Y Selar Bach 13 - Rhifyn Dydd Miwsig Cymru 2023

Page 1

Y SELAR BACH Y SELAR BACH

ARTIST Y RHIFYN!

TARA BANDITO✦ ✦TARA BANDITO✦

Croeso i rifyn diweddaraf

Y Selar Bach!

Wrth i ni ddathlu Dydd

Miwsig Cymru 2023, mae’r Selar Bach yn ôl gyda rhifyn newydd sbon arbennig i’w rannu gydag ysgolion ledled Cymru.

Beth ydy’r Selar Bach?

Wel cylchgrawn cerddoriaeth bach i’ch cyflwyno chi i’r gerddoriaeth, a newyddion cerddoriaeth iaith Gymraeg ddiweddaraf.

Mae pob rhifyn yn rhoi sylw arbennig i un band neu artist penodol, ac yn rhifyn Dydd

Miwsig Cymru 2023, Tara

Bandito ydy Artist y Rhifyn.

Mae Tara yn perfformio ar lwyfannau Cymru ers

blynyddoedd lawer, ond mae wedi cael bywyd o’r newydd ers dechrau rhyddhau cerddoriaeth bop wych dan yr enw Tara Bandito ar ddechrau 2022. Mae ei halbwm cyntaf allan ers diwedd mis Ionawr, ac mae

2023 yn mynd i fod yn flwyddyn gyffrous iddi.

Ym mhob rhifyn o’r Selar Bach, rydyn ni hefyd yn ymweld ag un ysgol benodol er mwyn holi pa fath o gerddoriaeth mae’r disgyblion yn ei fwynhau. Ysgol y Berllan Deg yng Nghaerdydd sy’n cael sylw yn y rhifyn yma.

Felly, gobeithio byddwch chi’n mwynhau Y Selar Bach, ac yn mynd ati i chwilio am gerddoriaeth Gymraeg newydd ar ôl mynd adref.

Y CYLCHGRAWN CERDDORIAETH CRYNO AR GYFER PLANT BLYNYDDOEDD 5–8 • RHIFYN 13 • CHWEFROR 2023

FFEIL O FFEITHIAU

PWY? Cantores, actores a dawnswraig sydd wedi bod yn perfformio ar lwyfannau

Cymru ers blynyddoedd. Yn y gorffennol

mae wedi rhyddhau cerddoriaeth dan yr

enw Tara Bethan ac hefyd yn y band

Lleden.

O BLE? Llansannan ger Abergele.

RECORDIAU: Albwm ‘Tara

Bandito’ (Ionawr 2023) a chyfres o senglau ar ddechrau 2022.

UCHAFBWYNTIAU:

● Chware Glastonbury a Benicasseem yn Band Charlotte Church

● Chwarae The Roundhouse yn Llundain fel gig cynta Tara Bandito trwy BBC Horizons llynedd.

● Chwarae Maes B am y tro cyntaf yn Eisteddfod Tregaron 2022.

● Chwarae yr un llwyfan â Self Esteem llynedd yn Focus Wales.

TARA BANDITO

RHESTR CHWARAE

▶ Blerr

▶ Rhyl

▶ Drama Queen

▶ Croeso i Gymru

FFEITHIAU DIDDOROL:

Mae Tara yn ferch i reslwr enwog, Orig Williams… neu

El Bandito!

Bydd rhai yn ei hadnabod fel actores ar Pobol y Cwm—mae’n chwarae rhan Angela yn y gyfres S4C.

● Bu iddi hyfforddi am fis allan yn India i fod yn athrawes yoga. Teithiodd i Tanzania ar ben ei hun i ddringo mynydd Kilimanjaro.

● Rhedodd Tara hanner marathon Caerdydd wedi gwisgo fel Kermit the Frog

● Mae’r gantores yn double jointed.

PUMP CÂN I WRANDO ARNYN NHW

RHAGOR AM

GERDDORIAETH GYMRAEG

Wrth y Môr — Hippies Vs Ghosts Bwrw Eira — Fleur de Lys Goriad — Meinir Gwilym Bricsen Arall — Los Blancos Zion — Morgan a Jacob Elwy Gwefan Y Selar Blog Sôn am Sîn Sianel YouTube Lŵp Rhaglenni Radio Cymru

PUMP UCHAF Y SELAR

ARTISTIAID I’W GWYLIO yn 2023

Yn ddiweddar, fe wnaeth Gruffudd ab Owain fynd ati i ddewis artistiaid ifanc y dylai dilynwyr Y Selar gadw llygad arnyn nhw dros y flwyddyn i ddod. Dyma saith o’r rhai y dewisodd.

MAES PARCIO Mae’r band pync trwm o Gaernarfon ac Ynys Môn, Maes Parcio, eisoes yn gyfarwydd i ddarllennwyr Y Selar a hwythau wedi rhyddhau eu sengl gyntaf, ‘Sgen Ti Awydd’, ar label Inois cyn y Nadolig.

TESNI HUGHES Cerddor ifanc o Langefni, Ynys Môn ydy Tesni Hughes, sy’n sgwennu caneuon gwreiddiol ac yn perfformio ers ychydig o flynyddoedd ar hyd Gogledd Cymru, ac mae hi hefyd wedi gwneud ambell gig yn y De.

BLE? O Gaerdydd y daw’r grŵp Ble? ffurfiodd mewn pryd ar gyfer perfformio hyd a lled y brifddinas dros yr haf llynedd. Maen nhw’n dweud fod eu sain nhw hefyd wedi’i ddylanwadu gan “fandiau fel Frizbee, Band Pres Llareggub, Fountains of Wayne ag Alffa.”

FRANCIS REES “Mae fy miwsig yn dream pop gyda ‘chydig o indie; dwi’n defnyddio fy MIDI Keyboard i gynhyrchu popeth,” esbonia Beth Pugh o Dywyn, Meirionnydd sy’n perfformio dan yr enw Francis Rees.

TALULAH THOMAS Daw’r cyfansoddwr a’r dylunydd sain Talulah Thomas o ardal Llangollen, ond mae hefyd yn ymgartrefu yng Nghaergrawnt.

MYNADD O ardal Y Bala daw’r grŵp newydd, Mynadd, sydd wedi ffurfio yn ystod y misoedd diwethaf. “Ar hyn o bryd, ‘den ni’n arbrofi wrth i ni drio ffeindio’n sain, ond ‘den ni hefyd yn hoffi’r syniad o ‘neud ‘chydig bach o bob dim,” meddai’r prif leisydd Elain.

CAI Prosiect cerddorol Osian

Cai yw Cai, a ddechreuodd yn y cyfnod clo 2020. Esbonia fod ei gynnyrch hyd yma “yn cyd-fynd â steil bedroom pop / dream pop.

Cadwch olwg am yr artistiaid yma yn ystod 2023!

GEIRFA

pync – punk (cerddoriaeth drwm – lot o sŵn!) cyfnod clo – lockdown

Yr Iseldiroedd – The Netherlands senglau – singles (rhyddhau un trac ar ben ei hun) reslwr – wrestler

1. SŴNAMI Wedi egwyl, mae un o fandiau mwyaf Cymru yn ôl gydag albwm newydd, Sŵnamii 2. ADWAITH Wedi ennill Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ddiweddar, a pherfformio yn Yr Iseldiroedd 3. DADLEOLI Band newydd o Gaerdydd a rhyddhaodd drac i gefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd. 4. THE TRIALS OF CATO Mae’r band gwerin newydd ryddhau eu hail albwm, a fideo newydd Aberdaron 5. ALIS GLYN Artist ifanc wnaeth ryddhau ei sengl gyntaf, Golau, ychydig cyn y Nadolig. Dyma’r pump band sydd wedi dal sylw Y Selar yn ddiweddar

SELAR YN YR YSGOL SELAR YN YR YSGOL

Ym mhob rhifyn o’r Selar Bach rydyn ni’n holi disgyblion o ysgolion gwahanol am y gerddoriaeth Gymraeg maen nhw’n ei fwynhau. Yn y rhifyn yma, criw Ysgol y Berllan Deg, Caerdydd ydy hi.

Os hoffai eich dosbarth chi ateb cwestiynau’r Selar Bach anfonwch neges: post@selar.cymru

Enw:  Tomos

Hoff fand Cymraeg: Super Furry Animals

Hoff gân Gymraeg: Yma o Hyd — Dafydd Iwan

Lle fyddi di’n gwrando ar gerddoriaeth? Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Pa dri band neu artist fyddai yn dy gig perffaith di?

Super Furry Animals, Beatles, Kraftwerk

Enw: Seren

Hoff fand Cymraeg: Candelas

Hoff gân Gymraeg: Rhedeg i Paris — Candelas

Lle fyddi di’n gwrando ar gerddoriaeth? Ysgol ac ar y bws

Pa dri band neu artist fyddai yn dy gig perffaith di?

Candelas, Yws Gwynedd ac

Anne Marie

Enw: Mari

Hoff fand Cymraeg: Gwilym

Hoff gân Gymraeg: Rhedeg i Paris — Candelas

Lle fyddi di’n gwrando ar gerddoriaeth? Yn fy ystafell wely

Pa dri band neu artist fyddai yn dy gig perffaith di?

Diffiniad, Elin Fflur, Dua Lipa

Enw: Mabli

Hoff fand Cymraeg: Yws Gwynedd

Hoff gân Gymraeg: Sebona fi — Yws Gwynedd

Lle fyddi di’n gwrando ar gerddoriaeth? Yn fy ngwely

Pa dri band neu artist fyddai yn dy gig perffaith di? Dafydd

Iwan, Olivia Rodrigo, Diffiniad

Enw: Llew

Hoff fand Cymraeg: Zabrinski

Hoff gân Gymraeg: Cynlluniau

Anferthol — Zabrinski

Lle fyddi di’n gwrando ar gerddoriaeth? Pob man!

Pa dri band neu artist fyddai yn dy gig perffaith di?

Adwaith, Melyn, Beatles

Enw: Ffredi

Hoff fand Cymraeg: Mr

Phormula

Hoff gân Gymraeg: Pwy Sy’n

Galw? — Lloyd a Dom James

Lle fyddi di’n gwrando ar gerddoriaeth? Yn y car

Pa dri band neu artist fyddai yn dy gig perffaith di?

Mr Phormula, Dafydd Iwan, Ed Sheeran

Enw: Fatima  Hoff fand Cymraeg: Mr

Phormula

Hoff gân Gymraeg: Rhedeg i Paris — Candelas

Lle fyddi di’n gwrando ar gerddoriaeth? Fy ystafell wely

Pa dri band neu artist fyddai yn dy gig perffaith di?

Dafydd Iwan, Ariana Grande, Mr Phormula

Enw: Dafydd

Hoff fand Cymraeg: Super Furry Animals

Hoff gân Gymraeg: O Hyd — Sage Todz

Lle fyddi di’n gwrando ar gerddoriaeth? Gŵyl y Dyn

Gwyrdd

Pa dri band neu artist fyddai yn dy gig perffaith di?

Super Furry Animals, Kraftwerk, Candelas

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.