Y Selar - Hydref 2020

Page 24

Dwi isio bod yn... Ag yntau’n un o gerddorion ‘pop’ cyfoes cynnar Cymru ar ddiwedd y 1960au, fe adawodd Huw Jones ei farc ar hanes y sin gerddoriaeth Gymraeg gyda’i gân brotest enwog, ‘Dŵr’, ac fel un o sylfaenwyr cwmni Recordiau Sain. Cyhoeddwyd ei hunangofiant gan wasg Y Lolfa ym mis Hydref, a dyma ambell gymal difyr i roi blas i chi.

Pinaclau Pop Pontrhydfendigaid Tua diwedd y 1960au y dechreuwyd clywed y term ‘y byd pop Cymraeg’ am y tro cyntaf ond yn fy meddwl i, fe anwyd y byd pop Cymraeg yn swyddogol ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ym mis Gorffennaf 1968... Mae Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn adeilad anferth, wedi’i godi gan Syr David James i hyrwyddo eisteddfodau’r ardal. Yn 1968 roedd yn dal rhyw dair mil o bobl ac ar y 29ain o Fehefin roedd pob tocyn wedi’i werthu. Mae’r poster ar gyfer Pinaclau Pop Pontrhydfendigaid 1968 yn glasur hanner seicedelig gyda’r enwau mawr fel Dafydd Iwan, Y Pelydrau a Hogia Llandegai ar y top, ac ambell i enw llai adnabyddus ar gynffon y rhestr. Cyn bo hir, dyma sylwi ar sŵn anhygoel oedd yn dod o’r gynulleidfa – ymateb ar raddfa hollol wahanol i unrhyw beth oedd wedi cael ei glywed cynt. A dweud y gwir, roedd y gynulleidfa’n mynd yn boncyrs. Dyma fi’n troi’n ôl at ymyl y llwyfan i geisio gweld be ar y ddaear oedd wedi denu’r fath ymateb – a dyna pryd y gwelais i Tony ac Aloma am y tro cyntaf. Roedden nhw newydd orffen canu ‘Wedi Colli Rhywbeth Sy’n Annwyl’ ac roedd y gynulleidfa wedi gwirioni’n lân. Dwi’n cofio meddwl yn syn braidd – pwy ar wyneb y ddaear oedd rhain a be oedd ganddyn nhw oedd yn denu’r fath ymateb? 24

yselar.cymru

Y noson honno, mi gymerodd oriau i’r holl geir ffeindio eu ffordd o’r Bont ar hyd y lôn gul i Dregaron ac oddi yno i bob cornel o’r gorllewin, y de a’r gogledd. Hwn oedd ein Woodstock ni, a Tony ac Aloma oedd ein Jimi Hendrix.

Recordio ‘Dŵr’ efo Meic Stevens Mi wnes i gyfarfod Meic Stevens gyntaf mewn cyngerdd yn y Drenewydd. Roedd Meic wedi clywed ‘Dŵr’ a dyma’n dweud, ‘I could help you make a good recording of that, man’ (yn Saesneg roedd pawb yn tueddu i siarad efo Meic bryd hynny). Roedd Meic yn byw rhyw ddau fywyd ar y pryd – wedi treulio cyfnod yn Llundain ac yn dal â chysylltiadau yno a arweiniodd cyn bo hir at gytundeb hefo cwmni Warner Brothers. Cynnyrch y cytundeb hwnnw oedd ei albwm enwog Outlander. Roedd Meic wedi arfer gweithio mewn stiwdios recordio; roedd yn adnabod llawer iawn o gerddorion talentog o bob math ac roedd ei awydd i gynnig help, i rannu o’i brofiad, yn un cwbl ddidwyll... Fe gynigiodd i Meic wneud sesiwn recordio gyda’r nos yn HTV ac fe gynigiodd Meic i minnau ddefnyddio’r sesiwn honno i recordio ‘Dŵr’. Erbyn hynny roedd Meic wedi bod yn cyfeilio i mi ar lwyfan ar gyfer y gân honno bob tro y byddem yn digwydd bod yn cymryd rhan yn yr un noson ac felly roedd o’n eithaf cyfarwydd â’r gân. Awgrymodd y


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.