Oriel Davies Gallery - What's On Feb - June 2018

Page 1

orieldavies.org

Chwefror—Mehefin February—June 2018

orieldavies


Chwefror—Mehefin February—June 2018

Croeso Welcome Helo a chroeso i’n cylchlythyr ar gyfer y tymor newydd, fy nghyntaf fel Cyfarwyddwr Oriel Davies. Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno â'r tîm, ac rwy’n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi dros y blwyddyn nesaf wrth i ni adael misoedd tywyll y gaeaf y tu ôl i ni, a theithio tuag at oleuni’r gwanwyn a'r haf. Fel artist yn ogystal â chyfarwyddwr, rwyf wedi gwneud pwynt o wneud gwaith artistiaid mor hygyrch â phosib – wrth gwrs, dylai fod yn heriol ac yn arloesol, ond mae celf i bawb, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i glywed eich barn. Rwyf eisiau i artistiaid gael cymaint o sylw â phosib, ond rwyf eisiau i'n cynulleidfa deimlo'n gyfforddus yn siarad â ni hefyd. Mae Oriel Davies yn darparu celf weledol o safon fyd-eang yng nghanolbarth Cymru ar gyfer cymunedau lleol, twristiaid diwylliannol, ac i chi hefyd! Rwy'n gobeithio y bydd ein rhaglen ar gyfer y tymor hwn yn rhoi cyfle i chi feddwl am bethau mewn ffyrdd newydd neu wahanol – wedi'r cyfan – dyna ydy gwaith artistiaid.

Hello and welcome to our new season's brochure, my first as Director of Oriel Davies. I'm delighted to be joining the team, and I look forward to meeting you over the coming year as we leave the dark winter months behind and travel into the light of spring and summer. As an artist as well as a director I've made a point of making artists' work as accessible as possible – of course it should be challenging and innovative, but art is for everyone and I can't wait to hear what you think. I want artists to gain as much exposure as possible but I also want our audience to feel comfortable talking to us. Oriel Davies delivers world-class visual art in mid Wales for local communities, cultural tourists, and in fact, you! I hope our programme for this season will give you a chance to think about things in new or different ways- after all - that's what artists do. Steffan Jones – Hughes, Director, Oriel Davies Find out more: www.orieldavies.org Or, sign up for our monthly e-newsletter and be the first to know what’s coming up at Oriel Davies.

Steffan Jones – Hughes, Cyfarwyddwr, Oriel Davies Rhagor o wybodaeth: www.orieldavies.org Neu, gallwch gofrestru ar gyfer ein e-gylchlythyr misol, a bod y cyntaf i wybod beth sydd ar y gweill yn Oriel Davies.

orieldavies.org


Arddangosfeydd Exhibitions

A Sound Not Meant To Be Heard Anthony Shapland

10 Chwefror /10 February — 11 Ebrill /April 2018

Mae A Sound Not Meant To Be Heard gan yr artist Anthony Shapland, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn archwilio sut rydym yn deall sain a distawrwydd, lleferydd a chyfathrebu. Mae'r sioe bwysig ac amserol hon yn dwyn ynghyd gwaith sy'n cyfuno ffilm, ffotograffiaeth, sain, gwrthrychau a thestun, ac sy'n datgelu’r bylchau rhwng yr hyn sydd yn cael ei weld a’i ddweud, a'r hyn sydd yn cael ei glywed a’i ddeall. Mae gan Shapland ddiddordeb parhaus yn y weithred o wylio ac adolygu delweddau symudol, ac ymwybyddiaeth o sut mae ffuglen yn cael ei chreu trwy olygu darnau o raglenni dogfen. Mae’n amau bod y byd wedi cael ei adeiladu yn yr un modd â set ffilm, sy'n datblygu'n gyson ac yn fyrhoedlog bob amser. Mae A Sound Not Meant To Be Heard yn gyfeiriad uniongyrchol at effeithiau sain Foley mewn ffilm, lle mae seiniau'n cael eu creu’n annibynnol ac ar wahân i'r ddelwedd symudol. Mae gan Anthony ddiddordeb di-baid mewn tawelwch a segurdod, ac nid yw'n eu hystyried fel absenoldeb, ond yn hytrach, fel elfennau y gellir eu dychmygu fel rhywbeth solet. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru

A Sound Not Meant To Be Heard by Cardiff-based artist Anthony Shapland explores how we understand sound and silence, speech and communication. This important and timely show brings together work combining film, photography, sound, objects and text, which reveals the gaps between what is seen and said and what is heard and understood. Shapland has an ongoing fascination with the act of viewing and reviewing moving-image, and an awareness of how fiction is created through the editing of documentary footage. He has a suspicion that the world is constructed in the same way as a film set, constantly evolving and always temporary. A Sound Not Meant To Be Heard is a direct reference to Foley sound effects in film, whereby sounds are created independently and separately from the moving image. Anthony has a recurring interest in silence and inaction and doesn’t consider them an absence but, instead, that they can be imagined as something solid.

Anthony Shapland, Bones Breaking, Digital print, 2017

Supported by the Arts Council of Wales


Crossed Paths Miranda Whall

Arddangosfeydd Exhibitions

In the summer and autumn of 2017, the artist, wearing a sheep fleece and covered in 14 GoPro cameras crawled, in stages, along 5.5 mile of sheep tracks in the Cambrian uplands: from the peat and heather moorlands high up at Pen y Garn, down through acid grassland and peaty Molinia / rush bogs and finally into the improved pastures and managed farmlands to the Pwllpeiran Upland Research Centre in Cwmystwyth. As a kind of cyborg sheep/human she attempted to document, experience and understand the mountain, its inhabitants and its matter, in relation to her body, moving in an altered state through the landscape.

21 Ebrill /April — 13 Mehefin / June 2018 Mae Crossed Paths yn cynnwys tri phrosiect gan yr artist Miranda Whall, sy'n byw yn Aberystwyth, a gafodd eu creu rhwng 2017 a 2021 yng Nghymru, yr Alban a Ffrainc. Mae'r rhain yn dwyn ynghyd ffilm, perfformiad a’r corff yn symud, mynydd ac ecoleg ucheldirol: gyda phob prosiect yn adrodd stori mynydd o safbwynt gwahanol. Mae Oriel Davies yn cyflwyno'r elfen Gymreig trwy gyfrwng gosodiad amlgyfrwng cynhwysol ac arddangosfa gyd-destunol, sy'n cynnig ymateb anghynrychioliadol ac ecolegol i ardal ym Mynyddoedd y Cambria, Gorllewin Cymru. Yn ystod tymor yr haf a’r hydref 2017, penderfynodd yr artist gropian, yn gwisgo cnu defaid ac wedi’i gorchuddio gan 14 o gamerâu GoPro, gam wrth gam, ar hyd 5.5 milltir o draciau defaid yn ucheldiroedd y Cambria: o rostiroedd mawn a grug yn uchel ym Mhen y Garn, i lawr trwy laswelltir asidig a chorsydd Molinia / brwyn mawnog ac yn olaf, i borfeydd wedi’u gwella a thir ffermio rheoledig yng Nghanolfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran yng Nghwmystwyth. Fel rhyw fath o ddafad / dyn Cyborg, roedd hi'n ceisio dogfennu, profi a deall y mynydd, ei drigolion a'i bwrpas, mewn perthynas â'i chorff, gan symud mewn cyflwr newidiedig trwy'r dirwedd.

Mae'r gwaith a’r arddangosfa ganlyniadol yn cynnwys trafodaethau gan yr ymchwilwyr ym Mhwllpeiran, ochr yn ochr ag ymatebion creadigol gan gerddorion lleol, sy’n cynnwys Ric Lloyd, Harriet Earis, Tim Noble, Diarmuid Johnson a Jamper Salmon. Cafwyd cyfraniadau hefyd gan y bardd Zoe Skoulding, yr awdur Phil Smith, y ffotograffydd Hannah Mann a Rhys Thwaites-Jones o Fforest Films, sydd wedi gwneud ffilm ddogfen am y prosiect. Mae cyhoeddiad yn cyd-fynd â’r prosiect. Gallwch ddilyn datblygiad y prosiect ar flog yr artist — www.mirandawhall.space Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.

Crossed Paths comprises three projects by Aberystwyth-based artist Miranda Whall, occurring between 2017 and 2021 in Wales, Scotland and France. These bring together film, performance and the body in motion, mountain and upland ecology: each project telling a story of a mountain from a different perspective.

The resulting work and exhibition features discussions by the researchers at Pwllpeiran, alongside creative responses from local musicians including Ric Lloyd, Harriet Earis, Tim Noble, Diarmuid Johnson and Jasper Salmon. Contributions have also been made by poet Zoe Skoulding, writer Phil Smith, photographer Hannah Mann and Rhys Thwaites-Jones of Fforest Films who has made a documentary film about the project. A publication accompanies the project. Development of the project can be followed on the artist’s blog — www.mirandawhall.space Supported by the Arts Council of Wales and Aberystwyth University.

Oriel Davies presents the Welsh component in an immersive multi-media installation and contextual exhibition that offers a non-representational and ecological response to an area within the Cambrian Mountains, West Wales. Miranda Whall, Crossed Paths, 2017, Llun / Photo Hannah Mann


Crossed Paths Miranda Whall

Digwyddiadau’r Arddangosfa Exhibition Events

Digwyddiad lansio: Crossed Paths Traofdaeth Banel Dydd Sadwrn 21 Ebrill 4pm—5.30pm

Launch event: Crossed Paths Panel Discussion Saturday 21 April 4pm—5.30pm

Cyflwyniadau a thrafodaethau ehangach ynghylch y prosiect gyda: Dr Mariecia Fraser aJohn Davies — Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran, Prifysgol Aberystwyth; Dr Liz Lewis-Reddy - Pennaeth Living Landscapes, Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn; Dr Zoe Skoulding -Cyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol a Dirprwy Bennaeth Ysgol, Prifysgol Bangor; Iliyana Nedkova —Cyfarwyddwr Creadigol Celf Gyfoes yn Horsecross Arts, Perth, yr Alban; Dr Phil Smith — Athro Cyswllt (Darllenydd), Ysgol y Dyniaethau a’r Celfyddydau Perfformio, Prifysgol Plymouth; Alex Boyd Jones — Curadur Oriel Davies; Miranda Whall — artist.

Presentations and wider discussions around the project with; Dr Mariecia Fraser and John Davies — Pwllpeiran Upland Research Platform, Abersytwyth University; Dr Liz Lewis-Reddy — Head of Living Landscapes, Montgomeryshire Wildlife Trust; Dr Zoe Skoulding — Director of Creative Writing and Deputy Head of School, Bangor University; Iliyana Nedkova — Creative Director for Contemporary Art at Horsecross Arts, Perth, Scotland; Dr Phil Smith — Associate Professor (Reader) School of Humanities and Performing Arts, Plymouth University; Alex Boyd Jones — Curator for Oriel Davies; Miranda Whall — artist.

Trip Maes Dydd Sadwrn 26 Mai 2018, 2—5pm (taith gerdded o tua 1.5 awr) Bydd y daith yn dechrau ac yn gorffen yng Nghanolfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran, Cwmystwyth, Aberystwyth, SY23 4AB.

Field Trip Saturday 26 May 2018, 2—5pm (approx. 1.5 hour walk) Start and finish Pwllpeiran Upland Research Centre, Cwmystwyth, Aberystwyth, SY23 4AB.

Taith gerdded greadigol ydy hon, yn dilyn llwybr cropian Miranda, gyda thrafodaethau, cyflwyniadau a darlleniadau ar hyd y ffordd. Bydd lluniaeth ar gael ar ddechrau a diwedd y digwyddiad. Bydd angen gwisgo dillad awyr agored addas.

A creative walk following Miranda’s crawling route with discussions, presentations and readings along the way. Refreshments provided at start and end. Appropriate outdoor clothing required.

Mae llefydd yn brin. I fwcio neu gael rhagor o wybodaeth am y ddau ddigwyddiad yma, anfonwch e-bost at desk@orieldavies.org 01686625041

Places limited. Booking and further information on both events go to; desk@orieldavies.org 01686625041

Teithiau o’r arddangosfa a chyfleoedd Exhibition tours and opportunities

Arddangosfa Agored Oriel Davies 2018 Os hoffech fanylion a gwybodaeth am sut i ymgeisio, ewch i www.orieldavies.org/open2018 Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau — 5pm, dydd Llun 12 Chwefror 2018 Detholwyr sydd wedi cadarnhau: Sacha Craddock, awdures a churadur; Matthew Collings, beirniad self, ysgrifennydd, darlledwr ac artist; Jane Simpson, artist a Chyfarwyddwr, Galerie Simpson; Steffan Jones-Hughes, Cyfarwyddwr, Oriel Davies; ac Alex Boyd Jones, Curadur, Oriel Davies.

Migrations

I loved you and i loved you, Roswitha Chesher

Oriel Davies Open 2018 For details and how to apply www.orieldavies.org/open2018 Deadline for entries 5pm. Monday 12 February 2018 Confirmed selectors: Sacha Craddock, writer and curator; Matthew Collings, art critic, writer, broadcaster and artist; Jane Simpson, artist and Director, Galerie Simpson; Steffan Jones-Hughes, Director, Oriel Davies; and Alex Boyd Jones, Curator, Oriel Davies.

Rhaglen chwarterol o Ffilmiau Dawns sydd yn cael eu dangos ar y sgrin yng Nghyntedd Oriel Davies.Mae Migrations Dance Film yn arddangos rhai o’r ffilmiau dawns byrion gorau o bob cwr o’r byd, sy’n gymysgedd o weithiau arloesol gan y cyfarwyddwyr a’r coreograffwyr gorau, a gan ddetholiad o'r artistiaid arobryn mwyaf disglair sydd yn dod i’r amlwg yn y maes ar hyn o bryd. A quarterly programme of Dance Film shown on the screen in Oriel Davies’ Foyer. Migration’s Dance Film is a showcase of some of the best dance shorts from around the world, a mix of seminal works from top directors and choreographers and a selection of the brightest prizewinning artists currently breaking the scene. www.migrations.uk


Arddangosfeydd Exhibitions

Gan adeiladu ar etifeddiaeth mentrau blaenorol Oriel Davies, sef TestBed ac In Focus — mae Litmus yn arddangosfa a rhaglen ddatblygu, sy’n cynnig cymorth curadurol ac ymarferol i bump o artistiaid newydd sy’n byw yng Nghymru a'r Gororau, i ymchwilio, datblygu a chyflwyno gwaith newydd. Building on the legacy of our previous initiatives — TestBed and In Focus — Litmus is a commissioning and development programme for early career artists based in Wales and the Welsh Borders to research, develop and present new work at Oriel Davies.

Freya Dooley, Litmus Commission Research collage, 2017

Paul Eastwood: Cyfnod Preswyl Litmus Yn parhau tan 27 Ionawr 2018

Paul Eastwood: Litmus Residency Continues until 27 January 2018

Mae arfer Paul Eastwood yn archwilio celf fel ffurf o gynhyrchiant cymdeithasol ac adrodd stori ddiwylliannol. Gan barhau â’i gyfnod preswyl a ddechreuodd ym mis Rhagfyr 2017, mae Paul yn datblygu ei brosiect uchelgeisiol 'Dyfodiaith', (future-language), sy'n dychmygu ynys anial ryfedd, lle mae'r iaith Frythoneg wedi parhau'n fyw, ac esblygu drwy'r canrifoedd i fod yn rhywbeth rhyfedd ac anghyfarwydd. Mae ‘Dyfodiaith’ yn gofyn: Pa iaith fyddwn ni’n ei siarad yn y dyfodol? Sut fydd yr iaith yn swnio, a sut fydd hi’n edrych?

Paul Eastwood’s practice explores art as a form of social production and cultural storytelling. Continuing his Litmus residency that began in December 2017, Paul progresses his ambitious project ‘Dyfodiaith’ (future – language), which imagines a strange isolated island where the Brythonic language has remained alive, evolving throughout the centuries into something strange and unfamiliar. ‘Dyfodiaith’ asks: What language will we speak in the future? How will it sound and what will it look like?

Freya Dooley: Comisiwn Litmus 10 Chwefror —11 Ebrill 2018 Mae Freya Dooley yn gweithio gyda thestun, delweddau symudol, sain a pherfformiad. Yn ddiweddar, mae ei hymchwil wedi archwilio hanesynnau, lled-ffuglenni a chymeriadaeth leisiol; a chyfeirio at lenyddiaeth, cerddoriaeth bop, canu a recordiwyd ymlaen llaw, gwleidyddiaeth rywiol rhaglenni sebon a Mytholeg Roegaidd. Ar gyfer ei Chomisiwn Litmus, mae Freya yn defnyddio'r gofod Litmus fel cynhwysydd personol ar gyfer gosodiad delwedd symudol a sain aml-sianel. Mae'r gwaith yn crwydro oddi wrth stori’r nymff, Echo, er mwyn creu naratifau chwedlonol troellog, sy'n ymwneud â cholli, gollwng a threiddio'r llais. Cefnogir Litmus gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Am ragor o wybodaeth, diweddariadau a newyddion, ewch i – www.orieldavies.org/en/litmus

Freya Dooley: Litmus Commission 10 February—11 April 2018 Freya Dooley works with text, moving image, sound and performance. Recently, her research has explored anecdotes, semi-fictions and vocal characterisations; referencing literature, pop music, playbacksinging, the sexual politics of soap operas and Greek Mythology. For her Litmus Commission, Freya uses the Litmus space as an intimate container for a moving image and multi-channel sound installation. The work digresses from the story of Echo the nymph, to create meandering lyrical narratives relating to the loss, leakage and leverage of the voice. Litmus is supported by the Arts Council of Wales For more information, updates and news, please go to – www.orieldavies.org/en/litmus


Criw Celf Mae Criw Celf Oriel Davies yn ei chweched flwyddyn ac yn dal i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau celfyddydol cyffroes i artistiaid ifanc talentog sydd rhwng 12—18 oed o Ogledd powys. Mae'r cynllun cenedlaethol yma yn anelu i feithrin talent ifanc, drwy ddarparu wahanol weithdai creadigol llawn hwyl hefo artistiaid proffesiynol, yn ogystal a ymweliadau i orielau celf o bwys ac i brifysgol i weithio yn yr adran gelf cain. Bydd cieisiadau yn cael eu derbyn yn ystod tymor yr hâf 2018, er mwyn dechrau ar y cynllun ym mis Medi, gyda 6 o weithgareddau yn cymrd lle ar Ddydd sadwrn neu yn y gwyliau. Mae Criw Celf yn awyddus i dderbyn cisiadau gan bobl ifanc o bob cefndir — mae bwrsari ar gael lle mae angen i helpu hefo'r gost. Mae gweithgareddau Criw Celf 2017—18 yn cynnwys: Creu darnau i'w arddangos yn yr oriel hefo'r artist Amy Sterly; Gweithio hefo goleuadau, peiriannau ac elfennau electroneg hefo'r artist preswyl Simon Fenoulhet;

Currently in its 6th year, Criw Celf Oriel Davies continues to provide a range of exciting arts opportunities for talented and keen young Artists aged 12-18 in North Powys. This national scheme aims to nurture young talent by providing a variety of fun, creative arts workshops with professional artists, along with visits to major art galleries and university fine art departments. Applications will be accepted during the Summer term 2018 to start in September with 6 events taking place on Saturdays and during holidays. Criw Celf is keen to accept applications from young people from all backgrounds — bursaries are available where required to help with costs. Criw Celf events in 2017—18 include: Create artworks to exhibit in the gallery with artist Amy Sterly; Creating artworks with lights, motors and electronics with artist in residence Simon Fenoulhet; Trip to the New Art Gallery Walsall; Christmas party and Arts Careers Event;

Trip i'r New Art Gallery Walsall;

Masterclass with artist Christine Mills to explore ideas and emotions through drawing;

Parti Nadolig a Digwyddiad Gyrfaoedd Celfyddydol;

Taster workshops at Chester University's Fine Art Department.

Dosbarth Meistr hefo'r artist Christine Mills i ymchwilio syniadau a theimladau drwy ddarlunio; Ymweliad i Adran Gelf Cain Prifysgol Caer gyda sesiynau blasu'r celfyddyau.

Chester University Criw Celf visit

Am fwy o wybodaeth / To find out more: desk@orieldavies.org 01686 625 041

Mae aelodau'r Criw Celf ar hyn o bryd yn dod o'r ysgolion uwchradd canlynol:

Our current Criw Celf participants are from the following Secondary Schools in North Powys:

Ysgol Uwchradd Llanfyllin, Ysgol Uwchradd Welshpool, Ysgol Bro Hyddgen, Ysgol Uwchradd Llanidloes, Ysgol Uwchradd Caereinion, Ysgol Uwchradd.

Llanfyllin High School, Welshpool High School, Ysgol Bro Hyddgen, Llanidloes High School, Caereinion High School.


Gweithdai a Chyrsiau Workshops & Courses

Dosbarthiadau Bywluniadu ar ddydd Sadwrn gyda Paul Webster Dydd Sadwrn cyntaf bob mis 10.15am—1.30pm £20 (yn cynnwys deunyddiau)

Saturday Life Drawing Classes with Paul Webster First Saturday of each month 10.15am—1.30pm £20 (includes materials)

Mae'r sesiynau difyr hyn, gyda thiwtor, yn annog cryfderau unigol, tra’n archwilio agweddau gwahanol o dynnu llun y ffigwr dynol. Mae'r sesiynau wedi eu cynllunio i roi cyngor technegol mewn meysydd allweddol fel cyfrannedd, persbectif, llinell, tôn, lliw ac ystum. Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu eich arddull eich hun gan ddefnyddio deunyddiau amrywiol mewn awyrgylch hamddenol, creadigol. Rhaid cadw lle.

These fun, tutored sessions encourage individual strengths whilst exploring different aspects of drawing the human figure. The sessions are designed to give technical advice in key areas such as proportion, perspective, line, tone, colour and gesture. Participants are encouraged to develop their own style using a variety of materials in a relaxed and creative atmosphere. Suitable for beginners and experienced artists. Booking essential.

Prynhawn anffurfiol gydag Enillwyr Cystadleuaeth Ysgrifennu 2017 Oriel Davies 24 Chwefror 2.30pm—4pm £3 (Am ddim i ymgeiswyr y gystadleuaeth)

An informal afternoon with Oriel Davies’ 2017 Writing Competition Winners 24 February 2.30pm—4pm £3 (Free to competition entrants)

Patricia Moffett, Life Drawing Cabaret Special, 2017

Dewch i gymryd rhan i ddathlu ceisiadau buddugol Cystadleuaeth Ysgrifennu OD 2017 ar y thema Dw ˆ r. Byddwch chi'n synnu ar ddyfeisgarwch ac amrywiaeth y lleisiau. Digwyddiad dan arweiniad y beirniaid, yr awdur a'r bardd Chris Kinsey, a’r bardd arobryn a’r Awdur Ieuenctid Cymru presennol, Sophie McKeand. Rhaid cadw lle.

Rhaid cadw lle: www.orieldavies.org desk@orieldavies.org 01686 625041

Come and participate in a celebration of the winning entries of the 2017 OD Writing Competition on the theme of Water. You'll be amazed at the ingenuity and variety of voices. Event led by the judges, writer and poet Chris Kinsey and Sophie McKeand, award-winning poet and the current Young People’s Laureate Wales. Booking essential.

Booking essential: www.orieldavies.org desk@orieldavies.org 01686 625041


Gweithgareddau i Blant a Theuluoedd Children/Family Activities

School Holiday Workshops £5 per person* *Under 8’s will need to be accompanied by a paying parent or carer.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o sesiynau a digwyddiadau cyffrous a chreadigol i blant a'u teuluoedd yma yn yr oriel ac allan yn y gymuned. Mae gweithgareddau celfyddydol i deuluoedd sydd yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau'r ysgol yn galluogi rhieni a phlant i fod yn greadigol mewn ffordd hwyliog ac anffurfiol. Drwy weithio gydag amrywiaeth o wahanol artistiaid a chrefftwyr, mae’r gweithdai hyn yn gyfle gwych i arbrofi gydag ystod o dechnegau celf, archwilio creadigrwydd a dysgu sgiliau newydd.

We offer a wide variety of exciting and creative sessions and events for children and families here at the gallery and out in the community. Family arts activities held during school holidays allow parents and children to get creative in a fun and informal way. Working with a variety of different artists and craft makers, these workshops are a great opportunity to experiment with a range of art techniques, explore creativity and learn new skills.

My String Book, Amy Sterly

Gweithdai yn ystod Gwyliau’r Ysgol £5 fesul person* * Rhaid i blant dan 8 oed fod yng nghwmni rhiant neu ofalwr talu. Siglo, Rhuglo a Rholio gyda’r artist Amy Sterly Dydd Mawrth 13 Chwefror 10.30am—1pm Dewch i gadw reiat! Edrychwch o gwmpas i ddod o hyd i synau mewn gwrthrychau bob dydd. Byddwn yn gwneud ein hofferynnau ein hunain i fynd adref. Gweithdy Gwneud Bagiau Pasg gyda’r artist Becky Knight Dydd Mawrth 27 Mawrth 10.30am—1pm Sgrîn-brintiwch ddyluniad ar fag bach i fynd adref gyda chi a rhoi eich wyau ynddo. Gweithdy Dinosoriaid Fflatpac gyda’r artist Becky Knight Dydd Mawrth 03 Ebrill 10.30am—1pm Trowch gardfwrdd yn anghenfil 3D i fynd adref gyda chi. Gweithdy Masgiau Anifeiliaid gyda’r artist Becky Knight Dydd Mawrth 29 Mai 10.30am—1pm Dychmygwch sut y gallai fod fel i fod yn greadur arall, a chrëwch eich masg anifail eich hun.

Shake, Rattle and Roll with artist Amy Sterly Tuesday 13 February 10.30am—1pm Lets make a din! Looking around to find sounds in everyday objects, we will be making our own instruments to take home. Easter Bags workshop with artist Becky Knight Tuesday 27 March 10.30am—1pm Screenprint a design onto a small bag to take away and put your eggs in. Flat Pack Dinosaurs workshop with artist Becky Knight Tuesday 03 April 10.30am—1pm Turn cardboard into a 3D monster to take home. Animal Masks workshop with artist Becky Knight Tuesday 29 May 10.30am—1pm Imagine what it might be like to be another creature and create your own animal mask.

Bwcio/Rhagor o wybodaeth/ Booking/Find out more: www.orieldavies.org desk@orieldavies.org 01686 625041


Cyrsiau Dysgu Gydol Oes Lifelong Learning Courses

Cynhelir cyrsiau yn Oriel Davies ar y cyd ag Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol, Aberystwyth. www.aber.ac.uk

Courses take place at Oriel Davies in association with the University of Aberystwyth, School of Education and Lifelong Learning. www.aber.ac.uk

Os hoffech ragor o wybodaeth neu i fwcio lle ar y cyrsiau, cysylltwch â’r Brifysgol yn uniongyrchol ar 01970 621580 neu e-bostiwch learning@aber.ac.uk

For further information and course bookings, please contact the University directly on 01970 621580 or email: learning@aber.ac.uk

Astudiaeth Llyfrau Brasluniau Dydd Mawrth 06, 20 Chwefror 2018 & 06, 20 Mawrth 2018 10am—3.30pm Tereska Shepherd A hoffech chi gadw a datblygu llyfr braslunio llwyddiannus? Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau braslunio a'r prosesau o gadw dyddiadur braslunio. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer garddwyr, teithwyr, artistiaid a darlunwyr botanegol. Drwy ddefnyddio technegau a deunyddiau gwahanol, byddwch yn adeiladu llyfr braslunio o luniau mewn du a gwyn a lliw, a dysgu am botensial creadigol y broses ddylunio, ac ansawdd y llinell.

Sketch Books Studies Tuesdays 06, 20 February 2018 & 06, 20 March 2018 10am—3.30pm Tereska Shepherd Would you like to keep and develop a successful sketchbook? This will provide you with an opportunity to develop sketchbook skills and the processes of keeping a sketchbook journal. This is suitable for gardeners, travellers, artists and botanical illustrators. Using different techniques and materials you will build a sketchbook of drawings in black and white and colour and learn about the creative potential of the drawing process and quality of line.

Barddoniaeth 2 Dydd Mercher 11 Ebrill — 13 Mehefin 2018, 10.15am—12.30pm Lara Clough Mae'r modiwl hwn yn addas ar gyfer pobl sydd â phrofiad o ysgrifennu. Bydd y sesiynau ar ffurf gweithdai, ac yn rhoi pwyslais ar drafod cerddi wedi’u cyhoeddi o bersbectif yr awdur, a beirniadu gwaith sydd wedi cael eu hysgrifennu gan gyfranogwyr bob wythnos. Bydd ffurfiau barddol, fel y soned a'r villanelle, gan gynnwys naratif, cyffesol a throsiadol yn cael eu cynnwys. Bydd amser yn cael ei dreulio hefyd, yn edrych ar gyfleoedd i fyfyrwyr sy'n dymuno hyrwyddo a datblygu eu gwaith ymhellach, gan gynnwys cyflwyno gwaith i gystadlaethau a chylchgronau.

Poetry 2 Wednesdays 11 April — 13 June 2018 10.15am—12.30pm Lara Clough This module is suitable for people who have some experience of writing. The sessions will be workshop-based, with an emphasis on discussing published poems from a writer's perspective and critiquing work written by participants each week. Poetic forms, such as the sonnet and the villanelle, including narrative, confessional and metaphorical, will be covered. Some time will also be spent looking at opportunities for students wishing to promote and develop their work further, including submitting work to competitions and magazines.


Ysgolion a Cholegau Schools & Colleges

Datblygu sgiliau creadigrwydd, llythrennedd, meddwl a chyfathrebu drwy’r celfyddydau.

Developing creativity, visual literacy, thinking and communication skills through the arts.

Cydweithredu a Gweithio mewn Partneriaeth Mae arddangosfeydd a phrosiectau artistiaid Oriel Davies yn darparu adnoddau amrywiol ac ysbrydoledig ar gyfer cefnogi dysgu ar draws y cwricwlwm. Mae ein prosiectau mwyaf llwyddiannus gydag ysgolion a cholegau yn cael eu datblygu mewn partneriaeth ag athrawon a disgyblion. Rydym yn arbennig o falch o weld athrawon yn cysylltu â ni gyda syniad yr hoffent fynd ar ei drywydd gyda ni, neu a fyddai'n hoffi archwilio sut allai dysgu yn y dyfodol elwa o ddefnyddio ein harddangosfeydd a sgiliau ein hartistiaid i gefnogi eu cynlluniau gwaith mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Gallai prosiectau o'r fath gyfuno ymweliadau i arddangosfeydd, gweithdai dan arweiniad artistiaid, gweithgareddau allgymorth yn yr ysgol neu mewn safleoedd eraill, a chyfleoedd hyd yn oed i gymryd rhan mewn arddangosfeydd yn yr oriel.

Collaboration & Partnership Oriel Davies’ exhibitions and artists’ projects provide a diverse and inspiring resource for supporting learning across the curriculum. Our most successful projects with schools and colleges are developed in partnership with teachers and pupils. We particularly welcome approaches from teachers with an idea they’d like to pursue with us or who would like to explore how future teaching could benefit from using our exhibitions and artists’ skills to support their schemes of work in new and exciting ways. Such projects could combine exhibition visits, artist-led workshops, outreach activities at school or other sites and even opportunities to take part in exhibitions at the gallery.

Help gyda Chyllid Gall Cronfa Profi’r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru ddarparu grantiau i helpu ysgolion gyda chostau teithio a gweithgareddau, a gallwn roi cyngor i chi gyda’ch cais.

Help with Funding The Arts Council of Wales’ Experiencing the Arts Fund can provide grants to help schools with travel and activity costs and we can advise you in your application.

Rhagor o wybodaeth: www.arts.wales

Find out more: www.arts.wales

Ymweld Ar gyfer ymweliadau grw ˆp hunan-dywysedig, cysylltwch â desk@orieldavies.org neu ffoniwch 01686 625041. Os hoffech drefnu gweithdy neu ymweliad tywys mewn perthynas â’r arddangosfeydd yn y rhifyn hwn, neu i drafod cydweithredu gyda ni yn y dyfodol, anfonwch e-bost at Helen Kozich, Swyddog Addysg (ysgolion a cholegau): helenk@orieldavies.org

Visiting For self-led group visits, please let us know in advance by contacting desk@orieldavies.org or phoning 01686 625041. To arrange a workshop or guided visit with the exhibitions in this issue, or to discuss a future collaboration with us, please email Helen Kozich, Learning Officer (schools & colleges) at helenk@orieldavies.org

Lluniau: Gweithdy ysgol gynradd fel rhan o'u hymweliad i arddangosfa Re-enactment: Louise Bristow – gwneud gweithiau 3D mawr mewn ymateb i baentiadau artistiaid.

Images: Primary school workshop accompanying their exhibition visit to Re-enactment: Louise Bristow – making 3D constructions on a large scale in response to the artist’s paintings.


Caffi‘r Oriel Gallery Café Ar agor / Open: 10am—4pm Ebril /April—Medi/September 10am—3.30pm Hydref/October—Mawrth /March I gadw lle /Bookings: 01686 622288

Bara Cartref / Homemade breads Salad lleol / Locally-sourced salad Cawl cartref / Homemade soup Cacennau / Cakes / Te / Tea Coffi Barista / Barista Coffee Diodydd Meddal Organig / Organic Soft Drinks Falafel / Falafel / Tapas / Tapas Tatws trwy’u crwyn / Jacket Potatoes Paninis / Paninis Prydau parod / Take-away

Siop Shop

Catherine Woodall, Large leaf ring

Mae ein siop yn cynnig amrywiaeth syfrdanol o anrhegion unigryw cyfoes, gemwaith hardd wedi'u gwneud â llaw, tecstilau a chrefftau, deunydd swyddfa a llyfrau diddorol yn Gymraeg a Saesneg, nwyddau steilus i’r cartref, teganau plant a llawer mwy. Mae eitemau newydd yn dod i mewn yn rheolaidd, felly cadwch olwg am ein heitemau newydd ar gyfer y gwanwyn a’r haf. Rydym yn croesawu ymholiadau gan artistiaid newydd a sefydledig sydd â diddordeb mewn arddangos eu gwaith yn ein siop. Cysylltwch â rhian@orieldavies.org Mae talebau ar gael! Cynllun casglu Mae’r gweithiau celf sydd yn cael eu harddangos yn Oriel Davies ar werth. Beth am brynu darn o waith gyda'r Cynllun Casglu? Mae Oriel Davies yn rhan o Gynllun Casglu Cyngor Celfyddydau Cymru, sy'n eich cynorthwyo i brynu gwaith celf gwreiddiol, yn ddi-log dros gyfnod o 12 mis. Mae benthyciadau credyd yn dechrau ar £50.

Our boutique shop offers a stunning range of unique contemporary giftware, handmade jewellery, textiles, craft, stationery, and gorgeous books in English and Welsh, stylish homeware, children’s toys and much more. With new items in regularly, check out our fresh spring and early summer ranges. We welcome enquiries from established and emerging craftspeople interested in displaying their work in our shop. Contact rhian@orieldavies.org Gift vouchers available! Collectorplan Exhibited artworks at Oriel Davies are for sale. Why not buy a piece of contemporary artwork with Collectorplan? Oriel Davies is part of the Arts Council of Wales Collectorplan Scheme, which assists you to buy original artwork, interest free over a period of 12 months. Credit loans start at £50.

Galwch heibio i’n caffi cyfeillgar yn yr oriel i flasu bwydydd cartref blasus ac iachus. Cymrwch sedd yn ein teras naws Canoldirol drws nesaf i’r parc, neu yn ein caffi golau, llachar gyda golygfeydd gwych. Mae Relish yn defnyddio cynhwysion gan gyflenwyr bach sydd mor lleol a thymhorol â phosibl, ac mae’n cynnig dewis o fwydydd llysieuol, fegan a heb glwten. Mae’r caffi wedi’i thrwyddedu ac yn gwerthu cwrw organig gwych, gwinoedd a diodydd meddal. Rydym hefyd yn gwerthu prydau parod, fel y gallwch fynd â’ch cinio i’r parc.

Pop into our friendly gallery café for some delicious home-cooked and seasonal food. Take a seat in our light, bright café with great views. Relish sources ingredients as seasonal as possible from small and local suppliers, and caters for vegetarian, vegan and gluten-free diets. The café is licensed and serves excellent beers, wines and soft drinks. We also serve takeaway meals so you can take your lunch into the park.


Cefnogwch ni!

Support us!

Sut i ddod o hyd i ni

How to find us

Fel lleoliad mynediad AM DDIM ac elusen gofrestredig, rydym bob amser yn chwilio am gefnogaeth. Dyma rywfaint o'r ffyrdd y gallwch chi ein helpu ni i ddatblygu a chyflwyno ein gwaith:

As a FREE entry venue and a registered charity we are always looking for support. Here are some of the ways you can help us to develop and deliver the work that we do:

Hoffech Chi Ddod yn Gyfaill? Am gyn lleied â £6 (myfyrwyr), £14 (sengl) neu £ 22 (dwbl), gallwch ymuno â grw ˆ p gweithgar o unigolion, sy'n ymroddedig i gefnogi Oriel Davies, a’n cysylltu ni â'r gymuned rydym yn ei gwasanaethu.

Become a Friend For as little as £6 (students), £14 (single) or £22 (double) you can join an active group of individuals, dedicated to supporting Oriel Davies and connecting us with the community we serve.

Mae’r Oriel drws nesaf i’r orsaf fws a’r prif faes parcio sy’n edrych dros barc y dref. O’r A489, trowch i mewn i ganol y dref wrth y goleuadau traffig ac ar ôl 200 metr, trowch i’r chwith gyferbyn â Argos. Mae’r oriel bum munud ar droed o orsaf drên y Drenewydd ac ar lwybr beicio 81.

The gallery is next to the bus station and main car park overlooking the town park. From the A489 turn into the town centre at the traffic lights and after 200 metres turn left opposite Argos. The gallery is a five-minute walk from Newtown train station and situated on cycle route 81.

Amseroedd agor: Dydd Llun i ddydd Sadwrn, 10am–5pm (yn cynnwys gwyliau’r banc), ar gau ar ddydd Sul.

Opening times: Monday —Saturday, 10am—5pm (including bank holidays), closed on Sundays.

Cyfrannwch Cyn lleied neu gymaint ag y gallwch – gallwch roi rhodd untro, noddi arddangosfa, digwyddiad neu addysg, neu ddod yn Gymwynaswr neu Noddwr.

Donate As little or as much as you can – you can make a one-off gift, sponsor an exhibition, event or education activity, or by becoming a Benefactor or Patron.

Hygyrchedd: Mae Oriel Davies yn croesawu pawb ac yn hollol hygyrch i gadeiriau olwyn.

Accessibility: Oriel Davies welcomes all and is fully accessible by wheelchair.

Gwirfoddolwch Rydym bob amser yn chwilio am unigolion i helpu - o oruchwylio arddangosfa i farchnata a gweinyddu.

Volunteer We are always looking for individuals to assist – from exhibition invigilation to marketing and administration.

Os hoffech fersiwn print bras o destun y rhaglen hon, ffoniwch 01686 625041

For a large print version of this programme text please telephone 01686 625041

Rhagor o wybodaeth: desk@orieldavies.org 01686 625041

Find out more: desk@orieldavies.org 01686 625041

Llogi ystafell

Room hire

Dewch i gael eich ysbrydoli yn yr oriel a rhowch naws creadigol i’ch digwyddiad. Mae’r ystafell addysg awyrog a lliwgar yn Oriel Davies ar gael i’w llogi, ac mae’n berffaith ar gyfer amryw o grwpiau cymunedol, gweithdai, sesiynau hyfforddi a chyfarfodydd. Mae lle i hyd at 40 o bobl yn yr ystafell, sydd â chyfleusterau glân a modern, gwasanaeth arlwyo gwych, staff cyfeillgar a lleoliad canolog yn y Drenewydd, Powys ac yng Nghymru.

Get inspired at the gallery and give your event a creative feel. Perfect for community groups, workshops, training sessions and meetings, the bright airy education room at Oriel Davies is for hire! Accommodating up to 40 people with clean and modern facilities, excellent catering, friendly staff and a central location in Newtown and Powys.

Rhagor o wybodaeth: www.orieldavies.org/cy/room-hire 01686 625041

Find out more: www.orieldavies.org/room-hire 01686 625041

River Severn

Y Drenewydd / Newtown

Bus Station

Park

A489

A4 83

Aberystwth

Oriel Davies

Llandrindod Wells

Town Centre

A483

A4 89

Shrewsbury

Ludlow


Diolch

Thanks

Hoffai Oriel Davies ddiolch i'r sefydliadau canlynol: Cyngor Celfyddydau Cymru; Cyngor Sir Powys; Sefydliad Esmée Fairbairn. Hoffai ddiolch yn arbennig i Gyfeillion Oriel Davies am eu cefnogaeth gref o'r oriel ac o’r Gyfres Sgyrsiau Artistiaid.

Oriel Davies warmly thanks the following organizations: Arts Council of Wales; Powys County Council; Esmée Fairbairn Foundation. With special thanks to the Friends of Oriel Davies for their strong support of the gallery and the Artists’ Talks Series.

Rhif Elusen / Reg. charity no. 1034890 Delwedd ar y clawr blaen / Front cover image: Mirnada Whall, Crossed Paths, 2017. Llun / Photo Hannah Mann Dylunio / Design: heightstudio.com


Oriel Caffi Siop Gallery Cafe Shop

Oriel Davies Y Parc / The Park Y Drenewydd / Newtown Powys SY16 2NZ 01686 625041 desk@orieldavies.org www.orieldavies.org @orieldavies orieldavies orieldavies Mynediad am ddim Free admisssion


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.