Y Selar - Rhagfyr 2010

Page 6

“...OS FYSAN NI’N CARIO ’MLAEN I GIGIO FEL ’DA NI WEDI BOD YN EI WNEUD AM CHWE MIS ARALL, FYSAN NI’N HUNAN YN MYND YN BORED OHONO FO” [Meddyliau Griff a finnau yn gweithio’r un peth yn amlwg gan mai’r union olygfa honno ysgogodd y cwestiwn!] Beth am chwarae gig a rhoi goleuadau Nadolig ymlaen yn Blackpool? G.L.: Na, gynnon ni fwy o class na hynna! Rhys: A ma’na rhywun yn Blackpool sydd ddim yn rhy cîn arnan ni! [pawb yn chwerthin ac yn edrych ar Osian] G. P.: Oes, ma’ gynnon ni elynion yn Blackpool. Ond os fysa ni’n cal cynnig goleuada’ Llanbêr ella... Mae aelodau’r band i gyd yn cyfrannu’n lleisiol ar ganeuon yr EP. Gofynnais felly sut y mae hynny’n gweithio? Ai pwy bynnag sy’n sgwennu’r gân sy’n canu? G.L.: Ia, fwy neu lai. Pan ti’n gweld ni’n chwara’n fyw, mae o’n fwy o gôr nag un person yn canu. Mae gen ti harmonïau, a lleisiau gwahanol yn cymryd y lead ar adegau gwahanol, hwnna ’di’r peth pwysica’ pan ’da ni’n chwarae’n fyw. Ond yr hyn ti’n gal ar yr EP ydi pwy bynnag sydd wedi sgwennu’r gân yn canu. Golyga hynny wrth gwrs nad oes gan y band un prif ganwr fel y cyfryw, ydi hynny’n beth da neu ddrwg? G.L.: Ar yr EP ella fod o’n swnio fel’na, ond yn fyw neith fi a Gruff wneud y rhan fwyaf o’r siarad ag ati, a ni’n dau sy’n canu’r rhan fwyaf o’r caneuon, ond ia, ella nad oes ‘na frontman ar yr EP, mae o’n fwy o gasgliad o ganeuon pawb.

G. P.: Dyna sut ydan ni fel band, achos ma’ pawb yn dueddol o chwarae pob offeryn hefyd. Dim ond rhywbeth sydd wedi digwydd ydi o, does na’m llawar o feddwl wedi mynd i mewn i’r peth. Ydi, mae hi’n hen ddadl, ond gan fod ychydig o’r iaith fain ar yr EP rhaid oedd imi godi’r peth. Does dim caneuon Saesneg arni ond yn hytrach caneuon dwyieithog. Beth yw barn Yr Ods ar y saga oesol yma? Fyddai’r band yn ystyried recordio rhywbeth uniaith Saesneg? Oes posib gneud arian wrth ganu’n Gymraeg yn unig? Rhys: ’Da ni wedi recordio’n Saesneg o’r blaen a dwi’m yn meddwl ei fod o’n big deal i ni. Beth bynnag sy’n dod i feddwl rhywun sy’n sgwennu unrhyw gân mewn unrhyw iaith - dyna ydi hi wedyn, does na’m cwestiwn o foesoldeb yn y peth. G.L.: Dwi’n meddwl fod ein cydwybod ni i gyd yn glir o ran y Gymraeg. Fedra i weld pobol yn gwylltio achos ein bod ni’n canu’n Saesneg, ond rhaid i chdi feddwl amdano fo ... tydi pobol ddim yn gwylltio gan fod Bryn Terfel yn canu’n Eidaleg, ’di pobol ddim yn gwylltio gan fod Catrin Dafydd yn sgwennu llyfr yn Saesneg - mae hynny i’w weld yn iawn, ond os oes ’na fand Cymraeg yn ei

“pan welwch chi albwm gennon ni ... ella fydd o dipyn bach o sioc” 6

neud o ma’n ymddangos bod ’na rhyw issue. G.P.: Ma’n gweithio dwy ffordd hefyd. Pan ’da ni’n chwarae yn Llundain mi wnawn ni set o chwe chân efo pump ohonyn nhw’n Gymraeg. Ond pan ti’n chwarae’r un set yng Nghymru, y trac Saesneg yna sy’n sefyll allan i bobol. Osian: Dwi’n meddwl mai’r broblam fwya’ ydi ei bod hi’n amhosib gwneud bywoliaeth ^ allan o Gymru rw an. Ac os wyt ti ddim yn sgwennu stwff Saesneg ti’n blancio’r opsiwn yna allan dwyt - Ti jest yn mynd i aros yng Nghymru a ’di o jest ddim yn bosib gneud pres ohono fo. Rhys: Peth trist. Ond pe bai’r opsiwn yno, a fyddai Yr Ods yn mynd yn llawn amser? G.P.: Yn sicr, ond tydi o ddim yn rwbath ti’n ystyried deud gwir... G.L.: ’Da ni ddim mewn sefyllfa i wneud hynny o gwbl ar hyn o bryd, a dyna pam ’da ni’n cymryd y brêc yma i ystyried ein hopsiynau. Os ydan ni’n gweld: Ydan, ’da ni isho gneud lot mwy mi weli di fwy o stwff Saesnag, ond ar y funud mwy o stwff Cymraeg weli di gan ein bod ni ddim ynddo fo’n llawn amsar. Osian: Problam arall sgin ti ydi, a phaid ag yng nghal i’n rong, ma’ gigs Cymraeg


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.