Y Selar - Gwanwyn 2023

Page 1

Rhif 64 // GWANWYN // 2023

Cyfoes, Cyffrous...

y Selar

Golygyddol

Gan mai pleidlais gyhoeddus ydy hi, mae un peth yn sicr am

Wobrau’r Selar – allwch chi fyth ddarogan yn hyderus pwy fydd yr enillwyr o un flwyddyn i’r llall.

Oedd, roedd yna nifer o enillwyr disgwyliedig yn yr amryw gategorïau y tro hwn – blwyddyn Adwaith oedd 2022 heb amheuaeth, ac roedden nhw’n llawn haeddu eu dwy wobr. Ar y llaw arall, roedd yn dda gweld ambell enw newydd yn dod i’r brig hefyd a gobeithio bydd hyn yn hwb i artistiaid fel Angharad Rhiannon a Dom James a Lloydy Lew greu mwy o gerddoriaeth.

Un peth sydd yn sicr am Wobrau’r Selar y tro yma ydy’r ffaith fod y rhestrau byr, a’r enillwyr, yn adlewyrchu’r amrywiaeth ardderchog sydd gyda ni yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg ar hyn o bryd. Ac mae hynny’n rywbeth y gallwn ni gyd ymfalchïo ynddo, a dathlu. Rhifyn y gwanwyn o’r Selar ydy’r rhifyn hwn, yr amser o’r flwyddyn am ddechrau newydd. Ac mae’n ddechrau newydd i’r Selar wrth i ni groesawu Dirprwy Olygyddion newydd i’r tîm. Mae Gruffudd ab Owain wedi helpu trefnu a golygu’r rhifyn penodol yma, ac fe edrychwn ni ymlaen i groesawu Mirain Iwerydd hefyd erbyn y rhifyn nesaf.

Ymaelodwch â’r Clwb

Ydach chi’n aelod o Glwb Selar eto? Os felly, pam ddim!

BETH YN UNION YDY CLWB SELAR DWI’N CLYWED RHAI’N HOLI?

Wel, mae o’n gyfle chi gefnogi’r gwaith mae’r Selar yn gwneud yn y cylchgrawn (rhad ac am ddim) yma, ar ein gwefan selar.cymru, ac hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg gyfoes trwy gydol y flwyddyn.

BETH SYDD YNDDI I CHI?

Yn syml iawn – llwyth o bethau cerddorol ecsgliwsif gwych gan Y Selar!

Gan ddibynnu ar eich lefel aelodaeth, byddwch yn derbyn anrhegion arbennig a chynigion ecsgliwsif yn rheolaidd trwy’r flwyddyn.

Am ddim ond £5 y flwyddyn gallwch ddod yn ‘Roadie’ a derbyn copi o’r cylchgrawn print trwy’r post bob tro, ynghyd â chylchlythyr misol Clwb Selar gyda chynigion gan Y Selar a’n ffrindiau yn y sin.

Neu beth am fod yn ‘Gitarydd Blaen’ am ddim ond £30 y flwyddyn a chael y pethau yma

ynghyd ag anrhegion hael fel crys T, copi o flwyddlyfr Y Selar, anrheg Nadolig a chopi o’n record feinyl aml-gyfrannog cyfyngedig.

Isio gwybod mwy neu ymaelodi â’r Clwb? Ewch draw i gael cip ar yr holl lefelau aelodaeth ar wefan Y Selar.

selar.cymru/ aelod/lefelau

Tydi’r sin gerddoriaeth Gymraeg ddim yn sefyll yn ei unfan yn hir, ac fel un o’r cyfryngau sy’n adlewyrchu’r sin mae’n bwysig fod Y Selar yn parhau i ddatblygu a symud yn ei flaen hefyd. Cofiwch, mae croeso i chi ymuno â ni ar y daith wrth i ni barhau i groesawu cyfranwyr newydd – rhowch waedd os ydach chi ffansi.

Owain S

Rogue Jones

Sgwrs Sydyn Hap a Damwain

Enillwyr Gwobrau’r Selar 2022

10 Uchaf Albyms 2022

Dadeni Tara Bandito

Newydd ar y Sin

Cip rhwng y cloriau

Geiriau’r Gân

Adolygiadau

Colofn Hedydd Ioan

UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

DIRPRWY OLYGYDD Gruffudd ab Owain

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

HYSBYSEBION yselar@live.co.uk

CYFRANWYR

Tegwen Bruce-Deans, Lois Gwenllian, Gruffudd ab Owain, Bethan Williams, Elain Llwyd, Nel Thomas, Hedydd Ioan

@y_selar

facebook.com/cylchgrawnyselar

selar.cymru

Diolch yn fawr gyfeillion Y Selar (aelodau Rheolwr a Prif Ganwr Clwb Selar): Ywain Gwynedd, I KA CHING, Targed, Antoni a Dawn Schiavone, Gruffydd Davies, Illtud Daniel, Chris Roberts, Gethin Griffiths.

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi.

Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau.’

14 4 12 8
Llun clawr: Celf Calon 4 8 10 12 14 18 20 23 24 27
Rhif 64 // GWANWYN // 2023
.com
Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Llyfrau dros Gymru £9.99 £9.99 £8.99 £8.99 £14.99 £9.99 £8.99

Does dim llawer o fandiau mwy unigryw na Rogue Jones yng Nghymru ar hyn o bryd. A hwythau newydd ryddhau eu hail albwm, wyth blynedd ar ôl y cyntaf, Tegwen Bruce-Deans fu’n sgwrsio gyda dau aelod craidd y band ar ran Y Selar.

Caewch eich llygaid a gadewch i un o fandiau mwyaf creadigol ac unigryw’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru afael yn eich llaw a’ch tywys chi hyd lonydd troellog bywyd. Efallai y gwnewch chi ganfod eich hun yn troi corneli annisgwyl ar y ffordd, ond yn union fel crefftwriaeth gyffrous yr haenau o genres a hanesion sy’n ymblethu trwy’r albwm yma, diau y gwnewch chi ganfod pleser yn y llanast prydferth hwnnw. Er mai dyma yw’r ail faban i Rogue Jones ryddhau fel record i’r byd, fel mae enw’r albwm yn awgrymu, nid yw byd bach eclectig Bethan Mai ac Ynyr Ifan yr un fath ag yr oedd hi wyth mlynedd yn ôl, ar drothwy rhyddhau eu halbwm début, VU. Bellach yn rhieni i ddau o blant, mae Dos Bebés yn teimlo fel ymgais gan yr artistiaid i fynegi’r newid yma trwy ddathlu bywyd a’i holl feiau, ac yn y bôn gwerthfawrogi’r gallu i brofi hyn i gyd. Y gallu i fod yn fyw. Ond faint yn wir sy’n gallu newid o fewn wyth mlynedd, ers i Rogue Jones ddatgan eu hunaniaeth i’r byd am y tro cyntaf? Bethan sy’n esbonio.

“Natho ni’r albwm cyntaf heb rili recordio unrhyw beth o gwbl o’r blaen,” meddai.

“O’dd e’n fyd newydd i ni. Roedd e’n lot fwy amrwd. Felly fi’n credu erbyn hyn, ni’n gwybod tamaid bach yn fwy am sut i neud e! Er bod y geiriau a’r cynnwys dal yn teimlo’n amrwd ar yr albwm newydd, ni ‘di gallu cael mas ohono fe y math o sŵn bydde ni’n gobeithio amdano.” Mae Ynyr yn cytuno.

“Dwi’n meddwl bod yr albwm cyntaf yn eitha’ amrywiol o ran y mathau o ganeuon ac offerynnau sydd arno fe, ond fi’n credu efo’r record hwn ni ‘di gallu cymryd hynny hyd yn oed ymhellach i’r pegynau yna, yn swnio hyd yn oed yn fwy eclectig o ran sain.”

Cipolwg o brofiadau teuluol

Er gwaetha’r pegynau cerddorol mae Rogue Jones yn estyn amdanynt, mae’r albwm yn parhau i deimlo fel cyfanwaith diolch i linyn cyswllt sy’n rhedeg trwy’r traciau i gyd, sef ymgorffori’r profiad o ddod yn rhieni, a bywyd fel rhieni yn ei holl annibendod.

Rhwng ysgafnder twyllodrus ‘155 bpm’ sy’n gân wedi’i hysgrifennu yn dilyn clywed curiad calon eu plentyn am y tro cyntaf, a’r sengl ‘Fflachlwch Bach’, sy’n adrodd hanes Bethan yn ceisio cyfansoddi cân ac yn derbyn ychydig o ‘gymorth’ gan frwdfrydedd ei phlentyn hynaf, cawn gipolwg o brofiadau teuluol y cerddorion wrth iddyn nhw barhau i greu celfyddyd.

Er bod ehangder y sŵn ei hun yn gallu teimlo’n ddryslyd ar adegau, o ystyried gwirionedd rhai o’r hanesion agos-atoch sydd ar yr albwm, gellid dadlau bod yr anhrefn sonig yn adlewyrchu’r ffaith nad yw perffeithrwydd yn bod pan rwyt ti’n rhiant. Maen nhw’n dal i ddysgu a ffeindio’r ffordd.

Yn wir, mae rhai o draciau’r albwm yn llawer llai amlwg yn eu cysylltiad i’w bywyd teuluol. Ond fel mae Ynyr yn esbonio, mae hyd yn oed caneuon mwyaf dychmygol yr albwm wedi’u cyfansoddi’n anymwybodol trwy lens rhiant.

“Mae rhai caneuon - ‘Triongl Dyfed’ fi wastad yn meddwl am – sy’ falle’n fwy o outlier o ran themâu, ond mae hyd yn oed hwnna dal gyda cysgod o fod yn rhiant drosti. Er bod ‘Triongl Dyfed’ yn gân rili sili am aliens a llosgi tai haf, fi’n meddwl taw gwraidd e yw fi’n poeni am sefyllfa tai yng Nghymru ac am ddyfodol ein plant ni.”

Lluniau: Gareth Bull

Diau nad oes ‘na lawer iawn eraill o draciau yn yr iaith Gymraeg yn ymdrin ag un o ymgyrchoedd mwyaf eiconig yr 80au trwy lygaid estroniaid! Ond o wrando’n agosach ar y trac hwn a nifer o ganeuon eraill ar yr albwm, mae Rogue Jones hefyd yn benthyg ac yn cyfeirio at fwy o ddiwylliant a thraddodiad Cymreig na sy’n amlwg ar yr olwg gyntaf.

Edward H. Dafis sy’n rhoi benthyg ei eiriau i uchafbwynt diweddglo ‘Triongl Dyfed’, ac mae gwreiddiau’r gân olaf mewn alaw ychydig yn fwy traddodiadol.

“’Nath y gân ‘R Williams Parry’ ddechrau fel rhywbeth wnathon ni ar gyfer Emyn Roc a Rôl ar Radio Cymru, lle wnaethon ni cover version o’r emyn ‘Blaenwern’,” meddai Ynyr.

“Mae tôn ‘Blaenwern’ dal yn y gân derfynol, ond o’n i jyst isie trio ’neud e’n rhywbeth bydden i’n fwy cyfforddus yn canu amdano.”

“Ni’n cyfeirio at bethau fel crefydd a pethau a bywyd yn ein caneuon ta beth,” ychwanega Beth.

“Felly roedd y fersiwn newydd o ‘Blaenwern’ yn fath o fan cychwyn ar gyfer trywydd gwahanol o’n profiadau ni fel rhieni.”

O’r emynau i’r eclectig

Er gwaethaf pa mor unigryw, creadigol a chyffrous yw sŵn Dos Bebés, mae Bethan yn mynd ymlaen i esbonio cymaint mae emynau fel ‘Blaenwern’ ac alawon gwerin traddodiadol wedi gadael argraff arni hi a’r ffordd mae hi’n mynd at gyfansoddi cerddoriaeth.

“Er doeddwn i ddim o reidrwydd yn gwrando lot arnyn nhw ar y pryd tra roedden ni’n cyfansoddi’r albwm (o’dd e siŵr o fod lot mwy o Cyw yn lle!), fi’n credu maen nhw wastad yna ac yn dylanwadu’r ffordd mae lot o bobl Cymreig yn ysgrifennu. Dydy emynau ddim yn dal yn ôl! Big emotions, big hitters, yr holl harmonis a’r holl fawredd - eto, y pegynau ma! Dwi’n lico meddwl bod ni’n cofleidio hyn i gyd ar ein albwm ni hefyd”

O faledi piano i anthemau disgo, o bop cerddorfaol i dirweddau sain ffilmig; er mwyn llwyddo i greu seinwedd mor eclectig ag sydd ar Dos Bebés, mae’n siŵr ei fod yn anodd pinio lawr un neu ddau enw i’w galw’n dylanwadau artistig. I Ynyr, daw’r dylanwad mwyaf yn hytrach gan feddylfryd un artist yn benodol.

“Er bod dim un cân yn swnio fel Arthur Russell ar yr albwm, fi’n meddwl achos o’n i’n gwrando i dipyn ohono fe tra’n cyfansoddi, a’r ffordd mae e’n plethu lot o offerynnau cerddorfaol, electronig arbrofol, disco, ac arddull singer songwriter, fi’n meddwl o’dd hwnna’n rhywbeth ’nath rhyddhau fi eitha’ lot rhag teimlo fel bod ni’n gorfod sticio i un genre wrth greu’r albwm.”

Rhwng yr holl genres mae Rogue Jones yn plethu at ei gilydd ar yr albwm hwn, mae’r offeryniaeth ei hun yn gyfoethog ac amrywiol, gyda dylanwadau synth pop ac adrannau cerddorfaol ill dau yn hawlio’u lle ar y record. Er bod rhai o’r traciau yn teimlo’n fwy naturiol yn eu lle ar albwm o gerddoriaeth gyfoes, mae eraill fel ‘Gwaed’, er enghraifft, yn teimlo llawer tebycach i drac sain ffilm.

Mynd â rhywun i rywle Gyda’r ddau ohonyn nhw’n

gweithio yn y byd celfyddydau gweledol tu hwnt i endid Rogue Jones, dichon fod y ffordd mae Bethan ac Ynyr yn dehongli’r byd cerddorol yn wahanol o ganlyniad.

“Ni yn dod at bethau o le lle ti moyn dweud stori a chyfathrebu teimlad,” cyfaddefa Bethan.

“Dyna beth mae o gyd amdano ar draws y celfyddydau, trio ennyn y teimlad yna yn rhywun arall a mynd â rhywun i rywle.”

“Fi’n gweld lot o wahanol delweddau o fewn y caneuon, mae’n nhw’n eitha gweledol yn fy mhen i,” cytuna Ynyr. “Mae’r caneuon yn ffilmig iawn, mae ‘na stori iddyn nhw gyda chymeriadau sef ni rhan fwyaf o’r amser, a dwi’n meddwl byddet ti’n gallu mynd â phob cân a gwneud ffilm bach mas o nhw.”

Mae’n amlwg bod Bethan wedi cael ei dylanwadu gan y byd ffilm ychydig yn fwy uniongyrchol, hefyd!

“Mae cân ‘Babette’ wedi cael ei ddylanwadu gan y ffilm ‘Babette’s Feast’, ac mae rhywbeth yn y ffilm wedi treiddio mewn i meddwl fi. Ar un adeg, o’n i’n trio recordio breuddwydion fi. Dim exaggeration, dihunais i lan a recordio yn y nos, a phan nes i wrando nôl yn y bore o’n i ‘di ‘sgwennu cân! O’n i’n gorfod neud un neu dau tweak, ond dyna oedd ‘Babette’ wedyn.”

Felly gyda chaneuon sy’n ennyn cymaint o synnwyr gweledol ag ydyn nhw’n bleser i’r clust, y cam naturiol nesaf fyddai disgwyl gweld mwy o Rogue Jones ar y llwyfan yn y flwyddyn nesaf yn dilyn lansiad eu halbwm hirddisgwyliedig.

“Ni’n gobeithio chwarae’n fyw...” dechreua Ynyr.

“Ni’n mynd i chwarae’n fyw!” ychwanega Bethan yn benderfynol.

“Y gig diwethaf ’nes i oedd bola beichog gyda fi! Ac ers hwnna mae plentyn arall gyda ni ac mae pandemig wedi bod. Mae shwt gymaint wedi newid felly fi’n credu bod ni rili angen cefnogaeth ein band bach biwtiffyl newydd ’ma sydd gyda ni i dynnu Ynyr a fi mas o’n bybl bach ni hefyd.”

Yn wir, mi fydd camu i’r llwyfan unwaith eto yn gam anodd i Rogue Jones, ond un fydd yn talu ar ei ganfed hefyd. Gyda chymaint o goctels o sŵn ar yr albwm newydd, dichon fydd rhai o’r cysyniadau cymhleth yn anodd i gyfleu yn fyw. Ond edrychwn ymlaen at weld traciau Dos Bebés yn cael eu hail-ddychmygu a chymryd ar ffurfiau newydd, amrwd a naturiol ar lwyfan yn fuan, gobeithio.

Hap a Damwain

Mae Hap a Damwain yn brosiect mwy electronig ei naws gan ddau artist, Simon Beech ac Aled Roberts, fu’n rhan o’r grŵp Boff Frank Bough yn yr 80au a’r 90au. Ddiwedd Ionawr; rhyddhawyd eu hail albwm, Ni Neu Nhw, record gafodd ei greu ‘yn y cnawd’ yn hytrach na dros alwadau fideo fel eu halbwm cyntaf, Hanner Cant.

Sut ymateb sydd wedi bod i’r record hyd yn hyn?

Aled: [Mae ‘di bod yn] wych iawn hyd yn hyn gan y rhai sydd wedi prynu’r CD. Ma’ genny’ ni ryw fanbase bychan ond triw. ‘Den ni ‘di cael ambell i adolygiad ffafriol o wahanol rannau o’r byd, ond wrth gwrs, mae’n ddyddiau cynnar, felly wrth gigio ‘den ni’n trio hybu’r peth rŵan.

Lle a phryd a sut fuoch chi wrthi’n recordio?

Aled: ‘Den ni yn y ganolfan gymunedol yn yr Hen Golwyn bob bore dydd Llun i ymarfer ar gyfer gigs neu trio sgwennu cân newydd.

SGWRS SYDYN

Simon: Den ni’n defnyddio’r broses o ‘sgwennu a recordio fel den ni’n mynd. Oherwydd technoleg heddiw den ni’n sgwennu ar laptop; dio’m fath’a bod y stwff ‘den ni’n ‘neud angen sesiwn recordio fawr a mynd i’r stiwdio. Dyna sydd ran fwyaf ar yr albwm, ond wedi dweud hynny aethon ni i stiwdio Gwyn Jones (Maffia) i recordio lot o’r llais a dryms, ac mae o’n chwarae ar dri o’r traciau.

Aled: Ma’ ‘na naws fwy byw i rai o’r traciau newydd.

Ar ba fformat ac yn lle mae’r albwm ar gael?

Aled: Ar hyn o bryd mae o ar gael ar CD neu’n ddigidol, a’r cwbl ar ein gwefan Bandcamp. Bydd ‘na nifer cyfyngedig o mini disg ar gael yn fuan hefyd.

Simon: Dewch i’n gweld ni mewn gig a fydd ‘na rai’n fan’na.

I’r rhai sy’n anghyfarwydd efo’ch cerddoriaeth, be allen’ nhw ddisgwyl?

Simon: Mae’n gymysgedd o stwff electronig a stwff mwy indie rock traddodiadol.

Aled: Ond bob tro den ni’n dechre’ cân newydd, mi alla’ fo fynd i unrhyw gyfeiriad.

Ydych chi’n teimlo fod ‘na ofod o fewn y sîn gerddoriaeth yng Nghymru ‘dech chi’n ffitio fewn iddo fo neu ydych chi’n cynnig rhywbeth hollol unigryw?

Simon: Den ni ‘di bod yn chwara’ mewn bandia’ a gwneud stwff ers diwedd yr wythdega’ a ‘den ni o hyd wedi bod yn ymylol o ran be’ den ni’n ‘neud; ‘den ni’m yn ffitio’n naturiol i be’ sy’n digwydd yn y sîn Gymraeg…

Aled: …sy’n gallu bod yn anodd achos ‘den ni’n gorfod trefnu’n stwff ein hunain.

Simon: Den ni’m ‘di cyrr’edd playlists Radio Cymru eto, ond ma’ Rhys Mwyn a Huw Stephens ‘di bod yn gefnogol iawn. Ma’ genny’ ni stwff sydd yn ffitio fel baledi…

Aled: …wel ‘Baledi Arbrofol o’r Arfordir’ ydi Twitter bio ni felly ma hwnna’n disgrifio ni’n eitha’ da.

Simon: ‘Den ni’n dechra’ efo r’wbeth mwy traddodiadol, wedyn tweak-io fo a rhoi syna’ wiyrd arno fo a samples

Ydy’r gerddoriaeth wedi newid o gwbl rhwng y ddau albwm?

Simon: Ma’r strwythur wedi mynd yn fwy traddodiadol achos ‘dan ni’n chwara’n fyw; oedd lot o’r stwff ar yr albwm cynta’ yn ddi - strwythur, neu efo strwythur wiyrd efo tri [curiad] yn fa’ma a saith yn fan’na.

Aled: Ma’ hwnna wedi dod drwy ymarfar hefyd, i ‘neud o’n haws i gofio.

Simon: Ma’r sŵn yn eitha’ tebyg, dio’m yn mynd i fod yn sioc i rywun sydd wedi gwrando ar yr albwm cynta’.

Aled: Ma ‘na steil Hap a Damwain ‘does, a ma hwnna’n r’wbath sydd wedi datblygu wrth chwara’n fyw hefyd.

Mi enilloch chi wobr Llwybr Llaethog am gyfraniad i gerddoriaeth Gymreig y llynedd; ydy cyfrannu’n rhywbeth yn bwysig i chi?

Aled: Wrth gwrs, den ni’n mwynhau rhannu syniada’. Den ni’n mwynhau bod yma’n y ganolfan, ond dio’m digon da i jyst ‘neud o fath’a hobi.

Simon: Den ni yn casàu gorfod hybu fo, a ma’n mynd yn fwy o job wedyn; ‘den ni jyst isio g’neud cerddoriaeth.

Mae ‘na negeseuon – gwleidyddol er enghraifft –sy’n eithaf clir ar yr albwm, ydy mynegi negeseuon a syniadau yn bwysig i chi?

Aled: Dwi’m yn meddwl bod o’n bwysig i ni mae o jyst yn dod allan pan dan ni’n chwara’ efo syniada’.

Simon: Ma’ ‘na betha’ opaque a ma’ ‘na betha’ llai opaque

Aled: ‘Dan ni yn bobl sydd isio tegwch i bawb a ma hyn yn ca’l ei fynegi yn be’ dan ni’n ‘neud. Dio’m yn r’wbath den ni’n mynd ati i ‘neud, ma jyst yn dod yn naturiol.

Simon: Ma’r cân ‘Cynghorwyr’ yn pwyntio bys at caricature cartŵnaidd o gynghorwyr, er bo fi’n ‘nabod lot o gynghorwyr sy’n bobol neis sy’n g’neud lot o waith.

Aled: Ma’ genny’ ni gân o’r enw ‘Y Ffasgwyr’ am rywun sy’ ‘di ca’l mewn efo’r criw anghywir.

Yn hynny o beth, ydych chi’n ystyried eich proses greadigol yn un naturiol, er y ffaith fod technoleg yn gyrru’r gwaith; y syniadau a’r cynnyrch yn dod ‘ar hap a damwain’, bron?!

Aled: Wel ‘den ni’n iwsho rhyw fath o keyboard i ga’l syniada’ ar gyfer nodyn, wedyn ‘dan ni’n iwsho’r cyfrifiadur i gal drym bîts, [boed o’n] hip hop neu be bynnag.

Simon: ‘Nes i drio heddiw ‘neud un efo tempo 3 [bpm] ond o’dd y cyfrifiadur yn cau mynd lawr i 3; 5 di’r slofa’ ma’n mynd. Ma’n ddiddorol arbrofi efo petha’ fel’na, ond nes i sbîdio fo fyny i 100 [bpm] wedyn achos o’dd 5 yn ridiculous. Dwi’n cychwyn lot ohonyn nhw ar y [gitâr] bas a ffeindio bassline wrth jyst pigo fyny bas adra’ a jamio. Aled: Wedyn dwi’n meddwl am y tiwn, ac os ti’n g’neud ‘la la la’ digon ma geiria’ yn dod mewn a wedyn nawn ni feddwl am bits er’ill.

Simon: Ma’ lot ohono fo’n ca’l ‘i greu efo lŵps bach rili; ‘na’i gymryd y bassline a lŵpio fo neu cut and paste; den ni’n symud stwff o gwmpas, defnyddio overlays, symud stwff o’r bennill i’r cytgan.

Aled: Ma’ ca’l y syniad yn broses eitha’ sydyn; y rhan fwyaf ohono fo ydy troi o mewn i rywbeth gorffenedig.

Oes gennych chi hoff gân oddi ar yr albwm?

Simon: Dwi’n eitha’ licio ‘A.Y.Y.B’ (ac yn y blaen).

Aled: Dwi’n licio ‘Canolfan’ achos mae o’n sôn am fod yma yn y ganolfan a ma’n teimlo fel ‘bo ni yn rhan o’r gymdeithas. Ma’r armchair aerobics a Weight Watchers yma ar ôl ni a pobol neis yn rhedeg o felly ma’n neis bod yn rhan o’r gymuned.

Beth fyddai’r weithgaredd berffaith i gyd-fynd â’r albwm?

Aled: Oeddan ni’n meddwl ‘ella mynd ar drafnidiaeth cyhoeddus neu coginio ‘ella? Rhedeg?

Gwerthwch y record i ni mewn pum gair. Bosib ‘neith newid dy fywyd.

HOFF ALBYMS

Hoff ail albwm?

Pyst gan Datblygu neu Malltod gan Fflaps.

Hoff albwm o 2022?

Stumpwork – Dry Cleaning

(Aled: ond ma’r stwff dwi’n prynu’n dod ail law o’r siop recordia’ yn Abergele.)

Hoff albwm â theitl tri gair?

Y Testament Newydd gan Y Cyrff.

yselar.cymru 8
yselar.cymru 9

ENILLWYR GWOBRAU’R SELAR 2022

Fe welodd 2022 y diwydiant cerddoriaeth yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd wrth i gigs a gwyliau cerddorol yr haf ddod yn ôl yn eu llawn anterth. Roedd cynnyrch newydd Cymraeg yn cael ei ryddhau trwy gydol y flwyddyn, ac roedd cyfle i artisitiad newydd wneud eu marc ar lwyfan. Oedd, roedd yn flwyddyn wych i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, ac ym mis Chwefror roedd Gwobrau’r Selar yn ôl i ddathlu llwyddiant y flwyddyn a fu. Fel arfer, chi, darllenwyr Y Selar oedd yn gyfrifol am ddewis yr enillwyr a dyma’r enwau ddaeth i frig y bleidlais...

Cân Orau

(Noddi gan PRS for Music)

Tri uchaf:

Rhedeg Atat Ti - Angharad Rhiannon

Eto - Adwaith

Bricsen Arall - Los Blancos

ENILLYDD: Eto - Adwaith

Am flwyddyn wych oedd hi unwaith eto i Adwaith wrth iddyn nhw ryddhau eu hail albwm, Bato Mato, fis Gorffennaf. Cyn hynny roedden nhw wedi ryddhau cwpl o senglau i roi blas o’r hyn oedd i ddod gan gynnwys prif sengl epig y record hir newydd, ‘Eto’. Tiiiiwn!

Gwaith Celf Gorau

Tri uchaf:

Deuddeg - Sywel Nyw

Seren - Angharad Rhiannon

Swnamii - Sŵnami

ENILLYDD: Swnamii - Sŵnami

Parhau wnaeth comeback Sŵnami yn 2022 wrth iddyn nhw ryddhau eu hail albwm hirddisgwyliedig (mae 7 mlynedd ers y gyntaf yn ddigon hir!) ac mae Sŵnamii yn brosiect uchelgeisiol. Albwm cysyniadol o fath, ac mae’r gwaith celf gan Gruffydd Sion Ywain yn ran pwysig o’r cysyniad hwnnw.

Artist Unigol Gorau

Tri uchaf:

Mared

Cerys Hafana

Elis Derby

ENILLYDD: Mared

Dau gyn enillydd ac un enw newydd ar y rhestr fer benodol yma, ac un o’r cyn enillwyr aeth a hi. Dyma’r trydydd tro o’r bron i Mared ddod i frig y bleidlais i ddewis yr Artist Unigol Gorau ac mae’n anodd dadlau gyda dewis y cyhoedd.

Band Gorau

Tri uchaf:

Bwncath

Sŵnami

Adwaith

ENILLYDD: Adwaith

Dyma i chi frwydr, a rhestr fer arall oedd yn cynnwys enwau dau gyn enillydd, ac un oedd heb ddod i’r brig o’r blaen. Er gwaetha prysurdeb a phoblogrwydd

Bwncath, ac albwm ardderchog Sŵnami, does dim amheuaeth mai blwyddyn Adwaith oedd 2022 ac mae’n nhw’n enw newydd ar y teitl ‘Band Gorau’.

Seren y Sin

Tri uchaf:

Owain Williams (Klust)

Sian Eleri

Elan Evans

ENILLYDD: Owain Williams

Mae hwn yn gategori pwysig, ac un sy’n nodi cyfraniad unigolion sy’n gwneud gwaith gwych i hyrwyddo’r sîn a cherddoriaeth Gymraeg. Dyma dri enw sy’n cyfrannu mewn ffyrdd gwahanol, ond yr un mor bwysig, a thri sy’n haeddu cael eu cydnabod. Owain Williams a’i waith ardderchog ar wefan a zine Klust ddaeth i’r brig y tro hwn.

Record Fer Orau

Pedwar uchaf:

Mali Hâf EP

Ynys Alys EP

Crescent - Thallo

Llygredd GweledolChroma

ENILLYDD: Crescent - Thallo

Mae’r EP wedi cael mymryn o adfywiad yn ddiweddar, ac roedd hwn yn gategori agos iawn. Cymaint felly nes bod rhaid cael pedwar ar y rhestr fer gan fod rhif 3 a 4 yn y bleidlais yn gwbl gyfartal! A hithau wedi wynebu cymaint o heriau personol yn ddiweddar, roedd gweld Thallo’n dod i’r brig yn teimlo’n briodol iawn rywsut.

Trowch i’r dudalen ‘10 Uchaf Albyms 2022’ i weld 3 uchaf ac enillydd categori’r Record Hir Orau)

Gwobr Cyfraniad Arbennig

ENILLYDD: Lisa Gwilym

Yn draddodiadol, cerddorion sydd wedi ennill y wobr yma, ond roedd hi’n bryd am chenj. Mewn gwirionedd, bwriad y wobr ydy cydnabod y cyfraniad mae unigolyn arbennig wedi’i wneud tuag at hyrwyddo’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg gyfoes, a does dim amheuaeth fod Lisa Gwilym yn enillydd haeddiannol. Dros 20 mlynedd mae wedi rhoi llwyfan a sylw cyson i gerddoriaeth Gymraeg newydd ar ei rhaglenni radio a thrwy hynny wedi chwarae rôl bwysig yng ngyrfa cannoedd o artistiaid Cymraeg cyfoes. Llongyfarchiadau mawr i Lisa.

Fideo Cerddoriaeth Gorau

Tri uchaf:

Band neu Artist Newydd Gorau

Tri uchaf:

Angharad Rhiannon

Dom James a Lloyd

Melda Lois

ENILLYDD: Dom James a Lloyd

Dyma i chi gategori diddorol iawn eleni gyda thipyn o artistiaid newydd wedi cael cyfle i wneud eu marc wrth i gigs, gwyliau a Brwydr y Bandiau ddychwelyd go iawn! Ond pwy all anghofio’r buzz wrth i ‘Pwy Sy’n Galw?’ lanio gan y rapwyr Dom James a Lloyd, a’r cyffro a ddaeth yn sgil hynny. Gobeithio y gwelwn ni fwy gan y ddeuawd, a’r artistiaid newydd eraill, yn ystod 2023.

Byw efo Hi - Elis Derby

Cynbohir - Gwilym x Hana Lili

Drama Queen - Tara Bandito

ENILLYDD: Drama Queen - Tara Bandito

Mae’r fideo cerddoriaeth wedi datblygu i fod yn arf digon hanfodol i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae mwy a mwy ohonyn nhw’n cael eu creu a chyhoeddi. Da o beth am hynny, yn enwedig gyda’r safon yn codi’n gyson. Roedd gan Tara Bandito ddigon o fideos gwych i ffurfio rhestr fer ei hun, ac efallai y mwyaf gweledol drawiadol o’r rhain oedd ffefryn y pleidleiswyr.

Gwobr 2022

ENILLYDD: Izzy Rabey

Mae Izzy Rabey yn ymgorfforiad o’r hyn mae’r wobr yma’n ei gynrychioli, ac roedd yn enillydd amlwg i dîm golygyddol Y Selar. “Mae’n llais ffresh, cryf o fewn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg sy’n gweithredu mewn modd positif i sicrhau cyfartaledd o fewn y sin boed hynny’n roi llwyfan amlycach i ferched, i’r gymuned LQBTQ+ neu bobl o liw ac o gymunedau ethnig.” - Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar.

Llun: Lŵp

Seren

– Angharad Rhiannon

Label: Annibynnol Rhyddhawyd: Hydref

Fe fyddai clywed cyhoeddiad enw enillydd gwobr Record Hir Orau 2022 Gwobrau’r Selar ar raglen

Ifan Evans wedi bod yn ychydig o syndod i rai mae’n siŵr. A hithau yng nghwmni dau o fandiau mwyaf Cymru ar hyn o bryd ar y rhestr

fer o dri, roedd yn amlwg bod y newyddion yn dipyn o syndod i Angharad ei hun hefyd! Ond, mae pleidleiswyr Gwobrau’r Selar wedi

bwrw eu pleidlais a datgan yn glir mai albwm cyntaf y ferch o Gwm Cynon ydy Record Hir Orau 2022. Wedi’i ryddhau’n annibynnol, mae Seren yn yn

llafur cariad y mae Angharad wedi bod yn gweithio arno ers sawl blwyddyn. Wrth ymateb

i’r newyddion am y wobr, roedd Angharad yn awyddus i ddiolch i’w theulu a ffrindiau oedd wedi cefnogi’r prosiect, ac yn arbennig i’w merch sydd wedi’i hysbrydoli. Mae gweld pa mor hapus oedd hi yn sicr wedi dod â gwên i’n hwynebau ni, ac mae’r Selar yn estyn llongyfarchiadau mawr i Angharad.

1 4 3 2

Yn nhywyllwch Clwb Ifor Bach ar nos Wener Dydd Miwsig Cymru a’r trydydd llawr dan ei sang y peth olaf y byddech yn disgwyl ei weld yw arch yn cael ei chario drwy’r dorf a’i rhoi i orffwys ar y llwyfan.

Ar y sgrin fawr yng nghefn y llwyfan mae fideo ‘Six Feet Under’ gan Tara Bandito yn chwarae. O’r arch daw llais cyfarwydd ac wrth i’r gerddoriaeth ymchwyddo yn codi o’r arch mae Tara.

Bedwar diwrnod ynghynt…

Rwy’n cerdded tuag at gaffi Barker’s yng Nghaerdydd yn trio meddwl lle i ddechrau holi Tara. Mae Tara Bethan wedi bod yn enw a wyneb cyfarwydd i mi (a Chymry ym mhobman) ers dw i’n cofio. O fod wedi gwrando ar ddwy gyfres o’i phodlediad ‘Dewr’, mae’n teimlo fel ‘mod i’n ei ‘nabod hi’n dda, ond dydw i ddim o gwbl. A dyma fi’n ffendio’n hun yn eistedd i lawr efo hi i drafod albwm cyntaf Tara Bandito.

“Oedd o’m fod yn album Doedd o ddim ‘sdi…” mae’n ei ddweud wrtha’ i pan ofynnais beth oedd ei gweledigaeth wrth fynd ati i greu’r albwm.

“Mi wnaeth ‘Blerr’ ddod i fi yng nghanol y cyfnod weird pandemic. Rhywbryd yn ystod hwnna. Ac ers dw i’n cofio dw i wedi sbïo ar fands ac wedi bod fel “dw i isio gwneud hynna gymaint dw i’m hyd yn oed yn gallu cydnabod y peth i fi fy hun”. Oedd o’n brifo gymaint, bron fel ‘mod i wedi gadael fy hun lawr drwy beidio’i wneud o. Oedd o fel euogrwydd, ti’n gwybod? Ac yna, all of a sudden, oedd gen i ‘Blerr’ ac oedd gen i ‘Rhyl’ a nes i ofyn i Llinos [cynhyrchydd y podlediad ‘Dewr’] be dw i’n gorfod ‘neud i ryddhau single? Beth mae rhywun yn ‘neud? Dw i’n meddwl bod gen i un neu ddau. A ‘naeth hi ddweud gofyn i Yws yn Côsh. A dyna nes i.”

Roedd y flwyddyn a ddilynodd hynny’n gorwynt iddi. Roedd ei gig byw cyntaf yn nunlle llai na The Roundhouse yn Llundain. Chwaraeodd Tafwyl a Maes B ynghŷd â 14 gig arall, a’r nesaf yw hedleinio Dydd Miwsig Cymru yng Nghlwb Ifor Bach.

“Oedd [y flwyddyn ddiwethaf] yn lot i drio delio efo fo’n emosiynol. Fel rhywun sy’n teimlo gymaint oedd yr holl wahoddiadau ‘ma i chwarae’n Tafwyl, chwarae’n Maes B yn supportio Eden, o’n i fel “What?” Oedd o’n lot o brosesu tra hefyd yn handio fy

hun, fy enaid ar blât drwy fiwsig, dod i fyny efo concepts music videos, cyfarwyddo nhw, sortio costumes allan… oedd hi’n mad o flwyddyn.”

Does dim dwywaith fod Tara Bethan wedi cael gyrfa lewyrchus ond mae rhywbeth yn teimlo’n wahanol am y prosiect hwn. Mae Tara Bandito wedi cydio yn nychymyg pobl o bump i bum deg pump oed. Beth yw’r cynhwysyn hud?

“Tara Bandito ydy Tara Bethan, ac i gyd o’r ups a’r downs, a’r stwff tu mewn a’r siwrna, a’r bywyd yn cael ei dipio mewn pot o glitter. Os fyswn i yn eistedd ac adrodd lyrics fy nghaneuon ‘sa pobl yn rili trist, ond rho di o efo pumping drums a guitar solo dance moves a glitter, sequins, feathers ac mae pobl fel “dw i’n getio’r geiriau, dw i’n uniaethu ond hwrê gawn ni ddathlu ein unicornness” yn hytrach na eistedd yna efo acoustic guitar, lle nes i ddechrau efo Six Feet Under. Dw i’n meddwl mai’r rheswm mae o ‘di cymryd mor hir i gyrraedd rŵan ydy gweithio allan sut i beidio depressio pawb ond hefyd sticio i dy wirionedd di.”

Mae gwir a gwirionedd yn amlwg yn bwysig iddi, ac mae’n agored iawn i siarad am yr holl brofiadau da a drwg sydd wedi cerfio’r Tara yma sy’n dewis cael ei dipio mewn glitter.

yselar.cymru 15 yselar.cymru 14 Lluniau: Celf Calon
“Pan o’n i’n ‘rysgol, o’n i ddim yn ffitio fewn achos o’n i’r hogan ar y teli do’n?”

“Dros ‘Dolig es i i fyny i’r Gogs a chyfarfod ambell berson yn y pyb oedd wedi dod drosodd i ddweud

“Tara Bandito, dw i’n licio stwff ti.”

Ond fel Tara Bethan – mae pobl yn adnabod ti os ti ‘di bod ar y teli neu’r radio, mae pobl yn gwybod pwy wyt ti dydyn, yn enwedig yng Nghymru, mae pawb yn ‘nabod pawb – fyswn i byth yn proud o hynny o’r blaen.

‘Swn i fel “o ia dyna dw i’n ‘neud ond dim dyna pwy ydw i.” Fysa ‘na rhyw awkwardness, ti’n gwybod? Ond rŵan, os ydy pobl fel “O ti ydy Tara Bandito?” dw i fel, “Yes! Talk to me!!”

A dw i’n meddwl be ydy o, sy kind of yn mynd yn erbyn bob dim dw i wedi’i osod i fi fy hun fel rheswm i wneud Tara Bandito sef “dw i’m yn care-io be dach chi’n feddwl,” ydy trwy bod pobl yn licio Tara Bandito dw i’n cael fy nerbyn. Mae’r fi go iawn yn cael ei derbyn. Ac mae hwnna’n rhywbeth dw i wedi stryglo efo fo trwy ‘mywyd. Pan o’n i’n ‘rysgol, o’n i ddim yn ffitio fewn achos o’n i’r hogan ar y teli do’n? A mae hwnna’n bad vibes. Ges i ‘mhen wedi fflysio lawr y toilet a petha fel ‘na ti’n gwybod? So, mae’r hogan fach ‘na eisio cael ei derbyn dal i fod ond dw i’n gwneud o ar telerau fi rŵan.”

Rhyddhau’r hogan fach

Un peth sy’n dod i’r amlwg yn ystod ein sgwrs ydy fod yr hogan fach saith oed ‘na wrth ochr Tara ym mhopeth mae hi’n ei wneud yn greadigol. Un o’r enghreifftiau cliriaf o hyn yw’r gân ‘Drama Queen’ sy’n fath o lythyr i’w hun pan oedd hi’n blentyn yn cynnig maddeuant am unrhyw gamau gwag a gymerodd ar y daith i’r man yma. Drwy’r fideo gwelwn glipiau o Tara yn blentyn yn perfformio.

“Drama Queen, Paid â dangos dy hun, Paid ymddangos fel ti dy hun

Gorchuddia wyneb â thlysni ffug…”

Rhain yw geiriau agoriadol y gân ‘Drama Queen’. Fel llawer o’i chaneuon, siarad gyda’i hun mae hi er bod modd eu dehongli nhw fel anerchiad i’w gwrandawyr.

“Dyna sut o’n i’n teimlo yn rhywle rhwng 7 ac 16 oed. Pobl arall yn gwisgo fi, pobl arall yn rhoi make-up arnaf i, pobl arall yn gofyn i fi golli pwysau.”

Gwyliwch y fideo a chraffwch ar y clipiau, mi welwch ychydig o’r tristwch ‘na mae Tara wedi sôn gymaint amdano yn ei llygaid hi.

“Efo’r blynyddoedd o therapi dw i wedi’i gael mae’r therapists yn gofyn o hyd “Sut mae dy hogan fach di’n teimlo? Sut mae Tara 7 oed yn teimlo?” Mae ‘na lot o waith o drio mynd yn ôl i’r cyfnod yna a gofyn be fysa chdi’n ‘neud i edrych ar ôl y plentyn bach ‘na rŵan? Fel oedolyn sut fyswn i wedi gwarchod y plentyn yna? A be dw i’n ‘neud [efo Tara Bandito] ydy ei rhyddhau hi, ei rhoi hi mewn ff**in sequin leotard a mynd “Watch this!” Felly pan dw i’n canu, yn perfformio a sgwennu a rhyddhau stwff, dw i’n oedolyn; ond pan dw i yn y sequin leotards ‘na dw i’n ôl yn saith oed ac mae ‘na rywbeth really healing am hynna. Achos fi sydd wedi dewis y sequin leotard tro ‘ma, neb arall.”

Ar ddechrau ein sgwrs fe soniodd Tara am y sioc a gafodd hi yn Nhafwyl pan welodd hi “kids bach 6 oed wedi gwisgo fel fi mewn plu yn dawnsio i ‘Blerr’” a’i bod hi ddim wir yn deall pam.

Prysurais i ddweud wrthi bod fy nwy nith fach i sy’n 6 a 7 mlwydd oed wrth eu boddau â chaneuon Tara Bandito hefyd, a pha mor falch ydw i eu bod nhw’n tyfu fyny yn gwrando ar “love yourself songs” yn hytrach na “love songs” (er bod lle i rheiny hefyd!) fel y gwnes i. Ond bron i awr o sgwrsio yn ddiweddarch, dw i’n sylwi bod mwy i’w mwynhad nhw o’r caneuon nag alaw fachog.

Mae gan y Tara 7 oed ran ym mhob penderfyniad creadigol mae’r Tara 39 oed yn ei wneud. Mae dychymyg abswrd plentyn, rhyddid chwareus ieuenctid, ac agwedd unrhyw-beth-yn-bosib yn drwch drwy Tara Bandito yn enwedig yn weledol. Dyna mae’r “kids bach” yn ei weld – ffrind i chwarae a chanu gyda hi, gofod diogel i ddawnsio ynddo. A beth amdanon ni oedolion? Rydan ni’n gweld y rhyddid a’r hyder i fod yn ti dy hun. Rydan ni’n gweld ei bod hi’n oce i fod yn llanast o dro i dro. Rydan ni’n gweld dathliad o ddod i ‘nabod ti dy hun, i dderbyn ti dy hun ac i garu ti dy hun am bwy wyt ti go iawn.

Yn nhywyllwch Clwb Ifor Bach ar nos Wener Dydd Miwsig Cymru a’r trydydd llawr dan ei sang un o’r pethau dedwyddaf allech chi ei weld yw band, dawnswyr a Tara Bandito mewn ff *** n sequin leotard.

yselar.cymru 16
Geiriau: Lois Gwenllian
“pan dw i yn y sequin leotards
‘na dw i’n ôl yn saith oed…”

Newydd ar y Sin Newydd ar y SÎn

Ffatri Jam

Hanes

Band roc ag aelodau o Arfon a Môn yw ‘Ffatri Jam’, sy’n cynnwys wynebau cyfarwydd o grŵpiau Calfari, Y Galw a Terfysg. Bryn Hughes Williams ac Aled Sion Jones ddechreuodd y cyfan pan gawson nhw lond bol ar berfformio cyfyrs, ac wedi hynny daeth Sion Emlyn Parry a William Coles i ffurfio pedwarawd. Bellach, â’u sŵn yn “rhy fawr i’w ail-greu’n fyw”, mae pumed aelod wedi ymuno, sef Huw Owen.

“O’ddan ni gyd wedi stopio creu cerddoriaeth am gyfnod ac o’ddan ni gyd wedi colli fo oherwydd y pandemig neu bod i ffwr’ dramor,” esbonia Bryn, y prif leisydd.

Er mai dim ond am ychydig fisoedd maen nhw wedi bodoli, maen nhw eisoes wedi rhyddhau tair sengl sydd wedi ennyn cryn ymateb, gan ymddangos ar restrau chwarae BBC Introducing, BBC Radio 1 a Spotify, yn ogystal â dod y grŵp Cymraeg cyntaf i gael eu chwarae ar Planet Rock Radio.

“Ma’n hollol sioc rili; do’ddan ni ddim yn disgwyl dim byd fel hyn ‘chos nathon ni ddisgyn fewn i’r sŵn [roc trwm] ‘ma. Ond ‘dan ni wedi treulio dipyn o amser yn ‘sgwennu a trio creu

Dafydd Owain

Hanes

Bydd llawer o ddarllenwyr Y Selar yn gyfarwydd â rhan Dafydd Owain ym mandiau Palenco, Omaloma, Jen Jeniro ac Eitha Tal Ffranco yn y gorffennol, ond bellach mae wedi penderfynu lansio’i hun fel artist unigol. “’Nes i gyflwyno un neu ddwy o’r caneuon sydd ar fy albwm i rai o’r bandiau dw i wedi bod yn rhan ohonynt ond doedden nhw ddim yn gweithio [i’r bandiau] rywsut,” esbonia. “Roedd ‘na gasgliad go helaeth o’r caneuon oeddwn i’n gwybod na fyddai’n gweithio i’r bandiau oeddwn i ynddyn nhw hefyd, felly dda’th hi’n weddol amlwg erbyn diwedd fod yna le i roi’r caneuon mewn un ‘prosiect’ annibynnol.”

’wbath sydd ddim fel ‘wbath dwi ‘di sgwennu dros nos.

“[Dan ni’n] rili falch fod pobl wedi ymateb a bod y sîn yng Nghymru a UKwide wedi mwynhau be’ dan ni ‘di greu hyd yn hyn; ma’n reit sbeshal.”

Sŵn Fel y mae Bryn yn cyffwrdd arno uchod, nid sŵn trwm oedd y bwriad gwreiddiol. “‘Na’thon ni ddechra’ sgwennu cerddoriaeth country rock a ‘nath o newid rywsut neu’i gilydd pan ‘nathon ni fynd i ymarfar yn y stiwdio yn Penmynydd yn sir Fôn.

“Dwi’n meddwl bod pobl yn sylwi bod roc yn dod yn ôl. Ella be’ sy’n unique am y sŵn ydi bod o bach yn Americanaidd dechrau 2000s hefo twist modern arno fo.

Gigs Cefn Car

“Yn amlwg ma’ ca’l Siôn sy’ di byw yn LA yn America yn dipyn o ddylanwad, a dwi bach hŷn na gweddill yr hogia’ so dwi ‘di tyfu ‘fyny efo stwff mwy trwm.

References ni ydi bandia’ fath’a Rage Against The Machine a Monster Truck.”

Beth nesaf?

 hwythau eisoes wedi cael dechrau cynhyrchiol gan greu cryn argraff, beth sydd ar y gweill i Ffatri Jam?

“’Dan ni ‘di bod yn ffodus iawn o ga’l [arian] launchpad gan Gorwelion ‘leni o’dd yn annisgwyl am bo’ ni ond yn actif ers mis Medi.

“Plania’ ni mwy na dim ydi mynd nôl i’r stiwdio i recordio gweddill [ein] EP ni felly fydd hwnna allan gobeithio erbyn diwadd mis Ebrill.

“Ma Lŵp (S4C) yn mynd i fod yn ffilmio fideo ar gyfer ‘Geiriau Ffug’, dan ni’n mynd i fod yn chwara’n fyw, ond y prif beth ydi dal i sgwennu a parhau i fynd o nerth i nerth efo be’ ‘dan ni’n rhyddhau.”

Hanes

Un o artistiaid ifainc prysuraf y sîn, Dafydd Hedd, oedd yn gyfrifol am y syniad o greu Gigs

Cefn Car, ac yntau’n awyddus i gigio gyda’i gyd-gerddorion. Ar ôl trefnu un gig yn The Moon, Caerdydd, esblygodd y syniad a daeth yr angen am frand. Ers y dechrau, mae wedi cyd-weithio ag eraill i greu’r gyfres, ac erbyn canol Mawrth maent wedi cynnal pum digwyddiad, gan serennu artistiaid megis skylrk a Morgan Elwy.

“Ddaru’r brand gael ei eni ar gae Maes B yn Nhregaron ar ddiwrnod braf a phoeth gyda ffrindiau. Mae Iestyn yn ardderchog gyda gwaith graffeg, Lewis yn sbarduno syniadau unigryw, yn dod i fyny efo’r enw, ac Osian yn ‘neud o’n bosib i ni redeg gigs ar draws y wlad,” eglura Dafydd.

Mae’n ddiwydiant anodd, ac mae’n cydnabod hynny. “Mae trefnu gigs yn broses hwyl ond [mae ‘na] straen. Weithiau mae’r ansicrwydd sy’n dod efo creu, rheoli a bod yn gyson wrth farchnata [yn] gallu bod yn anodd.”

Sut mae mynd ati i drefnu, a rhoi llwyfan i artistiaid newydd ac amrywiol? “Rydym yn dechrau drwy darganfod lleoliad priodol ar gyfer yr artistiaid. Mae pawb yn gweithio reit agos at bobl newydd yn y sîn felly mae wastad artistiaid i’w ystyried.”

Bwriad

Mae’r pwyslais ar gefnogi artistiaid newydd i ddod o hyd i’w traed yn glir

yma, ac wrth gynnal gigs yng Nghaerdydd, Bangor, Caernarfon a Wrecsam, ceir elfen o gynrychioli ardaloedd gwahanol o Gymru wrth drefnu. Y cysylltiad rhwng y ddau sy’n greiddiol i’r prosiect.

“Er mwyn cynnal a chreu sîn gerddorol iachus sy’n ffynnu, mae angen i bobl wthio ein sîn byw. Mae hi’n gallu bod yn anodd i dorri allan o dref ddechreuol a cael gigs ar draws y wlad pan yn dechrau,” esbonia.

“Rydym yn ceisio pontio rhwng artistiaid newydd a lleoliadau gigio ledled y wlad, a drwy hynny creu cyfleoedd i artistiaid ddarganfod cynulleidfa newydd.”

Beth nesaf?

Parhau i fynd o nerth i nerth, mae’n ymddangos. “Rydym yn sôn gyda Neuadd Ogwen i roi noson acwstig ymlaen yn Y Fic yn yr haf. Rydym yn gobeithio cynnal sioe yng nghanolbarth Cymru. Fysa

Aberystwyth yn hwyl, a mae angen i ni drefnu noson yn Nhregaron rhywbryd, gan [mai] yno oedden ni pan greon y brand yn y lle cyntaf.”

Ac o gofio’r pwyslais ar roi cyfle i artistiaid ddarganfod cynulleidfa newydd, does dim bwriad i osod cyfyngiadau arnyn nhw’u hunain o ran lleoliadau. “Rydym yn gobeithio rhoi sioeau ymlaen tu allan i Gymru hefyd, yn Llundain, Bryste, Manceinion a Lerpwl a hyd yn oed pellach er mwyn rhannu ein diwylliant gyda’r byd.”

Eitem fach newydd wrth i ni ddethol senglau sydd wedi cael eu rhyddhau gan artistiaid sy’n newydd i’r sîn...

‘Golau’ – Alis Glyn

O le? Caernarfon

Beth? “Dwi’n hoff o roi negeseuon positif gan fy mod yn sylwi bod mwyafrif y caneuon sydd nawr yn cael eu cyfansoddi yn rhai trist a lleddf,” meddai.

‘Cefnogi Cymru’ – Dadleoli O le? Caerdydd Beth? Dim ond y dechrau oedd y trac Cwpan y Byd i’r band pop ifanc, sy’n barod wedi chwarae yng Nghlwb Ifor ac ar y Noson Lawen.

‘Sgen Ti Awydd?’

– Maes Parcio O le? Arfon a Môn Beth? Trac bywiog gan y band pync sydd wedi’i ffilmio ar gyfer ‘Curadur’ Lŵp S4C, a hwythau’n dymuno dilyn trywydd trymach eleni.

‘Tywod’ – Melda Lois

O le? Penllyn

Beth? Er fod Melda Lois yn enw cyfarwydd â hithau wedi serennu ar Cân i Gymru yn y gorffennol, dyma’r sengl gyntaf iddi hi ei rhyddhau.

‘Dewch Draw’

– Pixy Jones

Mae eisoes wedi rhyddhau dwy sengl i’n cyflwyno ni i’w brosiect a’i sain, ac wedi creu fideo i gyd-fynd â nhw. Pam fod hynny’n bwysig iddo? “Yn ystod fy nghyfnod mewn bandia’ fath’a Eitha Tal Ffranco, doedd y cyfrynga’ cymdeithasol ddim yn bodoli yn y ffordd maen nhw heddiw. O’dd hi’n ddipyn o beth cael camera ar ffôn heb sôn am gael camerâu ffôn fel sy’ gynnom ni heddiw. Ro’dd hyrwyddo miwsig yn rhywbeth o’dd yn digwydd drwy’r radio, teledu a gigs.

“Bellach, y cyfrynga’ cymdeithasol ydi’r brif ffordd o hyrwyddo cerddoriaeth. Ond cyfrynga’ ‘gweledol’ ydyn nhw. I gymryd enghraifft fel Instagram, platfform sydd wedi ei hadeiladu ar ddelweddau ydi hi, a’r ddelwedd sy’n ‘taro’ gynta. Felly ma’ hyrwyddo miwsig, sy’n gyfrwng

‘anweledol’, ar blatfform o’r fath yn gallu bod yn trici. Dyna pam mod i’n dwtsh o ffan o’r ‘fideo miwsig’ achos ma’n ychwanegu haen arall.”

Sŵn

“Dw i wedi rhywsut dod fyny efo’r genre o ‘melancolipop’ ar gyfer fy ngherddoriaeth; ‘pop’, yn yr ystyr fod lot o’r caneuon efo riffs bachog, sy’n seiliedig ar felancoli bywyd,” dywed. Mae’n credu fod ‘Uwch Dros y Pysgod’, ei sengl gyntaf, yn enghraifft dda o’i gerddoriaeth yn fwy cyffredinol; un sy’n “swnio’n ddigon hapus a hyfryd ar y glust, ond ma’r geiriau yn delio efo profiadau reit drist a thywyll. Dw i’n meddwl mod i’n defnyddio’r gerddoriaeth i ddweud wrth fy hun, a phawb, y bydd bob dim yn iawn yn diwadd.”

Pwy a beth yw’r dylanwadau ar ei gerddoriaeth? “Mae’na fandiau ac artistiaid

fel Wilco, Tom Waits, Bitw a H Hawkline sy’n dylanwadu ar y gerddoriaeth o ran sŵn a theimlad.

“Ond, gan fwyaf, y geiriau dw i’n ysgrifennu sy’n dylanwadu’r gerddoriaeth. Oni bai am rai achlysuron yma ac acw, dw i’n rhoi’r pwyslais mwyaf ar eiriau caneuon a’r rheini sy’n strwythuro’r gân i mi erbyn diwedd. Dw i’n hoff o gael y miwsig i ‘ffitio’ o amgylch y geiriau yn hytrach na chael y geiriau i ‘ffitio’ o amgylch y gerddoriaeth.”

Beth nesaf?

“Rhyddhau cwpwl mwy o sengla oddi ar yr albwm, weeeedyn* rhyddhau’r albwm, weeeeedyn* gigs lansio albwm a weeeedyn*…albwm arall ia?

[*I’w ynganu yn llais Syr Wynff ap Concord y Bos a/neu Plwmsan y Twmffat Twp.”]

O le? Caerdydd

Beth? Gitarydd El Goodo, sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pum mlynedd, yn lansio prosiect unigol; dyma drac bachog ac anthemig o’i albwm cyntaf, Bits n Bobs

‘Golau’ – Popeth ft.

Martha Grug

O le? Caerdydd

Beth? Prosiect pop sy’n anelu i fod yn gynhwysol ac yn flaengar, sydd hefyd wedi cydweithio gyda Bendigaydfran a Kizzy Crawford ar senglau.

‘Cwestiynau’

– Tesni Owen Hughes

O le? Môn

Beth? Er yn brofiadol wrth berfformio a rhyddhau, “dwi byth ‘di rhyddhau cân mor serious a hyn,” meddai. Dyma’i sengl gyntaf ar label INOIS.

yselar.cymru yselar.cymru 18 19
Newydd
Rhestr Chwarae
ar y Sîn

Cip rhwng y cloriau

‘Circa 21/22’ gan Rhys Grail

Ddiwedd mis Chwefror fe gynhaliwyd lansiad arbennig ar gyfer cyfrol newydd oedd yn cynnwys lluniau amrywiol o artistiaid Cymraeg a Chymreig gan y ffotograffydd Rhys Grail.

Bydd Rhys yn gyfarwydd i lawer o’r darllenwyr fel aelod o’r band Gwilym, ac mae wedi manteisio ar ei adnabyddiaeth o gerddorion a bandiau Cymraeg eraill i greu cofnod ffotograffig unigryw o gyfnod arbennig yn hanes y sin gerddoriaeth Gymreig.

‘Circa 21/22’ ydy enw llyfr cyntaf y ffotograffydd ac fel mae enw’r gyfrol yn awgrymu, mae’n cynnwys lluniau o fandiau ac artistiaid Cymreig wedi eu tynnu’n ystod 2021 ac 2022.

Roedd Y Selar yn falch iawn i gefnogi lansiad y gyfrol mewn parti arbennig yng nghaffi Braf, Dinas Dinlle gyda’r bandiau Alffa, Y Cledrau a skylrk. yn perfformio. Roedd

arddangosfa o luniau Rhys hefyd i’w gweld yn y digwyddiad.

Mae’r llyfr bellach ar gael i’w brynu ar wefan Rhys, ond mae’r ffotograffydd wedi bod yn ddigon

caredig i gynnig cip ecsgliwsif

rhwng y cloriau i ddarllenwyr Y Selar trwy ddewis rhai o’i hoff luniau o’r casgliad, ynghyd ag egluro pam ei fod mor hoff ohonynt.

Dion a Sion - Alffa

Dyma ddau bortread nes i dynnu o Dion a Sion o’r band Alffa jyst cyn iddyn nhw fynd i chwarae ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod

Tregaron llynedd. Odd hi’n gig ar ddydd Mawrth y ‘Steddfod lle oedd

Gwilym ac Alffa ar yr un bill y gig cynta i’r ddau fand mewn w’sos llawn gigs. Nes i dreulio’r w’sos cyfa’ really yn dogfennu Dion a Sion achos oddan ni’n chwara pretty much bob un noson efo’n gilydd.

Y Cledrau (Du a Gwyn)

Dyma un o’r llunia gora dwi erioed ‘di dynnu dwi’n meddwl. Shot o Y Cledrau ar Ilford HP5 yn chwara’ ar noson FREEEEEZINGGGGG!!!!! ym Maes B Tregaron.

Zac - Chroma

Mis Tachwedd 2022 ges i’r cyfla’ i dynnu llunia o Chroma tra odda nhw’n chwarae gig draw yn Wrecsam. Ma’r band i gyd yn gwisio dillad gan y designer Adam Jones… sydd hefyd yn wreiddiol o Wrecsam! Ma dillad Adam yn hollol class a odd hi’n braf gallu cyfuno’r byd cerddoriaeth Gymraeg efo llunia’ fashion photography!

Y Cledrau (Lliw)

Llun o Y Cledrau yn chwara ar ryw nos Iau randym yn Y Glôb ym Mangor. Dwi’n cofio piciad draw ar ôl gwaith un noson i’w gwylio nhw! Yr unig gamera odd gena’i arna fi odd ryw point and shoot tiny odd yn gallu ffitio yn pocad fi!

yselar.cymru yselar.cymru 20 21

Elan - Plu

Ges i’r fraint o saethu’r llunia odd yn cydfynd ag album newydd Plu yn 2021. Un o’r shoots mwya chill erioed. Diwrnod braf, couple o bed sheets combination symbol a dwi’n meddwl bod yr llunia yn grêt.

Geiriau’r Gân

Olion yr Hen Hualau

Artist newydd sydd wedi dod i amlygrwydd dros y misoedd diwethaf ydy Ffos Goch. Dyma brosiect newydd y cerddor profiadol, Stuart Estell, sydd ddim ond wedi bod yn dysgu’r Gymraeg ers 2019. Bu Stuart yn perfformio mewn bandiau ers blynyddoedd, gan gynnwys The Fall, a gyda cyn-aelod y grwp enwpg hwnnw, Julia Adamson. Er hynny, Ffos Goch ydy ei ymgais gyntaf I gyfansoddi yn y Gymraeg ac fe ddaliodd ei sengl Nadolig, “Dim Eira, Dim Sioe (Sion Corn yn y Carchar)” sylw Y Selar, ymysg eraill, fis Rhagfyr.

Nawr, mae nôl gyda sebngl newydd ‘Olion yr Hen Hualau’, a ysbrydolwyd gan ymweliad â Chapel Celyn. Gan bod hanes difyr, a neges glir i’r geiriau, roedden ni’n meddwl ei bod yn berffaith ar gyfer Geiriau’r Gân. Dyma Stuart i ddweud mwy...

“Daeth syniad y gân o weld y graffiti ar olion waliau’r capel (ac sydd ar glawr y sengl). I fod yn hollol onest wedd y gair “hualau” yn un newydd i fi ar y pryd - ond mae’n gwneud synnwyr perffaith yn y cyd-destun hwnnw.

Caleb ac Iwan

- Kim Hon

Di dal moment fach rhwng

Caleb ac Iwan o’r band Kim Hon yn y gig Gigs Tŷ Nain yn Pontio. Cofio gweld Iwan yn trio cal w’bath allan o ddant Caleb. Wrth i fi scannio’r negatives nes i hollol anghofio bod fi di tynnu’r llun yma.

‘Olion yr Hen Hualau’

“Ges i sawl sgwrs gydag ymwelwyr eraill — ac roedd yr amgylchedd tamaid bach fel oedfa capel. Sobr, parchus. Ers i fi recordio’r gân a siarad amdani, dwi wedi dechrau meddwl - ai dyna pam cafodd yr ymweliad effaith mor fawr arna i?

Wedi treulio shwt gymaint o amser fel organydd mewn capel Cymraeg yn Birmingham, yng nghwmni pobl a ddaeth yn deulu i fi - teulu go iawn - dros y blynyddoedd gwyliais i’r gymuned yn diflannu yn raddol wrth iddyn nhw farw fesul un. Sa i’n gallu dychmygu pa mor echrydus teimlodd y colled llwyr yn Nhryweryn ar y pryd.

Loetran ger olion yr hen hualau, fe glywaf rhyw sisial o dan y cymylau mewn iaith ddiethrgelyn pennaf fy llonnydd yn awr yw’r awel sychaf.

Bachwch gopi o ‘Circa 21/21’ ar wefan Rhys Grail - rhysgrail.co.uk

“O’n i wedi meddwl bod geiriau’r gân yn dod o safbwynt un o’r rhai sydd yn dal i fod o dan y concrit, ond erbyn hyn dwi’n meddwl - falle bod y capel ei hun yn canu.”

Euraidd bydd yr haul, gwyrddlas bydd y gwair, ond gwaetgoch yw amlinell pob un gair. Nid wyf yn byw, ni gana ddim o’r clychau — does dim ond olion yr hen hualau.

yselar.cymru yselar.cymru 22 23

Seren

Angharad Rhiannon

Dyma glamp o record – yn 57 munud o hyd - nad oeddwn yn ymwybodol ohoni cyn iddi ddod i’r brig yng Ngwobrau’r Selar. Mae’n ffitio siwrne awr yn berffaith, a dwi’n gwrando arni â meddwl agored.

Un peth sy’n fy nharo’n syth yw ei harddull wrth ganu; mae’n pwysleisio’i chytseiniaid caled mewn ffordd sy’n teimlo’n

Gymreig iawn - nid à la Cerdd

Dant, ond mewn modd sy’n ffitio’r gerddoriaeth. Yn y pum trac cyntaf, dwi’n teimlo ‘mod i wedi mynd yn ôl mewn amser – mae sain 80au amlwg ar sawl un o’r traciau. Dwi ddim yn meddwl mai bwriad yr albwm yw bod yn arbrofol, ac yn hynny o beth, mae ‘na rywbeth cysurus am yr arddull a’r sain.

Wedi dweud hynny, pan ddelo trac rhif chwech mae ‘na ryw ysgwyd yn y drefn a phethau’n bywiocáu. Rhywfaint o siom mai cân am Siôn Corn yw hon, sydd ddim cweit yn taro tant ar noson wleb o Fawrth, ond mae’n nodi, serch hynny, peth newid o ran tempo ar gyfer gweddill y record.

Gellir rhannu’r record yn dri; mae’r pedwar trac cyntaf yn ddehongliad o ‘Seren’ sy’n creu naws

‘gofodol’, a’r pedwar trac olaf yn rhai Saesneg. Yn y canol, mae dehongliad o ‘Seren’ fel person arbennig, ac mae llawer o’r rhain yn sicr yn disgyn i gategori caneuon serch; rhai pop-aidd, 80au-aidd sydd ddim yn faledi epig.

Mae’r geiriau’n adlewyrchu hyn; y defnydd cyson o ragenwau personol ‘fi’ a ‘ti’ yn llinyn drwy’r record. Fedrai’m peidio â theimlo efallai ei bod hi wedi ildio i clichés wrth ysgrifennu’r geiriau... ‘enfys ar ôl y glaw... dal fy llaw’ er enghraifft. Ond eto, mae apêl i hynny fel mae apêl i’r gerddoriaeth; mae’n saff yn sicr, ac fel mae’r wobr yn profi – i ddwyn teitl un o’r traciau mwyaf poblogaidd – mae hynny’n ‘Taro

Deuddeg’ i sawl un.

Gruffudd ab Owain

Ni Neu Nhw Hap a Damwain

Mae Hap a Damwain yn enw addas ar gyfer band sy’n creu cerddoriaeth sy’n amrywio cymaint o drac i drac, a hyd yn oed o fewn trac, fel ‘Am y tywydd’, sy’n dechrau fel cân roc yn ac y gorffen yn rhywbeth hollol wahanol. Trwy gadw’r riff a’r gitâr wrth i’r naws newid a symud ymhellach oddi wrth hynny mae’r newid yn ddisymwth. Un peth cyson drwy’r albwm yw bod curiad y bît yn sylfaen cryf ac yn amlwg iawn, yn cynnal y gân. Fel Cyflawn Cyflawn sy’n gân stripped back ond mae’r bît cryf yn ei chynnal.

Mae’r albym yn mynd â ni o ganeuon chwareus, hwyliog fel ‘Adran Llywelyn’, sy’n drac agoriadol cryf, yn syth i gân futuristic, leddf, ‘Cyfrifydd Creadigol’, sydd yn dechrau’n eitha

Swnamii

Sŵnami

Does dim dadl fod yr albwm hwn yn athrylithgar. Mae’r 11 trac yn mentro ar y sialensau o fod yn ifanc ac yn eich 20au, ac yn rhoi awgrym o dopigau perthnasol iddynt fel galar, perthnasoedd, prysurdeb, a hunan-ddarganfyddiad. Credaf fod y cerddorion wedi gallu rhoi golau ar sefyllfaoedd mwy dwys drwy gadw gwir ystyr negeseuon y caneuon. Defnyddir llawer o samplu a thechnegau electronig sy’n rhoi cyffro a naws fodern i’r albwm. Yn amlwg dydyn ni methu anwybyddu’r campwaith sy’n glawr i’r albwm; wedi ei greu gan Gruff Ywain. Mae’r 11 ’stafell yn y gwesty, a phob ’stafell yn cysylltu gyda chân ar y casgliad. Mae’r lliwiau neon yn amlinellu’r ieuenctid a’r egni sy’n dod ar yr albwm.

Mae’r albwm yn agor gyda champwaith ‘Theatr’ sy’n sicr yn rhoi argraff anhygoel i’r gwrandäwr ac yn gosod y bar yn uchel iawn am weddill y record; mae’r naws sinematig yn plethu gyda’r teitl a’r

syml, ac yn adeiladu ar y sylfaen nes bod sawl haen o sŵn yn plethu i’w gilydd i greu cyfanwaith.

Wrth fynd drwy’r albym mae’r amrywiaeth yn parhau, mae gan ‘Cynghorydd’ neges wleidyddol sy’n cael ei chyfleu drwy sŵn heriol, pendant a llais crac, lyn lawn agwedd.

Un o uchafbwyntiau’r albym yw Seibanterliwt. Mae’r sain yn chwareus eto ac yn adlewyrchu’r chwarae â geiriau. Mae’r teitl ei hun yn amwys - ond yn agosach at “banterliwt” na saib-anterliwt. Mae chwarae ar eiriau yn amlwg mewn caneuon eraill, fel ‘Llai nag Un’, â’r geiriau: “Yn ôl y mathemateg o’n i’n chwilio am yr ateb. Oedd o’n llai nag un.”

Rhwng y gerddoriaeth a’r geiriau mae’r cyfan yn dod at ei gilydd, ond nid ar Hap a Damwain, mae’n amlwg fod popeth yno am reswm.

Tara Bandito

Tara Bandito

O un Nancy ymhlith miloedd, i’r un a’r unig Tara Bandito: dyma albwm sy’n ddatganiad personol o hunaniaeth a bwriad, a does dim dwywaith amdani fod Tara wedi dod o hyd i’w swigen unwaith eto ar ôl teimlo ar gyfeiliorn am flynyddoedd.

Mae perfformio yn ei gwaed, ac o ddychwelyd i’r llwyfan mae’n amlwg bod y wreichionen yn ôl yn ei llygad ac yn barod i danio. Rhywbeth arall yng ngwaed

Tara sydd wedi gadael argraff fawr ar yr albwm hwn yw ei diweddar

thad, El Bandito. ‘6 Feet Under’, trac tyner yn deyrnged i un o’i hysbrydoliaethau mwyaf, sy’n agor yr albwm. Mae arddull foel y curiadau mawr yn cyferbynnu gyda melystra melfedaidd llais

Tara sy’n gweu barddoniaeth Cynan i felodïau, wrth iddi rannu ei theimladau ddeuddydd wedi

marwolaeth ei thad.

Hawdd fyddai disgyn ar y bai o fod yn or-bersonol wrth ymdrin

â themâu mor sensitif, ond mae

Tara yn llwyddo ar yr un pryd

i’n tywys ni drwy brofiadau

cyffredin y Cymry cyfoes. Mae

dathlu canfyddiad personol yn troi mewn i ddathliad o Gymreictod

yn ei holl ehangder, gyda

thraciau fel ‘Croeso i Gymru’ a’r deyrnged ‘Datblygu’ yn crisialu’n berffaith cymaint y mae’r sîn cerddoriaeth Gymraeg a diwylliant Cymreig wedi ehangu ei ffiniau a chofleidio’r newydd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn union fel mae Tara wedi crybwyll ei hun, diau na fydd cyfeirio at unicorns a’r holl theatr o amgylch perfformio traciau’r albwm at ddant pawb. Ond yn yr un ffordd gellid dadlau nad yw unrhyw berson at ddant pawb chwaith, ac nid yw hynny’n rheswm i deimlo’n wylaidd dros

ddatgan yn falch pwy wyt ti eisiau bod. Trwy ei hysgrifennu cathartig mae Tara yn arllwys ei hun i’w thraciau, ac mi ydw i’n falch iawn o weld y fath hunanymbweru sy’n agenda i Tara Bandito yn digwydd yn yr iaith Gymraeg yma yng Nghymru o’r diwedd.

thema o ieuenctid. Yn ffodus ac yn anffodus gall y gytgan chwarae drosodd a throsodd yn fy mhen am ddyddiau.

Mae’n arbennig iawn gweld y cydweithrediad gydag Alys Williams ar ‘Slowplay’; mae ei llais a thechnegau yn dod â chyfoeth ychwanegol i’r gân. Edmygaf y defnydd o linynnau yn ‘Uno, Cydio, Tanio’, sy’n ychwanegu dyfnder i’r gân ac yn rhoi defnydd modern ac ifanc i offerynnau sydd efallai’n fwy traddodiadol. Hoffais y newid yn naws yr albwm yn y gân ‘Anghyfarwydd Haul’ ac mae dylanwad Thallo yn amlwg yn y gân yma, a’i llais yn ychwanegu hud i’r albwm. Gwelaf y cyfuniad o Gymraeg a Saesneg yn ddiddorol iawn, ac yn denu mwy o wrandawyr i’r gân a’r albwm.

Credaf bod yr albwm yn cadw’n driw i wir sain Sŵnami, ac yn denu cynulleidfa eang a mawr iawn, drwy arbrofi gyda sain dydyn ni erioed wedi ei glywed o’r blaen yn y sîn roc Gymraeg.

Nel Thomas

Mae Mali Hâf yn byrlymu â syniadau sy’n tarddu o ddylanwadau hynod amrywiol. Mae hi wedi creu cryn argraff ar y gofod electronig/RnB amgen/pop o fewn y sîn wrth ryddhau senglau’n araf bach, ond mae EP yn gam sylweddol ymlaen i unrhyw gerddor. Daw angen i feddwl yn fwy am gyfanwaith, a dw i’n credu ei bod hi wedi llwyddo yn hynny o beth.

Ar draws y pum trac mae digon o amrywiaeth; mae’n dechrau gyda thri trac sy’n fwy ymlaciol, yn fwy chill ac yna dw i’n cael y teimlad yn y ddau drac olaf, sef ‘Llygaid Tara’ a ‘Pedair Deilen’, fod newid bach yn y naws; mae ‘na sŵn bas grŵfi ofnadwy a thempo bywiocach. Dwi’n ffàn o’r caneuon i gyd, ond yn enwedig o’r grŵf ar ddiwedd y record, sydd dwi’n teimlo’n rhywbeth newydd i’w cherddoriaeth, o fod wedi dilyn dechreuadau ei gyrfa. Dyma artist sy’n barod i arbrofi; dywedodd hi wrth Y Selar yn ddiweddar nad ydy hi cweit wedi diffinio’i cherddoriaeth eto. Mae elfennau o natur a diniweidrwydd ac ysgafnder yn glir drwy’r record yn ei chyfanrwydd, ac awgrym bron o wreiddiau mewn cerddoriaeth werin Gymreig. Un peth sy’n sicr, dyma record ac artist sy’n chwa o awyr iach.

Gruffudd ab Owain

EP Crescent

Thallo

Mae’r EP tri trac yn dechrau hefo ‘Carry Me’ sy’n agor hefo sain cerddorfaol cyn torri i steil atmosfferig a llais unigryw Thallo. Mae Thallo wastad yn darganfod balans mor hyfryd drwy gymysgu steiliau cerddorol gwahanol. Mi wnes i wirioneddol fwynhau’r gymysgfa o sŵn electroneg gyda’r offerynnau chwyth yn rhoi prif thema’r gân i ni drwyddi. Cawn adegau cryfach, hefo lot o ddyfnder sain, cyn symud i wagle cerddorol i roi lle i’r geiriau.

Yn yr ail drac Crescent’ cawn sain dechnolegol hefo’r piano a’r offerynnau chwyth yn gymysg gyda kit drymiau, sy’n rhoi darn fwy rhythmig y tro yma. Mae ei cherddoriaeth yn llawn rhythmau jazz, sy’n cadw’r gân mor ddiddorol tan y nodyn olaf un sy’n gadael i chi hongian.

Y trac olaf ydi Pluo’ sy’n ailadrodd themâu cerddorol yn y Piano ac yn cadw diddordeb gyda rhythmau Jazz a thrwmped yn y gwead y tro yma, sy’n ychwanegu i’r llun a’r teimlad mae Thalo’n ei greu i ni.

Be sy’n uno y tri trac ydi llais lledrithiol Thallo sy’n creu lluniau a theimladau drwy gerddoriaeth glyfar a chynnes. Edrych ymlaen am fwy – barus de?!

Elain Llwyd

adolygiadau
Mali Hâf Mali Hâf

Ynys Ynys

Mae’n bosib dweud fod cyhoeddi eu halbwm cyntaf yn benllanw ar gyfnod i Ynys; prosiect diweddaraf Dylan Hughes (Race Horses, Radio Luxembourg gynt). Cyfnod lle maen nhw wedi bod yn cyflwyno’u hunain i’r sîn a diffinio’u lle arni, gan greu cryn argraff. Dros gyfnod o ambell flwyddyn, daeth cyfle i ni ymgyfarwyddo â’u sain nhw, wrth iddyn nhw’n temptio ni â senglau fel ‘Caneuon’ a ‘Mae’n Hawdd’. Wrth gwrs, mae albwm yn teimlo fel cam naturiol ymlaen ar lwybr y prosiect felly, ac ydi, mae’r sain cyfarwydd hwnnw’n llifo’n gyfoethog drwy’r record. Mae rhywbeth eithaf melancolig am y sain a’r harmonïau’n enwedig; mae rhywbeth cynnes amdano ond eto rhyw dinc chwareus. Mae’n bosib fod enw ambell un o’r traciau fel ‘Môr Du’ a ‘There’s Nothing

The Sea Doesn’t Know’ - ac enw’r albwm a’r band ei hun hefyd - wedi dylanwadu ar y modd mae rhywun bron yn gallu teimlo’r môr yn y sain;

Adolygiad Circa 21/22

Rhys Grail

Wrth chwilio am ddyfyniad bachog (er crinji efallai) i gychwyn yr adolygiad yma, mi ddois i ar draws un yn cyfeirio at ffotograffiaeth fel tocyn i foment fyddai fel arall wedi diflannu. Dyma’n union mae Rhys Grail wedi’i wneud rhwng dau glawr ‘Circa 21/22’ – rhoi tocyn yn ôl i ambell ennyd mewn gig, a’i gamera’n dod â’r cyfan yn fyw.

Rhwng y ddau glawr, y ddelwedd gyhoeddus sydd i’w gweld gan

fwyaf; yn naturiol, am mai lluniau o gerddorion ar lwyfan yn perfformio sy’n llenwi’r rhan fwyaf o’r tudalennau. Rhy docyn sy’n fwy na hynny, fodd bynnag, gan fod yma docyn y tu ôl i’r llen, ac un sy’n mynd â ni gefn llwyfan – sy’n galluogi cip o’r ddelwedd breifat.

Mae ‘na ambell enghraifft sy’n aros yn y co’; setlist a’r beiro’n sychu wrth fynd i lawr y rhestr, delwedd o’r Cledrau’n ffilmio fideo gerddoriaeth, a’r llun sy’n cloi’r cyfan – criw mewn stafell gefn â brechdanau a chaniau pop a bagiau plastig, a Rhys yn defnyddio’r drych yn effeithiol.

mae’n sain cartrefol. Ond ar yr un pryd, mae ‘na elfennau - fel effaith fuzzy’r gitârs sy’n creu rhyw deimlad niwlog i’r sain - sy’n sicr yn creu ymdeimlad cryf o ddihangdod i’r gerddoriaeth.

Roeddem ni wedi’n paratoi ar gyfer yr albwm hwn, dwi’n credu; y llond llaw o senglau wedi llwyddo i fynegi hanfod Ynys. Mae’r traciau gafodd eu rhyddhau’n flaenorol ymysg y rhai mwyaf bachog ar yr albwm, y rhai mwyaf pop-aidd, y rhai mwyaf anthemig, o bosib. Daw’r traciau eraill â dyfnder sylweddol i’r record, a digonedd o amrywiaeth hefyd. Er hynny, mae’n gasgliad cydlynus, peth digon anodd ac anghyffredin mewn albwm cyntaf.

Mae pob un o’r traciau’n ffitio’n dda, sy’n deillio, mae’n debyg, o’r modd y maen nhw wedi diffinio’u sain yn eithaf pendant yn eu cynnyrch cynnar.

Mae’n record hyfryd iawn, a chyda phob penllanw daw cyfnod newydd, felly bydda’ i’n dilyn trywydd y prosiect hwn yn eiddgar.

Gruffudd ab Owain

Yr hyn sy’n fy nharo i fwyaf am y casgliad, fodd bynnag, yw’r modd y mae wedi llwyddo i bortreadu perthynas. Y berthynas rhwng y cerddorion a’u cynulleidfa, a thrwy hynny berthynas cynulleidfaoedd â cherddoriaeth. Gwelir yma ddawnsio, yfed a gwenu; yn

aml fodfeddi’n unig i ffwrdd o’r perfformwyr. Hoffwn pe gallwn osgoi’r cliché, ond mae’n anochel

felly sôn am bortread o ddychweliad i normal yn y byd cerddoriaeth

yn dilyn cyfnod y pandemig. Mae

portread yma o berthynas rhwng

unigolion mewn grŵp, a darlun o hwyl yn hynny o beth. Mae

portread yma hefyd o berthynas

rhwng y cerddorion a’u hofferyn a’u cerddoriaeth; enghraifft sy’n sefyll

allan yw ennyd sy’n dal Ifan Pritchard (Gwilym) fel pe bai ar ganol dod â syniad yn fyw wrth biano.

Drwy blethu hyn oll, llwydda i gynnig portread byw, real, lliwgar, amrwd a byrlymus. Tocyn oes i ennyd ar sîn sy’n ffynnu. Gruffudd ab Owain

Zine Klust: 01

Mae adolygu yng Nghymru yn gallu bod yn fusnes anodd. Gyda nifer cyfyngedig o bobl mae’n gallu teimlo weithiau fel fod yna echo chamber eitha mawr o fewn y celfyddydau, efo neb eisio pechu ei gilydd. Ac o ganlyniad i hynny, ddim adolygiadau onest yn cael ei rannu sydd yn ceisio gwella y gwaith gaiff ei ryddhau. Dyma oedd fy mhryder wrth ddechrau darllen y zine Klust. Casgliad o 10 adolygiad byr gan griw o awduron ar draws Cymru, hanner yn y Gymraeg ac hanner yn y Saesneg. A dau ddarn ffotograffiaeth gan Rhys Grail ac Aled Victor. Mae yna gasgliad gwych o albyms yn cael eu trin yma, a ddim jest o gerddoriaeth Gymraeg, ond cerddoriaeth o Gymru. Mae’n teimlo fel adlewyrchiad lot mwy clir o’r sîn fodern, lle mae’r iaith yn ganolog i’r gwaith, ond ddim yn yn dal y sîn yn ôl rhag dathlu bob darn o waith Cymreig sydd wedi cael ei gynhyrchu, dim bwys am yr iaith. Mae’r dewis o awduron a cherddoriaeth wir yn plesio, er fod y darnau weithiau yn teimlo fel ei bod drosodd cyn iddynt allu cael gafael iawn ar drafod yr albwm. Ond yn hytrach na adolygiadau pytiog mae’n teimlo lot mwy fel casgliad o albyms y flwyddyn wedi ei guradu mewn i ddarn cryno a stylish. Mae’r clawr yn dangos hyn yn amlwg, y logo Klust yn fawr ar y blaen ar y cefndir gwyrdd nodweddiadol i’r wefan. Mae’n amlwg fod hwn yn collectors item i selogion y sîn yng Nghymru.

Y peth gwaethaf am y zine ydi bod yna ddim mwy yma. Ond mae’r clawr minimal yn ateb ein gofynion, ar waelod cornel dde y clawr mae ‘01’ wedi ei argraffu. Y dechreuad ydi hwn, a dwi methu disgwyl i weld y rhifyn nesaf.

Hedydd Ioan

Colofn Hedydd Ioan

Bydd enw Hedydd Ioan siŵr o fod yn un cyfarwydd i lawer o ddarllenwyr Y Selar. Mae’n wneuthurwr ffilm llwyddiannus, yn creu cerddoriaeth rap dan yr enw skylrk. a bellach hefyd yn rhedeg label recordiau – boi prysur. Yn ein golofn i’r Selar mae’n trafod y camau cyntaf at ffurfio label Inois gyda’i gyfaill Osian Cai...

Mewn byd ymhell i ffwrdd mae gormodedd. Gymaint o stwff i ddeud y gwir, fel fod bob dim angen ei gyfiawnhau. Hyd yn oed cerddoriaeth. Dyma pam yn y byd yma fyswn i angen gwneud cais cyn cychwyn label gerddoriaeth. A fyswn i’n cyflwyno’r maniffesto cerddorol yma i chi ar ffurf potel fach wydr.

Dwi’n rhedeg yn syth o’r drws lle dwi di bod yn casglu tocynnau i’r haid o bobl sy’n mynd yn wyllt yn nhu blaen y ‘stafell. Lot o’r bobl yma’n anghyfarwydd er mawr syndod i mi. Mae’r haid byddarol yma’n symud ac yn neidio’n wyllt i gân olaf set Maes Parcio. Wrth iddyn nhw gyrraedd y gytgan dwi’n dal llygaid Gwydion, y prif leisydd. Y ddau ohona’ ni yn gegrwth ac yn feddw ar yr egni oedd yn y ‘stafell ar yr eiliad yna. Os fysa angen unrhyw faniffesto ar gyfer rheswm i gychwyn label gerddoriaeth, dyma fysa fo. Potel fach wydr efo’r cemegion i ail greu yr ecstasi llwyr o’r foment yna.

Fe ddaeth y label i fodolaeth o reidrwydd i ddeud y gwir. Odda ni isio cychwyn rhyddhau ein cerddoriaeth o ddifri, ac yn lle torchi llewys a cheisio cael ein harwyddo gan label, dyma fi a’n ffrind gora’ yn penderfynu gneud y dewis diog a jyst cychwyn un ein hunain. Roedd Osian a fi wedi bod yn ffrindia gora ers amser maith, a’r ddau ohona’ ni’n chwara i fandiau ein gilydd, felly odd o’n no brainer i ddeud y gwir.

Ond i gychwyn unrhyw label llwyddiannus mae angen artistaid, ac er ein bod ni’n rhyddau cerddoriaeth ein hunain

roedden ni’n awyddus iawn i allu cydweithio efo artistiaid newydd eraill. Da ni’n lwcus iawn o fewn wyth mis i allu rhyddhau chwech sengl yn barod gydag chwech artist o begynau hollol wahanol. O dirluniau sain abstract Sachasom ac Alaw i tiwns bachog Maes Parcio a Tesni Hughes. Doddan ni’n methu credu’r peth i ddeud y gwir, yn sydyn reit oddan ni’n teimlo fod yna rywbeth yn digwydd. Y momentwm yma arweiniodd at y foment anhygoel dwi wedi ei chyflwyno i chi. Ar ddechrau mis Mawrth penderfynon ni gynnal ein gig cyntaf. Y foment o ecstasti cerddorol llwyr. Moment sydd mond yn bosib wrth ddod a pobl at ei gilydd drwy gerddoriaeth. Ewch amdani, fydd yna byth gormod o gerddoriaeth yn y byd.

Seren - Angharad Rhiannon

Y lle amlwg i edrych am destun Trac i Drac y rhifyn yma oedd yr albwm a ddaeth i frig y bleidlais yng nghategori Record Hir Orau 2022 Gwobrau’r Selar. Efallai nad Angharad Rhiannon oedd yr enw amlycaf ar y rhestr fer eleni, ond wrth i Seren gipio’r wobr, yn sicr mae pawb yn gwybod amdani bellach! Cyfle perffaith felly i ni ddod i adnabod traciau’r casgliad yn well, ac i Angharad ymgymryd â’r her o gyflwyno’r albwm mewn dim ond brawddeg yr un, Drac Wrth Drac

1. Diau Daw yr Awr Gobaith yn sgleinio trwy dywyllwch y gân hon.

2. Seren Dilyna dy freuddwyd, be bynnag yw hi.

3. Talgryf (Gydag Alistair James)

Pob yn ail llinell wedi’i chydgyfansoddi gydag Alistair James yn ystod y cyfnod clo.

4. Rhedeg Atat Ti Gem o “Stuck in the mud”.

5. Ti yw’r Un Er bo na biliynau o bobl ar y ddaear, mond un person mae’n cymryd i newid dy fyd.

6. Mae Santa ar ei Ffordd Cyffro noswyl Nadolig mewn cân.

7. Wrth Dy Ochr Di Gyda bach o help, mae unrhywbeth yn bosib.

8. Addewidion Dyma’r math o gân gei di os ti’n gwylltio fi.

9. Tryboli

Pan ti methu cysgu yn y nos a dy feddwl yn troi a throi.

10. Taro Deuddeg Y peth dwi mwya balch ohoni yn y byd i gyd – fy merch.

11. Tra Bod Un Y gân gyntaf i mi recordio.

12. Rhwng Meddwl ac Ysbryd

Os ti byth di brwydro mewn rhyfel di-baid yn dy ben dy hun, ti’n arwr.

13. A Different Me Fersiwn Saesneg, ond nid cyfieithiad, o ‘Diau Daw yr Awr’.

14. Coming Back for You Fersiwn Saesneg o ‘Rhedeg Atat Ti’.

15. Only Me Fersiwn Saesneg o ‘Tra Bod Un’.

16. Warrior Queen Fersiwn Saesneg o ‘Rhwng Meddwl ac Ysbryd’.

adolygiadau

Ar gael o’ch siop lyfrau leol

Dyma dy le

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfleoedd a bywyd cwbl unigryw i fyfyrwyr Cymraeg.

• Cymuned o fyfyrwyr cyfeillgar a chroesawgar

• Ystod eang o gyrsiau a chyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

• Ysgoloriaethau astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Dysga fwy ar Ddiwrnod Agored: aber.ac.uk/diwrnodagored

22 Ebrill > 8 Gorffennaf > 14 Hydref

Y Brifysgol Orau

yng Nghymru am

Ansawdd y Dysgu a

Phrofiad Myfyrwyr

(Canllaw Prifysgolion Da, The Times and Sunday Times 2023)

Y Brifysgol Orau

yng Nghymru a Lloegr am

Fodlonrwydd

Myfyrwyr

(Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022)

Gwobr Aur am

Breswylfeydd a

Llety Myfyrwyr

(WhatUni? Gwobrau Dewis Myfyrwyr 2022)

112833-03.23
#CefnogiSiopauLlyfrau

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.