
3 minute read
TrIN GwaLLt
Croeso i Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford, y cyntaf a o'i fath a'r unig un yng Nghymru.
Yn fwy nag ardystiad gan rywun enwog, mae'r rhaglen hyfforddi wedi ei datblygu gan Lee ei hunan ochr yn ochr ag arbenigwyr, i hyfforddi nid yn unig y myfyrwyr, ond hefyd ein staff gwallt a gwaith barbwr profiadol ein hunain. Byddwch yn dysgu 'ryseitiau' sydd wedi'u cynllunio'n arbennig ac sy'n unigryw i Academïau Lee Stafford, gan adlewyrchu rhai o'r arddulliau mwyaf arloesol a welir mewn salonau ledled y DU. Mae'r rhain yn hyfforddiant mewn sgiliau arbenigol na allwch eu cael yn unrhyw le arall.
Byddwch yn derbyn hyfforddiant mewn hyd at 22 o sgiliau a thechnegau sylfaenol y byddwch yn eu dysgu i'r hyn y mae Lee yn ei alw'n 'safon Michelin'. Unwaith y byddwch wedi meistroli'r technegau hyn, cewch eich annog i ddefnyddio eich creadigrwydd yn rhydd.
Gellir profi'r sgiliau hyn mewn cystadlaethau cenedlaethol gyda myfyrwyr Academi Lee Stafford eraill mewn colegau AB ledled y DU yn ystod y flwyddyn academaidd.

Rydyn ni'n anelu at sicrhau bod ein myfyrwyr trin gwallt a gwaith barbwr gyda'r rhai mwyaf cyflogadwy yn y wlad, felly os ydych chi'n ddifrifol am wallt, Grŵp Colegau NPTC yw'r lle i chi!
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu torri, steilio a gosod sylfaenol, lliwio, siampŵo a chyflyru, ymgynghori â chleientiaid (yn cynnwys adnabod clefydau ac anhwylderau'r gwallt a chroen y pen), iechyd a diogelwch sylfaenol mewn salonau, sgiliau hanfodol a manwerthu. Wedi cyrraedd Lefel 3, byddwch yn cyflawni sgiliau torri uwch, sgiliau steilio, gwallt priodasol, lliwio, iechyd a diogelwch uwch mewn salonau, ymgynghori â chleientiaid, manwerthu, TG a sgiliau cyfathrebu. Fel rhan o'r rhaglen hon, mae rhaid i ddysgwyr fynychu lleoliad gwaith mewn sefydliad allanol am o leiaf un diwrnod yr wythnos neu bythefnos gyfan ynghyd â sesiwn fasnachol gyfnos/gyda'r hwyr yn y Coleg.
Rhagolygon gyrfa q Barbwr q Technegwyr lliw q Perchennog salon q Uwch steilydd q Triniwr gwallt priodas q Gweithio ar fordeithiau.
Nid oes gan unrhyw ddiwydiant arall alw byd-eang mor gyson am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae'r diwydiant gwallt yn cynnig cyfleoedd gwych gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn a gweithio y tu ôl i'r llenni mewn ffilm, theatr a theledu.
Mae hefyd yn cynnig yr annibyniaeth i ddechrau eich salon eich hun.


Grŵp Colegau NPTC yw'r unig Goleg Addysg Bellach yng
Nghymru i fod yn aelod o Academi Trin Gwallt, Gwaith
Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford. Mae'r tiwtoriaid yn derbyn hyfforddiant mewn ryseitiau trin gwallt unigryw drwy'r Academi, ac yn ddiweddar profwyd eu hyfforddiant cyntaf gyda'r Academi ers y pandemig yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.
Cymerodd staff y Coleg ran mewn wythnos o hyfforddiant gyda 'STAF' (hyfforddi'r-hyfforddwr) o Lee Stafford Education (LSE), Tony Wood, y bydd ei arbenigedd yn eu helpu i gadw i fyny â'r ryseitiau gwallt diweddaraf ar gyfer eu gwersi.
Mynegodd Juliana Thomas, Pennaeth yr Ysgol Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol:

“Ar ôl y pandemig Covid, rydym yn falch iawn o gael y cyfle i ymgymryd â hyfforddiant Lefel 3 uwch gyda 'STAF', Tony Wood, o Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford. Mae ein holl ddarlithwyr a hyfforddwyr trin gwallt wedi'u cymell, eu cyffroi a'u hysbrydoli gan y pedwar diwrnod o waith ymarferol dwys a gynhaliwyd yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.”
Mae gan yr ysgol Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol fwy o gyfleoedd nawr bod y cyfyngiadau wedi llacio, gyda gwasanaethau masnachol a redir gan y myfyrwyr yn ailagor ar gyfer busnes.
Mae ein myfyrwyr yn defnyddio eu dysgu'n ymarferol drwy gynnig amrywiaeth o driniaethau gwallt a harddwch i'r cyhoedd. Mae apwyntiadau ar gael yng Ngholeg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd, a gellir eu trefnu drwy ffonio'r Coleg.
Wrth siarad am y cyfle i agor i'r cyhoedd eto, meddai'r myfyriwr Tmai Bufton:
“Mae'n wych cael cleientiaid yn trefnu i ddod i'r Coleg am driniaethau ar ôl Covid. Mae gwasanaethu'r cyhoedd yn golygu y gallaf gael mwy o brofiad ymarferol o sut beth yw amgylchedd salon.”

Soniodd Tmai hefyd am fanteision astudio Harddwch, gan gynnwys fel dysgwr aeddfed, gan ddweud:
“Rwy'n astudio'r cwrs ochr yn ochr â fy swydd mewn cartref gofal henoed, sydd wedi bod yn gefnogol iawn i fy astudiaethau. Gall cyrsiau llawn amser swnio fel ymrwymiad mawr os ydych chi mewn gwaith ac mae plant gennych, ond fel arfer maen nhw'n dri diwrnod yr wythnos.”
“Yn y tymor hir hoffwn i fod yn hunangyflogedig mewn gwallt a harddwch, yn arbenigo mewn triniaethau i'r henoed.”
"Yr hyn y gaLL myfyrwyr ei ddigwyl gan AcaDEmi LEe STaffORd yw ryseITiau o ansawdd da sy'n HAwdd ac yn ARbennig o effeIThIOl, y gaLLwch eu DEfnyddIO i fynd aLLan i'r byd mawr a cHAel swydd wych.''
Lee Stafford
Enillion blynyddol cyfartalog
Perchennog Salon hyd at £100k

Uwch Steilydd £30k - emsi
Triniwr Gwallt Priodasau £34 - £50 y person (heb gynnwys treialon)
Barbwr Gall barbwr pro fod ennill cymaint â £1,000 yr wythnos https://www.londonschoolofbarbering.com/much-can-barber-make/

