
2 minute read
GARddIO a GARddwriaeth
Mae garddwriaeth yn ddiwydiant amrywiol a deinamig sy'n cynnwys cynhyrchu ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion addurnol yn fasnachol yn ogystal â dylunio, sefydlu a chynnal a chadw parciau, gerddi, meysydd hamdden a chwaraeon, mannau agored a reolir a thirweddau.
Mae garddwriaeth yn fusnes byd-eang sy'n amrywio o ran maint o gwmnïau amlwladol mawr i sefydliadau a chwmnïau entrepreneuraidd llai. Mae awdurdodau lleol, gerddi botanegol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn gyflogwyr mawr. Yn y wlad hon a thramor, mae galw mawr bob amser am arddwyr wedi'u hyfforddi ym Mhrydain.

Rydym yn cynnig amrywiaeth gyffrous o gyrsiau garddwriaeth a garddio sy'n rhoi i chi'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen i lwyddo mewn gyrfa yn y sector hwn. Gyda'n cyfleusterau gwych sy'n cynnwys tai gwydr modern a gwelyau stoc awyr agored wedi'u llenwi ag amrywiaeth ddiddorol o blanhigion, rydych yn siŵr o fwynhau'r profiad awyr agored go iawn. Mae'r ardaloedd a blannwyd yn cynnwys gardd berlysiau y Canoldir, hafan bywyd gwyllt ac elfennau o erddi a ail-grewyd ar ffurf ein gerddi llwyddiannus a enillodd fedal aur mewn sioeau amrywiol o amgylch y wlad.
Cyrsiau
Cyrsiau
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae gwersi'n cyfuno gwaith dosbarth â gwaith ymarferol, gan bwysleisio'r amrywiaeth eang o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant garddwriaeth/garddio. Bydd disgwyl i chi hefyd fynychu lleoliadau profiad gwaith, gan ennill profiad gwaith gwerthfawr.

Mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau menter trwy nifer o weithgareddau gwerthiant drwy gydol y flwyddyn!
Rhagolygon gyrfa q Gwaith planhigfa q Canolfannau garddio adwerthu q Dylunio gerddi q Tyfu planhigion q Cynhyrchu planhigion q Tirmonaeth q Tirlunio q Gwaith organig q Gwyddoniaeth q Addysg q Meddyg coed q Hunangyflogaeth.
Arloesiadau newydd – Wal Letys yng Ngholeg Y Drenewydd
Mae Coleg Y Drenewydd wedi mynd yn wyrdd ei fysedd i gyd wrth iddo gyflwyno cwrs Garddwriaeth newydd. Mae'r ychwanegiad newydd cyffrous hwn yn cynnwys cydweithrediad newydd gyda Cultivate, a menter newydd wrth i wal letys gael ei cyflwyno i Gyntedd Coleg Y Drenewydd.
Mae ychwanegu'r tŵr letys sy'n dal y llygaid yng nghyntedd Coleg Y Drenewydd yn rhan o brosiect Cylch Cnydau, system Fferm Drefol i dyfu letys a phlanhigion gwyrdd bwytadwy eraill gan ddefnyddio system ddibridd o dyrau fertigol. Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno tyfu cnydau bwyd dan do CEA i gymunedau. Er ein bod yn byw mewn amgylchedd
Enillion blynyddol cyfartalog gwledig, mae dulliau newydd o dyfu planhigion, gan ddefnyddio'r hyn a elwir yn hydroponeg, yn chwyldroadol ac yn tyfu mewn poblogrwydd.
Mae bwyd lleol, sydd wedi ei dyfu'n gynaliadwy, yn gwbl allweddol wrth fynd i'r afael â materion pwysig sy'n ymwneud â'n system fwyd, newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.
Meddai Richard Edwards rheolwr y prosiect Cultivate Crop Cycles: “Maen nhw'n blasu'n wych, yn faethlon iawn ac yn hynod ffres. Dewch i'n deli yn Y Drenewydd i roi cynnig arnyn nhw eich hun!”


Diwydiant garddio a garddwriaethol £30k - £60k
2,384 o swyddi yng Nghymru erbyn 2024 (Gyrfa Cymru)
