Cyfansoddi Cymru Hysbysiad Preifatrwydd

Page 1


Cyfansoddi: Cymru Hysbysiad Preifatrwydd

Mae'n bwysig eich bod yn gallu ymddiried ynom ni. Mae hyn yn golygu bod y BBC wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi fod yn ymwybodol o sut a pham rydym yn defnyddio data personol o’r fath. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi, yn unol â’r gyfraith diogelu data.

Pam rydym yn gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn frwd dros gefnogi ac arddangos gwaith a thalent Cyfansoddwyr ledled Cymru. Mae Cyfansoddi: Cymru yn cynnig cyfle i nifer o gyfansoddwyr gael gweithdy ar eu cerddoriaeth, ei gweld yn cael ei pherfformio a’i recordio gan BBC NOW yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd.

Bydd y cyfansoddwyr hyn yn cael adborth arbenigol gan gerddorion proffesiynol yn ogystal â’u mentora gan gyfansoddwyr ac arweinyddion o'r radd flaenaf!

Gall cyfansoddwyr anfon dau (2) gyfansoddiad i'w hystyried. Llenwch ffurflen gais i roi rhywfaint o wybodaeth i ni am eich cyfansoddiad(au), gyda ffeil sain pdf a midi o’r cyfansoddiadau eu hunain.

Bydd y BBC yn casglu’r data personol drwy lwyfan ar-lein a ddefnyddir gan y BBC.

Pan fyddwch yn cyfrannu at y BBC, efallai y byddwn yn defnyddio eich cyfraniad yn ein rhaglenni neu ein cynnwys, ond ni allwn addo defnyddio popeth a gawn. Os byddwn yn darlledu eich cyfraniad, gallai hyn gynnwys bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, ac efallai y bydd eich cyfraniad yn cael ei ddefnyddio eto mewn darllediad yn y dyfodol. Gall hefyd gynnwys defnydd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y BBC.

I gael gwybod sut bydd y BBC yn prosesu eich data personol pan fyddwch chi’n cyfrannu at ein rhaglenni, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cyfranwyr yma.

Pa ddata personol fydd y BBC yn ei gasglu a sut byddwn yn ei ddefnyddio?

Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol at ddibenion cynnal y gystadleuaeth ac i gysylltu â’r ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer. Rydym yn prosesu gwybodaeth am ryw, tarddiad hiliol neu ethnig, a gwybodaeth am iechyd at ddibenion monitro amrywiaeth.

Data personol:

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i gymryd rhan yn Cyfansoddi: Cymru.

Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol amdanoch chi:

• Enw llawn

• Cyfeiriad post

• Cyfeiriad e-bost

• Rhif ffôn cyswllt

• Rhyw (dewisol)

• Cadarnhad eich bod wedi cael eich geni, neu’n byw/astudio yng Nghymru

• Manylion am eich cyfansoddiad

Bydd y BBC hefyd yn casglu ac yn prosesu’r data categori arbennig canlynol amdanoch chi:

• Hil neu darddiad ethnig (dewisol)

• Gwybodaeth iechyd (ynglŷn ag a ydych chi’n ystyried bod gennych chi anabledd)

Pwy yw’r Rheolydd Data?

Y BBC yw “rheolydd data” eich data personol. Mae hyn yn golygu mai’r BBC sy’n penderfynu ar gyfer beth mae eich data personol yn cael ei defnyddio, a sut mae’n cael ei phrosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, bydd eich data personol yn cael ei chasglu a’i phrosesu at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn unig. Fel y rheolydd data, mae gan y BBC gyfrifoldeb i gydymffurfio â chyfraith diogelu data a dangos ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith honno.

Sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol

At ddibenion cynnal y gweithdy, y sail gyfreithiol y mae’r BBC yn prosesu’r data personol arni yw cyflawni ei dasg gyhoeddus Y sail gyfreithiol y mae’r BBC yn prosesu eich data categori arbennig arni yw budd cyhoeddus sylweddol. Rôl y BBC yw gweithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy’n hysbysu, yn addysgu, ac yn diddanu.

Mae hyn yn gyson â dibenion cyhoeddus ehangach y BBC o dan ei Siarter Frenhinol, sy’n datgan bod yn rhaid i’r BBC “...dangos yr allbwn a’r gwasanaethau mwyaf creadigol, unigryw ac o’r ansawdd gorau: dylai’r BBC ddarparu allbwn o ansawdd uchel mewn sawl genre gwahanol ac ar draws amrywiaeth o wasanaethau a llwyfannau sy’n gosod y safon yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.”

Rhannu eich data personol

Mae’r BBC yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Dim ond ar ran y BBC y bydd y partneriaid hyn yn defnyddio eich data personol ac nid yn annibynnol ar y BBC.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti pan fydd hynny’n ofynnol neu pan fydd y gyfraith yn caniatáu hynny.

Cadw eich data personol

Os na fyddwch chi’n llwyddiannus, bydd eich data personol yn cael ei gadw tan fis Ebrill 2023, ac ar ôl hynny bydd yn cael ei ddileu.

Os defnyddir eich cyfraniad ar gyfer darlledu, bydd y darllediad yn cael ei storio yn ein harchif am byth.

Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU ac yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Eich hawliau a rhagor o wybodaeth

Mae gennych chi hawliau o dan y gyfraith diogelu data:

• Gallwch ofyn am gopi o’r data personol y mae’r BBC yn ei storio amdanoch chi.

• Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.

• Mae gennych hawl i ofyn i’r data personol rydym yn ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a allai roi hawl i’r BBC wrthod eich cais.

• Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol, neu wrthwynebu prosesu eich data personol.

• Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.

Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych chi gwestiynau neu os hoffech chi gael rhagor o fanylion am eich hawliau, ewch i Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC yn http://www.bbc.co.uk/usingthebbc/privacy/cy/.

Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae’r BBC wedi delio â’ch data personol, gallwch godi eich pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth https://ico.org.uk/

Diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn Byddwn yn diwygio’r hysbysiad preifatrwydd os bydd newidiadau sylweddol yn y ffordd yr ydym yn defnyddio eich data personol.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.