What's On Spring - Summer 2017

Page 1

orieldavies.org

Gwanwyn—Haf Spring—Summer 2017

orieldavies


Gwanwyn—Haf Spring—Summer 2017

I ddod yn 2017/ Coming up in 2017 11 Mawrth/March—10 Mai/May Vanishing Point | Kelly Best Instructions for Imagined Spaces | Rory Duckhouse | TestBed 20 Mai/May—19 Gorffennaf/July Navigations – Art as Research Arddangosfa grw ˆ p/Group exhibition Litmus | TestBed

Croeso Welcome

29 Gorffennaf/July— 20 Medi/September Twelve Tall Tales Arddangosfa grwp/Group ˆ exhibition Litmus | TestBed 07 Hydref/October— 28 Tachwedd/November Louise Bristow (Enillydd Arddangosfa Agored 2016/Open 2016 winner) Litmus | TestBed 07 Hydref/October— 27 Ionawr/January 2018 Open Space year 2 09 Rhagfyr/December— 27 Ionawr/January 2018 Andreas Ruthi (Enillydd Arddangosfa Agored 2016/Open 2016 winner) Litmus | TestBed

Mae'r gweithiau celf sydd yn cael eu harddangos ar werth. Mae'r Oriel yn gweithredu'r Cynllun Casglu. Rhagor o wybodaeth: www.orieldavies.org Neu, gallwch gofrestru ar gyfer ein e-gylchlythyr misol, a bod y cyntaf i wybod beth sydd ar y gweill yn Oriel Davies. Find out more: www.orieldavies.org Or, sign up for our monthly e-newsletter and be the first to know what’s coming up at Oriel Davies.

Exhibited artworks for sale. Collectorplan is available.

orieldavies.org


Vanishing Point: Kelly Best

Arddangosfeydd Exhibitions 11 Mawrth/March— 10 Mai/May 2017

Kelly Best, from Vanishing Point, 2017

Mae Vanishing Point yn dwyn ynghyd corff anhygoel o waith newydd gan Kelly Best: arlunydd diddorol a hynod wreiddiol sydd yn byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Hon yw ei sioe fwyaf uchelgeisiol yng Nghymru hyd yn hyn, ac mae’n cynnwys cydgysylltiad cymhellol rhwng cerflunio, arlunio a phaentio, i ystyried arwyneb, gofod a safle. Mae Best yn defnyddio amrywiaeth amlwg o gyfryngau megis dur, dyfrlliw a phensil lliw, ac yn ymateb yn uniongyrchol i ofod pensaernïol a ffisegol Oriel Davies. Daw'r arddangosfa hon yn syth ar ôl cyfnod preswyl 3 mis diweddar gyda Creative Wales yn Ysgol Brydeinig Rhufain, a sioe unigol yng Nghanolfan Gelfyddydau Plymouth yn gynharach yn 2016. Mae hi wedi arddangos gwaith yn flaenorol yng ngofod TestBed Oriel Davies ac yn 2014, yn Arddangosfa Agored Oriel Davies. Mae ei sioeau unigol blaenorol yn cynnwys; g39 (Caerdydd); Eastside Projects (Birmingham); Art in the Bar, Canolfan Gelfyddydau’r Chapter (Caerdydd); ac arddangosodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016 a 2013. Yn 2007, enillodd radd BA mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Kingston.

Vanishing Point brings together an extraordinary body of new work by Kelly Best: a fascinating and highly original artist currently based in Cardiff. This is her most ambitious show in Wales to date and features a compelling interconnection between sculpture, drawing and painting, to consider surface, space and site. Using a distinct array of media such as steel, watercolour and colour pencil, Best responds directly to the architectural and physical space of Oriel Davies. This exhibition comes straight after a recent 3-month Creative Wales residency at The British School at Rome, and a solo show at Plymouth Arts Centre earlier in 2016. She has previously shown work in Oriel Davies’ TestBed and in the 2014 Oriel Davies Open. Previous solo shows include; g39 (Cardiff); Eastside Projects (Birmingham); Chapter Arts Centre, Art in the Bar (Cardiff); and she exhibited in the 2016 and 2013 National Eisteddfod. She graduated from Kingston University BA Fine Art in 2007. Artist Talk 11 March 5pm—6pm FREE In-Conversation between the artist and Louise Hobson, Curator. Vanishing Point is supported by the Arts Council of Wales.

Sgwrs gyda’r Artist 11 Mawrth 5pm—6pm AM DDIM Sgwrs fewnol rhwng yr artist a'r Curadur, Louise Hobson. Cefnogir Vanishing Point gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae cyfleusterau sain ddisgrifiad ar gael. Audio description available.


Navigations— Art as Research 20 Mai/May— 19 Gorffennaf/July 2017

Seven international artists reflect on the nature of progress, decline, globalization and time. Using Wales’ Canal network as a starting point, where they have all been resident artists, they consider the process of making and thinking as an artist while responding to a particular site or situation.

Mae saith o artistiaid rhyngwladol yn myfyrio ar natur cynnydd, dirywiad, globaleiddio ac amser. Maent yn defnyddio rhwydwaith Camlas Cymru fel man cychwyn, lle mae pawb ohonynt wedi bod yn artistiaid preswyl, ac yn ystyried y broses o wneud a meddwl fel artist, tra'n ymateb i safle neu sefyllfa arbennig.

Including new work commissioned for the exhibition, alongside artwork presented outdoors, the exhibits include sculptural interventions, performance, photography and video works. Exhibiting artists are Mo Abd-Ulla; Nicky Coutts; Andrew Dodds; Alan Goulbourne; Mair Hughes; Cheon Pyo Lee and Dan Rees.

Mae’r darnau yn cynnwys gwaith newydd a gomisiynwyd ar gyfer yr arddangosfa, ochr yn ochr â gwaith celf a gyflwynir yn yr awyr agored, ac maent yn cynnwys ymyriadau cerfluniol, perfformiad, ffotograffiaeth a gwaith fideo. Yr artistiaid sy'n arddangos yw Mo Abd-Ulla; Nicky Coutts; Andrew Dodds; Alan Goulbourne; Mair Hughes; Cheon Pyo Lee a Dan Rees.

The three-year artist residency programme partnered Gland w ˆr Cymru, the Canal & River Trust in Wales, Arts Council of Wales and Addo and included projects with galleries and visual arts organisations, Bevilacqua la Masa in Venice, Emscher Kunst in Germany, Chapter in Cardiff and Oriel Davies.

Roedd Gland w ˆ r Cymru, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Addo yn bartner yn y rhaglen breswyl tair blynedd i artistiaid, oedd yn cynnwys prosiectau gydag orielau a sefydliadau’r celfyddydau gweledol, Bevilacqua la Masa yn Fenis, Emscher Kunst yn yr Almaen, Canolfan Gelfyddydau’r Chapter yng Nghaerdydd ac Oriel Davies. Mae’r arddangosfa yn cael ei churadu gan Addo ac Oriel Davies. Cefnogir Navigations – Art as Research gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

The exhibition is curated by Addo and Oriel Davies. Navigations – Art as Research is supported by the Arts Council of Wales.

Arddangosfeydd Exhibitions

Andrew Dodds, Chirk Aqueduct, 2016


Arddangosfeydd Exhibitions

Instructions for Imagined Spaces: Rory Duckhouse TestBed 11 Mawrth/March— 10 Mai /May 2017 Beth sydd fan yma? Ydw i'n meiddio croesi'r trothwy? Testun oriel ... dylwn i ei ddarllen fel fy mod yn gwybod am beth mae’n sôn Enwau, dyddiadau, teitlau, beth maen nhw’n ei olygu? Ble ddylwn i ddechrau? Dwi ddim yn si wr ˆ fy mod yn ei ddeall. Oes gwahaniaeth? Efallai y dylwn i wirio’r wybodaeth eto... Mae Instructions for Imagined Spaces yn cyflwyno cyfres o ganllawiau cyfarwyddiadol sy'n cynnig profiad o ofod dychmygol i ymwelydd yr oriel. Mae'r canllawiau yn defnyddio cyfarfyddiadau a phrofiadau blaenorol yr ymwelydd o’r oriel i adeiladu’r lle dychmygol penodol hwn.

What is in here? Do I dare cross the threshold? A gallery text… I should read it so I know what it’s about. Names, dates, titles, what do they mean? Where should I start? I’m not sure I understand it. Does it matter? Perhaps I’d better check the information again... Instructions for Imagined Spaces presents a series of instructional guides that offer the gallery visitor an experience of an imagined space. The guides use the visitor’s previous encounters and experiences of a gallery to construct this particular imagined place.

Mae TestBed yn cefnogi gwaith newydd ac arbrofol gan artistiaid sydd wedi'u lleoli yng Nghymru a'r Gororau. TestBed supports new and experimental work by artists based in Wales and the Borders.

Litmus

20 Mai/May— 19 Gorffennaf/July 2017 O fis Mai, bydd Oriel Davies yn cychwyn gweithio ar raglen gomisiynu gyffrous blwyddyn o hyd o'r enw Litmus. Trwy broses Galwad Agored, bydd pump o artistiaid newydd yng Nghymru a'r Gororau yn cael eu dewis a'u comisiynu i greu gwaith newydd. Bydd hyn yn ffurfio’r sail ar gyfer cyfres o arddangosfeydd arloesol a fydd yn cael eu cyflwyno yn, a thu hwnt, i'r gofod TestBed cyfredol. Bydd y comisiynau hyn yn cael eu curadu gan Artist-Guradur, a ddewiswyd hefyd drwy broses Galwad Agored, fel rhan o gyfle datblygu proffesiynol ar gyfer dyheadau curadurol newydd yng Nghymru a'r Gororau. Rhagor o wybodaeth: www.orieldavies.org Cefnogir Litmus gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Rory Duckhouse, Instructions for Imagined Spaces, 2016

From May, Oriel Davies is embarking on an exciting year-long commissioning programme called Litmus. Through a process of Open Call, five up and coming artists based in Wales and the Welsh Borders will be selected and commissioned to create new work. This will form the basis for a series of innovative exhibitions presented in and beyond the current TestBed space. These commissions will be curated by an Artist Curator, also selected through Open Call, as part of a professional development opportunity for emerging curatorial aspirations in Wales and its Border counties. Find out more: www.orieldavies.org Litmus is supported by the Arts Council of Wales.


Criw Celf

Mae Criw Celf yn brosiect ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 a 18 oed o Ogledd Powys, sydd wedi cael eu hadnabod fel bod yn alluog a dawnus ym maes y celfyddydau gweledol. Mae'n rhan o fenter genedlaethol i feithrin talent ifanc yng Nghymru. Mae'r cyfranogwyr yn dod at ei gilydd tua saith gwaith y flwyddyn i weithio gydag artistiaid proffesiynol, i ymweld ag arddangosfeydd, adrannau celfyddyd gain prifysgolion a stiwdios artistiaid. Mae’r cyfranogwyr Criw Celf o’r Ysgolion Uwchradd canlynol yng Ngogledd Powys: Ysgol Uwchradd Llanfyllin; Ysgol Uwchradd y Trallwng; Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth; Ysgol Uwchradd Llanidloes; Ysgol Uwchradd Caereinion. Mae dyddiadur Criw Celf ar gyfer 2017 yn cynnwys: Mawrth: Dosbarth meistr mewn rhwymo llyfrau gyda'r artist Amy Sterly. Mehefin: Digwyddiad Hwb Creadigol ar gyfer athrawon Celf Powys. Mehefin: Sesiynau Stiwdio — gwneud celf mewn stiwdio artist. Gorffennaf: 'Trip mawr' y Criw Celf —manylion i'w cadarnhau Rhagor o wybodaeth: desk@orieldavies.org Ariannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chefnogir gan Gyngor Sir Powys.

Criw Celf is a project for young people aged between 12 and 18 from North Powys who have been identified as being able and talented in the visual arts. It is part of a national initiative to nurture young talent in Wales. The participants come together around 7 times a year to work with professional artists, to visit exhibitions, university fine art departments and artists' studios.

Ymweliad Criw Celf â'r / Criw Celf visit to the New Art Gallery Walsall, 2016

Criw Celf participants are from the following Secondary Schools in North Powys: Llanfyllin High School; Welshpool High School; Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth; Llanidloes High School; Caereinion High School. Criw Celf 2017 diary includes: March: Bookbinding masterclass with artist Amy Sterly. June: Creative Boost event for Powys Art teachers. June: Studio sessions — making art in an artist’s studio. July: The Criw Celf 'big trip'— details to be confirmed. Find out more: desk@orieldavies.org Funded by the Arts Council of Wales and supported by Powys County Council. Cyfranogwyr Criw Celf / Criw Celf participants:

Imogen Sadler Imogen Gilmour Jessica Chick Nina Bussink Maria Lucia Toro Rhian Jones Ffion Snape Ceriann Bebb Mathilda Purches

Sophie Jones Moses Hodgetts Myfanwy Fenwick Ben Poole Erin Davies Daisy Dunn Emily Poyner Cerys Jones Keri Mills

Saffron Farr Nikki Wellsford Kate Jerman Harry Woodhouse Sophie Gilliard Issie Higgerson Iestyn Jones Jenna Foulkes Nyeri Flanagan

Ffion Davies Joe Page Eleanor Rowland Melissa Pritchard Mairi Eyres Megan Jones


Gweithdai a Chyrsiau Workshops & Courses

Dosbarthiadau Bywluniadu ar ddydd Sadwrn gyda Caroline Ali Dydd Sadwrn cyntaf pob mis 10.15am—1.30pm £18 (yn cynnwys deunyddiau)

Mae'r sesiynau difyr hyn, gyda thiwtor, yn annog cryfderau unigol, tra’n archwilio agweddau gwahanol o dynnu llun y ffigwr dynol. Mae'r sesiynau wedi eu cynllunio i roi cyngor technegol mewn meysydd allweddol fel cyfrannedd, persbectif, llinell, tôn, lliw ac ystum. Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu eich arddull eich hun gan ddefnyddio deunyddiau amrywiol mewn awyrgylch hamddenol. Rhaid cadw lle.

Bywluniadu-ychwanegol!

Bywluniadu Eisteddiadau Hir Dydd Gwener 17 Mawrth 10.15am—1.30pm £18 (yn cynnwys deunyddiau) Gweithiwch o fywluniadau i astudio'r ffigwr noeth. Mae'r gweithdy hwn yn gyfle gwych i gyfranogwyr fireinio eu sgiliau tynnu llun trwy astudio eisteddiad sengl. Mae cyfranogwyr yn cael dewis o ddatblygu llun sengl, neu greu nifer o astudiaethau yn ystod y gweithdy. Nodwch fod sefyllfa’r îsl ar sail y cyntaf i’r felin. Rhaid cadw lle. Rhaid cadw lle, anfonwch e-bost at desk@orieldavies.org 01686 625041

Saturday Life Drawing Classes with Caroline Ali

First Saturday of each month 10.15am—1.30pm £18 (includes materials)

These fun, tutored sessions encourage individual strengths whilst exploring different aspects of drawing the human figure. The sessions are designed to give technical advice in key areas such as proportion, perspective, line, tone, colour and gesture. Participants are encouraged to develop their own style using a variety of materials in a relaxed and creative atmosphere. Suitable for beginners and experienced artists. Booking essential.

Life Drawing Extra!

Long Pose Life Drawing Friday 17 March 10.15am—1.30pm £18 (includes materials) Work from life to study the nude figure. This workshop is an excellent opportunity for participants to hone their drawing skills by studying a single seated pose. Participants have a choice of developing a single drawing or create a number of studies during the workshop. Please note that the easel position is on a first come first served basis. Booking essential.

An Informal Afternoon with Oriel Davies Writing Competition Winners Prynhawn Anffurfiol gydag Enillwyr Cystadleuaeth Ysgrifennu Oriel Davies Dydd Sadwrn 08 Ebrill 2pm—4pm £5 (Am ddim i ymgeiswyr y gystadleuaeth)

Dewch i glywed gwaith gan enillwyr Cystadleuaeth Ysgrifennu Agored 2016, ac ymgeiswyr a gymeradwywyd, ac i gwrdd â Jan Newton, ein henillydd yn 2014, a fydd yn lansio ei nofel gyntaf. Mae Jan wedi ennill sawl cystadleuaeth ysgrifennu, gan gynnwys cystadleuaeth Stori Fer Allen Raine, Cwpan Lady Denman Sefydliad y Merched, a chystadleuaeth Oriel Davies Gallery am ysgrifennu am natur. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn New Welsh Review.

Gweithdy Ysgrifennu Dydd Sadwrn 20 Mai 2pm—4pm £10

Llif o Ysbrydoliaeth - Gweithdy Ysgrifennu i ysbrydoli gwaith newydd ar y thema 'D w ˆ r', sef y thema ar gyfer cystadleuaeth ysgrifennu 2017/8 Oriel Davies. Bydd y gweithdy hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr ac awduron barddoniaeth neu ryddiaith profiadol. Bydd y gweithdy yn cael ei arwain gan Chris Kinsey, y mae ei gwaith ysgrifennu a’i barddoniaeth ar natur yn aml yn cael eu hysbrydoli gan afonydd a chamlesi. Mae Chris wedi cyhoeddi pedwar cyfrol o farddoniaeth: Kung Fu Lullabies (2004) & Cure for a Crooked Smile (2009) gyda Ragged Raven Press, a Swarf (2011), gyda Smokestack Book a Muddy Fox (2017) gan Rack Press. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu erthyglau ar gyfer Natur Cymru a Cambria, ac mae hi wedi bod yn Fardd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn y BBC.

Saturday 08 April 2pm—4pm £5 (Free to competition entrants) Come and hear work by the 2016 Open Writing Competition winners and commended entrants and meet Jan Newton our 2014 winner who will be launching her first novel. Jan has won several writing competitions, including the Allen Raine Short Story competition, the WI Lady Denman Cup, and the Oriel Davies Gallery competition for nature-writing.She has been published in New Welsh Review.

Writing Workshop Saturday 20 May 2pm—4pm £10

Get into the Flow – A Writing Workshop to inspire new work on ‘Water’ which is the theme for Oriel Davies' 2017/8 writing competition. This will be suitable for beginners and experienced writers of either poetry or prose. The workshop will be led by Chris Kinsey whose prizewinning nature writing and poetry is often inspired by rivers and canals. Chris has four collections of poetry out: Kung Fu Lullabies (2004) & Cure for a Crooked Smile (2009) with Ragged Raven Press and Swarf (2011) with Smokestack Book and Muddy Fox (2017) by Rack Press. She has also written articles for Natur Cymru and Cambria and been BBC Wildlife Poet-of-the-Year. Booking essential, contact desk@orieldavies.org 01686 625041


Gweithdai a Chyrsiau Workshops & Courses

Gweithgareddau i Blant / Teuluoedd Children / Family Activities

We offer a wide variety of exciting and creative sessions and events for children and their families here at the gallery and out in the community. Family arts activities held during the school holidays allow parents and children to get creative in a fun and informal way. Working with a variety of different artists and craft makers, these workshops are a great opportunity to experiment with a range of art techniques, explore creativity and learn new skills. Dates for your diary: Tuesday 11 April Tuesday 18 April Tuesday 25 July

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o sesiynau a digwyddiadau cyffrous a chreadigol i blant a'u teuluoedd yma yn yr oriel ac allan yn y gymuned. Mae gweithgareddau celfyddydol i deuluoedd a gynhelir yn ystod gwyliau'r ysgol yn galluogi rhieni a phlant i fod yn greadigol mewn ffordd hwyliog ac anffurfiol. Mae’r gweithdai hyn, sy’n gweithio gydag amrywiaeth o wahanol artistiaid a gwneuthurwyr crefft, yn gyfle gwych i arbrofi gydag ystod o dechnegau celf, archwilio creadigrwydd a dysgu sgiliau newydd. Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur: Dydd Mawrth 11 Ebrill Dydd Mawrth 18 Ebrill Dydd Mawrth 25 Gorffennaf Rhagor o wybodaeth: www.orieldavies.org sheela@orieldavies.org

Find out more: www.orieldavies.org sheela@orieldavies.org

Cyrsiau Dysgu Gydol Oes / Lifelong Learning Courses Cynhelir cyrsiau yn Oriel Davies ar y cyd ag Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Cymru Aberystwyth. www.aber.ac.uk. Ysgrifennu Erthyglau Nodwedd Llarwydd gyda Lara Clough Bob dydd Mercher, 26 Ebrill—28 Mehefin 10.15am—12.30pm Bydd myfyrwyr yn archwilio technegau print a newyddiaduraeth ar-lein. Bydd y pynciau'n cynnwys darganfod ac ymchwilio straeon posibl, ysgrifennu a strwythuro erthygl nodwedd, cyfweld, marchnata eich gwaith a chysylltu â golygyddion comisiynu, a delio â moeseg y cyfryngau a materion hawlfraint. Ffigwr i Dirwedd: Cydadwaith ffurf gyda June Forster Bob dydd Mawrth 07 Mawrth—09 Mai 10.30am—3pm Drwy ddefnyddio siarcol a chyfryngau tynnu lluniau eraill, bydd myfyrwyr yn cyflwyno a datblygu cyfres o ddelweddau cydberthynol sy’n archwilio synthesis tirwedd a ffigwr. Bydd pwyslais yn cael ei roi ar dynnu lluniau arsylwadol cadarn fel sylfaen ar gyfer ail-ddehongli’r pwnc fel delwedd anffigurol, gan ddefnyddio siapiau cyfansawdd, gwead, patrwm, llinell, gwneud marciau a phersbectif o'r awyr. Cynghorir yn gryf i fyfyrwyr ddangos profiad o fywluniadu a gweithio gyda siarcol cyn dechrau’r cwrs hwn. Am ragor o wybodaeth ac i gadw lle, cysylltwch â'r Brifysgol yn uniongyrchol drwy ffonio 01970 621580, neu e-bostiwch: learning@aber.ac.uk

Courses take place at Oriel Davies in association with the University of Wales, Aberystwyth, School of Education and Lifelong Learning. www.aber.ac.uk. Writing Freelance Features with Lara Clough Wednesdays 26 April—28 June 10.15am—12.30pm Students will explore the techniques of both print and online journalism. Topics covered will include finding and researching potential stories, writing and structuring a feature, interviewing, marketing your work and approaching commissioning editors, media ethics and copyright issues. Figure to Landscape: The interplay of form with June Forster Tuesdays 07 March—09 May 10.30am—3pm Using charcoal and other drawing mediums students will introduce and develop a series of interrelated images exploring the synthesis of landscape and figure. Emphasis will be placed on sound observational drawing as a base for re-interpreting the subject as a non-figurative image using composite shapes, texture, pattern, line, mark-making and aerial perspective. It is strongly advised for students to show experience of life drawing and charcoal before embarking on this course. For further information and course bookings, please contact the University directly on 01970 621580 or email: learning@aber.ac.uk


Developing creativity, visual literacy, thinking and communication skills through the arts

Ysgolion a Cholegau Schools & Colleges

Datblygu sgiliau creadigrwydd, llythrennedd, meddwl a chyfathrebu drwy’r celfyddydau. Cydweithredu a Phartneriaeth Mae prosiectau arddangosfeydd ac artistiaid Oriel Davies, yn darparu adnodd amrywiol ac ysbrydoledig ar gyfer cefnogi dysgu ar draws y cwricwlwm. Mae ein prosiectau mwyaf llwyddiannus gydag ysgolion a cholegau yn cael eu datblygu mewn partneriaeth ag athrawon a disgyblion. Rydym yn arbennig o hapus pan fydd athrawon yn cysylltu â ni gyda syniad yr hoffent ei ganlyn gyda ni, neu a fyddai'n hoffi archwilio sut gallai addysgu yn y dyfodol gael budd o'n harddangosfeydd a sgiliau ein hartistiaid i gefnogi eu cynlluniau gwaith mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Gallai prosiectau o'r fath gyfuno ymweliadau arddangosfeydd, gweithdai dan arweiniad artistiaid, gweithgareddau allgymorth yn yr ysgol neu mewn safleoedd eraill, a hyd yn oed cyfleoedd i gymryd rhan mewn arddangosfeydd yn yr oriel.

Prosiect allgymorth i annog ailgylchu yn yr ysgol - adeiladu cerflun i gynnwys topiau poteli llaeth. Outreach project to encourage recycling in school - building a sculpture to contain milk bottle tops.

Collaboration & Partnership Oriel Davies’ exhibitions and artists’ projects provide a diverse and inspiring resource for supporting learning across the curriculum. Our most successful projects with schools and colleges are developed in partnership with teachers and pupils. We particularly welcome approaches from teachers with an idea they’d like to pursue with us, or who would like to explore how future teaching could benefit from using our exhibitions and artists’ skills to support their schemes of work in new and exciting ways. Such projects could combine exhibition visits, artist-led workshops, outreach activities at school or other sites, and even opportunities to take part in exhibitions at the gallery.

Help gyda Chyllid Gall Cronfa Profi’r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru gyflwyno grantiau i helpu ysgolion gyda chostau teithio a chostau gweithgareddau, a gallwn eich cynghori wrth wneud eich cais.

Help with Funding Arts Council of Wales’ Experiencing the Arts Fund can provide grants to help schools with travel and activity costs and we can advise you in your application.

Rhagor o wybodaeth www.arts.wales

Find out more: www.arts.wales

Ymweld Ar gyfer ymweliadau grw ˆp hunanarweiniol, rhowch wybod i ni ymlaen llaw, drwy anfon e-bost at desk@orieldavies.org / 01686 625041.

Visiting For self-led group visits, please let us know in advance by contacting desk@orieldavies.org / 01686 625041.

I drefnu gweithdy neu ymweliad dan arweiniad i’r arddangosfeydd yn y rhifyn hwn, neu i drafod cydweithredu gyda ni yn y dyfodol, anfonwch e-bost at Helen Kozich, Swyddog Addysg (ysgolion a cholegau) Oriel Davies – helenk@orieldavies.org. I ddod… Arddangosfa Gelf TGAU Ysgol Cedewain, Ystafell Addysg Oriel Davies, 16 Mehefin—19 Gorffennaf 2017

To arrange a workshop or guided visit with the exhibitions in this issue, or to discuss a future collaboration with us, please email Helen Kozich, Learning Officer (schools & colleges) at helenk@orieldavies.org. Coming up… Ysgol Cedewain GCSE Art Exhibition, Oriel Davies Education Room, 16 June —19 July 2017

Defnyddio'r arddangosfa Radical Craft i ysbrydoli dyluniadau ar gyfer gwneud gweithiau creadigol o ddeunyddiau gwastraff. Using the Radical Craft exhibition to inspire designs for creative making from waste materials.


Caffi‘r Oriel Gallery Café Ar agor / Open: 10am—3.30pm O / From 01 Ebrill / April, 10am—4pm (amseroedd agor yr haf/ summer opening times) I gadw lle / Bookings: 01686 622288

Bara Cartref / Homemade breads Salad lleol / Locally-sourced salad Cawl cartref / Homemade soup Cacennau / Cakes / Te / Tea Coffi Barista / Barista Coffee Diodydd Meddal Organig / Organic Soft Drinks Falafel / Falafel / Tapas / Tapas Tatws trwy’u crwyn / Jacket Potatoes Paninis / Paninis Prydau parod / Take-away

Siop Shop

Rose Garnet Ring & Dotty Drop Cluster Earrings gan/by Marianne Anderson

Mae ein siop bwtîg yn cynnig ystod drawiadol o anrhegion unigryw cyfoes, gemwaith wedi'u gwneud â llaw, tecstilau, crefftau, deunydd ysgrifennu a llyfrau hyfryd yn Gymraeg a Saesneg, nwyddau steilus i’r cartref, teganau plant a llawer mwy i gipio’r dychymyg.

Our boutique shop offers a stunning range of unique contemporary giftware, handmade jewellery, textiles, craft, stationery and gorgeous books in English & Welsh, stylish homeware, children’s toys and much more to capture the imagination.

Mae talebau rhodd ar gael!

Gift vouchers available!

Mae Oriel Davies yn rhan o Gynllun Casglu Cyngor Celfyddydau Cymru, sy'n eich cynorthwyo chi i brynu gweithiau celf a chrefft, yn ddi-log dros gyfnod o deuddeg mis. Mae’r cynllun yn berthnasol os byddwch yn prynu darnau sy’n werth dros £50.

Oriel Davies is part of the Arts Council Wales Collectorplan Scheme, which assists you to buy original works of art and crafts, interest free over a period of twelve months. Credit loans start at £50.

Rydym yn croesawu ymholiadau gan grefftwyr sefydledig a newydd sydd â diddordeb mewn arddangos eu gwaith yn ein siop. Anfonwch fanylion at rhian@orieldavies.org

We welcome enquiries from established and emerging craftspeople interested in displaying their work in our shop. Please send details to rhian@orieldavies.org

Galwch heibio i’n caffi cyfeillgar yn yr oriel i flasu bwydydd cartref blasus ac iachus. Cymrwch sedd yn ein teras naws Canoldirol drws nesaf i’r parc, neu yn ein caffi golau, llachar gyda golygfeydd gwych. Mae Relish yn defnyddio cynhwysion gan gyflenwyr bach sydd mor lleol a thymhorol â phosibl, ac mae’n cynnig dewis o fwydydd llysieuol, fegan a heb glwten. Mae’r caffi wedi’i thrwyddedu ac yn gwerthu cwrw organig gwych, gwinoedd a diodydd meddal. Rydym hefyd yn gwerthu prydau parod, fel y gallwch fynd â’ch cinio i’r parc.

Pop into our friendly gallery café for some delicious home-cooked and seasonal food. Take a seat in our light, bright café with great views. Relish sources ingredients as seasonal as possible from small and local suppliers, and caters for vegetarian, vegan and gluten-free diets. The café is licensed and serves excellent beers, wines and soft drinks. We also serve takeaway meals so you can take your lunch into the park.


Cefnogwch ni!

Support us!

Sut i ddod o hyd i ni

How to find us

Fel lleoliad mynediad AM DDIM ac elusen gofrestredig, rydym bob amser yn chwilio am gefnogaeth. Dyma rywfaint o'r ffyrdd y gallwch chi ein helpu ni i ddatblygu a chyflwyno ein gwaith:

As a FREE entry venue and a registered charity we are always looking for support. Here are some of the ways you can help us to develop and deliver the work that we do:

Hoffech Chi Ddod yn Gyfaill? Am gyn lleied â £6 (myfyrwyr), £14 (sengl) neu £ 22 (dwbl), gallwch ymuno â grw ˆ p gweithgar o unigolion, sy'n ymroddedig i gefnogi Oriel Davies, a’n cysylltu ni â'r gymuned rydym yn ei gwasanaethu.

Become a Friend For as little as £6 (students), £14 (single) or £22 (double) you can join an active group of individuals, dedicated to supporting Oriel Davies and connecting us with the community we serve.

Mae’r Oriel drws nesaf i’r orsaf fws a’r prif faes parcio sy’n edrych dros barc y dref. O’r A489, trowch i mewn i ganol y dref wrth y goleuadau traffig ac ar ôl 200 metr, trowch i’r chwith gyferbyn â Argos. Mae’r oriel bum munud ar droed o orsaf drên y Drenewydd ac ar lwybr beicio 81.

The gallery is next to the bus station and main car park overlooking the town park. From the A489 turn into the town centre at the traffic lights and after 200 metres turn left opposite Argos. The gallery is a five-minute walk from Newtown train station and situated on cycle route 81.

Amseroedd agor: Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10am–5pm (yn cynnwys gwyliau’r banc), ar gau ar ddydd Sul.

Opening times: Monday —Saturday 10am–5pm (including bank holidays), closed on Sundays.

Cyfrannwch Cyn lleied neu gymaint ag y gallwch – gallwch roi rhodd untro, noddi arddangosfa, digwyddiad neu addysg, neu ddod yn Gymwynaswr neu Noddwr.

Donate As little or as much as you can – you can make a one-off gift, sponsor an exhibition, event or education activity, or by becoming a Benefactor or Patron.

Hygyrchedd: Mae Oriel Davies yn croesawu pawb ac yn hollol hygyrch i gadeiriau olwyn.

Accessibility: Oriel Davies welcomes all and is fully accessible by wheelchair.

Gwirfoddolwch Rydym bob amser yn chwilio am unigolion i helpu - o oruchwylio arddangosfa i farchnata a gweinyddu.

Volunteer We are always looking for individuals to assist – from exhibition invigilation to marketing and administration.

Os hoffech fersiwn print bras o destun y rhaglen hon, ffoniwch 01686 625041

For a large print version of this programme text please telephone 01686 625041

Rhagor o wybodaeth: desk@orieldavies.org 01686 625041

Find out more: desk@orieldavies.org 01686 625041 River Severn

Room hire

Dewch i gael eich ysbrydoli yn yr oriel a rhowch naws creadigol i’ch digwyddiad. Mae’r ystafell addysg awyrog a lliwgar yn Oriel Davies ar gael i’w llogi, ac mae’n berffaith ar gyfer amryw o grwpiau cymunedol, gweithdai, sesiynau hyfforddi a chyfarfodydd. Mae lle i hyd at 40 o bobl yn yr ystafell, sydd â chyfleusterau glân a modern, gwasanaeth arlwyo gwych, staff cyfeillgar a lleoliad canolog yn y Drenewydd, Powys ac yng Nghymru.

Get inspired at the gallery and give your event a creative feel. Perfect for community groups, workshops, training sessions and meetings, the bright airy education room at Oriel Davies is for hire! Accommodating up to 40 people with clean and modern facilities, excellent catering, friendly staff and a central location in Newtown and Powys.

Rhagor o wybodaeth: www.orieldavies.org/cy/room-hire 01686 625041

Find out more: www.orieldavies.org/room-hire 01686 625041

Y Drenewydd / Newtown

Bus Station

Park

Aberystwth

Oriel Davies

A489

A4 83

Llogi ystafell

Llandrindod Wells

orieldavies.org

Town Centre

A483

A4 89

Shrewsbury

Ludlow


Diolch

Thanks

Hoffai Oriel Davies ddiolch i'r sefydliadau canlynol: Cyngor Celfyddydau Cymru; Elusen Gwendoline a Margaret Davies; Cyngor Sir Powys; Llenyddiaeth Cymru; Sefydliad Esmée Fairbairn. Hoffai ddiolch yn arbennig i Gyfeillion Oriel Davies am eu cefnogaeth gref o'r oriel ac o’r Gyfres Sgyrsiau Artistiaid.

Oriel Davies warmly thanks the following organizations: Arts Council of Wales; The Gwendoline and Margaret Davies Charity; Powys County Council; Literature Wales; Esmée Fairbairn Foundation. With special thanks to the Friends of Oriel Davies for their strong support of the gallery and the Artists’ Talks Series.

Rhif Elusen / Reg. charity no. 1034890

Front cover image: Kelly Best, From Vanishing Point, 2017 Design: heightstudio.com


Oriel Caffi Siop Gallery Cafe Shop

Oriel Davies Y Parc / The Park Y Drenewydd / Newtown Powys SY16 2NZ 01686 625041 desk@orieldavies.org www.orieldavies.org @orieldavies orieldavies orieldavies Mynediad am ddim Free admisssion


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.