
4 minute read
O Ddifri am Chwaraeon
Os ydych o ddifri am chwaraeon, fel rhan o'r Academi
Chwaraeon byddwch yn elwa o'r canlynol: q rhaglen hyfforddi strwythuredig sydd o dan oruchwyliaeth hyfforddwyr profiadol; perfformiad personol sy'n cael ei fonitro'n rheolaidd gan ein tîm q cynllunnir sesiynau hyfforddi a darlithoedd i osgoi gwrthdaro diangen q y cyfle i gystadlu yng ngrŵp Coleg NPTC llwyddiannus o dimau chwaraeon colegau q rhan o gynlluniau hyfforddi cenedlaethol ar gyfer eich y gamp o'ch dewis.
Os ydych yn cystadlu'n rheolaidd mewn camp ar gyfer timau clwb, sir neu genedlaethol ac â diddordeb mewn ymuno â'n Hacademïau Chwaraeon, cysylltwch â: www.nptcgroup.ac.uk
Llwyddiant ChwARaeON
RYGBI q Enillwyr Cwpan Ysgolion Cymru (8 gwaith) q Enillwyr Cwpan Colegau Cymru (19 gwaith) q Enillwyr Cwpan Colegau Prydain q Enillwyr 7 Rosslyn Park q Enillwyr Coleg Super 15
Myfyrwyr Rhyngwladol q Ashley Beck q Justin Tipuric q Dan Lydiate q Adam Beard q James Hook q Lloyd Peers q James King q Eli Walker q Dan Baker q Dafydd Howells q Adam Jones q Duncan Jones q Darren Morris q Spencer John q Paul James q Leigh Davies q Arwel Thomas q Gwyn Jones q Craig Mitchell

PÊL-RWYD q Pencampwyr Cynghrair Colegau Cymru q Rownd Derfynol yn y Cwpan British Knock-out

Myfyrwyr Rhyngwladol q Helen Jones (Achos) q Amanda Cooper q Chelsea Lewis q Nicola James
PÊL-DROED q Pencampwyr Cynghrair Cymru q Pencampwyr Cymru 5 bob ochr q Ail ym Mhencampwriaeth Cymru 5 bob ochr
Myfyrwyr Rhyngwladol q Daniel James q Ben Davies q Joe Allen q Connor Roberts q Joe Rodon q Jazz Richards
GEMAU OLYMPAIDD q Dan Jervis (Gemau Olympaidd)
GEMAU PARALYMPAIDD q Rob Davies (Tenis Bwrdd)

Daniel Jervis
O Grŵp Colegau NPTC i'r Gemau Olympaidd
Cyrhaeddodd cyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC, Daniel Jervis, rownd derfynol y Gemau Olympaidd yn ei Gemau cyntaf yn Tokyo. Gorffennodd y nofiwr 25 oed o Resolfen yn y 5ed lle yn rownd derfynol y dull rhydd 1500 metr yn y gemau gohiriedig yr haf yma yn Japan.
Dechreuodd Jervis, a adawodd Grŵp Colegau NPTC yn 2014 ar ôl cwblhau cwrs Diploma Lefel 2 mewn Paentio ac Addurno, nofio i gadw ei dad-cu yn gwmni ar ôl iddo gael trawiad ar y galon. Ymunodd Daniel ag ef yn y pwll a dyw e ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.
Nid yw Jervis yn ddieithr i gystadlu ar y lefel uchaf o nofio. Fe gystadlodd yn ei Gemau Gymanwlad cyntaf yn 2014 o fewn wythnos i raddio o Grŵp Colegau NPTC.
Gorffennodd Daniel yn y 3ydd lle yn y dull rhydd 1500 metr yng Ngemau Glasgow yn 2014. Fe ragorodd ar hynny wedyn yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 yn yr Arfordir Aur, Awstralia gan ennill medal arian eto yn y dull rhydd 1500 metr. Yn yr un gemau, collodd allan o drwch blewyn ar fedal yr ail le, gan orffen yn 4ydd agos yn y dull rhydd 400 metr. Mae gan Daniel hefyd brofiad o gystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd ac Ewrop sawl gwaith ers gadael y coleg.

Ar ôl colli allan o drwch blewyn ar gystadlu yng Ngemau Olympaidd Rio 2016, cafodd Daniel gyfle o'r diwedd i wireddu ei freuddwyd o gystadlu yn y Gemau Olympaidd yr haf yma.
Meddai Jervis, wrth gael ei gyfweld gan y BBC ar ôl ei rownd derfynol: “Ydw, rwy'n rhan o Team GB ac rwy'n Brydeiniwr ond rwy'n Gymro. Rwy'n falch iawn o gynrychioli Cymru yn y fan honno," gan gyfeirio at y pwll y tu ôl iddo.
Aeth ymlaen wedyn i ddweud ei fod wedi gobeithio torri record Prydain yn rownd derfynol y 1500 metr, ond doedd hi ddim i fod ar y noson. Ychwanegodd Jervis ei fod am dorri'r record Brydeinig a ddelir ar hyn o bryd gan ei gydGymro David Davies.
Dan Lydiate

Gweilch, Cymru, Llewod Prydain ac Iwerddon
Mae'r cyn-fyfyriwr Chwaraeon Dan Lydiate yn gyn-fyfyriwr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3 Coleg Powys. Yn fab i ffermwr lleol o Abaty Cwm Hir, Llandrindod, aeth ymlaen i astudio Gradd Sylfaen mewn Cryfder a Chyflyru yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.
Ac yntau'n flaenasgellwr dawnus, symudodd ymlaen wedyn i yrfa rygbi broffesiynol gan gofrestru ar gyfer Dreigiau Casnewydd lle cafodd ei gapio gyda thîm Dan 20 Cymru yn ei flwyddyn gyntaf.
Cafodd Dan ei enwi yng ngharfan Genedlaethol Cymru ar gyfer cyfres ryngwladol Tachwedd 2009.
Gwnaeth ei gêm brawf gyntaf gan ddechrau fel blaenasgellwr ar 28 Tachwedd 2009, ac ar ôl hynny cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2010.
Chwaraeodd bob gêm o ymgyrch Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Cymru yn 2011 yn ogystal â phob un o'r pedair gêm gynhesu. Ym mis Awst 2011, cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd. Yn ddiweddarach, roedd hefyd yng ngarfan Cwpan y Byd 2015 yn Lloegr.
Chwaraeodd yn nwy gêm agoriadol Cymru yn erbyn De Affrica a Samoa, yn ogystal â chwarae rôl allweddol ym muddugoliaeth gogynderfynol Cymru dros Iwerddon.
Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012, derbyniodd wobr Chwaraewr y Gystadleuaeth ar ôl ymddangos ym mhob bar ar wahân i'r gêm agoriadol yn erbyn Iwerddon, a hefyd gwobrau Dyn y Gêm. Yn yr union flwyddyn honno cafodd ei enwebu am wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru hefyd.
Ym mis Ebrill 2013, cafodd ei enwi yn y garfan ar gyfer taith Llewod Prydain ac Iwerddon 2013 i Awstralia.
Gadawodd Dreigiau Casnewydd Gwent ar ddiwedd tymor 2012/13 i ymuno â'r clwb Racing Métro 92 cyn ymuno â'r Gweilch yn 2014, y mae eu maes hyfforddi, yn wir, yw Academi Chwaraeon Llandarcy sy'n rhan o'r Colegau,
Wrth sôn am ei amser yn y Coleg meddai Dan: “Heb raglen cryfder a chyflyru'r Coleg, ni fyddwn wedi gallu cyflawni'r lefelau hyn. Dyna y gwahaniaeth, ac mae cystal ag unrhyw system mewn rygbi proffesiynol.’’
Gwnewch Gais Ar-lein b