Issuu on Google+

RHIFYN 20 . EBRILL . 2010

y Selar

AM DDIM

GWOBRAU’R SELAR ADOLYGIADAU NYTH ... A LLAWER IAWN MWY!

Y

NIWL RHIFYN GWOBRAU’R SELAR

1


10 UCHAF ALBYMS 09

L O D D Y GOLYG

r ’n amse , ac mae sbon d o r a b ydd d yn ifyn new eufis oe dros dd ch blewog ar r 10 0 2 Ah, mae ich bachau ba d i’r sin le h rhyfed ma chi! i chi gae elar ... felly dy ddyn yn un fac l rhywsut y tô ’r S a o’r flw g dwy s danlli o pasio, mser ym cwympo rhwn Nadolig wedi Mae’r a ae’n dd y wyliau’r iaeth. M ds newy fod bwrlwm g gerddor sur o gigs a C ni hen d tan pry ennym dd i fyn g e o e s a nes ei cyfnod fi m o cwpl oener, i rhifyn h n w y p n d a le e n i w l d ac On redo echrau. orol cyf haf yn d ynnwys cerdd elar ydy og glitsi’r S ig gan u a r . b ddigon o io t w d n â byrs eddi enillwyr g wyn - yn enwe dol fod bro yho wan wed c ll G a a y n m n a y g h if r Bery ny mae ntiau rh wedi chwarae eud hyn hafbwy un o uc hi’r darllenwyr eleni. Wedi dw cynnwys in dc r ori yn eich bo leisio am y rha ch didd s y sin a i’ ll a r id a le cyffrou yn y brif ff f a tw y s w o wrth b m ni lwyth eolaidd siectau gennym gydag un o bro digwyddiad rh ystal â hyn, d i d n og iad u cyfwelia hyflwyn lwydd cyntaf. Y yr holl eitema , c a d y r s -b y aw n r w e d n p s n hyn o b a cy m hlu sy’n dat iniog hefyd yn wch chi’n joio ddinas d le d g hio y by loriau s mae’r c arferol. Gobeit fe gyll ymhell! d a id ll y c ll, rheola - pan gy h c w fi o a ch

OWAIN S

GWOBRAU’R SELAR

Y NIWL

6 4 Golygydd

Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

Dylunydd

10 Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi.

Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

MARCHNATA Ellen Davies (hysbysebion@yselar.com)

Cyfranwyr

14

PUMP PERL

Dai Lloyd, Gwilym Dwyfor, Leusa Fflur, Dewi Snelson, Hefin Jones, Telor Roberts, Barry Chips, Casia Wiliam, Hefin Thomas

y Selar RHIFYN 20 . EBRILL . 2010

Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

3


S M Y B L A F A H C 10 U

Y FLWYDDYN

10. MEDINA – EITHA TAL FFRANCO (GWILYM DWYFOR)

Label : KlepDimTrep Rhyddhawyd : Mai Dyma ail albwm Eitha Tal Ffranco, ac yn wir eu holaf, gan i’r ddeuawd fach ryfedd a rhyfeddol o Gaernarfon wahanu’n fuan wedyn! Trist iawn, feri sad. Efallai ddim cweit cystal â’u halbwm gyntaf, Os Ti’n Ffosil, ond yn dangos yr un math o ddychymyg, hiwmor a chreadigrwydd sydd wedi dod yn nodwedd o’r band.

9. MELYS – CLINIGOL

Label : Rasp Rhyddhawyd : Mai Albwm gyntaf y ddeuawd ddawns-bop Geraint ac Aled Pickard. Yn sicr mae eu cerddoriaeth yn unigryw i’r sin Gymraeg, a sut allwch chi beidio â hoffi record sy’n cynnwys cameos gan Siwan Morris, Heather Jones, Cofi Bach a Margaret Williams. Dyma farn Dai Lloyd am Melys: “Un o’r albyms mwyaf ffres, trawiadol a gwahanol i ymddangos yn y Gymraeg ers rhai blynyddoedd - mae Clinigol yn wfftio clics ‘Bandit’ ag ati a dweud “ffwcio chi - ‘da ni yma am barti” a ‘sneb yn mynd i stopio nhw rhag mwynhau!”

4

yselar@live.co.uk

8. 9BACH – 9BACH

Label : Gwymon Rhyddhawyd : Awst Gwerin gyda gwahaniaeth. Dyma albwm ^ gyntaf prosiect Lisa Jên Brown a’i gw r Martin Hoyland ac mae hi’n hymdingar. Caneuon Cymreig traddodiadol a geir ar 9Bach, ond mae’r band yn rhoi gwedd newydd iddyn nhw gyda llais Lisa’n clymu’r cyfan yn gyfanwaith hyfryd. Casia Wiliam sy’n cloriannu: “Mae’r albwm yn torri tir newydd yn y SRG wrth gyfuno cerddoriaeth roc/ electroneg gyda hen alawon gwerin Cymreig. Mae’n syniad sy’n cyfuno’r hen ^ a’r newydd i greu sw n ffres ac unigryw. Mae hefyd yn braf gweld merch yn gwneud rhywbeth mentrus a diddorol yn lle sefyll ar lwyfan mewn sgert gwta yn canu am gariad neu adar neu rywbeth cyffelyb. Go 9bach!”

7. DOCFEISTR

Label : Anksmusik Rhyddhawyd : Rhagfyr O bosib, y prosiect mwyaf hirddisgwyliedig yn hanes cerddoriaeth Gymraeg, ac yn sicr un o’r mwyaf uchelgeisiol a welwyd. Mae’r albwm yn

cynnwys 34 o draciau, a chyfraniadau gan dros 50 o bobl yn amrywio o Gruff Rhys i Bryn Fôn i Mr Phormula. Mae hi’n ffin denau rhwng athrylith a gwallgofrwydd ond rhaid disgrifio babi Deian ap Rhisiart a Gruff Meredith fel epig! “Be’ ydi Flawed Masterpiece yn Gymraeg? Campwaith amherffaith. A’r clawr gore ers erioed.” Barry Chips (adolgiad yn rhifyn 19, Rhagfyr 2009)

6. CELWYDD GOLAU DYDD - BOB

Label : Sbrigyn Ymborth Rhyddhawyd : Awst Yn dilyn yn dynn ar sodlau eu sengl, Defaid (2005!!), rhyddhawyd albwm gyntaf y band poblogaidd o Benllyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Pync roc ar ei orau, a geiriau sy’n cyfleu neges bendant – dyma gasgliad o ganeuon sydd wedi bod yn boblogaidd yn eu set byw ers amser maith a braf eu gweld ar ddisg. “Erbyn yr ail drac mae synth ^ a distortion yn adeiladu gan greu sw n llawn, aeddfetach sy’n asio’n berffaith â thywyllwch y gerddoriaeth sy’n sylfaen i weddill yr albwm” Telor Roberts (adolygiad yn rhifyn 18, Awst 2009)


5. SAWL FFORDD ALLAN - AL LEWIS

Label : Rasal Rhyddhawyd : Gorffennaf Wedi cwpl o EPs bach digon da, dyma albwm llawn gyntaf Al Lewis. 10 o draciau bach digon hamddenol a neis iawn wedi eu cyfansoddi gan Al a’i gyfaill Arwel Lloyd. Albwm seml, gydag uchafbwyntiau’n cynnwys ‘cân yr haf 2009’, Lle Hoffwn Fod, a chameo gan Meic Stevens ar Gwenwyn. Mae Leusa Fflur yn ffan, “Mae’n neis cael albwm hawdd gwrando arni gan artist Cymraeg talentog sy’n gallu cynhyrchu rhywbeth da heb drio bod yn arbrofol.”

4. BYD BACH – FFLUR DAFYDD

^

2. OS MEWN SWN – HUW M

Label : Annibynnol Rhyddhawyd : Ebrill Huw M, neu Huw Meredydd Roberts i rai – cyn aelod o Ysbryd Chouchen / Chouchen, cynhyrchydd Radio Cymru a boi neis. Yn bwysicach oll, y brêns a ^ thalent tu ôl i Os Mewn Sw n – albwm ail-orau’r flwyddyn. Roedd hi’n flwyddyn hynod i Huw M yn rhyddhau albwm gwych, gigio llwyth a hyd yn oed ennill yr anrhydedd o ymddangos ar glawr rhifyn mis Mai o’r Selar! Mae Lisa Gwilym yn un sydd wrth ei bodd gyda’r albwm “caneuon hyfryd wedi eu trefnu yn gywrain - campwaith bendigedig”.

Label : Rasal Rhyddhawyd : Tachwedd Trydedd albwm y ffyncfeistres o Landysul, ac o bosib ei gorau hyd yn hyn hefyd. Albwm gysyniadol o fath, yn trin a thrafod y rhannau niferus o Gymru sydd wedi dylanwadu ar y groten benfelen. Mae’n ymddangos fod Fflur erbyn hyn yn ei ‘chyfnod gwyrdd’, gan fod ganddi ^ siaced fach newydd cw l o’r lliw hynny’n gwmni i’w halbwm newydd. “Os ‘da chi eisoes yn ffan, ‘da chi’n sicr o fwynhau hon - mae’n ein dal ac yn treiglo drwy dirlun ein gwlad…rhowch hi ar eich rhestr Sion Corn fory nesa a hop on.” Casia Wiliam (adolygiad yn rhifyn 19, Rhagfyr 2009)

3. HUD A LLEFRITH – MR HUW

Label : Copa Rhyddhawyd : Mawrth Ail albwm Mr Huw, yn dilyn Llond Lle o Hwrs a Lladron yn 2007. Hefin Jones sy’n egluro ei hapêl, “Bron yn ddirybudd mi blonciodd Mr Huw yr albwm wych hon ar Gymru fel petai wedi ploncio padell ffrio yn sgwâr ar ein hwyneb a throi ar ei sawdl dan chwerthin. Dadleuol, doniol a hynod ddyfeisgar, mae Hud a Llefrith yn ddathliad llwyr o greu ac agwedd ac yn dyrchafu Mr Huw i dir difrifol iawn, nid fod y dyn ofn uchder na dim arall. Albwm eithriadol.”

1. STONK! – DERWYDDON DR GONZO Label : Copa Rhyddhawyd : Gorffennaf Un arall hir ddisgwyliedig, ond gwerth disgwyl amdani! Bron i flwyddyn wedi’r dyddiad rhyddhau gwreiddiol, gwelodd Stonk! olau dydd o’r diwedd jyst mewn pryd i Steddfod Bala. Addas iawn efallai gan taw’r band 9 aelod gwallgof o Gaernarfon oedd prif fand yr Eisteddfod, gan headlinio gigs Cymdeithas yr Iaith ar y nos

Fercher a Maes-B ar y nos Sadwrn olaf. Cymysgedd o ganeuon hen a newydd sydd ar Stonk! ac mae’r ^ bois wedi llwyddo i ail-greu eu sw n byw ar y CD. “Dyma ni o’r diwedd albwm Derwyddon Dr Gonzo – a chewch chi mo’ch siomi! Cymysgedd o gerddoriaeth Ska, Afro-beat a funk... casgliad gwych o ganeuon.” Ceri Phillips (adolygiad yn rhifyn 18, Awst 2009).

5


SIWPYR

SYRFF

ND RYSAU HAWAIAIDD – MAE’R BA CH A DA IW RM BE S RT SIO H YN EIC SYRFFS YP DW D ... GAFAELWCH A AC YN CREU TONNAU MAWR! GWILYM CERDDORIAETH SYRFF CYMRAEG CYNTAF YM DWYFOR FU’N HOLI Y NIWL ... ^

Un o fandiau newydd mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd yw Y Niwl. Dim ond ers tua blwyddyn mae’r band wedi bod ar y sin ond mae’n debyg y bydd yr aelodau; Siôn Glyn, (bâs); Peter Richardson, (drymiau); Gruff ab Arwel, (gitâr ac organ) ac Alun Evans (gitâr) yn hen gyfarwydd i ffans y SRG, ond mwy am hynny yn nes ymlaen. Mae’r band yn eithaf unigryw yng Nghymru gan eu bod yn chwarae cerddoriaeth Syrff, a gan eu bod bellach wedi sefydlu eu hunain fel un o fandiau mwyaf diddorol Cymru mae 2010 yn argoeli i fod yn flwyddyn brysur i Y Niwl. Bûm i yn siarad â Gruff er mwyn holi mwy. Dwi ddim yn rhy hoff o gyfweliadau sy’n dechrau gyda, “o ble ddaeth yr enw”, ond yn yr achos hwn doeddwn i ddim yn gwybod ac roeddwn i yn wirioneddol chwilfrydig, felly er yn gyndyn o ofyn roedd yn rhaid i mi, a diddorol oedd darganfod fod cefndir yr enw yn eithaf niwlog ynddo’i hun! “Fe ddaeth yr enw i Tan Lan mewn breuddwyd yn ôl y sôn, does ‘na’r un ohonom ni yn licio gofyn gormod amdano fo.” Gofynnais wedyn i Gruff os yw ef yn hoff o niwl, (niwl go iawn hynny yw, dim ei fand ei hun!). “Yn ddigon eironig mi fuodd bron i fi gal crash ar y ffordd yn ôl o gig Y Niwl yng Nghaerdydd oherwydd niwl ar y ffordd ^ r os ydw i.” so dwi ddim cweit yn siw Soniais ynghynt bod aelodau Y Niwl i gyd yn gyfarwydd i ddilynwyr cerddoriaeth yng Nghymru. Mae hynny gan eu bod i gyd wedi bod, neu yn dal i fod yn aelodau o fandiau eraill. Wna’i ddim ceisio enwi pob un, ond i roi ryw

6

myspace.com/yniwl ?

fath o syniad i’r rhai ohonoch sydd heb ddyfalu’n barod, roedd Pete yn Gorky’s Zygotic Mynci a Topper, Siôn hefyd yn Topper, Gruff yn Eitha Tal Ffranco a byddwch yn adnabod Alun Evans yn well fel Alun Tan Lan. Nid yw hyn yn beth anghyffredin iawn mewn gwirionedd, ond mae’r band, serch hynny, wedi cael ei labelu gan ambell un fel supergroup Cymru. Ond tybed os oedd Gruff yn hapus â’r label honno? “Jyst band ydan ni rili, efo aelodau sydd wedi bod, ac yn dal i fod mewn bandiau eraill.” Mwy o gyd-ddigwyddiad naturiol felly nag ymdrech fwriadol i greu rhyw fath o superband. Efallai nad yw Y Niwl eisiau meddwl amdanynt eu hunain fel supergroup, ond does dim amheuaeth fod CV cerddorol y band yn creu argraff. Wrth sôn am fod yn super, gofynais i Gruff pwy fyddai’r gorau ganddo fod; Superman, Swperted, Superintendant i’r heddlu neu aelod o’r Super Furry Animals? Roedd ei ateb yn llawer mwy ffraeth na’r cwestiwn, “Am gwestiwn superficial”. Gofynnais wedyn pwy fyddai ei ddewis ef pe byddai’n cael creu Superband ei hun allan o unrhyw gerddorion o Gymru neu du hwnt. Ei ddewis oedd John

LLUNIAU: ANGHARAD BLYTHE

Cale, Maureen Tucker, Nico, Lou Reed a Sterling Morrison. Dim marciau am ddyfalu ei fod yn ffan o The Velvet Underground felly! Ac mae’n ymddangos mai syniad Gruff o superband yw’r band chwedlonol hwnnw o’r Efrog Newydd. Cerddoriaeth surf mae Y Niwl yn ei chwarae. Rhywbeth nad ydym wedi clywed llawer ohoni yng Nghymru


cyfweliad: yniwl

FYSA WELL GANDDO NI OS FYSA POBL YN SÔN AM Y CANEUON WRTH GANU NHW YN HYTRACH NAG EFO ENW!

o’r blaen. Math o gerddoriaeth a ddatblygodd ochr yn ochr â’r diwylliant syrffio yn America yn y 1960au ydyw, meddyliwch am The Shadows, meddyliwch am Dick Dale, meddyliwch am gerddoriaeth ffilmiau Quentin Tarantino (Pulp Fiction yn enwedig). Os ydych am wybod mwy syrffiwch draw at Wicipidia fel y gwnes i, (ecsgiws ddy pyn!).Teg fyddai dweud nad yw’r genre mor boblogaidd erbyn heddiw, ond mae’n debyg mai dyna un o’r rhesymau pam fod Y Niwl fel chwa o awyr iach ar y sin yng Nghymru ar hyn o bryd. Gofynnais i Gruff sut y daeth Y Niwl i fod yn fand Surf, oedd yna unrhyw ddylanwadau penodol? “Jysd cal y syniad i ddechra

band surf ar ôl bod yn jamio rili, a ’da ni gyd mewn i’r un math o fiwsig ond efo dylanwadau gwahanol gan bawb hefyd. Ma’ ’na lot o syrff, ond ma’ ’na lot o ddylanwad 60s garage hefyd.’ Yn bersonol, dwi ddim yn rhy hoff o roi label ar gerddoriaeth, y peth pwysig ydi fod o’n swnio’n dda, beth bynnag ydi o, a does ‘na’m dwywaith bod Y Niwl yn ticio’r bocs hwnnw. Yn amlwg mae aelodau’r band yn hoff o gerddoriaeth syrff, ond beth am syrffio? Gofynnais i Gruff os oedd rhai o aelodau’r band yn teimlo’n gartrefol ar y tonnau. “Ma’ Pete yn reit keen, ac mi oedd Tan Lan yn arfer bod tan iddo werthu ei surfboards. Ma’ Siôn a fi’n rhy ddiog.”

7


Cerddoriaeth offerynnol yn unig yw cerddoriaeth Y Niwl, ac mae hynny yn un o nodweddion y genre syrff. Ond ceir cerddoriaeth syrff gyda geiriau hefyd, ac mae’n debyg mai’r band syrff enwocaf erioed yw’r Beach Boys. Wnes i ddim gofyn i Gruff os oedd gan y Niwl unrhyw awydd bod fel y Beach Boys ond mi wnes i ofyn a oedd gan y band unrhyw fwriad o ychwanegu geiriau i’r gerddoriaeth yn y dyfodol. “Ma’ ein hegni ni i gyd yn mynd mewn i’r gerddoriaeth ar y funud, so am rw^ an ’da ni yn canolbwyntio ar fod yn offerynnol.” Na, am rw^ an felly, ond dim diystyru’r syniad yn llwyr ychwaith. Mae holl bwyslais Y Niwl ar yr offerynnau felly, a gwyddom ers dyddiau Eitha Tal Ffranco fod Gruff yn gallu troi ei law at amrywiaeth o offerynnau, ond ^ beth pe byddai ganddo’r pw er i wahardd unrhyw offeryn rhag cael ei ddefnyddio byth eto, pa offeryn neu offerynnau fyddai’r rheiny? “Pob un o offerynnau Gwibdaith Hen Frân.” - Gruff yn amlwg yn ffan mawr o’r yfwyr coffi tronsiog o Flaenau Ffestiniog felly! Mae enwau, neu yn hytrach diffyg enwau caneuon Y Niwl yn nodwedd reit ddifyr. Rhifau sydd arnynt yn hytrach nag enwau. Gofynnais i Gruff beth oedd y rheswm am hynny. “Wel achos fod ’na’m geiriau i’r caneuon, natho ni jysd rhifo nhw yn y drefn gatho nhw eu sgwennu.” Ond beth mae hynny yn ei olygu mewn gigs,

8

yselar@live.co.uk

sut beth yw set list Y Niwl meddyliais. Sut mae’r band yn mynd o gwmpas creu set list, oes ganddyn nhw ddeis neu beiriant peli bingo? “Da ni fel arfar yn cofio nhw trwy fynd ‘yr un dy-ny-ny-ny-nyyy’ so ma’r list o rifau ar y set list yn gallu bod yn confusing. Fysa well ganddo ni os fysa pobl yn sôn am y caneuon wrth ganu nhw yn hytrach nag efo enw!” Un peth sydd yn sicr - mae mwy a mwy o bobl yn sôn am ganeuon bachog y band, wrth i’w henw da dyfu gyda phob gig. Bydd llawer ohonoch wedi sylwi eu bod yn enw reit gyfarwydd ar bosteri Cymru dros y misoedd diwethaf. Mae’r band wedi bod yn gigio tipyn ac mae llawer o gigs i ddod dros y misoedd nesaf hefyd. Tybed sut mae’r gigs wedi bod yn mynd a beth yn union sydd ar y gweill yn y dyfodol agos? “Yn well ac yn well, ma’ ’na mini-taith o Gymru yn dechrau ar y 27 Chwefror yng Nghlwb Ifor Bach, wedyn ma’ ’na amryw o gigs yn popio fyny, ewch i www.myspace. com/yniwl am y gigs i gyd, a ymunwch ^ efo’r grw p facebook (shameless plug drosodd).” Ma gigio cymaint yn galw am gerbyd go ddibynadwy. Does ’na’m llawer o fandiau da heb fan go lew y tu ôl iddynt! Awgrymais wrth Gruff efallai y byddai Camperfan yn gweddu’r thema syrff. Tybed a oedd gan y band un, neu ddiddordeb mewn cael un? Cynnil ond cynhwysfawr oedd yr ateb! “Citroën ydi’r car o’n dewis.”

cyfweliad: yniwl

CITROËN YDI’R CAR O’N DEWIS.

Ond dim mewn gigs yn unig y gallwch chi glywed Y Niwl, maen nhw eisoes wedi rhyddhau EP ac mae mwy ar y ffordd. “Ma’ na EP tair cân allan yn barod, ar gael o Cob Records Bangor neu Spillers yng Nghaerdydd, a hefyd yn y gigs. Mae ‘na albwm ar y ffordd hefyd sydd ar fin cael ei gorffen felly gyda lwc fydd honno allan hefyd cyn bo hir!” Mae hynny’n sicr yn newydd da i garwyr cerddoriaeth Cymru, achos dyma fand ffres, gwahanol, cyffrous. Os nad ydych chi wedi yn barod, ewch i’r un o’r gigs, neu prynwch yr EP, chewch chi ddim mo’ch siomi. Pe bai angen mwy o anogaeth arnoch, ystyriwch y personél, dim supergroup efallai, ond yn sicr, pedwar cerddor profiadol, safonol.


^

GEIRIAU SY’N GYRRU’R GAN?

HEB OS, UN O’R CANEUON SYDD WEDI DERBYN LLAWER O AIRPLAY DROS Y DDEUDDEG MIS DIWETHAF YW ‘DERE MEWN’ GAN Y GRW P COLORAMA. DYMA NI GÂN FACH NEIS SYDD WASTAD YN GWNEUD I CHI DEIMLO’N GYNNES BRAF. OND BE UFFAR’ YDY YSTYR Y GEIRIAU? DYMA BRIF LEISYDD COLORAMA, CARWYN ELLIS, I EGLURO’N UNION HYNNY... ^

“Dwi’n ei gweld hi’n ddiddorol fod gymaint o ffyrdd gyda ni yn y Gymraeg i ddweud ‘dewch mewn’. Mae ‘tyrd i mewn’ gyda ni; ‘dos i mewn’; a ‘dere mewn’. Mae’n edrych yn debyg i mi bo ni’n licio

gwahodd pobl rownd i’r ty^ ! Eniwe, mae’r gân yma’n sôn am y pethau roedd fy Mamgu’n dweud trwy’r amser pan o’n i’n blentyn. A ‘dere mewn’ oedd y peth mwyaf cyffredin. Mae wastad croeso mawr gyda Mamgu. ‘Ti moin disied?’ ‘Ti moin rhywbeth i fyta’? ‘Ti’n ddigon twym’? Os oedd rhywun yn galw tra bod Mamgu’n brysur ochr draw’r ty^ , roedd hi’n gweiddi ‘dere mewn’ ar dop ei llais. Ac fe glywais i hi’n gweiddi ‘dere mewn’ filoedd o weithiau! Roedd hi’n ddynes prysur iawn. Felly ystyr y gân yma yw ... beth bynnag, bugger it - dere mewn a joiwch.” xC

9


GWOBRAU

Y SELAR 2009

FWY ELENI, MAE GWOBRAU Y SELAR YN FWY NAC ERIOED O’R BLAEN. YN UN PETH, MAE ‘NA O GATEGORÏAU, AC, AM Y TRO CYNTAF ERIOED, AGORWYD Y BLEIDLAIS I CHI’R CYHOEDD! DYMA’R CANLYNIADAU MAE PAWB WEDI BOD YN DISGWYL YN EIDDGAR AMDANYN NHW! CATEGORI: SENGL ORAU RHESTR FER: CACEN MAMGU / CAKE - RACE HORSES FEL HYN AM BYTH - YR ODS HUFEN IÂ – CLINIGOL

CATEGORI: CLAWR CD GORAU RHESTR FER: OS MEWN SWN - HUW M MEDINA – EITHA TAL FFRANCO MELYS – CLINIGOL ^

Enillydd: Fel Hyn am Byth – Yr Ods

CATEGORI: CÂN ORAU RHESTR FER: COLLI CYFLE - Y PROMATICS AR FY LLW – LLWYBR LLAETHOG FEL HYN AM BYTH – Y ODS Enillydd: Ar Fy Llw – Llwybr Llaethog

Mae’r Ods wedi cael blwyddyn wych, gan ennill lle yng nghystadleuaeth ‘Talent Newydd’ Glastonbury a pherfformio ^ yn yr w yl ei hun. Y sengl yma oedd yn gyfrifol am ennill lle iddyn nhw ar un o lwyfannau gw^ yl gerddorol enwocaf y DU.

Y chweched trac ar eu degfed halbwm, Chwaneg. Mae John a Kevs wedi bod wrthi’n cynhyrchu caneuon gwych ers 25 mlynedd bellach, ac mae’r wobr hon yn profi eu bod yn dal i wneud hynny i’r safon uchaf. Llais hyfryd Lleuwen sy’n rhoi sglein arbennig i’r gân gofiadwy yma.

Enillydd: Melys – Clinigol

CATEGORI: EP GORAU RHESTR FER: 100 DIWRNOD HEB LIW – Y PROMATICS CUDDIO’R CYSGODION – BYD DYDD SUL ENLLI – YUCATAN Enillydd: 100 Diwrnod Heb Liw – Y Promatics

Llongyfarchiadau i’r Promatics. Rhyddhawyd eu deunydd cyntaf, 100 Diwrnod Heb Liw, ar label Sbrigyn Ymborth yn Awst 2009 - mae traciau fel ‘Seisnigeiddio’ a’ Colli Cyfle’ yn sicrhau ei fod yn ffefryn, ac yn cipio gwobr EP Gorau’r flwyddyn.

10

yselar@live.co.uk

Mae Clinigol yn fand arall sydd wedi cael blwyddyn dda, ac wedi bod yn boblogaidd yn nifer o gategorïau, a nhw sy’n cipio teitl y ‘Clawr Gorau’ am glawr eu halbwm, Melys. Fan hufen iâ wedi parcio mewn dymp = winar pob tro!

CATEGORI: BAND NEWYDD GORAU RHESTR FER: MASTERS IN FRANCE Y BANDANA Y NIWL Enillwyr: Y Bandana

Top tip ‘Dau i’w Dilyn’ Selar Mawrth 2009. Mae Tomos, Sion, Robin a Gwilym wedi mynd o nerth i nerth eleni ac wedi sefydlu eu hunain fel un o dalentau ifanc mwyaf addawol y sin.

CATEGORI: DIGWYDDIAD BYW GORAU RHESTR FER: GWYL Y DYN GWYRDD MAES-B GWYL SWN ^

^

^

Enillydd: Maes-B

Roedd Steddfod Bala’n steddfod gofiadwy arall, a gigs Maes-B yn ganolog i’r holl fwrlwm.


CATEGORI: BAND GORAU RHESTR FER ... HIRACH!: SIBRYDION YR ODS RACE HORSES CLINIGOL DERWYDDON DR GONZO JEN JENIRO Enillydd: Sibrydion

CATEGORI: ARTIST UNIGOL GORAU RHESTR FER: EL PARISA MR PHORMULA HUW M

Categori poblogaidd o ran y pleidleisio, a hynny’n cyfiawnhau rhestr fer hirach. Gyda nifer o fandiau ‘mawr’ fel Frizbee a’r Genod Droog yn chwalu llynedd, mae’n gategori agored iawn hefyd. Sibrydion sy’n mynd â hi mewn categori agos iawn.

Enillydd: Huw M

Blwyddyn ryfeddol i Huw Meredith. Fe ddaeth yn agos iawn yn y categorïau Albwm Gorau a Chlawr Albwm Gorau, ac mae ei waith caled dros y flwyddyn wedi talu ar ei ganfed yn y categori hwn. Da’r ‘ogyn.

CATEGORI: DJ GORAU RHESTR FER: NIA MEDI VINYL VENDETTAS STEFFAN CRAVOS Enillydd: Nia Medi

Mae sioe C2 Nia Medi, gynt o’r Panics/ Johnny Panic, wedi dod yn un o rai mwyaf poblogaidd y gwasanaeth gyda gwrandawyr. Hi sy’n ennill y bleidlais ar gyfer DJ gorau’r flwyddyn.

CATEGORI: HYRWYDDWR GORAU RHESTR FER: DILWYN LLWYD DAI LLOYD GUTO BRYCHAN Enillydd: Dai Lloyd

Wrth ddathlu llwyddiant cerddorion, mae’n hawdd anghofio gwaith caled y bobl sy’n rhoi llwyfan iddyn nhw berfformio. Categori pwysig iawn felly, a gwaith diflino Dai Lloyd yn hyrwyddo cerddoriaeth yng Nghlwb Ifor Bach, Y Fuwch Goch a label Dockrad sy’n mynd â hi eleni.

CYTUNO I’R CARN NEU ANGHYTUNO’N LLWYR GYDA’R ENILLWYR? MAE’R SELAR EISIAU CLYWED EICH BARN. CYSYLLTWCH Â NI – YSELAR@LIVE.CO.UK 11


dau i’w dilyn

DAU I’W DILYN BL WAHANOL O GYMRU SY’N DAU FAND O DDAU BEGWN CW I’W DILYN YN Y RHIFYN HWN.

CAEL SYLW DAU

CRWYDRO Pwy: Band ifanc o Sir Fôn ydy Crwydro, a’r aelodau ydy Cai Pattison, prif Lais a gitâr rythm; Richard Holt, gitâr flaen; a Rhys Spens, drymiau a llais cefndir. Ffurfiwyd y band 3 aelod yn chweched dosbarth Ysgol Gyfun Llangefni tua Nadolig 2008 fel rhan o brosiect ‘bagloriaeth’ yr aelodau. Yn ôl Rich o’r band, bwriad y prosiect oedd “creu menter fach â’r nod o wneud elw.” Fe ddaeth y band i amlygrwydd gyntaf fel rhan o gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 Radio Cymru llynedd, gan ddod yn ail i Nevarro. Meddai Rich “un o’n ffans mwyaf ni ydy Glyn Wise – dydy o byth yn stopio’n canmol ni!” ^ Y sw n: Mae’r band yn dweud mai eu dylanwad cerddorol mwyaf ydy’r Stereophonics - “mi fysa ni’n lladd i gael y cyfle i gwrdd â nhw am sesh ... a chwara gig efo nhw’r noson wedyn wrth gwrs!” Yn sicr mae dylanwad y Kelly a’i fêts i’w weld

ar arddull eu cerddoriaeth, a hefyd bandiau Cymraeg fel Frizbee a’r Gogz / Heights. Mae llais y canwr, Cai, yn swnio fel cymysgedd o Kelly Jones ac Owain Ginsberg - yn hysgi ond pwerus. Yn wir, mae nifer o’u caneuon yn atgoffa dyn o stwff cynnar Frizbee - roc cyffrous gyda digon o agwedd. Dylanwad arall ar y bois ydy Oasis mae’n debyg, “mewn ffordd ‘attitude’ llu”. Hyd yn hyn: Mae Crwydro wedi cael blwyddyn brysur dros ben. Yn ogystal â chreu tipyn o argraff wrth ddod yn ail ym Mrwydr y Bandiau C2, maen nhw wedi chwarae yn agos i gant o gigs yn y flwyddyn ddiwethaf medde nhw. “Rydan ni wedi cyrraedd rhif 4 yn siart senglau Cob Records (Bangor) a rhif 9 yn siart C2 yn barod” meddai Rich “ma gennym ni gynllunia mawr ar gyfer 2010 yn cynnwys gigio lawr yng Nghaerdydd, ac o bosib fydd yna daith fach efo Mojo”. Da ni eisoes wedi clywed fod Glyn Wise yn un o ffans mwyaf y band, ond

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Frizbee, Gogz/Heights, Stereophonics

mae’n debyg fod nifer o ‘selebs’ eraill yn hoff ohonyn nhw hefyd, yn cynnwys Magi Dodd a Yws Gwynedd “mae Magi wrth ei bodd yn cyflwyno ni ar C2, a da ni di bod ar y radio am bob math o resymau - yn cynnwys setlo si ein bod ni am wahanu - doedda ni ddim! Mae Ywain Gwynedd wedi sortio fideo i’r trac ‘Bron yn Ddyn’ ar Uned 5 i ni.”

TRWBADOR Pwy: Prosiect diddorol iawn o dde-orllewin Cymru. Dau aelod sydd i Trwbador, sef Owain Gwilym (na, ddim yr un o ‘Owain a Dylan’ a ‘Jabas’ i’r rhai ohonoch chi sy’n ddigon hen i gofio Jabas) ac Angharad Van Rijswijk. Mae’r ddau’n dod yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin a meddai Owain “tua thair blynedd yn ôl symudais i i Gasnewydd i fynd i’r Brifysgol, ac yn ddiweddar symudodd Angharad i Gaerdydd a phenderfynom ni ddechrau ysgrifennu cerddoriaeth gyda’n gilydd”. ^ n: Mae’r band yn disgrifio eu hunain Y Sw fel “grw^ p pop ‘post-modern’.” Maen nhw newydd ryddhau EP dwyieithog (mwy am hwn nes mlaen) ac maen nhw’n rhestru Tunng, Cornelius a Mariee Sioux ymysg y bandiau sydd wedi dylanwadu ar eu recordiad cyntaf. Yn ôl Owain,

12

“y dylanwad mwyaf arna i ydy Gorky’s Zygotic Mynci ers i fy nhad brynu’r albwm Bwyd Time ar gasét wedi iddo fe’i glywed ‘e ar sioe John Peel yn hwyr rhyw noson ar y ffordd adref o’r

gwaith. Mae gen i bopeth maen nhw wedi gwneud erbyn hyn a dwi wedi bod yn gwrando arnyn nhw ers 16 mlynedd.” Mae elfen gref o electronica yn eu cerddoriaeth nhw hefyd, ac mae llais Angharad yn swnio’n gyfarwydd iawn rhywsut ... chydig bach fel Andrea o Melys ‘slawer dydd efallai. Hyd yn hyn: Mae Trwbador yn brosiect newydd iawn - dim ond ers rhai misoedd maen nhw gyda’i gilydd. Roedd eu gig gyntaf nhw yn y Karma Lounge yng Nghasnewydd ar 18 Chwefror ac yn ôl y band maen nhw’n “edrych am fwy o gyfleoedd i gigio yn y dyfodol agos”. Er eu bod nhw’n brosiect newydd, maen nhw wedi llwyddo i ryddhau EP yn barod. Mae ‘na glawr bach arbennig o neis i’r EP a chwech o draciau hyfryd hefyd - tair cân Gymraeg, a thair Saesneg.


y badell ffrio

Y BADELL

FFRIO

Barry Chips

www.myspace.com/crwydro

EWYLLYS DA DDIM DIGON DA

Cynlluniau: Yn y byr dymor, mae Crwydro’n bwriadu recordio albwm erbyn ^ yr haf “a gwneud yn siw r bod ni ar y map go iawn.” Byddan nhw’n mynd i ffwrdd i’r Brifysgol yn yr hydref, ond yn gobeithio cynnal eu ffans presennol. Maen nhw yn y broses o drefnu gigs yn rhai o brif leoliadau Cymru ac yn gobeithio cael slot

da ar lwyfan Maes B yn y Steddfod “da ni di chwarae ym Maes B o’r blaen, ond mewn Brwydr y Bandiau arall oedd hynny ... a da ni’m yn siarad lot am hwnna gan na gawsom ni unrhyw wobr!” Maen nhw hefyd newydd ryddhau eu EP, O Le i Le, a gafodd ei recordio yn stiwdio Ferlas gyda Rich Roberts - da ydy o hefyd!

www.myspace.com/trwbador Cynlluniau: Gan eu bod nhw bellach yn gigio, mae Trwbador yn chwilio am fwy o gyfleoedd i berfformio’n fyw. Yn ôl Owain maen nhw’n gobeithio ^ “chwarae mewn ambell w yl gerddorol dros yr haf ac ysgrifennu rhagor o ganeuon rydyn ni’n hapus gyda nhw.” Yn sicr dylen nhw fod yn hapus gyda’r caneuon maen nhw wedi ysgrifennu hyd yn hyn ac wele adolygiad o’r EP ar dudalen adolygiadau’r rhifyn hwn o’r Selar!

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Jakokoyak, Messner, Mariee Sioux

Sylwebydd Y Selar, Barry Chips, sy’n trafod y diffyg gigs rheolaidd ledled y wlad. Yn wahanol i lot o bethau’r bubble Cymraeg sy’n bodoli ar sybsidi, mae’r Sîn Roc yn dibynnu ar ewyllys da cnegwarth clodwiw o wirfoddolwyr. Heb bobol fel Dilwyn Yucatan yn trefnu gigs yn nhafarn y Morgan Lloyd, fyddai unrhyw beth yn digwydd yng Nghaernarfon? Mae’r boi yma’n cynnal y sîn yn ei amser sbâr. Pan fydd o’n rhoi’r gorau iddi, pwy ddaw yn ei le? Y pwynt ydi hyn: unigolion efo ymroddiad sy’n trefnu gigs, ac ar y funud - yn digwydd bod - mae un o’r rheiny i’w cael yng Nghaernarfon. Nid felly Bangor, Aberystwyth, Yr Wyddgrug, Caerffili ayb. Wrth edrych ar y busnes yma o sefydlu corff casglu breindaliadau annibynnol i Gymru, mae angen edrych o ddifri’ hefyd ar sefydlu Cylchdaith Gigio*. Be’ fflewj ydi Cylchdaith Gigio medda chi? Wel, yn syml, cyfres o lefydd i gynnal gigiau mewn saith neu wyth tref neu ddinas trwy Gymru. Dylid cael gig o leiaf bob mis yn y llefydd hyn, gyda swyddog rhan-gyflogedig yn trefnu’r arlwy. Rhwng y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, y Cynulliad Cenedlaethol ac Urdd Gobaith Cymru, dylai fod yna bres i wneud hyn. Ond mae angen i’r cerddorion a’r siwts ddod at ei gilydd i benderfynu’r llefydd gorau a sut i gael y bandiau yno a.y.b. Iawn, mae yna rai mentrau iaith fel un Merthyr Tudful sy’n trefnu gigs – ond mae angen cynllun call, pwrpasol i’w farchnata, fel bod pobol yn gwybod: ‘Dwi’n garantîd o gig yn fana ar y noson yna.’ Mae hyn wedyn yn gwneud yr holl sin yn fwy proffesiynol. Mae’n bodoli ar lawr gwlad ym mhob cwr o Gymru, nid mewn pocedi bach ynysig yng Nghaernarfon a Chaerdydd. Mi fydda hyn yn rhoi pres ym mhoced y bandia’, ac mi fyddai hi’n change mynd i Gasnewydd a Phowys am dro. Ydy hi wir yn ormod i ofyn bod myfyriwr yn cael rhyw £30 yr wsos i drefnu gigsan yn Aberystwyth? * hawlfraint: Patricia Thomas.

13


. . . l r e p pump

HEFIN

THOMAS MIWSÔS CYMRU. DDAW HI I GASGLIADAU RECORDIAU RHAI O PAN EDIG ENW YN R, SELA Y YN GYD I ES DY’N NI’N FUSN D MATTOIDZ, HEFIN AN SY’N TODDI CALONNAU FFANS BENYWAID JOCI DDISGIAU C2 A’R ROCAR O FFRYNTM Y RHIFYN HWN. THOMAS, SY’N DETHOL EI BUMP PERL I NI YN

JESS - HYFRYD I FOD YN FYW Hyfryd i Fod yn Fyw oedd yr albwm nath agor fy nghlustiau i gerddoriaeth roc Cymraeg. Ma gymaint o amrywiaeth arno - arddulliau gwahanol, harmoneiddio gwych, cyd-chwarae offerynnol tynn yn ogystal â geiriau da. Dwi’n dwlu ar agoriad yr albwm gydag ‘emyn’ byr - ‘Annwyl Dad’ yn dod i grescendo dramatig cyn ffrwydro i agoriad INXS-aidd ‘Ishe Mwy’, trac sy’n gosod safon uchel ar gyfer gweddill yr albwm. Yna daw ‘Pwy sy’n hapus?’ lle ma ^ n John gitâr Chris Lewis yn adleisio sw Squire tra bod llais Brychan Lly^r yn atgoffa fi o wylo melodig Morrisey ar ei orau. Trac lleisiol arall - ‘Ymgeleddwch’ - sy’n ein harwain ni at ‘Julia Gitâr’ sydd rywsut yn ^ cyfuno sw n Stone Roses cynnar gyda’r math o ganu rhythmig chi’n cal mewn Salm

14

TRA BOD LLAIS ^ BRYCHAN LLYR YN ATGOFFA FI O WYLO MELODIG MORRISEY AR EI ORAU.

yselar@live.co.uk

yn y Gymanfa! Ar ôl hynny ma’r safon yn parhau tan yr hyfryd werinol ‘Hyfryd i Fod yn Fyw’ a’r epig-ddoniol ‘Shigldi Bot’. Diweddglo teilwng yw ‘Glaw ’91’, sef un o’m hoff ganeuon i, a heb os, y middle-8 gorau yn y Gymraeg erioed. Ar hon ma Mike

Peters yn ymddangos - fel llais cefndirol!!! - sdim angen dweud mwy. Ma’n debyg fod Paris Hotel yn cael ei ystyried fel gwell albwm ond dwi heb ei chlywed erioed. Ma croeso i rywun ddanfon copi draw os oes un sbâr gyda chi!

JAKOKOYAK - AM CYFAN DY PETHAU PRYDFERTH Os fyddai fyth eisiau cyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i rywun dwi’n dueddol o droi at albwm gyntaf Jakokoyak. Ma’n albwm llawn steil, melodi a chynhyrchu effeithiol iawn fydd yn sefyll lan am flynyddoedd i ddod yn fy marn i. Os nath Jess neud i fi sylwi fod bandiau Cymraeg yn gallu sefyll ‘toe-to-toe’ gyda rhai rhyngwladol, nath Jakokoyak yr un peth i fi gyda cherddoriaeth electronig Gymraeg. Mae Jakokoyak yn artist sy’n creu cerddoriaeth cystal ag unrhyw un yn ei genre, gyda chaneuon fel ‘Murmur’, ‘Eiddil’ a ‘Paid â Gadael Nhw Dynnu fi Lawr’ yn gampweithiau. Ma’n albwm sy’n gweddu i unrhyw achlysur rhywsut (sy’n handi iawn ar gyfer rhaglenni radio!) gan ei bod ar yr un pryd yn hamddenol, yn felancolaidd ac yn obeithiol.


pump perl... PEARL JAM - TEN Anodd yw gadael albyms gan Nirvana, Foo Fighters a Queens of the Stone Age allan o’r pump yma ond dwi ddim yn credu fod gennai un albwm roc sydd yn dod â chymaint o deimladau gwahanol i’r wyneb na Ten gan Pearl Jam. Falle bod Nevermind yn

COFI BACH A TEW SHADY - CHWALFA Ok, llaw i fyny - dwi ddim yn arbenigwr hip-hop (peidiwch â chwerthin!). A dweud y gwir, ma’n nghasgliad hip-hop i di cyfyngu i lai na 20 o recordiau, a dwi’n cyfri tâp o ‘Informer’ gan Snow o 1992 o fewn rheini! Be dwi’n trial dweud yw bod angen i albwm hip-hop sefyll mas lot er mwyn iddi ymddangos yn fy mhump perl. Ma Chwalfa gan Cofi Bach a Tew Shady yn sefyll mas lot - o ran safon y rapio, y geiriau a’r cynhyrchu. Dwi wastad di teimlo nad yw’r ddeuawd o Gaernarfon ‘di cael y sylw y maen nhw’n haeddu er eu bod yn sgwennu tiwns bachog a chredadwy sydd yn cyfuno hiwmor a

fwy bachog, a Songs for the Deaf yn fwy cryno ond ma Ten yn llawn amrywiaeth o ganeuon emosiynol ac amrwd ac felly yn gweithio’n well fel cyfanwaith yn fy marn i. Yn ystod yr albwm ma Eddie Vedder yn llwyddo i swnio’n danllyd, yn obeithiol, yn drist, yn benderfynol ac yn grac da pawb a phopeth yn y byd - a hynny jyst ar y gân ‘Jeremy’! Hwn oedd yr albwm gynta i fi brynu ar CD, a nes i ei chwarae drosodd a throsodd gan gwympo mewn cariad gyda thraciau roc fel ‘Alive’, ‘Evenflow’ a ‘Porch’. Ma na adegau tynerach fel

‘Black’, ‘Garden’ a ‘Release’ sy’n llwyddo i greu teimladau hollol wahanol i’r ^ gwrandäwr, ac ma’ amrywiaeth sw n gitâr Stone Gossard o fewn pob cân yn creu sw^ n sydd yn ei gwneud hi’n hawdd anghofio eich bod yn gwrando ar bum ^ dyn mewn stiwdio gan fod y sw n mor fawr. Ma’r llun o’r band tu fewn y clawr yn wych hefyd ac yn llwyddo i greu darlun o’r band fel uned glos yn rhyfela yn erbyn y byd (yeah man!).

sylwadau craff am gymdeithas gydag ochr fwy tywyll. Ma caneuon fel ‘Can Am’, ‘4Wal’, ‘Gobzilla’, ‘Capten Cymru’ a ‘Chwilgi’ yn gwneud Chwalfa yn albwm fwy masnachol (a dwi’n golygu hynny mewn ffordd dda!) ac yn fwy hygyrch na’r rhan fwya o hip hop Cymraeg. Dwi’n credu fod nifer o bobl yn gweld Ni Oedd y Genod Droog fel yr albwm wnaeth weld hip-hop Cymraeg yn aeddfedu ac ehangu ei apêl i gynulleidfa ehangach, ond dwi’n credu fod Chwalfa wedi llwyddo i wneud hynny ddwy flynedd ynghynt - jyst fod llai o bobl wedi sylwi!

Plastic Trees’ ma na felodïau byse U2 yn lladd i gael gafael arnynt, tra bod ‘Just’ yn dangos fod lot mwy i gerddoriaeth ‘trwm’ na distortion, double-kick pedal a sgrechian. Nath The Bends ddod allan pan oedd Britpop yn ei anterth ac felly mae cryfder yr albwm yn glir o’r ffaith ei bod wedi llwyddo er gwaetha’r ffaith ^ nad oedd y sw n yma yn ffasiynol ar y pryd. Ma cymaint o fandiau wedi ceisio efelychu’r sw^ n yma ers The Bends ac yn dal i fethu (Editors - plis rhowch lan), tra bod Radiohead wedi hen symud mlaen i greu cerddoriaeth fydd rhywun doethach (ac iau) na fi yn clodfori ymhen 15 mlynedd arall.

RADIOHEAD - THE BENDS

O ystyried y siwrnai arbrofol gerddorol ma Radiohead wedi cymryd dros y pymtheg mlynedd diwethaf, ymddengys taw damwain ym 1995 oedd cyfansoddi albwm o diwns melodaidd perffaith fel y rheini sydd ar The Bends. Eu trydydd halbwm, OK Computer, sydd yn cael ei gweld fel uchafbwynt eu gyrfa ond i fi ma’r 49 munud sy’n dechrau gyda chordiau agoriadol gofodaidd ‘Planet Telex’ tan ddiweddglo ‘blew ar gefn eich gwddf’ ‘Street Spirit’ yn codi’r bar i unrhyw fand roc ddilyn. Ar ‘High and Dry’ a ‘Fake

15


^

TRWBADOR Daw EP cyntaf y ddeuawd o Gaerfyrddin mewn câs papur-reis deniadol, a’r CD ei hun wedi ei chreu i edrych fel record fechan. Mae tair o’r chwe chân wedi eu henwi’n Gymraeg - ond prin yw’r geiriau Cymraeg mewn gwirionedd. Prin i ddweud y gwir yw geiriau’n gyffredinol ar yr EP - mae dwy gân yn ddi-eiriau ac yn gymysgfa o rythmau peiriannol, synau electronig a melodïau acwstig breuddwydiol. Mae’r gân gynta’, ‘Shapes’, yn popi iawn - â llais merch Estellaidd yn canu i riffs hafaidd. Y gitâr acwstig ydi canolbwynt yr holl draciau, ond mae’n gymysg â steil electronica sy’n ychwanegu hint o Imogen Heap i’r gerddoriaeth. Mae’r gerddoriaeth yn syml, yn fimimalistig, hyd yn oed yn boring ar adegau. Ond mae’r gân ‘Little Lights’ yn dod â llais yr hogan allan yn anhygoel gan droi’r undonedd yn rhywbeth cyfareddol o chilled out. Mae’r EP yn gorffen efo cân sy’n ail-adrodd y geiriau ‘Mae Pawb ar Gyffuriau’ efo effeithiau llais electronaidd a synau tylwyth tegaidd yn gyfeiliant. Dyna esbonio’r teimlad rhyfedd a laid-back sydd i gyfanwaith Trwbador, efallai. 6/10 LEUSA FFLUR

datganoli. “Moesoldeb cocên, Sosialwyr shampên, gwleidyddiaeth blastig, dadlau diabetig” sy’n ei chael hi, gydag ‘Agor Drysau’ yn ddarlun shabi a sleazy o “Anger is an energy” meddai Johnny aelodau ein Cynulliad Cenedlaethol. Ar Rotten ar y gân ‘Rise’ gan Public Image adeg dathlu deg mlynedd datganoli mae’r Limited ym 1986. Fel y gwyddoch bawb, Twmffat wedi ei ddadrithio’n llwyr, ac cyfeirio’r oedd J.R. at annhegwch mae’r disconnect rhwng y sefyllfa ar lawr apartheid yn Ne Affrica lle’r oedd y dyn gwlad, a’r adroddiadau newyddion ar y du yn cael ei drin yn eilradd. A’r haves a’r teledu yn fyw o’r Senedd, yn amlwg have-nots sy’n mynd â bryd Twmffat wedi ei gythruddo. (Ceri Cunnington) ar ei gasgliad ‘Mae gan Brydain dalent’ ydi D I cyntaf o ganeuon solo. RHA uchafbwynt doniol yr albwm, Fel arweinydd y Sex Pistols gynt, NDO gyda’r canwr yn pendilio rhwng A R W G mae cyn-ffryntman Anweledig teimlo i’r byw am bethau, a methu wedi mynd yn greadur diddorol malio blewyn bolsan am ddim byd iawn ers gadael y prif-lif. Wrth gwrs na neb. Mae’r gân cystal ag unrhyw ei fod o’n swnio’n hunangyfiawn, yn beth o stabal David R. Edwards, wrth rhuo fel llew wrth restru beiau lu Cymru. i’r masons, y BNP, plebs y we a Phlaid Ond mae’n ddigon effro i osgoi pregeth Cymru gael eu gwasgu’n ddiseremoni ddiflas neu hunan-barodi. Ac mae o drwy’r Twmffat. wedi denu cerddorion dawnus i gynnal y Ond nid, NID, darllediad gwleidyddol ydi weledigaeth, sydd wastad yn help. Myfyrdodau Pen Wy. Yn hytrach mae’n Ar ‘Tre’r Bedol’ mae’n cymharu ymosodiad hynod bleserus ar yr elît grantiau’r awdurdodau i gyffur hunanbwysig, hunanbenodedig, hollalluogbrown sy’n cadw’r werin yn ei lle, yn hollwybodus ... fel bywyd ei hun, mae’n llywaeth-ddiolchgar am gael bodoli. chwerw ac yn felys, yn bleserus ac yn Swnio fel hefi shit yntydi ... ond mae’r boenus ... yn brawf gogoneddus bod rhyw diwn Anweledigaidd yn ‘sgafnu cryn ddaioni mewn gwylltio’n gacwn a chicio yn dipyn ar faich y neges. Tra bo’r consensws erbyn y tresi. Anger is an energy yn wir. clyd yn cael rhwydd hynt i brifio a thyfu adenydd lawr yn y Cynulliad, draw ym Mlaenau Ffestiniog mae’r Twmffat yn dal 10/10 blowtorch dros breifats breuddwyd wlyb BARRY CHIPS

MYFYRDODAU PEN W Y HUNANGYFIAWN TWMFFAT

AMSER AM UN GÂN ARALL... RASAL Dyma gompileiddiad i ddathlu pen-blwydd is-label Cwmni Recordiau Sain, sef Rasal, yn bump oed. I gymhlethu pethau, mae yma ganeuon sy’n perthyn i is-labeli Rasal, Copa a Gwymon. Ydy Copa yn sub-is-label Sain felly? Pam bod angen tri label mewn difrif calon? Ta waeth, mae’r casgliad yma’n destament i waith clodwiw Sain wrth roi llwyfan i hufen y Sîn Rhoc Gymraeg ... ag ambell wrech wlyb wrth reswm. Does neb yn berffaith. Rhyfedd gweld fod Dyfrig Topper wedi chwarae pob offeryn ar ei anthem brad-felys ‘Gwas y Diafol’, ac mai dim ond fel ‘llais cefndir’ mae Gwyneth Glyn yn cael credyd am ei deuawd gyda Derwyddon Dr Gonzo. Afraid dweud bod cyfraniad

16

^

Gwyneth i ‘Bwthyn’ yn allweddol, amlwg ac yn bell o fod yn bapur wal cefndirol. Mae gwrando eto ar ‘Byw’ gan Anweledig yn gwneud i rywun sylweddoli mai da o beth oedd torri’r parti yn ei flas a gadael i Gai, Rhys a Ceri bori mewn porfeydd brasach. Rhaid canmol Guto Brychan am gymryd pynt ar Mr Huw, sydd wedi talu ar ei ganfed. Kudos i Copa. Da yw Mr Huw. Ond er gwaethaf presenoldeb ‘Be Di Be’ MC Mabon a ‘Fel hyn am byth’ Yr Ods, bach yn ddof i fy maled cerddorol ydyw lot o’r stwff yma. Ond ellith neb ddadlau efo llwyddiant Sibrydion, Gwibdaith Hen Frân a Daniel Lloyd a Mr Pinc. Beth ar wyneb daear fydda Radio Cymru yn chwarae fel arall? 5/10 BARRY CHIPS


adolygiadau O LE I LE CRWYDRO Daeth Crwydro i amlygrwydd gyntaf yng Nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 llynedd. Colli allan i Nevarro yn y ffeinal fu eu hanes, ond mae’r EP yma’n well ymgais nag un cyntaf Nevarro a ryddhawyd llynedd. Tri aelod sydd yn Crwydro, ond maen nhw’n llwyddo i greu digon o dwrw yn y stiwdio. Mae dylanwad eu cynhyrchydd Rich Roberts (Gola Ola a Y Rei) yn amlwg iawn ar yr EP, a dio ddim wedi gwneud job rhy ddrwg o gwbl

Y BETTI GALWS Mae rhai pethau’n anochel. Rhaglen John ac Alun yn chwarae cân gan John ac Alun. Nicklas Bendtner yn baglu dros y bêl wrth fethu canfod chwaraewr Arsenal. Bodau arallfydol yn ymweld â Thorïaid blaenllaw Lloegr wrth hofran uwchlaw eu tai mewn UFO’s anferth. Yr hyn sydd bell o fod yn anochel ydi band newydd Cymraeg o Ferthyr Tudful, ond wele’r union ffenomena hynny yn ffurf Y Betti Galws, sy’n rhyddhau sengl tair trac o’u sesiynau C2. Wedi eu gweld yn y

yn rhoi polish i’r rocars ifanc. Heb os, indie-roc gyda lot o gitâr ydy’r unig ffordd i ddisgrifio’r gerddoriaeth – ar adegau bydde chi’n taeru eich bod yn gwrando ar Frizbee neu’r Heights. Mae’r un trac acwstig, ‘Mali’, yn egwyl fach braf cyn yr uchafbwynt o drac olaf ‘Dieithryn Cudd’. Tydi’r EP ddim yn berffaith o bell ffordd cofiwch. Mae’r geiriau’n gallu bod yn naïf iawn gan fradychu ieuenctid yr aelodau, ond mae digon o amser ganddyn nhw i weithio ar hynny. 6/10 OWAIN S

cig nid yw’r profiad wrth wrando ar y sengl yr un fath, ac wrth gwrs does dim yn bod ar hynny. Nid yn waeth o reidrwydd, gan fod rhaid crybwyll hefyd fod cynhyrchu arbennig o dda gan Curig Hughes, glanweithdra’r traciau a chyfoeth y ^ n yn benigamp. Un sw peth sy’n anoddach i’w gael ar record na mewn gig yw’r hwyl, ac er bod y sengl yn llwyddo i raddau mi ddylech weld Y Betti Galws yn fyw i’w profi’n eu cynefin naturiol. Byddai rhywun diog yn eu cymharu i fersiwn Cymraeg o The Commitments, ond gyda’r gwahaniaeth hollbwysig

SWIGOD CLINIGOL Doeddwn i erioed wedi clywed Clinigol o’r blaen a ddim wir yn gwybod beth i ddisgwyl a chefais fy siomi ar yr ochr orau wrth i’r gân gyntaf ddechrau. Dyw arddull dawns ‘Swigod’ ddim yn unrhyw beth newydd, ond mae ganddi alaw fachog, fywiog sy’n aros yn y cof, sydd ddim yn beth gwael. Wedi’r dechrau bywiog mae gweddill yr EP yn gymysgedd tywyllach o ddawns a rap ond dwi’n teimlo trueni braidd bod llawer o’r llinellau bas gritty (‘Oh My Days’ a ‘Gwertha dy Hun’ yn enwedig) yn cael eu boddi gan y cynhyrchu, sydd ar wahân i hyn o safon uchel. I gloi ceir un gân arbrofol sy’n swnio’n debycach i stwff PSI a dwy gân piano a llais

o ganeuon gwreiddiol a, gobeithio, llai o ffraeo. Mae’r amrywiaeth o’r elfennau pwerus (Cig a Gwaed), soul (Tro ar ôl Tro) a swing (123 ‘to) yn gwneud dechreuad caboledig, proffesiynol i ddiscographi Y Betti Galws, sy’n argoeli’n dda am yr albwm yr addewir i’r haf.

ATEBION CWIS POP IFAN ‘ELFIS’ IFANS

Wedi clywed pwy oedd aelodau Y Niwl roeddwn yn awchu i glywed yr EP yma. Mae CV y pedwar aelod, sef Sion Glyn, Peter Richardson, Gruff ab Arwel a Alun Evans, fel darllen rhestr o fandiau gorau’r Sin Roc Gymraeg dros y ddegawd a mwy diwethaf. Cerddoriaeth Syrff fysa’r ffordd syml o ddisgrifio’r gerddoriaeth yma. Tair cân sydd ar yr EP sef ‘Un’, ‘Dau’ a ‘Tri’. Caneuon offerynnol ydy’r dair sydd yn mynd yn ôl at wreiddiau cerddoriaeth Syrff. O nodyn cyntaf ‘Un’ ceir y teimlad yna o fod yn rhan o oes aur y genre yn y 60au. Mae ‘Dau’ yn arafach ac ychydig yn dywyllach na ‘Un’, ond i mi y gân orau ydy ‘Tri’. Mae’r organ yn y gân yma yn wych ac yn creu teimlad seicadelig wrth geisio cystadlu gyda’r gitâr. Does yna ddim byd chwyldroadol am y gerddoriaeth, ond mae Y Niwl wedi llwyddo i ddal teimlad y cyfnod. Heb os mae’n ychwanegiad i’r Sin ac rwy’n edrych ymlaen at noson braf o haf yn gwrando ar y band yn chwarae’n fyw wrth i’r haul fynd i lawr. 7/10 DEWI SNELSON

6.5/10 HEFIN JONES

hyfryd dros gefndir electronig cynnil. Dwi’n credu byddai ‘Dim ond Ti’ Sydd ar Ôl’ yn well o chwarae piano mwy clasurol na’r samplo linellau unigol a geir fodd bynnag. Mae’r EP yn un sy’n swnio’n dda a lefel y cynhyrchu yn uchel iawn ond mae’n un sy’n hawdd colli diddordeb ynddi gan nad oes alawon neu eiriau yn codi uwchlaw cyfanwaith ‘Swigod’. Mae’r casgliad o ganeuon hefyd yn rhyfedd gan nad yw Clinigol fel petai nhw’n ^ siw r pa fath o gerddoriaeth maen nhw’n ceisio creu, gyda phop ‘Swigod’, y rapio, y baledi ar y diwedd, a’r arbrofi yn tueddu i golli cyfeiriad a throi’n gerddoriaeth gefndir. EP gan gynhyrchwyr ac nid cyfansoddwyr caneuon efallai. 7/10 TELOR ROBERTS

Y NIWL

NOFEL NEWYDD

Angharad Price £8.95

yn feiddgar “Y G’narfon gyfoes - wedi ei pheintio r” o liwgar - rhwng dau glaw Angharad Tomos

Yn y siopau nawr! Holl lyfrau newydd y Lolfa yn www.ylolfa.com

1 Alcatraz 2 Kerry Walters 3 Cernyweg 4 Y Fenni 5 Duffy

17


NEFOEDD MEWN NYTH YNG NGHANOL METROPOLITAN OER A LLWYD CAERDYDD (OK, GOR-DDWEUD EFALLAI - GOL) MAE ‘NA LETY CLYD I ADAR Y NOS ... NEU EFALLAI Y BYDDAI ‘NYTH CLYD’ ^ YN WELL DISGRIFIAD. GW-DI-HW YDY’R LLETY HWNNW, A NYTH @ ^ GW-DI-HW YDY ENW’R NOSON GERDDOROL SY’N TYNNU MIWSÔS Y BRIFDDINAS YNGHYD YN FISOL ERS BLWYDDYN BELLACH. MAE CASIA WILIAM YN UN O’R SELOGION ...

Nefoedd yr adar! Mae’n anodd coelio bod blwyddyn bellach ers i un nos Fawrth y mis droi o fod yn noson swatio ar y soffa i noson swatio yn y nyth. ‘Cyw bach’ Alun Gaffey oedd nyth yn wreiddiol - ei weledigaeth o oedd cynnal gigs am ddim mewn awyrgylch cysurus a chlyd ganol ‘rwsos. Ond, wedi iddo fudo i’r Gogledd roedd gofyn am rywun arall i afael yn yr awenau, a bellach mae ‘na bump wrth y llyw, sef Gwyn Eiddior Parry, Ciron Gruffydd, Dafydd Meurig, Gwion Schiavone a Dafydd Owain. A chwarae teg i’r ’hen ’ogia, maen nhw’n gwneud joban dda iawn ohoni. Wrth gerdded i mewn i far ^ Gw-di-hw ar Guilford Crescent am y tro cyntaf (sef cartref

HIT Y GWANWYN! Y SODA MEN TYLLAU YN Y CYMYLAU

Yn eich siop leol a trwy wefan Fflach www.fflach.co.uk hefyd ar iTunes Llys-y-Coed, Heol Dinbych-y-Pysgod, Aberteifi SA43 3AH   info@fflach.co.uk  (01239) 614691

18 18

?

nyth) fyddech chi ddim ar fai am feddwl eich bod wedi cerdded i mewn i barlwr eich nain. Mae’r ystafell yn glytwaith o ledr coch, ffyn, ornaments a chacennau. Ac yn wir, mae’r lle yn gwallgofi fwy fyth ar noson nyth, gyda’r ategiad o oleuadau bach tylwyth teg blithdraphlith a theganau dolffins ac eliffantod yma ac acw. Roedd noson ddathlu pen-blwydd y nyth yn flwydd oed yn gam pellach eto fyth, wrth i’r byrddau droi’n ffatrïoedd gwneud hetiau, gyda bybyls, chwibanau a ^ balw ns yn llenwi’r lle. Roedd y noson fel ail-blentyndod mawr meddwol (mwy am hyn yn y funud…)! Canolbwynt y noson bob mis ydi’r gerddoriaeth fyw, ac er nad ydi’r gigs am ddim bellach (roedd hynny’n rhan o’r apêl mae’n rhaid cyfadda’, ^ ond eto, mae’n siw r bod angen pres o rywle i brynu bybyls a ^ balw ns a ballu...) dydi rhywun ddim yn gwarafun talu tair punt gan fod y line-ups wastad yn amrywiol a diddorol. Mi fyddai’n hawdd parablu am oriau am yr holl fandiau sydd wedi chwarae yno, yn wir, mae’n debyg y byddai modd llenwi’r Selar o glawr i glawr efo’r straeon, ond go brin gai get-awe efo hynny felly dwi wedi holi rhai o ffyddloniaid nyth am eu goreuon nhw, ac mi gychwynnaf efo fy ffefryn i. Y dyddiad: 10 Tachwedd 2009. Y line-up: Alex Dingley, Iwan Huws, Griff/Gruff a H.Hawkline (a dau syrpreis). Rhaid i mi gyfadda’ nad ydw i’n cofio H.Hawkline rhywbeth i wneud efo’r Peroni hyfryd na sydd ar bwmp wrth y bar a gafodd i yfad braidd yn sydyn a’r holl sgwrsio - ond ar ôl sadio rhyw fymryn ac ymgartrefu ar y soffa goch mi gefais wledd glywedol. Roedd Mr Alun Gaffey wedi dod am dro i weld sut siâp oedd ar y nyth ers iddo adael, a chawsom y pleser o’i glywed yn perfformio. Wrth ddefnyddio ‘four-track’ roedd

^ n Gaffey yn llwyddo i greu sw cyfoethog ac iasol ac yn hawlio sylw’r dofr. Nesa daeth Alex Dingley i foddi twrw’r gynulleidfa gyffrous gyda’i gerddoriaeth pync/rocaidd trwm, ac Iwan Huws ddaeth i’w ddilyn yntau gan ein swyno ni oll gyda’i gitâr acwstig a’i lais dwfn yn canu hen alawon gwerin - roedd ei fersiwn o ‘Dwy Law yn Erfyn’ yn ddigon i godi blew eich breichiau! Dyma enghraifft berffaith o sut mae nyth yn llwyddo i gyfuno pob math o gerddoriaeth i greu melys-gybolfa gerddorol sy’n sicrhau fod rhywbeth at ddant pawb. Yn ‘head-leinio’ roedd Griff a Gruff o’r Ods. Cawsom berfformiad bywiog a bachog fel sydd wastad i’w gael gan y Gru/iffs, ac roedd brigau’r nyth yn crynu wrth i bawb gyd-ganu ‘Fel Hyn am Byth’. A minnau’n meddwl bod ’na ddigon o Beroni wedi ei yfed a’i bod yn tynnu at amser mynd adra cawsom syrpreis yn siâp Ed Holden. Dyma gwestiwn i chi - sut mae tawelu llond tafarn o bobl feddw? Rhoi meicroffon i Mr Phormula a gofyn iddo am ychydig o freestyling-beat-boxing… un gair - gwefreiddiol. Hwn oedd fy nyth cynta’ i, ac ys dywed y Sais - ‘ai nefyr lwc’d bac’.


Cwis pop

Ifan'Elfis'Ifans

Yffach! Blydi eira ‘n bobman yn ddiweddar. Es i’n styc wrth drio dianc o ddisgo ‘merched yn unig’ yn Llanfair Clydogau mis dwetha’. Y ffôr bai ffôr yn sleido dros bob man wrth i ferched yr ardal chaso fi ffwrdd. Shwt on i fod gwbod taw dim ond caneuon gan ferched oedden nhw ishe? Wel, ar ôl Whitney Houston, Gloria Gaynor a Heather Jones goffes i ‘improviso’ gyda George Michael, Boy George a ‘Cop Rap’ PC Leslie Wynne - wel, digon agos i ferched ond ‘y nhw??!

JEIFIO TAN AMSER CAU

Uchafbwynt sawl un oedd gig y Sibrydion. Set gwbl acwstig oedd hon a’r farn unfrydol oedd bod hynny yn gweddu i naws glyd y noson yn well na band llawn. Dwi’n meddwl ei bod yn saff i mi ddweud fod y band wedi mwynhau gymaint â’r gynulleidfa - tydw i erioed yn fy mywyd wedi gweld aelodau band yn gwenu gymaint ar ei gilydd yn ystod eu perfformiad, ac yn ôl Dafydd Nant (drymiwr y Sibrydion) hon oedd un o’i hoff gigs erioed! Wedi hyn oll, yn geiriosen ar y gacen, cafwyd set anhygoel ar y decks gan yr hen sdejars nad ant fyth yn hen - y Llwybr Llaethog. Roedd esgidiau dawnsio pawb am eu traed a bu jeifio tan amser cau!

PARTI PEN-BLWYDD

Roedd pen-blwydd pwysig nos Fawrth 9 Chwefror a bu hymdingar o barti wrth i’r nyth

ddathlu ei ben-blwydd yn flwydd. Fel y soniais ynghynt, roedd y noson yn chwyrligwgan o deganau a difyrrwch, a llwyddiant mawr oedd cael yr holl dafarn i chwarae ‘pass-the-parcel’ (ym mhle arall, ar wyneb y ddaear, fasa hyn yn digwydd?!)! Ond unwaith eto, uchafbwynt y noson oedd y gerddoriaeth. Agorwyd y noson gan Y Gwyddel ac roedd ei ddoniau ar y gitâr yn creu awyrgylch croesawgar wrth i’r nyth brysur lenwi. Nesaf oedd y Creision Hud, a chafwyd set broffesiynol a gafaelgar gan y cerddorion ifanc - gyda cover penigamp o ‘Little Lion Man’ y Mumford and Sons. Ac i gloi’r noson daeth Jen Jeniro i lenwi’r llwyfan gyda’u caneuon sy’n gwehyddu sain gwahanol i greu cerddoriaeth gyfoethog ac egnïol gan blesio’r dorf gyda chyfuniad o ganeuon hen a newydd.

MUDO DROS DRO Un o’r pethau gorau am nyth ydi’r ffaith ei fod wastad yn ffres a mentrus. Enghraifft o hyn oedd trip ‘nyth’ i’r ‘North’ dros y Nadolig. Cafwyd cartref newydd i’r nyth am noson yn nhafarn Ty Newydd, Sarn Mellteyrn. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol, wrth i ‘Rob a’i Rippars’ lwyddo i gael ‘mosh-pit’ yn nhy Newydd am y tro cyntaf erioed dybiwn i. A bydd y Nyth yn mentro ar grwydr unwaith eto cyn bo’ hir, ond ddim cweit mor bell y tro hwn! Estynnwch eich sbectols haul yn barod erbyn Mai 30 a dewch am dro i Nythu Tu Allan ^ yng nghefn y Gw-di-hw - dwi’n sicr na chewch eich siomi, ond os na fedrwch chi aros tan hynny mae’r gig nesaf ar 13 Ebrill. Welai chi yno!

Still, fi dal yn banned o’r Black Lion Llambed am y noson Elfis Careoke takeover - uh-huh! 102 gan Elfis bac-to-bac. Aeth ‘e ddim lawr yn dda, so Ivy Bush i fi o hyn ymlaen. O’n i yna nosweth o’r blaen a throdd y sgwrs i ferched, fel mae fe’n dueddol o wneud, a phawb yn sôn am eu hoff ferched mewn miwsig. Wel, fi’n gwbod nad yw Vera Lynn, ‘our Shirl’ neu Cerys Matthews cweit yn pêj thrî models erbyn hyn, ond dyma gwpl o gwestiyne aeth lawr yn dda yn yr Ivy Bush. Gobitho gwnewch chi’n well ‘na nhw fynna. 1 Gyda pa fand torrodd Cate Le Bon trwodd yn y Sin Cymraeg? 2 Beth yw enw iawn “Cofi Bach”? 3 Pa iaith Geltaidd arall mae Gwenno Saunders (The Pipettes, Gwenno) yn siarad?

4 O ba dref yng Nghymru y daw Marina Lambrini Diamandis – o’r band Marina and the Diamonds? 5 Heblaw am Mary Hopkin, Bonnie Tyler a Shirley Bassey pwy yw’r unig artist benywaidd o Gymru i gyrraedd brig y siartiau ym Mhrydain?

^

^

Ffwoar! Ar ôl yr holl siarad secsi yna – ‘wi off gatre – Winnie! Love me ^ r tender!! It’s now or nefer! Nefer siw o fod. Reit lle mae’r Elfis DVD o ‘Girls Girls Girls’ ?!? Atebtion ar dudalen 17

19


Yn Dechrau Nos Fawrth 2 Mawrth s4c.co.uk/pethe

?


Y Selar - rhifyn 20 Ebrill 2010