Issuu on Google+

RHIFYN 23 . RHAGFYR . 2010

y Selar

AM DDIM

COWBOIS RHOS BOTWNNOG DAU I’W DILYN MR HUW ADOLYGIADAU

cwmderi, blackpool a’r

ods


Beibl y Bysgwyr! Alawon a chordiau gitâr caneuon mwyaf poblogaidd y 40 mlynedd diwethaf dim ond £14.95

Darllen hanfodol

£7.95

£5.95 £9.95

Y Lolfa Talybont Ceredigion SY24 5HE 01970 832 304 ylolfa@ylolfa.com www.ylolfa.com

Dodd com

Eich rhaglen chi yn fyw ar y we 7pm Llun – Gwener bbc.co.uk /c2

Dilynwch y sw ˆn ar Facebook a Twitter c2_advert_190x138mm.indd 1

18/11/2010 15:06


YR ODS

L O D D Y GOLYG

OWAIN S

COWBOIS RHOS BOTWNNOG

4 DAU I’W DILYN

i chroeso Selar, a Y in l s y y w d n yr an mywy rall ym darllenw a d n h y c y d ff d Hen i blwy har i glo di rifyn llac raeg. m n fach o y n aeth G flwyddy n y di bod y e d w o gerddori i b wedi mae h 0 s h 1 o rt 0 2 b w e , e H Ma raeg mraeg. iau Cym idd aeth Gy li a band e conoma b e gerddori la d i ia d g s d a o n w a ir r d n a rinde flwyddy aliadau . Mae p u breind l ar y sin mlwg yn ystod o d d e i doriada n io yn reit a act gwir eld bod gael imp wydd wedi bod braf gw ’n e a e m n erbyn y d, ond deunydd ryddhau ganlynia i i’ o d en e n y w d môl yr h ewydd y flwyd tân ym d unydd n o e b d d u a o tipyn yn yn am . Mae d o flaen y Nadolig . l swatio n e a fa u. y g c i h r c i’ hwyneb rifyn i sin wed r sy’n ein id lamp o e g o i f n a a e a Dym istia dros y g ydag art d ddarllen mawr g d a a, ynghy li tân i’w m e y fw dri chy gleiniog d s a fy u e ‘n a h ri e i a lo M yc dan n l o fewn erol. Ry fle i chi amrywio hoff eitemau arf n roi cy a g , 0 1 h 0 ’c 2 y o r i â rha ’r Sela nhw yn gwobrau drostyn io io s is n le la yn i bleid m bwy gan feddwl a d. d yfeillion y n new n i chi g i w h ia d n u flwyddy e e r wn olig llaw ch â’i go iw Felly, ‘d id e P Y Selar. holl dîm i! rc efo’r tw

12

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi.

8 Golygydd Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

Dylunydd Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

20 ADOLYGIADAU

MARCHNATA Ellen Davies (hysbysebion@yselar.com)

Cyfranwyr Gwilym Dwyfor, Aled Ifan, Leusa Fflur, Barry Chips, Dewi Snelson, Lowri Johnston, Huw M, Hefin Jones, Telor Roberts, Casia Wiliam

y Selar RHIFYN 23 . RHAGFYR . 2010

Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

3


HAU DIWEDD CAFODD EP CYNTAF YR ODS EI RYDDI GWILYM MIS HYDREF. PA GYFLE GWELL FELLY MWYAF DWYFOR GYFWELD UN O FANDIAU POBLOGAIDD CYMRU ...

Lansiodd Yr Ods eu EP newydd - Yr Ods - yng Nghlwb Ifor Bach ganol mis Hydref. Treuliais i wythnos wedyn yn ceisio cael gymaint ag y medrwn i o aelodau’r band yn yr un lle! Maen nhw’n griw prysur ond llwyddais yn y diwedd i ddal 80% ym mharti ^ ^ ^ cloi Gw yl Sw n ym Mar Gwdihw , Caerdydd. Roedd Osian Rhys wedi dychwelyd i Lundain ond roedd Griff Lynch, Gruff Pritchard, Osian Howells a Rhys Aneirin yno ac yn barod i sôn am bopeth o’r EP newydd i Bobol y Cwm!

“... DYMA FI’N MEDDWL: O, ’DA NI’N CHWARA YN Y DERI ARMS HENO!”

Rhaid oedd dechrau gyda’r peth pwysig, yr EP newydd. Caiff ‘hir ddisgwyliedig’ ei or ddefnyddio wrth sôn am CD’s newydd bandiau ond am unwaith mae’n berthnasol, mae dilynwyr yr SRG wedi bod yn hir-ddisgwyl am hon! Gofynnais i ddechrau i’r hogia’ ei gwerthu mewn un frawddeg yr un: Griff Lynch: Tua mil o linella’ synths 80au wedi cael eu peilio at ei gilydd i wneud campwaith synthetig! Rhys: Ma’n mynd i newid eich bywydau Cymraeg. Gruff Pritchard: Ma’n dda iawn iawn iawn iawn... Osian: Yr EP gora sydd erioed wedi cael ei gwneud yng Nghymru, (Paid â cwotio fi ar hynna). [Sori Osian] Mae cerddoriaeth Yr Ods yn eithaf anodd ei diffinio, ac mae’n debyg y byddai rhai’n ei galw’n indie-pop, ond sut fyddai’r band ei hun yn ei disgrifio? G.P.: ’Da ni wedi cyrraedd y pwynt yma

4

?

yn eitha’ naturiol... ’naethon ni gychwyn yn eithaf gitâri, ac wedyn ddaeth y synths, doedd gennon ni erioed gyfeiriad pendant iawn yr oeddan ni isho mynd iddo fo, neu genre arbennig oeddan ni isho neud - nath o jest digwydd. G.L.: Ma’n bwysig iawn nodi ein bod ni’n wahanol iawn yn fyw i be’ ydan ni ar yr EP yma, ’da ni’n trio gneud rwbath gwahanol ar CD i be’ fysan ni’n fyw, ac mae o i fod yn ddau brofiad gwahanol. Rhys: Ma’r label indie yn cael ei thaflu o gwmpas yn ormodol, ond dwi’n meddwl fod pop yn ddisgrifiad teg. Roeddwn i fel sawl un arall yn bresennol yn y gig lansio yng Nghlwb Ifor Bach a thipyn o gig oedd hi hefyd. Un peth sydd yn eich taro wrth wrando ar yr EP yw safon y cynhyrchu a lle gwell na llawr uchaf ^ Clwb er mwyn ail greu’r sw n safonol tynn hwnnw. Noson dda i mi yn y dorf ond sut gig oedd hi i’r hogia ar y llwyfan? Rhys.: Odd hi’n neis gweld gymaint o bobol ’di troi fyny, honna odd ein gig ola’ ni am dipyn felly odd hi’n neis mynd i ffwrdd ar nodyn da. G. L.: Ma’ gigs yn Clwb wastad yn mynd ^ yn dda achos mae’r sw n yng Nghlwb Ifor yn brilliant, a ma’ gin ti wastad griw da yn troi fyny. Dyna Rhys yn sôn mai honna oedd gig olaf Yr Ods am dipyn. Mae’r band am gymryd hoe o’r gigio am ychydig fisoedd yn awr, ond beth tybed yw’r rhesymau am hynny? G. P.: Ma’n gyfnod eitha’ anodd o ran gwaith, pobol yn gadal coleg a thrio


cyfweliad: yr ods

ffeindio’u traed. Jest matar o bawb sortio’i hunan allan a gweld lle ydan ni wedyn ydi o dwi’n meddwl. Gobeithio, lle bynnag fyddwn ni ar gynffon hyn i gyd fyddan ni dal mewn lle i allu cario ’mlaen. G. L.: Dwi’n meddwl ’sa pobol jest yn mynd yn bored. Ac mae o’n wbath i ni hefyd, os fysan ni’n cario ’mlaen i gigio fel ’da ni wedi bod yn ei wneud am chwe mis arall, fysan ni’n hunan yn mynd yn bored ohono fo hefyd. G.P.: Yn anffodus tydi sefyllfa ariannol y sin ddim yn caniatáu i chdi gigio pob penwythnos a gneud pres allan ohono fo. Fydd o’n gyfnod diddorol dros y misoedd nesa o ran be’ ma’ bandiau mwya’ Cymru yn ei wneud. Ydi pobl yn mynd i barhau i weld gwerth mewn rhyddhau albyms a buddsoddi mewn amser stiwdio heb y sicrwydd bod y pres yna’n mynd i gael ei adennill. Ond tybed a fyddai ambell i gynnig anarferol yn temtio’r hogia yn ôl ar y llwyfan yn ystod y misoedd nesaf? Fyddai’r

“Fedra i weld pobol yn gwylltio achos ein bod ni’n canu’n Saesneg”

band er enghraifft yn derbyn cynnig i chwarae yn Y Deri Arms? Rhys: Yn sicr. G. L.: Wel o’n i’n gwylio Pobol y Cwm yn ddiweddar ac roedd ’na bobol yn siarad ar y stryd, ac oedd ’na fwrdd du tu ôl iddyn nhw efo ‘Yr Ods’ a ‘Heno’ wedi ei sgwennu’n fawr arno fo, a dyma fi’n meddwl: O, ’da ni’n chwara yn y Deri Arms heno! Ond wedyn symudodd y bobol ac o flaen y bwcis oeddan nhw, ddim y Deri, ac ‘Yr Ods Gorau Yma Heno’ oedd o’n ei ddeud!

5


“...OS FYSAN NI’N CARIO ’MLAEN I GIGIO FEL ’DA NI WEDI BOD YN EI WNEUD AM CHWE MIS ARALL, FYSAN NI’N HUNAN YN MYND YN BORED OHONO FO” [Meddyliau Griff a finnau yn gweithio’r un peth yn amlwg gan mai’r union olygfa honno ysgogodd y cwestiwn!] Beth am chwarae gig a rhoi goleuadau Nadolig ymlaen yn Blackpool? G.L.: Na, gynnon ni fwy o class na hynna! Rhys: A ma’na rhywun yn Blackpool sydd ddim yn rhy cîn arnan ni! [pawb yn chwerthin ac yn edrych ar Osian] G. P.: Oes, ma’ gynnon ni elynion yn Blackpool. Ond os fysa ni’n cal cynnig goleuada’ Llanbêr ella... Mae aelodau’r band i gyd yn cyfrannu’n lleisiol ar ganeuon yr EP. Gofynnais felly sut y mae hynny’n gweithio? Ai pwy bynnag sy’n sgwennu’r gân sy’n canu? G.L.: Ia, fwy neu lai. Pan ti’n gweld ni’n chwara’n fyw, mae o’n fwy o gôr nag un person yn canu. Mae gen ti harmonïau, a lleisiau gwahanol yn cymryd y lead ar adegau gwahanol, hwnna ’di’r peth pwysica’ pan ’da ni’n chwarae’n fyw. Ond yr hyn ti’n gal ar yr EP ydi pwy bynnag sydd wedi sgwennu’r gân yn canu. Golyga hynny wrth gwrs nad oes gan y band un prif ganwr fel y cyfryw, ydi hynny’n beth da neu ddrwg? G.L.: Ar yr EP ella fod o’n swnio fel’na, ond yn fyw neith fi a Gruff wneud y rhan fwyaf o’r siarad ag ati, a ni’n dau sy’n canu’r rhan fwyaf o’r caneuon, ond ia, ella nad oes ‘na frontman ar yr EP, mae o’n fwy o gasgliad o ganeuon pawb.

G. P.: Dyna sut ydan ni fel band, achos ma’ pawb yn dueddol o chwarae pob offeryn hefyd. Dim ond rhywbeth sydd wedi digwydd ydi o, does na’m llawar o feddwl wedi mynd i mewn i’r peth. Ydi, mae hi’n hen ddadl, ond gan fod ychydig o’r iaith fain ar yr EP rhaid oedd imi godi’r peth. Does dim caneuon Saesneg arni ond yn hytrach caneuon dwyieithog. Beth yw barn Yr Ods ar y saga oesol yma? Fyddai’r band yn ystyried recordio rhywbeth uniaith Saesneg? Oes posib gneud arian wrth ganu’n Gymraeg yn unig? Rhys: ’Da ni wedi recordio’n Saesneg o’r blaen a dwi’m yn meddwl ei fod o’n big deal i ni. Beth bynnag sy’n dod i feddwl rhywun sy’n sgwennu unrhyw gân mewn unrhyw iaith - dyna ydi hi wedyn, does na’m cwestiwn o foesoldeb yn y peth. G.L.: Dwi’n meddwl fod ein cydwybod ni i gyd yn glir o ran y Gymraeg. Fedra i weld pobol yn gwylltio achos ein bod ni’n canu’n Saesneg, ond rhaid i chdi feddwl amdano fo ... tydi pobol ddim yn gwylltio gan fod Bryn Terfel yn canu’n Eidaleg, ’di pobol ddim yn gwylltio gan fod Catrin Dafydd yn sgwennu llyfr yn Saesneg - mae hynny i’w weld yn iawn, ond os oes ’na fand Cymraeg yn ei

“pan welwch chi albwm gennon ni ... ella fydd o dipyn bach o sioc” 6

neud o ma’n ymddangos bod ’na rhyw issue. G.P.: Ma’n gweithio dwy ffordd hefyd. Pan ’da ni’n chwarae yn Llundain mi wnawn ni set o chwe chân efo pump ohonyn nhw’n Gymraeg. Ond pan ti’n chwarae’r un set yng Nghymru, y trac Saesneg yna sy’n sefyll allan i bobol. Osian: Dwi’n meddwl mai’r broblam fwya’ ydi ei bod hi’n amhosib gwneud bywoliaeth ^ allan o Gymru rw an. Ac os wyt ti ddim yn sgwennu stwff Saesneg ti’n blancio’r opsiwn yna allan dwyt - Ti jest yn mynd i aros yng Nghymru a ’di o jest ddim yn bosib gneud pres ohono fo. Rhys: Peth trist. Ond pe bai’r opsiwn yno, a fyddai Yr Ods yn mynd yn llawn amser? G.P.: Yn sicr, ond tydi o ddim yn rwbath ti’n ystyried deud gwir... G.L.: ’Da ni ddim mewn sefyllfa i wneud hynny o gwbl ar hyn o bryd, a dyna pam ’da ni’n cymryd y brêc yma i ystyried ein hopsiynau. Os ydan ni’n gweld: Ydan, ’da ni isho gneud lot mwy mi weli di fwy o stwff Saesnag, ond ar y funud mwy o stwff Cymraeg weli di gan ein bod ni ddim ynddo fo’n llawn amsar. Osian: Problam arall sgin ti ydi, a phaid ag yng nghal i’n rong, ma’ gigs Cymraeg


cyfweliad: yr ods “Ma’ gwallt Osh mewn cysgod yn edrach fel helmet Darth Vader!”

yn brilliant, ond os ti’n chwara yn rwla fel Llundain ma’r awyrgylch yn hollol wahanol, ma’ pawb jest yn gwrando, yn lle troi fyny i feddwi. G.P.: Efo gigs Cymraeg, a dwi’n cyffredinoli fymryn, os nad oes gen ti far ti ddim yn ^ mynd i ddenu’r to ifanc. Dwi’m yn siw r ar restr blaenoriaethau pobol sy’n mynychu gigs Cymraeg, lle mae cerddoriaeth yn ffitio! Rhys: Ond dim ond sylw ’di hynna, ’di o’m yn beth negatif, achos dyna sut ma’ hi wastad wedi bod. Pan oedd Edward H yn chwarae i dair mil yng Nghorwen oedd o’r un peth, yna am noson allan oeddan nhw. Matar o wneud y gorau o be’ sgin ti ydi o. G.L.: A ’da ni’n rhan ohono fo ein hunan hefyd! EP yw hon wrth gwrs ac mae’r band wedi rhyddhau senglau yn y gorffennol, ond beth allwn ni ei ddisgwyl yn y dyfodol. Yr Ods yw un o fandiau mwyaf Cymru bellach, felly mae’n rhaid i ni weld albwm yn o fuan siawns? G.P.: Fel band, un o’n huchelgeisiau pennaf ni ydi rhyddhau albwm Gymraeg ffantastig i’w gadael. Odd hwn yn EP da i gael allan o’n system ni, naethon ni chwydu syniadau ato fo bron, ac ella fysa fo heb weithio fel

^ albwm. Gobeithio rw an ein bod ni mewn lle, lle ’da ni’n gwbod ychydig bach fwy pendant be’ di’r camau i’w cymryd tuag at albwm. G.L.: Dwi’n meddwl, pan welwch chi albwm gennon ni, o gwmpas haf nesa’ ella fydd o dipyn bach o sioc, achos dwi’m yn meddwl bydd o’n swnio fel yr EP o gwbl. Rhys: Ma’ wastad yn beth iach i newid dydi. G.L.: Ydi. Be’ ’da ni’n gobeithio’i wneud, oherwydd y brêc gigio, ydi treulio mwy o amsar ar ôl ’Dolig yn y stiwdio ac yn sgwennu caneuon, ac ella i feddwl fwy am gyfanwaith yn hytrach na chasgliad o ganeuon. Ceisio creu darn o gelf yn hytrach na deg cân.

Sôn am waith celf, Rhys sydd wedi cynllunio clawr yr EP ei hun. Tydw i fawr o feirniad celf felly rhaid oedd holi beth ar wyneb daear sydd yn digwydd ar du blaen y CD? Rhys: Peintiad ydi o neshi ryw

dair mlynadd yn ôl. Ma ’na lot o bobol yn gofyn be’ ydi o, ond doedd o erioed yn fwriad gen i ddeud be’ oedd o, ro’n isho bobol weld be’ bynnag ma’ nhw isho weld ynddo fo. Hmm ... typical atab artist! O un darn o waith celf i un arall. Wrth sefyll yn y gig lawnsio, dyma un peth yn fy nharo i’n sydyn - mae Yr Ods yn edrych fel band! Mae ganddyn nhw walltiau da, pum pen da o wallt! Ond pwy mae’r hogia’ yn ei feddwl sydd â’r gwallt gorau, a phwy sy’n treulio’r mwyaf o amser yn perffeithio’i fwng? G.L.: Dwi’n meddwl mai Osian Howells sgen y gwallt gora’, achos mae o’n tyfu fatha rwbath gwyllt, ond y boi sy’n trimio’i wallt fwya ydi Rhys, achos mae o’n edrach yn fwy perffaith nag un neb arall. Rhys: Nai’m gwadu hynna. Dwi’n gneud ymdrech, yn wahanol i rai! Ma’ gwallt Osh mewn cysgod yn edrach fel helmet Darth Vader! Osian: Wel, o leia’ ’di pobol ddim yn tynnu’n sylw i at ryw fflic gwallt dwi’n ei wneud wrth chwarae synths. Gwell oedd imi dorri ar draws cyn i bethau fynd yn flêr! Sôn am synths, mae riffts yr offeryn hwnnw yn amlwg iawn ar yr EP, yn wir, mae’r gerddoriaeth yn swnio fel rhywbeth o’r 80au ar adegau. Ydi hwnnw’n fath o fiwsig y mae’r band yn gwrando arno felly, neu ai rhywbeth sydd wedi codi ei ben yn naturiol ydyw? G.P.: Pan naethon ni recordio naethon ni wrando ar lot o fandiau 80au, ond ma’ lot ohono fo yn ddylanwad y senglau, Ffordd Ti’n Troi Dy Lygaid a Fel Hyn Am Byth naethon ni eu recordio efo Tim Lewis. Ac mae Dave Wrench, [cynhyrchydd yr EP] ar yr un wave length o ran hynny, mae o ’di bod yn grêt yn annog ni fynd ar ôl hynna. I gloi, pe bai Yr Ods yn cael cydweithio ar gân gydag unrhyw seleb Cymraeg, pwy fyddai ef neu hi? Osian: Aloma! [pawb yn chwerthin] G.L.: ’Sa Cath Jones reit dda hefyd ... Siw Hughes ... Acen arferol neu acen Cath? G.L.: Acen Cath, wrth reswm. Rhys: A rhyw rap gan Denzil yn y canol... Cyn i’r sgwrs droi unwaith eto tuag at Bobol y Cwm, penderfynais ddod a’r cyfweliad i ben er mwyn mynd adref i wylio’r omnibws a gadael i’r hogia’ fwynhau gweddill y noson!

7


dau i’w dilyn

DAU I’W DILYN MAWR SY’N CAEL SYLW UN BAND BACH, AC UN BAND

Y CER Pwy: Mae Y Cer yn fand 6 aelod sy’n amrywio mewn oedran mae’r ieuengaf yn 17 a’r hynaf yn 27... a’r lleill rhywle yn y canol! Mae’r aelodau’n dod o Ynys Môn, Bangor a Phenisarwaen.

Cafodd Y Cer eu ffurfio nôl yn Ebrill eleni pan “ysgrifennodd dau aelod gwreiddiol y band ddwy gân, cyn i un aelod adael.” Yn fuan iawn wedi hyn, sefydlwyd y band go iawn gyda phum aelod yn ymuno i greu band o chwech. Ers hynny, mae ‘na rywfaint o fynd a dod wedi bod

DAU I’W DILYN Y MIS YMA.

gyda dau aelod yn gadael nôl ym mis Mehefin gyda dau gitarydd newydd yn ymuno. Yr aelodau bellach ydy Bryn Hughes Williams fel prif leisydd, Llyr Jones yn llais cefndir ac ar y Piano, Huw Parry ar y gitâr rythm, Leon Williams yn brif gitarydd, Gavin Malone yn

chwarae’r gitâr fas ac yn olaf Kai Jones ar y drymiau - phew! ^ Y sw n: Mae gan y band amrywiaeth eang o dast, ac mae bandiau gwahanol wedi dylanwadu ar wahanol aelodau, felly mae’r band eu hunain yn ei chael hi’n anodd categoreiddio eu cerddoriaeth. Yn ôl Bryn, mae’r caneuon yn “swnio reit debyg i ganeuon The Script”. Tra bod Llyr Jones yn “clywed elfennau o Queen” yn agweddau rhai o’r caneuon. O wrando ar y caneuon sydd ganddyn nhw ar MySpace, yn sicr mae ‘na amrywiaeth. Mae Beau Marie yn gân indie-pop sy’n atgoffa rhywun rywfaint o stwff mwy bywiog bandiau fel Frizbee a Crwydro. Yna mae Cymylau Gwyn, sy’n falad ‘power rock’ bron a bod!

Hyd yn hyn: Ers mis Mai, mae Y Cer wedi bod yn gigio’n rheolaidd ar benwythnos

CRASH.DISCO! Pwy: Crash.Disco! yn syml iawn ydy Gruff Jones! Mae Gruff yn fyfyriwr 18 oed o Fangor ac mae o wedi bod yn gwneud cerddoriaeth fel Crash.Disco! ers dechrau 2010. ^ Y Sw n: Mae Crash.Disco! yn un o’r to ifanc o artistiaid electronica sydd wedi bod yn ymddangos yma yng Nghymru dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf. Yng ngeiriau Gruff, “byswn ni’n disgrifio’r

Yn sicr mae ‘na swn Gameboy-aidd i’r hyn sydd ganddo ar MySpace 8

yselar@live.co.uk

gerddoriaeth fel mics rhwng chiptune - sef Cerddoriaeth gemau cyfrifiadurol yr 80au - a cherddoriaeth electro-house. Dwi’n defnyddio Keyboards a Gameboy i greu fy ngherddoriaeth!” ^ Yn sicr mae ‘na sw n Gameboy-aidd i’r ^ hyn sydd ganddo ar MySpace, a sw n bach digon diddorol ydy o hefyd! Mae’r remics o diwn thema Close Encounters of the Third Kind yn arbennig o glyfar. Hyd yn hyn: Fel y nodwyd eisoes, dim ond ers dechrau’r flwyddyn mae Gruff wrthi’n cyfansoddi, ond mae wedi creu cryn argraff mewn amser byr. “Dechreuodd Crash.Disco! ym mis Chwefror ac ers hynny dwi wedi remicsio stwff y Race Horses a chael fy nhraciau wedi’u chwarae ar raglen Zane Lowe a Huw Stephens ar radio 1.” Fe gafodd Crash.Disco! hefyd y cyfle i chwarae ^ yng ngw yl ymylol Radio 1 yn ystod y Big

Weekend yn y Faenol. Fe gafodd haf prysur i ddweud y gwir, gan berfformio hefyd yng ^ ^ ^ Ngw yl Gardd Goll, Maes-B a Gw yl Sw n 2010 yng Nghaerdydd. Uchafbwynt arall oedd ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes-B yng Nglyn Ebwy! Da iawn yn wir. Cynlluniau: Mae llwyddiant Crash.Disco! hyd yn hyn yn profi bod gan y prosiect botensial anhygoel. Mae ganddyn nhw wobrau Brwydr y Bandiau Maes-B i’w defnyddio yn un peth - Sesiwn C2 i’w recordio a £1000 i’w wario! Yn ôl Gruff mae hefyd yn gobeithio rhyddhau EP cyntaf yn fuan iawn.

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Messner, Daft Punk, The Aphex Twin, Cyrion


Mae Beau Marie yn gân indie-pop sy’n atgoffa rhywun rywfaint o stwff mwy bywiog bandiau fel Frizbee a Crwydro.

Y BADELL

www.myspace.com/ycerwales

Y CANU CENEDLAETHOLGAR

gan gynnwys gigs pwysig ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron, Y Galeri, Caernarfon, Neuadd P.J. a Bar Uno ym Mangor. Maen nhw hefyd wedi “perfformio mewn nifer o pybs a clybs o amgylch gogledd a chanolbarth Cymru”. Mae’r band hefyd wedi bod yn y stiwdio yn ddiweddar, “rydym wedi recordio 5 cân sydd i gyd yn cael eu chwarae ar Radio Cymru, Heart FM a nifer o sioeau radio lleol.” meddai Bryn. “Rydan ni hefyd yn rownd derfynol “North Wales Battle Of The Bands” a fydd yn cael ei gynnal yn Venue Cymru, Llandudno”. Mae un o’u caneuon, ‘Paid a Dod yn ôl’ wedi cael ei dewis yn ‘Drac yr Wythnos’ ar Radio Cymru yn ddiweddar hefyd. Maen nhw wedi cyflawni tipyn mewn cyfnod byr felly.

cystadlu yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau Gogledd Cymru ar 5 Chwefror wrth gwrs - dechrau da i flwyddyn brysur gobeithio. Mae’r band yn gobeithio rhyddhau EP yn fuan yn 2011 a fydd yn cynnwys 5 o ganeuon. “Byddwn ni hefyd yn gobeithio cael chwarae yng Nghlwb Ifor Bach, Maes B (gobeithio bod Guto Brychan yn darllen hwn - gol) a nifer mwy o gigs fyny ac i lawr Cymru.” Os eith yr EP cyntaf yn dda, y gobaith ydy recordio mwy o draciau “rhwng diwedd y flwyddyn a’r flwyddyn nesa.” Mae’n debyg bod ‘na sesiwn C2 ar y gweill yn ystod 2011 hefyd.

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Frizbee, Crwydro, The Fray, Biffy Clyro

myspace.com/crashdiscoofficial/music

Cynlluniau: Fe fyddan nhw’n

FFRIO

Wrth ddarllen teyrnged yr annwyl Dafydd Wigley i’r diweddar Richard Livsey, dyma fi’n dechrau meddwl am yr holl feibion i wleidyddion sydd wedi tanio’r Sin Roc Gymraeg. Ar yr wyneb, yr hyn sy’n clymu Wigley a Livsey yw eu dyddiau fel Aelodau Seneddol fu’n brwydro am hunanreolaeth i Gymru. Adeg curo Refferendwm ’97 roedd y ddau yn y llun enwog hwnnw o brif arweinwyr yr Ymgyrch ‘Ie’ yn dathlu ar lwyfan yng Nghaerdydd. Roddan nhw wedi byw trwy ddyddiau blin Thatcheriaeth, pan doedd gan y Cymry ddim hawl dros eu ffawd, ac yn dathlu gwawrio’r chwyldro. Roddan nhw, yn wleidyddol, wedi rebelio yn erbyn y drefn o lywodraethu Cymru ers 1282 pan gafodd y wlad ei choncro. Eniwe Pop Picyrs, y pwynt ydy, roddan nhw’n freuddwydwyr oedd am greu’r Gymru newydd...a’r hyn sy’n rhyfedd oedd bod ganddyn nhw blant yn creu’r trac sain i’w dyheadau chwyldroadol. Mae Dafydd Wigley yn dad i Hywel Wigley gitarydd Aros Mae, a mab yr Arglwydd Richard Livsey yw Dai Lloyd Livsey, sef y canwr-gyfansoddwr tu ôl i Skep. Basydd Aros Mae oedd Mei Tomos, mab yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas - Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adlais yw’r enw Aros Mae o deitl llyfr Gwynfor Evans ar hanes Cymru, sydd ond yn cryfhau’r cwlwm tynn sy’n cordeddu pop a pholitics Cymraeg. Ac un o feibion Gwynfor Evans ei hun oedd y cynta’ i ffurfio band i ganu pop yn Gymraeg nôl yn y 1960au.

gyda Barry Chips

Yn ei lyfr Y Blew a Buddugoliaeth Gwynfor, mae Dafydd Evans yn plethu ei ddyddiau yn geni’r SRG gyda llwyddiant ei dad yn cipio sedd Caerfyrddin a dod yn Aelod Seneddol cynta’ Plaid Cymru. Yn ôl Gari Melville - yr Yoda i fy Luke Skywalker - roedd un arall o feibion Gwynfor, Rhys Evans yn y band Hergest, a’i ferch Meleri Mair yn Y Diliau. Dyna i ni linach roc anrhydeddus. Ond peidied neb â meddwl fod gan Blaid Cymru fonopoli ar yr SRG. Mae’r Infinity Chimp a hen gitarydd Gorky’s Zygotic Monkey John Lawrence yn fab i Aelod Seneddol Llafur. Daeth Jackie Lawrence i Gymry yn y 1970au a dysgu’r heniaith er mwyn helpu ei phlant i fynd drwy’r system addysg Gymraeg. Yn 1997 roedd hi’n un o Blair’s Babes, wedi ei hethol i gynrychioli Preseli Penfro yn Senedd Prydain. Felly pam bod cymaint o feibion i wleidyddion yn troi at yr SRG? Mae ganddom ni 60 Aelod Cynulliad, 40 Aelod Seneddol a phedwar Aelod Seneddol Ewropeaidd - sef 104 o bobol allan o boblogaeth o dair miliwn, sydd ddim yn lot. Ac eto maen nhw wedi creu talp go helaeth o hoelion wyth ffenomena eitha’ bach, sef canu pop yn yr iaith Gymraeg. Ydy agweddau gwleidyddol y rhieni wedi arwain at yr epil yn codi gitâr a sgrechian? Er mwyn dod i waelod hyn, rwy’n awgrymu rhoi grant o bum ceiniog i Deian Saizmundo a Brawd Syr Wynff i ymchwilio ymhellach...

9


? W N E N W E M D BE SYD HOLL FANDIAU CYMRAEG MAE’R SELAR WEDI SYLWI AR YR

SYDD WEDI NEWID NEU

ND MLAEN DWEDWCH? GWILYM DWYFOR

N MY ADDASU EU HENWAU YN DDIWEDDAR – BE SY’ AETH I CHWILIO AM ATEB AR EIN RHAN.

Be ddigwyddodd rhwng The Rain a Seymour yn Haf 1995? Yr ateb yn syml yw dim byd, ond ddigwyddodd yna dipyn rhwng Oasis a Blur. Efallai bod ambell i ddarllenwr Y Selar heb gael eu geni yn 1995 ac os felly ymddiheuriadau am yr enghraifft sy’n dangos fy mod i’n mynd yn hen. Ond fy mhwynt i ydi hyn, mae hyd yn oed rhai o fandiau mwyaf ein cenhedlaeth wedi cychwyn eu taith dan enwau gwahanol. Nid yw’r SRG yn wahanol yn hynny o beth, mae rhai o’r bandiau amlycaf dros y blynyddoedd wedi arbrofi gyda mwy nag un enw. Daw’r Big Leaves, The Heights a’r Racehorses i’r meddwl yn syth. Yn ddiweddar, ymddengys bod newid enw yn beth eithaf ffasiynol unwaith eto gyda Breichiau Hir (Just Like Frank), Bare Left (Adrift) a Sen Segur (Crazy Mountain People) i gyd yn enwau newydd i’r sin dros y misoedd diwethaf, hyd yn oed os ydy’r personél yr un fath. Ond a oes unrhyw reswm ar wahân i ddrysu gig garwyr diniwed dros newid, ac yn bwysicach efallai, ydi enw band yn bwysig mewn gwirionedd? Breichiau Hir yw un o’r bandiau diweddaraf i newid eu henw yn dilyn eu penderfyniad tua adeg ’Sdeddfod eleni i newid o Just Like Frank. Holais Steffan

... MAE BANDIAU EFO ENWAU FEL RADIOHEAD A BLUR WEDI MWYNHAU CANMOLIAETH UWCH NA BANDIAU EFO ENWAU FEL BOWLING FOR SOUP!

10

Racehorses The He igh ts

Dafydd o’r band yngly^ n â’r broses gan ofyn i ddechrau o ble ddaeth Just Like Frank yn y lle cyntaf, “Ddath yr enw gwreiddiol ar ôl i ni gymysgu syniadau am enwau gyda’i gilydd. Cymysgedd o ddau enw gwahanol yw e’. Bryd hynny, doedd dim syniad gyda ni bod y band am fod yn un uniaith Gymraeg.” Ai dyna’r rheswm dros newid felly? “Penderfynom ni newid yr enw achos bod ni wedi newid. Ni wedi newid o fod yn fand ‘pop-punk’ neu ‘powerpop’ i fod yn rhywbeth hollol wahanol. Odd e’ fod i symboli NEWID dim NEWYDD. Ni’n fand sydd wedi datblygu mewn i rywbeth newydd, dim band wedi’i

greu o’r newydd.” Daw’r enw newydd yn amlwg o gân enwog Ffa Coffi Pawb, ond beth oedd y rhesymeg tu ôl i’r dewis hwnnw tybed? “Odde ni moyn rhywbeth gweledol. Rhwbeth gallwch chi weld yn eich pen. A jyst unrhyw beth llai cheesy na ‘Just Like Frank’.” Rhesymau Breichiau Hir dros newid yn eithaf amlwg felly ond pa mor bwysig yw enw band yn y bôn ym marn Steffan? “Sa i’n credu bod enw band yn rhy bwysig. Ma’ ‘na lot o bethe pwysicach, fel y caneuon, yr agwedd, y berthynas gyda’r aelodau a’r gynulleidfa/gwrandawyr a lot mwy. Ond ma’ enw yn helpu gyda chyfleu yr holl bethe i’r gynulleidfa.” Dyw newid enw unwaith ddim yn ddigon i ambell fand, mae’r Violas bellach ar eu pedwerydd enw fel yr eglura Siôn Ifan o’r band, “Ein enw gwreiddiol oedd ‘Hovis & the Breadmakers’, yna ‘The Breadmakers’,


Just Like Fr ank

OEDDA NI’N DECHRAU TEIMLO YN DDIWEDDAR BOD YR ENW BRAIDD YN BLENTYNNAIDD

Heights, ac arwyddodd Radio Luxembourg i Plastic Fantastic yn 2009 a chael eu cynghori i newid eu henw fel yr eglurodd Dylan o’r band yn Y Selar, Mawrth 2009. “O ni’n edrych lawr y barrel o potentially gael ein siwio. Mae ganddo ni sengl ac albwm yn dod allan ar scale hollol wahanol i unrhyw beth arall ni wedi gwneud, ac ma ‘Radio Luxembourg’ yn berchen i RTL – cyngor y cyfreithwyr oedd fod rhaid i ni sortio’r peth allan.” Wrth gwrs, wnaeth yr enw newydd ddim llawer o lês i The Heights gan iddynt fethu a chyrraedd yr uchelfannau [sori – oedd rhaid i mi!], ond amser a ddengys a fydd llwyddiant y Racehorses yn parhau yn y blynyddoedd i ddod. Ar wahân i geisio ehangu gorwelion dros y ffin a oes unrhyw resymau eraill dros newid enw band yn codi eu pen ar fwy nag un achlysur? Ymddengys bod rhai bandiau yn troi oddi wrth eu henwau gwreiddiol mewn ymdrech i fod yn fwy o ddifrif. Roedd Just Like Frank yn ‘cheesy’, Hovis and the Breadmakers yn ‘comical’ a Creision Hud ‘braidd yn blentynnaidd’. I Huw M ar y llaw arall, mater syml o symleiddio ydoedd! Ond beth bynnag y rheswm dros newid neu ystyried newid mae un peth y mae cerddorion Cymru i gyd yn cytuno arno: Ydi, mae enw band yn bwysig, ond ddim mor bwysig â’r gerddoriaeth. Felly, y tro nesaf yr ewch chi i gig ddarllenwyr annwyl Y Selar, cymerwch eiliad i werthfawrogi ffrwyth dychymyg cerddorion Cymru ar y poster, ond dim ond eiliad cofiwch, ar ôl hynny, ewch i mewn, anghofiwch am yr enw.

... DWI DDIM ^ YN SIWR PAM NES I FEDDWL BYDDAI CAEL DWY M YN WELL NA UN!

o ddim mor bwysig a hynny - y gerddoriaeth a’r perfformio sy’n cyfri.” Band arall a fu’n ystyried newid eu henw yn ddiweddar oedd Creision Hud. Holais Rhydian Lewis o’r band beth oedd yr hanes. “Enw dros dro oedd Creision Hud i fod yn wreiddiol, a dwi’n meddwl mai dwyn yr enw o lyfr yn yr ysgol naetho ni. Oedda ni’n dechrau teimlo yn ddiweddar bod yr enw braidd yn blentynnaidd, ac roedd gormod o bobol yn gneud jôcs am yr enw (fel ‘magic crisps’) a doedd yr enw ddim yn mynd efo’r caneuon newydd sy’ gynnon ni.” A oes enw newydd ar y gweill felly? “Y plan oedd cael enw fyddai’n gweithio yn Gymraeg a Saesneg a fyddai’n cyd-fynd efo’r arddull newydd. Oeddan ni bron a newid yr enw i Khyber Kidd ar un point, ond ar ôl meddwl mwy, naetho ni sylwi y byddai newid enw yn gallu achosi i ni golli ‘ffans’ (os oes ’na rai!) ac y dylai pobl wrando ar y caneuon cyn ein labelu ni fel band plentynnaidd neu ifanc.” Creision Hud yn penderfynu aros efo’i henw gwreiddiol felly ond pa mor bwysig yw enw ym marn Rhydian? “Mae’n hawdd iawn i bobol farnu band yn syth, dim ond trwy glywed yr enw, heb hyd yn oed glywed y miwsig. Mae enw yn gallu dal y band yn ôl weithiau, felly mae’n bwysig meddwl yn hir am yr enw.” Soniais ar y dechrau am The Heights a’r Racehorses a newidiodd eu henwau o Gogz a Radio Luxembourg. Daeth y ddau newid enw yma wrth i’r bandiau ymuno â labeli yn Lloegr. Ymunodd Gogz â Best Before Records yn 2007 gan newid eu henw i The

yna ‘The Violas’, ac yn awr ryden ni wedi setlo ar ‘Violas’.” Ond beth yw’r hanes tu ôl i’r holl enwau? “Gan mai llysenw y prif leisydd ydy Hovis roedd hi’n gwneud synnwyr mai’r breadmakers oedd y gweddill ohono ni. Ond doedd Owain (Hovis) ddim eisiau rhoi gormod o bwyslais ar ei lysenw ef, felly aethon ni yn ‘The Breadmakers’.” Digon teg, ond o le ar y ddaear ddaeth ‘The Violas’ wedyn? ‘Roedd yr enw cyntaf bach yn comical ac roedden ni eisiau cymryd y band fwy o ddifri, ac fe sylwon ni hefyd bod yna fand o’r un enw ar MySpace yn barod felly ar hap dyma Hovis yn cynnig ‘The Violas’. Ac er nad ydy pawb wedi sylwi, ryden ni wedi bod yn ceisio gollwng y ‘The’ yn ddiweddar.” Yn ychwanegol i’r pedwar enw swyddogol yma mae un amrywiad bychan wedi cael ei ddefnyddio gan ambell un sef ‘Y Violas’, “Gyda llaw fuon ni erioed yn ‘Y Violas’!” eglura Siôn. Ond pa mor bwysig yw enw band mewn gwirionedd? “Mae’n bwysig cael enw deche sydd ddim yn mynd i gael ei wawdio - mae bandiau efo enwau fel Radiohead a Blur wedi mwynhau canmoliaeth uwch na bandiau efo enwau fel Bowling for Soup! Wedi deud hynny, ansawdd y gerddoriaeth yw’r peth pwysicaf.” Ond nid bandiau yn unig sy’n newid eu henwau, mae hyd yn oed artistiaid unigol yn penderfynu gwneud hynny o dro i dro. Mae Huw Meredydd Roberts yn fwy adnabyddus i ni fel Huw M ond nid dyna ei enw llwyfan cyntaf. Dechreuodd chwarae dan yr enw Huw MM. Pam penderfynu gollwng un ‘M’ ^ felly? “Wrth edrych nôl dwi ddim yn siw r pam nes i feddwl byddai cael dwy M yn well na un! Ond dyna wnes i, am gyfnod eitha’ byr, nes i mi sylweddoli bod o braidd yn ddryslyd. Roedd pobl yn gofyn i mi - “Be ydy dy enw di - Huw Dybl M ie”?! Felly nes i benderfynu i newid Y Vio yr enw i rhywbeth symlach las sy’n gwneud fwy o synnwyr. Mae un M yn hen ddigon, a dwi’n reit hapus efo Huw M!” Ond pa mor bwysig ydy enw i artist mewn gwirionedd? “Mae’n bwysig pan ma pobl yn dod i glywed amdanat am y tro cyntaf am wn i - ond ar ôl hynny, dydy

11


Heblaw am ambell adeiladwr, mae Cowbois yn tueddu i gael eu portreadu fel y bois da, er mae bois drwg oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw mewn gwirionedd ynde? Ta waeth am hynny, mae ‘na griw o gowbois o Benllyn sy’n sicr yn fois da, y rhai dymunol hynny o Fotwnnog. Casia Wiliam fu’n eu holi nhw ar ran Y Selar.

Wel, mae ‘na dair blynedd ers i ‘Dawns y Trychfilod’ lanio ar y silffoedd a llenwi ein clustiau a ... hwre! ding ding! Mae’n ^ amser am rownd tw . Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn ydi enw ail albwm Cowbois Rhos Botwnnog a dwi wedi bod ddigon lwcus i gael gwrnado arni’n barod. Naw cân yn ddiweddarach, dwi’n barod i bwyso play am yr eildro ac yn ysu i gael holi’r hen gowbois hoffus ... Casia: Helo! Ma gin i lot o gwestiyna a ‘da chi’n hogia prysur felly ffwrdd a ni. Wedi gwrando ar yr albwm, y teimlad cryf ‘o ni’n gael oedd eich bod chi wedi aeddfedu yn aruthrol fel band ac artistiaid. Mae yna lai o ganeuon dychmygus a gwallgof o gyflym sy’n gwneud i lond stafelloedd a thafarndai neidio i fyny ac i lawr, a mwy o ganeuon dwys a mentraf ddweud – trist? Iwan: Digon teg dweud hynny, os ydi pobol yn meddwl ein bod ni wedi aeddfedu mae’n beth reit bositif dydi? Mai’n sicr yn wahanol iawn i’r gynta’... Aled: Ia, ond dwi’n meddwl mai albwm fel ‘na ydi hon yn ei hanfod, yn hytrach na bod o’n benderfyniad pendant i wneud rhywbeth yn wahanol. Dwi yn teimlo ei bod hi’n bwysig trio cadw pethau’n ffresh - dwi’ reit ffyddiog y bysa hi wedi bod yn ofnadwy os fysa ni wedi trio ail-wneud yr albwm gyntaf a chadw at yr un steil a themâu. Dafydd: A ma’na dal dipyn o fynd i un neu

12

ddwy o’r caneuon. Ma stomps yn laff yn fyw, ond ‘sa fo ‘di gallu troi yn dipyn o jôc ‘sa ni di neud albwm arall o ’hillbilly punk’ ne be bynnag ddiawl oedd pobol yn ’i alw fo! Casia: Dwnim be oedd o ond odd pawb i weld yn fwynhau o! Felly mae’r datblygiad yn un sydd wedi dod yn naturiol, ond rhaid i mi ddeud, er bod na ambell gân sy’n fwy up-beat, dwi’n teimlo bod ‘na naws trwm-galon yn perthyn i’r albwm yn gyffredinol, a bod hon yn albwm i wrando’n iawn arni yn hytrach na’i rhoi mlaen yn y cefndir – fedrwch chi ddweud beth sy’n gyfrifol (os oes ‘na unrhyw beth ) am y ‘shifft’ cerddorol yma ta? Dafydd: Iwan yn pissed off am w’bath swni’n ddeud, anodd deud be fyd, dio ddim yn glir iawn yn y caneuon! Oeddan ni isho galw yr albwm yma’n Cowbois Rhos Botwnnog – Single and Pissed Off. Sa hyna di bod yn hileriys. Casia: Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn ‘chydig fwy amwys ella?! Iwan, be sgin ti ddeud ar y matar?! Iwan: Pum mlynedd sy’n gyfrifol ddudwn i. Tua pymthag o’n i’n sgwennu’r rhan fwya’ o Dawns y Trychfilod, a rhyw ugain yn sgwennu’r rhan fwya o’r rhai sydd ar

“... sa fo ‘di gallu troi yn dipyn o jôc ‘sa ni di neud albwm arall o ‘hillbilly punk’ ne be bynnag ddiawl oedd pobol yn ’i alw fo!”


yr albwm newydd (er ma ‘na un, ‘Malu’r Ffenestri’, sydd o rhyw gyfnod rhwng y ddwy), a ma na wahaniaeth rhwng meddwl rhywun pymthag a meddwl rhywun ugain oed. Aled: Dwi ddim yn ei weld o’n gymaint o shifft a hynny i fod yn onast - ar yr albwm gynta’ mi oedd ‘na ganeuon fel ‘Y Cei’, ‘Chwe Biliwn’ a’n fersiwn ni o ‘Marwnad yr Ehedydd’, oedd oll yn eithaf tywyll a thrymach o ran thema. Dwi’n meddwl mai wedi datblygu ar hyd yr ochor yna o bethau ydan ni efo’r albwm newydd. Casia: Ia ma hynna ddigon teg deud y gwir, dwi’n meddwl ‘mod i’n tueddu i feddwl am y caneuon oedd yn cal pawb i sboncio yn

eich gigs chi o ran Dawns y Trychfilod. Ydach chi’n meddwl y bydd na naws gwahanol i’ch gigs chi wrth i chi hyrwyddo’r caneuon newydd? ^ Aled: Dwi’n siw r y bydd hynny’n digwydd o reidrwydd, ond dwi’n teimlo ei bod hi’n bwysig cael balans - ti’m isho siomi neb sy’n edrach ‘mlaen am stomp, a ti’m isho siomi neb sydd isho clywed yr albwm newydd fel mae hi. Iwan: ...ond mi fydd hi’n job gneud w’bath heblaw rhyw fobio fyny a lawr yn ara i’r ^ caneuon yma ma’n siw r. Dafydd: Ond ma lot o’r caneuon yn dueddol o newid pam dani’n ‘neud nw’n fyw eniwe. Dani’n ecseitio weithia, yn enwedig ar ôl gormod o seidar, a maen nhw’n mynd

13


“Dio’m yn neis chwara gig a gweld Aled yn sbio arna chdi fatha bo chdi di dwyn i fechdan facwn o”

dipyn uwch a chyflymach na ma’ nhw i fod. Dwi’n meddwl bod o’n grêt, ond dwi’m ^ yn siw r am y lleill. Dio’m yn neis chwara gig a gweld Aled yn sbio arna chdi fatha bo chdi di dwyn i fechdan facwn o. Sgeri. (Mae Aled yn edrych ar Dafydd fatha’i fod o wedi dwyn i fechdan facwn o.) Casia: Reit ta, cwestiwn nesa ... ‘Da chi’n lansio’r albwm yng Nghlwb Ifor ar Rhagfyr 11 – ydych chi’n nerfus ta’n eitha ffyddiog yngly^ n ag ymateb eich ffans? Aled: Dwi’m ‘di meddwl gormod am y peth deud y gwir - dwi jyst yn edrych ymlaen, achos mai’n argoeli’n noson dda. Dani’n lwcus iawn fod Y Niwl wedi cytuno i gefnogi - un o’r bandiau gorau gei di. Dafydd: Aye, fydd hi reit ddiddorol gweld be fydd ymateb pobol. Gawn ni weld. Dani’n gobeithio fydd pobol yn licio hi, ond ar y llaw arall, a dwi’n gwbod bod hyn yn ‘wbath ma lot o fandiau yn ddeud, ond mi ‘nathon ni hon heb feddwl be fydd pobol yn feddwl ohoni. Mi fydd na bobol yn ‘i ^ chasáu hi ma siw r, ma’na lot o bobol yn casáu y math yma o fiwsig. Casia: Pwy sydd wedi dylanwadu arnoch chi ta, i greu y math yma o fiwsig? Yn y SRG a thu hwnt? Dafydd: O ran artistiaid o Gymru, wel, ma’na gân gan Nia Morgan ar yr albwm, dani’n joio ‘i

14

albwm hi. Cate Le Bon hefyd, ond Americans yn bennaf dwi’n meddwl; Phosphorescent, The Felice Brothers, Neil Young, The Duke and the King, Iron & Wine, AA Bondy, Bon Iver, Calexico, Ryan Adams, Dylan LeBlanc. Dwi’n meddwl bod 80% o’r stwff dani’n licio wedi dod allan o’r UDA, rhyfadd. Iwan : I fi o ran y ‘sgwennu mae Townes Van Zandt, Bob Delyn a’r Ebillion, Iron & Wine, Felice Brothers, a chaneuon gwerin Cymraeg wedi bod yn ddylanwada mawr iawn yn ddiweddar. Bob Delyn yn enwedig gan mai nhw oedd yn benna’ gyfrifol am wneud i mi sylwi fod modd defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng gwych i ganu pop. Mi ddyla albyms Bob Delyn fod ar y cwricwlwm cenedlaethol. Casia: Ew ‘na ti ddeud! Mae ‘na fwy o aelodau yn y band tro ‘ma. Mae Llyr ‘Tonto’ Pari, Euron “Jos” Jones, a Branwen “Springs” Williams. Oedd dewis offerynnau penodol ac ehangu’r band yn bwysig i greu’r teimlad iawn ar yr albwm? Iwan: Dwy gitâr, gitâr fas, dryms, allweddellau a pedal steel sydd ar y rhan fwya’ o’r caneuon, a dwi’n meddwl fod combo o’r fath yn hen ddigon hyblyg i ymdopi â’r caneuon yma. Ma’n gweithio’n reit ddel ... ac mi fuo ni’n lwcus iawn i gael band gwych hefo ni yn y stiwdio, a mi odd y ffaith ein bod ni gyd yn ffrindiau a’n

“Mi ddyla albyms Bob Delyn fod ar y cwricwlwm cenedlaethol.”


gyfforddus yng nghwmni’n gilydd yn help mawr. Aled: Ia, yn bendant a mi oedd Dave ^ Wrench ym Mrynderwen yn hanfodol i sw n yr albwm hefyd – mi oedd gweithio efo fo’n grêt, ac mi oedd o’n giamstar ar gael y gorau ohono ni mewn cyfnod mor fyr o amser. Casia: Be’n union oedd y broses yn y stiwdio felly? Dafydd: ‘Natho ni recordio yr albwm yn sydyn. ‘Natho ni recordio dryms, bas, dau gitâr a lead vocals i gyd yn fyw, ac mi odd y rhan fwyaf o’r traciau’n ail neu drydydd takes, dwi’n meddwl ella bod ambell un yn first takes, a dwi’n meddwl bod hynna yn ^ bwysig i sw n a vibe y record. Ma’na ambell i fistêc arni, ond dwi’n meddwl bod hynna yn grêt. Dani’n gweithio lot gwell fel’na. Casia: Dwi’n meddwl bod hynna i’w glywed ar yr albwm, ‘di’r caneuon ddim yn swnio’n rhy rehearsed. Oce ta – os fasa chi’n cael cydweithio ag unrhyw artist yn y byd, byw neu farw – pwy fasa chi’n ddewis a pham? Iwan: Scarlett Johansson, am resymau personol.

Casia: Ha! Dallt yn iawn na’i ddim holi mwy. Aled? Aled: Mi fysa gwneud rhywbeth efo Emmylou Harris yn anhygoel, neu Scratch Perry. Dafydd: Swni’n dewis Emmylou Harris hefyd, neu Norah Jones neu rywun, a gwneud albwm tebyg i’r un nath Alisson Krauss efo Robert Plant. Ond dwi’n meddwl na’r person swni ‘n licio cyd weithio efo fwya’ yn y byd fysa Neil Young. ‘Sa hynna yn dandi. Gawni plis? Casia: Ga’i air efo Sion Corn i chdi, Dafydd. Wel, mi faswn ni’n gallu’ch holi chi drwy’r dydd ond dwi’n meddwl ‘mod i wedi ‘sgwennu gormod yn barod, felly un cwestiwn i gloi. Wrth wrando ar yr albwm mae rhai o’r caneuon megis ‘Gan fy mod i’ ac ‘Y Ffenast’ yn treiddio trwy rywun ac yn cyffwrdd i’r byw ac mae rhywun yn teimlo eu bod yn glasuron yn barod – beth ydi’ch gobeithion chi am yr albwm hon a’ch gobeithion ar gyfer Cowbois yn y dyfodol? ^ Iwan: Duw a w yr, mi fysai’n braf gallu gneud bywoliaeth o gerddoriaeth. Amsar a ddengys os ydan ni’n ddigon da i allu gwneud hynny.

“Scarlett Johansson, am resymau personol.” Aled: O ran gobeithion i’r dyfodol, dwi’n meddwl mai datblygu fel artistiaid sydd ei angen, yn hytrach na datblygu fel busnes. Yn aml iawn dwi’n clywed bandiau’n deud eu bod nhw “wedi gwneud bob dim sy’n bosib ei wneud yng Nghymru”, a phethau tebyg, ac mae hynny wastad yn fy nharo i’n od. ‘Dio ddim yn gwneud sens – nid gwneud pethau o fewn ffiniau daearyddol ydi’r amcan o gwbl, ond parhau i greu cerddoriaeth. Dafydd: Ia, dani reit lwcus efo Cowbois, dio ddim fel bo ni yn gorfod sticio at un math penodol o fiwsig. Ma ‘na le yna i arbrofi ac i symud ymlaen. Dwi’n meddwl bod y tri ohonan ni’n fodlon trio petha’ newydd, hyd yn oed os dio ddim bob tro’n gweithio. Casia: Wel, os ‘di beth bynnag ddaw nesa gystal a’r hyn ‘da chi wedi wneud hyd yn hyn , dwi’n edrych ymlaen yn barod!

15


FIDEOS HUD HUW Wyddoch chi be? Mae gan mr huw albwm newydd sbon allan mewn pryd i’r Nadolig. Dim byd rhyfedd yn hynny dwi’n eich clywed yn ebychu, yn enwedig gan ei fod o’n un o artistiaid mwyaf gweithgar y sin mewn blynyddoedd diweddar. Y peth ydy, mae ‘na fwy i’r stori gan ei fod o hefyd yn rhyddhau cyfres o fideos i gyd-fynd â’r albwm newydd - rhywbeth digon prin ymysg bandiau Cymraeg. Penderfynodd Y Selar wneud ymholiadau pellach. Huw, mae dy albwm newydd sbon danlli ^ di, Gogleddwyr Budr, allan rw an, ond yn ddiddorol iawn, mae gen ti gynlluniau i ryddhau’r albwm ar ffurf weledol hefyd. Deud mwy wrthon ni am hyn ... “Nath y syniad i gyd ddechrau pan nath cwpwl o ffrindiau, Aled a Huw sy’n gweithio i Cwmni Da a dwi’n chwarae ffwti efo nhw, gynnig gwneud fideo i un o’n nghaneuon i. Digwydd bod o’n i wedi dechra recordio deunydd ar gyfer Gogleddwyr Budur, Felly nes i roi’r gân gynta i mi gwblhau iddyn nhw gael dechra gweithio ar eu syniad.” “Nath y broses o neud y fideo yna, ar gyfer ‘Can you feel my soul’ fynd yn un eitha’ hir ond mae o wedi dod at ei gilydd yn dda. Felly o’r syniad yna geshi ‘light bulb moment’ efo Al, sy’n chwarae dryms yn y band, i neud fideo ar gyfer pob cân ar yr albwm. Ma na lot o bobl wahanol yn neud y fideos - dwi fy hun am neud un efo Rhys Llwyd (aelod o’r band), ma gen i griw o fyfyrwyr Coleg Menai yn gwneud un, ffrind arall - Iwan ‘Stanno’ Standley - yn gwneud un, ac yna cwpwl o bobl eraill sy’n dallt sut i gyfarwyddo a defnyddio camera’n gall!”

mae ‘na gwpl o fideos digon trawiadol a chofiadwy mr huw o gyfnod Bandit yno ‘Canibals a Rhyw’ y mwyaf amlwg efallai. Tybed ydy themâu cerddoriaeth mr huw yn rai sy’n gweddu’n dda ar gyfer fideo yn ogystal â sain? “Dwi’m yn gweld pam lai. Gobeithio bydd o’r un mor ddiddorol i fi eniwe. Geith pawb arall neud meddyliau eu hunain i fyny. Dwi di gadael pawb sy’n gwneud y fideos gal neud beth bynnag ma nhw isho neud efo nhw i raddau. Mae gen i ddeud mewn ambell elfen o un neu ddau o’r fideos, ond ma’r gweddill allan o fy nwylo.” Mae fideos cerddoriaeth wedi bod yn rhan allweddol o’r sin roc Eingl-Americanaidd ers degawdau bellach ... ond ddim cymaint yn y sin Gymraeg efallai. Beth ydy barn gyffredinol Huw ar ddyfodiad y fideo cerddoriaeth a diwylliant MTV - ydy o wedi rhoi hwb i gerddoriaeth yn gyffredinol? Ydan ni ar ei hôl hi yng Nghymru? “Mae o’n declyn gwych a ffordd hynod dda i ddod a cherddoriaeth i gynulleidfa fyw eang, ac i bobol fyddar gal trio mwynhau cerddoriaeth mr ^ huw, yn enwedig rw an efo’r we a gwefannau fel youtube.

Pam fod Huw yn awyddus i wneud hyn felly? Os ewch chi ar wefan youtube.com,

“Ma’r rhan fwyaf o gwmnïau recordiau’n ddigon parod i roi albwm allan a disgwyl iddo fo werthu heb unrhyw waith hyrwyddo” 16

Does ‘na ddim llawer o gyfleoedd i artistiaid neu fandiau Cymraeg i neud fideos - neith cwmni recordiau Cymraeg yn bendant ddim rhoi ‘chydig o arian i artist gael gwneud fideo. Ma’r rhan fwyaf o gwmnïau recordiau’n ddigon parod i roi albwm allan a disgwyl iddo fo werthu heb unrhyw waith hyrwyddo. Felly i ateb dy gwestiwn di, ydan mi rydan ni’n bell ar ei hôl hi!” “Ma colli rhaglenni cerddoriaeth Cymraeg yn rheswm mawr am gyn lleied o fideos sydd allan yna. Ond eto ar ôl deud hynna, dylai bandiau fod yn mynd ar liwt eu hunain a chynhyrchu fideos yn annibynnol. Ma We//are//animal a Masters in France yn enghraifft dda o fandiau sy’n fodlon gwneud fideos eu hunain a thrio gwthio’u cerddoriaeth. Ma fideos Race Horses yn wych hefyd. Ma na ambell i fideo yn cael eu cynhyrchu gan fandiau a ma angen llwyfan i ddangos nhw ar deledu Cymraeg. Be di 3 munud a hanner ar raglen gyfoes Gymraeg i gyflwyno fideo gan fand?” ^ Ond pam gwneud hyn rw an be mae mr huw yn gobeithio cyflawni? “Dwi jyst isho neud rwbath gwahanol efo’r albwm yma,


“Dwi jyst isho neud rwbath gwahanol efo’r albwm yma, rwbath bach mwy diddorol na jyst rhoi CD mewn siop a gadael iddo fo hel llwch”

rwbath bach mwy diddorol na jyst rhoi CD mewn siop a gadael iddo fo hel llwch fatha ma rhan fwyaf o CDs Cymraeg yn neud. Tro ‘ma dwi di penderfynu talu am bopeth fy hun o ran cymysgu, mastro, gyrru allan promos a hyrwyddo. Ma’r fideos yn rhywbeth ychwanegol, gwahanol, diddorol. Dwi’m yn gw’bod am lawer sydd wedi gwneud hyn o’r blaen efo albwm cyfan, yn enwedig artist Cymraeg. Gobeithio neith o dynnu mwy o sylw at yr albwm a bod y gynulleidfa sy’n gwrando ar fy ngherddoriaeth yn tyfu.” Beth ydy themâu’r fideos felly? Ma rhai o’r fideos yn cael eu cynhyrchu heb i mi w’bod be sy’n mynd ymlaen! Mae ‘na un lle dwi’n dditectif o’r 70au yn trio lladd mr huw, un efo plentyn 8 oed yn gwneud armed robbery a chwpwl o sypreisus eraill hefyd! Pryd a sut fydd pobl yn gallu gweld y fideos ma felly? Wel, dwi di rhoi dyddiad i’r cyfarwyddwyr i gyd, a’r gobaith ydi bod y fideos i gyd yn mynd ar y we ar ddydd Llun 31 Ionawr. Felly mi fyddan nhw ar gael i’w gweld ar mrhuw.com (lle all pawb lawr lwytho’r albwm am ddim), youtube. com ac ambell le arall.

Sibrydion

LANSIO GWOBRAU’R SELAR 2010 Wel, mae hi’n ddiwedd blwyddyn arall ac yn amser i asesu y flwyddyn a fu yn yr SRG. Pa ffordd well o wneud hynny na’ch gwahodd chi ddarllenwyr i bleidleisio am enillwyr Gwobrau’r Selar 2010. Eleni, rydan ni’n mynd i wneud bywyd yn hawdd i chi trwy roi’r cyfle i bleidleisio ar wefan Y Selar – www.y-selar.com. ^ I’ch rhoi chi yn y mw d, dyma’r holl gategorïau eleni, a rhestr enillwyr llynedd i’ch hatgoffa chi hefyd.

Sengl orau 2010 Rhestr fer 2009: Cacen Mamgu / Cake Race Horses; Fel Hyn am Byth - Yr Ods; Hufen Iâ – Clinigol Enillydd 2009: Fel Hyn am Byth – Yr Ods Clawr CD gorau 2010 ^ Rhestr fer 2009: Os Mewn Sw n - Huw M; Medina – Eitha Tal Ffranco; Melys – Clinigol Enillydd 2009: Melys – Clinigol Ep Gorau 2010 Rhestr fer 2009: 100 Diwrnod Heb Liw – Y Promatics; Cuddio’r Cysgodion – Byd Dydd Sul; Enlli – Yucatan Enillydd 2009: 100 Diwrnod Heb Liw – Y Promatics Artist unigol gorau 2010 Rhestr fer 2009: El Parisa; Mr Phormula; Huw M Enillydd 2009: Huw M

Band gorau 2010 Rhestr fer 2009: Sibrydion; Yr Ods; Race Horses; Clinigol; Derwyddon Dr Gonzo; Jen Jeniro Enillydd 2009: Sibrydion

CÂn orau 2010 Rhestr fer 2009: Colli Cyfle - Y Promatics; Ar Fy Llw – Llwybr Llaethog; Fel Hyn am Byth – Y Ods Enillydd 2009: Ar Fy Llw – Llwybr Llaethog

Masters in France

Band Newydd Gorau 2010 Rhestr fer 2009: Masters in France; Y Bandana; Y Niwl Enillydd 2009: Y Bandana Digwyddiad Byw gorau 2010 ^ Rhestr fer 2009: Gw yl y Dyn Gwyrdd; ^ ^ Maes-B; Gwyl Swn Enillydd 2009: Maes-B DJ gorau 2010 Rhestr fer 2009: Nia Medi; Vinyl Vendettas; Steffan Cravos Enillydd 2009: Nia Medi Hyrwyddwr gorau 2010 Rhestr fer 2009: Dilwyn Llwyd; Dai Lloyd; Guto Brychan Enillydd 2009: Dai Lloyd Bydd modd i chi bleidleisio dros enillwyr 2010 ar wefan Y Selar www.y-selar.com rhwng 15 Rhagfyr a 10 Chwefror!

17


. . . l r e p pump

HUW

M

NHW NEWID EU HENW I JEST GYNTAF, ROEDD O’N AELOD BLAENLLAW O YSBRYD CHOUCHEN, CYN IDDYN DU A LERI SION ... AC DAFYDD I O SHIFFTI EI CAEL CYN C2, CHOUCHEN. YNA, ROEDD O’N GYNHYRCHYDD YW DECHRAU RECORDIO DAR DDIWED ERBYN HYN NÔL I C2 ETO! AC EFALLAI MAI EI GYFRANIAD PWYSICAF YN SELAR 2009 - ‘ARTIST UNIGOL Y BRAU’R NGWO A GIGIO FEL ARTIST SOLO A CHIPIO CLOD ARUTHROL YNG UCHAF ALBYMS Y FLWYDDYN. PRIN FOD FLWYDDYN’ Â’I ALBWM gYNTAF, OS MEWN SWN YN AIL YN RHESTR DEG GERDDORIAETH SYDD WEDI YSGOGI PA GANDDO UNRHYW BETH ARALL I’W GYFLAWNI GYDA’R FATH CV, OND GWEITHGARWCH HYNOD HUW M? DYMA’I BUM PERL ...

Y PENCADLYS CELF/CREPHT Mae Y Pencadlys (sef Hayden Hughes o Fangor) yn brosiect electroneg, digyfaddawd a chwbl wreiddiol, a Kelf/Crepht yw enw’r EP gafodd ei ryddhau ganddo yn 2008. Mae’n gwneud defnydd o synau anarferol, ac yn eu cymysgu gydag offerynnau a chanu - mae ‘na rywbeth caled a hudolus am y gerddoriaeth ac, yn bwysicach na dim, mae’n ddiddorol dros ben. Mae ‘na lwythi o artistiaid electroneg o Gymru yn cynhyrchu stwff arbennig ar y funud - ac mae Y Pencadlys yn un o fy ffefrynnau personol, yn ogystal â Messner/Dileu (prosiectau Owain Roberts, hefyd o Fangor). Dwi ddim yn credu ei bod hi’n hawdd cael gafael ar yr EP Kelf/

Crepht, ond mae’r pedair cân i’w clywed ar myspace.com/pencadlys, ac mae un o ganeuon Y Pencadlys hefyd yn ymddangos ar gasgliad newydd ‘Electroneg’ sy’n cynnwys llwythi o ganeuon electroneg gan artistiaid o Gymru.

GERAINT JARMAN A’R CYNGANEDDWYR ATGOF FEL ANGOR (BOCS-SET) Gwrando hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd eisiau deall pam fod cerddoriaeth gyfoes Gymraeg yn ffynnu heddiw ac, yn wir, i unrhyw un sydd eisiau deall hanes diweddar Cymru. Mae Atgof fel Angor, gafodd ei ryddhau yn 2008, yn focs-set sy’n cynnwys 15 CD o albyms Geraint Jarman hyd yma, a

BON IVER - FOR EMMA, FOREVER AGO Bon Iver yw band y canwr-gyfansoddwr o’r Unol Daleithiau, Justin Vernon, a cafodd yr albwm yma ei recordio yn bennaf ganddo ar ben ei hun yn ystod gaeaf 2007 mewn caban yn Wisconsin wrth iddo ddod dros

18

yselar@live.co.uk

salwch. Yn wreiddiol doedd ganddo ddim bwriad i’w rhyddhau fel albwm, ond ar ôl ychydig o anogaeth nath o benderfynu ei rhyddhau ei hun, cyn iddo arwyddo i label Jagjaguwar nath ryddhau’r albwm yn iawn. Ar ôl hynny, fe gafodd

lwyddiant anhygoel ac mae’n cael ei hystyried gan nifer yn un o albyms gorau’r ddegawd - byswn i’n cytuno 100%. Ychydig iawn o offer recordio oedd ganddo yn y caban - a dim byd drud a ffansi - ond mae hon yn brawf o’r hyn y gellir ei gyflawni gyda chaneuon da a’r teimlad iawn. OK, mae ‘na waith golygu


GWYNETH GLYN - WYNEB DROS DRO Pan ddaeth yr albwm yma allan ar label Slacyr roedd yn chwa o awyr iach - caneuon syml ond gwefreiddiol, llais hudolus a geiriau sy’n adrodd cyfrolau. Mae Gwyneth Glyn, fel Geraint Jarman, yn un o’r ychydig artistiaid hynny sydd â gafael cystal mewn geiriau ag sydd ganddi yn y gerddoriaeth ac mae’r cyfan yn plethu gyda’i gilydd mor naturiol. Mae’r

albwm yn cynnwys rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd Gwyneth fel ‘Adra’ ac ‘Angeline’, ond i mi mae caneuon fel ‘Tasa ti yma’ ac ‘Angen haul’ cystal pob tamaid. Rydan ni’n dau wedi perfformio efo’n gilydd ar sawl achlysur, a gallaf dystio ei bod yn artist byw arbennig hefyd.

Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, yn ogystal â stwff mwy prin fel sesiynau a b-sides. Does dim dwywaith fod Geraint Jarman yn un o artistiaid a beirdd mwyaf pwysig a dylanwadol y Gymru gyfoes, ac yn dal i gyfansoddi a recordio caneuon llawn mor gyffrous heddiw. Mae’r bocs-set yn cynnwys albyms clasurol fel Hen Wlad fy Nhadau, Gwesty Cymru, Fflamau’r Ddraig, Rhiniog ... ond hefyd caneuon llai cyfarwydd fel Credo a Drosodd, a stwff diweddar pan fu’n cydweithio

... AC AGOR FY NGHLUSTIAU I GERDDORIAETH DDIDDOROL NAD OEDDWN WEDI’I GLYWED O’R BLAEN wedi digwydd wedyn, ond y pwynt ydy fod yr albwm yn llawn o deimlad ac ystyr ac wrth wrando arni’n astud ‘da chi’n clywed y camgymeriadau - ond mae hynny’n ychwanegu at ramant y peth. Albwm dewr, llawn teimlad ac yn un dwi’n mynd nôl ati dro ar ôl tro ar ôl tro.

gyda Llwybr Llaethog a’r Diwygiad. Mae Atgof fel Angor hefyd yn cynnwys CD o ganeuon byw ac yn gyfle i brofi dawn perfformio anhygoel y Cynganeddwyr. Yn ddiweddar dwi wedi bod yn ddigon ffodus i gydweithio gyda Geraint ar nifer o gyfresi radio mae’n cyflwyno, a thrwy hynny mae o wedi fy nghyflwyno i gerddorion cwbl newydd i mi ac agor fy nghlustiau i gerddoriaeth ddiddorol nad oeddwn wedi’i glywed o’r blaen.

KIMYA DAWSON REMEMBER THAT I LOVE YOU Fe ddes i a fy ngwraig, Beth, ar draws Kimya Dawson trwy ddamwain ^ yng ngw yl End of the Road yn Dorset, ac o’r eiliad glywsom ni hi’n perfformio fe gawsom ni’n swyno. Mae’i cherddoriaeth yn eitha’ amrwd a lo-fi, cwbl unigryw a ddim yn dilyn unrhyw reolau, ac mae hi’n cael ei hystyried yn un o artistiaid amlycaf y sin gwrth-werin (anti-folk). Roedd hi’n un hanner o’r ddeuawd The Moldy Peaches gydag Adam Green, ddaeth i amlygrwydd mawr drwy’r ffilm Juno, ond mae hi bellach yn artist unigol. Mae ei geiriau yn anhygoel - mor onest ac agored, yn

ddi-flewyn-ar-dafod, ac ar ôl ei chlywed yn canu rydach chi wirioneddol yn teimlo eich bod yn ei hadnabod, ac mae hynny’n apelio’n fawr i mi. Yr albwm yma, Remember That I Love You, yw fy hoff un ganddi, ac mae’n cynnwys y gân anfarwol ‘I Love Giants’: “Rock and roll is fun but if you ever hear someone Say you are huge, look at the moon, look at the stars, look at the sun, Look at the ocean and the desert and the mountains and the sky, Say I am just a speck of dust inside a giant’s eye.” Gwych!

Kimya Dawson

19


CRACIO WYRLIGIGS Fel fersiwn modern o’r Cyrff mae cerddoriaeth y Wyrligigs weithiai’n hwyliog, weithiau’n dywyll ac weithiau’n gwneud i ni feddwl. Mae rhywbeth i bawb ar yr albwm yma - o roc amrwd ‘Meddwl Fi’ yn agor yr albwm, drwy synau ysgafnach a hafaidd Chwalu, i wleidyddiaeth ‘Bancars Bodlon’, lle mae’r penillion syml yn f’atgoffa i o ‘Choose Life’ yn Trainspotting. Mae’n albwm sydd wedi ei chynhyrchu i safon uchel gyda’r tri offeryn yn asio’n syml ac effeithiol gyda’r drymiau’n aml yn gyrru’r gerddoriaeth yn ei blaen. Yna mae gennych chi’r trefniadau crefftus eto yn ein hatgoffa o’r Cyrff – sy’ ddim yn syndod o edrych yn y diolchiadau ar y clawr. Teimlaf nad oes cymaint o ofal wedi cael ei roi i rai o’r caneuon olaf ar yr albwm yn enwedig y rhai Saesneg, mae’r trefniannau i weld ychydig yn frysiog ar brydiau ond mae harmonïau agos ‘Come Along with Me’ er enghraifft yn dangos potensial. Mae hon yn albwm roc syml ond effeithiol y gwnes i ei mwynhau yn fawr a dwi’n credu bod cân ar yr albwm yma i bawb, dwi’n edrych ‘mlaen i glywed mwy. 8/10 Telor Roberts

CYFRINACH CLINIGOL Dyma’r bumed sengl gan hoff fand Malcom Allen, a digon tebyg i’r bedair arall ydyw mewn gwirionedd – pop dawns cawslyd, gyda Nia Medi yn canu y tro hwn. Does dim byd yn bod ar geisio efelychu cerddoriaeth boblogaidd Eingl-Americanaidd am wn i ond dyw’r gynulleidfa dorfol sydd ei angen ar gyfer y math yma o gerddoriaeth jyst ddim yn bodoli yn yr SRG felly dwi’n gorfod cwestiynu be’ di’r pwynt? Y math o gerddoriaeth ddawns fasnachol yr ydach chi’n ei glywed mewn bariau doji ar y Santes Fair yng Nghaerdydd a K2 yng Nghaernarfon sydd yma, a disgo Glan-llyn yw’r unig le iddo yn y Gymraeg. Wedi dweud hynny, dwi wrth fy modd efo’r ddwy rîmics! Mae fersiwn drwm a bas rîmics Y Cyrion yn rhoi rhyw wedd danddaearol newydd i’r sengl ac mae yna dipyn mwy o hygrededd iddi yn y ffurf yma Felly hefyd rîmics acwstig Dafydd Dabson, (chwarae teg, mae unrhyw gân sy’n swnio’n hanner call ar yr eitem anhygoel o anghyfforddus yna ar Gofod yn haeddu clod!) Felly, ydw i’n hoffi’r sengl? Job deud. Dwi’n casáu’r genre ond mae’n rhaid ym mod i rywle yn fy isymwybod ym mwynhau’r gân ei hun achos allai ddim stopio gwrando ar y ddwy rîmics! 7/10 Gwilym Dwyfor

20

BOX COLORAMA Fel awgrymir eu henwau mae albwm Coloroma yn lliwgar, yn seicadelig mewn gwirionedd - â’r gân deitl, ‘Box’ yn berffeithrwydd o bop ysgafn Candylion-aidd. ^ Daw sw n y 60au allan yn amlwg yn nhiwns y gitâr drydan, yr organ drydanol a’r tamborîns yn ‘Royal Victoria Arcade Part 2’, sy’n gân heb eiriau ac sy’n debyg iawn i rywbeth gan Y Niwl. Ond mae ochr mwy sinistr i’r albwm hefyd, gyda sawl trac yn gwyro tuag at genre gwerin, gan lwyddo i swnio’n hiraethus - a

chaneuon fel ‘Autumnal’ yn awgrymu rhywbeth hudolus, tylwyth teg-aidd, bron. Aiff ‘Apocalypse Blues’ a ‘Candy Street’ gam ymhellach gan gyfuno ^ sw n hapus y 60au gyda synau sinistr hen syrcas neu ffair. Mae awgrym o jingls hen raglenni teledu hefyd yn creu traciau retro ^ iawn eu sw n - ond eithaf hunllefus, fel League of Gentlemen ar gân! Dwy gân Gymraeg sydd, a ‘Mynydd Hud’ yw un o draciau gorau’r albwm gyda’i geiriau syml a’i thôn hwiangerddol. Campwaith o albwm. 9/10 Leusa Fflur

DYDDIAU DU, DYDDIAU GWYN COWBOIS RHOS BOTWNNOG Mae’r gaeaf ar riniog y drws ac mae’n amser gwisgo côt a sgarff, ond ar Ragfyr yr 11eg mi fydd hi’n amser i chi roi’ch gwydrau i lawr a chloi eich drysau. Yna, tarwch Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn ar eich chwaraewr CDs a gwrandewch – achos wir-yr, mae albwm newydd Cowbois Rhos Botwnnog

yn werth chweil ac mae’n haeddu gwrandawiad iawn. I mi mae gwrando ar Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn fel cael andros o sgwrs hir bersonol efo hen ffrind. Hanesion o hapusrwydd, unigrwydd, ysfa, cariad a cholli cariad. Gyda thri aelod newydd yn cyfrannu ar yr albwm - Euron “Jos” Jones, Cowbois Rhos Botwnnog

Llyr “Tonto” Pari” a Branwen “Sbrings” - mae’r naws gerddorol yn gyfoethog a chain, a geiriau’r caneuon ^ ^ - trw tw fform gan y ‘fenga o’r cowbois, yn goeth a chofiadwy. Cadwch glust allan am eu fersiwn nhw o ‘Gan fy mod i’ gan Nia Morgan, sy’n drwm dan deimlad ac ^ yn codi croen gw ydd bron a bod, tra bod ‘Y Ffenest’ wedi ei serio ar fy nghof erbyn hyn – ond mae dewis y caneuon gorau ar yr albwm fel dewis siocled o focs Milk Tray – does dim dewis anghywir, maen nhw’i gyd yn fendigedig. Casia Wiliam 8/10

Y NIWL Mwy o’r hyn glywsom ni ar EP’r band ddechrau’r flwyddyn sydd yma, dim ond bod yna fwy y tro yma, a pheth da ydi hynny achos mae’r albwm yma yn ddeg trac o bleser pur. Eisteddwch, anghofiwch am y byd a’i bethau a dychmygwch am ’chydig eich bod chi ar ryw lan môr yn Nghaliffornia yn yr 1960au. Mai’n anodd dewis y traciau gorau, achos maen nhw i gyd yn dueddol o blethu i’w gilydd yn un cyfanwaith hyfryd o gitârs. Wedi dweud hynny, mae gen i ambell ffefryn personol. Mi fysa ‘Undegpump’, ‘Undegpedwar’ ac ‘Wyth’ yn ddigon

cartrefol mewn ffilm Tarantino, mae’r organ yn ychwanegiad effeithiol ar ‘Deg’, ac am rywbeth arafach, mae ‘Undegtri’ yn cloi’r albwm yn fendigedig. Albwm syml ydi hon, does ganddi ddim enw, does gan y caneuon ddim enwau na geiriau, does na’m rhyw sbloetsh ddiflas tu mewn i’r clawr. Y cwbl sydd yma ydi miwsig, ond diawl, mae o’n fiwsig da! Perffeithrwydd syml - symlrwydd perffaith. 9/10 Gwilym Dwyfor


adolygiadau PETHAU GWYLLT ALUN BATTRICK

Prosiect newydd y canwr/cyfansoddwr Gareth Phillips a Wyn Jones ydy Mimosapwka. Yr hyn a darodd fi gyntaf oll am y caneuon oedd eu bod nhw wedi cael eu dylanwadu eithaf tipyn arnyn nhw gan sain bandiau gitâr/pop yr wythdegau ar nawdegau. Efallai mai dyma ydy problem fwyaf yr albwm. Fe fyddai’n anodd iawn ei disgrifio fel casgliad o ganeuon cyfoes. Does yna ddim byd newydd a does yna ddim byd arloesol yma. ^ Rwy’n siw r fod yna farchnad gref ar gyfer y math yma o record ac y bydd nifer yn ei mwynhau, ac mae’n rhaid deud na wnes i ei chasáu hi o bell ffordd, ond doeddwn i ddim yn awchu i wrando ar y caneuon drosodd a throsodd. Mae’r gân ‘Sylwi’ ychydig yn wahanol i weddill yr albwm, gyda thinc mwy gwerinol ac ysbrydol iddi. Dwi’n teimlo fod y band yn fwy cyfforddus neu hyderus ar y trac yma, ac efallai y dylen nhw ganolbwyntio ar y math yma o gân gan ychwanegu stamp eu hunain ar eu caneuon.

^ Dwi ddim yn siw r iawn beth i’w ddweud am yr EP yma. Cyrhaeddodd drwy’r post a dyma ei llwytho i’r cyfrifiadur. Yn anffodus ni wnaeth lawer o argraff arna’i y tro cyntaf, felly dyma wrando arno drosodd a throsodd er mwyn gweld a fyddai’n gafael. Mewn gwirionedd does dim o’i le â’r EP. Mae gan Alun lais hyfryd, ac mae’r caneuon yn swynol a hawdd gwrando arnynt. Ond dwi wedi clywed hyn dro ar ôl tro dros y blynyddoedd diwethaf. Does dim newydd na ffres yma! Wel heblaw trac 4 ‘Gwenllian’ efallai sydd ychydig yn fwy bywiog diolch i’r dylanwad swing/jazz. Fel arall EP acwstig ddigon cyffredin ydi Pethau Gwyllt. Serch hynny bu imi fwynhau’r trydydd trac ‘Fan Hyn’ ac wrth wrando yn methu a pheidio clywed tebygrwydd rhwng Alun a Mike Peters ifanc. Diddorol oedd darllen ar dudalen myspace Alun ei fod yn arfer chwarae yn y band roc Enaid Coll, ai fod wedi troi ei gefn ar gerddoriaeth roc rhyw ddeng mlynedd yn ôl. Dyma hanes gymaint o gerddorion y sin roc Gymraeg bellach. Troi eu cefn ar roc, hip-hop, pop neu pa bynnag genre a throi at gerddoriaeth acwstic-aidd. Ai dyna pam fod gennym sin sydd braidd yn undonog bellach? Pam ddim cael sin sy’n llawn amrywiaeth? Efallai fod ‘na le i ambell i un o ‘boy neu girl band’ Rhys Mwyn hyd yn oed! Rhyfedd sut mae’r rhod yn troi! Oni fyddai cael mwy o amrywiaeth yn adfywio’r ‘sin’! Mae pawb yn swnio rhy debyg myndiani!

6/10 Dewi Snelson

6/10 Aled Ifan

Colorama

MIMOSAPWKA

Y Niwl

THE GENTLE GOOD TETHERED FOR THE STORM Mae disgwyliadau yn gallu bod yn faich. Mae cymryd yn ganiataol bod albwm yn mynd i fod yn wych cyn ei hagor yn rhoi’r ^ bobl a greodd y sw n mewn sefyllfa anodd. Os nad yw’n dy arwain i’r entrychion yna mae’n siom - yn gallu rhoi’r un teimlad a sefyll mewn peil o faw ceffyl heddlu, er ei fod mewn gwirionedd yn debycach i dorri llwy fewn i grème brûlée. Lwcus felly nad yw’r broblem honno’n berthnasol yn achos albwm diweddaraf Mr Gareth Bonello. Oherwydd beth bynnag dy ddisgwyliadau mae’r albwm yn eu cyrraedd, a hyd yn oed eu pasio. Mae’r caneuon oll yn wirioneddol fendigedig, ‘Llosgi Pontydd’ yn enghraifft gyfarwydd yn barod - cân wirion o wych sy’n cael sylw haeddiannol radio a theledu. Mae’r holl gyfanwaith arbennig yn hyrddio unrhyw gyhuddiad o `undonedd` a gafodd o’i albwm blaenorol o’r neilltu gan ychwanegu wrth i gyffyrddiadau gan gerddorion gwadd ychwanegu’n effeithiol at alawon gitâr gogoneddus heb foddi unwaith. Beth sydd o’i le ar yr albwm? Dim. Be sy’n dda? Popeth. Sy’n gadael ond un canlyniad. Os wyt ti’n 18 oed, efallai na fyddi di’n rhoi marciau llawn i Tethered for the Storm, ychydig yn rhy hamddenol efallai. Ond cyn pen y ddegawd, os fydd gronyn o dast gen ti, fe fyddi di. Mae’n air peryglus, ond does dim arall yn ffitio – perffaith. 10/10 Hefin Jones

YR ODS Oes ‘na rywbeth gwell na gweld band yn datblygu mewn i fod yn yffach o fand da? Mae’r Ods wedi dod yn bell iawn ers y dyddiau cynnar pan ddechreuodd Griff a Gruff wneud cerddoriaeth ym mhrifysgol Aberystwyth. Wrth wrando ar yr EP yma, mae’n anodd credu taw’r un band yw nhw. Ac oooo dyma EP da. Mae’n llawn bywyd, clyfrwch a bîts sy’n amhosib aros yn llonydd iddyn nhw. Mae’n dechrau’n gryf - oes cân mwy catchy wedi ei ryddhau ‘leni yng Nghymru na ‘Nid Teledu Oedd y Bai’? Ac mae’r holl ganeuon yn unigryw ac yn gwneud i chi eisiau gwrando arnyn nhw dro ar ôl tro. Dyma gyfuniad cyffrous o bum cân wych, ^ ac mae’r sw n a’r cynhyrchiad o’r safon ucha’. Mae ‘na ôl dyfalbarhad i’r caneuon - dyma fand prysur sy’n gwella a gwella o hyd - ac mae’n bryd iddyn nhw gael y sylw maen nhw’n haeddu. Prynwch hi, dawnsiwch iddi ac yna gwrandwch arni eto ac eto ac eto... 8/10 Lowri Johnston

21


GEIRIAU SY’N

GYRRU’R GÂN? Mae’r Bandana wedi dod yn reit bell ers i’r Selar eu cyflwyno nhw fel un o’n bandiau ‘Dau i’w Dilyn’ ni yn nechrau 2009. Dros yr haf fe wnaethon nhw ryddhau eu sengl gyntaf ar label Copa, a ^ rw an maen nhw wedi recordio, ac ar fin rhyddhau albwm llawn cyntaf. Mae ail drac y sengl, Cân y Tân, wedi dal dychymyg ffans cerddoriaeth Cymru ac i’w clywed yn rheolaidd ar y tonfeddi - dyna pam mai hi sy’n cael sylw Geiriau sy’n Gyrru’r Gân y rhifyn yma. Dyma’r band i egluro cefndir y gân: Cafodd y gân ei sgwennu gan Gwilym ar ôl Maes B 2009. Os ‘da chi’n cofio’r tân mawr a oedd ym Maes B flynyddoedd yn ôl? Wel ma’r gân yma’n sôn am hanes Gwil un noson yn sefyll wrth y tân yn siarad efo merch. I ddechrau roedd hi’n gân hollol acwstig a dwi’n cofio nathan ni benderfynu bod y gân yn rhy lyfi-dyfi felly nathan ni ei sgrapio hi am ryw 5 mis cyn sylwi ei bod hi’n gân dda. Yr unig beth oedd angen oedd gweithio ar y gân am noson gyfan i’w gwneud hi’n fwy addas i’n set-up ni o dryms, bas, gitâr ac allweddellau.

Cân y Tân Sefyll wrth y tân, sefyll wrth y tân, Wedi drysu’n lân, wedi drysu’n lân, Nes di roid dy law yn fy mhen, A nes di afael ar fy meddwl i, nes di afael ar fy meddwl i. Sefyll wrth y tân, sefyll wrth y tân, Wedi drysu’n lân, wedi drysu’n lân, Roedd ‘na gannoedd o bobl yna , Ond yr unig un o ni’n gallu gw eld oedd chdi, yr unig un o ni’n gallu gweld oedd chdi. Cytgan: Ti di cael dy neud i mi, ti di cae l dy neud i mi, Dwi di cael fy neud i chdi, dw i di cael fy neud i chdi. Rhywbeth am dy wên, rhywbe th am dy lais, A rhywbeth am dy lygaid, syd d yn fy hudo i, Ac er nad wyt ti’n gweld ni’n ffrindiau, Allai weld ni’n dau rhyw ddy dd, rhyw ddydd mond chdi a Cytgan Ond mae’n siom bod gen ti gar iad, A chdi a f i ddaw yn ddim byd , Ond mae ‘na un peth dwi’n siW ^r o gof io, Dwi’n gw’bod yn iawn, na’i gof io’r dydd lle’r o ni’n. Sefyll wrth y tân, sefyll wrth y tân, Wedi drysu’n lân, wedi drysu’n lân, Nes di ddangos i f i, bod na fwy i’r byd ‘ma na gitâr, Mwy i’r byd ma na gitâr. Ti di cael dy neud i mi, dwi di cael fy neud i chdi, Ti di cael dy neud i mi, dwi di cael fy neud i chdi.

22

?


‘DOLIG LLAWEN GAN HUW M Chwarae teg i Huw M, mae o’n foi neis iawn beth ^ bynnag, ond rw an mae o wedi penderfynu rhoi anrheg Nadolig arbennig i’w holl ffans – sef CD Nadolig arbennig! Enw’r CD ydy ‘Yn ddistaw ddistaw bach’, a’r newyddion gwell byth yw y bydd ar gael i’w lawr lwytho am ddim ar huwm.bandcamp. com - bargen! Dim ond 100 copi caled o’r CD sy’n cael eu cynhyrchu, a dim ond un cyfle fydd i chi brynu copi caled o’r casgliad, a hynny mewn gig o’r enw Dawel Nos ^ yn Gwdihw , Caerdydd ar nos

Fercher, Rhagfyr 15fed. Noson Nadoligaidd ei naws fydd hon yng nghwmni Gwyneth Glyn, The Gentle Good, Huw M, DJ Meic P. Hyfryd iawn yn wir... ac mae holl elw’r noson yn mynd at elusen hefyd. Ho, ho, ho! Os nad ydy hynny’n ddigon i chi, beth am hyn? Mae’r artist Arwel Micah newydd gynhyrchu fideo wedi’i animeiddio gwych ar gyfer y gân ‘Ond yn Dawel Daw y Dydd’ o albwm Os Mewn ^ Sw n Huw M. Mae hi ar wefan youtube.com i chi allu ei ^ gweld hi rw an.

TANYSGRIFIO I’R

SELAR

HOFFECH CHI GAEL COPI NEWYDD SBON DANLLI PERSONOL DRWY’CH BLWCH POST BOB RHIFYN? GYRRWCH E-BOST GYDA’CH CYFEIRIAD A’CH ENW AT HYSBYSEBIONYSELAR@GOOGLEMAIL.COM ER MWYN CAEL EICH HYCHWANEGU AT FAS-DATA Y SELAR.

Huw M

ADOLYGIADAU LLAI NA NIWLOG Erbyn cyrraedd y dudalen ^ hon mae’n siw r y byddwch chi wedi darllen adolygiad o albwm newydd Y Niwl ar y dudalen adolygiadau. Wel, nid dim ond Y Selar sydd wedi bod yn adolygu’r albwm yn ddiweddar ac maen nhw wedi creu tipyn o argraff y tu hwnt i’r sin Gymraeg hefyd. Os nad ydach chi’n credu’r Selar bod hon yn albwm dda, weld dyma chi dair gwefan lle allwch chi weld adolygiadau ffafriol iawn yngly^ n â deunydd diweddaraf y syrffyr dwds o Ogledd Cymru. Y cyntaf ydy http://

drownedinsound.com/ lle mae’r adolygwr Noel ^ Gardner yn canmol sw n pur cerddoriaeth y pedwarawd. Mae Simon Tyers http:// www.thelineofbestfit.com/ yn ansicr yngly^ n â ail hanner yr albwm ond yn dweud “pan mae’n dda, mae’n arbennig o dda”. Y trydydd adolygiad rydan ni wedi dod ar draws ydy hwnnw ar http:// follyfollyfolly.blogspot. com/, lle mae’r adolygwr yn dweud fod Y Niwl yn ffresh, yn ddyfeisgar ac yn mynnu gwrandawiadau niferus. Da iawn yn wir.

AM DDIM FELLY PAM DDIM? OS YDYCH CHI MEWN BAND, YN TREFNU GIGS NEU’N YMWNEUD A CHERDDORIAETH GYMRAEG MEWN UNRHYW FODD, MAE ‘Y SELAR’ YN EICH GWAHODD I ANFON EICH NEWYDDION AT Y CYLCHGRAWN DRWY E-BOSTIO YSELAR@LIVE.CO.UK

YMA CEWCH DDARLLEN COPI ELECTRONEG O’R RHIFYN NEWYDD YNGHYD Â PHORI TRWY ÔL-RIFYNNAU.

www.y-selar.com

23


09‐11
Mawrth
2011
–
Caerfyrddin
 15‐16
Mawrth
2011
–
Canolfan
y
Mileniwm
 Caerdydd
 22‐23
Mawrth
2011
–
Pontardawe
 25‐26
Mawrth
2011
–
Aberaeron
 20
Mawrth
–
01
Ebrill
2011
–
Dolgellau
 05‐06
Ebrill
2011
–
Llanrwst
 08‐09
Ebrill
2011
–
Wrecsam
 12‐15
Ebrill
2011
‐
Biwmares


Am
fanylion
ar
sut
i
 archebu
tocynnau
 ewch
i
 www.theatr.com
 
 neu
chwiliwch
am
 Theatr
Genedlaethol
 Cymru
ar
Facebook




Theatr
Genedlaethol
Cymru
yn
 































cyflwyno






Deffro’r
Gwanwyn
 






 
 





Cyfieithiad
o’r
sioe
gerdd
newydd











Spring
Awakening


Llyfr
a
geiriau
gan
 
 
 




















Cerddoriaeth
gan
 Steven
Sater
 
 
 
 
 









Duncan
Sheik
 
 Wedi
ei
seilio
ar
y
ddrama
wreddiol
gan
Frank
Wedekind
 



Y Selar - Rhagfyr 2010