What's On Autumn - Winter 2015 Oriel Davies

Page 1

orieldavies.org

Hydref—Gaeaf Autumn—Winter 2015 / 16

orieldavies



Hydref—Gaeaf Autumn—Winter 2015 / 16

Croeso Welcome

Wrth i’r dyddiau fyrhau, mae gennym enghreifftiau gwych o gelf i fynd â ni i mewn i’r misoedd oerach. Mae John Lawrence yn archwilio technoleg a’i effeithiau, mae Robert Davies yn dangos ei ffilm o’r daith trên rhwng Gorllewin Canolbarth Lloegr ac Arfordir Cymru, ac rydym yn croesawu Simon Whitehead yn ôl i Oriel Davies am gyfnod preswyl o bythefnos. Mae TestBed yn cyflwyno Foreigners gan Bernadette Kerrigan a Talking to Gwen gan Anna Falcini, ac wrth i’r hydref droi yn aeaf, mae chwe artist gwych yn archwilio mannau byw a’r cartref yn House. Mae flora ac A Tree A Rock A Cloud gan Clare Woods yn teithio i rannau eraill o Gymru, ac rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau drwy ein rhaglenni dysgu.

As the nights draw in we have some great art to take us into the colder months. John Lawrence examines technology and its effects, Robert Davies shows his film of the rail journey between the West Midlands and the Welsh Coast, and we welcome Simon Whitehead back to Oriel Davies for a 2-week residency. TestBed presents Bernadette Kerrigan’s Foreigners and Anna Falcini’s Talking to Gwen, and as autumn turns to winter, six fantastic artists explore living spaces and the home in House. flora and Clare Woods’, A Tree A Rock A Cloud go on tour to other parts of Wales, and we offer a huge range of activities through our learning programmes.

orieldavies.org


John Lawrence Sickly Revelations*

Arddangosfeydd Exhibitions


19 Medi / September— 04 Tachwedd / November 2015 Yn agor ddydd Gwener Opening Friday 18 Medi / September 6—8pm

Sickly Revelations* yw gosodiad newydd gan John Lawrence, enillydd Arddangosfa Agored Oriel Davies y llynedd. Mae’n canolbwyntio ar ddylanwad cynyddol profiad cyfryngol heddiw o'r byd — trwy ffilmiau, gemau a phlatfformau ar-lein — ac ein sefyllfa newidiol o fewn y diwylliant rhwydweithiol hwn. Mae Lawrence yn cwestiynu ein hymgysylltiad â'r ‘byd go iawn’, neu ein datgysylltiad oddi wrtho, a sut rydym yn gweld ein hunain a’n rolau newydd mewn byd y mae technoleg defnyddwyr wedi treiddio i mewn iddo. Mae delwedd symudol wrth wraidd y gosodiad hwn, yn ymgorffori cofnodion o flogiau fideo ar-lein hapgael o sefyllfa yn y cartref ac a gyflwynir gan adroddwr anweledig, ochr yn ochr â chipiadau digidol 3D lluniedig o wrthrychau penodol, a allai neu na allai ddeillio o’r pentyrrau wedi’u cronni yn y gofod hwn ar ffurf fflat. Mae ‘propiau’ o’r fideo yn cael eu lleoli yn yr oriel ynghyd â chyfres o bosteri sy’n cynnwys rhestr o ddatganiadau. Gan ddechrau gyda’r geiriau ‘Some people...’ ymddengys eu bod yn rhestru symptomau rhyw gyflwr cyfoes ac ar yr un pryd, yn cyfeirio at y cyffredinedd a geir mewn bywyd bob dydd.

Sickly Revelations* is a new installation by John Lawrence, last year’s Oriel Davies Open winner. It focuses on today's increasingly mediated experience of the world — through movies, gaming and online platforms — and our shifting position within this networked culture. Lawrence questions our engagement with, or detachment from, the 'real world' and how we perceive ourselves and our new roles within a system infiltrated by consumer technology. Moving image is at the centre of this installation, incorporating found, online video blog entries from a domestic setting and presented by an unseen narrator, alongside constructed 3D digital captures of specific objects, which may or may not originate from the hoarded piles of this apartment space. ‘Props’ from the video are positioned in the gallery along with a series of posters which feature a list of statements. Beginning with the words ‘Some people...’ they appear to list both the symptoms of some contemporary condition at the same time as referring to the banality found in everyday life. * Life is brittle // REAL John Lawrence lives and works in London. Supported by Arts Council England

* Life is brittle // REAL Mae John Lawrence yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr

John Lawrence from Sickly Revelations*


Of time and the railway Robert Davies


Arddangosfeydd Exhibitions

19—30 Medi / September 2015 Mae’r ffilm newydd hwn gan Robert Davies yn ymwneud â’r daith ar hyd y rheilffordd o Birmingham i Aberystwyth — prif linell hanfodol rhwng ardal ddiwydiannol Gorllewin Canolbarth Lloegr a Chanolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’r daith, a ffilmiwyd o gaban gyrrwr y trên, wedi cael ei ffilmio’n wythnosol dros gyfnod o ddeuddeg mis, fel bod daearyddiaeth ddynol newidiol y dirwedd ddiwydiannol a ffermio yn cael ei hategu gan y newidiadau corfforol sy’n dod i’r amlwg dros y tymhorau. Mae’r ffilm ganlyniadol yn cyflwyno’r cyfnod hwn o amser yn ystod un diwrnod cyfan, fel y gall y gwylwyr ddechrau’r daith cyn iddi wawrio yn Birmingham a gorffen yn Aberystwyth wrth i’r haul ddechrau machlud.

This new film by Robert Davies concerns the rail line between Birmingham and Aberystwyth — a crucial artery between the industrial West Midlands and Mid and West Wales. The journey, filmed from the driver’s cab of the train, has been recorded weekly over a twelve month period so that the changing human geography of the industrial and farming landscape is complemented by the physical changes that emerge over the seasons. The resulting film presents this period of time within the course of a single day so that viewers can begin the journey before dawn in Birmingham and finish in Aberystwyth as the sun begins its descent. Robert Davies is an artist living near Aberystwyth. Of time and the railway will show at all main galleries along the train route to Birmingham.

Mae Robert Davies yn artist sydd yn byw ac yn gweithio ger Aberystwyth. Bydd Of time and the railway yn cael ei ddangos yn yr holl orielau mawr ar hyd y llinell drên i Birmingham.

Robert Davies, Autumn sheep Caersws


Studies for Maynard Simon Whitehead

Arddangosfeydd Exhibitions

07—21 Hydref / October

A live dance installation with movement, dance, image and sound.

Gosodiad dawns byw gyda symudiad, dawns, delwedd a sain.

A dancer lies on the ground, looks at the sky and inhales the clouds. A spacewalking Apollo 9 astronaut describes his views of earth. Dice roll.

Mae dawnsiwr yn gorwedd ar y ddaear, yn edrych ar yr awyr ac yn mewnanadlu’r cymylau. Mae’r dis yn rholio. Mae gofodwr Apollo 9 yn disgrifio ei olygfeydd o’r ddaear. Mae cartref yn ffabrig, yn wehyddiad, yn arfer o wneud ac ail-wneud. Ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn mynd â’i hun a’i waith i fannau pell, mae gwaith Simon, Studies for Maynard, yn stopio i feddwl am beth gaiff ei leoli gartref wrth iddo ddal cromlin ehangach y ddaear. Mae Simon yn treulio cyfnod fel artist preswyl yn Oriel Davies am bythefnos. Mae’n trosglwyddo effemera ei stiwdio, ac yn datblygu cyfres o astudiaethau perfformio gyda’r artist sain Barnaby Oliver ac yn cynnwys ffilm gan Tanya Syed sy’n cyd-fynd â’i waith ei hun. Prosiect olaf Simon gydag Oriel Davies oedd y prosiect cofiadwy Louphole yn 2010. Mae’n byw ac yn gweithio yn Abercych, Sir Benfro. ‘If we can sparkle he may land tonight’ Starman, David Bowie Ewch i www.may-nard.org i gael manylion am ddigwyddiadau penodol.

Home is a fabric, a weave, a practice of making and remaking. Having spent many years taking himself and his work to distant places, Simon’s Studies for Maynard pauses to think about what it is to be located at home whilst holding the wider curve of the earth. Simon is in residence at Oriel Davies for two weeks. He is transferring the ephemera of his studio, developing a series of performance studies with sound artist Barnaby Oliver and featuring a film by Tanya Syed that accompanies his own work. Simon’s last project with Oriel Davies was the memorable Louphole in 2010. He lives and works from Abercych, Pembrokeshire. ‘If we can sparkle he may land tonight’ Starman, David Bowie Check www.may-nard.org for specific event details.

Studies for Maynard, Simon Whitehead, 2015. Photo. Ray Jacobs.


Digwyddiadau Events

Furniture Movers Friday 25 September, 10.30am—3.30pm Wesley Methodist Church Hall, Back Lane, Newtown.

Furniture Movers Dydd Gwener 25 Medi, 10.30am—3.30pm Neuadd Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd, Back Lane, Y Drenewydd.

£10, Booking essential. desk@orieldavies.org 01686 625041

£10, Rhaid cadw lle. desk@orieldavies.org 01686 625041 Gweithdy gyda Simon yn archwilio'r berthynas rhwng corff a gwrthrych drwy symudiad. Ar gyfer artistiaid a myfyrwyr newydd syddâ diddordeb yn y prosesau o berfformio a chreu dawnsiau. Dydd Gwener 9 Hydref, 7pm, am ddim, Oriel Davies Perfformiad cyntaf y ffilm 'Studies for Maynard', gyda thrafodaeth a rhoi dawns mewn cyd-destun yn yr oriel gyda SimonWhitehead a Tanya Saed. Dydd Mercher 21 Hydref 7.30pm, am ddim, Oriel Davies Perfformiad llawn o 'Studies for Maynard', gan Simon Whitehead a chydweithwyr.

A workshop with Simon exploring the relationship between body and object through movement. For emerging artists and students interested in the processes of performance and dance making. Friday 09 October, 7pm, free, Oriel Davies Premiere of the film 'Studies for Maynard’, with discussion and contextualisation of dance in the gallery with Simon Whitehead and Tanya Saed. Wednesday 21 October, 7.30pm, free, Oriel Davies Full length performance of 'Studies for Maynard', by Simon Whitehead and collaborators.


HOUSE


Arddangosfeydd Exhibitions

The idea of house and home can conjure up feelings of warmth and shelter. A dwelling – be it cottage or shed, tent or mansion, temporary shack or permanent residence — is usually the basis of comfort and security. Conversely, a derelict or abandoned house is often associated with discomfort, unease and absence.

14 Tachwedd / November 2015 — 27 Ionawr / January 2016

This exhibition brings together six artists who use the domestic space and objects as a springboard for their ideas. Showing sculpture, installation, prints, drawings, painting and textiles, they explore the idea of ‘house’ in many and various guises. From Amy Sterly’s ‘speaking’ house prints to miniature staircases, meticulously carved from soap by Felicity Warbrick; from Jeanette Orrell’s exquisitely drawn brushes and wire whisks to Charlotte Squire’s exuberant lampshade installation; from Ainsley Hillard’s subtle suggestions of memory to Frances Carlile’s sculpture and prints, where house merges with landscape. Together they present House, an exhibition which explores the many meanings of home.

Gall y syniad o dyˆ a chartref greu teimladau o gynhesrwydd a chysgod. Fel arfer, annedd — boed hynny’n fwthyn neu’n sied, yn babell neu’n blasty, yn gaban dros dro neu’n breswyliad parhaol — yw’r sail arferol i gysur a diogelwch. I’r gwrthwyneb, mae tyˆ adfeiliedig neu dyˆ gwag yn gysylltiedig yn aml ag anesmwythder, anniddigrwydd ac absenoldeb. Mae’r arddangosfa hon yn dwyn ynghyd chwe artist sy’n defnyddio’r gofod a’r gwrthrychau yn y cartref fel man cychwyn ar gyfer eu syniadau. Maent yn dangos cerflunwaith, gosodiadau, printiau, lluniadau, paentiadau a thecstilau, ac yn archwilio’r syniad o ‘dyˆ ’ ar ffurfiau niferus a gwahanol. O brintiau tyˆ Amy Sterly sy’n ‘siarad’, i risiau bach, sydd wedi’u cerfio’n ofalus iawn o sebon gan Felicity Warbrick; o’r brwsys a’r chwisgiau gwifren wedi’u darlunio’n gain gan Jeanette Orrell, i osodiad lamplenni afieithus Charlotte Squire; o awgrymiadau cynnil Ainsley Hillard o gof, i gerflunwaith a phrintiau Frances Carlile, lle mae tyˆ yn uno â’r dirwedd. Gyda’i gilydd, maent yn cyflwyno House, arddangosfa sy’n archwilio ystyron niferus y cartref. Frances Carlile / Ainsley Hillard, Jeanette Orrell / Charlotte Squire Amy Sterly / Felicity Warbrick.

Frances Carlile / Ainsley Hillard, Jeanette Orrell / Charlotte Squire Amy Sterly / Felicity Warbrick.

Felicity Warbrick INDWELL (detail.)


FOREIGNERS Bernadette Kerrigan TestBed 19 Medi / September — 04 Tachwedd / November 2015 Mae Bernadette Kerrigan yn arlunydd ond mae’r gwaith hwn yn arwain ei hymarfer i feysydd newydd. Mae Foreigners wedi esblygu o gyfres o brintiau unigryw graddfa fach a grëwyd o baent chwistrell, chwyn a thechneg sy’n deillio o ffotogramau. Mae’r broses a’r deunyddiau wedi cynnig ymagwedd reddfol, fwy rhydd i’r artist at ei pheintio. Gan ddefnyddio proses cyanotype arbrofol ar y polythen, mae Kerrigan yn creu arwyneb wedi'i orchuddio â dail a chwyn wedi gordyfu. Mae ansawdd tymhorol y polythen yn cyd-fynd â natur fyrhoedlog y pwnc — wrth i’r ddelwedd ddiflannu yn nirywiad graddol y polythen, cawn ein hatgoffa o fregusrwydd bywyd. Mae Bernadette Kerrigan yn byw ac yn gweithio yn Swydd Henffordd.

Bernadette Kerrigan Foreigners, 2015

Bernadette Kerrigan is a painter but this work takes her practice into new areas. Foreigners has evolved from a series of small-scale, unique prints created from spray paint, weeds and a technique derived from photograms. Both the process and materials have offered the artist an intuitive, freer approach to her painting. Using an experimental cyanotype process on polythene, Kerrigan presents a surface covered with overgrown foliage and weeds. The temporal quality of the polythene resonates with the ephemeral nature of the subject matter, its gradual degradation taking the image with it reminding us of the losses and fragility found in life. Bernadette Kerrigan lives and works in Herefordshire.


Talking to Gwen Anna Falcini TestBed 14 Tachwedd / November 2015 — 27 Ionawr / January 2016 Yn ystod cyfnod preswyl yn Aberystwyth, darganfu Anna Falcini lythyrau Gwen John yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Drwy ohebu â ffrindiau a theulu, datgelodd John yr agweddau personol, cyffredin o’i bywyd fel artist ym Mharis, yn ogystal â’r llawenydd a’r siomedigaethau. Ymateb Falcini i’r llythyrau, oedd archwilio nid yn unig eu cynnwys, ond eu materoldeb corfforol a’u cadwraeth archifol. Yr hyn sydd wedi dechrau dod i’r amlwg yw deialog bell, wedi’i gwahanu gan ganrif o amser, rhwng dwy artist fenywaidd. Mae Anna Falcini yn byw ac yn gweithio yn Swydd Henffordd.

During a residency in Aberystwyth, Anna Falcini discovered the letters of Gwen John at the National Library of Wales. Corresponding with friends and family, John revealed both the intimate, mundane aspects of her life as an artist in Paris, as well as the joys and disappointments. Falcini’s response to the letters, was to explore not only their content but the physical materiality and archival preservation of them. What has begun to emerge is a remote dialogue, separated by a century of time, between two female artists. Anna Falcini lives and works in Herefordshire.

Anna Falcini, Clippings (Page No.2, detail) 2014 Multiple Drawing; Collage and gouache on multipurpose copy paper, mounted onto Fabriano paper


A Tree A Rock A Cloud Clare Woods

Arddangosfa Deithiol Oriel Davies Oriel Davies Touring


Lansiwyd A Tree A Rock A Cloud yn Oriel Davies ym mis Medi 2014, ac roedd yn cynnwys corff newydd o waith gan yr artist enwog Clare Woods. Datblygodd yr arddangosfa o ymgysylltiad â thraddodiadau o beintio hanesyddol — portreadau, bywyd llonydd a thirlun — o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Mae’r daith hon ar draws Cymru yn cyflwyno gwaith newydd ychwanegol gan Woods mewn ymateb i’r gwaith gan Graham Sutherland a John Piper a gynhaliwyd fel rhan o’r un casgliadau. 26 Medi—29 Tachwedd 2015 Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd LL53 7TT www.oriel.org.uk, 01758 740763 Sgwrs gyda’r artist Clare Woods a Nick Thornton, Pennaeth Celfyddyd Gain, Amgueddfa Cymru — National Museum Wales, Ddydd Sul 11 Hydref am 1.30pm i’w ddilyn gan agoriad swyddogol am 3pm 05 Rhagfyr 2015—06 Mawrth 2016 Oriel y Parc, Landscape Gallery, Tyddewi, Sir Benfro SA62 6NW www.oriel.org.uk/cy, 01437 720392 Sgwrs gyda’r artist Clare Woods a Nick Thornton, Pennaeth Celfyddyd Gain, Amgueddfa Cymru — National Museum Wales, Ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr am 6.30pm i’w ddilyn gan agoriad swyddogol am 7.30pm Mae’r oriel yn Oriel y Parc yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru — National Museum Wales ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Arddangosfa deithiol Oriel Davies mewn partneriaeth â’r Curadur Annibynnol Mandy Fowler, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

A Tree A Rock A Cloud launched at Oriel Davies in September 2014 and featured a new body of work by acclaimed artist Clare Woods. The exhibition evolved out of an engagement with traditions of historic painting — portraiture, still life and landscape — from the collections of Amgueddfa Cymru. This tour across Wales presents additional new work by Woods in response to work by Graham Sutherland and John Piper held in the same collections. 26 September—29 November 2015 Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd LL53 7TT www.oriel.org.uk, 01758 740763 In conversation with artist Clare Woods and Nick Thornton, Head of Fine Art, Amgueddfa Cymru — National Museum Wales, Sunday 11th October, 1:30pm followed by official opening at 3pm. 05 December 2015—06 March 2016 Oriel y Parc, Landscape Gallery, St Davids, Pembrokeshire SA62 6NW www.orielyparc.co.uk, 01437 720392 In conversation with artist Clare Woods and Nick Thornton, Head of Fine Art, Amgueddfa Cymru — National Museum Wales, Saturday 5th December, 6.30pm followed by official opening at 7.30pm. The gallery at Oriel y Parc is a partnership between Amgueddfa Cymru — National Museum Wales and the Pembrokeshire Coast National Park Authority. An Oriel Davies touring exhibition in partnership with Independent Curator Mandy Fowler, supported by the Arts Council of Wales.

Clare Woods, Sunken Line, 2015, Oil on aluminium, 150 x 100cm. Courtesy the artist.


flora

Arddangosfa, digwyddiadaua phreswylfeydd flora. flora exhibition, events and residencies.


Arddangosfa Deithiol Oriel Davies Oriel Davies Touring

19 Medi / September — 31 Hydref / October 2015

Oriel Myrddin Gallery, Caerfyrddin / Carmarthen www.orielmyrddingallery.co.uk 01267 222 775

20 Mawrth / March— 15 Mai / May 2016 Yn dilyn llwyddiant flora yn Oriel Davies, mae’r arddangosfa yn cychwyn ar ei thaith i dri lleoliad ar draws Cymru. Mae’r arddangosfa yn archwilio arwyddocâd celf gyfoes drwy flodau ac yn cynnwys yr artistiaid canlynol; Emma Bennett, Michael Boffey, Anya Gallaccio, Ori Gersht, Owen Griffiths, Anne-Mie Melis, Jacques Nimki, Yoshihiro Suda a Clare Twomey. After the success of flora at Oriel Davies the exhibition starts its tour to three venues across Wales. The exhibition is an exploration the significance of contemporary art through flowers and includes artists; Emma Bennett, Michael Boffey, Anya Gallaccio, Ori Gersht, Owen Griffiths, Anne-Mie Melis, Jacques Nimki, Yoshihiro Suda and Clare Twomey.

Oriel Plas Glyn y Weddw, Pwllheli www.oriel.org.uk 01758 740763

12 Gorffennaf / July— 17 Medi / September 2016

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth / Aberystwyth Arts Centre www.aberystwythartscentre.co.uk 01970 623232 Mae'r arddangosfa yn cael ei harddangos mewn gwahanol ffurfiau yn ystod ei thaith. Cynghorir ymwelwyr i gysylltu â'r lleoliadau yn uniongyrchol am fanylion. The exhibition shows in different guises during its tour. Visitors are advised to contact the venues directly for details.

Mae flora yn Arddangosfa Deithiol Genedlaethol sy’n cael ei churadu gan Oriel Davies a’i chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Cefnogir rhaglen Allgymorth Deithiol flora gan Ymddiriedolaeth Ernest Cook.

Ori Gersht, Time After Time (08), LVT print, 2007. Courtesy the artist.

flora is a National Touring Exhibition curated by Oriel Davies and supported by Arts Council of Wales. ‘The flora Outreach on Tour schools programme is supported by the Ernest Cook Trust.


Preswylfeydd flora flora residencies

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru Preswyliad flora

www.gardenofwales.org.uk Hydref 2015 — Chwefror 2016 Mae preswyliad i artistiaid yn cael ei gynnal yn lleoliad cymeradwy ac unigryw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae’r artist yn ymateb i waith ac adnoddau naturiol yr Ardd, ac i brosiect arddangosfa flora. Ewch i flora.orieldavies.org/residencies i gael y manylion diweddaraf.

Galw am geisiadau: Preswyliad flora yng Nghanolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange

www.lgac.org.uk Rydym yn gwahodd artistiaid proffesiynol sy’n gweithio ar draws unrhyw gyfrwng o Gymru a thu hwnt i wneud cais am breswyliad, a fydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange o 16 Ionawr— 12 Mawrth 2016. Dyddiad cau: Hanner nos dydd Gwener 25 Medi 2015. Rhagor o wybodaeth a manylion ymgeisio: flora.orieldavies.org/residencies Dylech anfon pob ymholiad i’r Curadur Alex Boyd Jones ac nid i Ganolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange, drwy anfon e-bost at alex@orieldavies.org

National Botanic Garden of Wales / Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

National Botanic Garden of Wales flora residency

www.gardenofwales.org.uk October 2015—February 2016 An artist residency takes place at the acclaimed and unique setting of the National Botanic Garden of Wales. The artist is responding to the work and natural resources of the Garden as well as the flora exhibition project. Please see flora.orieldavies.org/ residencies for up to date details.

Call for entries: Llantarnam Grange Arts Centre flora residency

www.lgac.org.uk We invite professional artists working across any medium from Wales and further afield to apply for an exhibition residency, taking place at Llantarnam Grange Arts Centre from 16 January —12 March 2016. Deadline: Midnight Friday 25 September 2015. Further information and application details: flora.orieldavies.org/ residencies All enquiries to Alex Boyd Jones, Curator, alex@orieldavies.org and not to Llantarnam Grange Arts Centre


Digwyddiadau flora yn Lleoliadau’r Daith flora Events at Tour Venues

Digwyddiad Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru Llyfrau Braslunio Ffwng

Dydd Sul 11 Hydref, 10am— 4pm, Mynediad am ddim i’r ardd yn unig: oedolion £9.75, Pensiynwyr £8, plentyn (5–16) £4.95 ac mae plant dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. Rhaid cadw lle. Bydd yr artist Louise Burston yn mynd â grwpiau o ymwelwyr ar daith o amgylch ardaloedd â phroblemau ffwng yn yr Ardd. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn ffotog a llyfr braslunio consertina. Os hoffech ragor o fanylion ac i gadw lle, cysylltwch â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: 01558 667149 info@gardenofwales.org.uk

Digwyddiad Oriel Myrddin Gallery Lucille Junkere All Blues. Sgwrs gyda’r Artist Dydd Gwener 25 Medi, 6pm. Am ddim Mae’r artist Lucille Junkere yn siarad am liw indigo, y planhigyn y mae’n deillio ohono, a’i chyfnod preswyl diweddar yn Oriel William Morris, Llundain lle bu’n archwilio ei gysylltiadau â chaethwasiaeth ac imperialaeth a’i arwyddocâd heddiw. Os hoffech ragor o fanylion neu i gadw lle mewn unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, cysylltwch ag Oriel Myrddin Gallery. 01267 222 775

National Botanic Garden of Wales Event Fungi Sketchbooks

Sunday 11 October, 10am—4pm, Garden entry fee only: adults £9.75, OAPs £8, child (5–16) £4.95 and under 5s are free. Booking essential. Artist Louise Burston will take groups of visitors on a tour around fungal hotspots in the Garden. Each participant will be provided with a viewfinder and concertina sketchbook. For further details and booking please contact National Botanic Garden of Wales: 01558 667149 info@gardenofwales.org.uk

Oriel Myrddin Gallery Event Lucille Junkere All Blues. Artist Talk

Friday 25 September, 6pm. Free Artist Lucille Junkere talks about indigo dye, the plant it comes from and her recent residency at the William Morris Gallery in London where she explored its associations with slavery and imperialism and its significance today. For further details and booking any of these events please contact Oriel Myrddin Gallery. 01267 222 775


Digwyddiadau flora yn Lleoliadau’r Daith flora Events at Tour Venues

Oriel Myrddin Gallery Events Natural Indigo Dye Workshop

Digwyddiadau Oriel Myrddin Gallery Gweithdy Lliw Indigo Naturiol

Sketchbook Walk with flora artist Anne-Mie Melis

Dydd Sadwrn 26 Medi 11am—3.30pm, £25 Cewch ddysgu sut i wneud cerwyn lliw indigo naturiol a chreu ffabrig unigryw patrymog i fynd adref, ac edrych yn fanwl ar y grefft o adire, tecstilau wedi’u gwrthliwio, sydd yn cael eu gwneud yn draddodiadol gan bobl yn Yorubaland, Nigeria.

Taith gyda Llyfr Braslunio gydag artist flora Anne-Mie Melis

Dydd Sadwrn 24 Hydref 11am—1pm. Am ddim Darganfyddwch rai o fannau gwyrdd Caerfyrddin ac archwiliwch yr arddangosfa flora. Gallwn ddarparu llyfrau braslunio a deunyddiau, neu dewch â rhai eich hun.

Y Darlun Mawr: Bydoedd Gerddi Ffantasi gyda’r artist Richard Monahan

Dydd Mercher 28 Hydref. Am ddim. Addas ar gyfer pob oedran. Crëwch ofodau o’r gorffennol ac ar gyfer y dyfodol ar gyfer tyfu planhigion, dyfeisiwch fydoedd swigod a gwëwch straeon. Dewch â oedolyn gyda chi. Os hoffech ragor o fanylion neu i gadw lle mewn unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, cysylltwch ag Oriel Myrddin Gallery. 01267 222 775 Jacques Nimki, The Little Florilegium, 2014

Saturday 26 September 11am—3.30pm, £25 Learn how to make a natural indigo dye vat and create a uniquely patterned fabric to take home, and an in-depth look at the art of Adire — a resist-dyed textile traditionally made by people in Yorubaland, Nigeria.

Saturday 24 October 11am—1pm. Free Discover some of Carmarthen’s green spaces and explore the flora exhibition. Sketchbooks and materials can be provided, or bring your own.

The Big Draw: Fantasy Garden Worlds with artist Richard Monahan

Wednesday 28 October. Free. Suitable for all ages. Create past and future spaces for growing plants, invent bubble worlds and weave stories. Bring a grown up. For further details and booking any of these events please contact Oriel Myrddin Gallery. 01267 222 775


ARDDANGOSFA AGORED ORIEL DAVIES ORIEL DAVIES OPEN 2016 Galwad am gynigion Arddangosfa Agored Oriel Davies 2016 — Peintio

Call for entries Oriel Davies Open 2016 — Painting

Mae Oriel Davies yn gwahodd artistiaid a phobl sy’n astudio celf* i gyflwyno cynigion o blith eu gwaith newydd a diweddar gyda golwg ar gael eu dewis ar gyfer Arddangosfa Agored fawreddog Oriel Davies. Arddangosfa: 16 Ebrill —15 Mehefin 2016

Oriel Davies invites artists and those studying art* to submit entries of new and recent work for the opportunity of being selected for the prestigious Oriel Davies Open. Exhibition: 16 April —15 June 2016

Panel Dethol: Clare Woods, artist; Nick Thornton, Pennaeth Celfyddyd Gain yn Amgueddfa Cymru; Dr Rebecca Daniels, Ymchwilydd mewn Hanes Celf, Catalogue Raisonné o waith Francis Bacon; Alex Boyd Jones, Curadur yn Oriel Davies Gwobrau: Gwobr Gyffredinol: £1000 a sioe unigol Gwobr i Fyfyriwr: £500 Gwobr Dewis y Bobl: £250 Dyddiad cau: Hanner nos, ddydd Gwener 09 Hydref 2015 Ymgeisio: Am y manylion llawn a’r ffurflen ymgeisio: www.orieldavies.org/open2016 Ymholiadau: open2016@orieldavies.org 01686 625041 *Nid oes cyfyngiad daearyddol ac mae’r gystadleuaeth yn agored i artistiaid proffesiynol ac i fyfyrwyr (17+) sydd yn hyfforddi ar hyn o bryd yn y celfyddydau gweledol.

Mae Oriel Davies yn ymestyn diolch cynnes i haelioni Newtown Station Travel am y Wobr Dewis y Bobl.

Selection Panel: Clare Woods, artist; Nick Thornton, Head of Fine Art at Amgueddfa Cymru-National Museum Wales, Cardiff; Dr Rebecca Daniels, Art Historical Researcher, Catalogue Raisonné of Francis Bacon; Alex Boyd Jones, Curator at Oriel Davies. Prizes: 1st Prize: £1000 and solo show Student Prize: £500 People’s Choice Prize: £250 Deadline: Midnight 09 October 2015 Application: For full details and entry form: www.orieldavies.org/open2016 Enquiries: open2016@orieldavies.org 01686 625041 *There is no geographical restriction and entry is open both to professional artists and to students (17+) currently training in visual art.

Oriel Davies warmly thanks the generosity of Newtown Station Travel for The People’s Choice Prize.

#ODO2016


Digwyddiadau Events

Digwyddiadau i Blant / Teuluoedd Gweithdy Gwneud Llusernau Dydd Sadwrn, 19 Medi, 10.30am—3.30pm Dewch i greu llusernau eogiaid a llusernau pysgodlyd eraill ar gyfer Gw ˆ yl Eogiaid Afon Hafren a gorymdaith lusernau. Bydd plant a theuluoedd sy’n cymryd rhan yn y gweithdy yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o’r orymdaith lusernau sy’n cael ei chynnal yn y Drenewydd ar 16 Hydref. Digwyddiad am ddim. Rhaid cadw lle drwy ffonio 01686 625041 neu drwy anfon e-bost at desk@orieldavies.org Digwyddiad y Darlun Mawr dan arweiniad yr artist Christine Mills dydd Mawrth, 27 Hydref 10.30am—4pm Mae pob llun yn dweud stori! Treuliwch ddiwrnod yn tynnu lluniau ac yn braslunio. Digwyddiad am ddim i’r teulu cyfan! Dyddiad ar gyfer eich dyddiadur: Gweithdy’r Nadolig Dydd Sadwrn, 28 Tachwedd 10.30am—1pm £5 fesul plentyn/oedolyn

Children / Family Events Lantern Making Workshop Saturday, 19 Sept, 10.30am—3.30pm Come and make salmon and other fishy lanterns for the River Severn Salmon Festival and lantern procession. Children and families taking part in the workshop will be invited to be part of the lantern procession taking place in Newtown on 16 October. Free event. Booking essential on 01686 625041 or desk@orieldavies.org Big Draw Event led by artist Christine Mills Tuesday, 27 October 10.30am—4pm Every drawing tells a story! Spend a day drawing and sketching. Free event for all the family! Date for your diary: Christmas Workshop Saturday, 28 November 10.30am—1pm £5 per child/adult


Digwyddiad Arbennig! Goleuadau Sbonc! Gw ˆ yl Eogiaid Afon Hafren a gorymdaith lusernau. 16 Hyd 6.30pm, o’r maes parcio ger McDonalds i Barc Dolerw i weld yr Afon Oleuadau. Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu ar y cyd gan Ymddiriedolaeth Afonydd yr Hafren, RSPB ac Oriel Davies, drwy gyllid gan Gyngor Tref y Drenewydd, y Gronfa Loteri Fawr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru

Special Event! Leaping Lights! River Severn Salmon Festival and lantern procession. 16 Oct 6.30pm, from the car park near McDonalds to Dolerw Park for the River of Lights.This event is jointly organized by Severn Rivers Trust, RSPB and Oriel Davies, with funding from Newtown Town Council, Big Lottery, Arts Council of Wales, Welsh Government and Natural Resources Wales

Gwybodaeth bellach: Twitter: @severnrivers Facebook: severnrivers.trust www.severnriverstrust.com

Further information: Twitter: @severnrivers Facebook: severnrivers.trust www.severnriverstrust.com


Dysgu Anffurfiol Bywluniadu ar ddydd Sadwrn gyda Caroline Ali Dydd Sadwrn cyntaf bob mis 10.15am—1.30pm. £18 (yn cynnwys adnoddau) Rhaid cadw lle. Sesiynau difyr â thiwtor sy’n annog cryfderau unigol wrth archwilio gwahanol agweddau ar dynnu llun y ffigwr dynol. Mae’r sesiynau hyn yn cael eu cynllunio i roi cyngor technegol mewn meysydd allweddol fel cyfrannedd, persbectif, llinell, tôn, lliw, ac ystum. Cewch eich annog i ddatblygu eich arddull eich hun gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau mewn awyrgylch hamddenol a chreadigol. Yn addas ar gyfer dechreuwyr ac artistiaid profiadol. Cystadleuaeth Ysgrifennu Agored Oriel Davies 2015 Gwahoddir awduron i gyflwyno naill ai cerddi (hyd at 50 llinell yr un) neu ryddiaith (hyd at 1,000 o eiriau’r un) sy’n canolbwyntio ar y thema ‘flora’. Bydd y ceisiadau buddugol (un ar gyfer y ryddiaith orau ac un ar gyfer y gerdd orau) yn derbyn taleb £50 taleb i’w wario yn siop yr oriel. Y ffi mynediad yw £3 am bob darn a gyflwynir. Dyddiad cau: 2 Tach 2015. Prynhawn gyda Border Poets Dydd Sadwrn 26 Medi, 2.30pm-4pm, £3 Grw ˆ p o feirdd gwobrwyedig yw Border Poets, sydd wedi cyhoeddi’n eang ac sy’n byw ar ddwy ochr ffin Cymru. Bydd hwn yn gyfle i sgwrsio â nhw a chlywed amrywiaeth o waith gwreiddiol. Dyma a ddywedodd R.V. Bailey am eu blodeugerdd 2015, The Nettle Trick: “These are poems that wear the right clothes: poems that have something worth saying, and say it with the economy and grace and freshness of the genuinely creative.” I gadw lle neu am wybodaeth pellach cysylltwch â Derbynfa Oriel Davies, 01686 625041, desk@orieldavies.org

Gweithdai a Chyrsiau Workshops & Courses


Informal Learning Saturday Life Drawing with Caroline Ali First Saturday of every month 10.15am—1.30pm. £18 (includes materials) Booking essential Fun, tutored sessions encouraging individual strengths whilst exploring different aspects of drawing the human figure. These sessions are designed to give technical advice in key areas such as proportion, perspective, line, tone, colour, and gesture. You are encouraged to develop your own style using a variety of materials in a relaxed and creative atmosphere. Suitable for beginners and experienced artists. Oriel Davies 2015 Open Writing Competition Writers are invited to submit either poems (up to 50 lines each) or prose (up to 1,000 words each) that focus on the theme of ‘flora’, The winning entries (one for best prose and one for best poetry) will receive a £50 voucher to spend in the gallery shop. The entry fee is £3 per piece submitted. Closing date: 2 Nov 2015. An afternoon with Border Poets Saturday 26 September, 2.30pm—4pm, £3 Border Poets are a group of widely published and award winning poets who live on both sides of the Welsh border. This will be a chance to talk to them and hear a range of original work. R.V. Bailey said this of their 2015 anthology, The Nettle Trick: “These are poems that wear the right clothes: poems that have something worth saying, and say it with the economy and grace and freshness of the genuinely creative.”

The Nettle Trick (cover image), Border Poets

To book or for further information contact Oriel Davies Reception, 01686 625041, desk@orieldavies.org


Gweithdai a Chyrsiau Workshops & Courses

Cyrsiau Dysgu gydol oes Bydd cyrsiau’n cael eu cynnal yn Oriel Davies ar y cyd ag Adran Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Cymru Aberystwyth. www.aber.ac.uk Os hoffech ragor o wybodaeth ac i gadw llefydd ar y cyrsiau, cysylltwch â’r Brifysgol yn uniongyrchol drwy ffonio 01970 621580 neu drwy anfon e-bost at: learning@aber.ac.uk Ysgrifennu ffilmiau gyda Lara Clough Bob dydd Mercher, 23 Medi—25 Tach, 10.15am—12.30pm Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sgiliau sy’n angenrheidiol i greu syniadau sy’n addas i’w datblygu yn sgriptiau ffilm, dysgu am strwythuro sgriptiau ffilm, creu cymeriadau gwych a sgriptio golygfeydd effeithiol. Ymagweddau at Dirlunio gyda Judy Forster Bob dydd Mawrth, 06 Hyd, 20 Hyd, 03 Tach, 01 Rhag, 09 Chwef a 23 Chwef 10.30am—3pm Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddulliau o gofnodi hanfod tirlun a’r broses o’i ddatblygu. Mae’r parcdir a’r afon gyfagos yn darparu’r lleoliad ar gyfer ymarferion awyr agored, ac mae gwaith stiwdio dilynol yn archwilio technegau tirlunwyr cyfoes ac o’r gorffennol.

Portreadau o Blanhigion gyda Tereska Shepherd 4 Diwrnod (Dydd Gwen 30 Hyd, Sad 31 Hyd, Tach 20 Tach, Sad 21 Tach) 10.30am—4pm Cipiwch y pwnc ysbrydoledig hwn a chofnodwch y newidiadau wrth i blanhigion ddatblygu o hadau ac egin i ffurfio dail ac yna blodau. Rhoddir arddangosiadau a chymorth unigol, gan eich galluogi i arbrofi gydag amrywiaeth o dechnegau dyfrlliw ar gyfer tynnu lliwiau o blanhigion ac archwilio amrywiaeth o arddulliau a chyfansoddiadau. Ysgrifennu Storïau Ditectif a Chyffrous gyda Lara Clough Bob dydd Mercher, 13 Ion—16 Mawrth 2016, 10.15am—12.30pm O’i ddechrau, gydag Edgar Allan Poe a Syr Arthur Conan Doyle, mae’r cwrs hwn yn edrych ar y cyd-destun hanesyddol a’r ystod enfawr o fewn y genre hwn, o drosedd Cozy i Nordig, ac yn archwilio’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo. Ysgrifennu gyda sylwgarwch a theimlad gyda Chris Kinsey Bob dydd Mercher, 06 Ion—16 Mawrth 2016, 1.30pm—3.30pm Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ymchwilio i agweddau ar y traddodiadau telynegol ac Imagistaidd mewn llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd, ac ar ymarfer gwella bywiogrwydd mewn traethodau personol, barddoniaeth, cofiannau neu gylchgronau.


Lifelong Learning Courses Courses take place at Oriel Davies in association with the University of Wales, Aberystwyth, School of Education and Lifelong Learning. www.aber.ac.uk. For further information and course bookings, please contact the University directly on 01970 621580 or email: learning@aber.ac.uk Screenwriting with Lara Clough Wednesdays, 23 Sept—25 Nov 10.15am—12.30pm On this course you learn the skills necessary to create ideas suitable for development into screenplays, learn about structuring a screenplay, creating great characters and scripting effective scenes. Approaches to Landscape Painting with Judy Forster Tuesdays, 06 Oct, 20 Oct, 03 Nov, 01 Dec, 09 Feb & 23 Feb, 10.30am—3pm This course focuses on methods for recording the essence of a landscape scene and the process of taking it further. The surrounding parkland and river provide the location for outdoor exercises and subsequent studio work explores relevant techniques of past and contemporary landscape artists.

Plant Portraits with Tereska Shepherd 4 Days (Fri 30 Oct, Sat 31 Oct, Fri 20 Nov, Sat 21 Nov) 10.30am—4pm Capture this inspiring subject and chart the changes as plants develop from seeds and shoots forming leaves and then flowers. Demonstrations and individual assistance are given, enabling you to experiment with a variety of watercolour techniques for depicting plants and explore a variety of styles and compositions. Writing Detective and Thriller Fiction with Lara Clough Wednesdays, 13 Jan—16 March 2016 10.15am—12.30pm From its beginnings with Edgar Allan Poe and Sir Arthur Conan Doyle, this course looks at the historical context and the enormous range within this genre, from Cozy crime to Nordic, and explores the skills needed for success. Writing with attentiveness and feeling with Chris Kinsey Wednesdays, 06 Jan—16 March 2016 1.30pm—3.30pm This course focuses on investigating aspects of the lyrical and Imagist traditions in English and American literature and with practicing enhancing vividness in personal essays, poetry, memoirs or journals.


Dysgu ac Allan Gyrraedd Learning & Outreach

Schools & Colleges Developing creativity, literacy, thinking and communication skills through the arts. Hafren Festival Outreach Workshops Oriel Davies teams up with environmental charity Severn Rivers Trust to deliver workshops making salmon lanterns in Newtown schools. See what they have made at the Hafren Festival riverside procession on Friday 16 October.

Ysgolion a Cholegau Datblygu sgiliau creadigrwydd, llythrennedd, meddwl a chyfathrebu drwy’r celfyddydau. Gweithdai Allgymorth Gw ˆ yl Hafren Mae Oriel Davies yn cydweithio gyda’r elusen amgylcheddol Ymddiriedolaeth Afonydd yr Hafren i gyflwyno gweithdai gwneud llusernau eogiaid mewn ysgolion yn y Drenewydd. Dewch i weld eu gwaith yn yr orymdaith ar lan yr afon yng Ngw ˆ yl Hafren ddydd Gwener 16 Hydref. Rhaglen Allgymorth Deithiol flora: mae’r artist Jacques Nimki yn mynd â rhaglen ddysgu flora Oriel Davies i ysgol yng Nghaerfyrddin, mewn partneriaeth ag Oriel Myrddin ac Ymddiriedolaeth Ernest Cook. House: profwch sut mae artistiaid yn ymateb i wrthrychau a mannau yn y cartref mewn ffyrdd anarferol. Ar gyfer House ac ymweliadau i arddangosfeydd a gweithdai creadigol eraill wedi’u teilwra i’ch grw ˆp, cysylltwch â’r Swyddog Dysgu Helen Kozich (ysgolion a cholegau). 01686 625041 helenk@orieldavies.org

flora Outreach on Tour: artist Jacques Nimki takes Oriel Davies’ flora learning programme to a Carmarthen school, in partnership with Oriel Myrddin and the Ernest Cook Trust. House: experience how artists respond to domestic objects and spaces in unusual ways. For House and other exhibition visits and creative workshops tailored to your group, please contact Helen Kozich, Learning Officer (schools & colleges). 01686 625041 helenk@orieldavies.org



Siop Shop Anrhegion celf a dylunio, deunydd ysgrifennu, gemwaith a chrefftau. Art and design gifts, stationery, jewellery and craft.

Clocwedd / Clockwise: Wild Acre — Belinda Norrington, MAKE International

Mae siop Oriel Davies yn arddangos cyfoeth gwych o dalent ac yn dathlu rôl bwysig crefft a dylunio o fewn ein diwylliant. Mae arddangosfa newidiol o gerameg gyfoes, gwydr, tecstilau dylunio, llyfrau celf a gemwaith yn cael eu cyflwyno o fewn amgylchedd celf, lle gellir dod o hyd i wneuthurwyr a chynllunwyr lleol a chenedlaethol sefydledig a rhai newydd sy’n dod i’r amlwg. Mae’n le perffaith i ddod o hyd i’r anrheg unigryw hwnnw.

The Oriel Davies gallery shop showcases a fantastic wealth of talent and celebrates the important role of craft and design within our culture. A changing display of contemporary ceramics, glass, textile design, art books and jewellery presented within an art-led environment where local and national, emerging and established makers and designers can be discovered. It is the perfect place to find that unique gift for a special someone.

Yn eisiau! Crefftwyr sefydledig a rhai newydd sy’n dod i’r amlwg! Anfonwch eich manylion at rhian@orieldavies.org

Emerging and established craftspeople wanted! Please send details to rhian@orieldavies.org Gift tokens are available!

Mae talebau rhodd ar gael! Cynllun Casglu Paham na phrynwch chi ddarn o gelfyddyd gyfoes neu grefft drwy’r Cynllun Casglu? Ddechrau’r haf, bydd Oriel Davies yn cymryd rhan mewn gwasanaeth credyd di-log Cyngor Celfyddydau Cymru i’ch helpu i brynu celfyddyd gyfoes a chrefft yng Nghymru.

Collectorplan Why not buy a piece of contemporary art or craft with Collectorplan? Oriel Davies will participate from early summer in Arts Council of Wales’ interest-free credit service to help you buy contemporary art and craft in Wales.


Ar agor / Open: 10am—4pm I gadw lle / Bookings: 01686 622288

Galwch heibio i’n caffi cyfeillgar yn yr oriel i flasu bwydydd cartref blasus ac iachus. Cymrwch sedd yn ein teras naws Canoldirol drws nesaf i’r parc, neu yn ein caffi golau, llachar gyda golygfeydd gwych. Mae Relish yn defnyddio cynhwysion gan gyflenwyr bach sydd mor lleol a thymhorol â phosibl, ac mae’n cynnig dewis o fwydydd llysieuol, fegan a heb glwten. Mae’r caffi wedi’i thrwyddedu ac yn gwerthu cwrw organig gwych, gwinoedd a diodydd meddal. Rydym hefyd yn gwerthu prydau parod, fel y gallwch fynd â’ch cinio i’r parc.

Bara Cartref / Homemade breads Salad lleol / Locally-sourced salad Cawl cartref / Homemade soup Cacennau / Cakes / Te / Tea Coffi Barista / Barista Coffee Diodydd Meddal Organig / Organic Soft Drinks Falafel / Falafel / Tapas / Tapas Tatws trwy’u crwyn / Jacket Potatoes Paninis / Paninis Prydau parod / Take-away

Caffi‘r Oriel Gallery Café

Pop into our friendly gallery café or some delicious home-cooked and seasonal food. Take a seat in our light, bright café with great views. Relish sources ingredients as seasonal as possible from small and local suppliers, and caters for vegetarian, vegan and gluten-free diets. The café is licensed and serves excellent beers, wines and soft drinks. We also serve takeaway meals so you can take your lunch into the park.


Cyfeillion

Friends

Mae Cyfeillion Oriel Davies yn grw ˆp ymroddgar o unigolion, sydd yn cefnogi Oriel Davies drwy greu cyswllt cryf rhwng yr oriel a’i chynulleidfaoedd, a threfnu tripiau a gweithgareddau cymdeithasol sy’n ymwneud â chelf. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf i ymuno â’r grw ˆp. £14 yw’r gost aelodaeth flynyddol, £6 i fyfyrwyr a £22 am aelodaeth ddwbl. Gallwch ddod o hyd i restr o fanteision ar ein gwefan, ac mae croeso i chi ein ffonio neu anfon e-bost atom gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych am ymuno ar 01686 625041 / desk@orieldavies.org

The Friends of Oriel Davies are an active group of individuals, dedicated to supporting Oriel Davies and creating a strong link between the gallery and its audiences. Friends are drawn from the general public and anyone with an interest in art is welcome to join. Annual membership costs £14 or £6 for a student and £22 for a double membership. You can find a list of benefits on our website and please don’t hesitate to give us a call or email with your questions about joining on 01686 625041 / desk@orieldavies.org

Ar 19 o Fedi, bydd Cyfeillion Oriel Davies Gallery yn trefnu trip i Wightwick Manor ac Oriel Gelf Wolverhampton. Am ragor o wybodaeth ac i fwcio lle, cysylltwch â ni.

Oriel Davies Friends are organising a trip to Wightwick Manor and Wolverhampton Art Gallery on 19 September. For more information and to book please get in touch.

Llogi ystafell

Room hire

Dewch i gael eich ysbrydoli yn yr oriel a rhowch naws creadigol i’ch digwyddiad. Mae’r ystafell addysg awyrog a lliwgar yn Oriel Davies ar gael i’w llogi, ac mae’n berffaith ar gyfer amryw o grwpiau cymunedol, gweithdai, sesiynau hyfforddi a chyfarfodydd. Mae lle i hyd at 40 o bobl yn yr ystafell, sydd â chyfleusterau glân a modern, gwasanaeth arlwyo gwych, staff cyfeillgar a lleoliad canolog yn y Drenewydd, Powys ac yng Nghymru.

Get inspired at the gallery and give your event a creative feel. Perfect for community groups, workshops, training sessions and meetings, the bright airy education room at Oriel Davies is for hire! Accommodating up to 40 people with clean and modern facilities, excellent catering, friendly staff and a central location in Newtown and Powys.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.orieldavies.org/room-hire neu ffoniwch 01686 625041

For more information visit www.orieldavies.org/room-hire or give us a call on 01686 625041

orieldavies.org


Sut i ddod o hyd i ni

How to find us

Mae’r Oriel drws nesaf i’r orsaf fws a’r prif faes parcio sy’n edrych dros barc y dref. O’r A489, trowch i mewn i ganol y dref wrth y goleuadau traffig ac ar ôl 200 metr, trowch i’r chwith gyferbyn â Argos. Mae’r oriel bum munud ar droed o orsaf drên y Drenewydd ac ar lwybr beicio 81.

The gallery is next to the bus station and main car park overlooking the town park. From the A489 turn into the town centre at the traffic lights and after 200 metres turn left opposite Argos. The gallery is a five-minute walk from Newtown train station and situated on cycle route 81.

Amseroedd agor: Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10am–5pm (yn cynnwys gwyliau’r banc), ar gau ar ddydd Sul.

Opening times: Monday —Saturday 10am–5pm (including bank holidays), closed on Sundays.

Amseroedd agor y Nadolig: Ar agor 24 Rhag 10am–4pm. Ar gau 25, 26 Rhag. Ar agor 28, 29, 30 Rhag 10am–5pm. Ar agor 31 Rhag 10am–4pm. Ar gau 1 Ionawr. Ar agor 2 Ionawr, 10am–5pm. Ar gau 4 Ionawr.

Christmas Opening: Open 24 December 10am–4pm, Closed 25, 26 December. Open 28, 29, 30 December, 10am-5pm. Open 31 December, 10am–4pm. Closed 1 January. Open 2 January, 10am–5pm. Closed 4 January.

Mynediad am ddim

Free admission

Hygyrchedd: Mae Oriel Davies yn croesawu pawb ac yn hollol hygyrch i gadeiriau olwyn.

Accessibility: Oriel Davies welcomes all and is fully accessible by wheelchair.

Os hoffech fersiwn print bras o destun y rhaglen hon, ffoniwch 01686 625041

For a large print version of this programme text please telephone 01686 625041

River Severn

Y Drenewydd / Newtown

Bus Station

Park

A489

A4 89

Aberystwth

Oriel Davies

Llandrindod Wells

Town Centre

A483

A4 89

Shrewsbury

Ludlow


Diolch

Thanks

Hoffai Oriel Davies ddiolch i’r sefydliadau canlynol am eu cefnogaeth hael: Cyngor Celfyddydau Cymru; Elusen Gwendoline a Margaret Davies; Cyngor Sir Powys; Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston; Llenyddiaeth Cymru; Gwanwyn Festival Age Cymru; Ernest Cook Trust. Gyda diolch arbennig i Gyfeillion Oriel Davies am eu cefnogaeth gryf o’r oriel a’i rhaglenni.

Oriel Davies warmly thanks the following organisations for their generous support: Arts Council of Wales; the Gwendoline and Margaret Davies Charity; Powys County Council; Colwinston Charitable Trust; Literature Wales; Gwanwyn Festival Age Cymru; Ernest Cook Trust. With special thanks to the Friends of Oriel Davies for their strong support of the gallery and the Artists’ Talks Series.

Rhif Elusen / Reg. charity no. 1034890 Front cover image: Charlotte Squire, Strange Fruit Material Actions, 2011. Design: heightstudio.com



Oriel Caffi Siop Gallery Cafe Shop

Oriel Davies Y Parc / The Park Y Drenewydd / Newtown Powys SY16 2NZ 01686 625041 desk@orieldavies.org www.orieldavies.org @orieldavies orieldavies orieldavies Mynediad am ddim Free admisssion


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.