
2 minute read
GWAITH GOSOD PLYMIO A THRYDanOL
Adeiladu'r dyfodol
Mae cyfres newydd o gymwysterau wedi'u cyflwyno ledled Cymru sydd wedi'u datblygu gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well.
Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth am y diwydiant yn ei gyfanrwydd ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen i waith o addysg.
Cymhwyster newydd sbon yw'r Cymhwyster Sylfaen mewn Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu lle byddwch yn astudio dau brofiad crefft: q Plymio a Gwresogi Domestig q Systemau ac offer electrodechnegol (gosodiadau trydanol).


Mae gan y diwydiant Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae angen nifer fawr o weithwyr wedi'u hyfforddi o'r newydd ar y diwydiant bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes, a gyda chyflogau ar gynnydd ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r diwydiant gwerth chweil hwn.
Cynhelir hyfforddiant mewn gweithdai eang ac offer da lle mae gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu harfogi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Caiff hyfforddiant ei gyflwyno gan staff â phrofiad a chymwysterau diwydiannol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau myfyrwyr. Er y byddwch yn astudio ar gyfer crefftau trydanol a phlymio i ddechrau, byddwch yn dewis un llwybr yn ddiweddarach.
Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y swydd a thechnegau uwch y grefft mewn plymio a gosod trydanol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddehongli darluniau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Mae myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.
Asesiadau
Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, bydd myfyrwyr yn cwblhau ystod o brosiectau sydd wedi'u gosod yn fewnol ac yn allanol, trafodaethau dan arweiniad a phrofion amlddewis.
‘‘Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o'n goreuon ar gyfer canlyniadau uchel mewn arholiadau"
Darlithydd, James Seddon
“Mae gan y Coleg staff anhygoel, pobl anhygoel. Rwy'n dwlu arno. Dyw hi byth yn rhy hwyr i newid gyrfa na dysgu rhywbeth newydd.” Monika Dent
Dilyniant
Efallai y byddwch yn symud ymlaen i raglen llawn amser ail flwyddyn yn y grefft o'ch dewis neu sicrhau prentisiaeth fel plymiwr neu drydanwr a datblygu eich astudiaethau ymhellach gyda ni ar hyd un llwybr penodol.


Cyrsiau
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?
Mae'n addas ar gyfer: Dysgwyr 16+ oed sy'n gweithio neu'n bwriadu gweithio yn y sectorau adeiladwaith a gwasanaethau peirianneg adeiladu.
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad
Sylfaen mewn Gwasanaethau
Peirianneg Adeiladu
Dilyniant mewn Gwasanaethau
Peirianneg AdeiladuPlymio a Gwresogi
Dilyniant mewn Gwasanaethau
Peirianneg AdeiladuGosodiadau Trydanol
Enillion blynyddol cyfartalog
Plymiwr £19k - £37k
2 TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, gradd D neu uwch. Blwyddyn Y Drenewydd
2 Cwblhau sylfaen mewn Gwasanaethau Peirianneg Adeiladau Blwyddyn Y Drenewydd
2 Cwblhau sylfaen mewn Gwasanaethau
Peirianneg Adeiladau Blwyddyn Y Drenewydd
(Emsi - economicmodeling.com)
Trydanwr £16k - £38k
Gosodwr Paneli Solar £25k - £30k Peiriannydd Nwy £40k - £50k
