








TYDEWWI
GOLEUDY AR FACHLUD HAUL GOGLEDD CYMRU


TYDEWWI
GOLEUDY AR FACHLUD HAUL GOGLEDD CYMRU
NEUADD HODDINOTT Y BBC
Lefel 2, Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL
Tocynnau: 02920 878444 stdavidshallcardiff.co.uk
NEUADD BRANGWYN
The Guildhall, Abertawe, SA1 4PE
Tocynnau: 01792 475715 brangwyn.co.uk
ABERYSTWYTH ARTS CENTRE
Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais
Aberystwyth SY23 3DE
Tocynnau: 01970 623232 aberystwythartscentre.co.uk
PONTIO, BANGOR
Prifysgol Bangor, Pontio Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2TQ
Tocynnau: 01248 382828 pontio.co.uk
THEATR BRYCHEINIOG
Canal Wharf, Brecon, LD3 7EW
Tocynnau: 01874 611622 brycheiniog.co.uk
THEATR HAFREN, Y DRENEWYDD
Heol Llanidloes, Y Drenewydd, Powys, SY16 4HU
Tocynnau: 01686 948100 thehafren.co.uk
THE RIVERFRONT Kingsway, Newport, NP20 1HG
Tocynnau: 01633 656757 newportlive.co.uk
Dysgwch ragor am Gerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn bbc.co.uk/now neu drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol
Facebook: Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Instagram: @_bbcnow
Cofiwch ein dilyn i gael yr holl newyddion a chynnwys diweddaraf am BBC NOW, ac rydyn ni bob amser yn falch o glywed gennych chi, felly cofiwch gysylltu drwy unrhyw un o’r uchod, neu drwy anfon e-bost atom yn now@bbc.co.uk
Dewch ar daith gerddorol newydd gyda ni, Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, wrth i ni lansio ein cyngherddau ar gyfer tymor 25-26. P’un a ydych chi wedi bod wrth eich bodd â cherddoriaeth gerddorfaol erioed, neu’ch bod yn awyddus i gael blas arni, mae croeso cynnes i chi ymuno â ni am dymor llawn dop o gerddoriaeth wych.
Mae gennym ni bopeth o weithiau clasurol poblogaidd i ddarnau newydd cyffrous sy’n gweld golau dydd am y tro cyntaf, ynghyd â’r gorau o gerddoriaeth gyfoes Gymreig. Bydd y tymor hwn hefyd yn cynnwys perfformiadau pwerus gan Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, a fydd yn chwarae rhan ganolog mewn gweithiau gwirioneddol aruthrol a theimladwy.
Drwy gydol y tymor, bydd wynebau cyfarwydd a thalent newydd ffres yn ymuno â ni – yn arweinwyr, yn unawdwyr ac yn gyfansoddwyr – gan ddod â’u doniau unigryw i’r llwyfan. Bydd yn dymor llawn egni ac amrywiaeth, gyda rhywbeth arbennig i bawb.
Byddwch hefyd yn clywed ein cerddoriaeth ymhell y tu hwnt i’r neuadd gyngerdd – ar y teledu, ar BBC Radio 3, a dros donfeddi BBC Cymru Wales. Ac os na allwch chi ymuno â ni yn y cyngherddau, gallwch fwynhau ein perfformiadau ar-lein drwy ein cyngherddau digidol poblogaidd a’n ffrydiau byw o Neuadd Hoddinott y BBC, sef ein cartref yng nghanol Caerdydd.
Rydyn ni’n credu y dylai cerddoriaeth gael ei rhannu’n eang – yn y neuadd gyngerdd ac allan yn y gymuned hefyd. Dyna pam rydyn ni’n perfformio’n rheolaidd mewn ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal a mannau lleol eraill ym mhob cwr o Gymru. Ble bynnag yr awn, ein nod yw creu awyrgylch hamddenol a chroesawgar lle mae pawb yn teimlo’n gartrefol. Mae ein drysau’n agored i bawb, a byddem wrth ein bodd petaech chi’n ymuno â ni ac yn ein helpu i siapio’r Gerddorfa a Chorws Genedlaethol ar gyfer y dyfodol. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau pori drwy raglen y tymor hwn – edrychwch i weld beth sy’n dal eich llygad. Ac os hoffech chi ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, gallwch ddod o hyd i ni ar Facebook ac Instagram – byddem wrth ein bodd yn cadw mewn cysylltiad ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am bopeth rydyn ni’n ei wneud, yn ogystal â chlywed am eich profiadau chi.
Mae pawb yn BBC NOW yn edrych ymlaen at rannu ein cerddoriaeth â chi – mae’n argoeli i fod yn dymor arbennig, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi!
Dymuniadau gorau
Lisa Tregale Cyfarwyddwr
Mae gennym dymor cyffrous o gerddoriaeth gerddorfaol ar y gweill i chi – a fydd yn cael ei harwain a’i pherfformio gan arweinwyr ac unawdwyr o’r radd flaenaf, ynghyd â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.
Byddwn yn gweld llawer o’n hoff arweinwyr yn dychwelyd y tymor hwn, gan gynnwys ein Prif Arweinydd Ryan Bancroft, y Prif Arweinydd Gwadd Jaime Martín a’r hynod boblogaidd Nil Venditti. Byddwn yn croesawu rhai o’n hunawdwyr enwocaf yn
ôl, ochr yn ochr â llu o wynebau newydd cyffrous, a byddwn yn parhau â’n taith drwy rywfaint o’r gerddoriaeth gerddorfaol a chorawl fwyaf poblogaidd a gyfansoddwyd erioed, gan hefyd archwilio gweithiau cyfoes newydd, beiddgar a chreadigol. Byddwn yn teithio i bob cwr o Gymru a’r tu hwnt – gan gynnwys i Sbaen, lle bydd y gerddorfa’n mynd ar daith ym mis Ebrill – ac yn parhau â’n hymrwymiad i gynulleidfaoedd ifanc gyda’n sioeau i ysgolion a theuluoedd, yn ogystal â nifer o brosiectau cymunedol eraill gyda’n sefydliadau partner gwych. Byddwn
hefyd yn parhau â’n gwaith recordio ar gyfer BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru a’n partneriaid masnachol, gan ddal ati â’n hamserlen brysur o draciau sain ar gyfer ffilm a theledu ar yr un pryd. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau pori drwy’r llyfryn hwn. Cewch ddarganfod yr amrywiaeth a’r ystod enfawr o gerddoriaeth rydyn ni’n ei chynnig a dathlu’r grŵp arbennig o gerddorion y mae’n bleser eu cael yn rhan o’n cerddorfa ni, wrth iddynt gyflwyno llu o berfformiadau arbennig i’n cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru a’r tu hwnt drwy ein darllediadau. Dyma fy nhymor olaf yn trefnu’r rhaglen ar gyfer y gerddorfa a’r corws anhygoel yma ac ar eich cyfer chi – ein cynulleidfa hyfryd! Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser o’r mwyaf. Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig sy’n gadael
CASTELL ABERYSTWYTH
MACHLUD HAUL TRAWIADOL
DRWY ADFEILION Y CASTELL
Hen Walia gan y gyfansoddwraig o Gymru, Grace Williams, fydd yn agor ein perfformiad yng Ngŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Gogledd Cymru eleni. Dyma waith sy’n seiliedig ar alawon gwerin, gyda’r hwiangerdd Huna Blentyn yn ganolog iddo. Yna byddwn yn darganfod cerddoriaeth Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Albert yn ei Liederkreis, a gyfansoddwyd i gael ei berfformio yng Nghastell Windsor. Cafodd y fersiwn sy’n cael ei pherfformio heno ei threfnu ar gyfer cerddorfa yma gan y cyfansoddwr enwog o Gymru, Paul Mealor. Byddwn hefyd yn plymio i mewn i un o weithiau enwocaf Felix Mendelssohn, Agorawd Hebrides – lle clywir llanw a thrai’r ddeinameg, newidiadau harmonig cynnil, a chaleidosgop o liw offerynnol. Mae’r gerddoriaeth yn ddarlun trawiadol o’r môr, ynysoedd yr Hebrides, ac Ogof Fingal. Yn olaf, cawn glywed un o’r agoriadau enwocaf ym myd cerddoriaeth glasurol, sef Pumed Symffoni Beethoven. Ceir cyfuniad o rythmau nerthol, drama, tywyllwch ac athrylith yn y perfformiad hwn o’r symffoni.
Hen Walia
PAUL MEALOR
Liederkreis: Seven Songs by HRH Prince Albert
MENDELSSOHN
Agorawd yr Hebrides ‘Ogof Fingal’
BEETHOVEN
Symffoni Rhif 5 –
NIL VENDITTI
Arweinydd
GWILYM BOWEN
Tenor
Bydd un o ffefrynnau BBC NOW, Nil Venditti, yn camu i’r podiwm yn y Drenewydd fis Medi gyda rhaglen sy’n dathlu dyfeisgarwch Dvořák, ond sy’n agor gyda Hen Walia gan Grace Williams o’r Barri. Dyma ddarn sydd wedi’i ysbrydoli gan alawon gwerin, yn enwedig yr hwiangerdd Huna Blentyn sy’n ganolog i’r gwaith. Ar ôl cyfareddu cynulleidfaoedd yn ystod ei ymddangosiad cyntaf gyda BBC NOW, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r feiolinydd Inmo Yang yn ôl i berfformio Concerto rhamantus Dvořák i’r Ffidil, cyn i ni fwynhau ei lythyr symffonig o America, y New World Symphony. Ac yntau’n dechrau ar antur newydd, yma mae Dvořák yn cofleidio seinfyd ei fywyd newydd yn
Efrog Newydd, heb ollwng gafael yn llwyr ar harddwch cyfoethog ei famwlad, Bohemia, yn ein Nawfed Symffoni syfrdanol ‘From the New World’.
BYRLYMUS
DYDD SADWRN 20/9/25 4PM Hafren, Y Drenewydd
WILLIAMS
Hen Walia
DVOŘÁK
Concerto i’r Ffidil
DVOŘÁK
Symffoni Rhif 9 ‘From the New World’ –
NIL VENDITTI
Arweinydd
INMO YANG
Ffidil
Bydd ffefryn cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol
Gymreig y BBC, Nil Venditti, yn camu at y podiwm yn y Chasnewydd ym mis Medi gyda rhaglen o glasuron poblogaidd.
Ganwyd Grace Williams yn y Barri ac mae ei Hen
Walia wedi’i ysbrydoli gan alawon gwerin, a’r gân si-lwli Huna Blentyn yn tywynnu yng nghalon y gwaith. Yn dilyn cyffro ymddangosiad cyntaf y feiolinydd Inmo Yang gyda Cherddorfa Gymreig y BBC, pleser o’r mwyaf yw ei groesawu’n ôl i berfformio
Concerto rhamantaidd cynnes Dvořák i’r Ffidil. I gloi, clywn yr agoriad enwocaf, o bosib, i unrhyw ddarn o gerddoriaeth glasurol, sef Pumed Symffoni
Beethoven, sy’n cyfuno rhythmau nerthol â drama, tywyllwch a disgleirdeb.
DYDD SUL 21/9/25 3PM
Glan yr Afon, Casnewydd
WILLIAMS
Hen Walia
DVOŘÁK
Concerto i’r Ffidil
BEETHOVEN
Symffoni Rhif 5 –
NIL VENDITTI
Arweinydd
INMO YANG
Ffidil
MARLOES SANDS, PEMBROKESHIRE DRAMATIC ROCKY COASTLINE
TRAETH MARLOES, SIR BENFRO MORLIN GREIGIOG DDRAMATIG
Mewn rhaglen sy’n gosod ein cerddorion gwych ar flaen y llwyfan, fe gychwynnwn ein tymor 202526 yn Neuadd Hoddinott y BBC gyda sioe gan ein hadran bres – mae Pedair Ymdeithgan Schumann, a ysgrifennwyd yn wreiddiol ar gyfer piano unigol, yn agoriad grymus i’n cyngerdd yn y trefniant hwn gan ein Prif Trombonydd Donal Bannister. Wedyn cawn Goncerto Finzi i’r Clarinét, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Henffordd yng Ngŵyl y Tri Chôr ym 1949, ac sy’n dal i fod yn un o’i weithiau enwocaf a mwyaf poblogaidd. I berfformio’r gwaith teimladwy a meistrolgar hwn bydd Prif Glarinét Cerddorfa Gymreig y BBC, Nicholas Carpenter, yn camu i’r sbotolau.
Yn waith sy’n agos at galon ein harweinydd heno, Gergely Madaras, y Symffoni yn D leiaf oedd gwaith mawr olaf Franck, a’i unig symffoni. O themâu telynegol tyner llawn llawenydd y symudiad cyntaf i ail symudiad cymysg sy’n gyfuniad o linynnau pizzicato ysgafn o dan unawd hudolus ar y cor anglais a dau drio scherzo, cyrhaeddwn lawenydd ysgubol y symudiad olaf sy’n ailweithio themâu blaenorol mewn modd dyfeisgar iawn i goroni’r symffoni fendigedig hon.
NOS IAU 25/9/25 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
SCHUMANN TREFN. DONAL BANNISTER
Pedair Ymdeithgan
FINZI
Concerto i’r Clarinét
FRANCK Symffoni yn D leiaf –
GERGELY MADARAS Arweinydd
NICHOLAS CARPENTER Clarinét
Hanner can mlynedd ar ôl ei farwolaeth, cawn ddathlu meistrolaeth Shostakovich mewn cyngerdd sy’n cynnwys ei Goncerto i’r Ffidil a’i Seithfed Symffoni nerthol dan faton ein Prif Arweinydd poblogaidd, Ryan Bancroft.
O’i Nocturne agoriadol tywyll, i Scherzo sy’n ymylu ar fod yn gythreulig gyda’i ddawns Iddewig Klezmeraidd ar gyfer y clarinét, trwy’r Passacaglia mawreddog i’r Burlesque rhemp o feistrolgar, mae’r Concerto
Cyntaf i’r Ffidil yn sioe artistig ar raddfa enfawr. Ac mae ei Symffoni Leningrad lawn mor bwerus – yn drymlwythog o huawdl a mawreddog, dyma symffoni sy’n troedio’r llinell rhwng disgwyliadau Stalinaidd a mynegiant personol ynghylch rhyfel. Rhwng themâu rhythmig chwareus, rhai trasig galarnadus, a rhai ysgubol o gadarn, ceir uchafbwyntiau aruthrol sy’n cyfleu ysbryd herfeiddiol ac arwrol yn wyneb cyrchoedd rhyfel.
NOS WENER 3/10/25 7.30PM
Neuadd Brangwyn, Abertawe
SHOSTAKOVICH
Concerto i’r Ffidil Rhif 1
SHOSTAKOVICH
Symffoni Rhif 7 ‘Leningrad’
RYAN BANCROFT
Arweinydd
CLARA-JUMI KANG
Ffidil
Mewn ail gydnabyddiaeth i Shostakovich yn hanner canmlwyddiant ei farwolaeth, mae Jaime MartÍn, Prif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn cyflwyno rhaglen sy’n cynnwys ei Thema ac Amrywiadau a’i Ail Goncerto i’r Piano.
Roedd Shostakovich yn dal yn ei arddegau pan ysgrifennodd ei Thema ac Amrywiadau swynol, sef thema wreiddiol ac 11 o amrywiadau sy’n wahanol i’w arddull ddiweddarach, ond sydd yr un mor ddyfeisgar a hyderus. Mae ei Goncerto i’r Piano, a ysgrifennwyd tua 25 mlynedd yn ddiweddarach, ar y llaw arall, yn llawn o’i bersonoliaeth gerddorol unigryw – o’r themâu a’r tempos hynod brysur ac aflonydd, i offeryniaeth liwgar a thelynegiaeth di-ben-draw y gwaith. Ysgrifennwyd y concerto ysgafn hwn fel anrheg pen-blwydd i’w fab Maxim.
Daliwn i archwilio Thema ac Amrywiadau wrth droi at Brahms a’i Amrywiadau ar Thema gan Joseph Haydn Roedd y cyfansoddwr wedi’i swyno gan lawysgrifau a cherddoriaeth Haydn, a sgôr y Corâl Sant Antoni sy’n ffurfio’r thema i’r gwaith swynol a diddorol hwn. Ond yn gyntaf trown at eilun Brahms ei hun, Joseph Haydn, a’i Chweched Symffoni destunol, Le Matin.
NOS IAU 16/10/25 7.30PM
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
SHOSTAKOVICH
Thema ac Amrywiadau
SHOSTAKOVICH
Concerto i’r Piano Rhif 2
HAYDN
Symffoni Rhif 6 ‘Le Matin’
BRAHMS
Amrywiadau ar Thema gan Joseph Haydn –
JAIME MARTÍN
Arweinydd
ALIM BEISEMBAYEV
Piano
PORTMEIRION, PENRHYNDEUDRAETH TAI A BLODAU LLIWGAR YN Y PENTREF
TYDDEWI, SIR BENFRO ADFEILION LLYS YR ESGOB CANOLOESOL WRTH YMYL EGLWYS GADEIRIOL TYDDEWI
Mae Requiem telynegol Brahms yn sefyll fel un o weithiau corawl gorau’r byd. Wedi’i ysgrifennu ar ôl marwolaeth ei fam, gan nodi trobwynt yn ei yrfa, does dim litwrgi’n perthyn i’r Requiem hwn er mor gysegredig yw’r naws. Yn hynny o beth mae’n sefyll mewn cyferbyniad clir â gweithiau requiem adnabyddus eraill sy’n seiliedig ar yr Offeren Ladin, fel rhai Verdi neu Mozart. Mae tawelwch a bodlondeb pwerus y gwaith yn ennyn gobaith a defosiwn sy’n siarad ar lefel wirioneddol ddynol, gan daro deuddeg gyda chynulleidfaoedd heddiw lawn gymaint â phan gafodd ei ysgrifennu.
NOS SADWRN 18/10/25 7PM
Eglwys Gadeiriol Tydewwi
BRAHMS
Ein deutsches Requiem –
ADRIAN PARTINGTON
Arweinydd
CHRIS WILLIAMS & STEVE KINGS
Ymunwch â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a’u Cyfarwyddwr Artistig, Adrian Partington, yn Nhyddewi fis Hydref wrth iddyn nhw berfformio’r Requiem tyner a phersonol yma yn lleoliad trawiadol Cadeirlan Tyddewi. Yno i gyfeilio bydd cyfeilydd presennol y corws, Chris Williams a’r cyn-gyfeilydd, Steve Kings.
Cyfeilyddion
CORWS CENEDLAETHOL
CYMREIG Y BBC
Dewch atom ym mis Hydref i groesawu ein digwyddiad
Calan Gaeaf Bwgandigedig yn ei ôl!
Gyda rhai o’r darnau cerddoriaeth mwyaf sbwci a ysgrifennwyd erioed, mae’r cyngherddau dychrynllyd poblogaidd hyn yn ôl i gynnig ias o fwynhad i’r teulu cyfan. Felly paratowch i gael eich cynhyrfu a’ch cyffroi gan seiniau rhyfeddol ac annaearol cerddorfa symffoni ac ymunwch yn yr hwyl. O.N. Cofiwch wisgo’ch gwisgoedd Calan Gaeaf gorau, fiw ichi beidio!
DYDD IAU 30/10/25
3PM & 7PM
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
ELLIE SLORACH Arweinydd
Trown at natur yn ein cyngerdd heno, gan agor gydag agorawd Vaughan Williams i The Wasps. Molawd yw’r agorawd i fawredd a thangnefedd cefn gwlad Lloegr, ac mae’n seiliedig ar gomedi Aristophanes o’r un enw. Mae’n agor gyda sŵn suo haid o wenyn a anfonir i achub y tad sydd mewn carchar yn naratif y gwaith.
Caneuon bugeilio a chân adar yw ysbrydoliaeth Bukoolika gan Ester Mägi, myfyrdod mewnol addfwyn ar fyd natur yn ei holl ogoniant. I ddilyn hyn cawn ddarluniau Helen Grime o natur yn y nos, a gerddi nos ysblennydd a byd natur yr hwyrnos yn arbennig. I berfformio, mae’n bleser croesawu athrylith yr utgorn Matilda Lloyd i wneud ei hymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Gymreig y BBC.
Am ei bedwaredd symffoni, dywedodd Nielsen “Pe bai’r byd i gyd wedi’i ddinistrio ... yna byddai natur yn dal i egino bywyd newydd eto, yn dechrau gwthio ymlaen eto ... Y grymoedd hyn, sy’n ‘anniffoddadwy’, yw’r hyn y ceisiais eu cyfleu.” Y campwaith hwn ddaw â’n cyngerdd heno i ben.
NOS IAU 6/11/25 7.30PM
Neaudd Brangwyn, Abertawe
VAUGHAN WILLIAMS
The Wasps: Agorawd
ESTER MÄGI
Bukoolika [premiere DU]
HELEN GRIME
Trumpet Concerto (night-sky-blue)
NIELSEN
Symffoni Rhif 4 ‘Yr Anniffoddadwy’ –
ARVO VOLMER
Arweinydd
MATILDA LLOYD
Utgorn
Noson y Ffindir a’r Cyrn Ffrengig fydd hi heno wrth i ni deithio i Aberystwyth a Bangor yng nghwmni seren y Corn Ffrengig, Ben Goldscheider, fydd yn chwarae dau goncerto, gan Huw Watkins a Mozart. Mae concerto Huw Watkins, a ysgrifennwyd ar gyfer Ben, yn archwilio ystwythder a nodweddion telynegol y corn – rhinweddau y mae Huw yn eu hedmygu’n fawr yn chwarae Ben – tra bod Pedwerydd Concerto Mozart yn llawn swyn ac egni chwareus. Rhwng dau symudiad allanol bywiog a byrlymus ceir Romanza canolog gosgeiddig.
Mae’r gwaith cyntaf a glywn ni heno’n anghyfarwydd i’r rhan fwyaf o bobl ond yn haeddu mwy o sylw ar y llwyfan gyngerdd heb os – Soluppgång y cyfansoddwr o’r Ffindir Ida Moberg, cathl symffonig syfrdanol sy’n cyfleu natur a chysylltiad dyn â hi. Ac i gloi, byd natur yw thema ei chydwladwr Sibelius hefyd yn ei fawlgan i dir ei famwlad, ei Bumed Symffoni rymus a dyrchafol – gwrandewch am un o’r motiffau corn cerddorfaol enwocaf erioed yn y symudiad olaf buddugoliaethus wrth iddo baentio’r ddelwedd o haid o elyrch yn hedfan.
NOS IAU 13/11/25 7.30PM
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
NOS WENER 14/11/25 7.30PM
Neuadd Prichard-Jones, Bangor
MOBERG
Soluppgång Tondikt för
Orkester (Codiad haul)
HUW WATKINS
Horn Concerto
MOZART
Concerto i’r Corn Ffrengig Rhif 4
SIBELIUS
Symffoni Rhif 5 –
RYAN BANCROFT
Arweinydd
BEN GOLDSCHEIDER
Corn Ffrengig
Dathlu 90 mlynedd o ddarlledu gan y BBC ym Mangor
Ymunwch â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a BBC Radio Cymru fis Tachwedd eleni wrth i ni ddathlu 90 mlynedd o ddarlledu o BBC Bangor.
YN HEDFAN YN
NOS SADWRN 15/11/25 8PM Pontio, Bangor
Yn ein cyfres flynyddol ‘Grace’ byddwn yn archwilio cerddoriaeth Grace Williams a menywod modern mewn cerddoriaeth. Fis Tachwedd yma rydym yn llwyfannu gweithiau gan y cyfansoddwyr cyfoes Salina Fisher, Anna Semple a Julia Wolfe, i gyd dan arweiniad Stephanie Childress.
Ysgrifennodd Anna Semple The Gates ar gyfer Malcolm Street Orchestra, ac yn y darn mae hi’n chwarae gyda’r syniadau o gofio a’r cof, ac yn benodol yn darlunio delwedd o set o gatiau a welir yn agos, yna’u hail-ddychmygu o bell ond heb eu cofio’n union. Ystumiadau ac atseiniau roc a rôl sydd wedi ysbrydoli Pretty gan Julia Wolfe, sef dathliad swnllyd o gynodiadau ystyr bod yn “bert”; ac wedyn cawn y première byd o Goncerto Salina Fisher i’r Ffidil wedi’i berfformio gan yr hyfryd Geneva Lewis. Ond yn gyntaf, trown at y gyfansoddwraig sy’n rhoi ei henw i’r gyfres, Grace Williams a’i Ballads for Orchestra
NOS IAU 20/11/25 7.30PM
Neuadd Hoddinott y BBC,
WILLIAMS
Ballads for Orchestra
SALINA FISHER
Violin Concerto [premiere byd]
ANNA SEMPLE
The Gates
JULIA WOLFE
Pretty –
STEPHANIE CHILDRESS
Arweinydd
GENEVA LEWIS
Ffidil
Daw Nil Venditti yn ôl i Neuadd Hoddinott y BBC ym mis Tachwedd gyda rhaglen arall o waith Respighi a Rossini, y tro hwn ochr yn ochr â Choncerto eiconig
Barber i’r Ffidil a’r première yn y Deyrnas Unedig o Oceans gan María Huld Markan Sigfúsdóttir.
Ac yntau’n cyfansoddi yn y 1930au pan oedd digyweiredd yn hawlio’r sylw, cafodd alaw, rhythm, harmoni ac offeryniaeth draddodiadol cerddoriaeth Barber dderbyniad gwresog iawn. Mae themâu eang a llawn awyrgylch ar adegau yn flaenllaw yn ei Goncerto llachar i’r Ffidil, gydag awgrymiadau o gerddoriaeth y dwyrain, alawon gwerin a dycnwch Rwsiaidd; gyrrir y naratif cyffrous gan drawsacennu a gwrth-rythmau arbennig, a’r gerddoriaeth yn feistrolgar ar bob tro. Yn unawdydd heno, rydym wrth ein bodd o groesawu Stella Chen. Yn Rossiniana, mae Respighi’n troi eto at gerddoriaeth Rossini am ysbrydoliaeth. Yn seiliedig ar bedwar darn piano o Péchés de vieillesse (Pechodau henaint), mae’r darn yn ail-baentio cerddoriaeth Rossini yn lliwgar i greu cyfres gerddorfaol o ddyfnderoedd bywiog a llawn mynegiant – y cymar perffaith i waith nad oes angen fawr o gyflwyniad iddo – agorawd Rossini i William Tell
NOS IAU 27/11/25 7.30PM
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
MARÍA HULD MARKAN SIGFÚSDÓTTIR
Oceans [premiere DU]
BARBER
Violin Concerto
RESPIGHI
Rossiniana
ROSSINI
William Tell: Agorawd –
NIL VENDITTI
Arweinydd
STELLA CHEN
Ffidil
AFON NEDD, GER PONTNEDDFECHAN OGOF FACH AR OCHR RHAEADR SGWD
VENDITTI
Arweinydd
DYDD SUL 30/11/25 3PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Cawn straeon tylwyth teg yn gymysg â hiwmor a thorcalon yn y cyngerdd hudolus hwn dan arweiniad Prif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Jaime Martín.
Gyda’i ddarluniau cerddorol byw o fynyddoedd ac ellyllon, marwolaeth a dawnsio, mae Peer Gynt Greig wedi’i ysbrydoli gan chwedloniaeth Norwy, gan blethu perlau cerddorol yn gyfres swynol a ffantasïol. Wedyn daw Artist Cenhedlaeth Newydd y BBC, Elizaveta Ivanova, i’r sbotolau i chwarae Concerto chwareus a phryfoclyd Nielsen i’r Ffliwt, cyn inni droi at fyd bale gyda Llyn yr Elyrch gan Tchaikovsky, a rhai o’r alawon mwyaf godidog a ysgrifennwyd erioed. Mae’r sgôr hynod artistig hon yn gyfuniad o ramant a thrasiedi, dawnsio telynegol cain dan len o hud a harddwch aruchel, ac andros o ddrama – yn sicr dyma gyngerdd na ddylid ei golli.
Caerdydd
GREIG
Peer Gynt Cyfres Rhif 1
NIELSEN
Concerto i’r Ffliwt
TCHAIKOVSKY
Llyn yr Elyrch (detholiad) –
JAIME MARTÍN
Arweinydd
ELIZAVETA IVANOVA
Ffliwt
Beth gewch chi well na charolau Nadolig mewn siwmperi clyd, plant yn canu’n llawen, a’r cyfle i gydganu’ch hoff ganeuon Nadoligaidd? Dim byd, siŵr iawn! Ychwanegwch ddarlleniadau gan eich hoff gyflwynwyr BBC Wales, a chyfeiliant gwych gan adrannau pres a tharo Cerddorfa Gymreig y BBC a dyna ichi’r arlwy Nadolig perffaith ar brynhawn Sul i’r teulu cyfan.
Ymunwch â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC gyda’u cyfarwyddwr artistig Adrian Partington, ynghyd â Chôr Plant unedig o ysgolion ledled Cymru yn ein parti Nadolig serennog blynyddol.
DYDD SUL 14/12/25 5PM Neuadd Brangwyn, Abertawe
ADRIAN PARTINGTON Arweinydd
CORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
COR PLANT UNEDIG
Bydd y Gwyliau’n parhau gyda Cherddorfa
Genedlaethol Gymreig y BBC eleni mewn cracer o gyngerdd gyda’ch hoff ganeuon Nadolig i gyd – o White Christmas, Let It Snow, Sleigh Ride ac It’s Beginning to Look a Lot Like Christmas, i Santa Baby, When a Child is Born ac All I Want for Christmas
Gyda threfniadau symffonig byrlymus gan y cyfarwyddwr cerdd a’r arweinydd Richard Balcombe, a pherfformiadau gan y sêr canu Katie Birtill a Graham Bickley, mae’r cyngerdd hwn yn siŵr o gynnau ysbryd y Nadolig.
NOS IAU 18/12/25 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
NOS WENER 19/12/25 7.30PM Neuadd Brangwyn, Abertawe
RICHARD BALCOMBE Arweinydd
KATIE BIRTILL & GRAHAM BICKLEY Unawdwyr
18/12/25 YN UNIG
Gan ddilyn egwyddor Cadavre exquis – sef ysgrifennu
llinell ar ddarn o bapur, ei blygu drosodd a’i basio ymlaen i’r person nesaf i ychwanegu llinell –mae Alders Hillborg yn cymryd dyfyniadau gan gyfansoddwyr eraill a’u mowldio gyda’i gilydd i greu
Exquisite Corpse, collage cerddorol sy’n anhrefnus ond yn hynod o hardd. Wedyn croesawn yr hybarch
Alban Gerhardt yn ôl at Gerddorfa Gymreig y BBC i berfformio’r première byd o Goncerto Augusta Read
Thomas i’r Soddgrwth.
Wedi’i ysbrydoli gan chwedlau’r Kalevala, mae Cyfres
Lemminkäinen Sibelius yn llawn anturiaeth Ffinnaidd. Opera fytholegol oedd y cynllun gwreiddiol, ond mae’r cathlau symffonig a ddeilliodd yn hollol hudolus. Ar ôl agoriad dirgel a thywyll, ceir dawns werin lawen, uchafbwyntiau ffrwydrol a chyffro pefriog yn eu tro, heb anghofio alaw lesmeiriol gysegredig Alarch
Tuonela yn nofio trwy deyrnas y meirw, wedi’i chanu’n hyfryd gan y cor anglais unigol.
NOS IAU 8/1/26 7.30PM
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
ALDERS HILLBORG
Exquisite Corpse
AUGUSTA READ THOMAS
Cello Concerto [premiere byd]
SIBELIUS
Cyfres Lemminkäinen
RYAN BANCROFT
Arweinydd
ALBAN GERHARDT
Soddgrwth
Wedi’i ysbrydoli gan haul yr Eidal a’r alawon dawns hwyliog yr arferai eu chwarae yn ei ieuenctid gyda’i gyfaill o Hwngari ar y ffidil, mae Concerto gogoneddus Brahms i’r Ffidil fel petai’n crynhoi enaid yr offeryn. O’i alawon esgynnol, breuddwydiol a mawreddog i fwrlwm hwyliog y diweddglo, mae’n gosod llwyfan berffaith i unrhyw feiolinydd arddangos ei feistrolaeth, ac rydym yn falch iawn o groesawu doniau Johan Dalene yn ôl fel unawdydd.
Natur oedd yr ysbrydoliaeth hefyd i Symffoni Gyntaf Mahler, sef harddwch a llên gwerin yr Alpau a choedwigoedd Awstria y tro hwn. Ceir naws dawns fywiog a blas y pridd yn agoriad y symffoni feistrolgar hon, a chlywn nodau gorymdaith angladdol a’r newid o dywyllwch y storm i’r goleuni yn y symffoni gyntaf uchelgeisiol hon gan gyfansoddwr a ddeuai’n feistr ar y ffurf. Daw’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ei ôl atom i arwain y gerddorfa.
BRAHMS
Concerto i’r Ffidil
MAHLER
Symffoni Rhif 1 ‘Titan’ –
RYAN BANCROFT
Arweinydd
JOHAN DALENE
Ffidil
RACHMANINOV
Concerto i’r Piano Rhif 4
Daw’r arweinydd Gemma New yn ôl at Gerddorfa Gymreig y BBC ym mis Ionawr gyda rhaglen o gampweithiau Rwsiaidd, gan ddechrau gyda gwaith nad oes angen llawer o gyflwyniad iddo, sef Symffoni ‘Glasurol’ bywiocaol Prokofiev. Er nad yw’n waith hir, mae’r gwaith poblogaidd hwn yn arddangos hynny o nerth sydd gan ‘gerddorfa glasurol’ i’r eithaf ac mae’n parhau i fod gyda’r mwyaf poblogaidd o weithiau Prokofiev gan berfformwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd.
Gweithiau eraill poblogaidd iawn yw concerti piano Rachmaninov, ac yma cawn brofi reid wyllt harmoniglachar, sinematig a thanllyd ei Bedwerydd Concerto. I ateb y galw poblogaidd, pleser o’r mwyaf yw croesawu’r pianydd o Wcráin, Vadym Kholodenko, enillydd gwobrau lu, yn ôl atom fel unawdydd. Ac i gloi’r cyngerdd, Chweched Symffoni emosiynol ac ysgubol Tchaikovsky, sy’n ein cario drwy anobaith tywyll sy’n ddigon i’n llethu â’i ddwyster, yna dawnsiau bywiog ac ymdeithganau tanbaid cyn i’r Pathétique farw’n ddim yn y campwaith aeddfed anghyffredin hwn.
TCHAIKOVSKY
Symffoni Rhif 6 ‘Pathétique’ –
GEMMA NEW Arweinydd
VADYM KHOLODENKO
Piano
GOLEUDY TŴR MAWR, YNYS LLANDDWYN, YNYS MÔN GOLYGFA O’R GOLEUDY A THU HWNT AR DDIWRNOD O HAF
TRAETH HARLECH, HARLECH
HAUL GYDA’R NOS DROS Y TWYNI TYWOD
Mae’r hen yn cwrdd â’r newydd yn Three Pieces in Old Style gan Górecki. Wedi’u hysbrydoli gan ysgrifau ar hen gerddoriaeth Gwlad Pwyl a than ddylanwad cerddoriaeth foddol wedi’i chyfuno â cherddoriaeth werin, mae’r darnau swynol hyn yn crynhoi cyfaredd soniarus cerddoriaeth Górecki a’i waith ysgrifennu ar gyfer llinynnau.
DYDD SADWRN 7/2/26 3PM
Neuadd Brangwyn, Abertawe
DYDD SUL 8/2/26 3PM
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
G Ó RECKI
O egni ymwthiol ac angerdd rhythmig y symudiadau agoriadol i dawelwch a cheinder y Domine Deus, mae gwaith chwareus a theatrig Poulenc, Gloria, nid yn unig yn fynegiant o’i ymroddiad dwfn i’r ffydd, ond yn esiampl o’i arddull gerddorol unigryw. Mae rhythmau nerthol a harmonïau dyfeisgar ar dân yma mewn gwaith eithaf drygionus a phryfoclyd ei naws. Mae Wythfed Symffoni Dvořák yn dân gwyllt o symffoni, yn llawn bywyd ac egni, gydag alawon bachog di-rif a llawenydd di-ben-draw, ac i arwain y gerddorfa mae’n bleser mawr croesawu’r arweinydd byd-enwog o Wlad Pwyl Michał Nesterowicz i arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC am y tro cyntaf. 8/2/26
Three Pieces in Old Style POULENC
Gloria
DVOŘÁK
Symffoni Rhif 8 –
MICHAŁ NESTEROWICZ
Arweinydd
SOPHIE BEVAN
Soprano
CORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
CENNIN PEDR AR DIRWEDD CYMRU
Dewch i brofi’r diweddaraf ym maes cyfansoddi yng
Nghymru y gwanwyn hwn wrth i gyfansoddwyr sy’n haeddu sylw ehangach gael cyfle i weithio gyda Jac van Steen a’r Cyfansoddwr Cysylltiedig Gavin Higgins ar eu cyfansoddiad cerddorfaol diweddaraf, a’i glywed yn dod yn fyw gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Cynhelir y gweithdai agored hyn a’r cyngerdd terfynol mewn cydweithrediad â Nimbus Lyrita Arts, Tŷ Cerdd, Cyfansoddwyr Cymru a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru, ac mae’r prosiect blynyddol hwn yn cefnogi datblygiad ac amlygiad doniau cyfansoddi Cymru ac yng Nghymru.
GWEITHDAI AGORED
DYDD MERCHER 11/2/26
2-5PM & 6-9PM
DYDD IAU 12/2/26
10AM-1PM & 2-5PM
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
CYNGERDD TERFYNOL
NOS WENER 13/2/26 7PM
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
JAC VAN STEEN Arweinydd
CYNGERDD TERFYNOL
Prynwchdocynnau am ddim ond £6 argyfereinholl gyngherddau, ymmhobuno’n lleoliadau!
BBC CANWR Y BYD CAERDYDD: DATHLIAD
Dewch i fwynhau lleisiau gorau’r byd mewn
Cyngerdd Gala trawiadol yng Nghanolfan
Mileniwm Cymru, ar gyfer Llais, rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.
Gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, mae’r digwyddiad hwn, sydd yma am un noson ac un noson yn unig, yn gyfle i fwynhau Canwr y Byd cyn iddo ddychwelyd yn 2027.
Bydd yn cael ei ffilmio ar gyfer BBC Two Wales a BBC Four – peidiwch â cholli allan!
Mae BBC NOW – NOW! yn ôl y gwanwyn yma gan ddod â’r gerddoriaeth newydd orau i chi o bob cwr o’r byd. Cyflwynwn bum première i wledydd Prydain, gan gychwyn y noson gyda Valedictions Isabella Gellis, sy’n archwilio’r teimlad a’r wefr o fynd i mewn i goedwig ddychmygol gyda sibrwd ysgafn yn gwau’n chwareus o gwmpas llinellau melodig crefftus, cyn symud ymlaen at Goncerto Deborah Pritchard i’r Trombôn, ‘Light Circle’, a ysgrifennwyd ar gyfer ein hunawdydd heno, Peter Moore.
Mae Confluere, sef ‘cydlifo’ yn Lladin, yn cyfuno dau brif fotiff sy’n archwilio lliwiau a synau’r gerddorfa i greu haenau a gweadau sain unigryw yn y première hwn o waith Juste Janulyte, cyn i Azinheira Hannah Eisendle ddefnyddio cerddoriaeth i archwilio cyfnewidioldeb deilen y dderwen fythwyrdd sy’n egino yn y gwanwyn. I gloi, cawn glywed musica pyralis Katherine Balch, sy’n cyfleu byd natur y nos yn Connecticut, o’r pryfed tân sy’n gwylaidd oleuo’r awyr i gacoffoni’r brogaod a’r criciaid, hyn oll drwy drefniant cerddorfaol dyfeisgar. I arwain y gerddorfa rydym yn falch iawn o groesawu Jack Sheen am ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Gymreig y BBC.
NOS IAU 19/2/26 7.30PM
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
ISABELLA GELLIS Valedictions [premiere DU]
DEBORAH PRITCHARD
Trombone Concerto ‘Light Circle’ [premiere DU]
JUSTE JANULYTE
‘Confluere’ for Chamber Orchestra [premiere DU]
HANNAH EISENDLE Azinheira [premiere DU]
KATHERINE BALCH musica pyralis [premiere DU]
–
JACK SHEEN Arweinydd
PETER MOORE Trombôn
COEDWIG MELIN Y NANT, WRECSAM
SAETHIAD DATGUDDIAD HIR O RAEADR YN Y GOEDWIG
Mae’r pianydd llawchwith anhygoel, Nicholas
McCarthy, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Gymreig y BBC yng Nghoncerto emosiynol bwerus a hynod feistrolgar Ravel i Biano Llaw Chwith.
Mewn byd canoloesol o freuddwyd a ffantasi, mae Pelléas et Mélisande yn rhoi hanes triongl serch tyngedfennol a’i dranc anochel, a adroddwyd ym melodrama Maeterlinck o’r un enw. Yn soniarus ddwys, yn dywyll gryf ac yn gythryblus ei harmonïau, mae’r campwaith hwn yn dal yn un o weithiau cyngerdd mwyaf poblogaidd Sibelius. Roedd Chausson yn fyfyriwr i Massenet a Franck, ac yn gyfansoddwr caneuon toreithiog, ond ei unig symffoni yw’r gwaith sy’n sefyll fel un o’i weithiau pwysicaf. O afiaith iachus y symudiad agoriadol, i ddwyster distaw’r symudiad araf a drama befriog y diweddglo, dyma symffoni ddychmygus, lliwgar, mawreddog a melodaidd feistrolgar sy’n un pecyn perffaith.
NOS IAU 26/2/26 7.30PM
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
SIBELIUS
Pelléas et Mélisande
RAVEL
Concerto i’r Piano ar gyfer Llaw Chwith
CHAUSSON
Symffoni yn B-leiaf –
CLELIA CAFIERO
Arweinydd
NICHOLAS MCCARTHY
Piano
Cyfansoddodd David Ivor Davies, y seren llwyfan a sgrin o Gaerdydd oedd yn adnabyddus i filiynau fel Ivor Novello, dros 230 o ganeuon a gyhoeddwyd yn ystod ei oes, llawer ohonynt yn deillio o’i wyth sioe gerdd yn y West End a lenwodd ffurfafen y Theatr Gerddorol ym Mhrydain am dri degawd.
NOS WENER 6/3/26 7.30PM
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Ymunwch â Cherddorfa Gymreig y BBC a dau ganwr o fri, dan arweiniad Ian McMillan-Davidson, sy’n arbenigwr ar Novello, 75 mlynedd i’r diwrnod ers ei farwolaeth gynamserol ar Fawrth 6 1951, i ddathlu etifeddiaeth y cyfansoddwr Cymreig hwn mewn
Teyrnged Gala arbennig i sioe gerddoriaeth fyw fwyaf hirhoedlog y BBC, ‘Friday Night is Music Night’, yn fyw o Neuadd Hoddinott y BBC ac ar BBC Radio 3.
Yn cyfuno’r Britten nodweddiadol â sawrau
Coplandaidd ac awgrymiadau jazz, American Overture
gan Britten sy’n agor y noson heno dan faton yr enwog Tomas Djupsjöbacka, cyn i’r sacsoffonydd disglair Steven Banks ymuno â Cherddorfa Gymreig y BBC ar gyfer première y Deyrnas Unedig o Love
Letters gan Joan Towers, gwaith er cof am ei diweddar ŵr, sydd, er yn llawn hiraeth a thristwch, yn llifeiriant diddiwedd o ras a thynerwch.
I ddathlu 100 mlynedd ers ei farwolaeth, cawn brofi Weber trwy lygaid Hindemith wrth i ni droi at ei Drawsffurfiad Symffonig o Themâu gan Weber, lle mae’n cymryd rhai o themâu mwyaf anghyfarwydd
Weber ac, er ei fod yn dyfynnu’r gerddoriaeth yn uniongyrchol, yn newid popeth o’u cwmpas yn radical, o’r harmoni a’r alawon eilaidd i’r estyniadau melodig a’r trefniannau cerddorfaol. Ond yn gyntaf, cawn berfformiad o Ail Symffoni ddigri a swynol Weber ei hun.
NOS IAU 12/3/26 7.30PM
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
BRITTEN
An American Overture
JOAN TOWER
Love Letters [premiere DU]
WEBER
Symffoni Rhif 2
HINDEMITH
Trawsffurfiad Symffonig
Themâu gan Carl Maria von Weber –
TOMAS DJUPSJÖBACKA
Arweinydd
STEVEN BANKS
Sacsoffon
Gan agor â thema hollol hudolus a llawn mynegiant, mae Concerto Sibelius i’r Ffidil yn llawn tensiwn a harmonïau pruddglwyfus, wedi’u paru ag alawon hyfryd o brydferth ac egni aruthrol. Yn gyffrous o feistrolgar yn ei ysgrifennu ac yn brawf gwirioneddol i unrhyw berfformiwr, mae’n bleser amheuthun cael croesawu’r hynod dalentog Liya Petrova ar y ffidil i ddiddanu cynulleidfaoedd yn Aberystwyth a Bangor ym mis Mawrth.
Rhwng chwythbrennau disglair a llinynnau prysur, mae alawon gwerinaidd yn ymblethu mewn dawns fywiog wrth i hyrddiau anterthol arwain at fawredd urddasol yn Symffoni Gyntaf swynol aeafol Tchaikovsky, sy’n gorlifo o’i ddawn symffonig nodweddiadol grefftus o’r cychwyn cyntaf. Ond agorwn y noson gydag Agorawd Concerto beiddgar a meistrolgar Grace Williams o’r Barri – arddangosfa gynnar o’i dawn arbennig i ysgrifennu mewn genre oedd yn annwyl ganddi, i’r Gerddorfa.
NOS IAU 19/3/26 7.30PM
Canolfan y Celfyddydau
Aberystwyth
NOS WENER 20/3/26 7.30PM
Neuadd Prichard-Jones, Bangor
WILLIAMS
Concert Overture
SIBELIUS
Concerto i’r Ffidil
TCHAIKOVSKY
Symffoni Rhif 1 ‘Breuddwydion y Gaeaf’ –
NIL VENDITTI
Arweinydd
LIYA PETROVA
Ffidil
PARC GWLEDIG MARGAM, PORT TALBOT ACHLUD HAUL DROS GLYCHAU’R GOG YNG NGHOEDWIG DEG ERW
CADWCH Y DYDDIAD
Dathlu 90 mlynedd o ddarlledu gan y BBC ym Mangor
Nodwch y dyddiad ar gyfer noson fawreddog gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a BBC Radio Cymru yn Pontio. Artistiaid i’w cyhoeddi.
NOS SADWRN 21/3/26 8PM Pontio, Bangor
JOHN QUIRK Arweinydd
Gan ddod â phŵer opera i’r llwyfan gyngerdd, mae symffoni olaf-ond-un Mozart yn ddosbarth meistr angerddol mewn tensiwn a rhyddhad. Mae’r symudiad agoriadol tywyll dwys yn ildio i Andante ysgafnach mwy telynegol, ac mae digonedd o olau a chysgod wrth i’r Minuet cryno arwain at Drio lliwgar cyn i’r symudiad olaf iasol o gythryblus ddirwyn y campwaith hwn i ben.
Mewn gwaith tyner a phersonol iawn, mae Requiem telynegol Brahms yn sefyll fel un o weithiau corawl gorau’r byd. Wedi’i ysgrifennu ar ôl marwolaeth ei fam, gan nodi trobwynt yn ei yrfa, does dim litwrgi’n perthyn i’r Requiem hwn er mor gysegredig yw’r naws. Yn hynny o beth mae’n sefyll mewn cyferbyniad clir â gweithiau requiem adnabyddus eraill sy’n seiliedig ar yr Offeren Ladin, fel rhai Verdi neu Mozart. Mae tawelwch a bodlondeb pwerus y gwaith yn ennyn gobaith a defosiwn sy’n siarad ar lefel wirioneddol ddynol, gan daro deuddeg gyda chynulleidfaoedd heddiw lawn gymaint â phan gafodd ei ysgrifennu.
SYFRDANOL
NOS IAU 26/3/26 7.30PM
Neuadd Brangwyn, Abertawe
MOZART
Symffoni Rhif 40
BRAHMS
Ein deutsches Requiem –
THOMAS ZEHETMAIR
Arweinydd
ELIZABETH WATTS
Soprano
ANDREW FOSTERWILLIAMS
Bariton
CORWS CENEDLAETHOL
CYMREIG Y BBC
Er mai yn ystod ei blynyddoedd yn Llundain y cyfansoddodd hi’r gwaith, hiraeth am lan môr ei thref enedigol, y Barri, sy’n ysbrydoli’r darn sy’n agor ein cyngerdd heno, Sea Sketches gan Grace Williams. Daw’r feiolinydd Akiko Suwanai yn ôl i berfformio
Trydydd Concerto Saint-Saëns i’r Ffidil, cyn i ni droi at Enigma Variations eiconig Elgar, hyn oll dan arweiniad ein Prif Arweinydd Gwadd, Jaime Martín.
Gan daro cydbwysedd rhwng yr ysgafn a’r aruchel, mae Variations Elgar yn gasgliad dyfeisgar o frasluniau cerddorol o’i ffrindiau ynghyd â hunanbortread craff; ac mae enigma wedi’i guddio o fewn y sgôr gan fod pob amrywiad wedi’i dagio â llythrennau cyntaf llysenwau’r ffrindiau.
DYDD SADWRN 18/4/26 3PM
Neuadd Brangwyn, Abertawe
DYDD SUL 19/4/26 3PM
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
WILLIAMS
Sea Sketches
SAINT-SAËNS
Concerto i’r Ffidil Rhif 3
ELGAR
Enigma Variations –
JAIME MARTÍN
Arweinydd
AKIKO SUWANAI Ffidil
19/4/26 YN UNIG
PONT-RHYD-Y-BONT, YNYS MÔN
TANYPISTYLL,
Mae Concerto Beethoven i’r Ffidil mor boblogaidd gyda chynulleidfaoedd heddiw fel ei bod efallai’n syndod na wnaeth fawr o argraff yn ei berfformiad cyntaf. Gan agor gyda thapio ar y drwm a allai fod yn jazz, dilynir y symudiad agoriadol eang a chain gan set o themâu ac amrywiadau, yn dawel a hardd, cyn i Rondo bachog a bywiog ffrwydro’n egnïol i gloi’r gwaith, mewn perfformiad gan y ddihafal Veronika Eberle.
Mae Concerto George Benjamin i’r Gerddorfa yn dal ysbryd, hiwmor ac egni di-baid y sawl y mae wedi’i gyflwyno iddo, sef y diweddar Oliver Knussen. Mae’n gampwaith amrywiol a deinamig sy’n disgleirio gydag eglurder a manylder wrth i bob aelod o’r gerddorfa ddod yn unawdydd yn ei dro. Yn olaf, mae trafferthion daearol yn arwain at hapusrwydd nefol ym Marwolaeth a Thrawsnewid Strauss. I arwain y gerddorfa, rhown groeso’n ôl i’r arweinydd arobryn o Ffrainc, Alexandre Bloch.
NOS IAU 14/5/26 7.30PM
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
NOS WENER 15/5/26 7.30PM
Neuadd Brangwyn, Abertawe
BEETHOVEN
Concerto i’r Ffidil
GEORGE BENJAMIN
Concerto for Orchestra
STRAUSS
Tod und Verklärung
(Marwolaeth a Thrawsnewid)
–
ALEXANDRE BLOCH
Arweinydd
VERONIKA EBERLE
Ffidil
TYDDEWI, SIR BENFRO GOLWG O’R AWYR O DYDDEWI, YR EGLWYS GADEIRIOL A CHEFN GWLAD ODDI AMGYLCH
Bydd y bythol boblogaidd Martyn Brabbins yn dychwelyd i BBC NOW fis Mai eleni wrth i ni deithio i Dyddewi ar gyfer Gŵyl flynyddol y Gadeirlan. Ysgrifennwyd Ballade gan Samuel Coleridge-Taylor ar gyfer Gŵyl y Tri Chôr 1898, ac mae’n waith llawn dyfeisgarwch ac egni ffrwydrol. Bydd Ivan Karizna yn ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW i berfformio Concerto Huw Watkins i’r Soddgrwth. Mae mynegiant hyfryd ac alawon telynegol yn crisialu scherzo chwareus yn y gwaith hwn a ysgrifennwyd ar gyfer brawd Watkins a BBC NOW yn ystod ei flynyddoedd fel Cyfansoddwr Cyswllt y Gerddorfa. Byddwn hefyd yn archwilio esblygiad Beethoven wrth iddo symud o’r cyfnod Clasurol i’r Rhamantaidd yn ei Symffoni ‘Eroica’. Gyda’i chordiau agoriadol taranllyd, ei graddfa epig a’i heffaith emosiynol, roedd Trydedd Symffoni Beethoven yn fwy mawreddog ac yn fwy dramatig na’r hyn yr oedd cynulleidfaoedd yn gyfarwydd ag ef adeg y perfformiad cyntaf. Ond mae’r gwaith meistrolgar hwn – a ysbrydolwyd gan yr arwrol Napoleon Bonaparte – yn dal i fod yn un o’i weithiau mwyaf poblogaidd, sy’n llawn egni a drama.
NOS SADWRN 23/5/26 7PM
Eglwys Gadeiriol Tydewwi
COLERIDGE-TAYLOR
Ballade
HUW WATKINS
Cello Concerto
BEETHOVEN
Symffoni Rhif 3 ‘Eroica’ –
MARTYN BRABBINS
Arweinydd
IVAN KARIZNA
Soddgrwth
GOLAU’R HAUL DRWY’R COED
Daw’r arweinydd Paweł Kapuła â gwaith o’i famwlad, Gwlad Pwyl, i lwyfan Neuadd Hoddinott y BBC wrth wneud ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa
Gymreig y BBC ym mis Mai. Mae Marta Ptaszyńska’n cymryd synau Vivaldi ac yn eu trawsnewid yn ddarlun
sain newydd, swreal bron, yn A Winter’s Tale, a ysgrifennwyd ym 1984. Bydd Artist Cenhedlaeth
Newydd BBC Radio 3, Sterling Elliott, yntau’n ymddangos am y tro cyntaf gyda’r Gerddorfa yng
Nghoncerto telynegol a myfyriol Schumann i’r
Soddgrwth, a chawn flas ar waith Mendelssohn ar ffurf stori dylwyth teg sinematig yn ei agorawd i A Midsummer Night’s Dream
Er na chaiff ei pherfformio mor aml â rhai o’i symffonïau eraill, mae Ail Symffoni Beethoven yn rhoi cipolwg inni ar Beethoven ar ei fwyaf smala. O elfennau annisgwyl a chwareus i ffrwydrad hy o lawenydd, mae llawer i’w fwynhau yn y symffoni hon o gyferbyniadau mawr.
NOS IAU 28/5/26 7.30PM
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
NOS WENER 29/5/26 7.30PM
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
MARTA PTASZYŃSKA
A Winter’s Tale
SCHUMANN
Concerto i’r Soddgrwth
MENDELSSOHN
A Midsummer Night’s Dream: Agorawd
BEETHOVEN
Symffoni Rhif 2 –
PAWEŁ KAPUŁA
Arweinydd
STERLING ELLIOTT
Soddgrwth
Daw’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft i’r podiwm ar gyfer ei gyngerdd olaf yn y swydd wrth i ni ddirwyn ein Tymor 2025-26 i ben, gan ddechrau gyda chathl symffonig Stravinsky, Cân yr Eos. Yn seiliedig ar stori dylwyth teg gan Hans Christian Andersen, cawn hanes ymerawdwr yn ei balas Tsieineaidd crand a chân ogoneddus yr eos sy’n gyfeiliant i’w fywyd.
Wedyn, bydd ein sylw i gyd ar flaenwr Cerddorfa Gymreig y BBC, Lesley Hatfield, ynghyd â’r cynbrif soddgrwth Alice Neary, ar gyfer Concerto Dwbl Brahms, cyn inni archwilio Rachmaninov ar ei fwyaf dyfeisgar. Â’i harmonïau melys newidiol a’r bywiogrwydd rhythmig sy’n nodweddiadol o’i arddull diweddarach, mae cyfansoddiad cyflawn olaf Rachmaninov, ei Ddawnsiau Symffonig, yn defnyddio motiffau sy’n deillio o gerddoriaeth Eglwys Rwsia ynghyd â dyfyniadau o’i symffoni gyntaf ei hun, gan greu cymanfa gynhyrfus rhwng hiraeth am a fu a phrysurdeb y ddinas fawr ac egni mawr yr ‘America Fodern’.
NOS IAU 4/6/26 7.30PM
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
NOS WENER 5/6/26 7.30PM
Neuadd Brangwyn, Abertawe
STRAVINSKY
Cân yr Eos
BRAHMS
Concerto i Ffidil a Soddgrwth
RACHMANINOV
Dawnsiau Symffonig –
RYAN BANCROFT
Arweinydd
LESLEY HATFIELD
Ffidil
ALICE NEARY
Soddgrwth
4/6/26 YN UNIG
Yn galw pob athro... ar 25 mis Mehefin bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio’i gyngerdd blynyddol i ysgolion yn Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd. Gwnewch nodyn yn eich dyddiadur a chadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau yn y tymor newydd.
DYDD IAU 25/6/26 12.45PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
I nodi 250 mlynedd ers llofnodi’r datganiad annibyniaeth, dyma raglen hollol Americanaidd yn cynnwys rhai o gyfansoddwyr enwocaf erioed America, o Copland, Barber a Bernstein i William Grant Still a Christopher Tin. Yn fwyaf adnabyddus am ei draciau sain i ffilm, teledu a gemau fideo, mae Christopher Tin yn enw poblogaidd ym myd cerddoriaeth sinematig heddiw, ac mae ei Goncerto i’r Piano, a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer Lara Downes, yn cael ei berfformiad cyntaf yn y Deyrnas Unedig ganddi heddiw, wythnos yn unig ar ôl ei première byd. Mae Festive Overture
William Grant Still yn rhoi naws parti i’r noson, tra bod Appalachian Spring Copland yn crynhoi ysbryd y ffin a’r ddawns. Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn flaenllaw yn nhrefniant lleisiol Barber ei hun
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Adagio for Strings wedi’i osod i eiriau’r Agnus Dei, ac mae’r Gerddorfa a’r Corws yn cyfuno’n nerthol
Chichester Psalms Bernstein, gwaith beiddgar o ysbrydol ac afieithus. I arwain y gerddorfa rydym yn croesawu’r arweinydd Affricanaidd Americanaidd enwog Kellen Gray.
COPLAND
Appalachian Spring
CHRISTOPHER TIN
Piano Concerto [premiere DU]
WILLIAM GRANT STILL
Festive Overture
BARBER
Agnus Dei
BERNSTEIN
Chichester Psalms
–
KELLEN GRAY Arweinydd
LARA DOWNES
Piano
CORWS CENEDLAETHOL
CYMREIG Y BBC
NODWEDDIADOL GORFOLEDDUS YSBRYDOLEDIG
NOS IAU 23/10/25 7.30PM
Hull City Hall
CHLOE ROOKE
Arweinydd
TOBIAS FELDMANN
Ffidil
BEETHOVEN
Agorawd Egmont
MENDELSSOHN
Concerto i’r Ffidil
SCHUBERT
Symffoni Rhif 9
NOS SADWRN 13/6/26 7PM
Eglwys Gadeiriol Caerloyw
ADRIAN PARTINGTON
Arweinydd
THOMAS TROTTER
Organ
JONGEN
Symphonie Concertante
SAINT-SAËNS
Symffoni Rhif 3 ‘Organ’
EGLWYS GADEIRIOL CAERLOYW, LLOEGR
YSBLANDER PENSAERNÏOL GOTHIG EGLWYS GADEIRIOL CAERLOYW
ALDEBURGH FESTIVAL
MIS MEHEFIN 2026
NOS SADWEN 18/7/26 7PM Lichfield Cathedral
RYAN BANCROFT Arweinydd