2017
Wales One World Film Festival Gŵyl Ffilm Cymru a’r Byd yn Un
www.wowfilmfestival.com
Nostalgia for the Light
Friday 24 - Thursday 30 March Dydd Gwener 24 - Dydd Iau 30 Mawrth
WOW 2017
WOW 2017
A celebration of the wonderful diversity of global filmmaking, WOW Film Festival brings the very best of world cinema to Aberystwyth on a journey that takes in Nepal, Thailand, Chile, Colombia, Mali and Palestine.
Yn ddathliad o amrywiaeth aruthrol gwneud ffilmiau ar draws y byd, daw Gŵyl Ffilm WOW â’r goreuon ymhlith sinema’r byd i Aberystwyth ar siwrnai bydd yn eich tywys i Nepal, Gwlad y Thai, Chile, Colombia, Mali a Phalesteina. Ar draws y byd mae lleisiau gwrthsafiad yn uchel eu croch mewn protest yn erbyn y grymoedd nerthol sy’n ffurfio ein bywydau a byddwn yn rhoi llais i rai o’r lleisiau hyn yma. Mewn partneriaeth â’r Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol, ac yn gysylltiedig â’i harddangosfa Lleisiau Wedi Eu Pwytho, rydym wedi gosod ynghyd ein tymor “Lleisiau Gwrthsafiad”. Mae hwn yn cynnwys Neruda, am y bardd o Chile, Shadow World am y fasnach arfau byd-eang, Those Who Jump sy’n adrodd stori o lygad y ffynnon am ymfudwr o Mali, Ambulance, The War Show a’r ffilm ddogfen ecolegol galonogol Tomorrow (Demain).
All around the world voices of resistance are being raised in protest against the powerful forces that shape our lives and we’re showcasing some of those voices here. In partnership with the International Politics department, linked to their Stitched Voices exhibition, we have put together our “Voices of Resistance” season. This includes Neruda, about the great Chilean poet, Shadow World about the global arms trade, Those Who Jump that tells a migrant’s story from the inside, Ambulance, The War Show and feel-good, feel-active eco-doc, Tomorrow (Demain). Alongside the films there will be the chance to join in with discussions and get involved in local and global campaigns. So don’t just watch, act!
Ynghyd â’r ffilmiau mae ‘na gyfle i ymuno â’r trafodaethau ac ymwneud ag ymgyrchoedd lleol a byd-eang. Felly peidiwch â gwylio’n unig, gwnewch rywbeth!
David Gillam Wales One World Film Festival Director / Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Cymru a’r Byd yn Un
WOW Festival Pass: £50 (£40 concessions)
Cinema tickets: £6.50 Adult / £6 OAP/ £5.50 Student and U’18’s £5 Silver Screenings (Free Tea and Coffee) Aberystwyth Arts Centre SY23 3DE
Pas Gŵyl Ffilm WOW: £50 (£40 consesiynau)
Prisiau tocynnau sinema: £6.50 Oedolion / £6 Pensiynwyr £5.50 Myfyrwyr a dan 18 oed £5 Tocynnau ‘Silver Screenings’ (Te a Choffi am ddim) Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, SY23 3DE
WOW Wales One World Film Festival is an initiative of David Gillam, Aberystwyth Arts Centre and Taliesin Arts Centre. / Mae Gŵyl Ffilm WOW Cymru a’r Byd yn Un yn fenter ar y cyd rhwng David Gillam, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chanolfan Gelfyddydau Taliesin.
The Colours of the Mountain (15 tbc) Director / Cyfarwyddwr: Carlos César Arbeláez Starring / Yn serennu: Hernán Mauricio Ocampo, Hernán Méndez, Nolberto Sanchez Colombia/Panama, 2010, 90 minutes/munud, subtitles/isdeitlau
Friday 24 March, 5.45pm
Nos Wener 24 Mawrth, 5.45yh
UN International Day for the Right to Truth
Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig yr Hawl am Wirionedd
A charming, gentle tale about a group of village boys caught in the crossfire of civil war. In the lush breathtakingly green Colombian mountains, Manuel, Julian and Poca Luz enjoy a simple life where a football or set of coloured pencils is a treasured gift. With both paramilitaries and guerrillas a regular presence, Manuel’s parents argue about leaving. But for the inseparable boys the biggest disaster is that their precious football lies stranded in a minefield. Thanks to vivid performances from all the boys and a well-observed script that neatly balances the harsh realities of peasant life with the innocent joys of childhood, this is a poignant portrait of life in the shadow of conflict.
Stori hyfryd am griw o fechgyn pentref wedi eu dal ynghanol brwydro rhyfel cartref. Ym mynyddoedd gleision, ffrwythlon Colombia, mae Manuel, Julian a Poca Luz yn mwynhau bywyd syml ac mae pêl-droed neu set o bensiliau lliw yn bethau i’w trysori. Gyda lledfilwyr a herwfilwyr yn aml yn bresennol, mae rhieni Manuel yn dadlau ynglŷn â gadael. Ond i’r cyfeillion mynwesol, y trychineb mwyaf yw bod eu pêl-droed yn gorwedd ynghanol maes ffrwydron. Gyda diolch i berfformiadau nwyfus gan y bechgyn a sgript sylwgar sy’n cydbwyso’n gelfydd realiti creulon bywyd gwerinol â phleserau diniwed plentyndod, dyma i chi bortread ingol o fywyd yng nghysgod gwrthdaro.
“Quietly assured....” New York Times + Introduction by Roberta Bacic, curator of ‘Stitched Voices’ exhibition + Cyflwyniad gan Roberta Bacic, curadur arddangosfa ‘Stitched Voices’ Book online / Archebwch ar-lein: www.aberystwythartscentre.co.uk
Shadow World (15 tbc) + discussion/trafodaeth Director / Cyfarwyddwr: Johan Grimonprez Starring / Yn serennu: Andrew Feinstein, David Leigh, Helen Garlick USA/Yr Unol Daleithiau America, 2016, 90 minutes/munud
Friday 24 March, 8.15pm
Nos Wener 24 Mawrth, 8.15yh
A smart, hard-hitting look at the global arms trade, the vast sums of money that are made and the corruption that creates. Fascinating interviews reveal the shocking realities of Britain’s central role in this dirty trade that counts its profits in billions and its losses in human lives. Based on Andrew Feinstein’s globally acclaimed book this is extremely good at clearly presenting information and then showing the consequences. Masterfully edited and well illustrated with pertinent clips, this deftly weaves the multiple strands of its global story into a compelling case against the guilty parties. In the hope that if we better understand what really goes on, we can see through the horror, and create a better future.
Ystyriaeth graff, drawiadol ar y fasnach arfau byd-eang, y symiau enfawr o arian a wneir a’r llygredd mae hynny’n ei greu. Mae cyfweliadau hynod ddiddorol yn amlygu realiti ysgytiol rôl ganolog Prydain yn y fasnach fudr hon sy’n cyfrif yr elw mewn miliynau a’r colledion mewn bywydau dynol. Yn seiliedig ar lyfr clodfawr Andrew Feinstein, mae’r ffilm yn llwyddo’n dda i gyflwyno’n glir ac yna i ddangos y canlyniadau. Wedi ei golygu’n gelfydd a’i darlunio’n effeithiol gyda chlipiau perthnasol, mae’n gwau aml-geinciau ei stori fyd-eang yn fedrus er mwyn creu achos nerthol yn erbyn y partïon euog. Y gobaith yw, os deallwn yn well yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd, y gallwn weld trwy’r arswyd a chreu dyfodol gwell.
“ . . . superb, gut-punching exploration of the global arms trade is the sort of catalyst to energize politically-minded viewers.” Variety + Panel discussion with author Andrew Feinstein + Trafodaeth banel gyda’r awdur Andrew Feinstein Winner of the Best Documentary Award Edinburgh International Film Festival Enillydd Gwobr y Ffilm Ddogfen Orau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin Book online / Archebwch ar-lein: www.aberystwythartscentre.co.uk
Nausicaä of the Valley of the Wind (PG) Director / Cyfarwyddwr: Hayao Miyazaki Japan, 1984, 118 minutes/munud, subtitles/ isdeitlau The F-Rating is a new film rating that highlights films made by women and featuring strong female roles. Mae’r Statws-F yn radd ffilm newydd sy’n amlygu ffilmiau a grëwyd gan fenywod neu sy’n cynnwys rolau benywaidd cryf.
Saturday 25 March, 2.30pm
Dydd Sadwrn 25 Maw, 2.30yp
A visual marvel, Hayao Miyazaki’s (Spirited Away, Totoro) breathtaking sci-fi/fantasy epic about a nature loving warrior princess brought a new artistic credibility to anime and created the blueprint for Studio Ghibli’s powerful female heroines. A thousand years after the great war, a toxic jungle fiercely guarded by giant insects threatens to engulf the world. Fearing the jungle, a rival clan seeks to revive a monstrous biological weapon in order to control its spread. But can Nausicaä protect the people of the Valley of the Wind, halt the escalation to war and restore the bond between humanity and the earth? Miyazaki’s ecological and anti-war messages are more vital today than ever.
Yn wledd weledol, daeth epig ffuglen wyddonol syfrdanol Hayao Miyazaki (Spirited Away, Totoro) am dywysoges ryfelgar sy’n caru natur â hygrededd artistig newydd i anime a chreodd y glasbrint ar gyfer arwresau grymus Studio Ghibli. Mil o flynyddoedd ar ôl y rhyfel mawr, mae jyngl gwenwynig wedi ei warchod gan bryfed enfawr yn bygwth amlyncu’r byd. Gan ofni’r jyngl, mae llwyth gelyniaethus yn ceisio adfer arf biolegol ofnadwy er mwyn rheoli ei ledaeniad. Ond a all Nausicaä amddiffyn pobl y Valley of the Wind, stopio’r rhyfel rhag gwaethygu ac adfer y rhwymyn rhwng dynoliaeth a’r ddaear? Mae negesau ecolegol ac yn erbyn rhyfel Miyazaki yn fwy hanfodol heddiw nag erioed.
“a dreamlike thing of beauty” Empire + Studio Ghibli costume competition / + Cystadleuaeth gwisg Studio Ghibli
Aberystwyth Arts Centre 01970 62 32 32 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
By The Time It Gets Dark (15 tbc) Director / Cyfarwyddwr: Anocha Suwichakornpong Starring / Yn serennu: Arak Amornsupasiri, Apinya Sakuljaroensuk, Atchara Suwan France/Netherlands/Qatar/Thailand/ Ffrainc/Yr Iseldiroedd/Gwlad y Thai 2016 105’, subtitles/isdeitlau
Saturday 25 March, 5.30pm
Dydd Sadwrn 25 Maw, 5.30yp
Mesmerising and haunting, this examines Thailand’s legacy of political repression, all the while giving a thrilling glimpse of cinema’s myriad possibilities. A bold, unusual film that intertwines the lives of a famous political activist, a young documentary filmmaker, a pop star, and a waitress, all of whom were touched by a student massacre. This dizzying, elliptical journey touches on the power of celebrity, dreams, fungus, telekinesis, activism and a host of other topics along the way. Suwichakornpong confidently employs a variety of filmmaking styles to create a provocative, playful exploration of memory, politics and cinema.
Yn fesmereiddiol ac yn atgofus, mae’r ffilm hon yn archwilio etifeddiaeth gormes wleidyddol Gwlad y Thai, wrth roi cipolwg cyffrous o bosibiliadau di-ri sinema. Ffilm eofn, anghyffredin sy’n ymblethu bywydau gweithredydd gwleidyddol enwog, gwneuthurwr ifanc ffilmiau dogfen, seren bop, a gweinyddes, sydd oll wedi eu heffeithio gan laddfa o fyfyrwyr. Yn siwrnai syfrdanol sy’n crybwyll grym enwogrwydd, breuddwydion, ffwng, telecinesis, actifiaeth a llu o bynciau eraill ar hyd y ffordd. Mae Suwichakornpong yn defnyddio amrywiaeth o arddulliau gwneud ffilm yn hyderus er mwyn creu archwiliad pryfoclyd, chwareus o gof, gwleidyddiaeth a sinema.
“a thrilling glimpse of the possibilities of cinema.” London Film Festival
Book online / Archebwch ar-lein: www.aberystwythartscentre.co.uk
Neruda (15) Director / Cyfarwyddwr: Pablo Larraín Starring / Yn serennu: Luis Gnecco, Gael García Bernal, Mercedes Morán Chile/Argentina/Yr Ariannin/France/Ffrainc /Spain/Sbaen, 2016, 108 minutes/munud, subtitles/isdeitlau
Saturday 25 March, 8.15pm
Nos Sadwrn 25 Mawrth, 8.15yh
Larraín (Jackie, No) fuses history, legend and fiction to powerful effect in this bold, stunningly inventive detective thriller and ‘anti-bio’. This is a fascinating examination of how we create the story of our own lives - particularly if you’re a vain, self-publicist like the great Nobel-prize winning poet, Pablo Neruda. Chile, late 1940s, Neruda is on the run from a government crack down. Peluchonneau, the dogged detective on his tail, and Neruda become two poles of an intertwined narrative, both determined to create their own myths, one as the smart top detective, the other as a great romantic poet and hero of the people. Beautifully made with a fabulous understated performance from Bernal and a sharp, wonderfully observed script, this is a lot of fun.
Mae Larraín (Jackie, No) yn asio hanes, chwedl a ffuglen yn effeithiol yn y ffilm gyffro ditectif a’r ‘gwrth-fywgraffiad’ eofn, a hynod ddyfeisgar hon. Mae’n ymchwiliad diddorol tu hwnt o sut yr ydym yn creu stori am ein bywydau ni ein hunain - yn enwedig os ydych yn ymffrostgar a choegfalch fel y bardd mawreddog a’r enillydd Gwobr Nobel, Pablo Neruda. Yn Chile, ar ddiwedd y 1940au, mae Neruda yn ffoi rhag llymder y llywodraeth. Mae Peluchonneau, y ditectif penderfynol sy’n ei ganlyn a Neruda yn ddau begwn mewn naratif sy’n ymblethu, y ddau yn benderfynol o greu eu mythau eu hun, un fel y ditectif arweiniol craff, y llall fel bardd rhamantaidd mawreddog ac arwr y bobl. Wedi ei chreu mewn modd celfydd gyda pherfformiad cynnil gwych gan Bernal a sgript, sionc, sylwgar, mae’r ffilm hon yn dipyn o hwyl.
“a dizzying cinematic adventure filmed with playful virtuosity.” London Film Festival
Aberystwyth Arts Centre 01970 62 32 32 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Those Who Jump (PG tbc) Directors / Cyfarwyddwyr: Moritz Siebert, Estephan Wagner, Abou Bakar Sidibé Denmark/Denmarc, 2016, 80 minutes/munud, subtitles/isdeitlau
Sunday 26 March, 2.30pm
Dydd Sul 26 Mawrth, 2.30yp
A compelling, authentic first-hand account of the plight of refugees told from their own perspective. Camped out overlooking Melilla, the tiny Spanish port on North Africa’s Mediterranean coast, Malian refugee Abou Bakar Sidibé is given a camera to document the daily life of his fellow refugees. The long periods of tedium and hassle are punctuated by fruitless attempts to jump the fences to get to their European El Dorado. Contrasting with this intimate footage are the abstract, de-humanising CCTV images that track the refugees as they storm the fences. With increasing skill Sidibé reveals the camaraderie between the migrants from all over Africa in their daily struggle to survive - their hopes, dreams and stoical humour.
Cyfrif cymhellol, dilys o lygad y ffynnon am gyflwr ffoaduriaid wedi ei adrodd o’u safbwynt nhw eu hunain. Yn gwersylla uwchben Melilla, porthladd bychan Sbaenaidd ar arfordir Môr y Canoldir, Gogledd Affrica, rhoddir camera i’r ffoadur o Mali, Abou Bakar Sidibé er mwyn dogfennu bywyd beunyddiol ei gyd-ffoaduriaid. Torrir ar draws y cyfnodau hir o ddiflastod gan gynigion diffrwyth i neidio’r ffensys i gyrraedd eu El Dorado Ewropeaidd. Yn cyferbynnu gyda’r ffilmio personol, mae’r delweddau CCTV haniaethol, sy’n dad-ddyneiddio ac yn dilyn y ffoaduriaid wrth iddynt ymosod ar y ffensys. Gyda dawn gynyddol, mae Sidibé yn datgelu’r cyfeillgarwch ymhlith y ffoaduriaid o bob cwr o Affrica yn eu brwydr ddyddiol i oroesi - eu gobeithion, breuddwydion a’u hiwmor stoicaidd.
“A riveting form of home movie where home itself is entirely off limits...” Hollywood Reporter Winner of the Ecumenical Jury Prize Berlin Film Festival 2016 Enillydd Gwobr Beirniaid Eciwmenaidd Gŵyl Ffilm Berlin 2016 Book online / Archebwch ar-lein: www.aberystwythartscentre.co.uk
The Future Perfect (pg tbc) Director / Cyfarwyddwr: Nele Wohlatz Starring / Yn serennu: Xiaobin Zhang, Saroj Kumar Malik, Mian Jiang Argentina/Yr Ariannin, 2016, 65 minutes/munud subtitles /isdeitlau
Sunday 26 March, 5.00pm
Dydd Sul 26 Mawrth, 5.00yp
Playful, touching and smart, with the lightest of touches this tale of a young Chinese migrant finding her feet in Buenos Aires covers a lot of ground in its brief running time. Finding a job and learning Spanish are Xiaobin’s first priorities. Both bring with them the dilemmas of human relationships. From this simple starting point this delightfully original comedy of manners builds a fascinating exploration of the stories we live by, the limits of language, and why we believe what we do when watching a film. Demonstrating a great sense of the possibilities of cinema, the sharp shifts and subtle surprises in the final reel will leave you with much to ponder.
Yn chwareus, yn deimladwy ac yn gynnil, gyda’r mynegiant ysgafnaf, mae’r stori hon am fudwr ifanc o Tsieina yn ymgyfarwyddo â Buenos Aires yn ymdrin â llawer o bynciau mewn byr amser. Dod o hyd i swydd a dysgu Sbaeneg yw blaenoriaethau cyntaf Xiaobin. Daw’r ddau beth a phenblethau perthynas ddynol yn eu sgil. O’r man cychwyn syml hwn, mae’r comedi moesau gwreiddiol a hyfryd hon yn adeiladu archwiliad diddorol o’r straeon sy’n ein llywio, ffiniau iaith, a pham y credwn yr hyn a wnawn wrth wylio ffilm. Yn arddangos synnwyr craff o bosibiliadau sinema, bydd y shifftiau sionc a’r syndod cynnil yn gadael llawer i chi gnoi cul yn ei gylch.
“a delight to find a film that’s so insightful about issues of identity, exile, language and self — and at the same time, so elegantly funny.” Jonathan Romney Winner Locarno International Film Festival Best First Feature Award 2016 Enillydd Gwobr Ffilm Gyntaf Orau Gŵyl Ffilm Ryngwladol Locarno 2016
Aberystwyth Arts Centre 01970 62 32 32 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ambulance (15 tbc) Director / Cyfarwyddwr: Mohamed Jabaly Palestine/Norway/Palesteina/Norwy, 2016, 80 minutes/munud, subtitles/isdeitlau
Monday 27 March, 5.45pm
Nos Lun 27 Mawrth, 5.45yh
This is an extraordinary raw, first person account of the last war in Gaza. As the war begins, Mohamed Jabaly picks up his camera and joins an ambulance crew. Watching the horror unfold as the crew speeds to the aftermath of each attack gives him a unique perspective on the heroism of the crew and the suffering of ordinary Palestinians. A dizzying, frequently distressing but essential act of witness, Jabaly’s deadpan commentary cuts through the rhetoric to show the stark reality of life in Gaza. Giving us a glimpse of war like no other, this vividly conveys the anger, grief and resilience of people trapped in a situation over which they have no control alongside the dedication (and humour) of the ambulance crew.
Dyma i chi gyfrif uniongyrchol hynod gignoeth o’r rhyfel diwethaf yn Gaza. Wrth i’r rhyfel gychwyn mae Mohamed Jabaly yn casglu ei gamera ac yn ymuno â chriw ambiwlans. Mae gwylio’r arswyd yn datblygu wrth i’r criw rhuthro i safle bob ymosodiad yn rhoi persbectif unigryw iddo i arwriaeth y criw a dioddefaint Palesteiniaid cyffredin. Yn dystiolaeth bensyfrdanol, sydd yn fynych yn dorcalonnus ond eto’n hanfodol, mae sylwebaeth ddigyffro Janaly yn torri drwy’r rhethreg i ddangos realaeth noeth bywyd yn Gaza. Gan gynnig cipolwg o ryfel unigryw, mae’r ffilm hon yn cyfleu dicter, galar a gwrthsafiad y bobl sydd wedi eu dal mewn sefyllfa nad oes ganddynt unrhyw reolaeth drosti ochr yn ochr ag ymroddiad (a hiwmor) criw’r ambiwlans.
“creates a wider, more thoughtful portrait of a city under siege and becomes a fascinating testimonial to personal and collective resilience.” Screen International
Book online / Archebwch ar-lein: www.aberystwythartscentre.co.uk
Wulu (15 tbc) Director / Cyfarwyddwr: Daouda Coulibaly Starring / Yn serennu: Ibrahim Koma, Inna Modja, Ismaël N’Diaye France/Ffrainc/Senegal, 2016, 95 minutes/munud, subtitles/isdeitlau
Monday 27 March, 8.15pm
Nos Lun 27 Mawrth, 8.15yh
Fuelled by a high-octane central performance this is a constantly absorbing thriller about a likeable, optimistic and street-wise young man’s rise from bus conductor to big-time drug dealer. Wulu shows a rather different picture of Mali than usual, intelligently connecting Ladji’s rise and fall to the political events that led up to Mali’s 2012 coup. Determined to get his sister out of prostitution, Ladji dodges the double-crosses, survives a shoot out in the desert and rises swiftly to the top of the drugs trade. Of course the good times don’t last. Like a Malian riff on Scarface, this is a telling tale of modern Africa where drugs are traded for weapons that fuel civil wars across the continent.
Wedi ei gyrru gan berfformiad canolog egnïol, dyma i chi ffilm gyffro sy’n eich cyfareddu o’r dechrau i’r diwedd am ddyn ifanc dymunol, optimistaidd a chraff a’i ddatblygiad o docynnwr bws i brif ddeliwr cyffuriau. Mae Wulu yn dangos darlun tra gwahanol na’r arfer o Mali, gan gysylltu’n ddeallus cynnydd a chwymp Ladji â’r digwyddiadau gwleidyddol a arweiniodd at wrthryfel Mali yn 2012. Yn benderfynol o achub ei chwaer o buteindra, mae Ladji yn osgoi’r twyllo, yn goroesi brwydr gynnau yn yr anialwch ac yn codi’n gyflym i frig y fasnach gyffuriau. Wrth gwrs nid yw’r amserau da yn parhau. Fel riff Mali ar Scarface, mae hon yn stori drawiadol am yr Affrica fodern lle caiff cyffuriau eu masnachu am arfau sy’n bwydo rhyfeloedd cartref ar draws y cyfandir.
“Coulibaly’s potent and enigmatic film exudes style and brio, right up to its surprising end.” London Film Festival
Aberystwyth Arts Centre 01970 62 32 32 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Clash (15 tbc) Director / Cyfarwyddwr: Mohamed Diab Starring / Yn serennu: Nelly Karim, Hany Adel, Tarek Abdel Aziz Egypt/France/Germany/Yr Aifft/Ffrainc/Yr Almaen, 2016, 97 minutes/munud, subtitles/isdeitlau
Tuesday 28 March, 5.45pm
Nos Fawrth 28 Mawrth, 5.45yh
Entirely set in the back of a police truck, this ferociously well-made film paints a fascinating portrait of contemporary Egypt. Both supporters of the Morsi government and anti-Morsi protestors are out on the street demonstrating. In the chaos innocent bystanders, journalists and fierce political rivals are rounded up and thrown in the back of a truck. From this simple set-up, Diab weaves a striking story told with real cinematic verve. Tensions run high as they await their fate during a long hot day locked together. As riots explode around them we feel their claustrophobia, anger, fear, horror, despair, and glimmers of hope. A masterful depiction of a society torn apart by its differences, this builds powerfully to a breathless finale.
Wedi ei gosod yn gyfan gwbl yng nghefn tryc yr heddlu, mae’r ffilm hon, sydd wedi ei saernïo’n wych, yn paentio darlun diddorol iawn o’r Aifft gyfoes. Mae cefnogwyr llywodraeth Morsi a phrotestwyr gwrth-Morsi ar y strydoedd yn protestio. Yng nghanol yr anrhefn caiff gwylwyr diniwed, newyddiadurwyr a gelynion gwleidyddol eithaf eu casglu ynghyd â’u taflu i gefn tryc. O’r gosodiad syml hwn, mae Diab yn gweu stori drawiadol gyda gwir egni sinematig. Mae tensiwn yn yr awyr wrth iddynt ddisgwyl eu tynged ar ôl treulio diwrnod hir a phoeth wedi eu cloi gyda’i gilydd. Wrth i derfysgoedd ffrwydro o’u cwmpas, teimlwn eu clawstroffobia, dicter, ofn, arswyd, anobaith, ac ambell lygedyn o obaith. Darlun celfydd o gymdeithas wedi ei rhwygo ar led gan ei gwahaniaethau, adeilada’r ffilm hon at ddiweddglo syfrdanol.
“this is bravura filmmaking with a kick-in-the-gut message . . . .” Variety
Book online / Archebwch ar-lein: www.aberystwythartscentre.co.uk
The Salesman (12A) Director / Cyfarwyddwr: Asghar Farhadi Starring / Yn serennu: Shahab Hosseini, Taraneh Alidoosti, Babak Karimi Iran, 2016, 143 minutes/munud, subtitles/isdeitlau
Tuesday 28 March, 8.15pm
Nos Fawrth 28 Mawrth, 8.15yh
Farhadi (A Separation, The Past) continues to astonish with this beautifully modulated portrait of a man, a marriage, and a society where nothing is quite as it seems. Emad is a kind and considerate English teacher who is also performing in Death of A Salesman. When his wife, Rana, is attacked in their new apartment, Emad is set on a long slow revenge that inevitably ends in tragedy. As matters of conscience and social pressure tighten the noose on a set of well-drawn characters this becomes a masterclass in complex moral questioning. Gently ratcheting up the tension with some deft narrative moves Farhadi gives his superb cast full rein to create a serious reflection on guilt and shame, trust and forgiveness.
Mae Farhadi (A Separation, The Past) yn parhau i syfrdanu gyda’r portread hyfryd hwn o ddyn, priodas, a chymdeithas lle nad yw unrhyw beth fel yr ymddengys. Mae Emad yn athro Saesneg caredig ac ystyriol sydd hefyd yn perfformio mewn Death of A Salesman. Pan ymosodir ar ei wraig, Rana, yn eu fflat newydd, mae Emad yn benderfynol o dalu’r pwyth yn ôl mewn modd hir ac araf, sydd yn anochel yn arwain at drasiedi. Wrth i faterion o gydwybod a phwysau cymdeithasol tynhau o gwmpas y set o gymeriadau cytbwys, try’r ffilm hon yn ddosbarth meistr mewn cwestiynu moesol cymhleth. Gan gynyddu’r tyndra’n gelfydd gyda naratif craff, mae Farhadi yn rhoi cyfle i’w gast penigamp greu myfyrdod dwys ar euogrwydd a chywilydd, ffydd a maddeuant.
“Gripping” Rolling Stone Winner Best Actor and Best Screenplay Cannes Film Festival 2016 Enillydd Gwobr yr Actor Gorau a’r Sgript Ffilm Orau yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2016 Aberystwyth Arts Centre 01970 62 32 32 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Nostalgia for The Light (12A) Directors / Cyfarwyddwyr: Patricio Guzman Starring / Yn serennu: Gaspar Galaz, Lautaro Núñez, Violeta Berrios Chile, 2010, 94 minutes/munud, subtitles/isdeitlau
Wednesday 29 March, 2.30pm
Dydd Mercher 29 Maw, 2.30yp
An illuminating, fascinating and finally very moving meditation on time and place and the enduring importance of memory, curiosity, courage and conscience. In the vast Atacama Desert, astronomers peer deep into the cosmos in search for answers concerning the origins of life. Nearby, a group of women sift through the sand searching for the bodies of loved ones, dumped unceremoniously by Pinochet’s regime. The director of Battle of Chile, Guzman’s diverse concerns – astronomy, geology, archaeology, history, politics – are deftly woven together to create a film of rare visual poetry that’s simultaneously personal, political and philosophical.
Myfyrdod dadlennol, diddorol a thrawiadol iawn yn y pendraw ynghylch man a lle a phwysigrwydd bythol cof, chwilfrydedd, gwroldeb a chydwybod. Yn ehangder Anialwch Atacama, mae seryddwyr yn craffu’n ddwfn i’r hollfyd i chwilio am atebion ynglŷn â tharddiadau bywyd. Gerllaw, mae grŵp o fenywod yn sifftio trwy’r tywod yn chwilio am gyrff pobl sy’n annwyl iddynt, wedi eu dympio yno gan gyfundrefn Pinochet. Mae cyfarwyddwr Battle of Chile, yn gwau ynghyd yn gelfydd pynciau amrywiol Guzman seryddiaeth, daeareg, archaeoleg, hanes, gwleidyddiaeth - i greu ffilm o farddoniaeth weledol prin, sy’n bersonol, gwleidyddol ac yn athronyddol ar yr un pryd.
+ short, Samuel, Chile, 2015, 11 mins. Hand-drawn animation illustrates this survivor’s tale.
+ ffilm fer, Samuel, Chile, 2015, 11 munud. Animeiddio â llaw yn darlunio stori goroeswr.
“A film that makes you ponder the mysteries of human existence anew.” Screen International Book online / Archebwch ar-lein: www.aberystwythartscentre.co.uk
The War Show (15 tbc) Directors / Cyfarwyddwyr: Andreas Dalgaard, Obaidah Zytoon Denmark/Germany/Syria/Denmarc/Yr Almaen/Syria, 2016, 100 minutes/munud, subtitles/isdeitlau
Wednesday 29 March, 5.45pm
Nos Fercher 29 Mawrth, 5.45yh
This charts Syria’s devastating civil war through an intimate portrait of a group of optimistic young friends hungry for change. They take to the streets with a smile and a song, but soon they feel the full force of the government’s brutal backlash of torture, death and destruction. A radio DJ in Damascus Obaidah Zytoon is a fearless witness travelling the country trying to make sense of the chaos as her friends disappear. Increasingly she realises how much depends on the media coverage of events staged for the benefit of the camera - performance as propaganda, ‘a war show’ indeed. Essential viewing, this is a heart-rending attempt to document the unimaginable horrors of civil war.
Mae’r ffilm hon yn siartio rhyfel cartref distrywiol trwy bortread personol o grŵp o ffrindiau ifanc optimistaidd sy’n awchu am newid. Maent ar y strydoedd gyda gwên a chan, ond cyn hir byddant yn teimlo holl rym adlach artaith, marwolaeth a distryw. Mae Obaidah Zytoon, DJ radio yn Damascus, yn dyst gwrol sy’n teithio’r wlad i wneud synnwyr o’r anrhefn wrth i’w ffrindiau ddiflannu. Sylweddola’n fwyfwy faint sy’n dibynnu ar sylw’r cyfryngau o ddigwyddiadau a lwyfannwyd er lles y camera - perfformiadau o bropaganda, sef ’sioe ryfel’. Gwylio hanfodol, dyma i chi ymgais dorcalonnus i ddogfennu arswyd rhyfel cartref sydd y tu hwnt i’r dychymyg.
“A deeply affecting documentary” Variety Winner Fedeora International Film Critics Award for Best Film Venice Film Festival 2016 Enillydd Gwobr Beirniaid Ffilm Ryngwladol Fedeora am y Ffilm Orau yng Ngŵyl Ffilm Fenis 2016
Aberystwyth Arts Centre 01970 62 32 32 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Tomorrow (demain) (pg tbc) + discussion/trafodaeth Directors / Cyfarwyddwyr: Melanie Laurent, Cyril Dion Starring / Yn serennu: Rob Hopkins, Jeremy Rifkin, Vandana Shiva France/Ffrainc, 2015, 118 minutes/munud, subtitles/isdeitlau
Wednesday 29 March, 8.15pm
Nos Fercher 29 Mawrth, 8.15yh
This is an inspiring, timely movie about the best ways to solve our ecological crisis. Presented in five key chapters that lay out clearly and simply the work of pioneers who are reinventing agriculture, energy, the economy, democracy and education. From the Bristol Pound and Detroit’s urban farms to Copenhagen, where 70% of the energy consumed comes from non-fossil fuels, this reveals the positive, concrete solutions that already work. Lively and bright, this is a comprehensive look at ways in which activists and everyday citizens are making the world a better, greener, more sustainable place. A feel-good, feel-active eco-doc that shows the emergence of what could be tomorrow’s world. . .
Dyma i chi ffilm ysbrydoledig, amserol am y dulliau gorau o ddatrys ein hargyfwng ecolegol. Wedi ei chyflwyno mewn pum brif bennod sy’n gosod allan yn glir ac yn syml waith yr arloeswyr sy’n ail-ddyfeisio amaethyddiaeth, ynni, yr economi, democratiaeth ac addysg. O Bunt Bryste a ffermydd maestrefol Detroit i Copenhagen, lle daw 70% o’r ynni caiff ei ddefnyddio o danwyddau nad ydynt yn fossil, mae’r ffilm yn datgelu’r datrysiadau positif, pendant sydd eisoes yn gweithio. Yn fywiog ac yn ddisglair, dyma i chi olwg cynhwysfawr y ar ffyrdd y mae gweithredwyr a dinasyddion cyffredin yn gwneud y byd yn le gwell, yn le gwyrddach ac yn le mwy cynaliadwy. Ffilm ddogfen ecolegol, galonogol sy’n dangos dechreuadau’r hyn all fod yn y byd yfory. . .
“required viewing for anyone wondering what they could do to pitch in and save the planet” Hollywood Reporter Winner of the Best Documentary Caesar (French BAFTA) 2016 Enillydd Caesar y Ffilm Ddogfen Orau (BAFTA Ffrainc) 2016 Book online / Archebwch ar-lein: www.aberystwythartscentre.co.uk
Memories of Underdevelopment (15) Director / Cyfarwyddwr: Tomás Gutiérrez Alea Starring / Yn serennu: Sergio Corrieri, Daisy Granados, Eslinda Núñez Cuba, 1968, 97 minutes/munud, subtitles/isdeitlau, B&W/Du a Gwyn
Thursday 30 March 5.45pm
Nos Iau 30 Mawrth, 5.45yh
Bold, brave and brilliant, this wise, sad and funny film captures Cuba at a critical moment in its history. Deserted by his wife, rejected by his lover, and sceptical of the promises of a new Cuba, Sergio feels alone in a brave new world, unable either to leave or to come to terms with the changes after the revolution. Stimulating, original, and formally experimental, this is a dazzling reflection on being an outsider at a time of change. Later Oscar nominated for Strawberry & Chocolate, Tomás Gutiérrez Alea established his reputation with this stylish, fascinating film that occupies a defining place in Latin American cinema.
Yn eofn, yn ddewr ac yn wych, mae’r ffilm ddoeth, drist a doniol hon yn cipio Ciwba ar adeg hanfodol yn ei hanes. Mae ei wraig wedi ei adael, ei gariad wedi ei wrthod ac mae’n amheugar am addewidion y Ciwba newydd teimla Sergio yn unig mewn byd newydd dewr, heb allu gadael na chwaith dod i delerau â’r newidiadau’n dilyn y chwyldro. Yn ysgogol, yn wreiddiol ac yn ffurfiol arbrofol, dyma i chi fyfyrdod disglair ar fod yn ddieithryn ar adeg o newid. Sefydlodd Tomás Gutiérrez Alea, cafodd ei enwebu’n hwyrach am Oscar ar gyfer Strawberry & Chocolate, ei enw da gyda’r ffilm steilus, ddiddorol hon sy’n cymryd safle diffiniol yn sinema America-Ladin.
“One of the best films ever made” The Guardian A clever film that may be provocatively political . . . but still has an infectious sense of fun and creative joy.” Film4 Winner FIPRESCI prize Karlovy Vary International Film Festival Enillydd Gwobr FIPRESCI Gŵyl Ffilm Ryngwladol Karlovy Book online / Archebwch ar-lein: www.aberystwythartscentre.co.uk
The Happiest Day in the Life of Olli Maki (12A) Director / Cyfarwyddwr: Juho Kuosmanen Starring / Yn serennu: Jarkko Lahti, Oona Airola, Eero Milonoff Finland/Y Ffindir/Germany/Yr Almaen/Sweden, 2016, 92 minutes/munud, subtitles/isdeitlau, B&W/Du a Gwyn
Thursday 30 March, 8.15pm
Nos Iau 30 Mawrth, 8.15yh
Resolutely low-key, this sweet romantic tale of a modest underdog preparing for his big fight conjures up a delightful mood of bittersweet melancholy. Although the expectations of the Finnish nation weigh on his shoulders, Olli Maki’s preparations for his shot at the world title seem surprisingly amateurish. Then Olli (“the Baker from Kokkola”) falls in love, and it becomes increasingly clear that boxing is no longer the most important thing in his world. With its warm, gently funny script, charming central performance and gorgeous B/W period look, this is sure to send you home with a smile on your face.
Mae’r stori felys ramantaidd ddiffwdan hon am ŵr sy’n paratoi ar gyfer yr ornest fawr yn creu awyrgylch o dristwch chwerw-felys. Er bod disgwyliadau pobl y Ffindir yn pwyso ar ei ysgwyddau, mae paratoadau Olli Maki ar gyfer ei gyfle i gipio teitl y byd yn ymddangos yn weddol amatur. Yna mae Olli (“y pobydd o Kokkola”) yn syrthio mewn cariad, ac ymddengys yn amlwg nid bocsio bellach yw’r peth pwysicaf yn ei fyd. Gyda’i sgript ddymunol a doniol, perfformiad canolog hoffus ac ymddangosiad Du a Gwyn moethus y cyfnod, bydd y ffilm hon yn siŵr o roi gwên ar eich gwefusau.
“a small marvel of impeccable craftsmanship.” Hollywood Reporter Winner Un Certain Regard Cannes Film Festival 2016 Enillydd Un Certain Regard Gŵyl Ffilm Cannes 2016
Aberystwyth Arts Centre 01970 62 32 32 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
El Violin (15) Director / Cyfarwyddwr: Francisco Vargas Starring / Yn serennu: Don Angel Tavira, Dagoberto Gama, Gerardo Taracena Mexico, 2005, 95 minutes/munud, subtitles/isdeitlau, B&W/Du a Gwyn
Tuesday 4 April 5.45pm
Nos Fawrth 4 Ebrill, 5.45yh
During a brutal military crackdown a hugely dignified old man has to pass through an army checkpoint every time he wants to visit his land. The old violinist, Don Plutarco is a rebel sympathiser but agrees to teach the Captain the violin. So starts a tense and potentially deadly poker game. Beautifully shot in luminous black and white this is a quietly gripping, unsentimental and persuasively realistic tale of an indomitable old peasant’s implacable resistance to oppressive authority and a hymn to the power of music.
Yn ystod cyfnod llymder creulon milwrol, rhaid i hen ddyn hynod urddasol basio drwy rheolfa’r fyddin bob tro mae’n dymuno ymweld â’i dir. Mae’r hen feiolinydd, Don Plutarco yn gydymdeimlwr y gwrthryfelwyr ond mae’n cytuno addysgu’r Capten i chwarae’r feiolin. Gyda hynny dechreua gêm o bocer dirdynnol, sydd â’r potensial o fod yn farwol. Wedi ei ffilmio’n hyfryd mewn du a gwyn, mae hon yn stori afaelgar dawel, ddisentiment a hynod realistig am wrthsafiad di-ildio hen werinwr yn erbyn awdurdod gormesol ac yn destament i rym cerddoriaeth.
“A message this political has rarely been delivered in so poetic a form.” LA Times Winner of over 30 Festival Awards including Un Certain Regard Best Actor Cannes Film Festival 2006 / Enillydd dros 30 Gwobr mewn Gwyliau gan gynnwys Actor Gorau Un Certain Regard Gŵyl Ffilm Cannes 2006 The first of a monthly series of the best of world cinema programmed by WOW Film Festival Director David Gillam in partnership with Aberystwyth Arts Centre. Y cyntaf ymhlith cyfres fisol o oreuon sinema’r byd wedi rhaglennu gan David Gillam, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm WOW mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Book online / Archebwch ar-lein: www.aberystwythartscentre.co.uk
2017
Wales One World Film Festival Gŵyl Ffilm Cymru a’r Byd yn Un
@WOWFilm /WOWfilmfest www.wowfilmfestival.com
Diary March - April / Dyddiadur Mis Mawrth - Mis Ebrill 2017 Friday 24 March / Dydd Gwener 24 Mawrth 5.45pm/yh The Colours of the Mountain (15 tbc)* 8.15pm/yh Shadow World (15 tbc)* Saturday 25 March / Dydd Sadwrn 25 Mawrth 2.30pm/yp Nausicaä of the Valley of the Wind (PG)* 5.30pm/yh By The Time It Gets Dark (15 tbc) 8.15pm/yh Neruda (15)*
Tomorrow (Demain)
Sunday 26 March / Dydd Sul 26 Mawrth 2.30pm/yh Those Who Jump (PG tbc)* 5.00pm/yh The Future Perfect (PG tbc) Monday 27 March / Dydd Llun 27 Mawrth 5.45pm/yh Ambulance (15 tbc)* 8.15pm/yh Wulu (15 tbc) Tuesday 28 March / Dydd Mawrth 28 Mawrth 5.45pm/yh Clash (15 tbc)* 8.15pm/yh The Salesman (12A) Wednesday 29 March / Dydd Mercher 29 Mawrth
Neruda
2.30pm/yp Nostalgia for The Light (12A)* 5.45pm/yh The War Show (15 tbc)* 8.15pm/yh Tomorrow (Demain) (PG tbc)* Thursday 30 March / Dydd Iau 30 Mawrth 5.45pm/yh Memories of Underdevelopment (15)* 8.15pm/yh The Happiest Day in the Life of Olli Maki (12A) Tuesday 4 April / Dydd Mawrth 4 Ebrill 5.45pm/yh El Violin (15)* *Voices of Resistance Season / *Tymor Lleisiau Gwrthsafiad No adverts will be shown before the films. Ni chaiff unrhyw hysbysebion eu dangos cyn y ffilmiau.
Wulu