2 minute read

GwAsanaeTHAu CyhoEDdus

Mae'r Sector Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yn cynnwys llawer o broffesiynau sy'n diogelu ac yn gwasanaethu'r boblogaeth ledled y byd. O achub dringwyr fel rhan o'r tîm Achub Mynydd, yn cael eu defnyddio yn y fyddin fel meddyg neu'n mynychu safle gwrthdrawiad fel parafeddyg, swyddog heddlu neu ddyn tân ar y draffordd, mae'r proffesiynau'n dra hyfforddedig hyn ac yn barod ar gyfer gwasanaeth gweithredol mewn unrhyw fath o argyfwng.

Mae llawer o'r darlithwyr gwasanaethau cyhoeddus wedi bod mewn dyletswydd weithredol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a phrofiad arbenigol i ennyn diddordeb myfyrwyr a'u gwneud yn gwbl ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael.

Mae'r adran yn cynnal ymweliadau addysgol ar draws y wlad i dynnu sylw at yr amrywiaeth o yrfaoedd posibl sydd ar gael yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai, gan roi i fyfyrwyr ein hethos o 'fwy nag addysg yn unig'.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Astudio'n amser llawn yn y campysau amrywiol, cwblhau eich prif gwrs gan gynnwys llawer o asesiadau rhyngweithiol ac ymarferol, yn ogystal ag ymwneud â'r gweithgareddau niferus sy'n cael eu cynnig ar draws y campysau.

Coleg Bannau Brycheiniog

Lleolir Coleg Bannau Brycheiniog yng nghalon Parc

Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, amgylchedd anhygoel i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau gwasanaethau cyhoeddus ochr yn ochr â'u cwrs gwasanaethau cyhoeddus. Cynhelir ymweliadau addysgol a theithiau er mwyn defnyddio harddwch naturiol yr ardal, o sesiynau arwain i adeiladu tîm a thasgau addysg awyr agored. Trefnir ymweliadau â gwasanaethau brys lleol er mwyn cryfhau gwybodaeth y dysgwyr a datblygu'r sgiliau y mae mawr eu hangen er mwyn paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Yn ein Coleg Bannau Brycheiniog, gellir addysgu rhai o fodiwlau'r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau eu hasesiadau yn ddwyieithog lle bo'n bosibl.

Coleg Y Drenewydd

Yng Ngholeg Y Drenewydd gall y myfyrwyr astudio o'r cwrs cyfun Lefel 1 hyd at gwrs Lefel 3 Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai sy'n cynnwys y Lefel Uwch ym Magloriaeth Cymru. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn cael eu hysgogi gan amrywiaeth o ddulliau addysgu ac yn yr un modd â Bannau Brycheiniog, gallant ddefnyddio'r cefn gwlad o'u hamgylch ar gyfer eu halldeithiau niferus ac ymweliadau a phrofiadau gyda'r gwasanaethau brys lleol. Mae staff yn meithrin eu datblygiad ac mae llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch neu yrfaoedd addas yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai.

Rhagolygon gyrfa q Byddin q Gwylwyr y Glannau q Gwasanaethau brys q Gwasanaeth tân q Llynges q Swyddog yr Heddlu q RAF

Enillion blynyddol cyfartalog

Swyddog y Fyddin £20k

Diffoddwr tân £21k - £36k

Parafeddyg £ 36k

Swyddog yr Heddlu £25k

(Cyflog cychwynnol)

Dod Ynghyd â'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd

Yn ddiweddar croesawodd Coleg Y Drenewydd

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd

Llywelyn.

Ymunodd y Comisiynydd Trosedd â chydweithwyr o'r Uned

Plismona'r Ffyrdd a darparodd sesiwn cwestiwn ac ateb gyda'r myfyrwyr Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Wedyn fe ymwelodd â myfyrwyr o'r adran Porth i Addysg

Bellach a gwelodd y gwaith yr oeddent wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar mewn cydweithrediad â'r

Heddwas lleol, Cwnstabl Jennings. Roeddent wedi creu arddangosiad ysgogol i ymgyrchu yn erbyn troseddau casineb. Gweithiodd y grŵp gyda chymheiriaid yn

Cyrsiau

adran gyfryngau'r Coleg hefyd i greu ffilm fer i godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n gysylltiedig â throseddau casineb. Canmolodd y Comisiynydd eu gwaith da, gan atgyfnerthu negeseuon a gwerth yr ymgyrch. Wedyn, ymwelodd y Comisiynydd â Theatr Hafren sydd wedi'i lleoli yng Ngholeg Y Drenewydd. Fe welodd y defnydd o'r cyfleuster o lygad y ffynnon a oedd yn cael eu defnyddio y diwrnod hwnnw gan Wasanaeth Gwaed Cymru, gan amlygu rôl amlbwrpas y gofod theatr. Aeth Sara Clutton, Rheolwr y Theatr, â'r Comisiynydd o gwmpas y lleoliad hefyd gan ddangos ardal y llwyfan iddo a mynd ag ef ar daith nad yw'n addas i'r gwangalon i ben y twr codi.

This article is from: