
Canllawiau i Gyfansoddwyr
Meini Prawf
Cyfansoddi: Cymru 2026
Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC 11-13 Chwefror 2026
Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:
• Wedi’u geni, yn byw neu’n astudio yng Nghymru
• Dros 18 oed
Gall cyfansoddwyr gyflwyno hyd at 2 waith i’w hystyried ar gyfer y prosiect.
Ni fydd sgoriau a berfformiwyd yn flaenorol gan gerddorfa broffesiynol yn cael eu hystysried ar gyfer Cyfansoddi: Cymru.
Rydym yn annog yn gryf y rhai sydd heb gymryd rhan o’r blaen yn Cyfansoddi: Cymru i wneud cais. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau gan gyfansoddwyr a ddewiswyd yn flaenorol. Bydd cyfranogiad blaenorol yn cael ei ystyried yn ystod y broses ddethol er mwyn sicrhau cyfle i’r ystod ehangaf bosibl o gyfansoddwyr.
Dyddiad Cau
Dydd Sul 28ain o Fedi 2025 erbyn 2300
Hyd Uchaf
10 munud. Nodwch for sgoriau byrrach yn cael eu croesawu. Gofynnir i gyfansoddwyr sicrhau bod yr hyd a roddir yn gywir. Ar gyfer gweithiau â sawl symudiad, dylai cyfansoddwyr nodi pa symudiad y byddent yn well ganddynt gael ei ystyried ar gyfer y prosiect.
Maint Cerddorfa BBC NOW
Gall ymgeiswyr gyflwyno cyfansoddiad ar gyfer yr offeryniaeth uchaf canlynol: 2[1.2/pic/afl].2[1.2/ca].2[1.2/bcl].2[1.2/cbn] | 4.2.3.1 | T | *2P | Hp | Str[12.10.8.6.4] *Uchafswm o 2 chwaeaewr offerynnau taro, ceir isod restr o’r offerynnau sydd ar gael i bob chwaraewr:
Chwaraewr 1 - Drwm Bas, Drwm Tenor, Drwm Snêr, 5 bloc templ, Glockenspiel,4 Tom, Tam Tam, 1 cymbal wedi’i grogi (unrhyw fath), offerynnau llaw llai e.e tambwrîn, claves, triongl, guiro, maracas, ac ati.
Chwaraewr 2 – 2 Tom, 2 Bongo, 1 cymbal wedi’i grogi (unrhyw fath), 2 gong (traw isel – traw canolig –traw amhenodol, cymeriad yr offeryn yn unig), Xylo neu fibraffon, Tam Tam, Marimba, offerynnau llaw llai e.e tambwrîn, claves, triongl, guiro, maracas, ac ati.
Am fwy o eglurder ar unrhyw agwedd o’r offerynniaeth, cysylltwch â'n llyfrgellydd naomi.j.roberts@bbc.co.uk. Nodwch fod angen cadw at osodiad safonol cerddorfa symffoni yn y neuadd, gan ni fydd amser i ail-osod y gerddoffa yn ystod y dyddiau.
Beth bydd y prosiect yn ei gynnwys?
Disgwylir i gyfansoddwyr llwyddiannus gydweithio â mentor Cyfansoddi: Cymru, Llyfrgellydd BBC NOW ac offerynwyr BBC NOW cyn y prosiect (wyneb yn wyneb neu o bell) i sicrhau bod y Gwaith a gyflwynwyd yn cael ei ddatblyu, ei ddiwygio a’i baratoi’n llawn ymlaen llaw.
Disgwylir i gyfansoddwyr llwydiannus fynychu pob sessiwn yn Neuadd Hoddinott, Caerdydd rhwng 11-13 Chwefror 2026, wyneb yn wyneb.
Bydd holl weithgareddau Cyfansoddi: Cymru rhwng 11-13 Chwefror 2026 yn cael eu recordio’n sain ar gyfer cyferiad y cyfansoddwyr.
Amserlen ar gyfer Cyfansoddi: Cymru 2026
Dydd Sul 28ain Medi 2025 erbyn 2300
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sgoriau i BBC NOW.
Dydd Llun 20fed Hydref 2025
Hysbysebu’r ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.
Dydd Llun 3ydd Tachwedd 2025
Cyfansoddwyr yn cwrdd ar-lein gyda’r Mentor Cyfansoddi a’r Cynhyrchydd Addysg.
Tachwedd 2025
• Sesiwn fentora ddigidol gyda’r Mentor Cyfansoddi a’r Arweinydd (wyneb yn wyneb neu o bell) – i’w threfnu’n uniongyrchol rhwng y mentor, yr arweinydd a’r cyfansoddwr.
• Cyfarfod digidol gyda Llyfrgellydd BBC NOW (wyneb yn wyneb neu o bell) – i’w drefnu’n uniongyrchol rhwng y llyfrgellydd a’r cyfansoddwr.
Rhagfyr 2025
• Adborth ysgrifenedig gyda offerynwyr BBC NOW ar gyfer ystyriaeth wrth olygu.
• Sesiwn fentora ddigidol gyda’r Mentor Cyfansoddi (wyneb yn wyneb neu o bell) – i’w threfnu’n uniongyrchol rhwng y mentor a’r cyfansoddwr.
Dydd Gwener 9fed Ionwar 2026
Dyddiad cau i’r cyfansoddwyr ar y rhestr fer i:
• Gyflwyno fersiwn terfynol y sgôr a’r partïon i lyfrgellydd BBC NOW.
• Gyflwyno bywgraffiad byr, nodyn rhaglen a llun ar gyfer y rhaglen.
Dydd Mercher 11eg Chwefror 2026, Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd 1400–1700 Gweithdai Cyfansoddi: Cymru 2026 – ar agor i’r cyhoedd 1800–2100 Gweithdai Cyfansoddi: Cymru 2026 – ar agor i’r cyhoedd
Dydd Iau 12eg Chwefror 2026, Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd 1000–1300 Gweithdai Cyfansoddi: Cymru 2026 – ar agor i’r cyhoedd 1400–1700 Gweithdai Cyfansoddi: Cymru 2026 – ar agor i’r cyhoedd
Dydd Gwener 13eg Chwefror 2026, Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd 14:30–17:30 Ymarfer – ar gau i’r cyhoedd, heb ffrydio byw 19:00 Cyngerdd Cyfansoddi: Cymru 2026 – ar agor i’r cyhoedd ac yn cael ei ffrydio’n
fyw
20:30 Derbyniad ôl-gyngerdd
Gwybodaeth Cyflwyno
• Cyn cyflwyno eich cyfansoddiad, llenwch y ffurflen gofrestru ar-lein hon: https://forms.office.com/e/1EqvrtDtyj?origin=lprLink
• Ar ôl cwblhau’r ffurflen ar-lein, cyflwynwch:
o PDF* o’ch sgôr
o Ffeil sain amlygiad MIDI
Gallwch gyflwyno’r sgôr a’ch ffeil MIDI yma: https://www.dropbox.com/request/ZG2fHsB2f7DuJoQgmy1z Os oes gennych unrhyw anhawster gyda’r ddolen hon, cysylltwch â rhonwen.jones@bbc.co.uk
*I sicrhau bod y broses ddethol yn ddienw, sicrhewch nad yw eich enw’n ymddangos ar unrhyw ran o’r sgôr ei hun. Mae’n iawn labelu’r ffeiliau gyda’ch enw, gan y gallwn ddienwi’r ffeiliau’n hawdd ar ôl eu derbyn.
• Derbynnir sgoriau ysgrifenedig â llaw os ydynt yn daclus ac yn ddarllenadwy. Anfonwch y rhain at:
Cyfansoddi: Cymru 2026: Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Neuadd Hoddinott y BBC, Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL
Nodwch fydd newid o staff trwy’r cyfnod cynnig gan fod Rachel dim ond yn gorchuddio mamolaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau rhwng nawr a chanol mis Awst, ebostiwch Rachel ar rachel.naylor03@bbc.co.uk. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl canol mis Awst, ebostiwch Rhonwen, pwy fydd y Cynhyrchydd addysg i Gyfansoddi: Cymru 2026 ar rhonwen.jones@bbc.co.uk.