8 minute read

Dwi isio bod yn...

Ag yntau’n un o gerddorion ‘pop’ cyfoes cynnar Cymru ar ddiwedd y 1960au, fe adawodd Huw Jones ei farc ar hanes y sin gerddoriaeth Gymraeg gyda’i gân brotest enwog, ‘Dŵr’, ac fel un o sylfaenwyr cwmni Recordiau Sain. Cyhoeddwyd ei hunangofiant gan wasg Y Lolfa ym mis Hydref, a dyma ambell gymal difyr i roi blas i chi.

Advertisement

Pinaclau Pop Pontrhydfendigaid Tua diwedd y 1960au y dechreuwyd clywed y term ‘y byd pop Cymraeg’ am y tro cyntaf ond yn fy meddwl i, fe anwyd y byd pop Cymraeg yn swyddogol ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ym mis Gorffennaf 1968...

Mae Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn adeilad anferth, wedi’i godi gan Syr David James i hyrwyddo eisteddfodau’r ardal. Yn 1968 roedd yn dal rhyw dair mil o bobl ac ar y 29ain o Fehefin roedd pob tocyn wedi’i werthu. Mae’r poster ar gyfer Pinaclau Pop Pontrhydfendigaid 1968 yn glasur hanner seicedelig gyda’r enwau mawr fel Dafydd Iwan, Y Pelydrau a Hogia Llandegai ar y top, ac ambell i enw llai adnabyddus ar gynffon y rhestr.

Cyn bo hir, dyma sylwi ar sŵn anhygoel oedd yn dod o’r gynulleidfa – ymateb ar raddfa hollol wahanol i unrhyw beth oedd wedi cael ei glywed cynt. A dweud y gwir, roedd y gynulleidfa’n mynd yn boncyrs.

Dyma fi’n troi’n ôl at ymyl y llwyfan i geisio gweld be ar y ddaear oedd wedi denu’r fath ymateb – a dyna pryd y gwelais i Tony ac Aloma am y tro cyntaf. Roedden nhw newydd orffen canu ‘Wedi Colli Rhywbeth Sy’n Annwyl’ ac roedd y gynulleidfa wedi gwirioni’n lân. Dwi’n cofio meddwl yn syn braidd – pwy ar wyneb y ddaear oedd rhain a be oedd ganddyn nhw oedd yn denu’r fath ymateb?

Y noson honno, mi gymerodd oriau i’r holl geir ffeindio eu ffordd o’r Bont ar hyd y lôn gul i Dregaron ac oddi yno i bob cornel o’r gorllewin, y de a’r gogledd. Hwn oedd ein Woodstock ni, a Tony ac Aloma oedd ein Jimi Hendrix.

Recordio ‘Dŵr’ efo Meic Stevens Mi wnes i gyfarfod Meic Stevens gyntaf mewn cyngerdd yn y Drenewydd. Roedd Meic wedi clywed ‘Dŵr’ a dyma’n dweud, ‘I could help you make a good recording of that, man’ (yn Saesneg roedd pawb yn tueddu i siarad efo Meic bryd hynny). Roedd Meic yn byw rhyw ddau fywyd ar y pryd – wedi treulio cyfnod yn Llundain ac yn dal â chysylltiadau yno a arweiniodd cyn bo hir at gytundeb hefo cwmni Warner Brothers. Cynnyrch y cytundeb hwnnw oedd ei albwm enwog Outlander. Roedd Meic wedi arfer gweithio mewn stiwdios recordio; roedd yn adnabod llawer iawn o gerddorion talentog o bob math ac roedd ei awydd i gynnig help, i rannu o’i brofiad, yn un cwbl ddidwyll...

Fe gynigiodd i Meic wneud sesiwn recordio gyda’r nos yn HTV ac fe gynigiodd Meic i minnau ddefnyddio’r sesiwn honno i recordio ‘Dŵr’. Erbyn hynny roedd Meic wedi bod yn cyfeilio i mi ar lwyfan ar gyfer y gân honno bob tro y byddem yn digwydd bod yn cymryd rhan yn yr un noson ac felly roedd o’n eithaf cyfarwydd â’r gân. Awgrymodd y

byddai lleisiau merched yn ychwanegiad da ac fe drefnwyd i Heather Jones ac un o’i ffrindiau, Ann Morgan, a aeth ymlaen i fod yn gantores opera yn yr Iseldiroedd, i ddod draw i Bontcanna ryw gyda’r nos yn y gwanwyn.

Daethom o’r stiwdio gyda fersiwn ddigon taclus o’r gân ond wrth wrando arni dros y dyddiau canlynol, fe ddois i i’r casgliad nad oeddwn yn gwbl fodlon ei bod wedi dal y cynnwrf roeddwn i’n credu oedd yn sylfaenol i’r gân. Os rhywbeth roedd yn recordiad rhy lân, rhy neis, rhy feddal a gyda rhywfaint o swildod, dyma fynegi hyn. Dyma Mike Gore wedyn yn sôn fod ganddo gyfaill yn gweithio mewn stiwdio recordio fawr yn Llundain. Roedd ar hwnnw ffafr i Mike Gore ac fe gynigiodd ofyn i’r cyfaill a fyddai o’n fodlon trefnu sesiwn recordio am ddim i’w gyfeillion o Gaerdydd. Dyma felly drefnu i fynd i Lundain gyda Meic a Heather, gyda Geraint Jarman yn gwmni, ar gyfer sesiwn fore dydd Sul yn gynnar yn yr haf, ar ôl diwedd y tymor coleg.

Y noson cyn y recordiad roedd Meic i fod i ganu mewn clwb gwerin yn Fairford ger Caerloyw a dyma’r pedwar ohonom, a dwy gitâr, yn gwasgu i mewn i nghar i i fynd â Meic i Fairford gyda’r bwriad o godi’n fore y diwrnod canlynol a chyrraedd Llundain erbyn 10 yn unol â’r trefniant.

Wel, fe aeth hi’n noson hwyr yn y clwb gwerin a bu cryn dipyn o yfed a hyn a’r llall ar ôl y canu. Cysgu ar lawr yn rhywle wnaethon ni – dwi’n meddwl fod gen i sach gysgu barhaol yn y car y dyddiau hynny – ac er i ni i gyd gytuno y bydden ni ar ein ffordd erbyn 8 o’r gloch, nid felly y bu. Roedd fy nghar mini erbyn y cyfnod yma wedi cyfarfod â’i wneuthurwr ar ffurf lori fawr a fethodd â stopio. Roeddwn innau wedi uwchraddio i MG 1100, car bach reit handi ond bod yna rywbeth o’i le ar yr egsôst a oedd yn golygu fod yna ychydig o oglau drwg yn treiddio i’r car bob hyn a hyn. Cychwynnwyd yn y diwedd ryw hanner awr yn hwyr ond rywle tua Swindon dyma Heather yn teimlo awydd taflu i fyny. Bu’n rhaid stopio a phwyllo a gyrru ychydig yn llai cyflym o hynny ’mlaen...

Pan gyrhaeddon ni yn y diwedd, rhyw dri chwarter awr yn hwyr, roedd yna gymysgedd o brysurdeb teledol ac o laidbackness cerddorol o gwmpas y lle yn ogystal â pheiriannydd tawel, cwrtais ond ychydig yn amheus.

Yn y diwedd, dyma benderfynu fod gennym ddigon o hyder i roi’r trac sylfaenol i lawr. Un o’r pethau oedd yn arbennig am y stiwdio a’r sesiwn yma oedd y ffaith ein bod yn defnyddio peiriant 4 trac. Roedd hyn yn beth cymharol newydd ond roedd yn eich galluogi i roi gwahanol offerynnau neu leisiau ar draciau unigol a’u cymysgu wedyn i gael y sŵn gorau posibl. Dyma hanfod egwyddor recordio aml-drac sydd yn dal yn weithredol heddiw. Ond gyda dim ond pedwar trac ar gael, y dechneg oedd recordio trac offerynnol ar dri thrac, cymysgu’r seiniau yna i lawr ar un o’r pedwar trac gan adael y tri arall yn rhydd unwaith eto ar gyfer recordio pethau ychwanegol gan gynnwys y llais. A dyna a wnaed.

Ar ôl bodloni fod y mix cyntaf yma’n iawn, dyma ychwanegu lleisiau Heather a minnau ac wedyn rhoddwyd cynnig ar ychwanegu’r Mellotron...

Wn i ddim lle wnaethon ni gysgu’r noson honno. Rhyw westy rhad yn Paddington mae’n debyg, a’r bore wedyn dyma Meic yn trefnu i ni fynd i stiwdio oedd yn gwneud acetates o dapiau, sef disg caled y gallech chi fynd ag o adref hefo chi a gwrando arno ar eich chwaraewr recordiau. Fe wnaethon ni dri o’r rhain, ac mae un ohonynt wedi ffeindio’i ffordd i archif y Llyfrgell Genedlaethol...

Gyda’r tâp yn fy meddiant, roeddwn yn fwy penderfynol fyth o geisio sicrhau rheolaeth dros amodau eraill cyhoeddi’r record – y clawr, hyrwyddo, dosbarthu sydyn, ac felly yn y blaen. Dafydd Iwan awgrymodd mai creu ein cwmni ein hunain oedd yr ateb...

‘Dwi isio bod yn Sais’ Yn 1971 roeddwn wedi symud i bentref Llandwrog ac roedd clywed dau fachgen ar y stryd ym Mangor yn gwneud hwyl am ben Dafydd Iwan yn Saesneg mewn acenion Cymreigaidd iawn wedi dod â’r geiriau ‘Dwi isio bod yn Sais’ i’r meddwl. Fe sticiodd y llinell ac roeddwn i ar y pryd yn dechrau dysgu tipyn am hanes Llandwrog fel pentref a grëwyd gan stad Glynllifon. Roedd gen i gymdoges oedd wedi bod yn gweini yn y plas ac yn hoff iawn o adrodd straeon am garedigrwydd yr Arglwydd a’r Arglwyddes i’r pentrefwyr tlawd; roedd Pwyllgor Bowen wrthi yn y cyfnod hwn yn ystyried a ddylid argymell arwyddion ffyrdd dwyieithog, roedd y teulu brenhinol yn y newyddion am rywbeth neu’i gilydd bob dydd, a daeth y cyfan at ei gilydd ym mhersonoliaeth ddychmygol y person yn y gân sydd am fawrygu popeth Seisnig a dirmygu’r Cymry a’r Gymraeg.

Mi wnaeth daro tant o’r funud gyntaf. Roedd pawb yn deall yr ergyd, ond rhai yn cael trafferth â’r mynegiant. Byddem yn cael llythyrau yn Sain o’r De yn gofyn ‘os gwelwch yn dda gawn ni gopi o’r gân ‘Rwyf eisiau bod yn Sais’’. Dwi wedi clywed sawl person (er enghraifft Vaughan Roderick) yn cwyno pan glywant y ffurf ‘dwi isio’ yn cael ei defnyddio mor gyffredin yn y cyfryngau Cymraeg y dyddiau hyn. Wel, dwi’n meddwl mai fi wnaeth ei chyflwyno i’r genedl fel ffurf lenyddol...

Sefydlu Cwmni Recordiau Sain Roedd yna nifer o’r penderfyniadau gymeron ni wrth sefydlu’r cwmni yn adlewyrchu ymrwymiad Dafydd a minnau i egwyddorion Cymdeithas yr Iaith. I ddechrau, enw Cymraeg roddwyd i’r cwmni. Roedd hynny’n beth newydd. Fe allech chi ddadlau fod yr enw ei hun braidd yn amlwg – ond roedd o’n ddisgrifiad clir iawn o’r hyn roedd y cwmni am ei gynhyrchu. Y bwriad oedd ei alw yn syml yn Sain Cyf., ond fe gawsom neges gan Dŷ’r Cwmnïau yn dweud fod yna gwmni peirianyddol o Swydd Efrog o’r enw Sayn Ltd yn bodoli eisoes. Doedd y ffaith bod ynganiad, lleoliad a natur y busnes yn hollol wahanol yn cyfri’ dim wrth gwrs. ‘Recordiau Sain’ oedd yn rhaid iddi fod felly, ond byddai hynny’n golygu na fyddem yn dod o dan ‘S’ yn y llyfr ffôn, y lle allweddol i bobl fedru dod o hyd i ni yn y dyddiau hynny cyn dyfodiad y we. A dyna’r eglurhad am y ffurf gyfreithiol drwsgl sydd wedi bod ar y cwmni ers 50 mlynedd, sef Sain (Recordiau) Cyf.

Mae’r gyfrol ‘Dwi isio bod yn...’ gan Huw Jones allan gan wasg Y Lolfa nawr am £12.99.

This article is from: