Y Selar - Mawrth 2022

Page 1

Rhif 62 // MAWRTH // 2022


Ar gael o’ch siop lyfrau leol

#CaruDarllen #CefnogiSiopauLlyfrau


y Selar Rhif 62 // MAWRTH // 2022

Golygyddol Wedi deg mlynedd fel golygydd Y Selar, mae’r amser wedi dod i mi roi’r dictaffon yn ôl yn y drôr. Hoffwn ddiolch i bob adolygydd, cyfrannydd a ffotograffydd yr wyf wedi cydweithio â hwy yn ystod y cyfnod hwnnw. A’r artistiaid anhygoel hefyd wrth gwrs, sydd wedi bod yn hael â’u hamser ac yn awyddus i rannu eu cerddoriaeth a’u straeon bob tro. Dwi’n gwybod fod gan bawb syniadau eu hunain am oesoedd aur cerddoriaeth Gymraeg ac ati, mae o’n rhywbeth personol a sentimental iawn i bobl. Ond dwi wirioneddol yn meddwl fy mod i wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn y rôl yma yn ystod cyfnod arbennig i’r sin. Tydi hi ddim yn berffaith wrth gwrs, mae yna waith i’w wneud ar y sin fyw, a oedd yn orddibynnol ar nifer fechan o leoliadau ac unigolion gweithgar hyd yn oed cyn y pandemig. Ond o ran safon ac amrywiaeth y gerddoriaeth sydd yn cael ei chreu, dwi ddim yn meddwl fod cyfnod cystal wedi bod. Mae’r diolch olaf, a’r mwyaf, wrth gwrs i chi’r darllenwyr. Parhewch i gefnogi cerddoriaeth Gymraeg a pharhewch i ddarllen Y Selar! Gwilym Dwyfor

Mari Mathias

4

Sgwrs Sydyn - Breichiau Hir

8

Papur Wal

10

Enillwyr Gwobrau’r Selar

14

10 Uchaf Albyms 2021

16

Pwy? Beth? Lle? Pryd? Pam? 1 8 Newydd ar y Sin

20

Adolygiadau

22

’Nabod y Pod

25

Colofn Lauren Moore

26

Trac wrth Drac

Llun clawr: Papur Wal

4

GOLYGYDD UWCH OLYGYDD

8

Gwilym Dwyfor Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com) HYSBYSEBION

yselar@live.co.uk

CYFRANWYR Tegwen Bruce-Deans, Steffan Rees, Rhys Ifor, Gruffudd ab Owain, Elain Llwyd, Bethan Williams, Lois Gwenllian, Lauren Moore Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa.

10

18

@y_selar facebook.com/cylchgrawnyselar yselar.cymru

Diolch yn fawr i gyfeillion Y Selar (aelodau Rheolwr a Prif Ganwr Clwb Selar): Ywain Gwynedd, I KA CHING, Targed, Antoni a Dawn Schiavone, Gruffydd Davies, Illtud Daniel, Chris Roberts, Gethin Griffiths. Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau.’



Fforio Annwn gyda Mari Mathias

Mae’n teimlo fel oes arall pan enillodd Mari Mathias Frwydr y Bandiau Eisteddfod Llanrwst. Gyda’r Eisteddfod yn dychwelyd eleni ac yn ymweld â sir enedigol yr artist gwerin cyfoes mae hi’n rhyddhau ei albwm cyntaf. Yr amser perffaith felly i Tegwen Bruce-Deans ei holi ar ran Y Selar.

M

ae llawer yn gweld cyhydnos y gwanwyn yn gyfle i ailddeffro wedi trwmgwsg y gaeaf. A pha ffordd well i’r cerddor Mari-Elen Mathias nodi’r dechreuad newydd hwn na thrwy groesawu ei halbwm cyntaf, Annwn, i’r byd? A hithau’n fwyaf adnabyddus i ni efallai fel enillydd y Brwydr y Bandiau diwethaf cyn i’r pandemig gydio ’nôl yn 2019, mae’n amlwg fod ansefydlogrwydd y byd cerddoriaeth ers hynny wedi ei gwneud hi’n anodd i Mari sefydlu ei hun fel artist yn y ffordd arferol. Ond, wrth sgwrsio â hi am ryddhau Annwn eleni, mae’n teimlo fel bod yr artist ifanc hwn wedi blodeuo’n gerddor uchelgeisiol er gwaethaf y ddwy flynedd diwethaf. Yr hyn sy’n eich taro chi gyntaf wrth wrando ar draciau agoriadol a chlo’r albwm yw’r defnydd o recordiadau casét yn plethu gydag arddull werin gyfoes Mari ei hun. Anorfod, felly, oedd holi beth yw hanes y recordiadau hyn, i ddeall yn well yr hyn sy’n fframio’i halbwm début. “Wnes i ddarganfod casgliad o dapiau casét fy

hen ddatcu yn yr atig yn ystod y cyfnod clo cyntaf,” meddai. “Y llais ar ddechrau’r albwm yw Dats, felly, yn canu cân draddodiadol o’r enw ‘Cartref’, a thrwy gydol yr albwm gallech chi glywed samplau o’r casetiau sy’n mynd a dod fel adleisiau o’r gorffennol. “Mae’r hen recordiadau yn actio fel ffenestr i le ac amser sydd ddim yn bodoli bellach, ond yn atgof o fy nheulu. Roedd adrodd straeon a chaneuon yn rhan bwysig o fy magwraeth, fel llawer o bobl sy’n cael eu magu yng nghefn gwlad Cymru. Mae’r traddodiad o straeon yn cael eu hailadrodd, eu hail-ddychmygu a’u rhoi ar gân yn hen draddodiad, ac yn un roeddwn i eisiau rhoi persbectif fy hun arno.

“Mae angen mwy o gydraddoldeb mewn mannau dyw’r cyhoedd ddim o reidrwydd yn eu gweld.” yselar.cymru

5


“Er wnes i erioed gwrdd â fy hen ddatcu, dwi ’di gallu dod i’w adnabod e trwy’r recordiadau hyn. Mae’n swnio’n rhyfedd, ond rwy’n teimlo ’mod i ’di ffurfio perthynas gyda rhywun nad yw yma bellach efallai, ond sydd wedi cael effaith ar bwy ydw i.” Mae’n amlwg fod y cyswllt hwnnw â’r gorffennol yn bwysig i Mari, ac yn sbarduno llawer o greadigrwydd yr albwm. Ond pam rhoi enw fel Annwn, y byd arall yn chwedlau’r Mabinogi, fel teitl ar albwm sy’n cynnwys cymaint o realiti crai fel hen recordiadau? “Mae’r albwm yn priodi elfennau o realiti gyda llên gwerin,” eglura. “Mewn ffordd, credaf fod llên gwerin yn gyffredinol, caneuon a straeon i gyd yn cynnwys elfennau o wirionedd. Roeddwn i eisiau creu clogyn amser mewn ystyr, trwy gysylltu straeon fel y Mabinogi gyda hanesion mwy diweddar a’i lleisiau a synau go iawn. “Mae’r syniad o glogyn amser yn cael ei adleisio dwi’n meddwl fel tic tic y casét wrth iddo droi, sy’n swnio fel tician y cloc neu rythm afon sy’n llifo.”

Ac nid Mari yw’r unig un yn ei theulu sy’n cael ei hysbrydoli gan y syniad o adfywio traddodiadau a chreu cysylltiadau rhwng y gorffennol, y presennol, realiti a llên gwerin. Artist gweledol yw Meinir Mathias, mam Mari, ac un o’i chyfresi o bortreadau mwyaf trawiadol yw’r gyfres yn seiliedig ar foderneiddio Merched Beca – mudiad hanesyddol sy’n sail i’r trac ‘Chwyldro’ ar Annwn hefyd. “Rwy’n meddwl bod syniadau creadigol yn gyffredinol yn ysbrydoliaeth gan y rhai o’ch cwmpas chi. Mae’r syniadau o foderneiddio hen draddodiadau yn adlewyrchiad o’n cymdeithas a’n diwylliant yn gyffredinol. “Mae dod â synau mwy cynnil a chyfoes i gerddoriaeth werin fel yn y trac ‘Annwn’ hefyd yn adlewyrchu sut rydyn ni’n newid mewn amser gyda safbwyntiau newydd, wrth gadw cysylltiad â’n gorffennol,” Wrth sôn am ddylanwadau ar gysyniadau a delweddau’r albwm, yn annatod mae’r cwestiwn yn codi ynghylch dylanwadau cerddorol hefyd. Gyda llais Gwilym Bowen Rhys yn serennu ar ambell un o’r traciau, ai dyma o ble mae Mari yn cael ei phrif ysbrydoliaeth gerddorol? “Roeddwn yn falch iawn o gael Gwilym ar yr albwm. Mae’n gerddor dwi gyda pharch mawr ato, ac mae ganddo lais hyfryd a soniarus sy’n dod â llawer o ddyfnder i ganeuon gwerin.” “Dwi wrth fy modd yn gwrando ar artistiaid o sawl arddull gwahanol,” pwysleisia. “Mae’r diddordeb mewn cerddoriaeth werin yn rhywbeth dwi ’di dod ’nôl ato dros y blynyddoedd diwethaf ac mae artistiaid benywaidd a bandiau fel Gwyneth Glyn, Fernhill, Joni Mitchell a Laura Marling wedi cael effaith ar fy hyder i barhau fel cantores fenywaidd.” Merched cryfion yng nghanol y llwyfan; dyma sy’n brif ysbrydoliaeth i Mari fel artist benywaidd felly. Yn wir, mae llawer o ymdrechion ar hyn o bryd i gynyddu’r cydraddoldeb rhwng dynion a merched yn perfformio mewn gigs Cymraeg, felly roedd hi’n naturiol holi am ei barn hi ar y sefyllfa’n gyffredinol. “Dwi’n teimlo fod angen mwy o gydraddoldeb mewn rolau fel cynhyrchydd, technegwyr, rheolwyr a chyfarwyddwyr,” cyfaddefa. “Gyda mwy o gynrychiolaeth o fenywod mewn rolau mawr fel hyn, bydd y diwydiant creadigol yn dod yn gymuned fwy cynnes a chytbwys i fenywod o bob cefndir, rhywioldeb a hil. Mae angen mwy o gydraddoldeb mewn mannau dyw’r cyhoedd ddim o reidrwydd yn eu gweld, ond sydd â’r pŵer i newid agweddau tuag at fenywod.”

Newidiadau Ers ennill Brwydr y Bandiau 2019, mae Mari a’i gitâr wedi dechrau dod yn fwyfwy cyfarwydd i wrandawyr ar draws Cymru wrth iddi barhau i sefydlu ei hunaniaeth fel artist. Â dwy flynedd drawsnewidiol wedi pasio ers y gystadleuaeth, mae’n ddiddorol clywed sut y mae Mari’n gweld ei bod hi wedi newid a datblygu yn ystod y cyfnod hwn.


“Dwi’n teimlo ’mod i wedi sefydlu a thyfu fel cerddor a hefyd fel person.”

“Dwi’n teimlo fel ’mod i ’di datblygu llawer fel artist ers ennill Brwydr y Bandiau ac ers y pandemig. Roedd y gerddoriaeth wnes i gynhyrchu ar gyfer y gystadleuaeth yna’n eithaf pop, ifanc a rhydd gyda rhai elfennau gwerin. Dwi’n meddwl bod gan fy ngherddoriaeth ystyr dyfnach nawr. Dwi bellach ’di graddio gyda gradd meistr mewn ysgrifennu caneuon a chynhyrchu, a dwi’n teimlo ’mod i wedi sefydlu a thyfu fel cerddor a hefyd fel person.” Wrth gwrs, nid newidiadau personol yn unig sydd wedi effeithio ar fywydau bob un ohonom dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn byw mewn cyfnod ansicr o drawsnewid cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, ac mae Mari’n awgrymu bod sawl agwedd o’r ansicrwydd hwn wedi gadael eu hôl ar ei syniadau creadigol. “Aflonyddwch cymdeithasol, protestiadau, pandemig, a bygythiadau o gynhesu byd-eang ynghyd â llawer o amser ar eich dwylo, mae wir yn gwneud i chi gwestiynu pethau ac yn rhoi persbectif ffres ar fywyd,” meddai. Âi ati wedyn i ymhelaethu ar un gofid cymdeithasol yn benodol sydd wedi dylanwadu ar ei hawydd i gofleidio ei Chymreictod unwaith eto. “Un o’r newidiadau diweddar yng Nghymru yw’r cynnydd ym mhrisiau tai yn rhoi pwysau enfawr ar bobl mewn cymunedau gwledig, yn enwedig fy nghenhedlaeth i, sydd methu fforddio prynu neu rentu cartref yn eu cymunedau lleol. “Roedd hyn hefyd wedi gwneud i mi edrych ar ein cymunedau Cymraeg a sut y bydd hyn yn cael effaith ar iaith, diwylliant, traddodiad a chymdeithas. Dwi’n meddwl bod hwn ’di bod yn sbardun hefyd, i edrych yn ôl ac ailgysylltu gyda fy ngwreiddiau Cymreig yn yr albwm yma.”

Edrych tua’r dyfodol Nid yn unig mae Annwn yn albwm sy’n plethu traddodiad a hanes yn grefftus nes bod y ffin rhwng y ddau yn ddigon aneglur, ond mae hefyd yn brosiect cerddor ifanc sydd wedi ffynnu er gwaethaf rhwystrau’r ddwy flynedd diwethaf. Artist sydd yn benderfynol o adael ei hôl ar y sin gwerin gyfoes yma yng Nghymru. Ac nid albwm yn unig y byddwn yn derbyn gan Mari eleni chwaith. “Ochr yn ochr â fy albwm, bydda i’n lansio sioe wreiddiol newydd yn y Tŷ Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron o’r enw ‘Y Llyfr Hud’. Bydd y sioe yn cynnwys caneuon fy albwm fel trac sain i’n harwain ni drwy chwedlau gwerin a thirlun Cymru, trwy lygaid merch ifanc o’r enw Gwen. Dwi’n gobeithio bydd y lansiad yn brofiad hudolus o gelf, cerddoriaeth a dawns, gan fynd â ni drwy eiliadau o hunaniaeth ddiwylliannol, cymuned ac iaith.” Mae’n argoeli i fod yn flwyddyn llawn cyffro ac uchelgais i Mari-Elen Mathias felly ond beth yw ei gobeithion yn y tymor hirach, wrth i gyfyngiadau lacio a rhyddid bywyd fel cerddor ddechrau dychwelyd yn ôl at ryw fath o normalrwydd? “Fy mhrif uchelgais dros y blynyddoedd nesaf yw parhau i ddatblygu fy ngherddoriaeth a gweithio’n greadigol yn y diwydiant. Dwi eisiau datblygu fy ngwybodaeth gerddorol a chydweithio gydag amryw o gerddorion i greu synau ffres, ac efallai gwthio ffiniau cerddoriaeth werin ymhellach fel y mae llawer o artistiaid gwych eraill yng Nghymru yn gwneud ar hyn o bryd.”

yselar.cymru

7


Os fu albwm cyntaf hir ddisgwyliedig erioed, record hir gyntaf Breichiau Hir yw honno. Gyda Hir Oes I’r Cof allan ers diwedd 2021, rhaid oedd cael Sgwrs Sydyn gyda’r prif leisydd, Steffan Dafydd. Yr albwm allan yn ddigidol ers mis Tachwedd, sut ymateb sydd wedi bod? Really dda, Lle a phryd fuoch chi’n recordio? Natho ni ddechre recordio reit ar ddiwedd 2019 yn One Louder Studios yng Nghasnewydd gyda Phil Smith cynhyrchydd sydd wedi bod yn gweithio gyda ni ar bopeth ni wedi rhyddhau gyda Libertino. Es i mewn i recordio’r bits canu olaf rhyw wythnos cyn i ni fynd mewn i’r lockdown cyntaf. Beth all y gwrandawyr ei ddisgwyl? Deg cân felodig a thrwchus sy’n sôn am nostalgia, amser a’r syniad o edrych nôl yn eich 20au.

Er i chi gael eich disgrifio fel “ones to watch” mewn cyfweliad diweddar, rydych chi wedi bod o gwmpas ers degawd a mwy. Beth yw’r gyfrinach? Dwi’n meddwl bod peidio rhyddhau albwm am dros ddegawd wedi bod yn rhan annatod o’r gyfrinach. Yn ôl at y pentwr hwnnw o senglau, mae rhyddhau caneuon yn gyson yn un o nodweddion Libertino. Ydi hynny’n siwtio’r ffordd yr ydych chi fel band yn gweithio? Ydy gan ’bod ni’n fand mor gydweithredol gyda bob aelod yn rhannu’r cyfrifoldeb sgwennu, ma’ sŵn y band yn amrywio eitha’ lot. Er enghraifft, gafodd ‘Saethu Tri’ a ‘Preseb O Ias’ ei sgwennu’n eitha’ agos at ei gilydd. Dwy gân sy’n wahanol iawn i’w gilydd mewn arddull a steil. Fyse aros i ryddhau rheina gyda’i gilydd wedi bod yn syniad od. Gyda lot o’r senglau yna, natho ni yselar.cymru

Mae’r senglau’n esgus grêt am lot o waith celf anhygoel hefyd, rhywbeth yr ydym yn ei gysylltu gyda Breichiau Hir erbyn hyn. Pa mor bwysig yw’r ochr weledol i chi? Diolch! Dechrau’r band yn 16 oedd dechrau siwrnai fi i fod yn ddylunydd graffeg – o’n i moyn creu posteri a clorie i’r band a doedd dim arian gyda ni i gal rhywun arall i neud e’. O’n i’n creu gwaith yn sneaky mewn gwersi celf, ges i fy nal gan yr athrawes ond yn lle rhoi row i fi, nath hi actually gwthio fi i greu mwy o waith dylunio i fandie ac artistiaid a gweithio fe mewn i brosiectau celf yr ysgol. Odd athrawon celf fi yn ysgol yn wych. Nawr dwi’n neud gwaith dylunio i lot o fandie a llefydd gwahanol ond dylunio i’r band yw hoff beth fi though, ma’r lleill yn gefnogol iawn a just yn gadel fi neud be bynnag fi moyn.

SGWRS SYDYN

Rydych wedi rhyddhau senglau lu dros y ddwy flynedd ddiwethaf ond dyma eich casgliad cyntaf o ganeuon ers yr EP, Mae’r Angerdd Yma Yn Troi Yn Gas, yn 2015 a dyma eich albwm cyntaf. Pam nawr? Mi oedd hi’n bwysig iawn i ni sgwennu’r albwm fel un cyfanwaith, yn hytrach na chasgliad o ganeuon. Ni’n eitha’ fussy gyda stwff fel hyn, ni ddim yn hoff o just neud pethe er mwyn neud pethe. Dwi’n siŵr gallen ni wedi stretcho’r EP i mewn i albwm, a gallen ni wedi adio i’r casgliad o senglau rhwng 2018 - 2020 i greu un, ond fyse fe ddim wedi bod yn iawn.

8

recordio nhw’n agos at ei gilydd a drip-feedo nhw i roi gofod i’n hun tra bod ni’n gweithio ar yr albwm. Ma’ Gruff yn Libertino yn ymddiried yno ni so ni’n ffeindio’n hun yn ymddiried yn ein hun hefyd

Beth yw hanes clawr yr albwm? Ma’ ’na lot o themâu yn rhedeg drwy’r albwm ac o’n i’n trio creu rhywbeth odd gydag elfen o’r holl bethau yna heb fod yn rhy on the nose. Bydd y gwaith hwnnw i’w weld yn y cnawd maes o law wrth i’r record gael ei rhyddhau ar feinyl, beth yw’r diweddaraf? Ydych chi wedi cael eich effeithio gyda’r problemau a’r oedi byd eang? Do! Nath yr order fynd mewn haf diwethaf, ond o be fi’n deall, achos y backlog o vinyl sy’n cael eu neud ar ôl y pandemig, ma’ rhaid i ni aros tan fis Ebrill. Ma’ pobol ’di bod yn beio Adele. Fe lwyddoch i gael lansiad yn Clwb cyn i bethau gau dros y Nadolig. Sut aeth hi? Dwi’n meddwl bod pob un o’r band yn gytûn - hwnna odd y gig gore i ni erioed chwarae. Odd ’na un moment nath daro fi - chwaraeon ni ‘Chwarae Cuddio’, un o senglau ni o 2012, a odd lot o’r crowd yn canu pob gair. Sain meddwl bod y gân yna wedi bod ar gael ar y we ers bron i ddegawd a ni braidd byth yn chwarae hi. Odd hwnna’n special.


HOFF ALBYMS I orffen, beth yw dy hoff albyms yn y categorïau isod. Hoff albwm cyntaf? These Four Walls - We Were Promised Jetpacks

Oes yna gynlluniau i gigio mwy ar y deunydd newydd? Oes! Ma’ na bits ar draws y lle o nawr tan mis Medi. Ond ni moyn chwarae lot mwy. Ni heb chwarae yn y gogledd (heblaw gwyliau) ers degawd. Sy’n wirion. Ni moyn chwarae lan yna, so ma’ hwnna’n gôl eleni. Fe gawsoch chi adolygiad rhedeg ffafriol iawn yn ddiweddar. Doeddwn i ddim yn gwybod fod hynny hyd yn oed yn thing! Haha ie Jimmy Watkins! Ma’ fe yn y band Vega Bodegas - ath e’n sobor yn 2019 a dechre rhedeg ac ers hynny ma’ fe wedi bod yn gwasgaru ei good vibes ar draws y byd. Ma’ fe’n arwr a ni’n chuffed gyda’r adolygiad yna a nath lot o bobol sy’n dilyn Running Punks rhannu bod nhw wedi bod yn gwrando ar yr albwm wrth redeg ar ôl yr adolygiad yna. Oes gen ti hoff gân o blith y casgliad? Fel bob aelod o’r band, ma’n cadw newid. Heddiw ‘Y Pwysau Mawr’ yw hoff un fi, ond ‘Hir Oes I’r Cof’ sydd wastad yn dod nôl fel ffefryn. Mae geiriau ‘07-04-17’ yn wych, sôn ychydig am honno? Oh diolch! Ma’ lyrics fi fel arfer yn eitha’ abstract, ond

Hoff albwm o 2021? As The Love Continues - Mogwai Hoff albwm rhedeg?! Singularity - Jon Hopkins

gyda lyrics yr albwm, odd ’na rhyw fath o naratif yn ffurfio, so odd hwn yn ffordd o solidifyo’r naratif - tyfu lan a cholli dy hun mewn nostalgia ac edrych nôl. Nath y stori lifo mas ohona’i ac odd e’ lot hirach cyn mynd mewn i’r stiwdio. Hoffwn i sgwennu lot mwy o bethe fel hyn. Pa gân wyt ti fwyaf balch ohoni? Dwi’n cofio ni gyd yn ymarfer ‘Dal Lan Gyda’n Hun’ am y tro cyntaf ar ôl recordio hi a chofio teimlad collective o falchder dros y gân yna bryd hynny. Beth fyddai‘r gweithgaredd perffaith i gyd-fynd â gwrando ar yr albwm? Seiclo lan a lawr yr afon Taf. Gwertha’r record i ni mewn pum gair! Bron mor dda a Ashokan. yselar.cymru

9


Cân o hatric o wobrau, pi ci yn i, en el r la Se enillwyr Gwobrau’r nt gael clincar o Papur Wal oedd prif dim dwywaith iddy es Do u. ra Go nd wy. rau a Ba yr albwm a llawer m od af dr Orau, Record Hir O i w nh â rs w sg rhaid oedd i ni gael flwyddyn yn 2021 a wyfor Geiriau: Gwilym D


Cyfweliad

D

ydd Sadwrn glawog mewn caffi yn Grangetown (sydd bellach wedi cau) oedd hi, un heb lyfiad o baent na phapur ar y wal, yn eironig braidd. Daeth Ianto, Guto a Gwion i mewn ac mae un ohonynt yn archebu coffi dwi erioed wedi clywed amdano o’r blaen ond trwy lwc, mae o ar gael. A dyna i chi’r Papur Wal y des i’w hadnabod dros yr awr wedyn hefyd; cŵl, soffistigedig, ’chydig bach yn wahanol ond yn ddiddorol ac yn cynhesu’r enaid ar fore oer. Megis cortado. Dwi’n llongyfarch yr hogia’ ar yr albwm anhygoel, Amser Mynd Adra, ac mae Gwion yn egluro bod yr ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn, “Mae o’n brofiad newydd i ni gweld pobl yn canu’n caneuon ni yn y crowd. Ac mae hynny’n rili cŵl, pan ti’n ei gael o’r tro cynta’.” Gydag Ianto bellach, fel Guto, yn byw yn ôl yn y gogledd wedi dyddiau Prifysgol yng Nghaerdydd, mae ystyr eithaf llythrennol a phroffwydol i’r albwm. Ond mae Amser Mynd Adra yn golygu llawer mwy na hynny, gyda’r casgliad yn ymdrin â newid yn fwy cyffredinol a gorfod tyfu i fyny ar ôl bywyd sdiwdants. “Oeddan ni wedi meddwl am deitl o un o’r caneuon ond dwi’m yn meddwl bod yna un gân sydd yn cynrychioli’r albwm i gyd, dim title track mewn ffordd,” meddai Guto cyn i Ianto barhau; “Odd o’n albwm lle oeddan ni’n awyddus i ddangos yr ystod o genres oeddan ni’n licio. Er eu bod nhw’n ffitio efo’i gilydd doedd na’m un yn sefyll allan fel teitl. Ma’ ‘amsar mynd adra’ yn sawl peth dydi, pan ti’n mynd i pyb ond ddim yn mynd i dre wedyn, ma’ stwff fel’na yn digwydd yn amlach ac amlach fel ti’n mynd yn hŷn.” Mae’n gofnod arbennig o ddatblygiad sŵn

y band hefyd. Rydan ni yn Y Selar wedi dilyn Papur Wal ers ei dyddiau fel 3-piece ifanc yn chwarae slacyr lo-fi eithaf amrwd ond mae’r sain wedi datblygu yn blethwaith o roc ysgafn gydag elfennau o bop melodig, sŵn llawnach. “Mae o’n fwy refined, yn fwy pendant,” cytuna Ianto. “Oeddan ni’n gwbod lle oeddan ni isho mynd. Mae yna lot o fandiau sydd yn mynd o gwmpas am dipyn, yn rhyddhau lot o senglau ac EP’s, yn mynd ar hyd y siop yn trio ffendio be’ ma’ nhw isho’i neud ac yn gneud rwbath hollol wahanol ar albwm. Oeddan ni reit falch bod ni heb frysio i mewn i’r peth a dangos hannar un peth a hannar rwbath arall. Wedyn oedd gynnon ni ddeg cân oedd yn ffitio efo’i gilydd ac yn ffitio’r cyfeiriad oeddan ni isho mynd iddo fo. Ti’n gweld bands yn treulio sawl albwm yn trio ffendio hynny felly dwi reit hapus.” Ianto a oedd yn gyrru’r dylanwadau 90au i ddechrau ond ar ôl rhyddhau’r senglau ‘Meddwl am Hi’ a ‘Piper Malibu’ roedd y tri’n gytûn mai hwnnw oedd y cyfeiriad newydd. “Mae o’n cymryd amsar i rywun ffendio’i hun,” meddai Guto “Dio’m yn digwydd yn syth. A munud ti’n mynd i mewn i greu miwsig, ti’n dechra gwrando ar fiwsig mewn ffordd wahanol. ’Da ni efo dylanwada hollol amrywiol ac yn y diwadd mi wnaethon ni wyro at y stwff yma achos ein bod ni’n licio fo!” Prysura’r tri i egluro y bydd y stwff nesaf fymryn yn wahanol eto. Gydag Ellis (Mellt) bellach yn rhan o’r band byw, fe all hynny roi mwy o ryddid iddynt wrth ysgrifennu yn y dyfodol. “Ti’m yn gorfod meddwl gymaint, ydi hyn yn mynd i weithio’n live,” eglura Gwion. ‘Meddwl am Hi’ yw’r gân hynaf ar yr

yselar.cymru

11


albwm a gellir ystyried honno’n bont rhwng yr hen ddeunydd a’r stwff newydd. Honno a ‘Piper Malibu’, sydd ddim ar yr albwm, oedd senglau cyntaf y newid cyfeiriad ond cafodd sawl cân arall eu hysgrifennu mewn cyfnod trawsnewidiol i’r band. “Odd yna lot o ganeuon yn y batch yna oedd ddim cweit yna,” cyfaddefa Ianto. “Naethon ni ddatblygu lot yn ystod y lockdown. Os fysan ni wedi rhoi albwm allan heb y lockdown fysa fo wedi swnio’n wahanol iawn a lot gwaeth hefyd mashwr! Pan ti’n clywad am fandia’n recordio albwm, y prif beth mae cynhyrchwyr yn ei ddeud ydi cario ’mlaen i sgwennu tra ti’n y stiwdio.” “Fyswn i’n deud bod tua hanner yr albwm wedi dod i’r fei yn hwyr iawn yn y broses recordio. A lot o’r rheiny ydi’r caneuon cryfa’,” meddai Gwion. Un o’r caneuon cryf hynny sydd â stori dda yn gefndir iddi yw ‘Andrea a Fi’ a dwi’n perswadio Ianto i’w dweud hi eto. “Basically, nath ’na foi o’r enw Andrea Avi ffendio fy mag i a sgwennu ryw boems yn fy notebook i. Dwi 12

yselar.cymru

wedi trio adio fo ar Facebook ers hynny.” Aiff ymlaen i egluro sut y gwnaeth cydweithiwr iddo gyfieithu’r geiriau, er nad yw’n siŵr erbyn hyn os ydynt yn gwneud llawer o synnwyr! “Ma’ ‘na ’chydig o artistic license yna i neud o swnio’n dda.” “Ella mai dyna pam mae o wedi anwybyddu dy friend request di!” tynna Guto ei goes cyn i’r tri chwerthin yn iach. Ymddengys mai ‘Llyn Llawenydd’ sydd wedi apelio fwyaf at bobl y tu allan i fanbase arferol y band a Gwion sy’n cynnig eglurhad. “Mae hi jysd yn hawdd gwrando arni o’r gwrandawiad cyntaf dwi’n meddwl, yn fwy poppy na rhai o’r lleill.” “Ma’ ‘na ddatblygiad da o un pennill i’r llall,” ychwanega Ianto. “Weithia ma’n anodd cyflawni be’ ti isho’i neud yn berffaith ond efo honna nathon ni stymblo ar syniad da a nath o’i gyd sticio. O’n i ’di sgwennu ’chydig ohoni a Gwi ’di sgwennu ’chydig ac yn digwydd bod odd o’n mynd efo’i gilydd. Ffodus rili.” Cân arall sy’n sefyll allan yw ‘Penblywdd Hapus’,


Tyfu

“Munud ti’n mynd i mewn i greu miwsig, ti’n dechra gwrando ar fiwsig mewn ffordd wahanol.”

sef cân i gynhyrchydd yr albwm, Kris Jenkins. Mae Jenkins wedi gweithio gyda mawrion fel y Furries yn y gorffennol ac yn fwy diweddar gyda Los Blancos, Y Dail a Zabrinski. Ceir yr argraff ei fod yn uffar o foi iawn ac yn trochi ei hun yn llwyr yn y broses recordio. “Pan ti’n mynd i recordio efo Kris, yn amlwg mae o’n grêt o producer, ond ti’n mynd am y profiad hefyd,” eglura Gwion. “Mae o’n fwy na jest y recordio, ti’n mynd am y bwyd, ma’r boi’n top chef ac yn hilarious hefyd. Fysa fo’n gallu sgwennu uffar o hunangofiant...” “Fysa fo ddim yn cofio hannar y storis!” meddai Ianto. “Ond o ddifri, mae o’n immerse-io ei hun yn llawn. Ma’n cymryd dipyn i hynna ddigwydd. Adag yr EP, Lle yn y byd Mae Hyn?, oeddan ni’n fengach a ddim yn nabod o gystal. Erbyn y stwff diweddara’ ’ma oedd o’n cal mwy a mwy i mewn iddo fo. Mae o bob tro yn cyfrannu a deud be’ mae o’n ei feddwl, heb fod yn overbearing.”

Mae Papur Wal yn rhan o genhedlaeth aur o fandiau yng Nghaerdydd ar hyn o pryd ac mae’n ymddangos eu bod i gyd yn ffrinidau da ac mae rhai o’r ffrindiau hynny bellach wedi ymuno â lein-yp byw y band gyda Lewys (Yr Eira) a Gwyn (Los Blancos) yn ogystal ag Ellis yn chwarae yn y gig lansio yng Nghlwb Ifor Bach yn ôl yn yr Hydref. “Oedd gynnon ni o leia’ dwy gitâr ar bob trac ar y record yn y diwadd,” eglura Gwion. “Oeddan ni’n cadw llygad ar y peth ac mi fedran ni dal chwara’r caneuon i gyd, bron, efo tri, ond ma’ nhw’n swnio’n well efo mwy. Yn enwedig ar y pryd, efo covid, oeddan ni’n meddwl pwy a ŵyr pryd ma’r gig nesa’ yn dod felly be’ ’di pwynt ei gyfyngu fo i sŵn byw.” Mae hynny’n agor posibiliadau cerddorol wrth recordio yn y dyfodol er nad oes bwriad i newid strwythur sylfaenol y band. “Y tri ohonan ni fydd yn sgwennu felly ni fydd Papur Wal fel’na,” cadarnha Ianto.

Gigio Os oedd gorfod rhoi gorau i gigio dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn sioc i system unrhyw un, fel band a oedd yn chwarae’n aml, teg dweud i’r cyfyngiadau effeithio Papur Wal. Ond, nid o angenrheidrwydd mewn ffordd ddrwg fel yr eglura Guto. “Oedd o’n braf stopio! Nathon ni wneud blwyddyn solid o gymryd bob gig oeddan ni’n cael ei gynnig ac wrth neud hynny ti’n ffendio be’ sy’n gweithio a be’ sy’ ddim. Oedd o’n bwysig ein bod ni wedi gneud hynny, ond odd o’n braf arafu ia.” Cytuna Ianto. “Dwi’m yn meddwl odd o’n bosib i ni ddatblygu ein hunan fel cerddorion a songwriters heb stopio. Oeddan ni angan excuse felly pan ddath y pandemig nathon ni roi ein hegni i gyd i mewn i sgwennu a dyna sut nathon ni gyfansoddi’r caneuon ar yr albwm. Felly oedd o’n fendith mewn ffordd.” Roedd bod ar wahân yn her ymarferol i rai cerddorion ond roedd Ianto a Gwion yn ffodus eu bod yn byw gyda’i gilydd pryn bynnag. Ac er bod Guto adref yn y Felinheli fe wnaeth y sefyllfa ei orfodi ef a’r lleill i ddatblygu sgiliau cynhyrchu a oedd wedyn yn dwyn ffrwyth wrth iddynt fynd i’r stiwdio. Llaciodd y cyfyngiadau yn ddigonol iddynt gael lansio’r albwm yn swyddogol a gigio tipyn yn y diwedd. Ond yn gyffredinol maent yn fwy detholgar erbyn hyn o ran eu perfformiadau byw fel yr eglura Ianto. “’Da ni’n fwy gofalus efo be’ ’da ni’n ei dderbyn achos ’da ni’m yn gallu derbyn bod dim rŵan efo gwaith a phawb yn byw ar wahân. Matar o ddewis a dethol gigs tra’n cario ’mlaen i sgwennu, dyna di’r plan.”


Enillwyr Gwobrau’r Selar

2021

Er gwaethaf y ffaith fod cyfyngiadau’r pandemig yn parhau, roedd 2021 yn flwyddyn wych i gerddoriaeth Gymraeg. Unwaith eto rydym wedi gweld artistiaid newydd yn gwneud eu marc, ac yn defnyddio dyfeisgarwch i rannu a hyrwyddo eu cerddoriaeth mewn ffyrdd gwahanol. Mae Gwobrau’r Selar yn gyfle i dalu teyrnged i’r artistiaid, ac i ddathlu eu llwyddiant. Unwaith eto, chi ddarllenwyr Y Selar sydd wedi dewis yr enillwyr a dyma ganlyniadau llawn y bleidlais gyhoeddus…

Artist Unigol Gorau PEDWAR UCHAF: • Elis Derby • Mared • Sywel Nyw • Thallo ENILLYDD: MARED Yr ail flwyddyn yn olynol i Mared ennill y wobr yma a does dim amheuaeth bod gyrfa gerddorol y ferch o Lannefydd yn mynd o nerth i nerth. Pob parch i weddill y rhestr fer hefyd sydd wedi cael blwyddyn brysur, ac mae lot mwy i ddod gan y pedwar. Grêt i weld Mared yn ôl ar lwyfan y West End hefyd, ac fe gafodd y newyddion am ei gwobr, dros y ffôn gan Huw Stephens, yn fyw ar Radio Cymru 15 munud cyn mynd ar lwyfan i berfformio yn Les Mis!

Band neu Artist Newydd Gorau Cân Orau

(Noddir gan PRS for Music) PEDWAR UCHAF: • Niwl – Dafydd Hedd / Endaf / Mike RP • Llyn Llawenydd – Papur Wal • Theatr – Sŵnami • 10/10 – Sywel Nyw a Lauren Connelly ENILLYDD: LLYN LLAWENYDD - PAPUR WAL Heb amheuaeth, sengl Papur Wal oedd cân yr haf 2021, ac yn ôl darllenwyr Y Selar, hon oedd cân orau’r flwyddyn hefyd. Yn llawn o hwyl ac asbri hafaidd, dyma gân sydd bob amser yn codi calon pan ddaw ar y radio neu’r rhestr chwarae…a does wybod bod angen hynny nawr ac yn y man yn yr oes sydd ohoni. Tiwn bois bach, tiwn.

14

yselar.cymru

Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C) PEDWAR UCHAF: • Hei Be Sy – Y Cledrau • Arthur – Papu Wal • Llyn Llawenydd – Papur Wal • Theatr – Sŵnami ENILLYDD: THEATR - SŴNAMI Blwyddyn dda arall i’r fideo cerddoriaeth Cymraeg, gyda mwy a mwy o fideos annibynnol yn ymddangos gan ychwanegu at y gwaith da mae Lŵp, S4C yn gwneud. Bach o split vote i Papur Wal o bosib, gyda dau fideo’n cyrraedd y rhestr fer, ond mae’n rhaid cydnabod yr impact a gafodd fideo ‘Theatr’ gan Sŵnami pan laniodd ym mis Mawrth. Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth o uchelgais a buddsoddiad y grŵp i greu rhywbeth trawiadol a chofiadwy.

PEDWAR UCHAF: • Ciwb • Kathod • Morgan Elwy • N’famady Kouyaté ENILLYDD: MORGAN ELWY Rhestr fer arall arbennig o gref, ond mae’n anodd dadlau gyda’r enillydd. Mae Morgan wedi cael blwyddyn hynod o lwyddiannus wrth ryddhau ei albwm unigol cyntaf, a dod ag ychydig o reggae a roc o Ddyffryn Clwyd i’r sin.


Record Fer Orau

Seren y Sin PEDWAR UCHAF: • Carwyn Ellis • Elan Evans • Endaf • Marged Gwenllian ENILLYDD: MARGED GWENLLIAN Categori cymharol newydd i’r Gwobrau ydy Seren y Sin, ond mae’n gategori poblogaidd iawn ac yn gyfle i ddangos gwerthfawrogiad o ymdrechion rhai o arwyr tawel y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Mae Marged yn bresenoldeb tawel a soled ar lwyfan fel basydd Y Cledrau a Ciwb, ond mae’n cyfrannu’n llawer ehangach diolch i’w gwaith gyda’r Urdd a Merched yn Gwneud Miwsig ymysg pethau eraill. Un dda.

PEDWAR UCHAF: • Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd – Dafydd Hedd • Mymryn – Hyll • Stoppen Met Rocken – Kim Hon • Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Gymreig – Los Blancos ENILLYDD: DETHOLIAD O GANEUON TRADDODIADOL GYMREIG - LOS BLANCOS (Noddir gan Dydd Miwsig Cymru) Gellid dadlau bod yr EP Cymraeg wedi cael rhywfaint o adfywiad yn 2021 gyda 15 i ddewis ohonynt yn y bleidlais o restr gynnyrch y flwyddyn. Roedd nifer o recordiau arbennig oedd yn anlwcus i beidio cyrraedd y rhestr fer fel Harddwch Du gan Eädyth x Ladies or Rage, Yr Unig Rai Sy’n Cofio gan Derw a Cyfnos gan Gwenno Morgan. Rhestr fer gref yn sicr, a da gweld Los Blancos yn cipio gwobr fach ar ôl eu gwaith caled dros y blynyddoedd diwethaf.

Band Gorau PEDWAR UCHAF: • Band Pres Llareggub • Breichiau Hir • Bwncath • Papur Wal

Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa)

PEDWAR UCHAF: • Hir Oes i’r Cof – Breichiau Hir • Cashews Blasus – Y Cledrau • Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Cymreig – Los Blancos • Amser Mynd Adra – Papur Wal ENILLYDD: CASHEWS BLASUS - Y CLEDRAU Mae’n bwysig gwerthfawrogi agweddau celf gweledol y sin, yn enwedig wrth i ni symud yn fwyfwy i’r llwyfannau digidol wrth wrando ar gerddoriaeth. Er hynny, mae clawr record da yn ychwanegu cymaint i’r albwm, EP neu sengl, boed chi’n gwrando’n ddigidol neu’n dal y record yn eich llaw. Clawr ail albwm Y Cledrau, wed’i ddylunio gan y dylunydd James Reid, oedd ffefryn y darllenwyr eleni.

ENILLYDD: PAPUR WAL Un o’r categorïau sydd wastad yn dal y sylw, ac yn aml yr un mwyaf cyffrous o’r Gwobrau. Er gwethaf cystadleuaeth gref gan Breichiau Hir ac enillwyr llynedd, yr hynod boblogaidd Bwncath, mae’n amhosib anghytuno gyda’r mwyafrif eleni - blwyddyn Papur Wal oedd 2021. ‘Band Gorau’ i gwblhau’r goron driphlyg gyda’r teitlau ‘Cân Orau’ a ‘Record Hir Orau’ - llongyfarchiadau Papur Wal.

*Panel Gwobrau’r Selar sydd wedi dewis enillwyr ‘Gwobr 2021’ a’r ‘Wobr Cyfraniad Arbennig’ (Trowch i’r dudalen ‘10 Uchaf Albyms 2021’ i weld 4 uchaf ac enillydd categori Record Hir Orau eleni)

Gwobr 2021 (Noddir gan Heno)

Enill Gwob wyr r Selar au’r

2021

ENILLYDD - MERCHED YN GWNEUD MIWSIG* Gwobr one off oedd ‘Gwobr 2020’ i fod fel rhyw fath o gydnabyddiaeth i flwyddyn heriol i’r sin. Ond mae’r pandeming wedi parhau ac, wel, mae llawer o heriau’n rai cyson i’r diwydiant yng Nghymru. Roedd yn benderfyniad hawdd felly i barhau i gynnig y wobr i rywun sy’n mynd i’r afael â heriau fel anghyfartaledd mewn modd positif. Ar ôl gwobrwyo Eädyth llynedd, roedd dewis amlwg eleni hefyd ar ffurf prosiect Merched yn Gwneud Miwsig ac roedd yn braf gallu cydnabod y gwaith gwych maent yn ei wneud.

Gwobr Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) ENILLYDD - TECWYN IFAN* Mae ‘na lawer o bobl ddiymhongar sydd heb gael hanner y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu pan ddaw at y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Un o’r rheiny heb amheuaeth ydy enillydd ein Gwobr Cyfraniad Arbennig, Tecwyn Ifan. Dyma chi gerddor sy’n weithgar ers ffurfio ei fand cyntaf, Perlau Taf, yn yr ysgol ar ddiwedd y 1960au, cyn dod yn aelod o’r grŵp Ac Eraill, ac yna ddechrau perfformio fel artist unigol. Mae wedi rhyddhau 10 o albyms unigol, y diweddaraf o’r rhain, Santa Roja, llynedd. Gyda’r albwm newydd allan, ac yntau’n troi’n 70 oed eleni, roedd yn amser perffaith i gydnabod cyfraniad y gŵr sy’n gyfrifol am rai o ganeuon mwyaf poblogaidd yr iaith Gymraeg. Roedd ei anghrediniaeth wrth glywed y newyddion gan Aled Hughes ar Radio Cymru ei fod i dderbyn y wobr yn cadarnhau’n union pam ei fod yn enillydd mor haeddiannol. Halen y ddaear gyfeillion.


10 Uchaf Albyms 2021 Blwyddyn arall fach ddigon rhyfedd oedd 2021, ond o leiaf roedd bach mwy o fynd a dod nag a fu dros y flwyddyn flaenorol, ac ambell gig yn digwydd nawr ac yn man rhwng cyfnodau o dynhau cyfyngiadau. Roedd yn flwyddyn ddigon cynhyrchiol i artistiaid Cymraeg, ac roedd yn wych gweld albyms cyntaf gan nifer o artistiaid, yn ogystal ag ambell hen ben yn dychwelyd gyda chynnyrch hefyd. Roedd 27 o albyms ar bleidlais ‘Record Hir Orau’ 2021 Gwobrau’r Selar, a dyma’r 10 uchaf ym marn y pleidleiswyr… Mas - Carwyn Ellis & Rio 18 Label: Banana and Louie Records Rhyddhawyd: Chwefror Ydy Carwyn Ellis byth yn stopio? Mae’n teimlo fel petai wedi rhyddhau o leiaf un record y flwyddyn ers tro byd bellach, yn enwedig gyda’i brosiect Rio 18. Mas oedd ail albwm y prosiect Rio ‘18, yn ddilyniant i Joia! a ryddhawyd yn 2019. Rhyddhawyd Mas ym mis Chwefror 2021, ac yn wir daeth albwm arall wedyn, Yn Rio, ym mis Hydref. Mae Mas yn gampwaith arall gan un o gerddorion mwyaf talentog Cymru, ac yn eich ‘trawsblannu i rywle arall’ i ddyfynu golygydd Y Selar. “Mae llais melfedaidd di ymdrech Carwyn yn arf amlwg, mi fyswn i’n ddigon hapus yn gwrando arno’n darllen amserlen bws. Record aruthrol arall gan un o’n sêr disgleiriaf.” [Gwilym Dwyfor, Y Selar, Mawrth 2021]

10

Llwyth – Mr Label: Recordiau Strangetown Rhyddhawyd: Hydref Pedwerydd albwm Mr, sef prosiect diweddaraf Mark Roberts gynt o’r Cyrff a Catatonia. Ac mae Llwyth yn enw priodol iawn gan fod y record unwaith eto’n llawn o ganeuon anthemig a chofiadwy sydd wedi dod yn rinwedd o waith Roberts. Ymysg yr uchafbwyntiau mae ‘Stryglo’, ‘Libido’ a’r ardderchog ‘Dim Byd yn Brifo Fel Cariad’ sydd i fyny yna gydag ‘Y Pwysau’ am deitl cân orau Mr. “Yn dweud hi fel y mae heb felysu’r bilsen, mae hon yn albwm arall lle mae Mr yn llwyddo i fynegi teimladau a phrofiadau amrwd y gall pobl uniaethu â nhw.” [Rhys Ifor, Y Selar, Mawrth 2022]

9

16

yselar.cymru

Pwy Sy’n Galw? - Band Press Llareggub Label: Recordiau MoPaChi Rhyddhawyd: Awst Pedwerydd albwm y band pres mwyaf cŵl erioed, ac mae’n gweld Llareggub yn dychwelyd i’w gwreiddiau i bob pwrpas gan ryddhau fersiwn newydd o glasur o albwm Cymraeg. Daeth Band Pres Llareggub i amlygrwydd gyntaf gyda’u fersiwn o Mwng gan Super Furry Animals, a’r tro yna penderfynodd y maestro, Owain Roberts, i daclo unig albwm Cymraeg Big Leaves. Mae’r gwesteion gwych yn cynnwys Mared, Katie Hall, Eädyth, Yws Gwynedd a Kizzy Crawford i enwi dim ond detholiad. “Mae’r ffordd mae Owain Roberts wedi ail-ddychmygu rhai o’r caneuon yma gan droi roc a pync i Motown a sain hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf yn haeddu canmoliaeth.” (Steff Rees, Y Selar, Mawrth 2021]

8

Rhydd - Kizzy Crawford Label: Recordiau Sain Rhyddhawyd: Tachwedd Albwm llawn iaith Gymraeg cyntaf y canwr-gyfansoddwraig eithriadol dalentog o Ferthyr, ac roedd yn werth yr aros. Mae Rhydd yn albwm personol iawn ar sawl lefel. Kizzy ei hun sydd wedi recoerdio, cynhyrchu a chymysgu’r cyfan yn ei stiwdio gartref a hi hefyd sy’n chwarae’r holl offerynnau ar y casgliad. Wedi sawl cyfnod anodd mae hefyd yn adlewyrchu taith Kizzy o iachâd a thyfu ac yn myfyrio ar y profiad o ddod i adnabod a derbyn ei hun. “...mae steil fwy penodol a phositif y trac yn gadael i ni glywed beth sydd gan Kizzy Crawford i’w ddweud, ac yn gwneud i mi gyffroi am be’ ddaw nesaf gan y talent unigryw yma.” [Elain Llwyd, Y Selar, Mawrth 2022]

7

Bywyd Llonydd - Pys Melyn Label: Ski Whiff Rhyddhawyd: Mehefin Petai’n rhaid meddwl am un gair i ddisgrifio Pys Melyn, yna mae’n siŵr mai ‘llorweddol’ fyddai hwnnw. Maen nhw wedi bod yn arbrofi gyda chaneuon pop seicadelig ers dyddiau’r aelodau yn y grŵp ysgol Ffracas, ond mae’r seicadelia low-fi tripi wedi symud i lefel arall ers dechrau creu dan yr enw Pys Melyn. Os ydach chi isio albwm i chillio iddo, yna Bywyd Llonydd ydy’r record i chi. “O’r trac agoriadol offerynnol, ‘Byw yn yr Ardd’ ac yna ar daith hamddenol ymlaciol trwy ‘Laru’ nes cyrraedd yr hyfryd ailadroddus ‘Bywyd Llonydd’, mae rhan cyntaf y casgliad yn mynd â chi yn bell iawn o fywyd go iawn.” [Gwilym Dwyfor, Y Selar, Medi 2021]

6


Teimlo’r Awen Morgan Elwy Label: Recordiau Bryn Roc Rhyddhawyd: Mai Albwm unigol cyntaf yr aelod o’r band Trŵbz, Morgan Elwy, ac un a gafodd ymateb arbennig o dda. Deg o draciau sy’n seiliedig ar rythmau reggae yn bennaf ond gydag elfennau o gerddoriaeth werin, roc a phop hefyd. Efallai mai sain reggae ‘Bach o Hwne’ sydd wedi dwyn y penawdau, ond mae llawer mwy o amrywiaeth a chaneuon gwell na honno ar y casgliad yma gan gynnwys ‘Aur Du a Gwyn’ a’r hynod hyfryd ‘Jericho’.

5

‘Da Ni ar yr un Lôn - Dylan Morris Label: Recordiau Sain Rhyddhawyd: Hydref Efallai mai hon ydy’r sypreis sy’n agos at frig y rhestr 10 uchaf, ond mae’n amlwg bod gan Dylan Morris ei ddilyniant triw a’u bod wrth eu bodd a’r albwm cyntaf yma. Un o’r artistiaid hynny a ddaeth i’r amlwg yn ystod cyfnod y clo mawr ydy Dylan Morris, a hynny’n bennaf diolch i’r dudalen Facebook boblogaidd Côr-ona. Roedd Dylan, sy’n dod o Bwllheli, wedi bod yn perfformio mewn nosweithiau meic agored a karaoke cyn hynny, ond yn ystod y cyfnod clo bu iddo gyhoeddi dros 100 o fideos ohono’n canu gan ddenu dros 50,000 o bobl i wylio. Gwelodd Sain gyfle i werthu recordiau, ac mae ei albwm cyntaf o ganeuon canol y ffordd yn amlwg wedi plesio.

4

Hir Oes i’r Cof - Breichiau Hir Label: Recordiau Libertino Rhyddhawyd: Tachwedd Hir yw pob ymaros meddai rhywun rywdro…ac rydan ni’n sicr wedi gorfod aros yn hir am albwm cyntaf Breichiau Hir! Ond teg dweud ei bod hi’n werth yr aros achos mae Hir Oes i’r Cof yn gracyr o albwm gan y chwechawd o Gaerdydd. Os ydych chi wedi gweld Breichiau Hir yn fyw, yna byddwch chi’n gyfarwydd â’u sŵn roc egnïol, ac mae hynny’n glir ar y casgliad yma. Mae’r geiriau’n onest ac, ynghyd â’r sain trawiadol, yn crynhoi rhyw ankst unigryw a phrydferth. “Petai ieuenctid a thyfu’n oedolyn yn sŵn, yr albwm yma fyddai’r sŵn hwnnw.” [Bethan Williams, Y Selar, Mawrth 2022]

3

Cashews Blasus - Y Cledrau Label: Recordiau I KA CHING Rhyddhawyd: Gorffennaf Anodd credu bod ychydig dros bedair blynedd ers rhyddhau albwm cyntaf Y Cledrau, yr ardderchog Peiriant Ateb, yn Rhagfyr 2017. Roedd yn braf gweld dilyniant ar ffurf Cashews Blasus ym mis Gorffennaf. Yn raddol mae’r Cledrau wedi mireinio eu crefft ac aeddfedu o’r grŵp ifanc yna gyda chwpl o ganeuon bachog i fod yn un o fandiau gorau Cymru. Ond maen nhw’n dal i allu sgwennu tiwn, ac mae hynny i’w weld yn glir ar eu hail albwm gyda chaneuon fel ‘He Be Sy’, ‘Cerdda Fi i’r Traeth’ a ‘Disgyn ar Fy Mai’. “Mae cydbwysedd da yn y gerddoriaeth sy’n sicrhau ei fod yn syml a chofiadwy, ond ar yr un pryd yn gwneud lle i’r geiriau ddod allan yn glir. Cydbwysedd da, band da!” [Ioan Rees, Y Selar, Medi 2021]

2

1

Amser Mynd Adra - Papur Wal

Label: Recordiau Libertino Rhyddhawyd: Hydref Go brin fod llawer o albyms wedi ysgogi ar y fath gyffro tawel, eiddgar ag Amser Mynd Adra. Roedd llawer iawn ohonom yn teimlo bod rhywbeth arbennig iawn ar droed gan Papur Wal, ond bron yn ofni dweud gormod rhag cael ein siomi. Roedd y senglau i aros pryd, ‘Llyn Llawenydd’, ‘Arthur’ a ‘Brychni Haul’ wedi awgrymu nad oedd angen gofidio dim, a phan ddaeth y dyddiad rhyddhau o’r diwedd braf iawn oedd cadarnhau hynny. Fel mae adolygiad yr albwm gan Gruffudd ab Owain yn y rhifyn yma’n pwysleisio - mae hon yn record sy’n glir ei hunaniaeth. Sŵn penodol Papur Wal sydd i Amser Mynd Adra, ac mae hwnnw’n sŵn unigryw iddyn nhw yn y Gymraeg. Y peth arall am Papur Wal, a’r albwm, ydy bod yna stori i’r caneuon ac mae hynny’n sugno rhywun i fod isio gwybod mwy, a gwrando mwy. Mewn blynyddoedd i ddod, caiff y record yma ei gweld fel clasur. “Ceir sacsoffon, tair iaith, rhythmau bywiog a rhythmau ymlaciedig, ond mae’r cyfan yn ffitio yn sŵn a hunaniaeth Papur Wal. Cyfanwaith campus gan y grŵp slacker pop, fydd yn berffaith ar gyfer dyddiau hir a chynnes yr haf.” [Gruffudd ab Owain, Y Selar, Mawrth 2022] yselar.cymru

17


Tara Bandito Bwriad yr eitem hon yw dysgu mwy am ysbrydoliaeth a dylanwadau rhai o wynebau cyfarwydd y sin. Pa berson, digwyddiad a lle sydd wedi eu dylanwadu? Pa gyfnod sydd wedi eu hysbrydoli? Pam eu bod yn gwneud cerddoriaeth? Yn ymgymryd â’r her y tro hwn y mae Tara Bandito. Yn gyfarwydd i ni ers blynyddoedd fel actores, cantores, perfformwraig a phodledwraig amryddawn, mae Tara Bethan bellach yn creu a rhyddhau cerddoriaeth newydd o dan enw sydd wedi ei ysbrydoli gan ei thad, y diweddar a’r chwedlonol reslwr, El Bandito. Yn dilyn llwyddiant ysgubol y sengl gyntaf, ‘Blerr’ ym mis Ionawr, cafodd yr ail sengl, ‘Rhyl’ ei rhyddhau ar Recordiau Côsh ym mis Chwefror. Yn llythyr cariad i’r dref glan môr sydd mor agos at galon Tara, yn ffres ac yn top tiwn arall, mae hi wir yn teimlo fel ein bod wedi cael artist newydd sbon gan yr wyneb cyfarwydd. Mae trydedd sengl ar y ffordd yn fuan ac albwm ar y gweill yn ddiweddarach eleni. Pa amser gwell felly i ddysgu ychydig am yr hyn sy’n gyrru’r creadigrwydd newydd yma? Pwy? Nes i dyfu fyny’n gwrando ar Irish rebel music Dad a ges i fagwraeth ym myd y sioeau cerdd felly dwi wrth fy modd efo stori a drama o fewn caneuon, a’r mwya’ o harmonis lleisiol y gore yn fy marn i! O ran artistiaid dwi’n cofio clywed M.I.A. am y tro cyntaf ac fe chwythwyd fy socks ’ffwrdd! Dwi’n caru coolness y ffordd mae hi’n tanwerthu ei pherfformiad lleisiol a chorfforol ond gyda tracs sydd yn PYMPIO. Dwi’n rhan o fand Charlotte Church’s Late Night Pop Dungeon a phan ges i’r gwahoddiad i ganu a rapio cover o ‘Paper Planes’ gan M.I.A. yn y set ro’n i o bosib y mwya’ excited dwi ’rioed wedi bod yn fy mywyd. Fel unrhyw gerddor Cymraeg call dwi’n fan enfawr o Datblygu hefyd. Mae crefft Dave o ddeud y gwir gyda chlyfrwch tu hwnt i eiriau tra’n codi aeliau’r crachach nôl yn y 80au yn magic. Hyn oll ynghyd â thiwns a vibes gritty a diymdrech Pat; perffeithrwydd pop fydd yn byw am byth.

18

yselar.cymru

Beth? Yn 2019 pan ofynnodd Gai Toms i mi ddod i roi bv’s lawr ar ei concept album o fywyd Dad, Orig, do’n i ’rioed ’di teimlo gymaint fel rock star. Yr hyn ddilynodd oedd “Taranwen Bandito” yn ei leotard sequins lycra lady wrestler a phlu ar ei phen. Roedd hi’n un o aelodau band Gai Toms, Y Banditos, oedd yn hamro bv’s gyda chwaer Gai, Elaine, mewn sioeau byw tra’r oedd Gai (yn ei leotard lycra coch) yn taranu rownd torf gynhyrfus oedd yn chantio “El Bandito” gyda phob gronyn o’u heneidiau. Swreal a deud y lleia’! Cafodd y cyfnod rollercoaster-aidd yma gryn effaith arna’i yn emosiynol ac yn broffesiynol. Bu showmanship Gai ynghyd ag ailymweld ag ysbryd “the confidence of a Greek God” El Bandito (fel y disgrifiwyd Dad yn ei ddyddiau reslo cynnar) yn adfywiad i fy hyder a fy enaid. Ac o ganlyniad, dechreuais ar y daith o fagu a meithrin... Tara Bandito. Lle? Fel un sydd wedi stryglo gyda fy iechyd meddwl dros y blynyddoedd dwi’n ffendio budd mawr mewn yoga a myfyrio. Yn 2016 penderfynais i gymryd fy addysg ysbrydol ymhellach a hyfforddi allan yng nghartre’ yoga, India, am fis i ddod yn athrawes. Mi newidiodd fy mywyd yn y mis hwnnw. Yn groes i’r disgwyl, roedd y cwrs yn canolbwyntio’n ddwys ar hunan ymchwilio a gofyn i’n hunain “pwy wyt ti? Yn beth wyt ti’n ei gredu ac o ganlyniad, sut athro/athrawes wyt ti am fod?”. Y prif beth ddoth MOR glir yn fy mhen i oedd fy nghariad greddfol tuag at gerddoriaeth. Bu’r trip hwnnw hefyd yn gyflwyniad i ddoniau y chwaraewr tabla, Zakir Hussain, a’i holl ganeuon hudolus gyda’i gydgerddorion swynol, arallfydol. Y drafferth ar y pwynt yma oedd, oherwydd fy niffyg hyder yn fy ngallu i ganu (diolch Andrew Lloyd Webber ac I’d Do Anything, BBC1 nôl yn 2008) ’doedd y syniad o allu perfformio fel artist cerddorol ddim yn opsiwn, a ddim am fod yn y bywyd hwn. Pryd? Mae’r pandemig uffern ‘ma wedi torri’r byd a’i drigolion. Mae gan bawb ei stori. Dwi wir yn teimlo fel un o’r rhai


lwcus drwy’r cyfnod anghyfforddus a thrawsnewidiol hwn. Wedi blynyddoedd o losgi fy holl ganhwyllau ar bob pen, bu gorfod stopio, a jyst ‘bod’ o fudd mawr i mi. Wrth gwrs bu colli gwaith yn anodd a’r pryder dyddiol am fy Mam a hithau yn yr oedran ‘fregus’ hwnnw y datganai Boris amdano’n ddyddiol yn y covid cynnar yn straen. Bu’r llonyddwch a’r tawelwch yn gyfle i fy ffrind Llinos a minnau greu Dewr gyda grant i bobl lawrydd oedd wedi colli gwaith yn sgil y pandemig. Gyda chefnogaeth y Cyngor Celfyddydau dechreuodd y ddwy ohonom greu podcast yn trafod ups a downs bywyd ac iechyd meddwl gyda rhai o wynebau cyfarwydd Cymru. Mae sgwrsio yn agored yn fy natur, dwi’n oversharer o fri, ond dwi’n deall nad yw pawb mor gyfforddus yn rhannu. Yn enwedig ni’r Cymry. Bu’r ymateb i’r gyfres gynta’, a’r ail bellach gyda BBC Sounds yn syfrdanol ac ar ben hynny fe enillon ni’r British Podcast Award am Pod Cymraeg gore’r flwyddyn 2021. Diolch i’n gwrandawyr ffyddlon, llwyddiant y gyfres a dysgu gan ein gwesteion anhygoel pa mor bwysig ydi celfyddyd a chreadigrwydd i’n hiechyd meddwl, sylweddolais ei bod hi’n amser i mi stopio cuddio, camu allan o fy ffordd fy hun ac ail gydio yn fy hyder creadigol.

Pam? Wedi colled anferth yr annwyl ac anfarwol Dave Datblygu y llynedd ges i’r alwad gan DJ Gareth Potter i fod yn rhan o’r gig i dalu teyrnged i Dave yng ngŵyl Talacharn. Mi newidiodd rhywbeth yn fy mhen ar yr adeg honno. Dwi wastad ’di teimlo ar y tu allan o’r sin gerddoriaeth Gymraeg. Byth ddigon cool. Roedd y ffaith ’mod i wedi cael fy ystyried yn ddigon safonol i dalu teyrnged i’r legend yma dwi wedi ei edmygu o bell ers mor hir yn golygu’r byd i mi. Dwi’n teimlo, fel Cymry Cymraeg ma’ ’na ddiffyg hyder ynddan ni ar adegau. Dwi isho annog pobl ifanc, yn enwedig merched i gredu yn eu hunain. I gredu eu bod nhw YN gallu a bod yr hawl ganddynt i’w llais a’i barn. Nes i dreulio blynyddoedd yn amau fy hun, ddim yn teimlo ‘digon da’ a phoeni am feirniadaeth eraill. Dwi ddim isho i hynny ddigwydd i bobl eraill. Iddi ynde!

Llun: Celf Calon


NN ee w y d d a r y S i n wydd ar y Sin Enillydd Brwydr y Bandiau, grŵp o fenywod creadigol Cymraeg a gwefan gerddoriaeth annibynnol sydd yn Newydd ar y Sin y tro hwn. Dewch i ni gael clywed mwy.

skylrk. Hanes Bu Hedydd Ioan yn arbrofi gyda cherddoriaeth gitâr fwy traddodiadol ers blynyddoedd ond ehangodd ei ddiddordebau’n ddiweddar. “Wrth wrando ar fwy o gerddoriaeth dyma fi’n datblygu cariad mawr at rap a hip hop,” eglurai. “Yn enwedig artistiaid eitha’ high concept efo elfennau theatrig i’w gwaith.” Ysgogodd hynny’r gŵr ifanc creadigol o Ddyffryn Nantlle i droi ei law at y genre. Ac ar ôl rhyddhau cwpwl o draciau ar YouTube a SoundCloud dros y blynyddoedd “heb gymryd y peth ormod o ddifrif”, daeth y cyfle i fynd â’r fenter ym mhellach y llynedd. “Pan welais fod Brwydr y Bandiau yn digwydd ar lein o’n i’n meddwl, pam ddim. Ac odd o’n wirioneddol sioc fy mod i hyd yn oed wedi cael trwadd heb sôn am ennill. Y diwrnod ar ôl ennill nes i ryddhau fy nhrac cynta’ yn swyddogol a dros y misoedd nesa perfformio’r gân yn fyw ar Heno a chreu fersiwn acwstig ar gyfer Y Selar. Mae’r ymateb wedi bod yn wych ac wedi agor llwythi o ddrysa a chyfleodd amrywiol.” Sŵn Eglura Hedydd nad yw sŵn skylrk. wedi ei ddiffinio eto gan fod y cwbl mor newydd. “Mae yna ryw gymysgedd rhyfedd wedi dod wrth i mi dyfu fyny’n gwrando ar fandiau Cymraeg gwych fel Candelas a’r Cyrff ac wedyn clywed synau hollol wahanol o fyd hip hop. Ar yr wyneb mae dylanwad cryf rap a cherddoriaeth trap modern fel Travis Scott a Kanye West, ond dwi hefyd ’di bod yn datblygu traciau sydd yn ymdebygu fwy i hip hop eithaf underground MF DOOM neu Earl Sweatshirt.” Gyda’i ddiddordeb mewn ystod eang o gerddoriaeth does gan Hedydd ddim clem lle fydd ei siwrnai gerddorol yn ei arwain. Ond un peth y mae’r cerddor a’r cynhyrchydd ffilmiau byrion yn angerddol iawn amdano yw ceisio adrodd straeon efo’i gerddoriaeth. “Mae cael synau sydd yn gweithio’n dda efo lyrcis sydd yn adrodd naratif clir yn rhywbeth dwi’n obeithio ei wneud.” Beth nesaf? Er yn ymwybodol iawn o’r pwysau ar artistiaid i fod yn gynhyrchiol er mwyn aros yn berthnasol y dyddiau hyn, nid yw ar frys i ildio i’r pwysau hwnnw nes iddo sefydlu’i sŵn. “Dwi eisiau disgwyl tan dwi efo rhywbeth clir i ddeud ac yn gallu ei greu o yn y ffordd fwyaf cynhyrfus bosib. Mae ’na lot o syniadau cyffrous iawn wedi bod yn datblygu a dwi wedi cydweithio efo cwpwl o artistiaid gwych. Be’ fydd nesaf gobeithio ydi gwaith cyflawn, rhywbeth fydd yn teimlo fel 20

yselar.cymru

syniad a phrofiad cyflawn. Boed yn sengl, EP neu yn berfformiad penodol, dwi ddim yn sicr eto ond dwi’n edrach ymlaen yn fawr iawn i’w rannu fo efo’r byd pan fod o’n barod.”

Klust Hanes “Dwi wastad wedi bod efo diddordeb mawr mewn cerddoriaeth,” eglura Owain Elidir Williams, sylfaenydd Klust, gwefan annibynnol ddwyieithog sy’n tynnu sylw at gerddoriaeth newydd o Gymru. Ers dod yn ffan mawr o fandiau fel Two Door Cinema Club, Phoenix, Foals, Yr Eira, Sŵnami ac Ysgol Sul pan yn 17/18 oed, mae diddordeb Owain wedi tyfu. Hefyd yn caru blogiau a gwefannau cerddoriaeth fel Pitchfork, The Line of Best Fit a Clash Magazine, mae Klust yn cyfuno’r ddwy elfen ac wedi’i sefydlu gyda’r bwriad o hyrwyddo, cefnogi a dathlu cerddoriaeth o Gymru. “Mae o’n rhywbeth dwi ’di bod isio’i wneud ers sbel felly roedd y cyfnod clo’n gyfle perffaith imi ddod a’r cwbl at ei gilydd.” Gyda’r ‘k’ yn y sillafiad yn ymdrech fwriadol i gynnwys cerddoriaeth o bob iaith, cydweithiodd Owain gydag Elis Povey i ddylunio’r logo a Rich o Ctrl Alt Design i ddatblygu’r


Kathod Hanes Dechreuodd taith Kathod gyda zine Merched yn Gwneud Miwsig yn 2020. I daclo’i hofn o weithio y tu allan i fybl HMS Morris, rhoddodd Heledd Watkins wahoddiad i Bethan Mai (Rogue Jones) ac Ani Glass i ymuno yn yr arbrawf. Y canlyniad oedd y gân ‘Syniad o Amser’ a’r fideo gan Rebecca Wyn Kelly. Daeth Cat Morris yn gath flaenllaw wedi hynny a phenderfynodd Heledd, Beth a Cat eu bod am ddatblygu’r prosiect. Dilynodd cyfarfodydd Zoom a gwahoddiad i Gwenno Morgan a Tegwen BruceDeans i gyd-ysgrifennu ail sengl Kathod. “Oedden ni’n big fans o’r ddwy ohonyn nhw, gyda Gwenno’n bianydd anhygoel a Tegwen yn fardd gwych.” Crëwyd ail sengl Kathod, ‘Gwenyn’, gyda fideo gan Gwenno Llwyd Till. “Roedd y profiad o greu fel grŵp o fenywod yn hyfryd, roedden ni’n teimlo siwt gymaint o gefnogaeth wrth ein gilydd a’n teimlo’n saff i arbrofi a gwneud camgymeriadau. Roedd y gofod saff yna’n rhy werthfawr i’w gadw i’n hunain felly roedd rhaid i ni ail-adrodd y broses, ond tro yma gyda lot mwy o fenywod! Dyna lle’r y’n ni arni nawr, 15 Kath newydd amazing yn cychwyn ar y daith greadigol o greu EP. Y gerddoriaeth, y celf, y cyhoeddi i gyd gan fenywod! Mae’n hynod gyffrous. “Mae diffyg hyder gan fenywod yn gyffredinol, ac i’w weld yn glir wrth i ni recriwtio Kathod newydd. Mae

wefan. “Nes i benderfynu dal y cwbl yn ôl tan gallu lansio’n iawn yn y flwyddyn newydd ac mae’r ymateb hyd yma wir wedi bod yn wych! “Dwi wastad wedi gweld gwerth mewn gwthio’r drafodaeth ynghylch cerddoriaeth Cymraeg yn bellach na’r gynulleidfa Cymraeg yn unig felly mae rhai darnau wedi’i hysgrifennu’n Gymraeg ac eraill yn Saesneg. Ar y funud, fi sy’n paratoi’r cwbl ond y syniad yn y pen draw ydi gwahodd pobl ifanc sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth Cymraeg i gyfrannu a pharatoi cynnwys hefyd. Mae cefnogi artistiaid ac ysgrifenwyr newydd yn elfen reit ganolog i’r holl gysyniad.” Ethos Artistiaid newydd neu rai sydd fymryn yn wahanol i’r brif ffrwd yw prif ffocws Klust a bwriad y wefan yw adlewyrchu cyfoeth amrywiaeth y sin yng Nghymru. “Yr artistiaid mwyaf diddorol ydi’r rhai sydd â hunaniaeth gref, artistiaid sydd ychydig yn wahanol,” medd Owain. Mae Klust hefyd yn cynnig gwasanaeth PR ac yn gweithio gyda PYST a labeli Cymru i baratoi datganiadau’r wasg.

infrastructure diwydiant cerddoriaeth Cymru angen lot o waith, yn enwedig cerddoriaeth iaith Gymraeg, ac yn fwy byth ar gyfer pobl sydd wedi’u tangynrychioli yn y diwydiant. Enghraifft glir yw’r diffyg cyfleoedd i fenywod ddatblygu sgiliau hanfodol fel cymysgu.” Bydd gweithdai yn rhan o’r prosiect a gobaith Kathod yw cefnogi ac ategu’r gwaith gwych y mae Merched yn Gwneud Miwsig yn ei wneud yn meithrin a datblygu’r sgiliau hyn ymysg merched ifanc. “Fel eco-system bach sy’n cynnal ei hun trwy’r broses o basio ’mlaen y ddysgeidiaeth ‘na, a’r amgylchedd yn magu hyder trwy gefnogaeth ac anogaeth.” Sŵn “Y peth hyfryd am Kathod yw nad oes sŵn penodol. Gan ’bod ni’n agored ac yn incliwsif i bob menyw sydd eisiau creu, mae pob math o ddylanwadau cerddorol ac offeryniaith yn ein cerddoriaeth. Bydd y gerddoriaeth wastod yn fenywaidd ac yn gathaidd (a Chymraeg?) ond heblaw am hynny mae ein sain yn eang ac agored, ac yn mynd i gyfeiriadau annisgwyl diolch i amrywiaeth y kathod.” Beth nesaf? Croesawu’r Kathod newydd a rhyddhau’r EP yw’r cam nesaf ac fe gyhoeddwyd yr enwau newydd fel rhan o ôlbarti Gwobrau’r Selar yn ddiweddar. Yn y tymor hir y bwriad yw creu mwy o gerddoriaeth a chelf hyfryd gyda kathod hen a newydd a chreu cyfleoedd i fenywod ddod at ei gilydd i greu. “World domination a digon o catnip i bawb.”

Beth nesaf? Digidol yn unig yw cynnwys Klust ar hyn o bryd ond fe hoffai Owain ehangu. “Dwi’n teimlo fel bod argraffu yn gofnod o gyfnod arbennig felly’r syniad ydi datblygu ryw fath o flwyddlyfr fydd yn tynnu bob dim ynghyd - yr artistiaid, gwaith celf a ffotograffiaeth arbennig. Ond heb os, y prif fwriad ydi datblygu safle dibynadwy ar gyfer darganfod cerddoriaeth Cymraeg newydd. Mae bob dim yn eitha’ DIY ar y funud felly dwi’n gobeithio mynd am grant cyn hir fydd yn caniatáu i’r wefan ehangu’n naturiol. Gigs, podlediad, blwyddlyfr - pwy a ŵyr!”


adolygiadau

Y Gwir yn Erbyn y Byd Mei Gwynedd Os gwnaethoch chi fwynhau albwm cyntaf Mei Gwynedd, Glas, a’r EP bach dilynol, Tafla’r Dis, cymaint â fi yna dyma albwm sy’n rhoi mwy o’r hyn rydych chi’n ei ddisgwyl gan ffrind gorau Mistar Urdd. Dechreua’r albwm yn gryf gyda fy hoff gân oddi arno sef ‘Creda’n Dy Hun’ sy’n fy atgoffa o un o glasuron y 70au, ‘The Joker’ gan y Steve Miller Band. Wrth i’r albwm fynd yn ei flaen teimlaf fod Mei yn cyflwyno ni i’w gasgliad recordiau ac fel ffan mawr o’r gerddoriaeth hynny fy hun dwi’n meddwl ei fod

wedi neud jobyn pretty good gyda’r casgliad yma. Tra bod y gerddoriaeth heb os wedi ei ddylanwadu gan gewri’r gorffennol mae testun y caneuon sy’n aml yn sôn am bynciau llosg y ddwy flynedd diwethaf yn sicrhau fod yna elfen gyfoes ac amserol iddynt. Er hyn, nid casgliad o ganeuon diflas neu wrthryfelgar a geir yma ond caneuon codi calon sydd yn ein hatgoffa fod ‘Dyddiau Gwell i Ddod’ yn y dyfodol ac er taw anodd yw gwybod ‘Pryd Ddoith Hyn i Ben’ bydd wastod gyda ni atgofion hiraethus o amseroedd da megis ‘Awst ’93’. Steffan Rees

Llwyth Mr Dyma’r ail albwm i Mr ei rhyddhau ers i’r pandemig lanio, a tybed a oes arwyddocâd i’r teitl, Llwyth, gan ystyried mai Feiral oedd y diwethaf? H.y. viral load? Gan y dyn a ryddhaodd albyms o’r enw Oes, Oesoedd ac Amen... pwy a ŵyr! Yn feistr ar fynegi’r chwerwfelys, nid yw Mark yn ein gadael ni i lawr gan sôn yn ddi-flewyn ar dafod am ba mor frwnt ydy disgyn allan o gariad. Daw ‘Love Lives Here’ ag atgofion hiraethus am berthynas o’r gorffennol, ac mae ‘Dim Byd Yn Brifo Fel Cariad’ yn sefyll allan fel cân i dorri’ch calon iddi. Ond er mor alarus yw’r gân honno, cewch godi’ch ysbryd yn syth gyda ‘Stryglo’ ar ei hôl sy’n rhoi’r neges bwysig o droi at ffrindiau i siarad “os ti’n stryglo”, gyda thôn ddyrchafol yn gefndir. Mae yna naws wahanol ar ‘Fel ‘na Mae Y Byd Yn Troi’, sy’n atgoffa rhywun o sŵn y Super Furry Animals efallai, gyda’r synths arallfydol yn rhoi teimlad o arnofio mewn gwacter yn y gofod pell. Yn ‘Dim Byd I Weld’ a ‘Llwyth Dyn Diog’ gwelwn Mark yn mynd ar drywydd thema sydd wedi bod yn gyson ganddo ers yr 1980au, sef ei ddiflastod â’r byd gwaith undonog. Ceir adlais o un o’i draciau cynharaf gan y Cyrff, ‘Tic Toc’, yn y rhain ac mae’n ymddangos ei fod o dal ddim yn ffan o “fyw bywyd wrth y cloc” na bod “mewn swyddfa yn cymharu ei frechdanau’. Yn dweud hi fel y mae heb felysu’r bilsen, mae hwn yn albwm arall lle mae Mr yn llwyddo i fynegi teimladau a phrofiadau amrwd y gall pobl uniaethu â nhw. Rhys Ifor

Amser Mynd Adra Papur Wal O’r cyrion i ganol y sin y daeth Papur Wal gyda’u sengl ‘Meddwl am Hi’ yn 2020, ac yn 2021 mi wnaethon nhw greu argraff bellach ar eu gwrandawyr. Wrth ryddhau ambell sengl dros y flwyddyn, mi lwyddon nhw’i greu cryn dipyn o gynnwrf am eu halbwm cyntaf, Amser Mynd Adra. Mi gawson ni’r argraff fod sŵn a vibe y grŵp wedi newid rhywfaint i fod yn un mwy ymlaciedig, fel petai, a ffrwyth hynny yw albwm sy’n glir iawn yn ei hunaniaeth gerddorol. Maen nhw wedi gafael yn yr hunaniaeth yna, ac wedi’i dynnu i gyfeiriadau gwahanol. Cawn amrywiaeth iach, yn sgil hynny, o draciau bywiog, tempo uchel fel ‘Rhwng Dau Feddwl’ a ‘Haul Chwefror’ i’r rhai ymlaciedig sy’n adlewyrchu eu syniadau mwy newydd a ffres, fel ‘Nôl ac yn Ôl’. Cawn ffrwyth stori annisgwyl am eiriau’r bardd o’r Eidal Andrea Avi mewn llyfr nodiadau colledig yn ‘Andrea a Fi’, wedi’i blethu â’r gân hafaidd boblogaidd ‘Llyn Llawenydd’ i greu cryn dipyn o ddyfnder yn yr albwm. Mae’r trac olaf, ‘Anifeiliaid Anwes’, fel pe bai’n cyfuno’r elfennau gwahanol yma, gyda dechrau arafach sy’n troi i mewn i drac â rhythmau bywiog a sŵn deniadol y sacsoffon. Ceir sacsoffon, tair iaith, rhythmau bywiog a rhythmau ymlaciedig, ond mae’r cyfan yn ffitio yn sŵn a hunaniaeth Papur Wal. Cyfanwaith campus gan y grŵp slacker pop, fydd yn berffaith ar gyfer dyddiau hir a chynnes yr haf. Gruffudd ab Owain


Rhydd Kizzy Crawford Rhywsut mi roeddwn i wedi cymryd yn ganiataol fod Kizzy Crawford wedi recordio albwm Gymraeg cyn hyn, ond mae hi wedi gwneud i ni aros, ac mae hi wedi bod werth yr aros! Mae Rhydd yn albwm bersonol a chyffrous, yn llawn enaid ac arbrofi cerddorol mewn caneuon sydd wedi eu recordio, cynhyrchu a’u cymysgu ganddi hi ei hun yn ei stiwdio gartref. Wrth wrando ar y traciau yn eu trefn, mae camp yr holl beth yn eich taro’n syth wrth gofio mai hi sydd wedi chwarae pob offeryn ar bob trac sy’n drwch o haenau rhythmig ac offerynnol. Allwch chi ddim cwyno am ddiffyg cynnwys gan fod bron pob trac yn hirach na phedwar munud, ac yng nghanol yr haenau prysur mae cyffyrddiadau gitâr tywyll yn ‘Fy Ngelyn’ a theimlad R&B o’r 90au i ‘Deall’ yn sefyll allan. Mi wnes i wir fwynhau clirdeb ‘Sgleinio’ sydd yn symlach o ran gwead ac yn arddangos llais hyfryd y gyfansoddwraig gyda harmonïau atmosfferig i gyfleu’r emosiwn a’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn y gân. Archwiliad cerddorol ac emosiynol ydi’r albwm sy’n arbrofi gyda steil cyfansoddi a phob trac yn gymysgedd ddifyr o jazz, gwerin a soul, a’r peth sy’n cysoni bob un i’w neges ydi llais melfedaidd Kizzy. Mae ‘Pwy Dwi Eisiau Bod’ yn drac perffaith i gloi’r albwm yma i ddweud yn glir be ydi neges yr holl gasgliad, ac mae steil fwy penodol a phositif y trac yn gadael i ni glywed beth sydd gan Kizzy Crawford i’w ddweud, ac yn gwneud i mi gyffroi am be’ ddaw nesaf gan y talent unigryw yma. Elain Llwyd

Hir Oes I’r Cof Breichiau Hir Petai ieuenctid a thyfu’n oedolyn yn sŵn, yr albwm yma fyddai’r sŵn hwnnw. Yn hytrach na darllen unrhyw adolygiad, ewch i wrando. O’r dechrau mae’r cyfuniad o gitars a llais Steffan yn ailadrodd a chynyddu yn ‘Hir Oes i’r Cof’ a ‘Pwysau Mawr’ yn atgoffa rhywun o angst ieuenctid a thyfu’n oedolyn; y sŵn stacato a’r ffrwydradau o ddryms, gweiddi a gitars yn ‘Ni’n Hapusach’ yn llawn agwedd a hyder ieuenctid; ac mae egni ieuenctid drwy’r albwm cyfan. Albwm coming of age yw hi ac mae llinellau trawiadol fel “tyfon ni lan mor glou, a heb baratoi” a “cer a fi nôl...” yn sefyll mas. Rydyn ni’n cael ein tynnu i atgofion llawn nostalgia am ieuenctid rhydd a di-gyfrifoldeb, sy’n cael ei gymharu â’r nawr, yn ‘07/04/17’ gyda sŵn melancolig, hyfryd. Ac mae ‘Dal Lan Gyda’n Hun’ yn glo perffaith, bron yn crynhoi’r albwm, wrth geisio deall a dygymod y cyfnod a fu, deall y nawr ac yn sylweddoliad y bydd rhaid dygymod á’r cam nesa. Gan ’mod i’n ffan mawr o Breichiau Hir ers dyddiau Just Like Frank, wrth gwrs y byddwn i wrth fy modd gyda’r albwm. A ches i ddim fy siomi o gwbl, mae gonestrwydd yn y geiriau syml ac angst prydferth yn y sŵn. Bethan Williams

Gig y Pafiliwn 2021 Recordiau I Ka Ching Mae yna ddwy gynulleidfa ar gyfer yr albwm hwn. I rywun sydd ddim yn gyfarwydd â cherddoriaeth artistiad I Ka Ching, mae’n gyflwyniad perffaith. Ac i’r rhai sydd yn adnabod y caneuon hyn yn barod, efallai y bydd ganddynt, fel fi, fwy o ddiddordeb yn sut y mae’r fersiynau byw yma gyda cherddorfa’r Welsh Pops yn cynnig rhywbeth newydd, rhywbeth gwahanol i’r gwreiddiol. Yn naturiol, mae ambell un yn llwyddo’n well na’i gilydd yn hynny o beth. Mae alawon bachog Sŵnami er enghraifft wastad yn mynd i weithio gyda sŵn mawr aml-haenog ac mae ychwanegu cerddorfa i ‘Trwmgwsg’ yn codi’r bangar yn uwch na’r entrychion yr oedd hi’n ei chyrraedd eisoes. Yn gantores amryddawn, mae Glain Rhys yn gallu handlo adrannau llinynnol cymhleth. Mae ei llais yn gweddu i’r fersiwn epig yma o ‘Sara’ yn union fel y mae i’r fersiwn wreiddiol symlach, mwy amrwd, wrth iddi addasu’n ymddangosiadol gwbl ddi ymdrech. Mae cerddoriaeth ar ei orau pan mae o’n eich cyffwrdd chi ac mae ‘Hir Oes Dy Wen’ gan Griff Lynch yn un o’r caneuon hynny sydd yn siarad â mi yn bersonol, pa bynnag fersiwn dwi’n gwrando arni. Ond does dim dwywaith fod hwn yn ddehongliad arbennig ohoni a bod y gerddorfa’n cyfrannu ac yn ychwanegu at yr ing digamsyniol sy’n nodweddu’r gân. Gwilym Dwyfor


adolygiadau

Santa Roja Tecwyn Ifan Rhyddhaodd Tecwyn Ifan ei nawfed albwm unigol yn yr Hydref y llynedd, a hynny dros ddeugain mlynedd ers y cyntaf, Y Dref Wen, yn 1977. Yr hyn sydd yn taro rhywun ac yn cysuro rhywun yn syth yw’r elfennau cyfarwydd. Nid yw’r llais esmwyth, cynnes, hawdd gwrando arno hwnnw wedi newid dim dros y blynyddoedd ac mae ei ddawn i blethu geiriau ac alaw heb os yn fyw o hyd hefyd. A phan mae gennych chi rywbeth i’w ddweud mae’n bwysig bod gennych y cerbyd i’w gyfleu. A dyna rhywbeth arall cyfarwydd wrth gwrs, fod ganddo rywbeth i’w ddweud. Ceir yma ganu gwladgarol a chanu am heddwch ac mae yna ryw dristwch yn perthyn i’r ffaith fod rhai o’r themâu hynny mor berthnasol heddiw ag erioed. Ond mae ymdriniaeth Tecs â’r pynciau dyrys a chymhleth wastad wedi bod yn bositif ac mae hynny’n wir o hyd, gobaith sydd yn nodweddu’r casgliad diweddaraf yma. Cymer ‘Sefyll Dros Y Gwir’ er enghraifft, er nad oes ganddo “ateb rhwydd i gwestiynau’r oes” mae’n argyhoeddedig fod “yna rai sydd yn daer i sefyll dros y gwir”. Mae yma offerynwaith ddawnus a chynhyrchu graenus ar waith yma hefyd, gyda’r un gân yn arddangos hynny’n well efallai na’r olaf ar y casgliad, y teitl-drac, ‘La Santa Roja’. Yn briodas berffaith rhwng pedal steel Euron Jôs ac allweddellau Pwyll ap Sion, mae’n gosod y llwyfan yn berffaith i Tecwyn Ifan gloi’r albwm mewn steil. Gwilym Dwyfor

Deuddeg Sywel Nyw Cafodd y prosiect un sengl bob mis Sywel Nyw dipyn o argraff arna’ i yn 2021. Nid yn unig oherwydd iddo adael i mi glywed artistiaid wedi’u hen sefydlu ar newydd wedd ond hefyd o ran dod â lleisiau newydd at fy sylw i hefyd. Mae artist gwahanol yn ymddangos ar 11 allan o’r 12 trac felly nid yw’n albwm confensiynol o bell ffordd. Daw pob artist a’i ddylanwad unigol i’r traciau sy’n gwneud gwrando yn dipyn o daith gerddorol. Yr un sy’n sefyll allan i mi yw ’10/10’ gyda Lauren Connelly. Er bod ei thraethu’n llawn hyder ifanc mae’r ymson ffraeth, clwyfedig, ingol ac anhrefnus yn taro tant. O ddymuno am onestrwydd plaen i fwyd “shit” anti Sheila, mae ei geiriau yn rhyfeddol o aeddfed. Unigryw, perthnasol, catchy a chyfan-gwbl annisgwyl. Uchafbwynt arall yw ‘Dyfroedd Melys’ gyda Gwenno Morgan. Mae piano chwim Gwenno yn ychwanegu haen nad yw’n bodoli ar weddill y traciau gan ei dyrchafu i un o senglau gorau’r albwm. Mae ‘Bonsai’ gyda Glyn James o Mellt yn un o fomentau mwy tyner yr albwm, a’i lais diog-hiraethus yn cadw jest digon o naws Mellt i’w gwneud hi’n un o’r traciau mwyaf addas ar gyfer radio ar yr albwm. Yn ychwanegol at y rhain mae ‘Pen yn y Gofod’, ‘Y Meddwl Lliwgar Yma’ a ‘Machlud’ ymhlith y rhai sy’n aros yn y pen ymhell ar ôl gorffen gwrando. Mae’n albwm uchelgeisiol sy’n gwthio ffiniau a dymchwel waliau genres. Lois Gwenllian

Ymaelodwch â’r Clwb Ydach chi’n aelod o Glwb Selar eto? Os felly, pam ddim! BETH YN UNION YDY CLWB SELAR DWI’N CLYWED RHAI’N HOLI? Wel, mae o’n gyfle i chi gefnogi’r gwaith mae’r Selar yn gwneud yn y cylchgrawn (rhad ac am ddim) yma, ar ein gwefan selar.cymru, ac i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg gyfoes trwy gydol y flwyddyn.

BETH SYDD YNDDI I CHI? Yn syml iawn – llwyth o bethau cerddorol ecsgliwsif gwych gan Y Selar! Gan ddibynnu ar eich lefel aelodaeth, byddwch yn derbyn anrhegion arbennig a chynigion ecsgliwsif yn rheolaidd trwy’r flwyddyn.

Am ddim ond £5 y flwyddyn gallwch ddod yn ‘Roadie’ a derbyn copi o’r cylchgrawn print trwy’r post bob tro, ynghyd â chylchlythyr misol Clwb Selar gyda chynigion gan Y Selar a’n ffrindiau yn y sin. Neu beth am fod yn ‘Gitarydd Blaen’ am ddim ond £30 y flwyddyn a chael y pethau yma ynghyd ag anrhegion hael fel crys T, copi o flwyddlyfr Y Selar, anrheg Nadolig a chopi o’n record feinyl amlgyfrannog cyfyngedig. Isio gwybod mwy neu ymaelodi â’r Clwb? Ewch draw i gael cip ar yr holl lefelau aelodaeth ar wefan Y Selar.

selar.cymru/ aelod/lefelau


’Nabod y Pod

Hyfryd Iawn Gyda thwf enfawr ym mhoblogrwydd podlediadau dros y blynyddoedd diweddar, does fawr o syndod fod mwy a mwy o rai Cymraeg a rhai am gerddoriaeth Gymraeg yn ymddangos. Cynhyrchydd un ohonynt, DJ Dilys, yw’r diweddaraf i sôn wrth Y Selar am ei fabi bach digidol ef.

Stori Syniad fi oedd y pod blwyddyn diwethaf. Mae’r podlediad mewn fformat diddorol ar Spotify yn unig, sy’n galluogi i chi roi caneuon yn eu cyfanrwydd i mewn i’r podlediad, felly mae bron fel rhaglen radio. Mae’n perthyn i deulu Lŵp, S4C, ac yn debyg i Curadur, mae’n rhoi cyfle i’r artist i benderfynu beth fydd cynnwys y pod a chraidd y syniad yw cael artist cerddorol yn dewis traciau sydd wedi’u hysbrydoli nhw. Mae 12 pennod yn y gyfres gyntaf o Hyfryd Iawn, gan gynnwys Pys Melyn, Hyll, Sister Wives, Lily Beau, Papur Wal, Ffarout a David Wrench.

Cynnwys Caneuon gwych wedi’u curadu gan artistiaid gwych. Mae’n ffordd hawdd i ddarganfod cerddoriaeth newydd a mwynhau gwrando ar bobl yn siarad am gerddoriaeth. Mae pob pennod yn gwbl wahanol, yn seiliedig ar thema wahanol, gydag artist gwahanol yn cyflwyno. Mae rhai’n edrych ar ganeuon sydd wedi eu hysbrydoli nhw, fel un Pys Melyn a Cerys Hafana. Mae un bennod ‘Come Dine With Me’ cerddorol gyda Hyll. Mae pennod Papur Wal yn ein tywys ni trwy eu halbwm cyntaf trac wrth drac, gyda llwyth o gefndir i’r profiad o recordio’r albwm a’r storis tu ôl i’r caneuon. Dwi’n gobeithio fod tipyn o moments doniol ar hyd y gyfres hefyd.

Ethos Mwynhau, darganfod a rhannu cerddoriaeth. Dwi wedi cael fy atgoffa dros y blynyddoedd diwethaf pa mor bwysig yw rhannu a siarad am gerddoriaeth. Mae darganfod cerddoriaeth newydd mor hawdd erbyn hyn, mae yna gymaint o ganeuon sy’n llifo trwy’r rhidyll ac yn mynd yn angof, felly mae’n bwysig cymryd y cyfle i siarad am ganeuon da a’u rhannu gyda phawb sydd eisiau gwrando. Drwy chwarae’r gêm Music League yn grefyddol ers dechrau’r pandemig, dwi a fy ffrindiau wedi creu playlist o dros 1,700 cân unigryw a darganfod llwyth o artistiaid newydd anhygoel. Yn yr un modd, dwi’n gobeithio fod pobl wedi gwrando ar Hyfryd Iawn a chymryd ysbrydoliaeth gan yr artistiaid yn trafod rhai o’u hoff ganeuon nhw.

Profiad Roedd e’n arbennig recordio pennod gyda David Wrench, Cymro hynod o lwyddiannus yn y byd cerddorol rhyngwladol. Nes i rili fwynhau clywed y cefndir i albwm Papur Wal, yn enwedig y stori tu ôl i ‘Andrea a Fi’. Roedd e hefyd yn grêt recordio gyda phobl fel Sister Wives a Cerys Hafana a phrofi eu hangerdd a gwybodaeth nhw o gerddoriaeth. Y peth gorau am y profiad o gynhyrchu’r gyfres yw clywed artistiaid rwy’n edmygu yn sôn am artistiaid y maen nhw’n edmygu.

Argymhelliad Ges i ysbrydoliaeth i’r gyfres gan bodlediad o’r enw Recent Peal gan y cerddor Wesley Gonzales. Dwi’n dipio mewn a mas i ambell gyfres gerddorol arall hefyd - Switched on Pop, Song Exploder, Popcast, a Desert Island Discs wrth gwrs. Yn fwy diweddar, dwi wedi bod yn gwrando ar Nightclubbing gan Red Bull Radio, sy’n rhannu hanes rai o glybiau nos mwyaf dylanwadol y byd. Mae pennod ‘Disco Demolition Night’ y gyfres Undone a ‘Paradise Garage’ o gyfres The Nod yn benodau dwi wedi gwrando arnynt fwy nag unwaith byswn i wir yn argymell hefyd. Yn olaf, mae Dolly Parton’s America yn gyfres ANHYGOEL i unrhyw un, boed yn ffans Dolly Parton neu beidio. yselar.cymru

25


Colofn Lauren Moore Nid yw’r penwythnos wedi dechrau i mi nes i mi gael disgo bach yn gwrando ar raglen radio Lauren Moore ar nos Wener. Mae ei chariad at tiwns yn tywynnu trwy’r tonfeddi ond o ble ddaw’r cariad hwnnw?

F

e ddechreuodd fy niddordeb mewn cerddoriaeth yn ifanc iawn, ers fy ngeni i fod yn hollol onest. Tyfais lan gyda Dad oedd ynghlwm â’r diwydiant. Mae’n gyflwynydd radio llwyddiannus iawn ac mae cerddoriaeth yn ganolog i’w fywyd. Hyd heddiw mae ei angerdd at gerddoriaeth yn dal i dyfu. Wrth iddo ddangos ei gariad atom ni ei blant wrth dyfu fyny, treiddiodd y cariad at gerddoriaeth i mi a fy mrawd. Mae’r diwydiant cerddorol yn un cymhleth ond hynod o ddiddorol. Wrth i mi ei astudio yn y Brifysgol mwynheais weld y gwaith caled sy’n mynd i mewn i beth ni’n ei glywed fel mynegiant o emosiwn bregus gan ddieithryn. Dwi’n un o’r bobl yna sy’n dweud “dwi’n hoffi bob math o gerddoriaeth” ond yn y bôn cerddoriaeth canu gwlad yw fy ffefryn. Rhan fwyaf o’r amser dwi ddim yn gwybod pam hynny ond un o’r pethau sy’n bwysig i mi yw’r geiriau o fewn cân - dyna dwi’n gwrando arnyn nhw’n gyntaf. Geiriau a dweud stori yw’r peth pwysicaf

o fewn y genre canu gwlad. Dwi’n meddwl mai o dyna le dyfodd fy nghariad at gerddoriaeth Gymraeg, gan fod canu gwlad a cherddoriaeth gwerin yng ngwraidd ein cerddoriaeth ni fel cenedl. Cyn i mi ddechrau gweithio gyda BBC Radio Cymru nid oedd cerddoriaeth Gymraeg mor gyfarwydd i mi. Roedd yna gwpl o fandiau a rhai caneuon oedd yn apelio ata i ac o’n i’n gwrando nawr ac yn y man; roedd y rhan fwyaf o’r rheiny yn gerddoriaeth gan ffrindiau neu fandiau oedd yn yr un ysgol â fi. Ond, wrth i fi weithio gyda BBC Cymru Fyw a Radio Cymru tyfodd fy niddordeb a fy nghariad at gerddoriaeth boblogaidd Cymraeg. Nawr, allai ddweud fy mod i’n gwrando ar ganeuon Cymraeg pob dydd, yn y car, yn glanhau’r tŷ, yn gweithio, lle bynnag dwi’n gallu gwasgu cerddoriaeth i mewn i fy niwrnod. Mae’n syndod pa mor gyflym mae cerddoriaeth yn esblygu a nawr dwi prin yn sylwi gwahaniaeth pan mae fy ngherddoriaeth yn chwarae ar shuffle yn y tŷ.

Deuddeg – Sywel Nyw Y diweddaraf i ymgymryd â her Y Selar yw Sywel Nyw. Prosiect unigol prif leisydd Yr Eira, Lewys Wyn, yw Sywel Nyw, ac yn 2021 fe lwyddodd i ryddhau sengl newydd bob mis gan gydweithio gydag artist gwahanol bob tro. Roedd pob un yn wych ac yn llawn haeddu cael eu rhyddhau fel casgliad o’r enw Deuddeg ar feinyl hyfryd ym mis Ionawr eleni. Y sialens i Lewys, mewn dim ond brawddeg yr un, cyflwyno’r albwm, Drac Wrth Drac.

26

yselar.cymru

1. Crio Tu Mewn (gyda Mr) Arwr. 2. Rhwng Dau (gyda Casi Wyn) Pop duet avec chwaer. 3. Dyfroedd Melys (gyda Gwenno Morgan) Piano melys ac alaw swynol. 4. Pen Yn Y Gofod (gyda Gwenllian Anthony) Llais amrwd a dodgy rap. 5. Bonsai (gyda Glyn Rhys-James) Edrychwch ar ôl eich planhigion yn well na Glyn Rhys-James. 6. 10/10 (gyda Lauren Connelly) Allai ddweud beth fi eisiau dweud, gallai? 7. Y Meddwl Lliwgar Yma (gyda Steffan Dafydd) Be’ bynnag ddiawl sy’n digwydd tu mewn i ben Steff X dance grooves. 8. Static Box (gyda Gwilym) Bass line.

9. Traeth Y Bore (gydag Endaf Emlyn) Arwr rhif 2. 10. Segal (gydag Iolo Selyf) WTF. 11. Amser Parti (gyda Dionne Bennett) Amser dawnsio. 12. Machlud Fin.


.. s u o r f f y C , s e o f y C

£9.99

£8.99

£9.99

.

£8.99

A l l a n y n f ua n ! £8.99 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

£8.99

.com Llyfrau dros Gymru

Yn falch o noddi Gwobrau’r Selar www.ydds.ac.uk

selar.cymru



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.