WOW @ Aberystwyth 2015

Page 1

August Winds


Welcome to WOW 2015

WOW Film Festival returns to Aberystwyth from Friday 20 to Thursday 26 March with our usual intriguing, eclectic selection of world cinema for you to enjoy.

We’ll be celebrating Nowruz, (Iranian New Year) on Saturday 21 March with a season of the best of Iranian cinema from the last thirty years. The films of this generation of Iranian filmmakers won prizes at festivals across the world while giving us an insight into an ancient culture very different from our own at a time of revolutionary change.

As ever WOW will be covering the globe from Argentina to Timbuktu, which is the title of one of the most beautiful films we’ll be showing. It’s a multi-layered, insightful view of the impact of militant Islam on traditional life in that fabled African oasis. So come along and travel the world with WOW from the comfort of the festival’s friendliest cinema.

David Gillam

Croeso i WOW 2015

Bydd Gŵyl Ffilm WOW yn dychwelyd i Aberystwyth ar ddydd Gwener 20 hyd at Ddydd Iau 26 Mawrth gyda’n detholiad arferol o ffilmiau sinema byd diddorol ac eclectig i chi eu mwynhau.

Byddwn yn dathlu Nowruz, (Blwyddyn Newydd Iran) ar ddydd Sadwrn 21 Mawrth gyda thymor o’r goreuon ymhlith sinema Iran o’r trideg mlynedd diwethaf. Gwnaeth ffilmiau’r genhedlaeth hon o wneuthurwyr ffilm o Iran ennill gwobrau yng ngwyliau ar draws y byd wrth roi mewnwelediad i ni ar ddiwylliant hynafol sy’n wahanol iawn o’n diwylliant ni ar adeg o newidiadau chwyldroadol. Fel arfer bydd WOW yn rhychwantu’r byd o’r Ariannin i Timbuktu, sy’n deitl ar un o’r ffilmiau mwyaf prydferth byddwn yn ei dangos. Mae’n olwg amlhaenog, mewnweledol ar effaith Islam filwriaethus ar fywyd traddodiadol yn y werddon chwedlonol honno yn Affrica. Felly dewch i deithio’r byd gyda WOW o gysur sinema fwyaf cyfeillgar yr ŵyl.

Wales One World Film Festival Director Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilmiau Cymru a’r Byd yn Un

Iranian Season Ticket See 5 great Iranian films for £20 (£15), including:

Tocyn Tymor Iran

Gwyliwch 5 ffilm anhygoel o Iran am £20 (£15), yn cynnwys:

Where is My Friend's Home?, Hamoun, Under the Skin of the City, The Apple, Fish and Cat Twitter: @WOWFilm Facebook: www.facebook.com/WOWfilmfest

www.wowfilmfestival.com

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film


Nos Wener 20 5.45yh / Friday 20 5.45pm

Difret (12a) Cyfarwyddwr / Director: Zeresenay Berhane Mehari Yn serennu / Starring: Meron Getnet, Tizita Hagere Ethiopia/Yr Unol Daleithiau, 2014, 1 awr 39 munud, gydag isdeitlau Ethiopia/USA, 2014, 1 hour 39 minutes, subtitles Based on a true story, this riveting tale reveals Ethiopia’s cultural complexity, where traditional customs are pitted against modern ideas of equality. In the beautiful rural Ethiopian landscape, Hirut, a bright 14-year-old girl, is on her way home from school when men on horseback swoop down and kidnap her. Among the farming villages here, abduction into marriage is a common tribal tradition. When Hirut tries to escape, she shoots her would-be husband and is charged with murder. Meaza Ashenafi, a tenacious young lawyer who specialises in women's legal aid, arrives from Addis Ababa to defend Hirut. Boldly taking on the entrenched male power of ancient tradition and the modern state, Meaza risks all she’s ever worked for to save Hirut's life.

Wales premiere Premiere Cymru

Wedi ei seilio ar stori wir, mae’r hanes gafaelgar hwn yn amlygu cymhlethdod diwylliannol Ethiopia lle mae arferion traddodiadol yn cystadlu yn erbyn syniadau modern am gydraddoldeb. Yng nghefn gwlad hardd Ethiopia, mae Hirut, merch glyfar 14 oed, ar ei ffordd i’r ysgol pan mae dynion ar gefn ceffyl yn ei herwgipio. Ymhlith y pentrefi ffermio yma, mae herwgipio i briodi yn draddodiad llwythol cyffredin. Pan mae Hirut yn ceisio dianc, mae’n saethu ei darpar ŵr ac yn cael ei chyhuddo o’i lofruddio. Mae Meaza Ashenafi, cyfreithwraig ifanc benderfynol sy’n arbenigo mewn darparu cymorth cyfreithiol i ferched yn cyrraedd o Addis Ababa i amddiffyn Hirut. Gan wynebu’n herfeiddiol nerth gwrywaidd gwreiddiedig traddodiad hynafol a’r wladwriaeth fodern, mae Meaza yn peryglu popeth bu’n gweithio amdano erioed i achub bywyd Hirut.

“delicate yet impassioned story that offers empowerment and hope to countless women all over the world." London Film Festival

Winner Sundance Film Festival 2014 Best World Cinema Film Award Enillydd Gwobr Sinema Byd Gorau Gŵyl Ffilm Sundance 2014

> Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre


Nos Wener 20 8.15yh / Friday 20 8.15pm

Margarita, with a Straw

(15)

Cyfarwyddwr / Director: Shonali Bose Yn Serennu / Starring: Kalki Koechlin, Revathy, Sayani Gupta, William Moseley India, 2014, 1 awr 40 munud, gydag isdeitlau India, 2014, 1 hour 40 minutes, subtitles A rebellious young woman with cerebral palsy, Laila leaves her home in Delhi to study in New York, unexpectedly falls in love, and embarks on an exhilarating journey of self-discovery. Based on a true story this funky, stereotype-busting, coming-of-age tale is a real joy thanks to Kalki Koechlin’s delightful central performance. This beautifully depicts Laila’s close relationship with her hugely supportive mother, her engaging sense of humour, and her refusal to let her disability prevent her from taking control of her life.

Wales premiere Premiere Cymru

Mae Laila, menyw ifanc wrthryfelgar gyda pharlys yr ymennydd, yn gadael ei chartref yn Nelhi i astudio yn Efrog Newydd, yn syrthio mewn cariad yn annisgwyl, ac yn cychwyn ar siwrnai gyffrous o hunan-ddarganfyddiad. Mae’r stori dod i oed hon sy’n chwalu’r ystrydebau ac sydd wedi ei seilio ar hanes gwir, yn rhagori gan ddiolch i berfformiad canolog hyfryd Kalki Koechlin. Mae’n portreadu’n gelfydd y berthynas agos rhwng Laila a’i mam gefnogol iawn, ei synnwyr digrifwch deniadol, a’i gwrthodiad i adael i’w hanabledd rheoli ei bywyd.

"intriguing and enjoyable” Screen International

Winner Netpac Award Toronto International Film Festival 2014 Enillydd Gwobr Netpac Gŵyl Ffilm Ryngwladol Award Toronto 2014

Margarita cocktails available at the bar, Indian food available in the café. Coctel Margarita ar gael wrth y bar, bwyd Indiaidd ar gael yn y caffi. > Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film


Iranian Film Day

Diwrnod Ffilm Iran

Special Offer

Cynnig Arbennig

Saturday 21 March

£20 (£15) for 5 films from Iran:

Where is My Friend's Home?, Hamoun, Under the Skin of the City (Saturday 21), The Apple (Wednesday 25) and Fish and Cat (Thursday 26)

Where is My Friend's Home

The Iran season starts with a day of films and Persian food to celebrate ‘Nowruz’, Persian New Year, on Saturday 21 March. Deeply rooted in Zoroastrian traditions, Nowruz, meaning "New Day”, has been celebrated for at least 3,000 years to mark the start of Spring. Persian Food available in Café

Dydd Sadwrn 21 Mawrth £20 (£15) am 5 ffilm o Iran:

Where is My Friend's Home?, Hamoun, Under the Skin of the City (Dydd Sadwrn 21), The Apple (Dydd Mercher 25) and Fish and Cat (Nos Iau 26)

Hamoun

Dechreua’r tymor gyda diwrnod o ffilmiau a bwyd Persia i ddathlu ‘Nowruz’, Blwyddyn Newydd Persia, ar ddydd Sadwrn 21 Mawrth. Wedi ei wreiddio’n ddwfn yn nhraddodiadau Zoroastrian, mae Nowruz, yn golygu “Diwrnod Newydd” ac mae wedi ei ddathlu am o leiaf 3,000 o flynyddoedd i ddynodi dechrau’r Gwanwyn.

Bwyd Persia ar gael yn y Caffi

> Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre


The Golden Age of Iranian Cinema

Under the Skin of the City We've a special focus on Iran this year, in a season of magical, moving films from a generation of postrevolutionary Iranian filmmakers who won prizes at festivals across the world. While revealing social changes in Iran to Western audiences, these films are visually striking, rich in symbolism and full of wonder. The hugely influential Iranian neorealist style that emerged has since had an enduring legacy world wide.

Oes Euraidd Sinema Iran

Fish and Cat Eleni bydd gennym ffocws arbennig ar Iran, mewn tymor o ffilmiau hudol, trawiadol o genhedlaeth o wneuthurwyr ffilm ôl-chwyldroadol o Iran sydd wedi ennill gwobrau yng ngwyliau ar draws y byd. Wrth amlygu newidiadau cymdeithasol yn Iran i gynulleidfaoedd y Gorllewin, mae’r ffilmiau hyn yn weledol drawiadol, yn gyfoethog o ran symbolaeth ac yn llawn rhyfeddod. Mae’r arddull neo-realaeth hynod ddylanwadol o Iran sydd wedi deillio bellach, wedi gadael ôl parhaol ar y byd.

In partnership with British Council Iran as part of their UK-Iran Season of Culture Mewn partneriaeth â Chyngor Prydeinig Iran fel rhan o’i Dymor Diwylliant Prydain-Iran.

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film


Dydd Sadwrn 21 11.30yb / Saturday 21 11.30am

Where Is my Friend's Home? (u) Cyfarwyddwr / Director: Abbas Kiarostami Yn serennu / Starring: Babel Ahmed Poor, Ahmed Ahmed Poor, Kheda Barech Defai Iran, 1987, 1 awr 23 munud, gydag isdeitlau Iran, 1987, 1 hour 23 minutes, subtitles This launched Kiarostami onto the world stage, heralded the arrival of Iranian neo-realism, and set the prototype for Iranian "kid quest" movies. Nominally the story of a young boy who must return his friend's notebook he took by mistake, lest his friend be punished by expulsion from school. On one level this reveals a society rooted in authoritarian demands, but on another this reminds us how kids can be easily damaged by the responsibilities of the grown-up world. This deceptively simple gem has the rigour and haunting resonance of Kiarostami’s best work.

"the simplest and most moving of his films.”

Iran Season Tymor Iran

Gwnaeth y ffilm hon lansio Kiarostami ar lwyfan y byd, cyhoeddi dyfodiad neo-realaidd Iranaidd, a gosod prototeip ar gyfer ffilmiau “cwest plant” Iranaidd. Stori deimladwy am fachgen ifanc sy’n gorfod dychwelyd llyfr nodiadau ei gyfaill a gymerodd mewn camgymeriad, fel nad yw ei gyfaill yn cael ei gosbi trwy gael ei wahardd o’r ysgol. Ar un lefel mae hyn yn datgelu cymdeithas a’i gwreiddiau mewn galwadau awdurdodaidd, ond ar lefel arall mae hefyd yn ein hatgoffa y gall plant cael eu niweidio’n rhwydd gan gyfrifoldebau byd oedolion. Mae gan y ffilm dwyllodrus o syml hon lymder ac atsain gwaith gorau Kiarostami.

Combustible Celluloid

Winner of three prizes at Locarno International Film Festival 1989 Enillydd tair Gwobr yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Locarno 1989 > Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre


Dydd Sadwrn 21 2.15yp / Saturday 21 2.15pm

Hamoun

(15)

Cyfarwyddwr / Director: Dariush Mehrjui Yn serennu / Starring: Ezzatolah Entezami, Bita Farahi, Khosro Shakibai Iran, 1990, 1 awr 23 munud, gydag isdeitlau Iran, 1990, 1 hour 23 minutes, subtitles A fascinating portrait of the cultural crisis faced by a middle-class couple trying to lead more Westernised lives, while still adhering to traditional Iranian customs and values. Hamoun, a frustrated middle-aged executive, dreams of becoming a writer. While he has no choice but to obey the strict laws of his conservative society he feels that he doesn't fit in. Disillusioned, decadent Hamoun vents his frustrations upon his wife, Mashid, a successful painter. Tired of being bullied, when she tries to get a divorce Hamoun is devastated. With its nervous energy and surreal, absurdist dream sequences this mixes Manhattan and La Dolce Vita through a wholly Iranian lens.

“Well-wrought, beautifully-acted film”

Iran Season Tymor Iran

Portread diddorol o’r cyfyng-gyngor diwylliannol sy’n wynebu pâr canol oed sy’n ceisio arwain bywydau mwy gorllewinaidd wrth geisio glynu at arferion a gwerthoedd Iranaidd traddodiadol. Mae Hamoun, gweithredwr canol oed rhwystredig, yn breuddwydio am fod yn ysgrifennwr. Er nad oes ganddo unrhyw ddewis ond i ufuddhau cyfreithiau llym ei gymdeithas geidwadol mae’n teimlo nad yw’n ffitio mewn. Wedi ei ddadrithio, mae Hamoun blin yn anelu ei rwystredigaeth tuag at ei wraig, Mashid, arlunydd llwyddiannus. Wedi cael llond bol ar gael ei bwlio, mae’n ceisio ysgaru, ond mae Hamoun yn dorcalonnus. Gyda’i egni nerfus a dilyniannau breuddwyd swreal, absẃrd mae’r ffilm hon yn cymysgu Manhattan a La Dolce Vita trwy lens Iranaidd unigryw.

L.A.Times

Winner of 5 Awards including Best Director Fajr Film Festival 1990 Enillydd 5 Gwobr gan gynnwys Cyfarwyddwr Gorau Gŵyl Ffilm Fajr 1990

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film


Dydd Sadwrn 21 5.30yp / Saturday 21 5.30pm

Under The Skin of The City (15) Cyfarwyddwr / Director: Rakhshan Bani-Etemad Yn serennu / Starring: Golab Adineh, Mohammad Reza Forutan, Baran Kosari Iran, 2001, 1 awr 32 munud, gydag isdeitlau Iran, 2001, 1 hour 32 minutes, subtitles A mother’s lot is not a happy one in a society where men make all the decisions and women have to suffer the consequences. After her gruelling daily grind in the Tehran textile factory, Tuba comes home to an invalid husband; a pregnant daughter whose husband beats her regularly; a teenage son, who's been getting into trouble due to his radical politics; and an older son who wants to fix all her problems by going to work in Japan. Tuba soldiers on trying to keep her family together despite her mounting troubles. The first lady of Iranian cinema evocatively captures the human struggle at the heart of a family in this absolutely authentic, strikingly made portrait of women’s lives.

Iran Season Tymor Iran

Nid yw bywyd mam yn un bodlon mewn cymdeithas lle mae dynion sy’n gwneud yr holl reolau a rhaid i fenywod ddioddef y canlyniadau. Ar ôl ei diwrnod llafurus yn y ffatri tecstilau yn Nheran daw Tuba adref i’w gŵr methedig, ei merch feichiog sy’n cael ei churo’n rheolaidd gan ei gŵr, mab yn ei arddegau sydd wedi bod yn mynd i helynt oherwydd ei wleidyddiaeth radical; a mab hŷn sydd am ddatrys ei holl broblemau drwy fynd i weithio yn Siapan. Mae Tuba’n bwrw ati i geisio cadw ei theulu ynghyd er gwaethaf ei phroblemau cynyddol. Mae arweinydd benywaidd sinema yn Iran yn cipio’n atgofus y frwydr ddynol wrth wraidd teulu yn y portread gwreiddiol, trawiadol hwn o fywydau merched.

"an involving, beautifully cast film that portrays contemporary Iranian issues in a remarkably universal light.” Hollywood Reporter Winner Netpac Award Karlovy Vary International Film Festival 2001 Enillydd Gwobr Netpac Gŵyl Ffilm Ryngwladol Karlovy Vary 2001 > Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre


Nos Sadwrn 21 8.00yh / Saturday 21 8.00pm

Timbuktu (15) Cyfarwyddwr / Director: Abderrahmane Sissako Yn serennu / Starring: Ibrahim Ahmed, Toulou Kik, Abel Jafri, Fatoumata Diawara Mauritania/Ffrainc, 2014, 1 awr 37 munud, gydag isdeitlau Mauritania/France, 2014, 1 hour 37 minutes, subtitles A lucid portrait of the impact of foreign jihadis on life in Timbuktu as they hypocritically enforce Sharia law – no music, no football, no smoking, suitable dress. Beautifully filmed against the backdrop of sandy streets, stark desert landscapes and the sparkling river, this weaves together the stories of the residents as they adjust to living with oppression as best they can. There’s a traditional Toureg herder living peacefully in the dunes on the edge of town, a Muslim who plays desert blues. A liberal Imam intercedes for a black woman and berates the gunmen for disturbing the peace of his mosque. Sissako (Bamako, Waiting for Happiness) has a caustic sense of the absurd, making this subtle clash of cultures both funny and petrifying, while creating a powerful feel of fate inevitably playing itself out.

Wales premiere Premiere Cymru

Portread eglur o effaith jihadwyr tramor ar fywyd yn Nhimbuktu, wrth iddynt orfodi cyfraith Sharia mewn modd rhagrithiol - dim cerddoriaeth, dim pêl-droed, dim ysmygu, gwisg addas. Wedi ei ffilmio’n gelfydd yn erbyn cefndir o strydoedd tywodlyd, tirluniau anialwch llwm a’r afon ddisglair, mae’r ffilm hon yn gwau ynghyd straeon y trigolion wrth iddynt addasu i fywyd gyda gormes yn y ffordd orau y gallant. Mae ‘na fugail Toureg traddodiadol sy’n byw yn heddychlon yn y twyni ar gyrion y dref, Mwslim sy’n chwarae blues yr anialwch. Mae Imam rhyddfrydol yn cyfryngu ar ran menyw du ac yn dweud y drefn wrth y saethwyr am darfu ar yr heddwch yn ei fosg. Mae synnwyr llem Sissako (Bamako, Waiting for Happiness) o’r absẃrd yn peri i’r teimlad hwn o ddiwylliannau’n gwrthdaro fod yn ddifyr ac yn frawychus, wrth greu teimlad o ffawd yn chwarae ei ran anochel.

“passionate and visually beautiful . . Timbuktu is a cry from the heart" Peter Bradshaw, The Guardian

Winner of two Awards at Cannes Film Festival 2014 Enillydd dwy Wobr yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2014

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film


Dydd Sul 22 2.30yp / Sunday 22 2.30pm

My Name Is Salt (pg) Cyfarwyddwr / Director: Farida Pacha Yn serennu / Starring: Sanabhai, Devuben and their family from the Little Rann of Kutch Switzerland/India, 2013, 1 hour 32 minutes, subtitles Y Swistir/India, 2013, 1 awr 32 munud, isdeitlau This exquisite, lyrical, immersive documentary creates a strikingly beautiful portrait of an extraordinary vanishing world. Every year thousands of families travel to a bleak desert in Gujarat where they extract the whitest salt in the world using the same painstaking manual techniques as generations before them. We spend a season with one of these families observing the very particular rhythms of their lives as they work on the salt marshes. We get to know the sounds and rhythms of their labour, witnessing their ingenuity and persistence as they undertake their Sisyphean task. When the monsoon rains come, the sea rises once more and no trace of their work remains.

Mae’r ffilm ddogfen gain, ymdrochol, delynegol hon yn creu portread arbennig o brydferth o fyd rhyfeddol sy’n diflannu. Pob blwyddyn mae miloedd o deuluoedd yn teithio i anialwch llwm yn Gujarat lle byddant yn echdynnu’r halen gwynaf yn y byd gan ddefnyddio’r un technegau llaw llafurus a wnaeth cenhedloedd o’u blaenau. Treuliwn dymor gydag un o’r teuluoedd hyn yn arsylwi rhythmau penodol iawn eu bywydau wrth iddynt weithio ar y corsydd halen. Ymgyfarwyddwn â seiniau a rhythmau eu llafur, gan dystio i’w dyfeisgarwch a’i dyfalbarhad wrth iddynt ymgymryd â’u tasg ddiddiwedd. Pan ddaw glaw’r monsŵn mae’r môr yn codi unwaith eto ac ni fydd unrhyw olrhain o’u gwaith yn parhau.

"A lyrical celebration of human endeavour” Eye for Film Winner of the Best Documentary prize at Edinburgh International Film Festival 2014 Enillydd Gwobr y Ffilm Ddogfen Orau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin 2014

> Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre


Dydd Sul 22 5.30yp / Sunday 22 5.30pm

The Tribe (15) Cyfarwyddwr / Director: Myroslav Slaboshpytskiy Yn serennu / Starring: Grigoriy Fesenko, Yana Novikova Yr Wcrain, 2014, 2 awr 15 munud Ukraine, 2014, 2 hours 15 minutes Conducted entirely in sign language with no subtitles, voice over explanation, or music, this is filmmaking stripped to the bone that, like Becket or Peter Brook, reveals the universal language of social control. When new student Sergey arrives in a crumbling state boarding school for deaf adolescents in Kiev, he is quickly inducted into a world run by violent bullies. With the connivance of the school authorities, robbery, prostitution and crime are rife. When Sergey falls in love he’s set for an inevitable confrontation with those that rule his world. Dazzlingly executed and hugely original, with startling use of intense sexuality and violence, this is a powerful, audacious rethinking of cinema’s language of sight and sound.

Wales premiere Premiere Cymru

Wedi ei pherfformio’n gyfan gwbl mewn iaith arwyddion heb isdeitlau, trosleisio esboniadol na cherddoriaeth, dyma i chi creu ffilm wedi ei ddinoethi, sydd fel Becket neu Peter Brook yn datgelu iaith fydol rheolaeth gymdeithasol. Pan mae’r myfyriwr newydd Sergey yn cyrraedd ysgol breswyl y wladwriaeth i bobl ifanc byddar yn Kiev caiff ei gyflwyno’n gyflym i fyd wedi ei redeg gan fwlis treisiol. Gydag awdurdodau’r ysgol yn ymwybodol, mae lladrad, puteindra a throsedd yn gyffredin. Pan mae Sergey’n syrthio mewn cariad mae’n wynebu gwrthdaro anochel gyda’r rhai sy’n rheoli ei fyd. Wedi ei cyflwyno mewn modd syfrdanol a gwreiddiol tu hwnt, gyda defnydd brawychus o rywioldeb a thrais dwys, mae’r ffilm hon yn ail-ystyriaeth nerthol ac eofn ar iaith gweld a chlywed y sinema.

“What an intriguing film.” Peter Bradshaw, Guardian Winner of Critics Week Grand Prize at Cannes Film Festival 2014 Enillydd Gwobr Fawr Wythnos y Beirniaid yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2014

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film


Nos Lun 23 5.45yh / Monday 23 5.45pm

Deep Listening (Dadirri)

(PG)

Cyfarwyddwr / Director: Helen Iles Yn serennu / Starring: John Seed, David Holmgren, Glen Ochre Awstralia 2014, 1 awr 4 munud Australia 2014, 1 hour 4 minutes This fascinating portrait of the people who created the many diverse communities that have thrived across Australia over the last 40 years explores the timely Aboriginal concept of ‘Deep Listening’. Beautifully made against the rich diversity of the Australian landscape by the director of Lammas, this explores the interpersonal dynamics of these 'intentional communities'. It reveals the importance of taking time to truly listen to one another and of ‘listening to the land’ if we are to learn to live sustainably. A generation that created an alternative lifestyle based on respect for the land, for the indigenous people and for one another, share the insights they have learned from a lifetime of living together.

UK premiere Premiere Prydain

Mae’r portread diddorol hwn o’r bobl a greodd y nifer o gymunedau amrywiol sydd wedi ffynnu ar draws Awstralia yn ystod y 40 mlynedd diwethaf yn archwilio cysyniad amserol Brodorion Awstralia sef ‘Gwrando’n Ddwfn’. Wedi ei chreu’n gelfydd yn erbyn amrywiaeth cyfoethog tirwedd Awstralia gan gyfarwyddwr Lammas, mae’n archwilio dynamig rhyngbersonol y ‘cymunedau bwriadol’ hyn. Mae’n datgelu pwysigrwydd cymryd amser i wrando’n iawn ar ein gilydd os bwriadwn fyw ynghyd mewn harmoni. Mae cenhedlaeth a greodd ffordd o fyw amgen yn seiliedig ar barch tuag at y tir, tuag at y brodorion cynhenid a thuag at ei gilydd, yn rhannu’r profiadau maent wedi eu crynhoi wrth gyd-fyw am oes.

Skype Q&A with director Helen Iles Sesiwn Holi ac Ateb Skype gyda'r cyfarwyddwr Helen lles

In partnership with / mewn partneriaeth â > Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre


Nos Lun 23 8.15yh / Monday 23 8.15pm

Dukhtar/Daughter

(12A)

Cyfarwyddwr / Director: Afia Nathaniel Yn serennu / Starring: Samiya Mumtaz, Mohib Mirza, Saleha Aref Pacistan/Yr Unol Daleithiau/Norwy, 2014, 1 awr 33 munud, gydag isdeitlau Pakistan/USA/Norway, 2014, 1 hour 33 minutes, subtitles This gripping road movie both explores the disturbing plight of child brides and subtly unveils the connected struggles of generations of women shouldering adversity. Gorgeously filmed in the beautiful high Himalaya this is the thrilling tale of a brave mother who flees with her 10-year-old daughter to save her from marriage to a local warlord. On the road with murderous tribesman on their heels a friendly truck driver reluctantly helps them out. Interestingly the film gradually changes gear from a simple chase movie into a subtle exploration of mother-daughter relationships. Fine acting, fabulous music, an unlikely heroine, and a strong plot that is deeply entrenched in the harsh realities of life make this the best film to come out of Pakistan in many years.

Wales premiere Premiere Cymru

Mae’r ffilm deithio afaelgar hon yn archwilio cyflwr brawychus priodferched sy’n blant, gan ddatgelu’n gynnil frwydrau cysylltiedig cenedlaethau o fenywod sy’n ysgwyddo adfyd. Wedi ei ffilmio’n wych ym mynyddoedd uchel hardd yr Himalaya, dyma i chi stori gyffrous am fam ddewr sy’n ffoi gyda’i merch 10 mlwydd oed er mwyn ei hachub rhag priodas i ryfelwr lleol. Ar yr heol, gyda llwythddynion llofruddiol yn eu herlid, mae gyrrwr lori cyfeillgar yn eu helpu. Yn ddiddorol, mae’r ffilm yn raddol newid gêr o fod yn ffilm erlid syml i archwiliad cynnil o berthynas mam a merch. Mae actio da, cerddoriaeth ragorol, arwres annisgwyl, a phlot cryf sydd wedi ymwreiddio’n ddwfn yn realiti creulon bywyd yn cyfuno i sicrhau mai hon yw’r ffilm orau i ddod o Bacistan ers blynyddoedd.

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film


Nos Fawrth 24 5.45yh / Tuesday 24 5.45pm

August Winds

(15)

Cyfarwyddwr / Director: Gabriel Mascaro Yn Serennu / Starring: Dandra De Morais, Geova Manoel Dos Santos Brasil, 2014, 1 awr 17 munud, gydag isdeitlau Brazil, 2014, 1 hour 17 minutes, subtitles Set against the stunning backdrop of a remote coastal village in Brazil, this is an engagingly episodic, bewitching film that gently contemplates the nature of life and death. Shirley looks after her elderly grandmother, drives a tractor at the local coconut plantation (there are striking shots of workers hacking down the coconuts from massive palm trees), and hangs out with her lover Jeison. A surprise discovery confronts them with the duel between the sea and the land, youth and age, loss and memory. Fabulously beautiful images of the simple rhythms of everyday life are smartly balanced with Mascaro’s musing on the power of wind and sea and some genuinely amusing moments.

Wales premiere Premiere Cymru

Wedi ei gosod yn erbyn golygfa syfrdanol pentref arfordirol anghysbell ym Mrasil, mae hon yn ffilm gyfnodol atyniadol, gafaelgar sy’n ystyried natur bywyd a marwolaeth. Mae Shirley yn gofalu am ei mam-gu oedrannus, yn gyrru tractor ar fferm cnau coco lleol (mae ‘na olygfeydd trawiadol o weithwyr yn torri’r cnau coco o balmwydd enfawr), ac yn treulio amser gyda’i chariad Jeison. Mae darganfyddiad annisgwyl yn eu hwynebu gyda gornest rhwng y môr â’r tir, ieuenctid ac oedran, colled a chof. Caiff delweddau hynod hardd o rythmau syml bywyd eu cydbwyso’n gelfydd gyda myfyrio Mascaro ar nerth gwynt a môr ac ambell foment ddifyr iawn.

“A sensual teen romance unfurls … in this haunting feature debut." London Film Festival Winner of Special Mention Locarno International Film Festival 2014 Enillydd Clod Arbennig yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Locarno 2014 > Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre


Nos Fawrth 24 8.15yh / Tuesday 24 8.15pm

Charlie’s Country (15) Cyfarwyddwr / Director: Rolf de Heer Yn serennu / Starring: David Gulpilil, Peter Djigirr, Luke Ford Awstralia, 2014, 1 awr 48 munud Australia, 2014, 1 hour 48 minutes A heartfelt, deeply passionate story about the life and times of legendary Australian actor David Gulpilil (Walkabout, Ten Canoes) that makes great use of his extraordinarily expressive face. Full of diverting, blackfella humour and filled with anger at the way Indigenous Australians have been treated for generations, this is a powerful, poignant window on Aboriginal culture. Living on the edge of a rundown Aboriginal community, and increasingly stifled by white laws, Charlie decides to return to life according to the old ways. Gulpilil gives a haunting performance as an ageing Aborigine trying to fight back against a system of prejudice and neglect.

Stori deimladwy, angerddol iawn am fywyd ac oes yr actor enwog o Awstralia, David Gulpilil (Walkabout, Ten Canoes) sy’n gwneud defnydd gwych o’i wyneb hynod fynegiannol. Yn llawn hiwmor difyrrus y ‘blackfella’ ac yn llawn dicter tuag at y ffordd mae Brodorion Awstralia wedi cael eu trin am genedlaethau, mae’r ffilm hon yn olwg nerthol, ingol ar ddiwylliant Brodorion Awstralia. Yn byw ar gyrion cymuned lom i Frodorion, ac yn cael ei gyfyngu’n fwyfwy gan ddeddfau dynion gwyn, mae Charlie yn penderfynu dychwelyd at fywyd sy’n seiliedig ar yr hen ffyrdd. Mae Gulpilil yn rhoi perfformiad cofiadwy fel hen Frodor yn ceisio ymladd yn ôl yn erbyn system o ragfarn ac esgeulustra.

"an unforgettable film, beautifully made, at times unbearably sad, but tinged with an unquenchable optimism and humanity" The Australian Winner Best Actor Un Certain Regard Cannes Film Festival 2014 Enillydd Actor Gorau Gŵyl Ffilm Un Certain Regard Cannes 2014

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film


Dydd Mercher 25 2.30yh / Wednesday 25 2.30pm

the apple

(PG)

Cyfarwyddwr / Director: Samira Makhmalbaf Yn serennu / Starring: Massoumeh Naderi, Zahra Naderi, Ghorban Ali Naderi Iran, 1998, 1 awr 23 munud, gydag isdeitlau Iran, 1998, 1 hour 23 minutes, subtitles This witty, gentle but often surprisingly acerbic docu-drama tells the real-life story of two innocent girls suddenly let loose on the streets of Tehran (by a pleasingly determined social worker) after being kept locked indoors for twelve years. Like so many Iranian films about children, it’s all the more powerful because of the deceptively simple, non-judgmental way the tale is told. And the harsh, unsentimental portrait of family life effectively offsets its cute charm. This engaging, compelling allegory of deliverance and redemption becomes a damning indictment of Iranian patriarchal culture.

Iran Season Tymor Iran

Mae’r ddrama ddogfen hon sy’n ffraeth, yn dyner ond weithiau’n chwerw yn adrodd stori wir am ddwy ferch ddiniwed sy’n cael eu rhyddhau’n sydyn i strydoedd Tehran (gan weithiwr cymdeithasol penderfynol) ar ôl cael eu cadw o dan glo mewn tu fewn am ddeuddeg mlynedd. Fel cymaint o ffilmiau Iranaidd am blant, mae’n fwyfwy grymus oherwydd y ffordd dwyllodrus o syml caiff ei hadrodd heb ragfarn. Ac mae’r portread llym disentiment o fywyd teuluol yn cydbwyso ei swyn hyfryd mewn modd effeithiol. Mae’r alegori gafaelgar, am ryddhad ac achubiaeth yn troi’n gyhuddiad melltithiol o ddiwylliant patriarchaidd Iran.

“Makhmalbaf's impeccable feature-film debut is a witty and precociously intelligent docudrama.” Sight & Sound Enillydd Gwobr FIPRESCI Gŵyl Ffilm Ryngwladol 1998 Locarno Winner FIPRESCI Prize Locarno International Film Festival 1998

> Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre


Nos Fercher 25 5.45yh / Wednesday 25 5.45pm

Jauja

(15)

Wales premiere Premiere Cymru

Cyfarwyddwr / Director: Lisandro Alonso Yn serennu / Starring: Viggo Mortenson, Viilbjørk Mallin Agger, Ghita Nørby Yr Ariannin-Yr Unol Daleithiau-Yr Iseldiroedd-Ffrainc-Mecsico-Denmarc-Yr Almaen-Brasil, 2014, 1 awr 41 munud, gydag isdeitlau / Argentina-USA-Netherlands-France-Mexico-Denmark-Germany-Brazil, 2014, 1 hour 41 minutes, subtitles A fabulously beautiful western about the search for a utopia that remains forever out of reach, set on the spectacular coast, pampas and deserts of Patagonia. When his 15-year-old daughter Ingeborg elopes with a young soldier, the distraught Captain Dinesen (Viggo Mortenson) embarks on an epic journey across an empty wilderness in the hope of tracking the couple down. Mortensen excels as the quixotic Dinesen who descends into single-minded obsession as his quest takes him beyond the confines of the known world. If you can sit back, relax and take the pace his haunting journey will reward you with a strange and magical ending quite unlike anything you’ve seen before.

Ffilm Western hyfryd am y cwest am iwtopia sydd o hyd y tu hwnt i’r gafael, wedi ei gosod ar arfordir, paith ac anialwch ysblennydd Patagonia. Pan mae Ingeborg ei ferch 15 mlwydd oed yn ffoi gyda milwr ifanc, mae’r Capten Dinesen trallodus (Viggo Mortenson) yn cychwyn ar siwrnai epig ar draws diffeithiwch gwag gan obeithio dod ar draws y pâr. Mae Mortensen yn rhagori fel Dinesen mympwyol sy’n cyrraedd pwynt obsesiwn wrth i’w gwest ei dywys y tu hwnt i gyffiniau’r byd hysbys. Os allwch eistedd yn ôl, ymlacio a chyd-fynd â’r cyflymdra, bydd ei siwrnai yn eich gwobrwyo gyda diweddglo rhyfedd a hudol sydd yn hollol wahanol i unrhyw beth fyddwch wedi ei weld o’r blaen.

"A marvellous experience that shows that film is a medium that can lock up a history (or memories or dreams or nightmares) inside it, then release it in all the splendour of the Patagonian skies." Sight & Sound Winner FIPRESCI prize Un Certain Regard Cannes Film Festival 2014 Enillydd Gwobr FIPRESCI Gŵyl Ffilm Un Certain Regard Cannes 2014

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film


Nos Fercher 25 8.15yh / Wednesday 25 8.15pm

Open Bethlehem (PG) Cyfawyddwr / Director: Leila Sansour Yn serennu / Starring: Leila Sansour, Marti Bell, and the people of Bethlehem Palestina/Yr Emiraethau Arabaidd Unedig/Prydain/Yr Unol Daleithiau, 2013, 1 awr 30 munud, gydag isdeitlau Palestine/UAE/UK/USA, 2013, 1 hour 30 minutes, subtitles The tragedy of the Palestinians encapsulated in the life of one family and one town – Bethlehem. Director Sansour (Jeremy Hardy vs Israeli Army) returns to her home town on a mission to ensure that Bethlehem stays a free and open city. Ever optimistic, she sets up a tourist project and promotes the Bethlehem passport, a kind of first step on which peace processes are built. Meanwhile the construction of the ‘separation wall’ slowly strangles the most famous little town in the world. As one man whose business is ruined says, “Security. They’ve swallowed the whole world with this one word.” This is a powerful, very personal film that shows the hope that drives Leila’s campaign but also faces up to the limits of what she can achieve.

"a fierce, poignant film" Guardian

Trasiedi'r Palesteiniaid wedi ei hymgorffori mewn bywyd un teulu ac un dref - Bethlehem. Mae’r Cyfarwyddwr Sansour (Jeremy Hardy vs Israeli Army) yn dychwelyd i’w thref gartref ar genhadaeth i sicrhau fod Bethlehem yn aros yn ddinas rydd ac agored. Yn fythol optimistaidd mae’n sefydlu prosiect twristaidd ac yn hyrwyddo pasbort Bethlehem yn fath o gam cyntaf y gellir adeiladu prosesau heddwch ar ei sail. Yn y cyfamser mae adeiladu’r ‘wal gwahanu’ yn araf grogi tref fechan fwyaf enwog y byd. Yn ôl un dyn y mae ei fusnes wedi ei chwalu, “Diogelwch. Maen nhw wedi llyncu’r byd cyfan gyda’r un gair hwn.” Mae hon yn ffilm nerthol, bersonol iawn sy’n dangos y gobaith sy’n gyrru ymgyrch Leila ond sydd hefyd yn cydnabod cyfyngiadau’r hyn y gellir ei gyflawni ganddi.

“One of the most remarkable and moving documentaries I have seen about this unreported story.” John Snow Leila Sansour will answer questions after the film Bydd Leila Sansour yn ateb cwestiynau yn dilyn y ffilm.

> Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre


Nos Iau 26 5.45yh / Thursday 26 5.45pm

Natural Sciences

(PG)

Cyfarwyddwr / Director: Matias Lucchesi Yn Serennu / Starring: Paula Hertzog, Paola Barrientos, Alvin Astorga Yr Ariannin/Ffrainc, 2014, 1 awr 11 munud, gydag isdeitlau Argentina/France, 2014, 1 hour 11 minutes, subtitles Like Bombon: El Perro this is a lovely, easy-going, slice-of-life journey round the dusty back roads of the deep South of Argentina. In the wilds of the Patagonian mountains, Lila, a headstrong, selfsufficient young girl, is determined to find the father she never knew. Despite mounting disapproval, a sympathetic teacher, the stolid Marta, decides to help the irrepressible Lila. They set off with their only clue, a small, rusty nameplate wrenched from a pylon. With its straightforward direction and utterly convincing performances, their journey through wrong turns, dead ends and mistaken identities is wryly funny and wholly moving. A real little gem that’s bound to put a smile on your face.

UK premiere Premiere Prydain

Fel Bombon: El Perro mae hon yn ffilm hyfryd, hamddenol ac yn siwrnai o gwmpas ffyrdd llychlyd bychain De’r Ariannin. Yng ngwylltir mynyddoedd Patagonia mae Lila, merch hunangynhaliol, benstiff yn benderfynol o ddod o hyd i’r tad nid yw erioed wedi ei adnabod. Er gwaethaf anghytundeb cynyddol, mae Marta, athrawes gydymdeimladol, ddi-sigl, yn penderfynu helpu’r Lila ddiatal. Mae’r ddwy yn cychwyn allan gyda’u hunig gliw, plât enw rhydlyd wedi ei dynnu oddi ar beilon. Gyda’i chyfeiriad syml a pherfformiadau hollol argyhoeddiadol mae eu siwrnai trwy droeon anghywir, ffyrdd pengaead a chamadnabyddiaeth yn ddoniol ac yn hollol drawiadol. Dyma i chi drysor bach bydd yn siŵr o roi gwên ar eich wyneb.

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film


Nos Iau 26 8.15yh / Thursday 26 8.15pm

Fish and Cat

(15)

Cyfarwyddwr / Director: Shahram Mokri Yn serennu / Starring: Babak Karimi, Saeed Ebrahimifar, Ainaz Azarhoush Iran, 2013, 2 awr, 14 munud, gydag isdeitlau Iran, 2013, 2 hours 14 minutes, subtitles Told in one single stunning shot this gripping film succeeds in ‘unhinging’ time to create a strange, haunting feel to seemingly everyday events. A group of students gather by a remote lake for a camping trip and kite-flying festival. The only other people around are a seedy, possibly murderous, trio of cooks who run a scuzzy restaurant. The washed out colour scheme, the eerie sounds, the clever recurrence of certain events to create a disconcerting sense of déjà vu, all work to produce a sustained mood of disquiet. A truly extraordinary film that plays with our perception of time, space, and truth.

Wales premiere Premiere Cymru Iran Season Tymor Iran

Wedi ei ffilmio mewn un olygfa syfrdanol mae’r ffilm afaelgar hon yn llwyddo i ‘ddatgysylltu’ amser a rhoi teimlad rhyfedd i ddigwyddiadau sydd yn gyffredin ar yr olwg gyntaf. Mae grŵp o fyfyrwyr yn ymgynnull ger llyn anghysbell ar gyfer trip gwersylla a gŵyl hedfan barcudiaid. Yr unig bobl eraill o gwmpas yw triawd o gogyddion, llofruddion blêr o bosibl, sy’n rhedeg bwyty annymunol. Mae’r cynllun lliw simsan, y seiniau iasol, gyda rhai digwyddiadau’n ail-chwarae’n gelfydd er mwyn creu teimladwy annifyr o déjà vu, i gyd yn cyfuno i greu awyrgylch parhaus o anesmwythyd. Ffilm wir ryfeddol, sy’n chwarae gyda’n canfyddiad o amser, gofod a gwirionedd.

"something truly special" Andrew Robertson, Eye for Film

Winner Special Jury Award for Creativity Venice Film Festival 2013 Enillydd Gwobr Rheithgor Arbennig ar gyfer Creadigedd Gŵyl Ffilm Fenis 2013 > Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre


WOW Festival in Cardigan Enjoyed the WOW Festival in Aberystwyth? Come along and support these other WOW festival events in Cardigan

Gŵyl WOW yn Aberteifi

Wedi mwynhau Gŵyl WOW yn Aberystwyth? Dewch ynghyd i gefnogi'r digwyddiadau Gŵyl WOW eraill yn Aberteifi

Iranian New Year Celebration Dathliad Blwyddyn Newydd Iran Saturday 28 March 7.00pm

Nos Sadwrn 28 Mawrth 7.00yh Small World Centre

Canolfan Byd Bychan

Come and enjoy a screening of Where is the Friend’s Home? and a delicious Persian feast prepared by Our Two Acres. Dewch i fwynhau dangosiad o ffilm fwyaf trawiadol Abbas Kiarostami’s, sef Where is My Friend’s House? a gwledd flasus o fwyd Persia wedi ei baratoi gan Our Two Acres.

Film Tickets / Tocynnau Ffilm: £6 Food / Bwyd: £10 01239 615952 www.smallworld.org

DUKHTAR (DAUGHTER) (12A) Sunday 5 April 6.00pm Nos Sul Ebrill 5 6.00yh

Theatr Mwldan

Theatr Mwldan Film Society present an extra screening of the gorgeously filmed Pakistani thriller about a mother and daughter fleeing from a trbal warlord. Wedi ei gosod yn erbyn cefndir mynyddoedd yr Himalaya, mae hon yn ffilm gyffro o Bacistan sydd wedi ei ffilmio’n gelfydd am fam a merch sy’n ffoi rhag rhyfelwr llwythol.

01239 621200 www.mwldan.co.uk

www.facebook.com/WOWfilmfestival

@WOWfilm


Book your WOW tickets now!

Archebwch eich tocynnau WOW nawr!

£6.50 Adult / £6 OAP

£6.50 Oedolion / £6 Pensiynwyr

Cinema tickets:

£5.50 Student and Under 18’s

£5 Silver Screenings (Free Tea and Coffee)

Box Office 01970 62 32 32

Open Mon – Sat 10am – 8pm / Sun 1.30 pm – 5.30pm

Online at www.aberystwythartscentre.co.uk

Aberystwyth Arts Centre Aberystwyth University Penglais Hill, Aberystwyth SY23 3DE

Prisiau tocynnau sinema: £5.50 Myfyrwyr a dan 18

£5 Tocynnau ‘Silver Screenings’

(Te a Choffi am ddim)

Swyddfa Docynnau 01970 62 32 32 Ar agor Llun – Sad 10am – 8pm / Sul 1.30 pm – 5.30pm

Ar-lein ar www.aber.ac.uk/artscentre

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Prifysgol Aberystwyth University Rhiw Penglais, Aberystwyth SY23 3DE

WOW Festival Pass £50 (£40 concessions)

Pas Gŵyl Ffilm WOW £50 (£40 concesiynau)

See 5 great Iranian films for £20 (£15)

Gwyliwch 5 ffilm anhygoel o Iran am

Iranian Season Ticket

Tocyn Tymor Iran £20 (£15)

WOW Wales One World Film Festival is an initiative of David Gillam, Aberystwyth Arts Centre and Taliesin Arts Centre Mae Gŵyl Ffilmiau WOW Cymru a’r Byd yn Un yn fenter ar y cyd rhwng David Gillam, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chanolfan Gelfyddydau Taliesin.


WOW Wales One World Film Festival Gŵyl Ffilmiau WOW Cymru a’r Byd yn Un Dyddiadur Mis Mawrth / Diary March 2015

Dydd Gwener / Friday 20

Mawrth / March

5.45pm Difret (12A) 8.15pm Margarita, with a Straw (15) Dydd Sadwrn / Saturday 21

Iranian Film Day / Diwrnod Ffilm Iran

Dukhtar (Daughter) August Winds

11.30am Where Is My Friend's Home?(U) 2.15pm Hamoun (15) 5.30pm Under the Skin of The City (15) 8.00pm Timbuktu (15) Dydd Sul / Sunday 22

2.30pm My Name Is Salt (PG) 5.30pm The Tribe (15) Dydd Llun / Monday 23

5.45pm Deep Listening (Dadirri) (PG) 8.15pm Dukhtar/Daughter (12A) Dydd Mawrth / Tuesday 24

5.45pm August Winds (15) 8.15pm Charlie's Country (15) Dydd Mercher / Wednesday 25

My Name is Salt

2.30pm The Apple (PG) 5.45pm Jauja (15) 8.15pm Open Bethlehem (PG) Dydd Iau / Thursday 26

Margarita, With a Straw zodshop - eco design & photography

5.45pm Natural Sciences (PG) 8.15pm Fish & Cat (15) zodshopdesign.co.uk info@zodshopdesign.co.uk 01239 711638


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.