Y Selar - rhifyn 20 Ebrill 2010

Page 13

y badell ffrio

Y BADELL

FFRIO

Barry Chips

www.myspace.com/crwydro

EWYLLYS DA DDIM DIGON DA

Cynlluniau: Yn y byr dymor, mae Crwydro’n bwriadu recordio albwm erbyn ^ yr haf “a gwneud yn siw r bod ni ar y map go iawn.” Byddan nhw’n mynd i ffwrdd i’r Brifysgol yn yr hydref, ond yn gobeithio cynnal eu ffans presennol. Maen nhw yn y broses o drefnu gigs yn rhai o brif leoliadau Cymru ac yn gobeithio cael slot

da ar lwyfan Maes B yn y Steddfod “da ni di chwarae ym Maes B o’r blaen, ond mewn Brwydr y Bandiau arall oedd hynny ... a da ni’m yn siarad lot am hwnna gan na gawsom ni unrhyw wobr!” Maen nhw hefyd newydd ryddhau eu EP, O Le i Le, a gafodd ei recordio yn stiwdio Ferlas gyda Rich Roberts - da ydy o hefyd!

www.myspace.com/trwbador Cynlluniau: Gan eu bod nhw bellach yn gigio, mae Trwbador yn chwilio am fwy o gyfleoedd i berfformio’n fyw. Yn ôl Owain maen nhw’n gobeithio ^ “chwarae mewn ambell w yl gerddorol dros yr haf ac ysgrifennu rhagor o ganeuon rydyn ni’n hapus gyda nhw.” Yn sicr dylen nhw fod yn hapus gyda’r caneuon maen nhw wedi ysgrifennu hyd yn hyn ac wele adolygiad o’r EP ar dudalen adolygiadau’r rhifyn hwn o’r Selar!

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Jakokoyak, Messner, Mariee Sioux

Sylwebydd Y Selar, Barry Chips, sy’n trafod y diffyg gigs rheolaidd ledled y wlad. Yn wahanol i lot o bethau’r bubble Cymraeg sy’n bodoli ar sybsidi, mae’r Sîn Roc yn dibynnu ar ewyllys da cnegwarth clodwiw o wirfoddolwyr. Heb bobol fel Dilwyn Yucatan yn trefnu gigs yn nhafarn y Morgan Lloyd, fyddai unrhyw beth yn digwydd yng Nghaernarfon? Mae’r boi yma’n cynnal y sîn yn ei amser sbâr. Pan fydd o’n rhoi’r gorau iddi, pwy ddaw yn ei le? Y pwynt ydi hyn: unigolion efo ymroddiad sy’n trefnu gigs, ac ar y funud - yn digwydd bod - mae un o’r rheiny i’w cael yng Nghaernarfon. Nid felly Bangor, Aberystwyth, Yr Wyddgrug, Caerffili ayb. Wrth edrych ar y busnes yma o sefydlu corff casglu breindaliadau annibynnol i Gymru, mae angen edrych o ddifri’ hefyd ar sefydlu Cylchdaith Gigio*. Be’ fflewj ydi Cylchdaith Gigio medda chi? Wel, yn syml, cyfres o lefydd i gynnal gigiau mewn saith neu wyth tref neu ddinas trwy Gymru. Dylid cael gig o leiaf bob mis yn y llefydd hyn, gyda swyddog rhan-gyflogedig yn trefnu’r arlwy. Rhwng y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, y Cynulliad Cenedlaethol ac Urdd Gobaith Cymru, dylai fod yna bres i wneud hyn. Ond mae angen i’r cerddorion a’r siwts ddod at ei gilydd i benderfynu’r llefydd gorau a sut i gael y bandiau yno a.y.b. Iawn, mae yna rai mentrau iaith fel un Merthyr Tudful sy’n trefnu gigs – ond mae angen cynllun call, pwrpasol i’w farchnata, fel bod pobol yn gwybod: ‘Dwi’n garantîd o gig yn fana ar y noson yna.’ Mae hyn wedyn yn gwneud yr holl sin yn fwy proffesiynol. Mae’n bodoli ar lawr gwlad ym mhob cwr o Gymru, nid mewn pocedi bach ynysig yng Nghaernarfon a Chaerdydd. Mi fydda hyn yn rhoi pres ym mhoced y bandia’, ac mi fyddai hi’n change mynd i Gasnewydd a Phowys am dro. Ydy hi wir yn ormod i ofyn bod myfyriwr yn cael rhyw £30 yr wsos i drefnu gigsan yn Aberystwyth? * hawlfraint: Patricia Thomas.

13


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.