
7 minute read
Iechyd, Gofal CymDEIThasol a Gofal Plant
Mae gan yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant gyrsiau sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion y gymuned yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant poblogaidd hwn. Byddwch yn derbyn hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith ac mae rhai cyrsiau yn eich asesu yn eich gweithle. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ennill profiad o'r diwydiant sy'n hanfodol ar gyfer mynd ymlaen i addysg uwch, yn ogystal â'r cymwysterau cydnabyddedig sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn y diwydiant hwn.
Mae angen sgiliau cyfathrebu cryf a natur ofalgar ar weithwyr ym maes gofal iechyd. Gellir cyflogi gweithwyr meithrin mewn meithrinfeydd dydd a chanolfannau plant neu gallant ddod yn warchodwyr plant.
Mae staff yn yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn arbenigwyr yn y diwydiant yn ogystal â darlithwyr. Mae ein darlithwyr cefnogol a gofalgar yn ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr yn llwyddo.

Enillion blynyddol cyfartalog
Nyrsio Iechyd Meddwl, Plant, Oedolion £25k - £48k
Gwaith Cymdeithasol
£23k - £47k
O fewn y cyrsiau ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, bydd unedau dwyieithog ar gael i fyfyrwyr.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r holl fyfyrwyr yn cwblhau lleoliad gwaith perthnasol gyda ffocws ar sgiliau cyflogadwyedd a gwella rhifedd a llythrennedd. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i gwblhau cwrs cyfathrebu iaith Gymraeg a gwella eu sgiliau rhyngbersonol trwy weithgareddau grŵp a digwyddiadau codi arian. Mae'r holl fyfyrwyr yn ymgymryd â gwaith elusennol a chodi arian drwy gydol y flwyddyn ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol.
Rhagolygon gyrfa
Gall ein cyrsiau arwain at yrfa fel athro/athrawes, cynorthwyydd addysgu, ymarferydd gofal plant, therapydd iaith a lleferydd, nyrs, parafeddyg, a gwaith cymdeithasol. Mae llawer yn camu ymlaen i'r rhaglenni gradd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn y Coleg cyn dechrau gweithio.
Lleferydd ac Iaith £24k - £49k
Therapi Galwedigaethol
£ 21k-£ 41k

Cyrsiau
Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi bod allan o addysg amser llawn am o leiaf tair blynedd. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr gwblhau cyfweliad llwyddiannus.
Byddwch yn feIThrINgAR... â gyrfa ym maes iechyd, gofal cymDEIThasol a gofal plant
“Fe wnaeth y coleg fy nghyflwyno i lawer o bynciau sydd o ddiddordeb mawr i mi, rhoi hwb i fy hyder a helpu gyda fy ngwaith tîm.'' Ffion Jones.
Harry Rush
Llwyddiant Myfyrwyr
Fy enw i yw Harry Rush, ac rwy'n gyn-fyfyriwr Coleg
Bannau Brycheiniog. Fe wnes i astudio Iechyd a Gofal
Cymdeithasol Lefelau 2 a 3 am bron i dair blynedd.
Yn anffodus i mi, wnes i ddim pasio fy arholiadau TGAU Saesneg a Mathemateg yn yr ysgol felly doeddwn i ddim yn gallu mynd yn syth i Lefel 3. Roedd yn rhaid i mi ddechrau ar Lefel 2.
Fodd bynnag, hyd yn oed pe bawn i wedi'u pasio, byddwn i dal wedi dechrau ar Lefel 2 gan ei fod yn rhoi cyfle i mi ddysgu'r hanfodion.
Pan ddechreuais ar Lefel 2, roedd gen i dri thiwtor. Roedd gan bob un ohonyn nhw eu ffordd eu hunain o addysgu a helpodd fi i ddod o hyd i fy ffordd orau o ddysgu. Cefais wybod yn gyflym iawn fod hyn yn weledol ac yn ymarferol. Yn ystod fy lleoliad, es i gartref preswyl am bedwar diwrnod. Digwyddodd y peth mwyaf lwcus i mi ar ddiwedd y pedwar diwrnod yna: Ges i gynnig swydd! Roedd hynny ym mis Chwefror 2020, ac rwy'n dal yno nawr.
Wnes i basio fy holl arholiadau a chwblhau Lefel 2 ym mis Awst 2020 a dechrau ar y cwrs Lefel 3 fis Medi'r flwyddyn honno.
Roedd hynny'n wahanol iawn i Lefel 2. Roedd yn llawer anoddach ond yn rhoi boddhad mawr o ran fy hunanddatblygiad. Roedd Lefel 3 blwyddyn 1 i gyd ar-lein oherwydd y pandemig a oedd yn anodd iawn i mi, ond roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi ei wneud i fynd i ble roeddwn i eisiau. Pan ddechreuais i Lefel 3 newidiodd fy meddylfryd o ran yr hyn yr oeddwn eisiau ei wneud. Sylweddolais fy mod yn llawer hapusach yn rhyngweithio â phobl ac yn gofalu amdanynt, felly penderfynais ddilyn
Nyrsio Oedolion gyda'r nod o fod yn Nyrs Theatr

Llawdriniaeth yn y pen draw. I wneud hyn roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi roi popeth yn fy astudiaethau i weithio tuag at fy nghais prifysgol.
Tua mis cyn i mi fynd yn ôl i wneud Lefel 3 blwyddyn 2 daeth hysbyseb drwy'r post am gwrs Nyrsio Prifysgol Agored a swydd Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd. Y mwyaf y meddyliais am y peth, y mwyaf yr oeddwn eisiau ymgeisio.
Es i drwy'r holl ffurflenni a'r gwiriadau hyn, pan oeddwn i'n dal yn fy mlwyddyn olaf yn y coleg ac yn gweithio. Fe wnaeth un o fy nhiwtoriaid fy helpu i baratoi drwy roi ffug gyfweliad i mi. Ges i alwad ffôn dridiau ar ôl y cyfweliad a chael gwybod eu bod nhw'n cynnig lle i mi.
Ni fyddai unrhyw ran o hyn wedi bod yn bosibl heb y cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Coleg, a fy nhiwtoriaid anhygoel o gefnogol na allaf ddiolch digon iddynt. Fyddwn i ddim lle'r ydw i heddiw oni bai amdanyn nhw yn fy nysgu i a gwneud i mi fwynhau'r pwnc yn fawr. Yn bennaf oll fe wnaethon nhw fy helpu i gredu ynof fi fy hun.
Beth mae'r daith hon wedi ei dysgu i mi yw sdim ots faint o pwyntiau uchel ac isel a brofwch yn eich bywyd, os ydych chi eisiau rhywbeth yn ddigon cryf ac yn credu ynoch chi'ch hun gallwch gyflawni bron popeth rydych ei eisiau mewn bywyd. Mae hefyd wedi fy nysgu y gall cyfleoedd godi o unrhyw le ac i beidio â'u diystyru nes eich bod wedi rhoi popeth o'ch cyfan iddo. Does dim amheuaeth yn fy meddwl mai astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw'r penderfyniad gorau dwi wedi'i wneud yn fy mywyd hyd yma ac rwy'n argymell y cwrs yn fawr i unrhyw un sy'n dyheu am weithio mewn lleoliad gofal iechyd.
Diolch o galon i chi gyd am yr hyn rydych chi wedi ei wneud i mi!
Celfyddydau PERffORmIO
Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yn cynnig cyrsiau amser llawn mewn Celf a Dylunio, Cynhyrchu'r Cyfryngau a'r Celfyddydau Perfformio wedi'u lleoli yng Ngholeg Y Drenewydd.
Addysgir y gwersi mewn amgylchedd creadigol gan ddefnyddio cyfarpar safonol y diwydiant sydd ar flaen y gad o fewn cyfleusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol yn cynnwys Theatr Hafren.
Darperir cymorth helaeth un i un gyda cheisiadau ar gyfer conservatoires a'r prifysgolion dawns a chelfyddydau perfformio gorau ac rydym yn sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn barod ar gyfer clyweliadau. Mae ein myfyrwyr yn gwneud cynnydd ac yn bwysicaf oll, maent yn gyflogadwy iawn –rydym yn anelu at helpu nhw i fod yn barod am yrfa!

Enillion blynyddol
Cyfartalog
Cyfarwyddwr Celf £23k - £59k
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae ein cyrsiau'n cynnig cyfleoedd cyffrous a heriol drwy hyfforddiant arbenigol mewn dawns, drama, canu a theatr gerdd. Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau perfformio fel rhan o gwmnïau theatr, dawns a cherddoriaeth y Coleg gan ddefnyddio ein stiwdios proffesiynol a Theatr Hafren sydd â'r holl gyfarpar angenrheidiol.

Rhagolygon gyrfa q Actor q Gweinyddwr y celfyddydau q Coreograffydd q Dawnsiwr q Perfformiwr theatr gerdd q Hyfforddwr Pilates/Yoga q Sgriptiwr q Athro/Athrawes q Cyfarwyddwr Theatr.
Dylunydd Cynnyrch £19k - £46k
Actor, Cyflwynydd, Diddanwr £24k - £66k
Er, yn ôl cylchgrawn Forbes enillodd George Clooney $239 miliwn yn 2018 - Emsi
Cyrsiau
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad
2 TGAU
5 TGAU gradd A*-C yn cynnwys Saesneg.
Cymhwyster Lefel 2 perthnasol Mae profiad blaenorol o berfformio yn ddymunol.

Llwyddiant Myfyrwyr
Datblygodd y myfyriwr Celfyddydau Perfformio Joe Jones, o Goleg Y Drenewydd, ei ddoniau cerddorol yn ystod y cyfnod clo ac mae wedi lansio ei albwm ei hun.
Cafodd Joe ei gyflwyno i gerddoriaeth yn ifanc gan ei dad, sydd hefyd yn gerddor. Fodd bynnag, nid tan ei arddegau y cymerodd fwy o ddiddordeb mewn chwarae. Dechreuodd fwynhau cerddoriaeth yn fwy, a chyda chynghorion a thiwtorialau ar y rhyngrwyd, rhoddodd ryddid iddo fod yn greadigol a datblygu ei arddull ei hun.

Yn ystod y cyfnod clo, cafodd Joe fwy o amser i fyfyrio ar ei gerddoriaeth a'r hyn oedd yn digwydd yn y byd o'i gwmpas. Recordiwyd yr albwm 'We Were Just There' gartref gan ddefnyddio dim ond ei gyfrifiadur, gweithfan sain digidol, gitâr a phiano.
Meddai'r darlithydd Elizabeth Hebden: “Mae doniau Joe wedi creu cymaint o argraff arnom ni i gyd ac rydym yn falch o'i ymroddiad i ymchwilio i'r cyfrwng yma, gan ychwanegu llinyn arall at ei fwa fel artist."



Pam mae Nye yn cael yr holl Basys Cefn Llwyfan
Mae myfyriwr y Celfyddydau Perfformio, Nye Parton, wedi bod yn adeiladu ei brofiad fel cynorthwy-ydd llwyfan yn gweithio ochr yn ochr â'i astudiaethau yng Ngholeg
Y Drenewydd yn y diwydiant celfyddydau creadigol a chynhyrchu.
Mae'r Nye, sy'n fyfyriwr ail flwyddyn, wedi bod yn gweithio gyda chriw llwyfan i adeiladu'r seilwaith ar gyfer digwyddiadau mawr fel Gŵyl Reading, yn ogystal â rigio, llwyfannu, cerddoriaeth a goleuo ar gyfer artistiaid nodedig fel Elton John, Diana Ross, Alanis Morissette, Bryan Adams, George Ezra, Maddison Beer a llawer o rai eraill.
Esboniodd Nye rai o'r tasgau roedd ei griw yn ymwneud â nhw wrth sefydlu a pharatoi ar gyfer sioe. Mae'r rhestr yn cynnwys llwytho a dadlwytho llwyfannu, rigio, golygfeydd a chyfarpar a threfnu set, propiau ac offer rhwng setiau. Mae'n rhaid iddyn nhw hefyd gludo setiau'n ddiogel i leoliadau, gan helpu adrannau i sefydlu sain, goleuadau, effeithiau arbennig, a phropiau a hongian deunyddiau cefndir.
Aeth ymlaen i ddweud: “Mae'n gallu cynnwys codi a chario trwm, dringo ysgolion a gweithio ar dramwyfeydd uchel. Mae'n waith caled ond mae wedi bod yn wobrwyol. Cwrdd ag artistiaid a gweld y perfformiadau i gyd yn dod at ei gilydd. Dwi wedi cronni llawer o wybodaeth ddefnyddiol ac mae'n hysbys nad wyf byth heb fy nhâp gaffer. Mae llawer ohono'n synnwyr cyffredin o ran diogelwch a gallu da i weithio mewn tîm o fewn tîm.”
“Rwyf a chefnogol y ymroddedig a gweithgar Hebddyn