Oriel Davies Open 2012

Page 5

Arddangosfa Agored 2012 yw 5ed cystadleuaeth Arddangosfa Agored Oriel Davies, y tro hwn, heb unrhyw baramedrau daearyddol neu artistig. Yn ddiamau, roedd y gystadleuaeth ar ‘agor’ i bawb, ac â photensial diddiwedd i arddangos ehangder ac amrywiaeth arfer artistig o bob rhan o'r byd. Cafodd y gystadleuaeth ymateb cenedlaethol a rhyngwladol aruthrol - o Gymru i Israel, o Gernyw i’r Swistir. Mae’r tri deg wyth o artistiaid a ddewiswyd yn gwthio’r ffiniau - yn herio systemau gwleidyddol neu gymdeithasol, cipio’r aruchel, datgelu'r annaearol neu hyd yn oed amharu ar bensaernïaeth yr oriel. Gall y darnau gael eu deall fel cyfres o wrthgyferbyniadau - y naturiol yn erbyn yr artiffisial, anifeiliaid yn erbyn pobl, neu’r byrhoedlog yn erbyn y sefydlog, ac maent yn dangos y ffyrdd niferus ac amrywiol y gall celfyddyd gyfoes weithio i effro, herio a chyfareddu; eto, mae pob darn o waith yn cael eu cyflwyno’n unigol, ac â ffyrdd unigryw eu hunain o gyfathrebu. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n panel dethol ar gyfer Arddangosfa Agored 2012, sef Ben Borthwick, Prif Swyddog Gweithredol, Artes Mundi ac Ann Jones, Curadur, Arts Council Collection am eu cefnogaeth barhaus a’u cyfraniad gwerthfawr. Diolch hefyd, i’n gweinyddwyr gwych, Rachel McManus a Melissa Hinkin, i Emma Posey am ei chefnogaeth a’i brwdfrydedd, ac i Alex Boyd Jones, a greodd y fframwaith i’r gystadleuaeth allu datblygu a dod yn ddigwyddiad mor boblogaidd yng nghalendr arddangos Oriel Davies.

Ruth Gooding, Curador, Oriel Davies


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.