WOW Film Festival 2017 Theatr Clwyd

Page 1

2017 www.wowfilmfestival.com

Wales One World Film Festival Gŵyl Ffilm Cymru a’r Byd yn Un

The Colours of the Mountain

Tuesday 4 - Thursday 13 April Dydd Mawrth 4 - Dydd Iau 13 Ebrill


Welcome to WOW 2017

CROESO I WOW 2017

A celebration of the wonderful diversity of global filmmaking, WOW Film Festival brings the very best of world cinema to Theatr Clwyd.

Dathliad o amrywiaeth aruthrol gwneud ffilmiau ar draws y byd, daw Gŵyl Ffilm WOW â’r goreuon ymhlith sinema’r byd i Theatr Clwyd.

Highlights include Neruda from Chilean director Pablo Larrain (Jackie, No), sweet romantic tale The Happiest Day in the Life of Olli Maki, and Shadow World, a revealing documentary about the global arms trade with author Andrew Feinstein, who will take part in a panel discussion.

Mae uchafbwyntiau’n cynnwys Neruda gan y Cyfarwyddwr o Chile, Pablo Larrain (Jackie, No), y stori ramantus The Happiest Day in the Life of Olli Maki, a Shadow World, ffilm ddogfen ddadlennol am y fasnach arfau bydol gyda’r awdur Andrew Feinstein, a fydd yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel.

This year WOW’s cinematic journey through Chile, Colombia, Egypt, Finland and Mali includes a ‘Voices of Resistance’ season. These are powerful films that hope to provoke us into taking action to change our world for the better so don’t just watch, act!

Eleni bydd siwrnai sinematig WOW trwy Chile, Colombia, yr Aifft, y Ffindir a Mali yn cynnwys tymor ‘Lleisiau Gwrthsafiad’. Mae’r rhain yn ffilmiau grymus sy’n anelu at ein procio i weithredu er mwyn newid ein byd er gwell - felly peidiwch â gwylio’n unig, gwnewch rywbeth!

David Gillam Wales One World Film Festival Director Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Cymru a’r Byd yn Un

WOW Festival Pass £21 (£18 concessions)

Pas Gŵyl Ffilm WOW £21 (£18 consesiynau)

@WOWFilm /WOWfilmfest www.wowfilmfestival.com Book online / Archebwch ar-lein: www.theatrclwyd.com


Clash (15 tbc) Director / Cyfarwyddwr: Mohamed Diab Starring / Yn serennu: Nelly Karim, Hany Adel, Tarek Abdel Aziz Egypt/France/Germany/Yr Aifft/Ffrainc/Yr Almaen, 2016, 97 minutes/munud, subtitles/isdeitlau

Tuesday 4 April 8.00pm

Nos Fawrth 4 Ebrill 8.00yh

Entirely set in the back of a police truck, this ferociously well-made film paints a fascinating portrait of contemporary Egypt. Both supporters of the Morsi government and anti-Morsi protestors are out on the street demonstrating. In the chaos innocent bystanders, journalists and fierce political rivals are rounded up and thrown in the back of a truck. From this simple set-up, Diab weaves a striking story told with real cinematic verve. Tensions run high as they await their fate during a long hot day locked together. As riots explode around them we feel their claustrophobia, anger, fear, horror, despair, and glimmers of hope. A masterful depiction of a society torn apart by its differences, this builds powerfully to a breathless finale.

Wedi ei gosod yn gyfan gwbl yng nghefn tryc yr heddlu, mae’r ffilm hon, sydd wedi ei saernïo’n wych, yn paentio darlun diddorol iawn o’r Aifft gyfoes. Mae cefnogwyr llywodraeth Morsi a phrotestwyr gwrth-Morsi ar y strydoedd yn protestio. Yng nghanol yr anrhefn caiff gwylwyr diniwed, newyddiadurwyr a gelynion gwleidyddol eithaf eu casglu ynghyd â’u taflu i gefn tryc. O’r gosodiad syml hwn, mae Diab yn gweu stori drawiadol gyda gwir egni sinematig. Mae tensiwn yn yr awyr wrth iddynt ddisgwyl eu tynged ar ôl treulio diwrnod hir a phoeth wedi eu cloi gyda’i gilydd. Wrth i derfysgoedd ffrwydro o’u cwmpas, teimlwn eu clawstroffobia, dicter, ofn, arswyd, anobaith, ac ambell lygedyn o obaith. Darlun celfydd o gymdeithas wedi ei rhwygo ar led gan ei gwahaniaethau, adeilada’r ffilm hon at ddiweddglo syfrdanol.

“this is bravura filmmaking with a kick-in-the-gut message . . . .” Variety

Theatr Clwyd 01352 701521


Wulu (15 tbc) Director / Cyfarwyddwr: Daouda Coulibaly Starring / Yn serennu: Ibrahim Koma, Inna Modja, Ismaël N’Diaye France / Ffrainc / Senegal, 2016, 95 minutes / munud, subtitles / isdeitlau

Wednesday 5 April 8.00pm

Nos Fercher 5 Ebrill 8.00yh

Fuelled by a high-octane central performance this is a constantly absorbing thriller about a likeable, optimistic and street-wise young man’s rise from bus conductor to big-time drug dealer. Wulu shows a rather different picture of Mali than usual, intelligently connecting Ladji’s rise and fall to the political events that led up to Mali’s 2012 coup. Determined to get his sister out of prostitution, Ladji dodges the double-crosses, survives a shoot out in the desert and rises swiftly to the top of the drugs trade. Of course the good times don’t last. Like a Malian riff on Scarface, this is a telling tale of modern Africa where drugs are traded for weapons that fuel civil wars across the continent.

Wedi ei gyrru gan berfformiad canolog egnïol, dyma i chi ffilm gyffro sy’n eich cyfareddu o’r dechrau i’r diwedd am ddyn ifanc dymunol, optimistaidd a chraff a’i ddatblygiad o docynnwr bws i brif ddeliwr cyffuriau. Mae Wulu yn dangos darlun tra gwahanol na’r arfer o Mali, gan gysylltu’n ddeallus cynnydd a chwymp Ladji â’r digwyddiadau gwleidyddol a arweiniodd at wrthryfel Mali yn 2012. Yn benderfynol o achub ei chwaer o buteindra, mae Ladji yn osgoi’r twyllo, yn goroesi brwydr gynnau yn yr anialwch ac yn codi’n gyflym i frig y fasnach gyffuriau. Wrth gwrs nid yw’r amserau da yn parhau. Fel riff Mali ar Scarface, mae hon yn stori drawiadol am yr Affrica fodern lle caiff cyffuriau eu masnachu am arfau sy’n bwydo rhyfeloedd cartref ar draws y cyfandir.

“Coulibaly’s potent and enigmatic film exudes style and brio, right up to its surprising end.” London Film Festival

Theatr Clwyd 01352 701521

www.theatrclwyd.com


Wulu


Neruda (15) Director / Cyfarwyddwr: Pablo Larraín Starring / Yn serennu: Luis Gnecco, Gael García Bernal, Mercedes Morán Chile/Argentina/Yr Ariannin/France/Ffrainc /Spain/Sbaen, 2016, 108 minutes/munud, subtitles/isdeitlau

Thursday 6 April 8.00pm

Nos Iau 6 Ebrill 8.00yh

Larraín (Jackie, No) fuses history, legend and fiction to powerful effect in this bold, stunningly inventive detective thriller and ‘anti-bio’. This is a fascinating examination of how we create the story of our own lives - particularly if you’re a vain, self-publicist like the great Nobel-prize winning poet, Pablo Neruda. Chile, late 1940s Neruda is on the run from a government crack down. Peluchonneau, the dogged detective on his tail, and Neruda become two poles of an intertwined narrative, both determined to create their own myths, one as the smart top detective, the other as a great romantic poet and hero of the people. Beautifully made with a fabulous understated performance from Bernal and a sharp, wonderfully observed script, this is a lot of fun.

Mae Larraín (Jackie, No) yn asio hanes, chwedl a ffuglen yn effeithiol yn y ffilm gyffro a’r ‘gwrth-fywgraffiad’ ditectif eofn, a hynod ddyfeisgar hon. Mae’n ymchwiliad diddorol tu hwnt o sut yr ydym yn creu stori am ein bywydau ni ein hunain - yn enwedig os ydych yn ymffrostgar a choegfalch fel y bardd mawreddog a’r enillydd Gwobr Nobel, Pablo Neruda. Yn Chile, ar ddiwedd y 1940au mae Neruda yn ffoi rhag llymder y llywodraeth. Mae Peluchonneau, y ditectif penderfynol sy’n ei ganlyn a Neruda yn ddau begwn mewn naratif sy’n ymblethu, y ddau yn benderfynol o greu eu mythau eu hun, un fel y ditectif arweiniol craff, y llall fel bardd rhamantaidd mawreddog ac arwr y bobl. Wedi ei chreu mewn modd celfydd gyda pherfformiad cynnil gwych gan Bernal a sgript, sionc, sylwgar, mae’r ffilm hon yn dipyn o hwyl.

“a dizzying cinematic adventure filmed with playful virtuosity.” London Film Festival

Theatr Clwyd 01352 701521 www.theatrclwyd.com


Neruda


The Happiest Day in the Life of Olli Maki (12A) Director / Cyfarwyddwr: Juho Kuosmanen Starring / Yn serennu: Jarkko Lahti, Oona Airola, Eero Milonoff Finland/Y Ffindir/Germany/Yr Almaen/Sweden, 2016, 92 minutes/munud, subtitles/isdeitlau, B&W/Du a Gwyn

Tuesday 11 April 8.00pm

Nos Fawrth 11 Ebrill 8.00yh

Resolutely low-key, this sweet romantic tale of a modest underdog preparing for his big fight conjures up a delightful mood of bittersweet melancholy. Although the expectations of the Finnish nation weigh on his shoulders, Olli Maki’s preparations for his shot at the world title seem surprisingly amateurish. Then Olli (“the Baker from Kokkola”) falls in love, and it becomes increasingly clear that boxing is no longer the most important thing in his world. With its warm, gently funny script, charming central performance and gorgeous B/W period look, this is sure to send you home with a smile on your face.

Mae’r stori felys ramantaidd ddiffwdan hon am ŵr sy’n paratoi ar gyfer yr ornest fawr yn creu awyrgylch o dristwch chwerw-felys. Er bod disgwyliadau pobl y Ffindir yn pwyso ar ei ysgwyddau, mae paratoadau Olli Maki ar gyfer ei gyfle i gipio teitl y byd yn ymddangos yn weddol amatur. Yna mae Olli (“y pobydd o Kokkola”) yn syrthio mewn cariad, ac ymddengys yn amlwg nid bocsio bellach yw’r peth pwysicaf yn ei fyd. Gyda’i sgript ddymunol a doniol, perfformiad canolog hoffus ac ymddangosiad Du a Gwyn moethus y cyfnod, bydd y ffilm hon yn siŵr o roi gwên ar eich gwefusau.

“a small marvel of impeccable craftsmanship.” Hollywood Reporter Winner Un Certain Regard Cannes Film Festival 2016 Enillydd Un Certain Regard Gŵyl Ffilm Cannes 2016 Book online / Archebwch ar-lein: www.theatrclwyd.com


Shadow World (15) + discussion/trafodaeth Director / Cyfarwyddwr: Johan Grimonprez Starring / Yn serennu: Andrew Feinstein, David Leigh, Helen Garlick USA / Yr Unol Daleithiau America, 2016, 90 minutes / munud

Wednesday 12 April 8.00pm

Nos Fercher 12 Ebrill 8.00yh

A smart, hard-hitting look at the global arms trade, the vast sums of money that are made and the corruption that creates. Fascinating interviews reveal the shocking realities of Britain’s central role in this dirty trade that counts its profits in billions and its losses in human lives. Based on Andrew Feinstein’s globally acclaimed book this is extremely good at clearly presenting information and then showing the consequences. Masterfully edited and well illustrated with pertinent clips, this deftly weaves the multiple strands of its global story into a compelling case against the guilty parties. In the hope that if we better understand what really goes on, we can see through the horror, and create a better future. + Panel discussion with author Andrew Feinstein

Ystyriaeth graff, drawiadol ar y fasnach arfau byd-eang, y symiau enfawr o arian a wneir a’r llygredd mae hynny’n ei greu. Mae cyfweliadau hynod ddiddorol yn amlygu realiti ysgytiol rôl ganolog Prydain yn y fasnach fudr hon sy’n cyfrif yr elw mewn miliynau a’r colledion mewn bywydau dynol. Yn seiliedig ar lyfr clodfawr Andrew Feinstein, mae’r ffilm yn llwyddo’n dda i gyflwyno’n glir ac yna i ddangos y canlyniadau. Wedi ei golygu’n gelfydd a’i darlunio’n effeithiol gyda chlipiau perthnasol, mae’n gwau aml-geinciau ei stori fyd-eang yn fedrus er mwyn creu achos nerthol yn erbyn y partïon euog. Y gobaith yw, os deallwn yn well yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd, y gallwn weld trwy’r arswyd a chreu dyfodol gwell. + Trafodaeth banel gyda’r awdur Andrew Feinstein

“ . . . superb, gut-punching exploration of the global arms trade is the sort of catalyst to energize politically-minded viewers.” Variety Winner of the Best Documentary Award Edinburgh International Film Festival Enillydd Gwobr y Ffilm Ddogfen Orau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin Book online / Archebwch ar-lein: www.theatrclwyd.com


The Colours of the Mountain (15 tbc) Director / Cyfarwyddwr: Carlos César Arbeláez Starring / Yn serennu: Hernán Mauricio Ocampo, Hernán Méndez, Nolberto Sanchez Colombia / Panama, 2010, 90 minutes / munud, subtitles / isdeitlau

Thursday 13 April 8.00pm

Nos Iau 13 Ebrill 8.00yh

A charming, gentle tale about a group of village boys caught in the crossfire of civil war. In the lush breathtakingly green Colombian mountains, Manuel, Julian and Poca Luz enjoy a simple life where a football or set of coloured pencils is a treasured gift. With both paramilitaries and guerrillas a regular presence, Manuel’s parents argue about leaving. But for the inseparable boys the biggest disaster is that their precious football lies stranded in a minefield. Thanks to vivid performances from all the boys and a well-observed script that neatly balances the harsh realities of peasant life with the innocent joys of childhood, this is a poignant portrait of life in the shadow of conflict.

Stori hyfryd am griw o fechgyn pentref wedi eu dal ynghanol brwydro rhyfel cartref. Ym mynyddoedd gleision, ffrwythlon Colombia, mae Manuel, Julian a Poca Luz yn mwynhau bywyd syml ac mae pêl-droed neu set o bensiliau lliw yn bethau i’w trysori. Gyda lledfilwyr a herwfilwyr yn aml yn bresennol, mae rhieni Manuel yn dadlau ynglŷn â gadael. Ond i’r cyfeillion mynwesol, y trychineb mwyaf yw bod eu pêl-droed yn gorwedd ynghanol maes ffrwydron. Gyda diolch i berfformiadau nwyfus gan y bechgyn a sgript sylwgar sy’n cydbwyso’n gelfydd realiti creulon bywyd gwerinol â phleserau diniwed plentyndod, dyma i chi bortread ingol o fywyd yng nghysgod gwrthdaro.

“Quietly assured....” New York Times Best New Director Award San Sebastian International Film Festival 2010 Enillydd Gwobr y Cyfarwyddwr Newydd Gorau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol San Sebastian 2010

Theatr Clwyd 01352 701521 www.theatrclwyd.com


Book your WOW tickets now!

Archebwch eich tocynnau WOW nawr!

Cinema Tickets: All seats: £6 (Unless otherwise stated) Accompanied children: £5 (under 15 - all shows) Accompanying adults: £5 Unaccompanied children under 12: not admitted Senior citizens, students, claimants: £5.50 (not Saturday evenings)

Prisiau tocynnau sinema: Pob sedd: £6 (Oni nodir fel arall) Plant yn mynychu gydag oedolion: £5 (o dan 15 - pob sioe) Oedolion yn mynychu gyda phlentyn: £5 Plant o dan 12 heb oedolyn: dim mynediad Pensiynwyr, myfyrwyr, hawlwyr: £5.50 (nid ar nos Sadwrn)

Box Office 01352 701521 Open Mon – Sat 10am – 8pm Online: www.theatrclwyd.com Theatr Clwyd, Mold, Flintshire, CH7 1YA

WOW Festival Pass £21 (£18 concessions)

Swyddfa Docynnau 01352 701521 Ar agor Llun – Sad 10yb – 8yh Ar-lein: www.theatrclwyd.com Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1YA

Pas Gŵyl Ffilm WOW £21 (£18 consesiynau)

WOW Wales One World Film Festival is an initiative of David Gillam, Aberystwyth Arts Centre and Taliesin Arts Centre. / Mae Gŵyl Ffilm WOW Cymru a’r Byd yn Un yn fenter ar y cyd rhwng David Gillam, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chanolfan Gelfyddydau Taliesin.


2017

Wales One World Film Festival Gŵyl Ffilm Cymru a’r Byd yn Un

Diary April / Dyddiadur Mis Ebrill 2017 Tuesday 4 April / Dydd Mawrth 4 Ebrill

8.00pm/yh Clash (15 tbc)* Wednesday 5 April / Dydd Mercher 5 Ebrill

8.00pm/yh Wulu (15 tbc) Thursday 6 April / Dydd Iau 6 Ebrill

8.00pm/yh Neruda (15)* Tuesday 11 April / Dydd Mawrth 11 Ebrill

Neruda

8.00pm/yh The Happiest Day in the Life of Olli Maki (12A) Wednesday 12 April / Dydd Mercher 12 Ebrill

8.00pm/yh Shadow World (15 tbc)* Thursday 13 April / Dydd Iau 13 Ebrill

8.00pm/yh The Colours of the Mountain (15 tbc)* Wulu

*Voices of Resistance Season / *Tymor Lleisiau Gwrthsafiad

@WOWFilm /WOWfilmfest www.wowfilmfestival.com www.theatrclwyd.com


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.