Cyfansoddi: Cymru 2018 gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Ar y cyd â Chyfansoddwyr Cymru, Tŷ Cerdd a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru Dydd Iau 1 Chwefror Dydd Iau 22 a dydd Gwener 23 Chwefror 2018 Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cynnig cyfle unigryw a chyffrous: gwahoddir cyfansoddwyr i gyflwyno sgôr i'w hystyried ar gyfer Cyfansoddi: Cymru a gynhelir ym mis Chwefror 2018. Bydd y sgoriau a ddewisir yn ymddangos yn y prosiect yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd. Bydd Diwrnod Ymarfer cychwynnol Cyfansoddi: Cymru lle bydd y darnau’n cael eu chwarae trwodd yn cael ei gynnal ddydd Iau 1 Chwefror 2018. Wedyn bydd ail gam dau-ddiwrnod Cyfansoddi: Cymru ddydd Iau 22 a dydd Gwener 23 Chwefror 2018. Yn dibynnu ar y nifer a gyflwynir, bydd 6-8 sgôr yn cael eu dewis i ddechrau ar gyfer y prosiect. Mae'r prosiect yn rhan o weithgarwch dysgu Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Y nod yw dangos gwaith gan gyfansoddwyr yng Nghymru sy'n deilwng o sylw ehangach, a chaiff ei drefnu ar y cyd â Chyfansoddwyr Cymru, Tŷ Cerdd a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru. Dyma’r cyfansoddwyr sy’n gymwys i gyflwyno sgoriau: Cyfansoddwyr a aned yng Nghymru ac sydd wedi cwblhau gradd mewn cerddoriaeth ar lefel israddedig neu gymhwyster cyfwerth. Cyfansoddwyr sy'n byw yng Nghymru ac sydd wedi cwblhau gradd mewn cerddoriaeth ar lefel israddedig neu gymhwyster cyfwerth. Cyfansoddwyr sy'n astudio cyfansoddi ar lefel Ôl-radd yng Nghymru. Cyfansoddwyr a aned yng Nghymru sy'n astudio cyfansoddi ar lefel Ôl-radd y tu allan i Gymru Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC hefyd yn ystyried sgoriau gan gyfansoddwyr a aned yng Nghymru neu sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd ac sy'n gallu dangos hanes sicr o gyfansoddi, heblaw cwblhau gradd mewn cerddoriaeth neu gymhwyster cyfwerth. Sylwch fod rhaid i gyfansoddwyr fod yn gallu dangos eu bod wedi cael addysg gyfwerth a lefel addas o brofiad neu gymhwysedd i'w cymharu â'r categorïau a restrir uchod. Mae croeso i sgoriau gan gyfansoddwyr sydd wedi’u dewis o’r blaen i ymddangos yn Cyfansoddi: Cymru neu Sioe Arddangos Cyfansoddwyr Cymru gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ond byddwn yn ystyried hyn wrth ddethol er mwyn sicrhau sylw i'r detholiad ehangaf o gyfansoddwyr. Yn yr un modd, os yw cyfansoddwyr wedi cael amrywiaeth o brofiadau proffesiynol eisoes, efallai y bydd hyn yn cael ei ystyried yn y broses ddethol. Ni fydd sgoriau sydd wedi cael eu perfformio eisoes gan gerddorfa broffesiynol yn cael eu hystyried ar gyfer Cyfansoddi: Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno pedwar copi o sgoriau llawn A3 ac un copi o sgôr lawn A4: Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2017 am 10:00. Hyd y darn: dim mwy na 8 munud. Sylwch fod croeso i sgorio sy'n fyrrach o ran hyd.