Gair Bach o Gyngor - Mai 2024

Page 1

Gair o Gyngor

HER A HANNER I CAI

Mai 2024 Rhifyn 11
Staff Cyngor Gwynedd

Gair gan y golygydd bach

Croeso i rifyn arall o Gair Bach o Gyngor. Mae gennym rifyn llawn hanesion ar eich cyfer eto tro ‘ma’.

Fel y gwelwch ar y clawr, mae Cai o’r Gwasanaeth YGC wedi cwblhau Marathon Llundain yn ddiweddar ar gyfer achos sy’n agos iawn at ei galon Cawn ddarllen am brofiad Cai yn Llundain ar dudalen 10.

Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i’r Cyngor lansio cynllun Rhannu Cartref. Cawn wybod mwy am y cynllun a’i lwyddiant drwy holi’r aelod staff sydd yn gyfrifol am gydlynu’r cynllun. Trowch i dudalennau 4 a 5 i ddarllen mwy.

Mae gan y Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Llesiant aelod newydd o staff sydd eisiau clywed eich awgrymiadau chi am wella llesiant yn y gweithle. Trowch i dudalen 8 i’w chyfarfod a chael gwybod ychydig mwy am ei chefndir.

Oeddech chi’n ymwybodol fod gan y Cyngor gynllun sy’n cynnig cefnogaeth anffurfiol i staff sy’n dysgu neu eisiau gwellau eu sgiliau iaith? Ar dudalen 12 cawn ddarllen am brofiadau Manon, Mererid, Dylan a Sam o fod yn rhan o’r cynllun arbennig yma.

Mae sawl stori ddifyr arall wedi eu cynnwys, gobeithio y gwnewch fwynhau eu darllen.

Rydym eisiau clywed am eich llwyddiannau chi ac eich cydweithwyr Efallai fod prosiect wedi derbyn canmoliaeth neu eich bod wedi cyflwyno rhywbeth newydd yn y gweithle. Bach neu fawr, rydym eisiau clywed amdanynt.

Cofiwch os hoffech chi gyfrannu at y rhifyn nesaf mae modd i chi gysylltu drwy e-bostio cyfathrebumewnol@gwynedd llyw cymru neu ffonio 01286 679341

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y rhifyn yma o’r cylchgrawn.

Oeddech chi'n gwybod fod 60% o boblogaeth Prydain ar Facebook? Dydan ni yma yng Ngwynedd ddim gwahanol a dyna pam, yn dilyn sgyrsiau efo staff mae grŵp Facebook wedi cael ei greu yn arbennig ar gyfer HOLL staff Cyngor Gwynedd.

Dyma gyfle i bawb gael gwybodaeth am y Cyngor yn syth bin - ar eich ffôn, ar eich iPad neu ar eich cyfrifiadur. Os hoffech ymuno gyda'r grŵp chwiliwch am "Staff Cyngor Gwynedd" ar Facebook .

Ffion

DATHLU HUD A LLEDRITH

CYMRU

Cynhaliwyd diwrnod i ddathlu hud a lledrith Cymru ar 20 Ebrill eleni yn Neuadd Ogwen Bethesda. Syniad

Bet Huws, Swyddog Dysgu a Datblygu Iaith Gymraeg y Cyngor ydi’r digwyddiad, a dyma’r ail iddi ei drefnu, yn dilyn llwyddiant y llynedd.

Daeth yn amlwg i Bet nad oedd digon o bobl Cymru yn gwybod am ein hanesion a’n chwedloniaeth, a gwelodd bod llawer o bobl sy’n dod i Gymru yn dathlu ein chwedloniaeth a’n traddodiadau trwy gyfrwng y Saesneg.

Penderfynodd Bet newid hyn a chreu cynhadledd gyntaf o’i math drwy gyfrwng y Gymraeg.

Meddai Bet: “Mae’r iaith Gymraeg ei hun yn rhan annatod o hud a lledrith y wlad. Mae’r Gymraeg yn y tir, yn ein hanes a’n chwedloniaeth - yr enwau, y geiriau, a’r dewis geiriau: mae’n un blethen gref a hyfryd”.

Daeth dros gant o bobl o bob cwr o’r byd i wrando ar siaradwyr difyr yn cynnwys Kristoffer Hughes, Mhara Starling, Gwyn Edwards, Dr Delyth Badder, Gareth Roberts a Dr Gwilym Morus-Baird yn trafod Derwyddiaeth, Swyngyfaredd, Y Tylwyth Teg, Ysbrydion Cymreig, Anifeiliaid Hudolus Cymru, a’r Mabinogi. ‘Roedd yno hefyd stondinau’n gwerthu pob math o bethau diddorol, a chyfle am banad a sgwrs.

Bet

HOLI HWN A LLALL

Blwyddyn ddiwethaf fe lansiodd y Cyngor gynllun Rhannu Cartref gyda’r nod o baru pobl sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol i fyw'n annibynnol gartref ag eraill sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i gartref addas a fforddiadwy.

Cydlynydd y cynllun Rhannu Cartref ydi Richard Wyn

Williams a dyma gyfle i’w holi am ei swydd a chael gwybod mwy am y cynllun Rhannu Cartref.

Oes modd i chdi ddweud ychydig am dy hun?

Richard Williams dwi, neu yn llai o lond ceg, Rich! Er dechrau efo’r Cyngor yn 2015 yn bennaf dwi wedi bod yn gweithio yn yr Adran Oedolion Cyn hynny roeddw yn gweithio i Agored Cymru am 14 mlynedd, sef corf dyfarnu cymwysterau.

Dwi di bod yn gweithio i sefydlu’r cynllun Rhannu Cartref ers dros flwyddyn ac yn joio yn fawr iawn. Fel pob cynllun newydd, roedd yna dipyn o waith ei sefydlu ac o dro i dro mae pethau dwi heb feddwl amdano wedi codi. Erbyn hyn dwi yn teimlo bod pethau wedi dod at ei gilydd yn dda.

Oesmoddichdiegluroychydigamycynllun?

Yn syml iawn mae’r cynllun yn ffordd o helpu pobl i ddod at ei gilydd i gyd-fyw a rhannu’r un cartref. Mae’n ffordd o helpu person hŷn sydd ag ystafell sbâr yn eu cartref i rannu eu tŷ efo person iau sy’n chwilio am gartref ac sy’n medru cynnig ‘chydig o gefnogaeth iddynt. Mae’r cynllun yn hollol ddiogel, ac mae am fod o fudd i’r naill a’r llall.

Beth yw’r buddion o fod yn rhan o’r cynllun?

Mae pobl hŷn yn enwedig yn medru colli eu hannibyniaeth oherwydd cyflwr iechyd neu am eu bod yn fregus mewn ffordd arall Ond gall cael ychydig o help ymarferol o gwmpas y cartref wneud byd o wahaniaeth. Mae pobl am fod yn llai unig, ac yn medru aros yn annibynnol a mwy diogel am gyfnod hirach.

Ar y llaw arall, mae nifer gynyddol o bobl yma yng Ngwynedd sy’n ei chael yn anodd dod o hyd i gartref addas oherwydd yr argyfwng tai. Mae'r cynllun Rhannu Cartref yn dod i’r adwy gydag ateb sy’n bodloni’r ddwy ochr. Mae’n galluogi person i rannu eu cartref a derbyn cymorth ymarferol o gwmpas y tŷ, er enghraifft gwneud neges, garddio neu hyd yn oed fynd â’r ci am dro. Mae'r person sy'n symud i mewn ar eu hennill drwy gael lle diogel a fforddiadwy i fyw.

Beth ydi gwahanol elfennau o dy waith?

Ar y cychwyn roedd angen sefydlu’r cynllun o’r newydd a chael popeth yn ei le o ran prosesau a threfniadau diogelwch Cefais help mawr gan nifer o wahanol unigolion a thimau o fewn y Cyngor a bellach mae fy holl ymdrechion yn mynd ar hyrwyddo’r cynllun a chanfod unigolion addas. Byddaf yn cwrdd ag unigolion a sefydliadau ar hyd a lled Gwynedd sy’n delio gyda phobl allai elwa o’r cynllun, ac mae codi ymwybyddiaeth a rhannu buddiannau a llwyddiannau’r cynllun yn holl bwysig er mwyn datblygu ac ennyn diddordeb unigolion yn y syniad o rannu cartref.

Er mwyn gallu paru pobl yn llwyddiannus mae’n holl bwysig i mi ddod i adnabod unigolion yn dda, a deall eu sefyllfa Felly mi fyddai’n cwrdd â’r bobl sy’n dangos diddordeb nifer o weithiau mewn gwahanol sefyllfaoedd. Dydi’r gefnogaeth dwi’n ei roi i’r pâr sydd yn cyd-fyw ddim yn stopio, a byddaf yn parhau i’w cefnogi mewn ffordd ‘proactif’ cyn i broblemau potensial godi.

Rich

Audrey a James

Beth wyt ti yn ei fwynhau fwyaf am dy swydd fel cydlynydd y cynllun? Dwi’n mwynhau siarad gyda phobl a grwpiau am y cynllun a lledaenu’r neges bod Rhannu Cartref wir yn gallu taclo niferoedd o broblemau mae pobl hŷn ac ifancach yn eu hwynebu'r dyddiau yma. Rhan fwyaf o’r amser mae pobl yn meddwl fod y cynllun yn un positif ac yn gweld y buddion ohono, ond weithiau mae rhai’n codi pryderon ac yn holi ydi o yn saff/diogel. Mi fyddai’n cael pleser wrth dawelu eu meddwl a sôn am y gwiriadau trylwyr sy’n cael eu gwneud cyn i bobl ddechrau cyd-fyw. Mae’n broses hir a thrylwyr a ‘da ni angen bod yn 100% bod y pâr yn siwtio ei gilydd!

Mae’n rhaid dweud bod dod a’r pâr cyntaf at ei gilydd wedi bod yn bleser pur, ac mae ymweld ag Audrey a James rŵan, gweld y ddau bownsio oddi ar ei gilydd, a’r ffordd mae’r cynllun wedi cyfoethogi bywydau’r ddau ohonynt yn rhoi cymaint o falchder a boddhad i mi.

Oes modd i chdi egluro ychydig am lwyddiannau’r cynllun hyd yn hyn?

Mae ein pâr cyntaf sef Audrey a James wedi bod yn cyd-fyw ers dechrau mis Rhagfyr ac yn awyddus i rannu eu profiadau fel bod eraill yn dod yn ymwybodol o’i fanteision .

Mae Audrey yn wraig weddw yn ei 80au ac yn ei chael hi'n fwyfwy anodd ymdopi ar ben ei hun Mae gan James ei gwmni tirlunio ei hun ac roedd wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith i Audrey pan gafodd ei hun yn chwilio am rywle i fyw yn dilyn newid mewn amgylchiadau. Mae’r cynllun wedi bod yn ateb perffaith i’r ddau.

Mae'r ddau wedi adnabod ei gilydd ers pum mlynedd a gwastad wedi cyd-dynnu ac roedd cymryd y cam i fod yn rhannu cartref yn gwneud synnwyr i'r ddau

Mae James yn helpu o gwmpas y tŷ am 10 awr bob wythnos gyda threfniant hyblyg sy’n cyd-fynd â'i fywyd gwaith

Eisiau gwybod mwy?

Ewch draw i wefan y Cyngor neu safle

Homeshare UK ble mae nifer o fideos a straeon am lwyddiannau’r cynllun.

Os hoffwch sgwrs neu yn adnabod pobl all elwa o Rhannu Cartref, cysylltwch! Ffôn: 07388 859015

e-bost: richardwynwilliams@gwynedd.llyw.cymru

5 RYSÁIT SYDYN I ARBED ARIAN A’R AMGYLCHEDD

Wyddoch chi y gellir troi gwastraff bwyd yn ynni adnewyddadwy? Mae’n rhyfeddol meddwl, ond pe byddai pawb yng Nghymru ’n ailgylchu dim ond un croen banana, gallai greu digon o ynni i bweru llifoleuadau Stadiwm Principality am bron i 10 diwrnod.

A dim ond 47 o fagiau te wedi’u hailgylchu y byddai’n ei gymryd i greu digon o drydan i bweru set deledu am 80 munud

Ac nid troi gwastraff bwyd yn bŵer yw’r unig reswm i wneud eich bwyd fynd ymhellach. Rheswm arall yw eich bod chi’n arbed arian! Bwyd yw chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog, ac yn syfrdanol, gellid bod wedi bwyta mwy nag 80% ohono. Mae hyn yn costio bron i £50 y mis i aelwyd gyfartalog – mae hynny’n gyfanswm anferth o £600 y flwyddyn

Felly, rydyn ni am ddangos i chi sut gallwch arbed arian drwy ddefnyddio’r holl fwyd sydd dros ben yn eich oergell drwy greu prydau blasus i’w mwynhau, a helpu creu ynni adnewyddadwy drwy ailgylchu’r pethau na allwch eu bwyta. Dyma bum syniad rysáit ar gyfer prydau hyblyg, blasus a maethlon y gallwch eu gweini i ffrindiau a theulu – a’r holl dameidiau y gallwch eu hailgylchu

OMLED PADELL

Gallwch droi omled sylfaenol yn saig arbennig gydag unrhyw lysiau, tatws a chig sydd angen eu defnyddio – mae nionod wedi’u gratio, pupurau a courgette yn gyfuniad blasus a lliwgar, ond gallwch ddefnyddio unrhyw lysiau neu gig. Does ond angen torri a choginio unrhyw lysiau a chig rydych am ei gynnwys, ac yna ychwanegu’r wy wedi’i chwisgo, taenu caws ar ei ben a’i grilio nes bydd yn euraidd. Blasus!

Cofiwch ailgylchu: plisg wyau, crwyn nionod, creiddiau pupurau, coesynnau neu grafion llysiau eraill na ellir eu bwyta.

FAJITA CYW IÂR RHOST

Brwydro gwastraff bwyd gyda fajitas! Fe wnaiff y pryd hwn ddefnyddio bron unrhyw lysiau sydd angen eu defnyddio –fel madarch, tomatos, pupurau, sbigoglys, moron wedi’u gratio neu lysiau rhost dros ben. Ychwanegwch eich hoff sbeisys fajita (mae pecyn parod yn iawn!), taflwch eich cyw iâr rhost dros ben i’r cymysgedd, a’i dwymo nes bydd yn chwilboeth. Mwynhewch mewn bara tortila neu ar daten drwy’i chroen gyda thalp o hufen sur, caws wedi’i gratio a gwacamole. Blasus!

Cofiwch ailgylchu: esgyrn cyw iâr, creiddiau pupurau, topiau moron a choesynnau neu grafion llysiau eraill na ellir eu bwyta.

PASTA UN POT

Llai o lestri budr, mwy o flas! Dechreuwch y pryd hyblyg hwn drwy ffrio eich cig a/neu lysiau dros ben – pethau fel moron wedi’u gratio, sleisys cennin, pupurau a madarch wedi’u torri’n fân, neu unrhyw beth sy’n llechu yng ngwaelod yr oergell. Yna, ychwanegwch eich hoff saws pasta (Pesto? Tomato? Chi piau’r dewis!), ei goginio nes bydd yn chwilboeth a’i weini gyda chaws wedi’i gratio

Cofiwch ailgylchu: Gwreiddyn y cennin, topiau moron, coesynnau neu grafion llysiau eraill na ellir eu bwyta, esgyrn cig.

TOSTI CAWS

Yng Nghymru, rydyn ni’n dallt y dalltings gyda tostis caws –caws yw un o’n bwydydd enwocaf ni wedi’r cwbl Bydd bron unrhyw dameidiau o waelod yr oergell yn gwneud eich tosti’n epig – fel tomatos, cennin neu bupurau unig angof, neu gig neu ham wedi’i goginio, neu hyd yn oed llwyaid neu ddwy o’r cyri neu tsili sydd dros ben ers neithiwr. Gallwch ei weini gyda thameidiau o salad o’r oergell ar y naill ochr

Cofiwch ailgylchu: coesynnau tomatos, creiddiau pupurau, gwreiddiau’r cennin, coesynnau neu grafion llysiau eraill na ellir eu bwyta.

PWDINIOGWRT

Pwdin iachus y bydd hyd yn oed y plant yn ei fwynhau! Byddwch yn greadigol gyda’r tameidiau olaf o ffrwythau drwy roi haenau o fanana, afal (does dim angen ei blicio!) neu unrhyw ffrwyth sydd angen ei ddefnyddio rhwng haenau o iogwrt Taenwch ychydig o granola crensiog neu fisgedi wedi’u torri’n fân a diferyn o fêl a byddwch yn barod am alwadau am ragor

Cofiwchailgylchu: crwyn bananas, creiddiau afalau, crwyn ffrwythau na ellir eu bwyta.

I ddysgu mwy am sut i wneud i’ch bwyd fynd ymhellach a darganfod sut mae gwastraff bwyd yn creu ynni, ewch i Cymru yn Ailgylchu.

Mae rhywfaint o wastraff bwyd yn anochel ac nid yw’n golygu eich bod yn wastraffus.

Efallai eich bod yn meddwl nad yw pethau fel plicion, plisgyn wy ac esgyrn yn dda i ddim, ond gall Cyngor Gwynedd wneud defnydd da ohonynt – y cyfan sy’n angen i chi ei wneud yw eu rhoi yn eich bin brown i’w casglu bob wythnos. Cofiwch fod yna finiau gwastraff bwyd yng ngheginau swyddfeydd y Cyngor hefyd – felly does dim esgus dros beidio!

Mae’r holl wastraff bwyd a gesglir yn cael ei drin a’i brosesu ar safle GwyriAD y Cyngor ger Clynnog Fawr, ac yn cael ei droi yn drydan a chompost.

DOD I ADNABOD LOIS

“Helo, Lois ydw i, a dwi’n gweithio fel Swyddog Prosiect gyda’r tîm Iechyd, Diogelwch a Llesiant. Dwi wedi gweithio yn y Cyngor ers mis Hydref flwyddyn ddiwethaf yn y tîm cefnogol, a newydd ddechrau’r swydd hon ers y cyntaf o Ebrill.

Mae’r swydd Swyddog Prosiect wedi cael ei rhannu i ddwy swydd Ar hyn o bryd mae fy amser yn mynd ar gychwyn cynllun llesiant i’r Cyngor. Dwi wedi bod yn edrych ar eich sylwadau chi o’r adroddiad Arolwg Llais Staff a gafodd ei yrru allan diwedd flwyddyn ddiwethaf – ac yn ystyried be sydd yn bosib i’w wneud. Dwi’n wirioneddol edrych ymlaen at gael gafael yn y prosiect hwn a thrio fy ngorau i chi fel aelodau o staff y Cyngor.

Mae gen i flwyddyn o brofiad yn y maes meddygol a pum mlynedd mewn maes cysylltiedig â gofal O weithio yn delio gyda sefyllfaoedd anodd, mae wedi fy nysgu pa mor bwysig ydi edrych ar ôl fy iechyd meddwl a lles fy hun.

Penderfynais fynd fewn i'r maes meddygol oherwydd fy mod eisiau helpu a gwella pobl Yn anffodus mi sylweddolais reit fuan nad yw gwella pobl o hyd yn bosib, ond os oeddwn yn gallu rhoi gwên ar wyneb un person yn ystod shifft 12 awr- roeddwn yn gwneud gwahaniaeth.

Dwi’n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn meddwl bod edrych ar ôl eu llesiant nhw yn golygu bwyta yn iach, cerdded 10,000 milltir y dydd ayyb.- ac os ydi hynny yn gweithio i chi, mae hynny’n grêt.

Dydi hyn ddim i fi, dwi’n gwneud y math o bethau yna oherwydd fy mod i’n gorfod gwneud hynny i edrych ar ôl fy hun. I mi, mae rhan fawr o edrych ar ôl llesiant yn golygu gwneud rhywbeth sydd yn hwyl, er enghraifft, dwi’n mwynhau bwyta wŷ Pasg o dro i dro a gwylio Real Housewives of Beverley Hills Cyhyd a bod 'na gydbwysedd o wneud y pethau ‘sydd rhaid eu gwneud’ a’r pethau sy’n dod ag ychydig o bleser- dwi ddim yn meddwl bod na ddim niwed i hyn.

Dwi’n mwynhau croes bwytho (cross stitching) a bod gyda fy nheulu a fy ffrindiau - dwi’n 26 gyda llaw rhag ofn bo chi meddwl dwi’n 80. Dwi wrth fy modd yn teithio ac ymweld â gwledydd a diwylliannau gwahanol.

Os oes gennych chi awgrymiadau ar sut y gall y Cyngor helpu eich llesiant chi neu eich cydweithwyr, dwi o hyd yn agored i'ch syniadau. Yn amlwg fedrai ddim gweithredu ar bob peth, ond mi wnâi wrando ar eich syniadau a trio fy ngorau Heb eich sylwadau chi, mae’n amhosib i ddatblygu gwell llesiant yn y Cyngor. Mae eich llais mor bwysig.

Dwi’n gobeithio gwella morâl aelodau o staff y Cyngor Mae’n adeg hynod o galed ar lot o bobl, ac os gallai helpu chi deimlo yn well am ddod fewn i gwaith, dwi’n teimlo fy mod y gwneud y gorau y gallai gyda’r swydd. Cofiwch gysylltu loismereridthomas@gwynedd.llyw.cymru os oes gennych unrhyw syniadau neu sylwadau.”

Lois

NEWIDIADAU I WASANAETH CWNSELA MEDRA

Mae’r drefn o sut i gael mynediad at wasanaeth cwnsela Medra wedi newid yn ddiweddar. Mae gennych fel aelod o staff y Cyngor fynediad cyfrinachol i hyd at 4 sesiwn y flwyddyn o gwnsela. Yn hanesyddol mae staff wedi gallu hunan gyfeirio at y gwasanaeth, ond rwan bydd angen i chi gysylltu gyda’r Uned Iechyd Galwedigaethol, ble fydd staff cymwysedig yr Uned yn eich cyfeirio ymlaen yn gwbl gyfrinachol.

Gallwch gysylltu gyda'r Uned Iechyd Galwedigaethol drwy: e-bostio: iechydgalwedigaethol@gwynedd.llyw.cymru ffonio: 01286 679329

Pam ein bod yn newid y drefn? Bydd newid y drefn yn galluogi’r Cyngor i adnabod meysydd neu ardaloedd gwaith penodol ble gall fod angen cynnig cefnogaeth pellach er mwyn dod i wraidd problem Hoffem bwysleisio bydd hyn yn digwydd yn hollol gyfrinachol. le gall fod angen cynnig cefnogaeth pellach er mwyn dod i wraidd problem. Hoffem bwysleisio bydd hyn yn digwydd yn hollol gyfrinachol. Os oes argyfwng ble mae staff yn dymuno cefnogaeth/cyngor brys tu allan i oriau arferol y Cyngor, mae modd cysylltu â MEDRA yn uniongyrchol ar 0800 132 737 a bydd aelod o’r tîm yn gallu eich cynorthwyo neu eich cyfeirio ymlaen i asiantaethau priodol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy ddilyn y ddolen yma: Gwasanaeth Cwnsela Medra https://staffcyngorgwynedd.org/2024/03/27/gwasanaeth-cwnsela-medra/

Neu mae croeso i chi gysylltu efo Haf Ward Williams – Arweinydd Tîm Iechyd Galwedigaethol am drafodaeth pellach drwy e-bostio iechydgalwedigaethol@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 679329.

HER A HANNER I CAI

Llongyfarchiadau mawr i Cai Newell Jones o’r Gwasanaeth YGC sydd wedi cwblhau Marathon Llundain yn ddiweddar.

Roedd Cai sy’n gweithio fel Cymhorthydd Technegol yn codi arian i achos sydd yn agos iawn i’w galon sef MACS, elusen sydd yn cefnogi plant ac oedolion sydd wedi cael eu geni heb lygaid neu gyda llygaid tanddatblygedig. Cafodd Hari, mab Cai ei eni yn Ebrill 2021 gyda microphthalmia, ac mae MACS wedi bod yn gysur iawn i Cai a’i deulu mewn amser heriol iawn.

Dywedodd Cai: “Roedd rhedeg Marathon Llundain 2024 yn brofiad bythgofiadwy. Mae’n amlwg ei fod yn achlysur enfawr yn Llundain oherwydd roedd y ras o’r llinell ddechrau yr holl ffordd i’r diwedd yn un parti mawr i’r dorf, ac roedd hyn yn ddylanwad eithriadol i’r rhedwyr ac yn ein hannog ymlaen

Mae dau ddigwyddiad yn aros yn y cof Y cyntaf oedd rhedeg pasio Cutty Sark - roedd aliniad y trac a sŵn y dorf yn creu rhyw deimlad fel dy fod yn cymryd rhan mewn Grand Prix! Yr ail ddigwyddiad oedd hanner ffordd i mewn i’r ras, ar ôl rhedeg trwy ambell i stryd digon cyffredin, troi cornel a gweld y strwythur trawiadol Tower Bridge o dy flaen.

Teimlad mawr o falchder oedd cyrraedd y llinell derfyn Ar ôl misoedd o waith caled yn paratoi am y marathon, roeddwn wedi llwyddo i’w gyflawni ac wedi gallu codi gymaint o arian ar gyfer yr elusen arbennig MACS sydd yn agos iawn i fy nghalon.

Mae dal modd i staff gyfrannu trwy ddilyn y ddolen yma: Marathon Llundain Cai

Diolch yn fawr iawn am yr holl gefnogaeth a’r cyfraniadau, dwi’n hynod ddiolchgar am eich haelioni.”

Cai gyda’i fab Hari

CYNLLUN CYFEILLION

CYMRAEG

Mae’r cynllun Cyfeillion Cymraeg yn cynnig cefnogaeth anffurfiol i aelodau staff sy’n dysgu Cymraeg neu eisiau gwella eu sgiliau iaith. Efo tîm o wirfoddolwyr yn y Cyngor sy’n hapus i helpu, mae modd paru efo mentor neu “gyfaill” er mwyn ymarfer siarad neu i wella sgiliau ysgrifennu.

Dros y blynyddoedd diweddar mae degau o staff wedi elwa o’r cynllun Cysylltodd Dylan efo Cyfeillion Cymraeg gyda’r dymuniad i loywi ei sgiliau iaith. Fe’i parwyd efo Manon, a bu i’r ddau gyfarfod yn rheolaidd pob pythefnos. Dros amser buont yn gweithio ar wahanol elfennau gramadegol, ymarferion cyfieithu a phrawf ddarllen, ac ysgrifennu pytiau creadigol Yn aml byddai Manon yn rhoi “gwaith cartref” i Dylan i’w gyflawni a dyma fyddai prif destun eu sesiynau. Yn ystod eu sesiynau gwelwyd cynnydd yn sgiliau iaith Dylan yn ogystal â’i hyder i’w defnyddio.

Meddai Dylan “Dwi eisiau diolch i Manon am ei hamser am fy helpu i wella fy Nghymraeg. Mae fy sgiliau cyfathrebu llawer gwell erbyn hyn ac mae gennyf fwy o hyder rŵan ac yn ei weld yn haws cyfathrebu yn y cyfrwng Cymraeg Mae cael dysgu ystyr y rheolau wedi gwneud gwahaniaeth mawr i mi, yn hytrach na chael fy nghywiro, dwi’n cael gwers am y rheol sy’n helpu i mi ddeall a gwella. Dwi hefyd yn edrych i wella fy Nghymraeg y tu allan i’r gweithle a cheisio darllen a gwrando ar raglenni Cymraeg yn hytrach na defnyddio’r opsiwn Saesneg”.

Bu i Manon hefyd gael budd, meddai “Teimlaf bod y ddau ohonom wedi elwa o’r sesiynau hyn, gan fy mod innau wedi magu hyder i fentora aelod o staff, a bod Dylan wedi datblygu sgiliau ieithyddol gwerthfawr y bydd yn gallu eu defnyddio yn y gweithle a thu hwnt”.

Enghraifft arall ydi Mererid sy’n cael sgwrs wythnosol efo Anna a Sam – dwy o siaradwyr newydd i’r Gymraeg.

Meddai Mererid - “Cyfle i gael sgwrs anffurfiol yn y Gymraeg ydi’r Cynllun i mi ac i’r ddwy gael ‘stwytho ac ymarfer eu Cymraeg Rydym ni’n trafod popeth dan haul o lyfrau maent yn eu darllen i ddigwyddiadau arbennig, barddoniaeth a chaneuon poblogaidd. Mae gwefan Cymru Fyw yn lle da i ddod o hyd i syniadau. Does ddim angen paratoi ond mae wastad yn syniad da cael rhywbeth wrth gefn rhag ofn

Yn ddiweddar, buom yn trafod gemau buartha Dydd Miwsig Cymru ac mae digon o bethau i’w trafod am fwyd bob tro – o grempog i ginio Nadolig! Dwi’n trio rhoi hanner awr yr un iddynt bob wythnos ar TEAMS a chael paned ar yr un pryd. Rhaid i mi gyfaddef mod innau yn dysgu cryn dipyn hefyd”.

Dywedodd Sam: “Y peth sydd mor hyfryd am ein sgyrsiau ydy bod na’ ddim pwysau o gwbl Dwi’n medru gwneud camgymeriadau heb deimlo’n hunan-ymwybodol, ac mae hyn yn helpu i adeiladu fy hyder. Dan ni’n chwerthin llawer, a dwi’n dysgu rhywbeth newydd bob tro. Mae’r sgyrsiau yn mynd i bob math o gyfeiriadau!”

Os am fanteisio ar y cyfle grêt yma - y cyfan sydd angen ei wneud ydi cysylltu efo DysguCymraeg@gwynedd.llyw.cymru

Os gallwch chi roi amser i’r Cynllun fel “cyfaill”, ewch amdani, bydd yn gyfle i rannu cyfoeth y Gymraeg efo eraill.

Mererid
Manon

GYRFA NEWYDD FEL

GWEITHIWR CYMDEITH

Yn mis Mawrth nodwyd Diwrnod Gwaith Cymdeithasol Y Byd, sef diwrnod i ddathlu’r proffesiwn. Yn y rhifyn yma cawn ddarllen am hanes Catrin Elwyn a’i siwrne hi i gymhwyso fel Gweithiwr Cymdeithasol.

Sutwyttiwedicyrraeddllewyttiheddiw?

Roeddwnwastadyngwybodmodieisiaugweithiogydaphobl,ihelpu poblaciwneudgwahaniaethifywydaupoblgoraumedrwni Arôl gweithiomewnamrywoswyddigwahanolofewnyCyngor, penderfynaisddilyntrywyddgwahanolynfyngyrfa.Dymaprydddoisi ardrawscyflegwirfoddoligydaAmserNi.

Arôl2flyneddowirfoddoli,penderfynaiswneudcaisamlearycwrs MAGwaithCymdeithasolymMangor Cynyddoddyprofiadgyda AmserNifyawchiweithiogydaphlantaphoblifanc,aciddodyn weithiwrcymdeithasolynydyfodol.

Bethoedddygefndir/maesgwaithdicyndodynWeithiwr Cymdeithasol?

GraddiaisoBrifysgolAberystwythgydagraddynyGyfraith,gyda’r gobaithofodyngyfreithwraig.Arôlrywfisoastudio’rcwrsnesi benderfynunaddyma’rmaesimi!

Gesiswyddfelcymhorthyddgweinyddoli’rtîmrheoliynyrAdranOedolion,IechydaLlesiant.Cynhynny, roeddwniwedigweithiofelclerctîmi’rtîmanabledddysguam3misdrosyrhaf,blenesiweithiodipyn efogweithwyrcymdeithasolachaelcyfleiddodiadnabodyrôlynwell

CefaiswedynswyddfelSwyddogGwybodaeth,bleroeddwnyndeliogydacheisiadaurhyddidgwybodaeth acheisiadauamwybodaethbersonolynogystalâchydlynunewyddlenyrAdran.Arôlhyn,buimiweithio am3mlyneddfelSwyddogCategoriaDatblygu,blecefaisbrofiadoweithioarasesiadanghenion poblogaeth.Drosycyfnodyma,cefaisgyfleongwychabuimiddodardrawsgweithwyrcymdeithasolyn amlynrhinweddygwahanolswyddiacroeddgeniddiddordebmawrynyrôl

SutesdiatiigymhwysoifodynWeithiwrCymdeithasol?

Miwnesigwblhau’rcwrsMAGwaithCymdeithasolymMhrifysgolBangor.Roeddhwnyngwrs2flyneddo hyd,gyda2leoliad100diwrnodynrhano’rcwrs(a’raseiniadau,wrthgwrs!).Miwnesiwirioneddol fwynhau’rcwrsyma,roeddo’ngymysgeddgwychowaithacademaiddacymarferol Drwyfylleoliad,bui miweithioiDerwenfelGweithiwrCefnogol,ganbarhauiweithioarbenwythnosauynhelpuefoAmserNi Rhoddoddhynfwyobrofiadymarferolimiynystodycwrs,acroeddhefydynbrafcadwcysylltiadgyda Derwen.

Fysachdi’nawgrymuGwaithCymdeithasolfelgyrfa?

Byswn!Dwimorfalcho’rpenderfyniadwnesi,iadaelswyddllawnamser,barhaolifyndigwblhau’rcwrs MAGwaithCymdeithasolymMangor Dwi’nteimlo’nfreintiedigiawnbobdyddfelgweithiwrcymdeithasol bodpoblynfodlongwahoddfiimewni’wbywydauynystodcyfnodauheriol,acagorifynyarhannueu stori.A’rfraintmwyafwedynydiceisiohelpu’rteuluoeddymaallucyflawnibethsy’nbwysigiddynnhwaci wneudgwahaniaethpositifyneubywydau.Mae’nswyddheriolondynsicrynllawnboddhad.Dwiwrthfy moddyndodiadnabodpoblnewydd,acmae’rprofiadoweithiomewntîmaml-ddisgyblaetholyngrêt ganfymodyndysgullwythganwahanolddisgyblaethau!Mae’rtîmynDerwenynanhygoel,adwi’nffodus iawnogaelgweithiomewntîmmorgefnogolachlên.Maepobdiwrnodynwahanol,acmaedigono amrywiaethi’rswydd.

Wedi’ch ysbrydoli gan hanes Catrin? Am fwy o wybodaeth am yrfa fel Gweithiwr Cymdeithasol a’r llwybrau gyrfa amrywiol mewn i’r maes cysylltwch â Gill ar gofalu@gwynedd.llyw.cymru. Ffansi gwirfoddoli efo Amser Ni? Cysylltwch ar Amserni@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch 03000 840 967.

Catrin

HWB HYSBYS

Mae Gwŷl Fwyd Caernarfon yn cael ei ch Sadwrn, 11 o Fai 2024 ac mae’r trefnwyr y wirfoddolwyr i helpu ar ddiwrnod yr wŷl ddyletswydd fyddai dosbarthu rhaglenn cyfraniadau yn y bwcedi.

“Mae gwirfoddoli yn gyfle da i hyrwyddo ŵyl yn ogystal â chael jangyl bach! Dim on amser mae’r Ŵyl yn gofyn amdano fo, ac didrafferth a hwyliog, er enghraifft, yn cy stondinau mewn gwahanol rannau o’r d leoliadau toiledau.

“Faswn i’n awgrymu unrhyw un sy’n med hamser i wirfoddoli. Mae’n fraint medru chi wedi helpu ar ddiwrnod mor bwysig Jones sydd wedi bod yn gwirfoddoli ers

Os hoffech chi, fel Lyn, wirfoddoli yng Ng llenwch y ffurflen hon

Mae Manon Elwyn ac Ifan Owens, ill dau yn gweithio i Cyngor, gyda Manon yn gweithio fel Rheolwr Cefnogi Iechyd a Llesiant ac Ifan yn gweithio yn yr adran Gyllid wedi penderfynu ymgymryd â’r her o heicio hanner marathon drwy Eryri, gan gychwyn yn stad y Faenol a gorffen eu taith ger Llyn Ogwen.

Maent wedi penderfynu ymgymryd â’r her, a fydd yn digwydd ar 25 Mai, er mwyn codi arian ar gyfer elusen Macmillan, sydd yn agos at eu calonnau yn dilyn colli tad Manon i ganser y llynedd.

Os hoffech gyfrannu at eu taith, cliciwch ar y ddolen: Heic Hanner Marathon Manon ac Ifan

Hoffech ddysgu mwy am ddementia a sut i gefnogi pobl yn eich cymuned? Adnabod rywun arall a fyddai’n buddio o’r sesiwn hon?

Ymunwch â ni mewn sesiwn anffurfiol Ffrindiau

Dementia ar ddydd Iau, y 9fed o Fai – 17:30-18:30 yng Nghlwb Hwylio Caernarfon.

Mae'r sesiwn yn agored i bawb ac yn cael ei chynnal yn y Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Lialiahafroberts@gwynedd.llyw.cymru 07818 454 295

Ifan a Manon

DIGWYDDIAD

‘TRWY LYGAID MERCH’

Ar fore Mawrth yr 8fed, 2024 braf oedd gweld Siambr Dafydd Orwig yn llawn ar gyfer digwyddiad ‘Trwy Lygaid Merch’. Digwyddiad oedd wedi ei drefnu i ddathlu ‘Diwrnod Rhyngwladol y Merched’ a chodi ymwybyddiaeth o brosiect Merched Mewn Arweinyddiaeth.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ddigwyddiad blynyddol sy’n dathlu’r holl bethau rhyfeddol y mae merched wedi’u cyflawni Mae’n ffordd o ddangos sut mae merched wedi dylanwadu ar y byd ac yn parhau i wneud hynny.

Yn ogystal â dathlu merched gwych, mae’r diwrnod hefyd yn cael ei ddefnyddio i amlygu a chodi ymwybyddiaeth am faterion y mae merched yn dal i'w hwynebu.

Mae thema benodol yn cael ei bennu bob blwyddyn ar gyfer y diwrnod gyda ystym (symbol) penodol yn ogystal. Eleni'r thema oedd ‘Ysbrydoli Cynhwysiad’ (Inspire inclusion) a’r ystum oedd siâp calon.

Pwrpas prosiect Merched Mewn Arweinyddiaeth yw canfod beth ydi'r rhwystrau sy'n dal rhai merched yn ôl yn eu gyrfa a chefnogi merched i ystyried ac ymgeisio am swyddi rheoli ac arwain.

Roedd yn ddigwyddiad i Reolwyr ac Arweinyddion Timau, boed yn ddynion neu ferched. Y nod oedd codi ymwybyddiaeth o’r heriau cydnabyddedig y mae merched yn eu hwynebu yn y gweithle, boed hynny yn drefniadau ymarferol gofalu a chydbwysedd bywyd a gwaith, yn ddiffyg hyder, neu yn gyflyrau iechyd megis y menopos.

Roedd yn gyfle i glywed gan arbenigwyr yn y maes ynglŷn â’r sefyllfa tu hwnt i Wynedd, llesiant merched yn y gweithle, phrofiadau personol a’r gefnogaeth mae’r Cyngor yn ei gynnig.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.