Page 1

Rhif 50 | AWST | 2017

RHIFYN HANNER CANT!

Cyffro am

CADNO

Y SELAR

1


www.aber.ac.uk/pdd

l o g s y P if d d y d d Ddeu Cynnig Cynnar £15 yn unig

14-15 Medi 2017 Cwrs preswyl cyfrwng Cymraeg i Flwyddyn 13. Cyfle i gael blas ar fywyd myfyrwyr prifysgol. Deuddydd i fwynhau awyrgylch arbennig Aberystwyth.

Pecyn yn cynnwys

Bwyd | Llety | Cludiant Astudio | Cymdeithasu | Chwaraeon Cofrestrwch nawr!

www.aber.ac.uk/pdd Dyma 2

Y SELAR

le


y Selar

cynnwys

RHIF 50 | AWST | 2017

Yr Eira

4

Golygyddol

Sgwrs Sydyn - Patrobas

8

Malcom Neon

10

Eisteddfod arall a rhifyn arall o’r Selar, rhifyn 50! Dwi wastad yn edrych ymlaen at olygu’r un yma, digon yn digwydd gan wneud fy ngwaith i dipyn haws. Mae gan Yr Eira, Cadno, a Patrobas ddeunydd newydd allan a rhoddir sylw iddynt i gyd rhwng cloriau’r rhifyn llawn dop yma. Ac nid nhw yw’r unig rai â deunydd newydd allan yr haf yma, fe welwch chi dair tudalen o adolygiadau y tro hwn ac mae gwerth un, os nad dwy arall “ar lawr yr ystafell dorri” fel petai. Mae cerddorion yn dal i anelu at yr Eisteddfod i ryddhau eu cerddoriaeth felly er bod canran gynyddol uwch o’r deunydd hwnnw’n cael ei ryddhau’n ddigidol yn unig! Ond sut bynnag y caiff ei ryddhau, un peth sy’n sicr, mae’r holl gerddoriaeth newydd yma’n brawf fod y sin mewn sefyllfa gref iawn ar hyn o bryd, cryfach o bosib nag oedd hi hanner can rhifyn o’r Selar yn ôl.

Cadno

12

Gigio gyda’r Selar

16

Ti ‘di clywed?

18

Brwydr y Bandiau

20

Rhywbeth i’w Ddweud?

22

Adolygiadau

24

Llun clawr: Calon Celf

Diolch i Rhodri Brooks am lun o Ani Glass a fu ar glawr rhifyn 49

GWILYM DWYFOR

4

8

12

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

y-selar.co.uk

MARCHNATA Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Rhys Tomos, Ciron Gruffydd, Miriam Elin Jones, Ifan Prys, Owain Gruffydd, Lois Gwenllian, Bethan Williams, Elain Llwyd, Leigh Jones, Dyl Mei

20

facebook.com/cylchgrawnyselar

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar. Y SELAR

3


YR EIRA YN TODDI MAE YR EIRA YN FAND PRYSUR IAWN AR HYN O BRYD. RHYDDHAWYD EU HALBWM CYNTAF AR LABEL I KA CHING YM MIS GORFFENNAF AC MAENT YN PARATOI I BERFFORMIO YN Y PAFILIWN AR NOS IAU’R EISTEDDFOD. YNG NGHANOL PENWYTHNOS PRYSUR O GIGIO YNG NGHAERNARFON A LLANGRANNOG YN DDIWEDDAR FE LWYDDODD OWAIN GRUFFUDD I DDAL Y PRIF GANWR, LEWYS, AM SGWRS.

4

Y SELAR


ifanc yn y gorffennol, ond ’da ni ’di aeddfedu fel band felly dwi’n meddwl falla bydd Toddi yn apelio ar griw hŷn. Mae hi sicr yn ymdrech gydwybodol i geisio trywydd gwahanol i fandiau fel Sŵnami ac Yws Gwynedd. “Mi oeddan ni’n mwynhau gweithio hefo Rich Roberts, sy’n cynhyrchu’r ddau fand yna hefyd, ond er mwyn mynd ar ôl sŵn mwy unigryw a gadael y ‘cylch’ yna, oedd rhaid mynd at rywun gwahanol, a dyna oedd y penderfyniad mwyaf oedd rhaid i ni wneud i newid trywydd y sŵn. “Dwi’n meddwl fod lot o’r cymariaethau i wneud efo’r ffaith bo’ ni heb ryddhau llawer o ganeuon newydd yn ddiweddar. Oedd yr EP yn boblogaidd efo’r gynulleidfa sydd hefyd yn mwynhau Yws a Sŵnami, dwi’n meddwl fod pobl ’di rhoi’r label ’na arno’ ni. Tasa nhw’n dod i’n gweld ni’n fyw a gwrando ar y cynnyrch diweddaraf, dwi’n meddwl bysa hynny’n newid eu meddyliau nhw.”

SETLO AR STEFF Ar gyfer yr albwm hwn, fe aeth y band i weithio hefo cynhyrchydd newydd,

Steffan Pringle, sydd wedi gweithio gydag Estrons a Houdini Dax yn y gorffennol. Teimla Lewys fod newid cynhyrchydd wedi datblygu sŵn y band, ac mae’n falch fod y penderfyniad yn cadw’r cynnyrch yn ffres. “’Da ni’n gwrando lot ar fiwsig cyfoes felly mae’n naturiol bod ein cerddoriaeth ni’n newid i gyfeiriad tebyg i’r hyn ti’n ei glywed yn y sin Eingl-Americanaidd. “‘Da ni gyd ’di pasio’r cyfnod ’na o wrando ar fandiau indie, ond dwi wedi bod yn gwrando dipyn ar fandiau sydd yn arbrofi efo gitârs yn ddiweddar, fatha LCD Soundsystem, The Lemon Twigs a Temples. “Mae ’na ystod ac amrywiaeth eang o synau ar yr albwm, a dwi’n meddwl ei fod o’n gweithio’n well yn ei gyfanrwydd nag fel casgliad o ganeuon unigol. Mae’r sŵn ei hun yn eithaf amrwd, ond mi oedda ni’n arbrofi lot efo gwahanol bedalau. “Anaml iawn fysan ni gyd yn yr un ystafell yn cyfansoddi. Fel arfer, fe wna i ddod a cords neu hadyn cân i

LLUNIAU: CALON CELF

H

awdd meddwl am Yr Eira fel “band senglau”. Maen nhw wedi cynhyrchu llu o ganeuon cofiadwy - o ‘Elin’ i ‘Ewyn Gwyn’, o ‘Trysor’ i ‘Walk on Water’ - ac mae ganddyn nhw’r talent ‘na o ysgrifennu caneuon sydd yn gwneud i’r dorf ganu pob gair. Mae hi wedi bod yn flwyddyn o newid ar fwy nag un lefel i Lewys Wyn, prif leisydd y band, ac mae’r newid yna’n cael ei adlewyrchu wrth i’r band newid gêr a rhyddhau eu halbwm cyntaf, Toddi. “Mae’r albwm yn adlewyrchu sut ’da ni wedi bod yn ysgrifennu caneuon dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai Lewys. “Mae ’na ryw dair blynedd ’di mynd heibio ers rhyddhau’r EP, Colli Cwsg, ond mae sŵn a themâu’r albwm yn fwy o ddilyniant o’r senglau ’da ni wedi rhyddhau ers hynny, ‘Walk on Water’ a ‘Suddo’. Dwi’n licio meddwl fod o’n albwm hollol wahanol i’r hyn mae bandiau Cymraeg ’di neud yn y gorffennol, er bod ’na elfennau pop ar adegau. “’Da ni wedi apelio at gynulleidfa

Y SELAR

5


ymarfer cyn i bawb arall roi syniadau fewn i’w datblygu. Mae hi’n anodd ysgrifennu deg cân ar dy liwt dy hun, felly ma’ hi’n hanfodol cael dylanwad aelodau eraill y band. “Ers rhyddhau’r EP, ’da ni ’di gweithio efo gwahanol gynhyrchwyr fel Llŷr Pari a Claudius Mittendorfer, sydd hefyd wedi gweithio hefo bandiau fel Arctic Monkeys, Temples, Johnny Marr a Paul Simon, cyn i ni setlo a phenderfynu gweithio hefo Steff. “Oedd mynd i weithio hefo Steff yn gambl llwyr ar ein rhan ni. Oeddan ni’n ymwybodol ei fod o wedi gweithio ar albyms Houdini Dax ac Estrons, sy’n wahanol iawn i’n stwff ni. “Y dylanwad mwyaf ma’ Steff ’di cael ydi’r sŵn. Mae o ’di chwara’ mewn bandiau eithaf trwm, ac mae ei ddylanwad o i’w glywed – mae o’n codi’r distortion mewn ambell gân, lle fysan ni ddim wedi gwneud hynny ein hunain. “’Da ni dal ’di bod yn chwilio am y sŵn oedda ni isho, a dwi’n meddwl fod o’n hanfodol i fandiau arbrofi hefo synau a chynhyrchwyr gwahanol. “Dwi’m yn gweld bai ar fandiau sy’n aros efo’r hyn sydd yn gyfforddus iddyn nhw, ond os wyt ti isho datblygu ac amrywio dy sŵn a llwyddo i ddal gafael ar gynnwrf cynulleidfa, mae’n rhaid ti fod yn agored i weithio efo pobl wahanol. “Ti’n sbio ar fand fel Radiohead, oedd yn y 90’au yn fand fwy grunge neu pync, ond bellach yn lot fwy arbrofol, dyna’n union be dwi’n mwynhau mewn bandiau.”

6

Y SELAR

LAWR YN Y DDINAS Ers rhyddhau Colli Cwsg mae Lewys wedi gadael y brifysgol yn Aberystwyth gyda gradd mewn gwleidyddiaeth a hanes, a bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae’r cyfnod yma o newid wedi cael dylanwad mawr ar themâu’r albwm ac mae’r darlun o bili pala ar glawr y record yn arwyddocaol. “Mae’r albwm yn adlewyrchu rhyw fath o newid, a dyna oedd y briff i’r cynllunydd, Celt Iwan, pan oedda ni’n trio sortio’r gwaith celf. “Dwi’n licio osgoi bod yn rhy amlwg mewn caneuon, a ma’ ’na nifer o adegau lle mae gan bobl syniadau a diffiniad gwahanol i’n caneuon ni i’r hyn sydd yn fy mhen i. Dwi’n licio bod yn amwys. “Mae astudio cwrs mewn gwleidyddiaeth wedi cael dylanwad cryf arna i, ond dwi’m yn dueddol o fynd at y llyfr geiriau hefo’r bwriad o ysgrifennu cân wleidyddol neu brotest yn benodol, ond dyna sut mae gradd mewn gwleidyddiaeth wedi dylanwadu arna i. Alla’i fynd ati i feddwl neu drafod gwleidyddiaeth heb drio, fel petai o yn fy isymwybod i. “Er enghraifft, yn y gân ‘Diflannu’, dwi’n sôn am fwrlwm haf diwethaf, yr Ewros yn Ffrainc, ond yn wahanol i’r disgwyl, oedd ’na gyfnod lle oeddan ni ddim yn dathlu ond yn meddwl am y gost o bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Y sialens rŵan, yn ôl Lewys, ydi gwneud yn siŵr fod y caneuon newydd yn gweddu ar lwyfan, mae

creu argraff yn fyw yn bwysig i’r band. Un o uchafbwyntiau yr haf fydd ymddangos yn y pafiliwn, cyfle unigryw i weithio gyda cherddorfa, ac mae Lewys yn edrych ymlaen at ymddangos ar brif lwyfan yr Eisteddfod, o’r diwedd! “Wrth gwrs, ma’ bod mewn band i neud lot efo’r hyn ti’n ei ryddhau, ond yr hanner arall ydi be ti’n ei ddarparu ar lwyfan. Mae rhoi sioe yn rhywbeth hanfodol ma’n rhaid i ti feddwl amdano fo. Mae’n rhaid i ti ddiddanu’r gynulleidfa, a dwi’m yn meddwl fod digon o fandiau’n gwneud hynny. Dyna pam ’da ni’n licio ychwanegu intros a rhannau offerynnol i’w gwneud hi’n sioe fwy diddorol. “Rhan fwyaf o’r albwm fyddwn ni’n chwara’ yn y Pafiliwn, efo ambell hen un hefyd. ’Da ni ’di bod yn trafod lot hefo Owain Llwyd pa ganeuon fysa’n gweithio orau hefo’r gerddorfa. “Dwi’n edrych ymlaen at glywed be fydd gin y gerddorfa i’w gynnig. Dwi’n meddwl bydd ’na gymysgedd, lle fydd y gerddorfa yn fwy naturiol mewn rhai caneuon, ac yn fwy trawiadol mewn rhai eraill. “Dwi’m yn meddwl mod i ’rioed ’di bod ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn perfformio. Nes i drio efo’r cornet, ond ges i’m llwyfan, felly gai fyw breuddwyd!”


CYMDEITHAS YR IAITH

gigs CYMDEITHAS

YN EISTEDDFOD MÔN

5-12 AWST 2017 DRYSAU 7.30 BOB NOS

Llyfra dro Gymr

Nos Fawrth 8 Awst £5 BRAGDY’R BEIRDD

BODEDERN

GERAINT LØVGREEN A'R ENW DA

Nos Sadwrn 5 Awst £10

Nos Fercher 9 Awst £10

THU Noson Gwlad y Medra ERBAND GWA’R EDIFÔN BRYN W MEINIR GWILYM A’R BAND Calfari AN! A•LYLChwedlau Panda Fight • Cordia Ffermwyr Ifanc Môn yn cyflwyno

Sophie Jayne • Dilys DJ

Nos Iau 10 Awst Noson Cwis Cymru Rydd

*noson anaddas i’r gwan-galon!

Hywel Pitts • DJ Dyl Mei

£9.99

DJ Bethan Ruth

Nos Sul 6 Awst £10 Noson stand-yp gyda

ERTHU DI GWOWEN WETUDUR N!Jones LLA Beth A Angell • Eilir

£8.99

Nos Wener 11 Awst £10

STEVE EAVES • KIZZY Lowri Evans • Brodyr Magee

Nos Lun 7 Awst £10 Noson Ikaching gyda

CANDELAS

Ysgol Sul • Cpt Smith DJ Branwen Ikaching

Nos Sadwrn 12 Awst £10

GERAINT JARMAN BOB DELYN A’R EBILLION Gai Toms • Plant Duw

£7.99

Llai a n milltir o faes y steddfod!

£9.99 Cofiwch alw heibio ein stondin! 01970 832304

hysbyseb selar cymdeithas - steddfod gen 2017.indd 1

www.ylolfa.com

25/07/17 10:35

CLIRIO

Dolen i’r Dyfodol Ymunwch â ni yn 2017 Cyrsiau ar gael o hyd Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau

DIWRNODAU AGORED CLIRIO Caerfyrddin

Llambed

AWST 19 Abertawe

0300 323 1828 ydds.ac.uk/clirio

LLINELL GYMORTH CLIRIO

ydds.ac.uk/cy/ymweld


DDEUNAW MIS ERS IDDYNT RYDDHAU’R EP, DWYN Y DAIL, MAE PATROBAS YN ÔL GYDA’U HALBWM CYNTAF, LLE AWN NI NESA’?. ESGUS PERFFAITH FELLY I’R SELAR FYND AM SGWRS SYDYN GYDA PHRIF LEISYDD Y BAND GWERIN O LŶN, WIL CHIDLEY. Beth yw’r broses wrth i chi recordio? Ydi’r caneuon yn gyflawn gennych chi cyn mynd i’r stiwdio neu ydach chi’n mynd yno efo sgerbwd a gweithio arnyn nhw yno? ’Da ni’n mwynhau perfformio’n fyw yn arw, felly mae recordio’r albwm yn eithaf byw yn naturiol, sydd hefyd yn cyd-fynd â’r ffordd mae Aled yn hoffi gweithio fel cynhyrchydd. Cafodd o leiaf tri chwarter yr albwm ei recordio’n fyw. Mi dreulion’ ni wythnos yn Y Llofft, Tafarn y Fic, Llithfaen cyn mynd i recordio er mwyn dod â’r caneuon at ei gilydd, felly roeddem yn mynd i’r stiwdio efo syniad pendant o’r hyn roeddem ni eisiau ei gyflawni. Pa gerddoriaeth oeddech chi’n gwrando arno yn ystod y cyfnod recordio? Mae gan y pedwar ohonom ni dâst gwahanol iawn. Dwi’n ffan o gerddoriaeth gan fandiau fel y Beatles, Mumford & Sons a’r Flaming Lips, tra bod Gruff yn hoff o gerddoriaeth glasurol. Mae Iestyn yn hoff o wrando ar

LLUNIAU: DEWI GLYN

Yr albwm newydd, Lle Awn Ni Nesa’?, allan ers diwedd Mehefin, sut ymateb sydd wedi bod hyd yma? Hyd yn hyn, cadarnhaol iawn, mae’r gynulleidfa wedi bod yn canu rhai o’r geiriau efo ni mewn gigs sy’n arwydd da eu bod nhw’n gwrando arni dwi’n meddwl! Lle a phryd fuoch chi wrthi’n recordio? Yn stiwdio Sain, Llandwrog, yn ystod Ionawr 2017. Pwy wnaeth gynhyrchu? Aled Wyn Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog). A’r cwestiwn pwysicaf, beth all y gwrandawyr ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Amrywiaeth eang, doeddan ni ddim yn dilyn templed pendant wrth roi’r caneuon at ei gilydd, a dwi’n meddwl fod y synau gwahanol sydd arni’n brawf o hynny. Sut mae sŵn Lle Awn Ni Nesa’? yn cymharu â’r EP, Dwyn y Dail? Ma’n dylanwadau cerddorol ni wedi newid wrth i ni aeddfedu, sydd yn sicr o gael dylanwad mwy arbrofol ar ein caneuon wrth wneud yr albwm.

gerddoriaeth gwerin mwy traddodiadol gan fandiau megis Calan, a Carwyn yn ffan o gerddoriaeth drymach, bandiau fel Royal Blood. Oes ’na rai o’r dylanwadau hynny i’w clywed yn y cynnyrch terfynol? Yn sicr, dwi’n meddwl mai dyna sydd wedi achosi’r amrywiaeth ar yr albwm, mae pawb yn cyfrannu at bob cân yn ei ffordd ei hun. Mae’r clawr yn un da! Beth yw hanes hwnnw? Diolch! Ym Mhorthdinllaen tynnwyd y llun. Mi oeddan’ ni wedi edrych ar lawer o syniadau, ond ar ôl trafod syniadau â’r ffotograffydd, Dewi Glyn, roedd ei ddychymyg gwych wedi ein harwain i’r dŵr i greu llun oedd yn dangos trafferth ar y môr. Roedd Dewi druan yn ei ddillad isaf yn y dŵr ar fore oer yng nghanol mis Mawrth, ond dwi’n meddwl fod y llun werth yr annwyd! Oes gen ti hoff gân o blith y casgliad, a pham? Dwi’n meddwl mai ‘Castell Aber’ ydi fy hoff gân, hon oedd y gyntaf i ni ei hysgrifennu ar gyfer yr albwm ac mi wnes i fwynhau ei recordio hi’n arw. Pa un fydd yr “hit”? Yn fyw, mae ‘Castell Aber’ a ‘Paid Rhoi Fyny’ yn boblogaidd, ond dwi’n edrych ymlaen i weld beth

Sgwrs Sydyn

PATROBAS 8

Y SELAR


fydd ymateb pobl i’r holl draciau wrth i ni barhau i berfformio dros yr haf. Pwy ydi’r llais ar ‘Dalianiala’? Beth yw cefndir y gân honno? Llais Branwen Williams sydd ar ‘Dalianiala’. Cân rhwng mam a’i phlentyn sydd mewn trafferth ar y môr wrth iddynt orfod gadael eu gwlad enedigol i chwilio am fywyd gwell ydi hi, felly o glywed Branwen yn canu ar ‘Deio Bach’ gan Cowbois, roedd ei llais mamol yn siwtio’r gân. Beth oedd profiad mwyaf cofiadwy’r broses recordio? Roedd ein cyfnod yn y stiwdio’n un braf iawn. Mae hi wastad yn neis cael treulio amser mewn gofod creadigol ac roedd yr awyrgylch yno’n un serendipidaidd iawn. Mi ’oedd y bananas a’r coffi ’roeddem yn eu cael gan Aled yn help hefyd! Beth fysa’r gweithgaredd perffaith i gydfynd â gwrando ar yr albwm? Dreifio ar hyd arfordir Pen Llŷn ar bnawn braf o haf.

Rydach chi wedi bod reit brysur hefo gigs yn ddiweddar do, sut mae’r rheiny wedi bod yn mynd? Grêt! Mi gychwynnom ni’n cyfres o gigs lansio yng Nghaerdydd mewn noson acwstig yn Y Parlwr ac yng ngŵyl Tafwyl. Roedd yn ardal newydd i ni ac roedd hi’n braf cael ymateb cystal yno! Pa mor hawdd oedd hi ail greu sŵn yr albwm yn fyw? Gan fod yr albwm wedi ei recordio’n eithaf byw, mae’n llawer haws nag oeddem wedi ei feddwl. Yr unig anfantais ydi nad oes posib cael yr offerynnau pres ym mhob gig; ond problem fach ydi hynny! Unrhyw gigs eraill ar y gweill yn fuan, unrhyw wyliau dros yr haf? Oes, ’da ni’n perfformio ar lwyfan Settlement yng Ngŵyl y Dyn

Gwyrdd yng Nghrughywel ac yn y Tŷ Gwerin yn yr Eisteddfod ymysg gigs eraill. (Mae rhestr lawn i’w gweld ar www.patrobasband.com) Beth sydd ar y gweill i Patrobas, i le ewch chi nesa’?! Ha! ‘Da ni eisoes wrthi’n cychwyn trefnu gigs a digwyddiadau dros o flwyddyn nesaf, mi gawn ni weld beth ddaw! Gwertha Lle Awn Ni Nesa’? i ni mewn pum gair! Egniol, amrywiol, bywiog, angerddol a chyffrous! Hoff albwm I orffen, rhaid oedd gofyn i Wil am ei hoff albyms yn y categorïau isod. Hoff albwm Erioed? Sigh No More – Mumford & Sons Hoff albwm cyntaf? Straeon y Cymdogion – Mim Twm Llai Hoff albwm yn y flwyddyn ddiwethaf? Human – Rag’n’Bone Man Yr albwm diwethaf i ti ei brynu? Melodrama – Lorde

RHESTR GIGS

5 Awst - Llwyfan y Maes, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Bodedern 11 Awst - Tŷ Gwerin, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Bodedern 15 Awst - Llwyfan Settlement, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Crughywel 15 Medi - Gŵyl Gwrw Llanbedr 16 Medi - Plas Coch, Y Bala 27 Hydref - Gŵyl Werin Llanfair Caereinion

Y SELAR

9


GORAU CYMRO, CYMRO ODDI CARTREF D echrau’r 1980au, pan oedd cylchgrawn Sgrech yn ei anterth, label Sain yn rheoli’r farchnad recordiau Cymraeg, a cherddoriaeth roc a gwerin yn frenin ymysg cynulleidfaoedd Cymraeg. Oes aur yn llygaid nifer, ond yn nghanol hyn oll penderfynodd un boi yn Aberteifi, wedi’i ddylanwadu arno gan grwpiau arloesol fel Kraftwerk, Brian Eno a John Foxx, ei fod am wneud pethau ychydig bach yn wahanol, gan arbrofi gyda synths a synau newydd i greu cerddoriaeth amgen, electroneg. Ac os nad oedd hynny’n ddigon o sioc i’r system,

10

Y SELAR

penderfynodd i arloesi ymhellach trwy gyhoeddi ei gerddoriaeth ar label ei hun, ar gyfrwng newydd oedd yn galluogi pobl i ryddhau eu cerddoriaeth yn rhad am y tro cyntaf – y casét. Y boi dan sylw oedd Malcolm Gwyon oedd yn perfformio dan yr enw ‘Malcolm Neon’, ac ei label oedd Casetiau Neon. Ychydig iawn o gydnabyddiaeth a gafodd ar y pryd, ac mae’n debyg bod y label yn fwy adnabyddus am ryddhau cynnyrch cyntaf grŵp arall arloesol o Aberteifi, Datblygu. Daeth Datblygu’n amlycach ar ôl symud at label ifanc, cyffrous arall, Ankst, ar ddiwedd yr 80au ac ail-gyhoeddwyd casgliad o’r casetiau cynharaf hynny gan Ankstmusik rai blynyddoedd yn ôl. Wrth i Datblygu’n raddol dros y blynyddoedd gael eu cydnabod gan y cyfryngau torfol, ychydig iawn o sylw mae Neon wedi’i dderbyn – mae’n annhebygol iawn eich bod wedi clywed un o’i ganeuon ar Radio Cymru. Ond gellid dadlau fod ei gerddoriaeth hyd yn oed yn fwy arloesol na Datblygu ac efallai wedi agor y drws ar gyfer y symudiad electroneg ardderchog sy’n bodoli erbyn hyn.

ARCHWILIO’R DIWYLLIANT CASÉT

Debyg ei bod yn briodol felly mai label o’r Almaen, sydd wedi mynd ati i atgyfodi cerddoriaeth Malcolm Neon, a’i gyflwyno i gynulleidfa sydd erbyn hyn yn fwy parod amdano. “Un o danysgrifwyr Clwb VOD awgrymodd y gerddoriaeth, gan anfon ffeiliau sain i mi” meddai Frank Bull, rheolwr label Vinyl on Demand wrth drafod sut y darganfyddodd waith Malcolm Neon. “Er fy mod i’n gasglwr o ddiwylliant casét y 70au i’r 90au, gyda gwybodaeth dda a miloedd o gasetiau, do’n i ddim wedi clywed amdano o’r blaen nac yn gwybod bod Malcolm wedi rhedeg label gyda chymaint o gynnyrch casét. “Pan glywais y gerddoriaeth a’r sŵn synth minimal amrwd a rhyfedd ynghyd â’r iaith ddiddorol, roedd yn amlwg y dylai gael ei ryddhau ar fy label sy’n archwilio diwylliant casetiau’r 70au ac 80au.” Label bach diddorol o ddinas Friedrichshafen ydy Vinyl on Demand sy’n cynhyrchu nifer cyfyngedig o bob record maen nhw’n rhyddhau. Mae hanner rhain yn cael eu dosbarthu i siopau, a’r hanner arall yn cael eu hanfon yn syth at aelodau ‘clwb’ y label, sy’n derbyn copi o bob un record maen nhw’n rhyddhau. Yn amlwg mae ganddyn nhw dipyn o ffydd yn nhast Frank, ac yn ôl y rheolwr mae ymateb y tanysgrifwyr i record Malcolm Neon wedi bod yn dda. “Ydy, mae llawer o fy nhanysgrifwyr yn rhoi adborth uniongyrchol ac yn sicr maen nhw’n


“PAN GLYWAIS Y GERDDORIAETH A’R SŴN SYNTH MINIMAL AMRWD A RHYFEDD... ROEDD YN AMLWG Y DYLAI GAEL EI RHYDDHAU AR FY LABEL”

caru’r gerddoriaeth. Mae llawer o’r aelodau’n rhannu fy chwaeth mewn cerddoriaeth, sy’n golygu eu bod yn hoffi’r rhan fwyaf o’r cynnyrch. “Dwi wedi gweld diddordeb cynyddol gan y wasg a dosbarthwyr dros y dyddiau ers rhyddhau [record Neon]. Er enghraifft mae llawer o archebion o Boomkat a’r record wedi bod yn eu rhestr 20 uchaf o ran gwerthiant.” Ac yn ôl Frank, byddai’r label yn ystyried rhyddhau mwy o gynnyrch Cymraeg yn y dyfodol. “Dwi’n benagored ynglŷn ag unrhyw beth cysylltiedig i ddiwylliant y casét yn y 70au a’r 80au ac yn twrio’n ddwfn i hyn, felly byddwn, yn sicr.”

Ond sut mae’r dyn ei hun yn teimlo ynglŷn ag atgyfodiad ei gerddoriaeth ar label Almaenig? “Do’n i heb glywed am y label cyn hyn, dim byd o gwbl” meddai Malcolm Gwyon wrth Y Selar. “Ffrind i mi o’r Almaen, Oliver, wnaeth fy nghyflwyno iddyn nhw a fe sydd wedi gwneud y gwaith [paratoi’r caneuon o’r masters] i gyd. Ma Oliver yn dod o Nuereburg ac yn ffan mawr o stwff Cymraeg fel Y Brodyr, Sgidie Newydd a Plant Bach Ofnus.” Fel Neon, roedd y grwpiau hynny’n arloesi gyda synau arbrofol, a rhyddhau ar gasét ar ddechrau’r 80au. Yn ôl Malcolm, dim ond rhyw 20-30 copi o’r casetiau gwreiddiol fyddai wedi eu cynhyrchu, a fyddai Radio Cymru ddim wedi eu chwarae o gwbl. Mae’n falch bod y gerddoriaeth wedi’i atgyfodi, ond ddim yn gwbl fodlon â’r caneuon mae Frank wedi’i ddewis ar gyfer y casgliad. “Bydden i wedi hoffi gweld ‘Gawn ni fynd i’r parti’ a phethe fel’na ar y casgliad. Ond wy’n falch bod yr EP [EP grŵp arall Malcom, Meibion Mwnt] arno fe.” GEIRIAU: OWAIN SCHIAVONE

CYMRY TRAMOR Nid Vinyl ond Demand ydy’r label tramor cyntaf i gyhoeddi cerddoriaeth Gymraeg cofiwch, yn wir, mae sawl enghraifft o labeli ledled y byd yn cyhoeddi neu ailgyhoeddi recordiau Cymraeg. O gyfnod tebyg i Malcolm Neon, ond sŵn go wahanol, mae label Guerssen Records o Galalwtia wedi ail-ryddhau nifer o recordiau’r grŵp Gwerin, Pererin. Esiampl amlwg

arall ydy Finders Keepers Records, label y DJ Andy Votel, fu’n cydweithio â Gruff Rhys i greu casgliadau o ganeuon cynnar label Sain – Welsh Rare Beat. Er fod gwybodaeth yn brin, mae’n ymddangos bod label Bella Terra Music o Dde Corea wedi ail-ryddhau un o’r albyms Cymraeg enwocaf, sef Hiraeth gan Endaf Emlyn. Roedd Numero Group yn gyfrifol am ryddhau cynnyrch un

arall o hoelion wyth y sin, Meic Stevens. Y grŵp pync Cymraeg cyntaf oedd Llygod Ffyrnig, a bu i label o’r Almaen, Incognito Records, ryddhau EP gan y grŵp ym 1997. Yn fwy diweddar cafodd recordiau rhai o grwpiau Cŵl Cymru eu rhyddhau dramor, roedd Gorky’s Zygotic Mynci yn arbennig o boblogaidd yn Siapan. Rhyddhawyd albwm cyntaf Jakokoyak, Am

y Cyfan Dy Pethau Prydferth, gan label Macaroni Records o Tokyo hefyd, tra bod labeli yn Siapan a Mecsico wedi cyhoeddi recordiau Yucatan. Yn wir credwch neu beidio, label tramor oedd yn gyfrifol am ryddhau’r record hir gyntaf yn yr iaith Gymraeg – Welsh Folk Songs gan Meredydd Evans a ryddhawyd gan Falkway Records o’r Unol Daleithiau ym 1954.

Y SELAR

11


CADNO WEDI CYRRAEDD Y CLAWR MAE DWY FLYNEDD UNION ERS I NI ROI SYLW I CADNO YN Y SELAR DDIWETHAF. UN O GYSTADLEUWYR ROWND DERFYNOL BRWYDR Y BANDIAU EISTEDDFOD MEIFOD OEDD Y CRIW O GAERDYDD BRYD HYNNY OND MAENT BELLACH WEDI CYRRAEDD EIN CLAWR. LOIS GWENLLIAN A DDALIODD CADNO AM SGWRS WRTH IDDYNT RYDDHAU EU EP CYNTAF.

M

ae’r haul yn disgleirio drwy ffenestri Yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd gan oleuo cornel bellaf y gofod enfawr lle mae Cadno yn eistedd. Band ifanc o Gaerdydd ydy Cadno ac mae ieuenctid yn disgleirio drwy eu llygaid nhw hefyd. Hefo fi mae Cadi, Mali, Trystan a Beca (mae Wil ar leoliad gwaith ac felly’n methu ymuno). Cyn dechrau cyfweld yn ‘swyddogol’, rydyn ni’n mynd drwy’r cyflwyniadau’n sydyn a gwneud mân siarad cwrtais. Wrth wneud hyn, fedra i ddim llai na meddwl pa mor frwdfrydig a bywiog ydyn nhw. Dyma fand a ffurfiodd ar groesfan ddirgel ffawd drwy ddigwydd bod yn yr un lle ar yr un pryd ac mae eu hysbryd ffwrdd-â-hi dal yn dew heddiw. Ble oedd y groesfan honno felly? “Gŵyl Reading” eglura Cadi, “yyyyn...”, mae Beca’n ymyrryd gan ddweud “yn 2013”. “Rili?” yw ymateb Mali, sy’n syfrdan gan oed y band. “Mae Cadno’n bedair?”. Mae’r pedwar yn chwerthin, ac yn amlwg yn mwynhau hel atgofion am syniad a ddechreuodd fel tipyn o sbort. Cadi sy’n dweud yr hanes: “Roedden ni i gyd yn chwarae offerynnau gwahanol, felly fel jôc wnaethon ni [ffurfio’r band] i ddechre. Gethon ni cwpl o practices a sylwi bod e’ actually yn swnio’n ok.” Gan gymryd yr awenau egluro, mae Beca - sy’n cyfansoddi’r caneuon - yn 12

Y SELAR

ymhelaethu; “Roedden ni yn yr ysgol gyda’n gilydd, roedden ni’n ‘nabod ein gilydd ond doedden ni ddim rili mor agos â hynny. Felly benderfynon ni pam lai? Ry’n ni gyd yn chwarae offerynnau ac oedd e’n class. It worked.” Ac felly ffurfiwyd Cadno. Ond fel llawer i fand newydd, doedd ganddyn nhw ddim drymiwr. Trystan yw’r drymiwr cyfredol, sef ail ddrymiwr y band. Penderfynodd y cyntaf nad oedd o eisiau parhau i chwarae drymiau am nad dyna yr oedd eisiau ei wneud (nid drymiau oedd ei offeryn dewisol, fe ddysgodd yn arbennig ar gyfer Cadno). Lle ddaethon nhw o hyd i Trystan felly? “Roeddwn i yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd yr un pryd â rhain,” meddai Trystan gan nodio’n gyfeillgar tuag at ei gyd-aelodau, “yn 2015. Roeddwn i’n mynd yno gydag un o fy ffrindiau i a oedd yn ffrindiau efo Pat, yr hen ddrymiwr. Fe ddywedodd fy ffrind wrtha i fod Pat yn ystyried gadael y band am nad oedd e’n joio chwarae drymiau. Felly, ro’n i fel: dw i’n chwarae drymiau! Ta beth, aeth blwyddyn arall heibio. Yna, un noson ro’n i yn Clwb [Ifor Bach] lle welais i Wil. Wedyn dywedodd e’: Trystan, ti moyn bod yn ddrymiwr i Cadno?” Ond nid yn fanno y trawyd y fargen. Cadi sy’n cofio, “Gathon ni un practice, ac oedd e’n swnio’n amazing. Wedyn nes i weld ti [Trystan] mewn pyb; ti’n cofio? A nes i ddweud, ie definitely tyrd i practice arall, ac

oeddet ti fel: wel dylen i fod yn y band nawr achos dw i wedi prynu cymbals!” Eto, maen nhw’n ffrwydro chwerthin. Mae’n amlwg bod y band yn ffrindiau pennaf. Yn eu cwmni rwy’n teimlo y gallaf ymlacio yn fy sedd a gwrando ar griw o ffrindiau’n hel atgofion a hynny heb ddim ysgogiad bron. Daw Beca â’m sylw i’n ôl at y dasg dan sylw “We hit it off straight away chwarae teg, a dyna pryd nathon ni wir ddechrau sgwennu ar gyfer yr EP.” Hi yw prif gyfansoddwr y band. Mae hi’n egluro mai hanner cân sydd ganddi i’w chwarae i’r band mewn ymarferion fel arfer, ac yna maen nhw fel band yn adeiladu ar hynny. “Fi’n sgwennu’r caneuon, yn gwneud y melody ar y gitâr, a fi yn canu, a’r lyrics hefyd. Wedyn mae pawb yn cyfrannu rhannau eu hofferyn nhw ac yn adeiladu ar hynna.” Mae Trystan yn parhau, “Mae sŵn y gân yn datblygu’n naturiol wrth i ni ymarfer...” Yna mae Cadi’n cyfrannu “ac yn aml yn swnio fel cân hollol wahanol.” Dw i’n sylwi eu bod nhw’n gorffen brawddegau ei gilydd yn rheolaidd: rhywbeth sy’n gyffredin i ffrindiau bore oes a bandiau sydd wedi teithio am flynyddoedd yn ddi-baid, ond nid i fandiau sydd ar ddechrau eu gyrfa. Dw i’n meddwl tybed ai hyder ydy hynny? Dydy hyder nac uchelgais ddim yn brin yma.


BEIRNIADAETH ADEILADOL Efallai nad oes diffyg hyder ond maen nhw wedi ennyn yr hawl i fod felly. Yn eu pedair blynedd, mae’r band wedi gigio’n helaeth i feithrin eu crefft. Derbynion nhw feirniadaeth glodwiw yng ngystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2015, lle ddaethon nhw’n drydydd. Daeth Beca o hyd i gopi o’r feirniadaeth honno ychydig wythnosau’n ôl. Dyma oedd arni mae’n debyg. “Faswn i’n hoffi gweithio efo band fel hwn. Llawer o syniadau newydd, gwreiddiol, dydyn nhw jyst ddim yn barod eto. Mae Cymru angen Cadno”. Geiriau neb llai na Mei Gwynedd, sef cynhyrchydd yr EP sy’n dwyn yr un enw â’r band, Cadno. Ag eithrio un sengl (‘Ludagretz’, 2016), y record newydd ar label JigCal yw’r casgliad cyntaf o ganeuon y mae’r band wedi’i ryddhau. Mae’n gasgliad cryf o alawon i fand a ddechreuodd fel jôc. Mae’r holl gigio wedi talu ar ei ganfed. Hynny a chael clust a dawn Mei Gwynedd i’w cynorthwyo yn y stiwdio. “Ni’n caru Mei,” maen nhw’n cyhoeddi fel parti adrodd, gan adael i Beca ddweud mwy “Oedd Mei’n iawn [ein bod ni ddim yn barod]. Felly mae’n grêt ein bod ni wedi mynd ato fe. Ni ‘di mynd ato fe gyda chaneuon wedi’u ffurfio o ran alaw a lyrics, ac mae e’ wedi’n helpu ni i roi stori yn y sŵn. Oedd e’n class.” Gan nodio ei phen i gytuno, mae Cadi’n ychwanegu, “mae’r caneuon i gyd mor wahanol a beth mae Mei wedi llwyddo i wneud yw creu link rhyngddyn nhw, a gwneud nhw swnio fel cyfanwaith.” Hyd yma, mae Mali wedi bod yn eitha’ tawedog ond yma mae hi’n cyfrannu ac yn cytuno â Cadi “Ie, mae e’r un math o sŵn â ‘Ludagretz’ ond wedi datblygu. Felly fi’n meddwl pan nawn ni ein EP nesaf, gyda’r caneuon newydd fydd gennyn ni gallwn ni ddychmygu’r sŵn yn well [o gael y profiad yn y stiwdio].” Y SELAR

13


LLUNIAU: CALON CELF

DI-LABEL

Rwy’n hoffi’r EP. Mae’n eitha’ jazzy, gyda naws o bop indie. Dydy’r gerddoriaeth ddim cweit mor jazzy â Kizzy Crawford, ddim wir mor indie ag oedd Swci Boscawen a ddim mor boplyd â baledi Elin Fflur. Daw’r dylanwad jazz o ganiadau piano Cadi a llinell fas Mali, yn ogystal â’r gerddoriaeth y mae Beca’n ei hoffi. O sglein y cynhyrchiad y daw’r naws boplyd a daw’r stamp indie o ddylanwad Caerdydd a’r pum aelod fel unigolion. Hyd yma, medden nhw mae’r ymateb wedi bod yn bositif iawn i’r EP, gyda ‘Bang Bang’ yn achub y blaen fel y ffefryn gan y cyhoedd. Dywedodd Adam Walton ar ei raglen BBC Radio Wales y byddai’n ddigon hapus i’w chwarae ar loop. Mae Beca’n dweud wrtha i nad ydy hi’n hoff o’r gair “digenre” ond mai dyna’r unig ffordd i ddisgrifio’r hyn

14

Y SELAR

maen nhw’n ei wneud. “Ni jyst eisiau ysgrifennu caneuon da heb boeni am labeli” ychwanegodd Trystan. Yn amlwg maen nhw’n llwyddo i wneud hynny. Fe berfformion nhw ar lwyfan Tafwyl ac yna lansio eu EP gyda’r nos. Gellir dadlau ei bod yn ddefod i fandiau o Gaerdydd gael lansio eu record gyntaf yng Nghlwb Ifor Bach. Dyna’n union wnaeth Cadno, a hynny i gynulleidfa lawn. “Oedd hi’n noson amazing i ni. Naethon ni jyst ymlacio mewn iddo fe a dim gorfod poeni am ddim byd. Oedd e’n class chwarae teg.”

Mae Beca’n dweud hyn er gwaetha’r ffaith y bu’n rhaid iddyn nhw ddechrau’r set heb Mali ar y gitâr fas. Pam tybed? Wel, y diwrnod hwnnw, roedd hi’n hedfan adref o Siberia. Dywedodd “roedd mam yn mynd fel ninety miles an hour ar y motorway i ‘nghael i yno mewn pryd.” Mi gyrhaeddod Mali’r lansiad gân yn hwyr. Ddim yn rhy ddrwg a hithau wedi dod yr holl ffordd o Rwsia! “I made quite an entrance” meddai. Yn sicr mae Cadno’n hyderus ac yn credu ynddyn nhw eu hunain, ond dydyn nhw ddim yn hyf am hynny. Dw i’n gweld ynddyn nhw awydd a brwdfrydedd i weithio a datblygu arnyn nhw eu hunain fel cerddorion a chyfansoddwyr yn ogystal ag fel uned. Hefyd, gyda mawrion y sin fel Mei Gwynedd yn canu eu clodydd mae’r awyr yn las iawn ar fyd y pumawd o Gaerdydd. Gallaf deimlo’r cyffro yn tywynnu ohonyn nhw.


r a d y g o i g i G Selar ’

Dyddiad: 14/07/2017 Lleoliad: Llofft, Tafarn y Fic, Llithfaen Lein-yp: Patrobas a Cowbois Rhos Botwnnog

ION

Lle ti’n mynd i gigs? Unrhyw le ym Mhen Llŷn Gig cofiadwy diweddar? Gig olaf Edward H. Dafis Lle ti’n prynu dy gerddoriaeth? Llên Llŷn Y gerddoriaeth ddiwethaf i ti ei brynu? Tebot Piws

DEIO

NON Oed? 21 O le? Llithfaen Hoff fand/artist? Patrobas Band/artist newydd mwyaf cyffrous? Patrobas

FF

MA

TW

M

TEG DWEUD FOD LLŶN YN UN O GADARNLEOEDD CERDDORIAETH GYMRAEG FYW. PETH RHYFEDD FELLY NAD OEDD YR EITEM HON WEDI YMWELD Â’R GORNEL HON O’R WLAD, HYD AT RWAN HYNNY YW. IFAN PRYS A AETH YNO AM DRO’N DDIWEDDAR AR NOSON LANSIO ALBWM NEWYDD PATROBAS.

Oed? 19 O le? Dinas Hoff fand/artist? Patrobas Band/artist newydd mwyaf cyffrous? Patrobas Lle ti’n mynd i gigs? Llofft, Tafarn y Fic Gig cofiadwy diweddar? Patrobas, Tŷ Newydd Sarn Lle ti’n prynu dy gerddoriaeth? Ar y rhyngrwyd Y gerddoriaeth ddiwethaf i ti ei brynu? Patrobas Lle Awn Ni Nesa’?

Oed? 14 O le? Llanaelhaearn Hoff fand/artist? Patrobas Band/artist newydd mwyaf cyffrous? Gwilym Bowen Rhys Lle ti’n mynd i gigs? Amryw leoliadau o gwmpas Pen Llŷn Gig cofiadwy diweddar? Dawns Rali CFfI Eryri 2017 Lle ti’n prynu dy gerddoriaeth? Ar y rhyngrwyd Y gerddoriaeth ddiwethaf i ti ei brynu? Patrobas Lle Awn Ni Nesa’?

Oed? 19 O le? Pen Llŷn Hoff fand/artist? Y Bandana Band/artist newydd mwyaf cyffrous? Patrobas Lle ti’n mynd i gigs? Unrhyw le ym Mhen Llŷn Gig cofiadwy diweddar? John ac Alun ym Mhenlan, Pwllheli Lle ti’n prynu dy gerddoriaeth? Defnyddio Spotify fy nghariad (sbario costa’ i mi) Y gerddoriaeth ddiwethaf i ti ei brynu? Albwm Disney (paid â holi)

CYFLEOEDD I’R CYMRY L E IGH JO NES Nid fy mod i eisiau dangos fy oed, ond roedd fy ymweliad cyntaf â Maes B pan yr oedd Maes-e (heddwch i’w lwch) yn dal i fod yn ganolbwynt i’r sin roc Gymraeg, pan y cynhaliwyd nosweithiau yn y chwedlonol TJ’s yng Nghasnewydd (heddwch i’w lwch), a phan yr oedd Pep Le Pew (heddwch i’w llwch) yn headliners. Ond mae o wastad yn teimlo fel atgof diweddar - dyna bŵer 16

Y SELAR

Maes B - brawd bach i’r Eisteddfod Genedlaethol, ond yn ddigon unigryw ac amgen i sefyll ar ddwy droed ei hun. Mae goreuon cerddoriaeth bop o Gymru wastad wedi ymddwyn yn y ffordd yma, yn unigryw ac amgen. Meddyliwch am y Super Furries neu Gorky’s yn y 90au, bandiau hollol boncyrs yn nhermau eu cyfansoddi efo’r hunanhyder i beidio ag ofni bod yn od. Rydym ni’n hynod ffodus yn y sin Gymraeg fod amrywiaeth

cystal gennym ni a bod yr isadeiledd yn ei le i helpu bandiau gyrraedd a chysylltu â’u cynulleidfaoedd. Chewch chi ddim gyrfa hir na ffrwythlon heb ddawn, ond mae’r cyfleoedd sydd ar gael i fandiau Cymru yn anghredadwy. Mae llawer o (hen) bobl yn galaru o hyd ddiwedd Fideo 9 yn y 90au cynnar, ond mae ’na gymaint o lefydd yn y cyfryngau o hyd i fandiau newydd Cymru. Mae rhaglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru yn un amlwg


COLOFN DYL MEI

Dim Byd yn Digwydd MY R

D

IN

EFOR TR

D Oed? 60 O le? Llwyndyrys Hoff fand/artist? Tecwyn Ifan Band/artist newydd mwyaf cyffrous? Patrobas Lle ti’n mynd i gigs? Llofft, Tafarn y Fic Gig cofiadwy diweddar? Steve Eaves - Llofft, Tafarn y Fic Lle ti’n prynu dy gerddoriaeth? Llên Llŷn Y gerddoriaeth ddiwethaf i ti ei brynu? Patrobas Lle Awn Ni Nesa’?

Oed? 44 O le? Llithfaen Hoff fand/artist? Cowbois Rhos Botwnnog Band/artist newydd mwyaf cyffrous? Patrobas Lle ti’n mynd i gigs? Llofft, Tafarn y Fic Gig cofiadwy diweddar? Cowbois Rhos Botwnnog yn fy mhriodas Lle ti’n prynu dy gerddoriaeth? Ar y rhyngrwyd Y gerddoriaeth ddiwethaf i ti ei brynu? Casgliad o ganeuon Pink Floyd

ond mae Adam Walton yn chwarae cerddoriaeth newydd o Gymru yn y ddwy iaith ar Radio Wales bob wythnos hefyd. Mae hyn i gyd heb hyd yn oed sôn am gynrychiolaeth y sin roc Gymraeg ar y teledu. Dwi ddim yn dweud bod rhaid jyst chwarae caneuon mewn tiwn i gael eich hun ar y teledu yng Nghymru, ond mae gyrfaoedd cerddorion Cymraeg gamau helaeth ar y blaen i’w cyfoedion unieithog o’r cychwyn cyntaf. Rhywbeth unigryw ac amgen sydd werth ei ddathlu dros wythnos y Steddfod.

400 gair meddan nhw, ia dim problem medda fi. Ista, meddwl. Dim byd. Teipio, dileu, teipio, yfed panad o de, na’ i o fory, fory’n cyrraedd, sbïo ar wal, cysgu. Mae’r ffaith fy mod i’n straffaglu i feddwl am rywbeth difyr ynglŷn â’r sin gerddorol Gymraeg yn fy mhoeni fi ychydig. Does ’na ddim byd o ddiddordeb wedi digwydd ers tua 2005. Mi fasa’n bosib mynd ar ôl y ffaith bod 2017 hyd yma wedi bod yn flwyddyn ragorol am gerddoriaeth newydd Gymraeg, gyda label Libertino o Gaerfyrddin yn creu sŵn newydd pop seicedelig efo’r bandiau Adwaith ac Argrph. Neu ella y gallwn i gyfeirio at ofodwyr cerddorol Dyffryn Conwy, Omaloma a Serol Serol, sy’n gwibio heibio fel comed arallfydol. Neu ella drafod recordiau JigCal o Gaerdydd yn creu darlun sonig o hyder ieuenctid y ddinas. Ond na, bored ŵan. Pam does ‘na’m unrhyw beth difyr i hen foi 36 oed fel fi lenwi colofn yn ei gylch? Cymerwch Soundcloud Cymraeg er enghraifft. Does ’na’n bendant ddim byd i’w glywed yn fanna. Wel, heblaw am symudiad tanddaearol cwbl ar wahân i brif ffrwd y radio a’r teledu. OLAG, Titus Monk, Anna, Bryn Morgan a Pys Melyn i enwi llond dwrn o artistiaid arbrofol sydd yn gwthio ffiniau cerddoriaeth Gymraeg ymhellach nag erioed, a hyn ar eu liwt ei hunain. O’n i’n arfer bod mewn bands chi? Does ’na’m gair Cymraeg am nostalgia! Finyl ’di bob dim ’di mynd, er ddim i label NEB, sydd wedi bod yn rhyddhau casetiau trwy’r flwyddyn. Artistiaid fel Ani Glass a Twinfield yn ffrwydradau bach magnetig llawn synau’r 80au, dim ond bod hynny wedi’i guradu trwy sbectol 2017. Ond dwi’m am sgwennu am hynny, oherwydd does ’na ddim byd yn digwydd yn 2017. O’n i am ysgrifennu am LP newydd yr Eira, ond pam fysa unrhyw un isio darllen am record hir Gymraeg sydd yn dal ei thir efo unrhyw LP o Loegr eleni? Oes ’na bwynt trafod albwm Mr Phormula? Dydi o ond wedi recordio’r cwbl yn defnyddio’i lais i fod yn deg. Ydi hi rhy hwyr i ysgrifennu am Pep le Pew? Neu am Y Blew yn 1967...? Doedd Spotify ddim yma hanner can mlynedd nôl nagoedd! Diolch byth am hynny. Pwy sydd isio gweld ffigyrau gwrando bandiau Cymraeg fel Yws Gwynedd yn dechrau taro’r cannoedd o filoedd? Dydi hynny ddim yn eu gneud nhw’n ddigon prin. Dwi’n methu casglu caneuon Spotify a brolio be’ ’di eu gwerth nhw! Hang on, pam nad oes ’na neb ’di gofyn i fi neud rhestr 10 FINYL gora? Fysa hynna ’di bod lot haws na hyn. Y SELAR

17


wed ...

i Ti d Cl

di Cly Ti

ed ... w y Los B la n co s

Pwy? Band o ardal Caerfyrddin a Llandeilo yw Los Blancos; Dewi Jones (llais a bas), Osian Owen (llais a gitâr), Gwyn Rosser (llais a gitâr) ac Emyr Siôn (dryms). Dechreuodd y band tua blwyddyn yn ôl wrth i’r aelodau fynd draw i jamio yn nhŷ Osian yn Nhaliaris. Datblygodd y cwbl o hynny ac mae Los Blancos bellach yn un o ychwanegiadau diweddaraf y label gyffrous, Libertino. Sŵn? Cafodd sengl gyntaf y band, ‘Mae’n Anodd Deffro Un’, ei rhyddhau ar Libertino ym mis Gorffennaf ac mae arddull slacker rock yn nodweddu’r gân honno. Ond fel yr eglura Gwyn, dim ond un o’r amryw arddulliau y mae Los Blancos yn arbrofi â hi yw honno; “Ma’r sŵn yn amrywio o slacker rock i country i punk. Ma’ gan bob un o’r aelodau amrywiaeth eang o ddylanwadau, felly ma’ sŵn yn gallu newid tipyn o gân i gân.” Dylanwadau? Ymhlith y dylanwadau hynny mae nifer o fandiau a cherddorion lleol i Los Blancos yn y de orllewin. “Ni’n hoff iawn o artistiaid o’r ardal fel Texas Radio Band, Gorky’s, John Cale ac Ysgol Sul,” eglura Gwyn. “Tu hwnt i’r sin yng Nghymru ni’n ffans mawr o Pavement, Brian Jonestown Massacre a Wavves.” 

18

Y SELAR

Hyd yn hyn? Er yn fand cymharol newydd o hyd mae Los Blancos wedi datblygu’n gyflym mewn cyfnod byr. “Natho ni rhyddhau ein demo cyntaf ‘Clarach’ ar Soundcloud diwedd haf diwethaf,” eglura Gwyn. “Ers hynny ni ’di chwarae cwpwl o gigs ar draws Cymru ac wedi arwyddo gyda Libertino Records sydd wedi bod yn weithgar ofnadwy. Mae Gruff o’r label wedi bod yn hynod o gefnogol.” ‘Mae’n Anodd Deffro Un’ yw offrwm cyntaf y band gyda’r label, cân a gafodd ei chynhyrchu gan Kris Jenkins, gŵr sydd wedi gweithio gyda Cate Le Bon, Super Furry Animals a Zabrinski yn y gorffennol. Ac arwydd calonogol iawn i’r band yw’r gydnabyddiaeth maent eisoes wedi ei dderbyn am y trac gan rai o wybodusion mwyaf dylanwadol cerddoriaeth yng Nghymru. “Ni wedi bod yn ddigon ffodus bod y gân wedi cael ei chwarae ar y Radio 1 gan Huw Stephens, Radio Wales gan Adam Walton a Bethan Elfyn, ac ar Radio Cymru.” Ar y Gweill? Mae dychwelyd i’r stiwdio yn rhan o gynlluniau’r band dros yr haf yn ogystal ag ambell berfformiad byw, fel yr eglura Gwyn. “Ni’n gobeithio rhyddhau sengl arall

ar ddiwedd yr haf. Mae gyda ni gwpl o gigs acwstig yn ystod wythnos yr Eisteddfod a ni’n gobeithio gigio mwy dros y misoedd nesaf.” Uchelgais? Mae’n ddyddiau cynnar ar Los Blancos o hyd ac maent yn ddigon aeddfed i beidio â rhamantu’n ormodol am y dyfodol ar hyn o bryd. Uchelgais digon diymhongar sydd gan Gwyn, “Fi’n credu taw creu cerddoriaeth dda mae pawb gallu’i fwynhau yw’r prif uchelgais. Byse fe’n wych gallu cael cyfle i chwarae ambell i gig tu hwnt i Gymru ’fyd.”


NODDIR YN GAREDIG GAN

MWGSI MIRAIN FFLUR . CATRIN MARA . CERI ELEN DRAMA GAN MANON STEFFAN ROS . ANADDAS I BLANT DAN 14

18/10 20/10 23/10 25/10

Neuadd Dwyfor, Pwllheli Theatr Twm O’r Nant, Dinbych Theatr Colwyn, Bae Colwyn Neuadd Buddug, Y Bala

26/10 Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog 03/11 Chapter, Caerdydd 04/11 Chapter, Caerdydd 08/11 Pontio, Bangor

09/11 14/11 17/11 18/11

Ysgol Gyfun Llangefni Neuadd Ogwen, Bethesda Galeri, Caernarfon Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug

20/11 21/11 22/11 23/11

Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron Neuadd San Pedr, Caerfyrddin Ffwrnes, Llanelli Canolfan Gartholwg, Pontypridd

www.franwen.com

Chwilio am stiwdio i recordio eich prosiect nesaf? stiwdio recordio yn mesur 12m x 9m gyda rhannau acwstig byw a marw yn cynnwys bwth wedi’i ynysu o weddill y gofod ystafell reoli mawr – desg 56 sianel, system Pyramix – modd plygio i Pro Tools modd llogi’r stiwdio gyda pheiriannydd neu heb (dry hire – rhaid cytuno i amodau o flaen llaw) offerynnau – hammond, yamaha grand piano, fender USA strat gitâr a yamaha gitâr fas telerau gofod ymarfer – £15 yr awr telerau dry hire – £175 y diwrnod + taw

CysylltwCh â sion neu siwan

– sion@sainwales.com – siwan@sainwales.com –

01286 831.111


d

d Bandiau

d

Brwydr y

d

UN O UCHAFBWYNTIAU WYTHNOS YR EISTEDDFOD I’R RHAI SY’N YMDDIDDORI MEWN CERDDORIAETH NEWYDD GYFFROUS YW CYSTADLEUAETH BRWYDR Y BANDIAU MAES B A RADIO CYMRU. CYNHALIWYD ROWNDIAU RHANBARTHOL YM MIS MAWRTH AC MAE CHWE BAND/ARTIST WEDI CYRRAEDD Y ROWND DERFYNOL YN YNYS MÔN. BYDD POB UN YN CYSTADLU AR LWYFAN Y MAES BRYNHAWN MERCHER, GYDA’R ENILLWYR YN AGOR GWEITHGAREDDAU MAES B AR Y NOS SADWRN OLAF. TIPYN O WOBR A THIPYN O GYFRIFOLDEB, FELLY BETH AM DDOD I ADNABOD Y CYSTADLEUWYR YN WELL.

EÄDYTH Pwy? Cantores ifanc o Ferthyr Tydfil sy’n creu cerddoriaeth dawns electronig a drwm a bas yw Eady Crawford. Ffaith ddifyr amdanat: Dwi’n hanner Bejan! Ac mae gennyf dras Indiaidd hefyd sydd yn cŵl! Disgrifia dy sŵn mewn 5 gair: Soulful. Pwerus. Feel-good. Ffres. Egnïol Hoff artistiaid yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd? Ma’ HMS Morris yn wych, nes i glywed nhw’n chwarae’n fyw am y tro cyntaf yng Ngŵyl Fach y Fro, amazing! Ma’ Sŵnami a Candelas yn rili cŵl hefyd. Hoff fand/artist o blith y 5 arall yn y rownd derfynol?  Mae Mabli Tudur yn amazing! Clywais i un o’i chaneuon hi ar Radio Cymru, rili catchy a hyfryd!

JACK ELLIS

Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Dwi’n teimlo’n lwcus i fod yn y rownd derfynol, mor gyffrous i glywed pawb yn perfformio a phwy bynnag sy’n ennill dwi mor ddiolchgar am y profiad ac am fod yn rhan o’r gystadleuaeth.   Gobeithion am y rownd derfynol? Dwi’n gobeithio byddai’n ennill! Ond hefyd smashio fe, cael hwyl a gwneud fy ngorau! A joio bod ym Maes B am y tro cyntaf!

Y SELAR

Pwy? Wedi perfformio’n unigol yn y gorffennol mae Mabli bellach yn rhan o fand. Hi sy’n canu, chwarae’r gitâr ac ychydig o’r piano, gyda Rhys (gitâr), Griff (bas) a Dan (dryms) yn ymuno i gwblhau’r lein-yp. Daw pob un o Gaerdydd. Ffaith ddifyr amdanat? Canu sioe gerdd yw fy mhrif steil o ganu. Disgrifia dy sŵn mewn 5 gair: Acwstig. Ffresh. Lliwgar. Pwrpasol. Soniarus. Hoff artistiaid yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd? Yws Gwynedd, Bromas, Al Lewis ac Alys Williams. Hoff fand/artist o blith y 5 arall yn y rownd derfynol? Eädyth. Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Rhannu fy ngherddoriaeth â mwy o bobl a chael chwarae mewn band. Gobeithion am y rownd derfynol? Derbyn mwy o gefnogwyr a hyrwyddo’r ffaith bod yna le i fwy o ferched yn y sin Gymraeg. Dydy merched ddim yn cael digon o sylw pan mae’n dod at gerddoriaeth Cymraeg yn fy marn i.

Jack Ellis Pwy? Canwr gyfansoddwr o’r Rhws ger Caerdydd yw Jack Ellis. Mae’n perfformio’n fyw gyda’i gitâr ond yn “chwarae bach o bopeth yn y stiwdio”. Ffaith ddifyr am amdanat: Cefais fy ngeni ar ddyddiad palindrome, sydd yn fy ngwneud i’n “rainbow warrior”. Disgrifia dy sŵn mewn 5 gair: Ambient. Deinamig. Acwstig. Tywyll. Angerddol.  Hoff artistiaid yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd? Chroma! Fi ’di

20

Mabli Tudur

chwarae efo nhw eitha’ tipyn ac mae nhw’n bobl lyfli ac mae’r gerddoriaeth yn wych! Hoff fand/artist o blith y 5 arall yn y rownd derfynol? Mabli Tudur, mae ei llais yn wych!  Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Chwarae Clwb Ifor Bach ar ôl wythnos o gigs a theithio … ac yna mynd trwyddo i’r rownd derfynol!  Gobeithion am y rownd derfynol? Fi’n gobeithio teithio lan i Ynys Môn a chwarae gig dda efo cerddorion gwych!


MABLI TUDUR MOSCO

GWILYM ALFFA

Gwilym

Mosco

Alffa

Pwy? Dau bar o ffrindiau ysgol yw Mosco. Daw Huw Owen (canu a gitâr) o Lanberis ac Aled Jones (gitâr flaen) o Lanrug. Daw Rhodri Eugene Davies (bas) a Gwern ap Gwyn (dryms) ill dau o Lanerfyl. Ffaith ddiddorol am un ohonoch: Mae gan Rhodri Eugene y pedal board gorau trwy Gymru. Disgrifiwch eich sŵn mwn 5 gair: Indî. Roc. Alternative. Swnllyd. Egnïol. Hoff artistiaid yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd? Alffa, Ysgol Sul, Mellt, Candelas, Sŵnami, Los Blancos ac Yws Gwynedd ymysg eraill. Hoff fand o blith y 5 arall yn y rownd derfynol? Alffa. Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Y cyffro o allu chwarae ar faes yr Eisteddfod gyda’r cystadleuwyr eraill i gyd. Gobeithion am y rownd derfynol? I ennill yn sicr ond i fwynhau’r profiad yn fwy na dim byd.

Pwy? Deuawd o Lanrug yw Alffa, Sion Eifion Land ar y dryms a Dion Jones yn chwarae’r gitâr a chanu. Ffaith ddiddorol am un ohonoch: Ermmm, mae Sion yn hoffi bwyta curry sauce a sweet and sour sauce efo’i gilydd. Fel un sauce ’llu. Disgrifiwch eich sŵn mwn 5 gair: Disgrifiwyd fo fel blŵs trwm. Hoff artistiaid yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd? Rhwng CaStLeS ac ARGRPH. Hoff fand o blith y 5 arall yn y rownd derfynol? Mosco. Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Mynd trwadd i’r rownd derfynol. Gobeithion am y rownd derfynol? Ennill a dim byd ond ennill.

d

d

Pwy? Band o Fôn ac Arfon yw Gwilym [enw gwych – gol.]. Daw Ifan (llais a gitâr) o Bontrhydybont ger Caergybi, Rhys (gitâr flaen) o Fethel, Llyr (dryms) o Langristiolus a Llew (bas) o’r Felinheli. Ffaith ddifyr am un ohonoch: Nath Dad Rhys biso drws nesa’ i Bryn Terfel mewn sinema unwaith! Disgrifiwch eich sŵn mewn 5 gair: Indî. Hafaidd. Ysgafndrwm. Gweithgar. Jazzy. Hoff artistiaid yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd? Mae Ysgol Sul, Mellt a chlasuron fel Jarman, Maffia, Ffa Coffi Pawb, Gorky’s a’r Furries yn ysbrydoliaethau ac ma’n class gweld bandia’ fel Estrons a Masters in France yn llwyddo dros y ffin! Mae bandiau ifanc fel Hyll a Pyroclastig yn ffrindiau i Gwilym ac yn ein gwthio ni efo’i safon. Felly hefyd Ffracas a Cpt. Smith. Hoff fand o blith y 5 arall yn y rownd derfynol? Ma’ pawb yn haeddu cyrraedd y rownd derfynol, ond i ddewis dau, mae Alffa’n ffrindiau i ni ac yn arloesol o ran setup, ac fe fydd hi’n ddiddorol gweld Mabli’n perfformio gyda band llawn. Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Cael ein hystyried yn ddigon da i chwarae ar faes yr Eisteddfod! A chael ‘Llechan Lân’ yn drac yr wythnos ar Radio Cymru! Gobeithion am y rownd derfynol? Curo. Ac ennill sylw a chefnogaeth.

d

Y SELAR

21


RHYWBETH I’W DDWEUD? Cyfrol newydd o dan olygyddiaeth Elis Dafydd a Marged Tudur yw Rhywbeth i’w Ddweud. Wedi ei chyhoeddi gan Barddas, cyfrol ydyw yn trin a thrafod geiriau deg o ganeuon gwleidyddol a ryddhawyd rhwng 1979 a 2016. O Hefin Jones i Casi Wyn ac o Ifor ap Glyn i Aneirin Karadog, gwahoddwyd rhai o wybodusion amlycaf y sin i gyfrannu ysgrif am gân o’u dewis a’r canlyniad oedd casgliad hynod ddiddorol, amrywiol ac annisgwyl ar adegau. Fel rhan o lansiad yn Ffair Tafwyl fis diwethaf cafwyd sgwrs ddifyr rhwng y golygyddion a gŵr sydd yn destun i un o’r ysgrifau, Geraint Jarman. Bachodd Y Selar ar y cyfle ar ddiwedd y sesiwn honno i holi Elis a Marged am ffrwyth eu llafur. Y Selar: Beth yw’r cefndir? Sut y daethoch chi eich dau i olygu cyfrol ar ganeuon gwleidyddol Cymraeg? Elis Dafydd: Yr Athro Derwyn Williams a gafodd y syniad gwreiddiol, sef cyhoeddi blodeugerdd o eiriau caneuon Cymraeg, ryw fath o ddilyniant i Y Trên Olaf Adref a gafodd ei golygu gan Steve Eaves yn 1984. Dyma fo mewn sesiwn ar farddoniaeth gyfoes yn y Lolfa Lên yn Eisteddfod Meifod yn cynnig y syniad wrth Elena Gruffudd, golygydd Cyhoeddiadau Barddas. Mi feddyliodd hi y bysan well cael casgliad o ysgrifau a sôn am y syniad wrtha i. Dyma fi’n deud y bysa Marged Tudur yn llawer mwy qualified ond dyma ni’n landio efo’r ddau ohonom ni’n cyd-olygu.” YS: Sut aethoch chi o’i chwmpas hi i 22

Y SELAR

ddewis cyfranwyr ar gyfer yr ysgrifau wedyn? Marged Tudur: Odd ’na lot o enwau wedi eu rhoi yn y pair, tua saith deg, wedyn roeddan ni’n gorfod eu didoli nhw i lawr i ddeg. Fysat ti’n gallu cael cyfrol arall fel’ma efo deg arall yn hawdd, fysat ti’n gallu cael cyfres o bedair neu bump cyfrol achos ma’ ’na ddigon o gyfranwyr a thoman o ganeuon i ymateb iddyn nhw hefyd. YS: Fe lwyddoch chi i ddethol y deg yn y diwedd ac roedd hynny’n naturiol yn cynnwys y ddau ohonoch chi. Soniwch ychydig am eich ysgrifau chi i ddechrau; Marged, fe es di am ‘Gwesty Cymru’. MT: Do, o’n i’n meddwl ei bod hi’n gân mor eiconig. Do’n i’m hyd yn oed yn fyw pan gafodd hi ei rhyddhau ond ma’ hi’n gân sydd dal yr un mor berthnasol heddiw. ’Da ni dal i wynebu’r un problemau felly ro’n i’n gweld hynny’n ddifyr. O’n i hefyd yn licio’r gymhariaeth mae Jarman yn ei gwneud yn y gân pan mae o’n trosi Cymru yn ferch sydd yn mynd efo dyn arall. Dio’m otsh be’ ma’ Cymru yn ei wneud i chdi, ti dal yn ei charu hi, o’n i’n gallu uniaethu llawer efo hynny.

“NID CÂN WLEIDYDDOL MO HONNO, JYSD CÂN AM PISS-UP YN Y GLÔB.”

YS: Mae’r ddau ohonoch chi’n eitha’ cynrychioliadol o weddill y gyfrol o ran bod un ohonoch chi wedi mynd am ddewis mwy amlwg wleidyddol yn ‘Gwesty Cymru’ ond y llall wedi dewis cân lai amlwg o bosib ac wedi gorfod adeiladu achos fel petai. Pam dewis ‘Cocaine’ gan Steve Eaves felly Elis? ED: Dwi wrth fy modd efo’r gân ac yn gweld rhywbeth reit debyg i ‘Gwesty Cymru’ ynddi mewn ffordd, hynny yw rhywun wedi ei ddadrithio efo’i achos. Nid rhamantu pobl yn troi at gocên yn wyneb ryw ormes mae o ond condemnio hynny, gweld hynny fel ryw ffordd hawdd allan. Mae o’n gweld y gwerthwr cyffuriau fel unrhyw gyfalafwr arall, yn cadw pobl yn slaf i gynnyrch. Trwy hynny, mae o’n rhoi mynegiant i holl gymhlethdodau meddu ar safbwynt gwleidyddol sy’n mynd yn erbyn y status quo. Mae hynny’n wbath cyfarwydd i ni yng Nghymru, boed yn genedlaetholwyr neu’n rhywun sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, “Ma’ nhw’n prynu ni’n rhad ar y naw” medda fo. YS: O ran dewisiadau’r cyfranwyr eraill, oedd yna unrhyw ddewis annisgwyl? MT: Dewis Dyl Mei, ‘Talu Bils’ gan Rodney Evans fysa un ohonyn nhw ar yr olwg gyntaf ond wrth ddarllen yr erthygl tydi o ddim yn dy synnu di, mae o wedi cyfiawnhau’r peth mor dda. Mae pobl yng Nghymru, yn enwedig yn y byd Cymraeg, yn dueddol o feddwl am wleidyddiaeth yn nhermau hawliau dros y Gymraeg ac ati. Ond yr hyn mae Dyl


wedi ei wneud ydi dangos fod yna fwy am ganu’n Gymraeg na chanu am yr iaith yn marw, cân am rywun sy’n chwilio am job ydi, rhywun sy’n byw ar gyrion cymdeithas a ma’ hi’n erthygl wirioneddol wych. ED: Mi ddewisodd Nici Beech ‘Cyn i’r Lle ’Ma Gau’ gan Y Bandana. Nid cân wleidyddol mo honno, jysd cân am piss-up yn y Glôb. Ond dwi wrth fy modd fod Nici wedi gweld rhywbeth mwy yn honno. I Gwil a wnaeth ei sgwennu hi nid cân wleidyddol ydi hi ond felly y clywodd Nici hi. Ma’n dangos bod caneuon fel hyn yn gallu siarad â phobl ar sawl lefel. YS: Mae hi’n ddadl oesol os mai’r crëwr neu’r gwerthfawrogwr piau’r hawl i ddehongli darn o gelfyddyd ac mae ysgrif Nici Beech yn sicr yn archwilio hynny. Ond oeddech chi’n

synnu neu’n pitïo fod rhai artistiaid heb gael sylw ar draul dewisiadau mwy annisgwyl fel hyn? MT: Rhaid i mi ddweud ’mod i braidd yn siomedig bod Tecwyn Ifan ddim yno ond eto, ma’ ’na gymaint o enwau, (’da ni’n eu henwi nhw yn y rhagymadrodd), wnei di byth ei dal hi ym mhob man. Roeddan ni’n gwybod o’r dechrau y bysa na rai amlwg ddim yno. ED: Yn bersonol, doedd hynny ddim yn fy siomi i o gwbl chwaith achos roedd hi’n ddifyr gweld yr amrywiaeth. Ma’ ’na gannoedd o ganeuon gwleidyddol y bysa pobl wedi gallu mynd amdanyn nhw felly roeddan ni’n gwybod na fysa fo’n gynrychioliadol. Ond dyna sy’n beth da, achos ella y gwneith rhywun feddwl ei bod hi ddim yn deg nad ydi Tecwyn Ifan neu rywun arall yno a

mynd ati i sgwennu mewn blog neu yn y Selar neu le bynnag. YS: Mater o genhedlaeth ydi o’n aml iawn. Mae’r syniad o ddeg cân wleidyddol heb Anweledig yn od i mi ond mae hynny gan ’mod i rhwng 25 a 35! Mae gan bawb ryw duedd tuag at eu cariad cerddorol cyntaf am wn i, sydd yn dod â ni’n daclus at y sefyllfa bresennol. Roedd yna ganeuon cyfoes fel rhai Y Bandana a Rodney yn y gyfrol, ond ar y cyfan a oes yna ddigon o ganu gwleidyddol ar hyn o bryd? MT: Mae gen ti bobl fel Radio Rhydd ac Alun Gaffey ond i mi does yna ddim digon, dim hannar digon chwaith. Yn enwedig yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni heddiw, mae Brexit yn mynd i newid bywydau cymaint o bobl ifanc, mae angen i fwy o bobl ymateb. Y SELAR

23


adolygiadau drymiau, offer taro drums, percussion

Gwyn Jones – drymiau drums

Rhydwen Mitchell – bas, bas dwbl bass, double bass

Nikolas Davalan – ffidil fiddle

Claire Jones – sax, pibgorn

Einion Gruffudd – llais vocals

Einir Humphreys –

Dal i ’Redig Dipyn Bach Bob Delyn a’r Ebillion Bydd y rhai sy’n gyfarwydd â gwaith Twm Morys ar hanes y Gymraeg yn Sir Fynwy yn gwerthfawrogi’r trac agoriadol, ‘Cân John Williams’. Clywn lais a geiriau “Cymro olaf” yr ardal mewn cân sy’n gorffen yn syml ond ingol, “rhaid i ni ddiweddu ’nawr”. Bydd rhai craff yn sylweddoli arwyddocâd hon fel cân gyntaf y casgliad hefyd, nid yr olaf. Plethiad o ganeuon traddodiadol a chyfansoddiadau newydd a geir gan Bob Delyn a’r Ebillion yn eu halbwm cyntaf ers degawd a mwy. Golyga dawn dweud y Prifardd ei bod hi’n anodd gwahaniaethu weithiau, llifa’r cwbl yn hollol naturiol rhwng yr hen a’r newydd mewn cyfanwaith crefftus, yn debyg i ambell gasgliad o waith The Gentle Good. Anodd gweld bygythiad i ‘Trên Bach y Sgwarnogod’ fel cân ddawnsio’r band ar y casgliad yma, a pheth da hynny. Un i’r car neu’r parlwr ydi Dal i ’Redig Dipyn Bach ond dwi’n siŵr y bydd ambell gân yn troi’n anifail gwahanol iawn ar lwyfan byw, ‘Cyfod dy Wely’ yn un o bosib. Sôn am berfformiadau byw, mae yma ambell gân a fydd yn gyfarwydd i rai’n barod, mae’r hyfryd ‘Sŵn ar Gerdyn Post’ er enghraifft yn rhan o’r

sax, bombard, corn, trwmped, organ sax, bombard, cornet, trumpet, organ

Edwin Humphreys –

telyn tannau pres, gitâr acwstig, gitâr drydan, mandolin, charango metal strung harp, acoustic guitar, electric guitar, mandolin, charango

Gorwel Roberts –

llais, gitâr acwstig, telyn, organ geg vocals, acoustic guitar, harp, harmonica

Twm Morys –

Bob Delyn a’r Ebillion

Cân John Williams 0.00

Fy Mendith ar y Llwybrau 0.00 Waliau Caernarfon 0.00 Meur a Wech 0.00

Comin Abergwesyn 0.00

6

Y Mab Penfelyn 0.00

7

Cyfod dy Wely 0.00

8

Cardyn Post 0.00

9

10

Cân Begw 0.00 Rhydd 0.00

11

Cân Syndans 0.00

12

Dweud 0.00

13

Deryn Du 0.00

14

Gyda Mwynder 0.00

15

Nemet Dour 0.00

www.sainwales.com

BOB DELYN A’R EBILLION DAL I ’REDIG DIPYN BACH

1

2

3

4

5

Bob Delyn a’r Ebillion

5

set ers tro a braf clywed lle haeddiannol i eiriau Iwan Llwyd ar y record. Yn bymtheg trac, mae’n hir, ond does dim “llenwyr” yma, dim ond gwerth blynyddoedd o ganeuon da. Gwilym Dwyfor

0 1 6 8 8 6

sain scd2773

2 7 7 3 2 5

p

2017 sAIN (recordiau) cyf.

Cadno Cadno Nid sŵn “dinesig” (roc trwm a thywyll Breichiau Hir-aidd) sy’n perthyn i Cadno; yn hytrach, mae eu EP cyntaf yn bump trac ag alawon hamddenol braf, sy’n fwy nodweddiadol o’r bandiau gwledig. Mae’r trac cyntaf, ‘Bang Bang’, er enghraifft, yn gân gofiadwy sy’n ffitio’n ddestlus gyda nifer o fandiau sy’n cyfuno canu pop a gwerin ar hyn o bryd. Mae i ‘Helo, Helo’ naws chwareus, gyda geiriau tafod-

Gorwelion Calfari Os ’da chi fel fi ac erioed wedi dychmygu sut sŵn fyddech chi’n ei gael ar ôl i’r bandiau Puddle of Mudd a Vanta gael cyfathrach rywiol, yna sŵn Calfari ’di hwnnw. Does dim dwywaith bod y cynhyrchiad yn dynn ac yn sgleiniog ond does ‘na’m byd cyffrous am y record ac mae anghysondeb iddi hefyd. Mae ambell drac fel ‘Golau Gwyn’ fyddai’n ffitio’n berffaith yng nghystadleuaeth Cân i Gymru tra bod eraill fel ‘Storm’ yn gweld y prif ganwr Bryn Hughes Williams yn rhoi sesiwn ymarfer iawn i’w lais roc fel tasa fo’n Meat Loaf. Ond y teimlad mwya’ mae’r adolygydd yma wedi ei gael wrth wrando ar albwm newydd y band o Fôn yw déjà vu. Os dwi’n cau fy llygaid wrth wrando dwi’n mynd nôl i’r Llew Du yn Aberystwyth pan o’n i yn y brifysgol ddechrau’r ganrif. Yn anffodus, nes i ddim mwynhau’r brifysgol rhyw lawer a dwi’n teimlo union yr un fath am Calfari. Ciron Gruffydd

mewn-boch yn disgrifio carwriaeth chwerw-felys, a’r llais benywaidd yn ei gwneud hi’n anodd peidio cymharu ag artist fel Kate Nash neu Lily Allen ar ddechrau ei gyrfa. Hon, yn hytrach na’r traciau tywyllach a mwy difrifol eu naws, ‘Mel’ a ‘83’, sy’n serennu. Teimlaf fod ‘Haf’ hefyd dwtsh yn gawslyd ac ystrydebol, gan fradychu mai band ifanc sydd wedi creu’r casgliad. Serch hynny, cynigir EP gwreiddiol a diddorol gan fand o’r ddinas, a dyma aros yn eiddgar i weld beth fydd ganddynt i’w gynnig nesaf.  Miriam Elin Jones

Bach Bethan Mai ‘Bach’ sy’n agor yr EP, cân lawn synau synth gofodol a’r geiriau “Bach hedyn bob mawredd / Bach bob dyn a dybia’i hyn yn fawr” mewn ostinato drwyddi. Mae’n cyflwyno synau gwahanol drwy’r gân, o synau tincian metalaidd i sain synth traddodiadol, gyda chwymp sydyn yng nghanol y darn efallai yn drosiad am agwedd y dyn. ‘Aderyn Pur’ yw’r ail gân sydd fel y gyntaf yn cynnig digon o sain synth ond hefyd sain gitârs cryf. Mae’r llais yn amrywio drwy’r gân, o arddull canon i gôr i sibrwd - mae’n wahanol ond yn gweithio’n dda!  Mae’r EP yn cau gyda chân fer ond swynol iawn, ‘Wedi Mynd’, cân


Llais/Voice Mr Phormula Albwm cyfan wedi ei adeiladu gan un llais! Pob nodyn, rhythm ac effaith wedi ei wneud gan lais Ed ei hun! Mae’r syniad yn ddigon i ffrwydro pen rhywun ond mae ei glywed yn rhywbeth arall. Mae ’na LOT o adegau wrth wrando lle bysach chi’n taeru’n daer mai synth neu gyfrifiadur sy’n creu’r sain; y mwyaf RHAID amlwg ydi ‘Curiadau Trwm’ - anhygoel! GWRANDO Mae Mr Phormula hefyd yn dangos pa mor wych ydi ei sgiliau melodig ar un trac ar ddeg

cwbl wahanol i’r lleill ble mae llais unigryw Bethan yn asio’n berffaith â sain y piano. Mae’n siom mai ‘bach’ yw maint yr EP gan fy mod wedi mwynhau’r tri thrac yn fawr iawn. Rhys Tomos Lle Awn ni Nesa’? Patrobas Mewn gair – eclectig. Gallai rhai caneuon, drwy eu naws, berthyn i oes a fu, a dydy hynny ddim yn wendid. Enghraifft o hynny yw ‘Power to the People!’ nad yw’n cyfeirio at unrhyw ddigwyddiad na chyfnod, gallai fod yn hanes y Siartwyr neu Ferched Beca o ran sŵn a geiriau ond mae’n ddigon perthnasol i heddiw hefyd. Mae rhan gyntaf ‘Difyrrwch SieffSieffre’ yn debyg, yn werinol a naws dawns draddodiadol iddi. Hon yw’r gyntaf o ddwy gân offerynnol ar yr albwm, a’r ddwy’n rhoi cyfle i’r ffidlwr ddangos ei ddawn. Y gerddoriaeth sy’n gosod naws pob cân. Mae amrywiaeth o ganeuon o’r dechrau, mae ‘Creithiau’ yn agor yr albwm â sŵn mynachaidd-ganoloesol a dirgel cyn ein tynnu i’r presennol gyda sŵn mwy popi cyn trawsnewid eto i fod yn agos at ganu gwlad. A hynny i gyd yn slic o fewn yr un gân. Gallai ‘Dalinala’ fod yn ddeuawd o sioe gerdd o ran ei sain a’r stori amlwg sy’n cael ei hadrodd ac mae naws mwy pop ysgafn i ‘Merch y Môr’. Mae cerddoriaeth traddodiadol

Llais/Voice. Rydan ni wedi clywed lot o hooks catchy ganddo yn y gorffennol, ond mae traciau fel ‘Cwestiynau’ a ‘Lle Ma Dy Galon’ yn arddangos pa mor wych ydi Ed am sgwennu cerddoriaeth yn ogystal â rhoi curiad hip-hop gwyllt i’r sin Gymraeg. Os dwi wirioneddol isho pigo ar rywbeth, yr unig drac wnes i ddim mwynhau cymaint â’r gweddill oedd ‘Meicroffon’ gan fod yr emosiwn ar hwn ddim yn teimlo mor ddidwyll â’r lleill rywsut, ond mater o farn ydi hynny ac mae hwn dal yn wledd o glyfrwch rhythmig! Elain Llwyd

a chanu pop ysgafn mwy diweddar yma felly, a phopeth, bron, fu rhyngddynt. Bethan Williams Mae’n Anodd Deffro Uu Los Blancos O wrando ar nodau cyntaf y sengl hon, prin fod angen meddwl na gofyn o ba ardal y terddi Los Blancos, wrth i’r naws Caerfyrddin-aidd cryf ddod drosodd yn syth. Peth da yw hyn wrth gwrs ac arwydd o gyfoethogrwydd a chynnwrf y sin yng Nghaerfyrddin heddiw, gyda dylanwad bandiau megis Cpt. Smith ac Argrph i’w glywed yn gryf. Yn gyfuniad o riffiau bachog, offeryniaeth gadarn a geiriau di flewyn ar dafod, mae sain ‘Mae’n Anodd Deffro Un’ yn drymach na chynnyrch cynharach y band megis ‘Clarach’. Er hynny, mae’r naws weddol hamddenol a’r sain amrwd yn parhau, a hynny’n arwydd fod y band yn gyffyrddus a hyderus yn yr hyn sy’n cael ei greu. Heb os, dyma fand sy’n cynnig rhywbeth ffres i’r sin, sydd yn braf i’w weld. Edrychaf ymlaen i weld cyfeiriad nesaf Los Blancos. Ifan Prys

Toddi Yr Eira O’r diwedd, mae gan Yr Eira albwm ar y silffoedd a dwi’n amau’n gryf os daw dawn y band i ‘sgwennu clincars fyth i ben. Yn parhau i fod yn fand gitâr cryf, mae’r band wedi llwyddo i greu casgliad perffaith o ganeuon bachog a chofiadwy. Yn gyfuniad o draciau hamddenol ynghyd â rhai ychydig trymach, dyma gyfanwaith sy’n adlewyrchu dylanwad bandiau fel The Strokes a The Libertines. Dyma albwm dwyieithog sy’n sicr o ledaenu enw’r band, gyda ‘Rings Aroud Your Eyes’ a ‘Feeling Fine’ yn draciau sy’n sefyll allan. Dyma gasgliad hefyd sy’n adlewyrchu gallu’r band i ysgrifennu geiriau treiddgar sy’n mynd o dan groen themâu bywyd bob dydd ac sy’n aros yn y côf. Er bod caneuon cynharach megis ‘Elin’ yn parhau i gyffroi cynulleidfaoedd, teimlaf fod y gerddoriaeth wedi datblygu ac aeddfedu llawer ac mae’r albwm yma’n gofnod o hynny. Heb os dyma gyfanwaith cyffrous dros ben, a theimlaf fod Yr Eira wir wedi darganfod eu sŵn. Ifan Prys


adolygiadau Hyll Hyll Anela Hyll ‘Sling Shot’ atom ar ddechrau’r EP yma gan daro’r nod yn syth. Mae’r trac agoriadol yn llawn egni afieithus a brwdfrydedd heintus. Felly hefyd ‘Efrog Newydd, Efrog Newydd’, cân arall sy’n llawn agwedd, bwrlwm a riffs bachog. Her i unrhyw un sefyll yn llonydd wrth wrando ar ddechrau’r EP yma. Ceir naws fymryn yn wahanol yn ‘Ganja Cartref Mam’ sydd yn naturiol yn perthyn yn agosach i arddull stoner rock. Braf gweld band ifanc yn cael ychydig o hwyl a pheidio cymryd eu hunain ormod o ddifrif er gwaethaf eu talent amlwg. Dychwelir at yr arddull egniol mewn steil wrth iddynt barodio ‘Godro’r Fuwch’ yn ‘Cilio’ cyn iddynt brofi eu hyblygrwydd drachefn wrth orffen y casgliad gyda’r arafach, ‘Rhwng dy Galon a dy Gnau’. S’gen i’m llawer o fynadd efo’r trac olaf yma (mae o’n fy atgoffa i fymryn o ganeuon arafach Yws Gwynedd), ond dwi’n meddwl fod hynny gan fy mod i wedi mwynhau’r gweddill gymaint. Gwilym Dwyfor Neo Via Panda Fight Meh, iawn ydi o. Does dim prinder synth yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd ond mae’r arddull mwy poplyd a gawn gan Panda Fight fymryn yn wahanol i’r symudiad mwy amgen sydd wedi ennill tir dros y blynyddoedd diweddar. Chwa o awyr iach felly wrth i’r EP ddechrau’n gyffrous gyda synau 80au ‘Neo Via’ a ‘Tristitia’, ond buan iawn dwi’n diflasu a dweud y gwir. Dwi’n gwerthfawrogi’r grefft sydd ar waith yma ond rhywle rhwng ‘Neo Corde’ ac ‘Eletrica’ dwi’n dechrau meddwl ei fod o’n rhywbeth y gallai sawl un ei wneud. Hynny yw, mae digon o gerddorion a chynhyrchwyr talentog yn y sin Gymraeg a fyddai, gyda laptop ac ychydig o amynedd, yn

gallu rhoi tracs pop bachog fel hyn at ei gilydd cyn ychwanegu ychydig o sbarc gyda llais da. Ac mae llais Sara Davies yn un da, y trac olaf, ‘Dawel yw y dydd’ yw uchafbwynt yr EP heb os. Bechod nad ydym yn clywed mwy ohoni yn gynharach ar y casgliad. Gwilym Dwyfor Bwncath Bwncath Anaml fydda i’n cael y cyfle adolygu cerddoriaeth rhywun dwi’n gwybod cyn lleied amdanyn nhw ac mae hynny’n beth braf. Erbyn sylwi, roeddwn i wedi clywed dipyn ar drac agoriadol yr albwm hwn gan fod ‘Barti Ddu’ wedi cael sawl sbin ar raglenni “amser gyrru” Radio Cymru. Mae honno’n eithaf nodweddiadol o weddill y casgliad, offerynwaith hynod grefftus a llais hagr llawn cymeriad y prif leisydd, Llywelyn Elidir Glyn, yn ganolog. Mae’n anodd rhoi bys ar union arddull yma sydd wastad yn beth da ond yn sicr mae’r teimlad gwerinol a byw sydd yn cael ei greu yn hynod effeithiol ac yn bluen yn het gynhyrchu Robin Llwyd. Mae ‘Cân Lon’ yn uchafbwynt ac yn fy atgoffa o stwff Chris Jones. Er fy mod i’n dechrau diflasu tua dau neu dri thrac o’r diwedd, mae’r casgliad yn gorffen yn gryf gyda fersiwn hyfryd o gân enwog y diweddar Alun Sbardun Huws, ‘Coedwig ar Dân’, teyrnged deilwng a recordiwyd fel rhan o Sesiynau Sbardun Radio Cymru. Gwilym Dwyfor

Yr Oria Yr Oria Daw EP cyntaf y bois o Flaenau ar yr adeg iawn cyn yr haf, gyda’r cyfuniad o indie-pop hafaidd sy’n hybrid o sŵn Calfari a Sŵnami yn siŵr o daro tant. Mae ‘Cyffur’ yn agoriad cryf a phendant, gyda’r gitarau byrlymus yn drawiadol iawn. O’r cyfan oll, ‘Casglu Calonnau’ yw’r trac mwyaf bachog, er ei fod yn debyg IAWN i stwff Sŵnami. Gallaf rwydd ddychmygu torf o bobl ifanc yn dawnsio i’r caneuon yma yn gigs Steddfod. Ar y llaw arall, mae ‘Cyfoeth Budur’ a ‘Rebals’ dwtsh yn gawslyd, ond mae ôl polish proffesiynol ar y cyfanwaith. Serch y prif lais atyniadol, teimlai’r casgliad braidd yn ddienaid, bod gormod o’r polish yna ar y gwaith cynhyrchu wedi dileu’r hyn o emosiwn o’r geiriau sydd, ar bapur, yn rhai angerddol iawn.  Dyma EP sy’n ddeniadol iawn i’r glust, ac arni draciau fydd yn siŵr o liwio arlwy Radio Cymru a gigs Steddfod yn ystod yr haf.  Miriam Elin Jones Aros o Gwmpas Omaloma Sŵn cyfarwydd sydd i hon, does dim byd arbrofol nac anarferol. Ond mae’n hawdd gwrando arni felly, fel cân yn y cefndir neu byddai’n ddigon rhwydd dawnsio iddi hefyd gan fod bît digon cryf a rhwydd iddi. Mae’n chwarae’n saff gyda strwythur syml, a lyrics sy’n cael eu hailadrodd. Daw llais benywaidd tua’r canol, a’r cyfeiliant dipyn mwy syml; a’r ddau lais yn cyd-ganu gyda’r cyfeiliant gwreiddiol tuag at y diwedd, gan gynnal diddordeb. Mae’n gorffen yn ddigon disymwth ond yn cael ei thorri yn ei blas. Cân ddigon bachog oherwydd ei symlrwydd. Bethan Williams


www.aber.ac.uk

Dyma Lleoedd ar gael drwy Clirio

le

0800 121 40 80

Y SELAR

Dewch i’n gweld ar Faes yr Eisteddfod ac ar Faes B!

27


28

Y SELAR

Y Selar - Awst 2017