WOW @ Clwyd Theatr Cymru 2015

Page 1

Charlie’s Country


Welcome to WOW 2015

WOW Film Festival returns to Clwyd Theatr Cymru from Tuesday 24 March - Thursday 21 May with our usual intriguing, eclectic selection of world cinema for you to enjoy. As ever WOW will be covering the globe from Argentina to Timbuktu, which is the title of one of the most beautiful films we’ll be showing. It’s a multi-layered view of the impact of militant Islam on traditional life in that fabled African oasis. The festival opens with an insightful portrait of an Australian eco-village in Deep Listening (Dadirri), made by the Welsh director Helen Iles (Lammas). We’ll also be celebrating Nowruz, (Iranian New Year) on Wednesday 25 March with a screening of Fish & Cat, a truly extraordinary film that plays with our perception of time, space, and truth.

So come along and travel the world with WOW from the comfort of your local cinema.

Croeso i WOW 2015

Bydd Gŵyl Ffilm WOW yn dychwelyd i Clwyd Theatr Cymru o ddydd Mawrth 24 Mawrth – dydd Iau 21 Mai gyda’n detholiad arferol o ffilmiau sinema byd diddorol ac eclectig i chi eu mwynhau. Fel arfer bydd WOW yn rhychwantu’r byd o’r Ariannin i Timbuktu, sy’n deitl ar un o’r ffilmiau mwyaf prydferth byddwn yn ei dangos. Mae’n olwg amlhaenog ar effaith Islam filwriaethus ar fywyd traddodiadol yn y werddon chwedlonol honno yn Affrica. Agora’r ŵyl gyda phortread mewnweledol o bentref-eco yn Awstralia yn Deep Listening (Dadirri), wedi ei greu gan y cyfarwyddwr o Gymru Helen Iles (Lammas). Byddwn hefyd yn dathlu Nowruz, (Blwyddyn Newydd Iran) ar ddydd Mercher 25 Mawrth gyda dangosiad o Fish & Cat, ffilm wir ryfeddol sy’n chwarae ar ein canfyddiad o amser, gofod a gwirionedd. Felly dewch i deithio’r byd gyda WOW o gysur sinema fwyaf cyfeillgar yr ŵyl.

David Gillam

Wales One World Film Festival Director Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilmiau Cymru a’r Byd yn Un

Twitter: @WOWFilm Facebook: www.facebook.com/WOWfilmfest

www.wowfilmfestival.com

> Book on line / Archebwch eich tocynnau ar-lein www.clwyd-theatr-cymru.co.uk


Nos Fawrth 24 Mawrth 8.00yh / Tuesday 24 March 8.00pm

Deep Listening (Dadirri) (PG) Cyfarwyddwr / Director: Helen Iles Yn serennu / Starring: John Seed, David Holmgren, Glen Ochre Awstralia 2014, 1 awr 4 munud Australia 2014, 1 hour 4 minutes This fascinating portrait of the people who created the many diverse communities that have thrived across Australia over the last 40 years explores the timely Aboriginal concept of ‘Deep Listening’. Beautifully made against the rich diversity of the Australian landscape by the director of Lammas, this explores the interpersonal dynamics of these 'intentional communities'. It reveals the importance of taking time to truly listen to one another and of ‘listening to the land’ if we are to learn to live sustainably. A generation that created an alternative lifestyle based on respect for the land, for the indigenous people and for one another, share the insights they have learned from a lifetime of living together.

UK premiere Premiere Prydain

Mae’r portread diddorol hwn o’r bobl a greodd y nifer o gymunedau amrywiol sydd wedi ffynnu ar draws Awstralia yn ystod y 40 mlynedd diwethaf yn archwilio cysyniad amserol Brodorion Awstralia sef ‘Gwrando’n Ddwfn’. Wedi ei chreu’n gelfydd yn erbyn amrywiaeth cyfoethog tirwedd Awstralia gan gyfarwyddwr Lammas, mae’n archwilio dynamig rhyngbersonol y ‘cymunedau bwriadol’ hyn. Mae’n datgelu pwysigrwydd cymryd amser i wrando’n iawn ar ein gilydd os bwriadwn fyw ynghyd mewn harmoni. Mae cenhedlaeth a greodd ffordd o fyw amgen yn seiliedig ar barch tuag at y tir, tuag at y brodorion cynhenid a thuag at ei gilydd, yn rhannu’r profiadau maent wedi eu crynhoi wrth gyd-fyw am oes.

Skype Q&A with director Helen Iles Sesiwn Holi ac Ateb Skype gyda'r cyfarwyddwr Helen lles In partnership with / mewn partneriaeth â

> Clwyd Theatr Cymru 01352 701521


Nos Fercher 25 Mawrth 8.00yh / Wednesday 25 March 8.00pm

Fish and Cat

(15)

Cyfarwyddwr / Director: Shahram Mokri Yn serennu / Starring: Babak Karimi, Saeed Ebrahimifar, Ainaz Azarhoush Iran, 2013, 2 awr, 14 munud, gydag isdeitlau Iran, 2013, 2 hours 14 minutes, subtitles Told in one single stunning shot, this gripping film succeeds in ‘unhinging’ time to create a strange, haunting feel to seemingly everyday events. A group of students gather by a remote lake for a camping trip and kite-flying festival. The only other people around are a seedy, possibly murderous, trio of cooks who run a scuzzy restaurant. The washed out colour scheme, the eerie sounds, the clever recurrence of certain events to create a disconcerting sense of déjà vu, all work to produce a sustained mood of disquiet. A truly extraordinary film that plays with our perception of time, space, and truth.

Wales premiere Premiere Cymru

Wedi ei ffilmio mewn un olygfa syfrdanol mae’r ffilm afaelgar hon yn llwyddo i ‘ddatgysylltu’ amser a rhoi teimlad rhyfedd i ddigwyddiadau sydd yn gyffredin ar yr olwg gyntaf. Mae grŵp o fyfyrwyr yn ymgynnull ger llyn anghysbell ar gyfer trip gwersylla a gŵyl hedfan barcudiaid. Yr unig bobl eraill o gwmpas yw triawd o gogyddion, llofruddion blêr o bosibl, sy’n rhedeg bwyty annymunol. Mae’r cynllun lliw simsan, y seiniau iasol, gyda rhai digwyddiadau’n ail-chwarae’n gelfydd er mwyn creu teimladwy annifyr o déjà vu, i gyd yn cyfuno i greu awyrgylch parhaus o anesmwythyd. Ffilm wir ryfeddol, sy’n chwarae gyda’n canfyddiad o amser, gofod a gwirionedd.

"something truly special" Andrew Robertson, Eye for Film Winner Special Jury Award for Creativity Venice Film Festival 2013 Enillydd Gwobr Rheithgor Arbennig ar gyfer Creadigedd Gŵyl Ffilm Fenis 2013 In partnership with British Council Iran as part of their UK-Iran Season of Culture Mewn partneriaeth â Chyngor Prydeinig Iran fel rhan o’i Dymor Diwylliant Prydain-Iran.

> Book on line / Archebwch eich tocynnau ar-lein www.clwyd-theatr-cymru.co.uk


Nos Iau 26 Mawrth 8.00yh / Thursday 26 March 8.00pm

Timbuktu

(15)

Cyfarwyddwr / Director: Abderrahmane Sissako Yn serennu / Starring: Ibrahim Ahmed, Toulou Kik, Abel Jafri, Fatoumata Diawara Mauritania/Ffrainc, 2014, 1 awr 37 munud, gydag isdeitlau Mauritania/France, 2014, 1 hour 37 minutes, subtitles A lucid portrait of the impact of foreign jihadis on life in Timbuktu as they hypocritically enforce sharia law – no music, no football, no smoking, suitable dress. Beautifully filmed against the backdrop of sandy streets, stark desert landscapes and the sparkling river, this weaves together the stories of the residents as they adjust to living with oppression as best they can. There’s a traditional Toureg herder living peacefully in the dunes on the edge of town, a Muslim who plays desert blues. A liberal Imam intercedes for a black woman and berates the gunmen for disturbing the peace of his mosque. Sissako (Bamako, Waiting for Happiness) has a caustic sense of the absurd, making this subtle clash of cultures both funny and petrifying, while creating a powerful feel of fate inevitably playing itself out.

Wales premiere Premiere Cymru

Portread eglur o effaith jihadwyr tramor ar fywyd yn Nhimbuktu, wrth iddynt orfodi cyfraith sharia mewn modd rhagrithiol - dim cerddoriaeth, dim pêl-droed, dim ysmygu, gwisg addas. Wedi ei ffilmio’n gelfydd yn erbyn cefndir o strydoedd tywodlyd, tirluniau anialwch llwm a’r afon ddisglair, mae’r ffilm hon yn gwau ynghyd straeon y trigolion wrth iddynt addasu i fywyd gyda gormes yn y ffordd orau y gallant. Mae ‘na fugail Toureg traddodiadol sy’n byw yn heddychlon yn y twyni ar gyrion y dref, Mwslim sy’n chwarae blues yr anialwch. Mae Imam rhyddfrydol yn cyfryngu ar ran menyw du ac yn dweud y drefn wrth y saethwyr am darfu ar yr heddwch yn ei fosg. Mae synnwyr llem Sissako (Bamako, Waiting for Happiness) o’r absẃrd yn peri i’r teimlad hwn o ddiwylliannau’n gwrthdaro fod yn ddifyr ac yn frawychus, wrth greu teimlad o ffawd yn chwarae ei ran anochel.

“passionate and visually beautiful . . Timbuktu is a cry from the heart” Peter Bradshaw, The Guardian Winner of two Awards at Cannes Film Festival 2014 Enillydd dwy Wobr yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2014

> Clwyd Theatr Cymru 01352 701521


Nos Fawrth 31 Mawrth 8.00yh / Tuesday 31 March 8.00pm

Difret (12a) Cyfarwyddwr / Director: Zeresenay Berhane Mehari Yn serennu / Starring: Meron Getnet, Tizita Hagere Ethiopia/Yr Unol Daleithiau, 2014, 1 awr 39 munud, gydag isdeitlau Ethiopia/USA, 2014, 1 hour 39 minutes, subtitles Based on a true story, this riveting tale reveals Ethiopia’s cultural complexity, where traditional customs are pitted against modern ideas of equality. In the beautiful rural Ethiopian landscape, Hirut, a bright 14-year-old girl, is on her way home from school when men on horseback swoop down and kidnap her. Among the farming villages here, abduction into marriage is a common tribal tradition. When Hirut tries to escape, she shoots her would-be husband and is charged with murder. Meaza Ashenafi, a tenacious young lawyer who specialises in women's legal aid, arrives from Addis Ababa to defend Hirut. Boldly taking on the entrenched male power of ancient tradition and the modern state, Meaza risks all she’s ever worked for to save Hirut's life.

Wales premiere Premiere Cymru

Wedi ei seilio ar stori wir, mae’r hanes gafaelgar hwn yn amlygu cymhlethdod diwylliannol Ethiopia lle mae arferion traddodiadol yn cystadlu yn erbyn syniadau modern am gydraddoldeb. Yng nghefn gwlad hardd Ethiopia, mae Hirut, merch glyfar 14 oed, ar ei ffordd i’r ysgol pan mae dynion ar gefn ceffyl yn ei herwgipio. Ymhlith y pentrefi ffermio yma, mae herwgipio i briodi yn draddodiad llwythol cyffredin. Pan mae Hirut yn ceisio dianc, mae’n saethu ei darpar ŵr ac yn cael ei chyhuddo o’i lofruddio. Mae Meaza Ashenafi, cyfreithwraig ifanc benderfynol sy’n arbenigo mewn darparu cymorth cyfreithiol i ferched yn cyrraedd o Addis Ababa i amddiffyn Hirut. Gan wynebu’n herfeiddiol nerth gwrywaidd gwreiddiedig traddodiad hynafol a’r wladwriaeth fodern, mae Meaza yn peryglu popeth bu’n gweithio amdano erioed i achub bywyd Hirut.

“delicate yet impassioned story that offers empowerment and hope to countless women all over the world.” London Film Festival Winner Sundance Film Festival 2014 Best World Cinema Film Award Enillydd Gwobr Sinema Byd Gorau Gŵyl Ffilm Sundance 2014

> Book on line / Archebwch eich tocynnau ar-lein www.clwyd-theatr-cymru.co.uk


Nos Fercher 1 Ebrill 8.00yh / Wednesday 1 April 8.00pm

Jauja

Wales premiere Premiere Cymru

(15)

Cyfarwyddwr / Director: Lisandro Alonso Yn serennu / Starring: Viggo Mortenson, Viilbjørk Mallin Agger, Ghita Nørby Yr Ariannin,Yr Unol Daleithiau,Yr Iseldiroedd,Ffrainc,Mecsico,Denmarc,Yr Almaen-Brasil, 2014,1 awr 41 munud, gydag isdeitlau Argentina,USA,Netherlands,France,Mexico,Denmark,Germany,Brazil, 2014, 1 hour 41 minutes, subtitles A fabulously beautiful western about the search for a utopia that remains forever out of reach, set on the spectacular coast, pampas and deserts of Patagonia. When his 15-year-old daughter Ingeborg elopes with a young soldier, the distraught Captain Dinesen (Viggo Mortenson) embarks on an epic journey across an empty wilderness in the hope of tracking the couple down. Mortensen excels as the quixotic Dinesen who descends into single-minded obsession as his quest takes him beyond the confines of the known world. If you can sit back, relax and take the pace, his haunting journey will reward you with a strange and magical ending quite unlike anything you’ve seen before.

Ffilm Western hyfryd am y cwest am iwtopia sydd o hyd y tu hwnt i’r gafael, wedi ei gosod ar arfordir, paith ac anialwch ysblennydd Patagonia. Pan mae Ingeborg ei ferch 15 mlwydd oed yn ffoi gyda milwr ifanc, mae’r Capten Dinesen trallodus (Viggo Mortenson) yn cychwyn ar siwrnai epig ar draws diffeithiwch gwag gan obeithio dod ar draws y pâr. Mae Mortensen yn rhagori fel Dinesen mympwyol sy’n cyrraedd pwynt obsesiwn wrth i’w gwest ei dywys y tu hwnt i gyffiniau’r byd hysbys. Os allwch eistedd yn ôl, ymlacio a chyd-fynd â’r cyflymdra, bydd ei siwrnai yn eich gwobrwyo gyda diweddglo rhyfedd a hudol sydd yn hollol wahanol i unrhyw beth fyddwch wedi ei weld o’r blaen.

“A marvellous experience that shows that film is a medium that can lock up a history (or memories or dreams or nightmares) inside it, then release it in all the splendour of the Patagonian skies.” Sight & Sound Winner FIPRESCI prize Un Certain Regard Cannes Film Festival 2014 Enillydd Gwobr FIPRESCI Gŵyl Ffilm Un Certain Regard Cannes 2014 > Clwyd Theatr Cymru 01352 701521


Nos Fercher 15 Ebrill 8.00yh / Wednesday 15 April 8.00pm

Charlie’s Country (15) Cyfarwyddwr / Director: Rolf de Heer Yn serennu / Starring: David Gulpilil, Peter Djigirr, Luke Ford Awstralia, 2014, 1 awr 48 munud Australia, 2014, 1 hour 48 minutes A heartfelt, deeply passionate story about the life and times of legendary Australian actor David Gulpilil (Walkabout, Ten Canoes) that makes great use of his extraordinarily expressive face. Full of diverting, blackfella humour and filled with anger at the way Indigenous Australians have been treated for generations, this is a powerful, poignant window on Aboriginal culture. Living on the edge of a rundown Aboriginal community, and increasingly stifled by white laws, Charlie decides to return to life according to the old ways. Gulpilil gives a haunting performance as an ageing Aborigine trying to fight back against a system of prejudice and neglect.

Stori deimladwy, angerddol iawn am fywyd ac oes yr actor enwog o Awstralia, David Gulpilil (Walkabout, Ten Canoes) sy’n gwneud defnydd gwych o’i wyneb hynod fynegiannol. Yn llawn hiwmor difyrrus y ‘blackfella’ ac yn llawn dicter tuag at y ffordd mae Brodorion Awstralia wedi cael eu trin am genedlaethau, mae’r ffilm hon yn olwg nerthol, ingol ar ddiwylliant Brodorion Awstralia. Yn byw ar gyrion cymuned lom i Frodorion, ac yn cael ei gyfyngu’n fwyfwy gan ddeddfau dynion gwyn, mae Charlie yn penderfynu dychwelyd at fywyd sy’n seiliedig ar yr hen ffyrdd. Mae Gulpilil yn rhoi perfformiad cofiadwy fel hen Frodor yn ceisio ymladd yn ôl yn erbyn system o ragfarn ac esgeulustra.

“an unforgettable film, beautifully made, at times unbearably sad, but tinged with an unquenchable optimism and humanity.” The Australian

Winner Best Actor Un Certain Regard Cannes Film Festival 2014 Enillydd Actor Gorau Gŵyl Ffilm Un Certain Regard Cannes 2014

> Book on line / Archebwch eich tocynnau ar-lein www.clwyd-theatr-cymru.co.uk


Nos Fawrth 12 & Nos Fercher 13 Mai 8.00yh / Tuesday 12 & Wednesday 13 May 8.00pm

Wild Tales

(15)

Cyfarwyddwr / Director: Damián Szifrón Yn serennu / Starring: Ricardo Darín, Oscar Martínez, Leonardo Sbaraglia Yr Ariannin Sbaen, 2014, 2 awr 2 munud, gydag isdeitlau Argentina/Spain, 2014, 2 hours 2 minutes, subtitles This compendium of outrageous and hilarious tales paints a subversive portrait of contemporary Argentina. What if you could actually do something about that unfair parking ticket, an obnoxious customer, a philandering groom or that idiot driver who's just cut you up? Each story leads you through its protagonist’s increasing levels of frustration until they finally explode into riotous acts of violence and revenge. Produced by Pedro Almodóvar, this is a delightfully wicked collection of six cautionary tales that is a real crowd pleaser.

Mae’r crynodeb hwn o straeon gwyllt a doniol yn paentio llun chwyldroadol o’r Ariannin gyfoes. Dychmygwch y gallech wneud rhywbeth go iawn am y ddirwy parcio annheg honno, neu’r cwsmer ffiaidd, y gŵr merchetgar neu’r twpsyn gyrrwr sydd newydd dynnu allan o’ch blaen? Mae pob stori yn eich arwain trwy lefelau rhwystredigaeth gynyddol y prif gymeriad hyd nes iddo ffrwydro i weithredoedd terfysglyd o drais a dial. Wedi ei gynhyrchu gan Pedro Almodóvar, dyma i chi gasgliad drygionus o chwe stori rybuddiol sy’n siŵr o blesio’r dorf.

“A terrific film and a real find” The Guardian

Winner of the Audience Awards at San Sebastián International Film Festival and Sarajevo Film Festival Enillydd Gwobr y Gynulleidfa yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol San Sebastián a Gŵyl Ffilm Sarajevo

> Clwyd Theatr Cymru 01352 701521


Nos Iau 21 Mai 8.00yh / Thursday 21 May 8.00pm

Hamoun

(15)

Cyfarwyddwr / Director: Dariush Mehrjui Yn serennu / Starring: Ezzatolah Entezami, Bita Farahi, Khosro Shakibai Iran, 1990, 1 awr 23 munud, gydag isdeitlau Iran, 1990, 1 hour 23 minutes, subtitles A fascinating portrait of the cultural crisis faced by a middle-class couple trying to lead more Westernised lives while still adhering to traditional Iranian customs and values. Hamoun, a frustrated middle-aged executive, dreams of becoming a writer. While he has no choice but to obey the strict laws of his conservative society, he feels that he doesn't fit in. Disillusioned, decadent Hamoun vents his frustrations upon his wife, Mashid, a successful painter. Tired of being bullied, when she tries to get a divorce Hamoun is devastated. With its nervous energy and surreal, absurdist dream sequences this mixes Manhattan and La Dolce Vita through a wholly Iranian lens.

Portread diddorol o’r cyfyng-gyngor diwylliannol sy’n wynebu pâr canol oed sy’n ceisio arwain bywydau mwy gorllewinaidd wrth geisio glynu at arferion a gwerthoedd Iranaidd traddodiadol. Mae Hamoun, gweithredwr canol oed rhwystredig, yn breuddwydio am fod yn ysgrifennwr. Er nad oes ganddo unrhyw ddewis ond i ufuddhau cyfreithiau llym ei gymdeithas geidwadol mae’n teimlo nad yw’n ffitio mewn. Wedi ei ddadrithio, mae Hamoun blin yn anelu ei rwystredigaeth tuag at ei wraig, Mashid, arlunydd llwyddiannus. Wedi cael llond bol ar gael ei bwlio, mae’n ceisio ysgaru, ond mae Hamoun yn dorcalonnus. Gyda’i egni nerfus a dilyniannau breuddwyd swreal, absẃrd mae’r ffilm hon yn cymysgu Manhattan a La Dolce Vita trwy lens Iranaidd unigryw.

“well-wrought, beautifully-acted film” L.A.Times Winner of 5 Awards including Best Director Fajr Film Festival 1990 Enillydd 5 Gwobr gan gynnwys Cyfarwyddwr Gorau Gŵyl Ffilm Fajr 1990

> Book on line / Archebwch eich tocynnau ar-lein www.clwyd-theatr-cymru.co.uk


Book your WOW tickets now!

Archebwch Eich Tocynnau i WOW!

Cinema tickets:

Prisiau tocynnau sinema:

All seats: £6 (Unless otherwise stated)

Pob sedd: £6 (Oni nodir fel arall)

Accompanying adults: £5

Oedolion gyda phlentyn: £5

Accompanied children: £5 (Under 15 - all shows) (screenings commencing before 6pm)

Unaccompanied children under 12: Not admitted

OAPs, students, claimants: £5.50 (Not Saturday evenings)

You can book your tickets in person or by phone:

Plant gydag oedolion: £5 (O dan 15 - pob sioe) (sgriniadau’n cychwyn cyn 6yh)

Plant o dan 12 heb oedolyn: Dim mynediad

Pensiynwyr, myfyrwyr, hawlwyr: £5.50 (Nid ar nos Sadwrn)

Gallwch archebu’ch tocynnau wyneb yn wyneb neu dros y ffôn

Box Office 01352 701521

Swyddfa Docynnau 01352 701521

Online

Ar-lein

Open Mon – Sat 10am – 8pm

www.clwyd-theatr-cymru.co.uk CTC Cinema Loyalty Scheme

See five films in a three-month brochure period and

get a sixth for free.

Ar agor Llun – Sad 10yb – 8yh

www.clwyd-theatr-cymru.co.uk Cynllun Ffyddlondeb Sinema CTC

Cewch weld pump ffilm mewn cyfnod o lyfryn tri mis a chewch y chweched am ddim.

WOW Wales One World Film Festival is an initiative of David Gillam, Aberystwyth Arts Centre and Taliesin Arts Centre Mae Gŵyl Ffilmiau WOW Cymru a’r Byd yn Un yn fenter ar y cyd rhwng David Gillam, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chanolfan Gelfyddydau Taliesin.

> Clwyd Theatr Cymru 01352 701521


WOW Wales One World Film Festival Gŵyl Ffilm Cymru a’r Byd yn Un

Dyddiadur Mis Mawrth - Mai / Diary March - May 2015 Nos Fawrth / Tuesday 24

Mawrth / March

8.00 Deep Listening (Dadirri) (PG) Nos Fercher / Wednesday 25

8.00 Fish and Cat (15) Deep Listening (Dadirri)

Nos Iau / Thursday 26

8.00 Timbuktu (15) Nos Fawrth / Tuesday 31

Mawrth / March Mawrth / March

Mawrth / March

8.00 Difret (12a)

Difret

Nos Fercher / Wednesday 1

April / Ebrill

8.00 Jauja (15)

Nos Fercher / Wednesday 15

April / Ebrill

8.00 Charlie's Country (15) Nos Fawrth / Tuesday 12

8.00 Wild Tales (15)

Nos Fercher / Wednesday 13

8.00 Wild Tales (15) Nos Iau / Thursday 21

Charlie’s Country

8.00 Hamoun (15)

www.wowfilmfestival.com Twitter: @WOWFilm

Facebook: www.facebook.com/WOWfilmfest

zodshop - eco design & photography

zodshopdesign.co.uk info@zodshopdesign.co.uk 01239 711638

Mai / May Mai / May Mai / May


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.