grŵp Facebook staff a‘r cylchgrawn Gair o Gyngor. Cadwch olwg am ddiweddariadau!

I ateb yr holiadur, cliciwch ar y linc yma:

Holiadur Llais Staff 2024 (llyw.cymru)

Os ydych eisiau holi mwy am yr holiadur, gofynnwch i'ch: Rheolwr Llinell neu Arweinydd Tîm neu e-bostiwch: CyfathrebuMewnol

TEYRNGED I MANDY

TEYRNGED I MANDY

Yn mis Awst bu i ni dderbyn y newyddion hynod drist fod Mandy Parry wedi ein gadael yn dilyn cyfnod o salwch. Roedd Mandy wedi gweithio i’r

Cyngor ers bron i 40 mlynedd ac roedd yn adnabyddus ar draws y sefydliad yn sgil ei gwaith arbennig fel Swyddog Adnoddau Dynol.

Yn berson hoffus tu hwnt, bob tro yn barod i helpu eraill, bydd colled Mandy i’w deimlo yn fawr iawn Rydym yn cydymdeimlo yn ddwys gyda theulu Mandy, ei chydweithwyr a'i ffrindiau ar draws y Cyngor ac yn meddwl amdanynt ar yr adeg anodd yma

Bu Mandy yn gweithio i’r Gwasanaeth Adnoddau

Dynol am 28 o flynyddoedd ac rydym yn meddwl am ei chydweithwyr yn y gwasanaeth wrth iddynt alaru am aelod annwyl a phoblogaidd o’r tîm. Maent wedi talu y deyrnged arbennig yma i Mandy.

“Dechreuodd Mandy, neu i ni fel Tîm, “Mandy Ann” neu “Anti Mandy”, weithio i’r Cyngor ym mis Ionawr 1985 (bron i 40 mlynedd yn ôl), a dros y blynyddoedd mi welodd lawer o newidiadau i brosesau a threfniadau adnoddau dynol.

Roedd ganddi lawer o hen hanesion doniol iawn am ddyddiau a fu, straeon fyddai wastad yn rhyfeddu staff newydd. Yn un o hoelion wyth y tîm, mi oedd hi wastad yn nabod pawb,

Mi oedd cerdded lawr coridor y swyddfa yn cymryd peth amser hefo Mandy oherwydd byddai yn stopio a rhoi ei hamser i siarad hefo pobl a chymryd diddordeb ym mywydau eraill. Ers i ni golli Mandy mae tudalen Facebook staff y Cyngor wedi gweld cannoedd o negeseuon, pobol yn cydymdeimlo efo’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr gyda themâu clir yn ymddangos - pobol yn ei hadnabod fel person oedd pob amser efo gwen ar ei hwyneb, un annwyl a chlên a phob amser yn barod ei chymwynas. Mae Mandy wedi cefnogi llu o staff ar hyd y blynyddoedd, ma’ hi wedi cefnogi pobl drwy salwch ac amser anodd yn eu bywyd.

Roedd ei gwybodaeth o’i maes gwaith yn anhygoel, cofio pethau rhyfedda, a gallu cael hyd i bopeth. Doedd symud i fod yn “ddi bapur” ddim ar agenda Mandy gan fydda ganddi bob amser nodiadau wedi ei gadw yn rhywle a fyddai’n dod mewn yn handi, a peth nesaf byddai’n cyrraedd hefo’r ddogfen yn ei llaw, a highlighter mawr ar y rhannau pwysig. Roedd ei anhwylder a’i agwedd ‘cool, calm and collected’ at bob sefyllfa yn gysur i reolwyr a staff mewn sefyllfaoedd digon anodd. Roedd Mandy wastad yr un fath, barod i helpu a phawb yn gwerthfawrogi ei chyngor doeth.

a phawb yn ei nabod hi.
Mandy
Mandy yn mwynhau gyda’i chydweithwyr

Cofio’r hanes o un aelod o ’ r tîm yn cael pyncjar ar ei ffordd i Bwllheli ac yn ffonio Mandy mewn panic llwyr ddim yn gwybod be i neud na sut i gyrraedd ei chyfarfod. Dim angen poeni - Anti Mandy to the rescue... hithau yn ffonio mecanics y Cyngor ddaeth lawr y lon i helpu’r ‘damzel in distress’!

Tro arall mi aeth Bethan a Mandy ar gwrs hanner diwrnod i Wrecsam. Neud y mwyaf o ’ r cyfle drwy gymryd pnawn i ffwrdd efo fflecsi, gyda’r bwriad o biciad i Landudno i siopau ar y ffordd adra ond gymaint oedd y siarad, mi aethon nhw ar goll ar y ffordd o na, a welson nhw’r un siop ddillad yn diwedd!

Roedd Mandy yn rhan fawr o ochr cymdeithasol y tîm, y person cyntaf i roi ei enw at bob noson allan, a wastad yr olaf i fynd adra. Hanner cider a black oedd ffefryn Mandy. Mi fyddai yno tan y diwedd, dal i ddawnsio ac yn cadw pawb i fynd. Hi oedd bob amser trefnwr y ‘mini bus’, chwilio am y deal gorau, fydda hi wastad yn nabod rhywun oedd yn nabod rhywun fyddai yn rhoi deal gwell i ni, ac yn llwyddo bob amser! Dyma lle ddechreuodd yr enw “Anti Mandy” - yr un yn gofalu drosom i gyd, yn neud yn siŵr bo ni’n cyrraedd ein lifft neu fws adra.

Straeon lu sydd i ddweud (a rhai na fedrwn eu datgelu) - ond llawer i atgof melys o fod yn cael ambell barti zoom dros y cyfnod clo, i fynd am afternoon tea’s neu drip i ffwrdd i Manceinion.

A pwy fyddai’n anghofio’r daith ar y ‘Queen of the Sea’ - noson eith lawr mewn hanes! Mae yna luniau di-ri ac atgofion i’w trysori. Mi welwch y llun o Mandy ar waelod y dudalen yma - llun oedd wedi ei dynnu ohoni ar y bygi golff tra allan fel tîm yn Signatures, Conwy oedd hwn. Ychydig oedda ni’n ei wybod ar y pryd mai dyma fyddai un o ’ r achlysuron olaf i ni gael i gymdeithasu fel tîm efo Mandy. Mi fyddwn yn ei chofio pob amser, fel mae hi yn y llun yma, efo gwen fawr ar ei hwyneb, efo ‘seidar a black’ yn ei llaw ac yn barod iawn am laff.

Inifeltîm,maeMandywedibodynofelcraiggadarntrwybobstormaphobheulwen,ynangoreinllong. Drosyblynyddoedd,hefo’ngilydd,daniwedicrioachwerthinlot,wedicynnaleingilyddtrwy sefyllfaoeddgoanodd,wedidathlullwyddiannaunifelunigoliona’nteuluoeddacwedibodtrwy gyfnodauosalwch,tristwchagalar.Acynddistawbach,hebddimffws,Mandyoeddbobamserynoyn gefninigyd.Ynfamgwaithidroiato.Wastadynbarodiwrando,rhannucyngoracfwyafollynffrind triw.

Mandy–maedygolliyngadaelbwlchenfawri’ntîmynAdnoddauDynol.Maeynergyddrominigydaci bawboeddyndynabod.Wnawnnibythdyanghofio–“CadairMandy”fyddygadairorenohynallana byddwnyneisteddarniynenjoiopanada“FrenchFancy”yndathluacyncofioamdanatambyth.Diolch itiamdygyfeillgarwch,yrhwyla’rhollatgofion.

YngngeiriauAlwynSion,cynBennaetheinAdran;

Yr hwyl a’r un anwylaf – a gofiwn Yn gyfaill addfwynaf;

Ac er gwae hir ei gaeaf

Ei gwên fu’n heulwen o haf.

Byddwn yn cynnal bore coffi Macmillan er cof am Mandy yn fuan. Bydd y manylion yn cael ei rannu ar y fewnrwyd ac ar y grŵp Facebook Staff.
Joio hanner cider a black Bethan, Mandy a Ceri

A HYFFORDDEION PROFFESIYNOL

Mae Cynllun Prentisiaethau a Cynllun Yfory, sef cynllun graddedigion y Cyngor yn dathlu llwyddiannau yn ddiweddar, wrth i wyth prentis a dau hyfforddai proffesiynol gwblhau eu cymwysterau a derbyn swyddi llawn amser gyda’r Cyngor.

Mae’rCynllunPrentisiaethauyndathlullwyddiantLiaJones,Ceri JonesaGraceMcleodsyddwedicwblhaugraddprentisiaeth DiogelwchSeibroBrifysgolBangor

MaeLiawediderbynswyddfelPeiriannyddRhwydwaithgyda GwasanaethTechnolegGwybodaethyCyngor.

‘Rwy’nhynododdiolchgaramyCynllunPrentisiaethau.Maewedi bodynbrofiadbythgofiadwyimi.Mae’rcynllunynwych,abyddwn yneiargymellynfawriboblifancsyddamddechraueugyrfaoedd. Rwyfwedicaelycyfleiddysguathyfuwrthweithio,syddwedibod ynwych,acrwy’nfalchofodwedigraddiogydagradddosbarth cyntafmewnDiogelwchSeibr,achaelgweithiofelPeiriannydd Rhwydwaithbellach.Mae’rgefnogaethagefaisganfynghydweithwyrwedibodyneithriadol,niallwn ofynamwellpobliweithioefo.Mae’rdaithhonwedibodynanhygoel,acrwy’nddiolchgarambobeiliad ohoni’,meddaiLia

Derbyniodd Osian Prys Ellis a Jessica Mullan gyfle i gwblhau gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus (MPA) drwy’r Cynllun Yfory. Mae’r cymhwyster yn gyfuniad o astudiaethau polisi, rheolaeth ac arweinyddiaeth sydd wedi’i ariannu’n llawn gan y Cyngor.

‘Rhaidimiddiolchamycyfleoeddarbennig‘dwiwedi’uhennillar GynllunYfory.Hebos,mae’rCynllunynarloesol;yngyflenidynunigi ddatblygugyrfaymmydllywodraethleol,ondcaelgwneudhynnybron yngyfangwbltrwygyfrwngyGymraeg.

Mae’ngyfleiddatblygugyrfaargarlam–athrosolwgo’rcyfnodybûm ynHyfforddaiageiryma;yprofiadaua’rgefnogaethagefaisary Cynllun(athuhwnt)syddwedi’igwneudynbosibimisymudi’mrôl newyddynyCyngor’DywedoddOsiansyddynArweinyddTîm: DatblyguBusnesauGwyneddaSwyddogARFORGwynedd:

Arôldwyflyneddarycynllun,maeJessicaMullanwediderbynswydd felRheolwrProsiectBusnesynyrAdranOedolion,IechydaLlesiant

DywedoddJess:‘Maeo’nanoddrhoidatblygiadpersonolimewni eiriauond‘dwiwirioneddolynddiolchgaramycynllun.‘Dwiychydig ynhŷnnarhaio’rhyfforddeionacroeddgeniswyddcynycynllun Ond,doeddwnierioedwedigwybodyniawnpafathoyrfaroeddwni eisiau.‘Dwiihefydwedicaelhyderynybydgwaithacynedrychymlaen atymestynfyhunynfyngyrfa.Mae’rprofiadauoweithioefouwch reolwyrarheolwyryradranadysguganddynnhwwedibodynhanfodol Diolchi’rtîmDysguaDatblygu’rSefydliad,staffOedoliona’rhyfforddeion proffesiynolerailligydamwneudyramserynwych.‘

Lia Osian

CROESAWU PRENTISIAID A HYFFORDDEION NEWYDD

Mae Cynllun Prentisiaethau Cyngor Gwynedd wedi cyrraedd carreg filltir o bwys wrth i bymtheg prentis newydd gychwyn ar eu llwybr gyrfa gyda’r Cyngor yn ogystal â phum hyfforddai proffesiynol gyda Cynllun Yfory.

Mae’r prentisiaid newydd yn ymuno â’r un ar hugain prentis cyfredol sydd eisoes yma sydd yn gyfanswm o 36 prentis sydd yn gweithio yn y Cyngor ar gytundebau llawn amser ar hyn o bryd. Mi fydd yr unigolion hyn hefyd yn cael eu mentora gan staff profiadol a chefnogol, yn cael cyfleoedd i rwydweithio ac ennill cymhwyster cydnabyddedig

Mae’r pum hyfforddai proffesiynol newydd hefyd yn ymuno a’r deg arall sydd eisoes yn gweithio o fewn y Cyngor. Maent yn cael cyfle i astudio am gymhwyster gradd meistr neu gymhwyster proffesiynol wrth weithio mewn maes arbenigol

Lleolir y pymtheg prentis a pum hyfforddai newydd mewn sawl adran wahanol sy’n cynnwys Adran TG a Chyllid, Plant a theuluoedd, Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Arweinyddiaeth Gorfforaethol ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC).

Yn ogystal â’r apwyntiadau i’r swyddi uchod, mae’r tîm hefyd wedi penodi pedwar person ychwanegol drwy’r ‘Pwl Talent’ Cronfa ddata o ymgeiswyr posib am swyddi yw Pŵl Talent Cyngor Gwynedd sy’n cynnwys prentisiaid a hyfforddeion sydd wedi ymgeisio am swyddi gyda’r cyngor eisoes, ac na fuont yn llwyddiannus, ond wedi arddangos potensial arbennig yn eu cyfweliadau.

Dywedodd Meical- Prentis Gradd Gwyddor

Data:

‘Dwi wedi bod gyda'r Cyngor fel prentis gradd Gwyddor Data ers Gorffennaf Mae’r tîm wedi bod yn gefnogol a chroesawus iawn ac yn barod i helpu. Dwi'n edrych ymlaen at gychwyn y cwrs gwyddor data cymhwysol mis yma i ehangu fy nealltwriaeth yn y maes '

I ddarganfod mwy am y Cynllun

Prentisiaethau a Cynllun Yfory, neu i gofrestru diddordeb, cliciwch ar yr isod: neu cysylltwch gyda’r tîm drwy e-bost: prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru

Gwybodaeth Prentisiaethau

Gwybodaeth Cynllun Yfory

Safle Mewnol Talent a Phrentisiaethau

Meical
Prentisiaid newydd y cyngor
Hyfforddai proffesiynol

FFION YN GWIREDDU

BREUDDWYD

Mae’r rhaglen adloniant ‘Canu gyda fy arwr’ yn un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C. Ymhob pennod

mae Rhys Meirion yn rhoi'r cyfle i aelodau o'r cyhoedd sydd wedi cael eu henwebu i ganu gyda'i arwr cerddorol. Mae'r rhaglen yn rhannu hanes y rhai sydd am ganu cyn iddynt gael cwrdd â'u harwr a pherfformio un o'u caneuon. Yn ddiweddar, cafodd un aelod o staff y Cyngor gyfle i wireddu ei breuddwyd.

Mae Ffion wedi gweithio i’r Cyngor ers bron i ddeg mlynedd yn y maes gofal a bellach yn cefnogi gofalwyr di-dâl. Yn wreiddiol o Blaenau Ffestiniog, mae Ffion wedi byw ym Mhen Llŷn ers yn blentyn bach. Cafodd Ffion flas ar berfformio am y tro cyntaf tra yn ddisgybl yn Ysgol Botwnnog ac ers rhai blynyddoedd bellach mai’n aelod o Gôr yr Heli

“Dwi wedi bod yn canu ers yn blentyn, yn cystadlu yn eisteddfodau ac yn aelod o Gôr Aelwyd Chwilog. Cefais ambell gyfle i ganu mewn priodasau a chyngherddau fel unawdydd ac roeddwn i’n mwynhau yn ofnadwy, ond rhywle ar hyd y ffordd mi gollais fy hyder i ganu yn gyhoeddus am rhai blynyddoedd

Roedd cael bod yn rhan o’r rhaglen y profiad gorau i mi gael erioed tu hwnt i fod yn fam. Mi wneith y foment ddaeth Rhys Meirion i mewn at y côr i chwilio amdanaf efo’r criw ffilmio aros efo fi am byth! Dim pawb chwaith fedra ddweud ei bod wedi cael rhannu stiwdio efo Elidir Glyn!

Roedd y diwrnod ffilmio fel breuddwyd, cael gwneud y colur, gwallt a’r gwisgo. Roedd rhaid canu'r gân tua chwe gwaith i gael têc da ac roeddwn yn mwynhau bob tro.

Ffion hefo Rhys Meirion, Bwncath a Bronwen Lewis
Ffion yn Oakeley Fest

Roedd y ffaith fod gymaint o bobl yno i fy nghefnogi yn meddwl y byd i mi. Dwi tu hwnt o lwcus ac mi wneith y profiadau aros efo fi am byth. Dwi ddim yn gor ddweud pan dwi’n dweud fod rhannu llwyfan efo

Bwncath yn gwireddu breuddwyd Dwi’n gwrando ar Bwncath yn y car bob dydd wrth yrru i leoliadau gwahanol efo fy ngwaith yn harmoneiddio i bob can yn ddyddiol ers blynyddoedd.”

Mae cael y cyfle i fod yn rhan o’r rhaglen a pherfformio ar lwyfan gyda Bwncath wedi cael effaith bositif iawn ar Ffion ac wedi ei sbarduno i ddechrau ysgrifennu cerddoriaeth Cymraeg ei hyn

“Heb ddim amheuaeth, mae’r rhaglen wedi newid fy mywyd Ar ôl anogaeth gan Elidir, dwi wedi ffeindio’r hyder i fynd amdani. Dwi’n gigio dwywaith yr wythnos yn gyson bob wythnos ers mis Tachwedd ac wedi gwneud degau o berfformiadau ers i mi ddechrau gigio eto. Wnes i ‘erioed feddwl swni mor brysur a dwi mewn sioc yn ddyddiol pan dwi’n cael ymholiadau- y teimlad na o ‘be fi? Da chi’n siŵr?’

Dwi’n ddiolchgar dros ben am bob cyfle Dwi wedi canu mewn cyngherddau lleol, priodasau, Merched y Wawr, mewn dros 30 o dafarndai, ac yn ddiweddar roeddwn ar y rhaglen Dechrau Canu, Dechrau Canmol yn canu unawd. Mae’r ymateb dwi wedi ei gael wedi bod yn arbennig. Yr haf yma dwi wedi rhannu llwyfan efo Bwncath, Yws Gwynedd, Dafydd Iwan a'r Cyffro! Dwi wirioneddol yn gobeithio y gwneith hyn barhau i mi.

Mae canu yn rhoi'r teimlad o ryddhad i mi fel dim arall. Mae o’n bleser cael gwneud hyn bob wythnos wan a dim jest yn fy nghegin a’r car! Mae o’n rhywbeth i fi llu, dwi mor ddiolchgar am bartner a merch mor gefnogol yn fy annog i fynd i wireddu breuddwyd

Yn bersonol wnes i erioed feddwl y bydda bobl isio gwrando ar ‘hogan fel fi’ yn canu yn nunlle, ond mae’r niferoedd o bobl sydd yn dod i gefnogi mewn gigs agos i adra a thu hwnt wedi bod yn moving, wnes i erioed feddwl y bysa hyn yn digwydd i fi.”

Elidir, Ffion, Bronwen a Rhys
Ffion yn perfformio yn Y Madryn

AGOR DRYSAU I BOBL

IFANC GWYNEDD

Mae rhai o wasanaethau Gofal y Cyngor yn agor eu drysau i bobl ifanc sydd â diddordeb deall mwy am ein gwasanaethau Gofal Cymdeithasol. Bwriad cynnig yr ymweliadau safle ydi eu haddysgu am y math o swyddi sydd ar gael, gwella dealltwriaeth o’r rolau amrywiol a beth mae gweithio yn y maes wir yn ei olygu. Mae’r cynnig yn agored i unrhyw ddisgybl / fyfyriwr o flwyddyn 8 i fyny ac mae’n gyfle unigryw i bobl ifanc gael blas o’r sector a’i waith. Hyd yn hyn mae ein cartrefi preswyl, hybiau cymunedol anableddau dysgu a Hafan Y Sêr wedi cytuno croesawu pobl draw. Gwenno Williams, Swyddog Marchnata a Datblygu Gyrfaoedd Gofal sydd yn gyfrifol am drefnu’r ymweliadau yma. Gobaith Gwenno yw y bydd yr ymweliadau safle yma yn cynnig profiadau gwahanol i bobl ifanc, yn helpu nhw roi sail i benderfyniadau'r dyfodol a’n cynnig profiadau amrywiol i rai sydd rhy ifanc am gyfnod o brofiad gwaith arferol Croesawyd dros 150 o bobl ifanc 16 + o Ysgolion lleol, Colegau a chyrsiau Prifysgol amrywiol i’n gwasanaethau ar brofiad gwaith yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Mae’n amlwg felly fod galw am y math yma o weithgaredd a bod gan fwy o bobl ifanc ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn y maes.

Lansiwyd y cynnig nôl ym mis Mai a hyd yn hyn mae tri ymweliad safle wedi bod. Bu disgyblion Iechyd a Gofal Ysgol Tryfan, Bangor draw am ymweliad safle i Plas Ogwen, Bethesda am brynhawn fis Mehefin a dau griw Iechyd a Gofal Ysgol Botwnnog draw i Plas Hafan fis Gorffennaf Yn ystod eu hymweliadau safle cafodd y disgyblion sgwrs efo staff y cartrefi, cyn cael taith o amgylch yr adeilad, cyfarfod y trigolion ac yna i gloi, cymryd rhan mewn gweithgaredd.

Hoffai Gwenno ddiolch yn fawr iawn i’r cartrefi sydd wedi cymryd rhan yn yr ymweliadau safle hyd yn hyn. Mae’r ymweliadau safle wedi bod yn agoriad llygaid (iddi hi a’r disgyblion) a mae’r adborth wedi bod yn bositif iawn. Gobaith Gwenno ydi trefnu mwy o ymweliadau safle felly os gwyddoch chi am unrhyw ysgol, coleg, asiantaeth neu ddisgybl fyddai gan ddiddordeb mewn mynychu digwyddiad o’r fath gofynnwn yn garedig i chi ledaenu’r neges

Gellir gweld mwy o wybodaeth am y cynnig yn ogystal â dysgu mwy am brofiad gwaith drwy ddilyn y linc yma - Profiad Gwaith Gofal neu gellir cysylltu efo Gwenno ar gofalu@gwynedd.llyw.cymru am sgwrs bellach.

PWYNTIAU GWEFRU A

CHEIR TRYDAN Y CYNGOR

Rydym yn falch o adrodd bod cynllun uwchraddio cerbydau fflyd y Cyngor o danwydd ffosil petrol a disel i drydan wedi symud ymlaen yn sylweddol dros y misoedd diwethaf. Mae’r cynllun yn cynnwys, buddsoddiad o £1.27m, ac rydym drwy hyn wedi derbyn 48 o gerbydau trydan newydd gyda 24 cerbyd pellach wedi eu harchebu ac yn cyrraedd eleni.

Mae nifer o safleoedd gwefru yn weithredol yn barod, gyda rhaglen o safleoedd eraill ar draws y sir yn cael eu gosod dros y misoedd nesaf.

Mae hyn yn gam mawr at gyrraedd dyhead y Cyngor i leihau ein hallyriadau carbon a bod yn garbon niwtral fel awdurdod

Mae’r gwaith yn cael ei drefnu a’i reoli gan Rhys Jones a’i dîm yng Ngwasanaeth Technegol YGC (Ymgynghoriaeth Gwynedd) ar ran Adran Tai ac Eiddo’r Cyngor

Mae contractwyr wedi eu penodi ar gyfer y gwaith Isadeiledd, ac yna mae’r pwyntiau gwefru yn cael eu cysylltu gan y Tîm Goleuo yn yr Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC sydd yn cael ei arwain gan Colin Worth.

Un o bwyntiau gwefru newydd y Cyngor

Mae gofod penodol wedi ei greu ar y fewnrwyd gyda’r holl wybodaeth sydd angen arnoch, gan gynnwys fideos o sut i wefru cerbydau a rhestr o leoliadau gwefru mewnol y Cyngor. Dilynwch y ddolen yma i gael mynediad i’r dudalen: Pwyntiau Gwefru a Cheir Trydan y Cyngor

Colin hefo Bryn a Guto
Bryn a Guto wrth eu gwaith

GWOBR I WASANAETH YGC

Llongyfarchiadau i’r Gwasanaeth YGC am dderbyn Canmoliaeth Uchel Gwobr Prosiect y flwyddyn Roy Edwards yng Ngwobrau’r ICE Wales Cymru 2024 ar gyfer prosiect Pontydd Bodfel a Bodefail Boduan

Mae Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) Wales Cymru yn gweithio i hyrwyddo a dathlu gwaith rhagorol aelodau

Mae’r gwobrau yn cael eu trefnu i gydnabod prosiectau eithriadol, gwaith tîm a rhagoriaeth unigol.

Mae’r wobr yn cynnwys y prosiect cyfan sef y gwaith atgyweirio i’r hen bont rhestredig sef Pont Bodfel yn dilyn difrod mewn storm, y bont dros dro yn ystod y gwaith atgyweirio a’r bont newydd ar gyfer ailgyfeirio’r A497 Sef Pont Bodefail

Agorwyd y bont allweddol ar ôl pedair blynedd o waith a buddsoddiad o hyd at £3 miliwn oedd yn cynnwys gwelliannau i’r ffordd a gwaith draenio dŵr wyneb ac mewn da bryd ar gyfer croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r fro.

Llongyfarchiadau mawr i’r holl dîm oedd yn rhan o’r gwaith dylunio, rheoli ac adeiladu’r pontydd

Gwasanaeth YGC yn ennill gwobr Prosiect y flwyddyn
Steffan a Rhys
Y criw yn dathlu

ACADEMI GOFAL

Ydychchierioedwedimeddwlybyddechchi’nhoffigwneudgwahaniaethwrthgefnogipoblyneu cymunedau?Mae’rAcademiGofalynberffaithichi

MaeAcademiGofalGwyneddyngyflegwychichiddatblygueichgyrfaynymaesGofaldrwyweithio gydaphoblbrofiadol,derbyncymwysterauachaelcyflogyrunpryd!

Gydallwybrauamrywioldrwy'rAcademiGofal,p'unaydychynchwilioamrôlmewnRheoliGofal,dodyn WeithiwrCymdeithasolneu'nTherapyddGalwedigaethol,maeposibilrwydddatblygudrwy’racademii rôlsy'naddasichi Mae’rsectorbobamserangenaelodautîmbrwdfrydigigefnogipoblledledGwynedd Osamwybodmwy,maeganyrAcademi,ddigwyddiadaumewnoloamgylchySir,dewchdrawam sgwrs:

Tachwedd14eg–SiopGwyneddPwllheli–11:30–13:30

Tachwedd19eg-Hendderbynfa,Swyddfa’rPencadlys-11:30-13:30

Tachwedd21ain–SiopGwynedd,Dolgellau–11:30–13:30

YnadnabodrhywunsyddddimyngweithioynyCyngorfyddaihefodiddordebmewngyrfamewnGofal? Cofiwchameindigwyddiadauallanolardrawsysirllebyddcyfleiunrhywunsyddâdiddordebyny maesalwdrawamsgwrs!

Tachwedd25ain–YGanolfanDdysgu,Caernarfon,14:00p–18:00

Tachwedd26ain–CanolfanHamddenGlaslyn,Porthmadog,15:00–18:00

Tachwedd27ain–NeuaddDwyfor,Pwllheli,15:00-18:00

Tachwedd28ain–LlyfrgellBangor,15:30-18:00

Rhagfyr2il–LlyfrgellBlaenauFfestiniog,15:00-18:00

Rhagfyr9fed-LlyfrgellDolgellau,15:00-18:00

Rhagfyr16eg-LlyfrgellTywyn,15:00-18:00

Os nad ydych yn gallu mynychu ein digwyddiadau ond eisiau gwybod mwy ewch draw i’n gwefan: Academi Gofal Gwynedd neu cysylltwch ar gofalu@gwynedd.llyw.cymru

GWISGO PINC AT ACHOS DA

Mae staff gwastraff ac ailgylchu Cyngor Gwynedd yn cymryd rhan ym mis codi ymwybyddiaeth Cancr y Fron, gan wisgo pinc yn ystod eu cylchdeithiau.

Gyda mis Hydref yn fis codi ymwybyddiaeth, penderfynodd staff ar draws y maes Gwastraff ac Ailgylchu eu bod yn awyddus i wneud rhywbeth i chwarae eu rhan.

Bydd nifer o’r criwiau casglu, staff safleoedd trin a dosbarthu biniau yn gwisgo hetiau/ topiau pinc fel rhan o’r ymgyrch Gwisgo Pinc (Wear it Pink) er budd elusen ymchwil a chefnogaeth Breast Cancer Now.

“Mae bob un ohonan ni’n dad, gŵr, mab neu berthyn i rywun fyddai’n gallu cael eu heffeithio gan gancr y fron. Mae nifer ohonan ni’n adnabod merched sydd wedi cael cancr y fron, ac felly roeddan ni’n awyddus i wneud ein rhan i godi ymwybyddiaeth,” meddai Darron Roberts, sy’n aelod o griw casglu gwastraff Cyngor Gwynedd.

“Rhywbeth bach ydi o i ni i fod yn gwisgo pinc, ond os ydi o’n gwneud i rywun allan yna i feddwl am bwysigrwydd mynd i weld y meddyg os ydyn nhw’n pryderu am rhywbeth, yna mae o’n sicr werth o.”

Ychwanegodd Dafydd Williams, Pennaeth Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Rydan ni’n falch ofnadwy fod nifer o staff Gwastraff ac Ailgylchu wedi penderfynu gwneud rhywbeth mor bositif i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr yma, ac yn diolch iddyn nhw am eu hymdrech

“Y llynedd bu nifer o’r criwiau casglu yn casglu teganau a raffl er budd plant a phobl ifanc sy’n derbyn cefnogaeth arbenigol, felly mae’r ysbryd elusennol yn gryf iawn ymhlith y gweithlu Diolch iddyn nhw am eu hymdrechion.”

Fel rhan o’r ymgyrch, mae’r criw hefyd yn hel at elusen Breast Cancer Now. Os am gyfrannu, ewch draw i:

Criw Gwastraff ac Ailgylchu yn codi pres

neu sganiwch y côd QR.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu’n barod.

Criw Canolfan Ailgylchu Llandygai

CYSTADLEUAETH CALENDR

Dros y 13 mlynedd diwethaf eich lluniau chi sydd wedi ymddangos ar ein calendr swyddogol. Mae cyfle eto eleni i chi gynnig eich lluniau ar gyfer calendr 2025.

Os ydych am gystadlu, mae gofyn i’ch llun(iau) gwrdd â’r meini prawf isod: llun o rhywle yng Ngwynedd llun gwreiddiol heb addasiadau rhaid bod yn llun ‘high resolution’ ac ar ffurf jpg gan ystyried gosodiad y calendr mae gofyn i’r llun fod wedi ei osod ar ffurf Portread (portrait) yn hytrach na Thirlun (landscape) fel ei fod yn ffitio’n dwt i ddyluniad y calendr gyrru uchafswm o ddau lun yn unig

Anfonwch eich lluniau at CyfathrebuMewnol@gwynedd.llyw.cymru gan nodi lleoliad y llun. Bydd y gystadleuaeth yn cau ar ddydd Mercher, 20/11/2024 am 5pm.

Cofiwch fod nifer fawr o’r lluniau rydym yn dderbyn yn cael eu defnyddio ar gyfer defnydd mewnol, er enghraifft cefndir i Bwletinau y Prif Weithredwr

Gafr Dinorwig gan Aled Carrington Rees oedd yn fuddugol yn 2024.

Pob lwc i chi gyd!!

LLWYDDIANT SIOE

DEITHIOL IECHYD A LLES

YnystodmisoeddyrhafbuSioeDeithiolIechydaLlesynymweldâstaffardrawsGwynedd,oGaernarfoni Dolgellau,PwllheliiTywyn.Roeddyngyfleistaffrhengflaenaswyddfagaelcynnigprawfpwysaugwaed, colesterol,clefydsiwgrynogystalâgwirioeiBMI.Rhannwydgwybodaethachafwydtrafodaethauynglŷn âgwasanaethau’rCyngoryncynnwyscwnsela,ffysioagofalcefnapagefnogaethgallyGwasanaeth IechydGalwedigaetholgynnigichi.

TrafodwyddatblygiadaunewyddofewnyCyngorgangynnwysnewidiadaui’rpolisialcoholachyffuriau, byddwnynrhannurhagorofanylionhefochiynydyfodolagos.Buhefydycyfleihybugwybodaetham ddisgowntsgallyCyngoreigynnigdrwyfuddiannaustaffagweithgareddauyncynnwysybuddionoymuno hefoaelodaethByw’nIach Cafwydymatebpositifganstaffi’rymweliadau gydaniferyndweudeubodwedielwaynfawro’r digwyddiadau.

Dymaychydigo’rymatebionadderbyniwydgan staff:

“Fyswnihebfyndiweldydoctor,fellymae’n grêtgallucaelymathymaobethmewnlle cyfleus.”

“Dimondeisiaudiolchichdiaphawbddaeth acwddoe.Pawbwedimwynhauacwedicael rhywbethallanohono.”

“Miwnesirilimwynhauacmiwnesiddysgugan erailloeddefostondinauhefyd.Roeddyngyfle gwychibrofi’rgefnogaethsyddargaelistaffac ynfforddwychohyrwyddohynny.”

“Dwi’nfalchfodyCyngoryngwneudymath ymaobeth,maewireiangen”.

rhagor o wybodaeth ar gael drwy ddilyn y ddolen yma: Gwasanaeth Cwnsela Medra Gwasanaeth Cwnsela MEDRA neu mae croeso i chi gysylltu efo Haf Ward Williams –Arweinydd Tîm Iechyd Galwedigaethol am drafodaeth pellach drwy e-bostio iechydgalwedigaethol@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 679329.

Mae
Depo Cwm y Glo
Depo Cibyn
Pencadlys
Depo Afonwen

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.